Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: TRWY CYFRWNG FIDEO

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

CROESO/PWYNTIAU I’W NODI

(i)            Croesawodd yr Arweinydd aelod o’r Pwyllgor Safonau, Julia Hughes i’r cyfarfod fel arsylwr. 

Yn ogystal, llongyfarchodd y Cadeirydd y Cynghorydd Alan Hughes (Corwen) ar ei etholiad a chroesawodd ef i’r Cyngor

 

(ii)          I nodi Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod dywedodd yr Arweinydd y byddai munud o dawelwch am 12 hanner dydd i gofio a myfyrio am effeithiau'r pandemig

 

(iii)         Ar wahoddiad y Cadeirydd tynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd sylw at y canllawiau a ddarperir i aelodau etholedig o ran sut i ymddwyn yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad a’u cyfrifoldebau yn hynny o beth i sicrhau bod y Cyngor yn parhau’n amhleidiol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Emrys Wynne – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Gwyneth Kensler – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 8 ar y rhaglen

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol ag eitem 5 – Polisi Gwirfoddoli oherwydd bod ei wraig yn wirfoddolwr mewn ysgol gynradd.

 

Datganodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler gysylltiad personol ag eitem 8 – Adroddiad Cyllid, am ei bod wedi gwneud cais am grant busnes bach ar ran Theatr Twm o’r Nant.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 389 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2021 (copi’n amgaeedig).  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2021 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2021.

 

Materion yn Codi – Tudalen 11, Eitem 6, Adolygiad o’r Polisi enwi a rhifo strydoedd – dywedodd y Cynghorydd Meirick Davies ei fod wedi tynnu sylw at y ffaith fod dwy linell gyntaf paragraff 6.1 union yr un fath a chytunodd y swyddog y byddai’n eu cywiro.  Gofynnodd yr Arweinydd bod Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd yn edrych ar y pwynt a godwyd ac ymateb yn uniongyrchol ar ôl y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2021 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

POLISI GWIRFODDOLI pdf eicon PDF 222 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Richard Mainon, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol, (copi’n amgaeedig) sy’n gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r Polisi Gwirfoddoli newydd, y prosesau diwygiedig a’r dogfennau cysylltiedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cefnogi’r polisi, y prosesau a’r dogfennau cysylltiedig newydd ar gyfer rheoli gweithgareddau gwirfoddoli yn y Cyngor, fel y manylir arnynt yn yr adroddiad;

 

(b)       cymeradwyo’r diwygiad arfaethedig i’r Polisi Amser i Ffwrdd o’r Gwaith ar gyfer gweithwyr sy'n dymuno cymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddol (Atodiad 7 i’r adroddiad), ac yn

 

(c)        cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Richard Mainon adroddiad yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’n ffurfiol y Polisi Gwirfoddoli, prosesau diweddaredig a’r ddogfennaeth gysylltiedig ar gyfer rheoli gweithgaredd gwirfoddoli o fewn y Cyngor.

 

Dywedwyd wrth y Cabinet bod y ddogfennaeth yn cynnwys ymagwedd newydd tuag at hyrwyddo cyfleodd gwirfoddoli o fewn y cyngor a chanllawiau clir ar sut i reoli, recriwtio a chefnogi gwirfoddolwyr ynghyd â sicrhau eglurder o ran sefyllfa rheolwyr a gweithwyr sy'n dymuno cymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli.  Mae’r polisi newydd yn darparu ymdriniaeth gyson ar draws y cyngor ar yr un pryd â chefnogi amrywiol anghenion gwahanol feysydd gwasanaeth, gan gynnig ‘siop un stop’ ar-lein ar gyfer yr holl gyfleoedd gwirfoddoli yn seiliedig ar system fewnol.  Cyfeiriwyd at yr ymgynghoriadau a gynhaliwyd, yn cynnwys gydag undebau llafur, ac er nad yn gworaeth, siaradodd y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol Iechyd a Diogelwch a Pherthnasoedd Gweithwyr yn ffafriol am y polisi gan ei argymell ar gyfer cymeradwyaeth.  Cymeradwyodd y Cynghorydd Mainon y gyfres o ddogfennau a diolchodd i’r swyddogion am eu gwaith caled.

 

Croesawodd y Cabinet y dogfennau polisi newydd sy'n rhoi cyfarwyddyd arfer gorau clir a chyson ar gyfer gweithgareddau gwirfoddoli gan dalu teyrnged hefyd i'r cyfraniad gwerthfawr y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud ac a amlygwyd yn glir yn ystod y pandemig.  Cyfeiriodd yr Arweinydd at hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer gwirfoddolwyr fel elfen bwysig o sicrhau bod pobl yn deall y broses ac y gallant ddod yn wirfoddolwyr mewn ffordd syml.  Nodwyd fod rhai gwasanaethau megis y Gwasanaethau Cefn Gwlad a’r Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yn dibynnu’n drwm ar wirfoddolwyr ac fel Aelodau Arweiniol y meysydd gwasanaeth hyn canmolodd y Cynghorwyr Tony Thomas a Bobby Feeley’r cyfraniadau gwerthfawr hyn.  Er eu bod yn croesawu’r polisi roeddent yn gobeithio na fyddai’r gwaith gweinyddol ychwanegol sydd wedi dod yn sgil gwneud y broses recriwtio’n fwy ffurfiol yn arwain at golli gwirfoddolwyr.  Croesawodd y Cynghorydd Mark Young y polisi hefyd ac roedd yn awyddus iddo fod mor gynhwysol â phosibl; holodd ynghylch y symudiad tuag at gyfleoedd ar-lein, ad-dalu treuliau a chefnogaeth ar gyfer rheolwyr.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Richard Mainon a’r swyddogion i’r materion a godwyd fel a ganlyn –

 

·         byddai cyfleoedd gwirfoddoli’n cael eu hysbysebu ar-lein a byddai staff rheng-flaen yn gallu edrych am y cyfleoedd hynny ar ran pobl eraill a gallai Cynghorwyr Tref a Chymuned hefyd helpu i godi ymwybyddiaeth. 

Gallai gwaith mewn cymunedau hefyd amlygu llwybrau posibl i helpu pobl i gael at gyfleoedd gwirfoddoli.

·         cafwyd sicrwydd y byddai dull amgen o dalu ar gael i ad-dalu treuliau gwirfoddolwyr nad oes ganddynt gyfrif banc.

·         cytunwyd y byddai angen capasiti rheoli i gefnogi gwirfoddolwyr ac roedd llawer wedi'i ddysgu ynglŷn â hyn yn ystod y pandemig o ran trefnu staff a gwirfoddolwyr i gefnogi cymunedau a gwasanaethau. 

Mae pwysigrwydd sicrhau digon o gapasiti rheoli i gefnogi gwirfoddolwyr yn iawn wedi’i amlygu fel rhywbeth y mae’n rhaid ei ystyried mewn mwy o fanylder er mwyn sicrhau y caiff y sylw priodol.

·         mae bwriad i’r dogfennau polisi fod yn hyblyg fel bod modd gwneud unrhyw ychwanegiadau a rhannu arfer da os daw unrhyw ddysgu neu ddiweddariadau polisi i’r amlwg yn ddiweddarach.

·         cymerwyd ymagwedd bwyllog a phwrpasol wrth ddatblygu’r polisi o safbwynt biwrocratiaeth gyda gwahanol lefelau o wiriadau’n angenrheidiol yn ddibynnol ar y risg, yn cynnwys diogelu, sy'n gysylltiedig â gwahanol swyddi gwirfoddoli.  Mae risg yn bodoli hefyd os na chaiff y prosesau priodol eu sefydlu.  Fodd bynnag cydnabuwyd pryderon yr aelodau ynghylch colled gwirfoddolwyr posibl o ganlyniad i ffurfioli’r broses a chytunwyd y dylid monitro ymgysylltiad â’r broses yn ofalus er mwyn sicrhau nad yw’n rhwystr rhag recriwtio.

 

Atebodd yr Arweinydd a’r swyddogion gwestiynau  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CANOLFAN ASESU GOFAL PRESWYL PLANT IS-RANBARTHOL – DIWEDDARIAD AR Y PROSIECT pdf eicon PDF 219 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, (copi’n amgaeedig) sy’n ceisio derbyn cymeradwyaeth y Cabinet i lofnodi Gweithred Ariannol y Bartneriaeth er mwyn dyfarnu'r contract i godi Uned Asesu Gofal Preswyl Plant.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo llofnodi Gweithred Ariannol y Bartneriaeth er mwyn gallu dyfarnu’r contract i godi Canolfan Asesu Gofal Preswyl Plant, ac yn

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltiad Cyhoeddus yr adroddiad gan ofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i roi sêl bendith i Weithred Ariannol y Bartneriaeth er mwyn caniatáu’r contract ar gyfer adeiladu’r Uned Breswyl Asesu Plant (CRAU).

 

Datblygwyd y CRAU mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a bydd yn cael ei leoli yn ardal CBSC gyda Chonwy fel y Partner Arweiniol.  Bydd y prosiect yn darparu 3 adeilad arbennig i’r pwrpas yn cynnwys uned asesu a llety preswyl ar gyfer hyd at 6 o blant a phobl ifanc am uchafswm o 12 wythnos.  Bydd y ganolfan yn cael ei noddi’n llwyr gan Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru ar gost o £2,687,529  gyda grant y Gronfa Gofal Integredig ar gael ar gyfer blynyddoedd ariannol 2020/21 a 2021/22. Mae manylion y tendr wedi’u darparu a bydd y contract yn cael ei ddyfarnu yn amodol ar gymeradwyaeth y Weithred Ariannol gan CBSC a CSDd  Rhagwelwyd y byddai’r gwaith adeiladu’n dechrau yn y gwanwyn 2021 ac wedi’i gwblhau erbyn gwanwyn 2022.

 

Adroddodd Pennaeth Dros dro’r Gwasanaethau Plant ar ddatblygiad gofalus y model yn seiliedig ar arfer da i ddiwallu anghenion plant agored i  niwed; byddai hefyd yn diwallu blaenoriaethau’r cyngor a Llywodraeth Cymru, yn cynnwys cadw plant yn lleol sydd wedi’i brofi i wella deilliannau ac yn yr hirdymor leihau costau.  Byddai’r ganolfan yn galluogi adsefydlu plant yn gynt drwy weithio’n uniongyrchol gyda’r plant a’u teuluoedd,  darparu seibiant a hefyd bod â fformiwleiddiad seicolegol.  Mae’r tîm eisoes wedi’i sefydlu gan wneud gwahaniaeth a dargyfeirio plant  i ffwrdd o ofal hirdymor.  Cafwyd cefnogaeth ardderchog gan yr holl asiantaethau partner a hefyd gan aelodau sy’n rhan o’r bwrdd prosiect a fydd yn parhau i roi cyfeiriad a throsolwg.  Mae angen trafodaeth ar wahân am y costau parhaus a’r cyd-gyfrifoldeb dros y ganolfan wrth symud ymlaen ond mae'r bartneriaeth a’r ymrwymiad yn wirioneddol gryf.

 

Croesawodd y Cabinet yr adroddiad cadarnhaol a’r gwaith caled sydd wedi’i wneud i sicrhau bod y prosiect yn dwyn ffrwyth er budd plant agored i niwed lleol a'u teuluoedd.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth ddilynol -

 

·         Dywedodd y Cynghorydd Julian Hughes eto bod yr adroddiad yn cyfeirio at y cam adeiladu sydd wedi’i ariannu’n llawn ond dywedodd y bydd pwysau ariannol i’w wynebu yn y dyfodol o ran yr elfen refeniw angenrheidiol i ddarparu'r cyfleuster fel yr amlygir yn yr adroddiad. 

Fodd bynnag yn y tymor canolig byddai’n fenter ‘gwario i gynilo’ a fyddai’n helpu i leihau’r gorwariant yn y gwasanaeth wrth symud ymlaen ac roedd yn llwyr gefnogol o’r prosiect. Ychwanegodd bod y Grŵp Buddsoddi Strategol wedi adolygu’r elfen gyfalaf a’i hargymell i’r Cabinet.

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Brian Jones at y risg a ddynodwyd yna adran 10.4 o’r adroddiad gan ddweud y gallai caffael trwydded moch daear gan Gyfoeth Naturiol Cymru gymryd peth amser ac y dylid cadw hyn dan adolygiad agos. 

Awgrymodd y Cynghorydd Meirick Davies y dylid gofyn i Lywodraeth Cymru am estyniad amser os oes angen i ddiogelu yn erbyn unrhyw oedi a allai ddigwydd oherwydd hyn.  Roedd gan y Cynghorydd Hilditch-Roberts hyder yn y prosesau a ddilynwyd gan y cyngor cysylltiedig â’r prosiectau adeiladu gyda phawb yn        gweithio gyda’i gilydd i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl ar y safle.   Y bwriad yw adeiladu’r ganolfan a’i rhoi ar waith cyn gynted â phosib wrth ddilyn y prosesau angenrheidiol a gweithredu o fewn y gyfraith.

·         Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaeth Dros dro i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Bobby Feeley gan gadarnhau er byddai peth hyblygrwydd o ran y cyfyngiad amser o 12 wythnos  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

DIWEDDARIAD AR Y CYNLLUN CORFFORAETHOL, CHWARTER 3, 2020-2021 pdf eicon PDF 208 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,  Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, (copi’n amgaeedig) yn rhoi diweddariad ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2020-2021 ar ddiwedd chwarter 3 (Hydref-Rhagfyr 2020).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun Corfforaethol ar ddiwedd chwarter 3 2020/21 ac yn cadarnhau cynnwys yr adroddiad drafft.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i’r Cabinet ar berfformiad Cynllun Corfforaethol 2020 - 2021 hyd ddiwedd chwarter 3 (Hydref - Rhagfyr 2020).

 

Mae’r Cynllun Corfforaethol yn gosod cyfeiriad strategol y Cyngor a'i flaenoriaethau dros y cyfnod o bum mlynedd.  Roedd crynodeb o’r data a’r diweddaraf am brosiectau wedi’i ddarparu ar gyfer chwarter 3, ynghyd â thablau data yn amlinellu’r sefyllfa bresennol.  Mae Covid-19 wedi effeithio ar yr amserlen adrodd ond bydd pethau’n ôl i’r drefn arferol yn fuan iawn ac mae'r effaith ar ddarpariaeth gwasanaeth â’r ymateb parhaus i ddelio â’r pandemig wedi’i gynnwys yn yr adroddiad.  Roedd perfformiad hollgynhwysfawr yn dda gyda dau fesur wedi’u hasesu fel bod yn flaenoriaeth ar gyfer gwelliant yn seiliedig ar eu mesurau.  Roedd y Pwyllgor Craffu Perfformiad wedi ystyried yr adroddiad a chodwyd cwestiynau ynghylch prosiectau penodol sy’n canolbwyntio’n benodol ar dai a gofal ychwanegol ymysg pethau eraill.

 

Rhoddodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad eglurhad pellach ar y newidiadau i’r trefniadau adrodd a fydd yn ôl ar y trywydd cywir erbyn yr haf.  Arweiniodd yr aelodau drwy’r adroddiad gan egluro’r gwelliannau cyffredinol ers yr adroddiad diwethaf gyda’r rhan fwyaf o brosiectau yn cyflawni yn ôl y disgwyl a dim ond un neu ddau wedi’u hoedi.  Cafodd yr adroddiad dderbyniad da gan y Pwyllgor Craffu Perfformiad a bu cryn drafodaeth am dai gan fod hwn yn faes a amlygwyd fel blaenoriaeth ar gyfer gwelliannau.  Eglurwyd y byddai cynnydd cyflym mewn datblygiadau tai newydd a fydd wedi’i adlewyrchu yn y data gan arwain at welliant cyflym dros y flwyddyn i ddod.  Roedd y flaenoriaeth arall ar gyfer gwella yn canolbwyntio ar bobl ifanc a mesurau cysylltiedig â chyrhaeddiad a phresenoldeb; yn anffodus nid oedd data ar gael ar gyfer unrhyw un o’r mesurau hyn ac mae’n annhebygol y bydd data o safon ar gael am beth amser, sydd yn her i’r awdurdod.  Wrth gloi, cyfeiriwyd at y ddwy brif her sy’n wynebu’r awdurdod, sef y rhwystrau rhag dysgu sy'n wynebu pobl ifanc a sut i ddiogelu dinasyddion agored i niwed mewn cymunedau, yn arbennig rhag allgau digidol a sicrhau bod eu lleisiau i’w clywed a'u bod yn dal yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

 

Roedd aelodau’r Cabinet yn gyfarwydd â’r blaenoriaethau hyn a'r cynnydd sy'n cael ei wneud gan eu bod yn faterion a drafodir gyda Phenaethiaid Gwasanaethau yn rheolaidd.  Roedd yr Arweinydd yn falch o nodi’r cynnydd a wnaed er gwaethaf Covid-19 a diolchodd i'r holl wasanaethau a swyddogion am eu hymrwymiad i gefnogi'r Cynllun Corfforaethol.  Atgoffodd yr aelodau bod  y cyngor wedi llunio Cynllun Corfforaethol uchelgeisiol gydag un o'r heriau mwyaf yn ymwneud ag ehangu darpariaeth a chysylltedd digidol; mynegodd ei rwystredigaeth ynghylch y ffaith nad yw pethau'n symud ymlaen yn ddigon cyflym, gyda'r cyngor yn ddibynnol ar Lywodraethau'r DU a Llywodraeth Cymru i gyfeirio cwmnïau i fuddsoddi mewn meysydd anodd cyrraedd atynt.  Er hynny mae’r ymrwymiad i’r flaenoriaeth hon yn parhau.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun Corfforaethol ar ddiwedd chwarter 3 2020/21 a chadarnhau cynnwys yr adroddiad drafft.

 

 

8.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 475 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllido y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd o safbwynt y strategaeth gyllidol gytunedig fel y’i hamlinellir isod -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 yw £208.302m miliwn (£198.538m miliwn yn 2019/20).

·        rhagwelwyd tanwariant net o £0.718miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaethau a chyllidebau corfforaethol

·        amlygwyd y risgiau cyfredol a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol.

·        effaith ariannol y Coronafeirws a’r sefyllfa o safbwynt hawliadau i Lywodraeth Cymru (LlC) hyd yma, ynghyd â chyllid grant arall gan LlC cysylltiedig a Covid-19.

·        manylion yr arbedion a’r arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol o £4.448 miliwn y cytunwyd arnynt, yn cynnwys arbedion corfforaethol yn ymwneud ag adolygiad actiwaraidd teirblwydd o Gronfa Bensiynau Clwyd (£2 miliwn); 1% arbedion ysgolion (£0.692 miliwn); arbedion gwasanaeth (£1.756 miliwn).

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai.

 

Aeth y Cynghorydd Thompson-Hill â’r Cabinet drwy amrywiol elfennau’r adroddiad a symudiadau ers y mis blaenorol. Symudiad mewn cyllidebau gwasanaethau a gwasanaethau corfforaethol a thanwariant a ragwelir o £0.718m (gorwariant o £1.759m y mis diwethaf) sydd wedi'i adlewyrchu i raddau helaeth yng ngrant colled incwm Chwarter 3  a chyllid grant cysylltiedig â Covid-19 Llywodraeth Cymru.  Y symudiad mewn cyllidebau corfforaethol sy’n dangos tanwariant o £1.867 wedi’i adlewyrchu yn y cyllid sydd i ddod gan Lywodraeth Cymru i wrthbwyso effaith blwyddyn lawn Covid ar Arenillion Treth y Cyngor a'r Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor, ond yn gysylltiedig yn bennaf â dyraniad cyllid newydd gan LlC (£1.663m) i gydnabod y pwysau a roddwyd ar y Cyngor cyfan yn sgil ymateb i Covid.  Argymhellwyd bod unrhyw danwariant cyffredinol, gan roi ystyried i geisiadau gwasanaethau am ddwyn tanwariant  penodol yn ei flaen, yn cael ei roi yn y Gronfa Lliniaru'r Gyllideb i helpu gyda'r ymateb parhaus i Covid a'r broses gyllidol ar gyfer 2022/23.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid bod swm y cyllid grant gan LlC yn debygol o fod yn fwy na £20m ar gyfer y cyngor yn uniongyrchol heb gynnwys y cymorth ariannol a roddwyd i fusnesau.  Amcangyfrifwyd gorwariant o £14m ar ddechrau’r flwyddyn ac mae’r effaith gadarnhaol ar y sefyllfa ariannol wedi’i wireddu drwy waith partneriaeth gyda LlC a’r strategaeth ariannol a bennwyd mewn ymateb i Covid-19.

 

Manteisiodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar y cyfle i roi diweddariad i’r aelodau ar y gyfres ddiweddaraf o grantiau busnes a gyhoeddwyd ar 12 Mawrth ac a weinyddir gan y Cyngor, a thalodd deyrnged unwaith eto i waith diflino'r staff a chwaraeodd ran ym mhrosesu cyflym yr hawliadau i dros 1300 o fusnesau, sydd gyfwerth â gwerth £5.5m o gymorth.  Ategodd aelodau eraill y sylwadau hyn a chytunodd yr Aelod Arweiniol y byddai’n trosglwyddo gwerthfawrogiad yr aelodau a’r sylwadau cadarnhaol a gafwyd gan fusnesau i’r staff.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Cyllid i gwestiynau fel a ganlyn –

 

·        Holodd y Cynghorydd Hugh Irving  ynghylch y prosesau i ddiogelu yn erbyn talu hawliadau twyllodrus a chafodd wybod am y gwiriadau sy’n cael eu cynnal i osgoi hyn a’r gwaith pellach sy’n mynd yn ei flaen gydag Archwilio Mewnol a’r Fenter Twyll Genedlaethol. 

Roedd grantiau’n seiliedig ar yr Ardreth Annomestig Cenedlaethol sy'n diogelu rhag cwmnïau ffug er bod elfen ‘yn ôl disgresiwn’ fach ar gyfer busnesau bychan sydd ddim yn talu Ardrethi Annomestig.   Oherwydd yr elfen o hunan-ardystio sy’n rhan o’r broses a rhyddhad cyflym y cyllid mae’n bosibl y gallai fod achosion o wneud taliadau pan na ddylent fod wedi’u gwneud a fydd o bosibl yn arwain at ad-hawlio grantiau.

·        Eglurwyd er nad yw’r sefyllfa diwedd blwyddyn wedi’i chyrraedd eto ac y gallai newid, y rhagamcaniad presennol yw  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 275 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y rhaglen gwaith i’r dyfodol er ystyriaeth a nododd yr aelodau y byddai’r eitem ar reolau gweithdrefnau contractau'n cael ei symud o fis Ebrill.

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A o’r Ddeddf.

 

Ar y pwynt hwn (11.30 am) cymerodd y pwyllgor egwyl deng munud]

 

 

Dogfennau ychwanegol:

10.

FFRAMWAITH DYLUNIO GRAFFEG AC ARGRAFFU

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Fframwaith Dylunio Graffeg ac Argraffu newydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Fframwaith Dylunio Graffeg ac Argraffu, fel y manylir arno yn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts adroddiad cyfrinachol yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i’r Fframwaith System Brynu Ddynamig.

 

Rhoddodd y Pennaeth Cymunedau a Chwsmeriaid rywfaint o gefndir ar y swyddogaeth ddylunio â chaffael bresennol.  Yn dilyn adolygiad derbyniwyd yn gyffredinol, er bod y fframwaith presennol yn addas i'r pwrpas, bod angen mwy o hyblygrwydd o ran rhoi mwy o ddewis o ddarparwyr er mwyn sicrhau gwerth am arian, cysyniadau dylunio newydd a mwy o gystadleurwydd.  O ganlyniad i hyn cynigiwyd System Brynu Ddynamig (SBDd) gyda meini prawf yn cynnwys gwasanaethau o ansawdd, darparu gwerth am arian a datrys problemau ar draws pum ‘lot’ er mwyn mynd i’r afael â bylchau yn y fframwaith bresennol ac anghenion gwasanaethau'r cyngor.  Argymhellwyd y dylid sefydlu’r fframwaith newydd am gyfnod o chwe blynedd.  Gan y byddai’r SBDd yn gydweithrediad â Chyngor Sir y Fflint amcangyfrifir y bydd gwariant ar y contract dros £4 miliwn a bod felly angen cymeradwyaeth y Cabinet.

 

Nododd y Cabinet rinweddau’r SBDd arfaethedig o safbwynt rhoi gwerth am arian drwy fwy o gystadleuaeth a’r dewis sydd ar gael i wasanaethau'r cyngor.  Mewn ymateb i gwestiynau, cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Gwasanaeth bod gwaith rhagweithiol yn cael ei wneud gyda’r ysgolion i annog y defnydd o’r fframwaith a rhannu arfer gorau; ymhelaethwyd ar y posibilrwydd o ganiatáu i fwy o gwmnïau lleol fod yn rhan o’r fframwaith a chadarnhawyd pwysoliad o blaid cyflenwyr lleol; rhoddwyd sicrwydd ynghylch gwiriadau rheoli ansawdd i sicrhau'r  defnydd cywir o’r Gymraeg a’r Saesneg ar ddeunyddiau a gynhyrchir ac eglurwyd gwaith cyflenwyr arbenigol  o ran argraffu arwyddion stryd a lifrai cerbydau ar ddeunyddiau arbenigol.  Gofynnodd y Cynghorydd Meirick Davies am gymhariaeth costau ar gyfer cynnyrch a gynhyrchwyd yn fewnol yn flaenorol ac eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth na fyddai’r fframwaith bob amser yn darparu cynnyrch rhatach gyda phwysoliad ansawdd mewn rhai meysydd. Un o’r rhesymau dros ymestyn nifer y ‘lotiau’ oedd cynnig mwy o ddewis ar draws yr Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo'r Fframwaith System Brynu Ddynamig newydd fel y’i manylir yn yr adroddiad.

 

 

DIWRNOD CENEDLAETHOL O FYFYRDOD

Ar y pwynt hwn  (hanner dydd) cafwyd munud o dawelwch i nodi Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod ac i gofio’r bywydau a gollwyd oherwydd y pandemig Coronafeirws a'r rhai y mae digwyddiadau'r deuddeng mis diwethaf wedi effeithio arnynt.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

11.

CAFFAEL GOFAL A CHYMORTH MEWN CYNLLUN TAI GOFAL YCHWANEGOL I BOBL HŶN A PHOBL GYDAG ANABLEDDAU CYMHLETH

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i benodi dwy asiantaeth ofal i ddarparu gofal a chymorth yn Awel y Dyffryn fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo penodi’r darparwr gwasanaeth a enwir ac a argymhellir yn yr adroddiad i ddarparu gofal a chymorth i unigolion gydag anableddau cymhleth sy’n byw ym mloc C, ac yn

 

(b)       cymeradwyo penodi'r darparwr gwasanaeth a enwir ac a argymhellir yn yr adroddiad i ddarparu gofal a chymorth i bobl hŷn sy’n byw ym mlociau A a B Tai Gofal Ychwanegol Awel y Dyffryn yn Ninbych.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad cyfrinachol yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i benodi dwy asiantaeth ofal i ddarparu gofal a chymorth yn Awel y Dyffryn yn dilyn ymarfer caffael llwyddiannus fel sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad.

 

Datblygwyd Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Awel y Dyffryn gan y cyngor mewn partneriaeth â Grŵp Cynefin ac mae’n cynnwys 66  uned gofal ychwanegol (blociau A a B) a bloc ar wahân o 8 uned ar gyfer anableddau cymhleth (bloc C).  Rhagwelwyd  yn wreiddiol y byddai’r cynllun yn barod erbyn mis Medi  2020 ond oherwydd y cyfyngiadau Covid ni fydd yn agor tan fis Gorffennaf 2021. Rhoddwyd manylion y ddau ymarfer caffael ar wahân a’r argymhellion dyfarnu contract yn yr adroddiad cysylltiedig ag (1) asiantaeth Gofal yn y Cartref addas i ddarparu gofal a chymorth ar gyfer blociau A a B, a (2) darparwr arbenigol i ddarparu gofal a chymorth i’r 8 uned ar gyfer pobl ag anableddau cymhleth ym Mloc C.  I ddangos gwerth am arian roedd yr adroddiad hefyd yn nodi faint fyddai’n ei gostio i’r cyngor ddarparu lefel debyg o ofal a chymorth i flociau A a B yn fewnol.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol bod angen dau gontract ar wahân oherwydd natur arbenigol y ddarpariaeth ar gyfer pobl ag anableddau cymhleth. Atebodd swyddogion gwestiynau am y gwiriadau a’r cydbwyso ariannol a wnaed fel rhan o’r broses a pha gynlluniau wrth gefn sydd wedi’u sefydlu,  gan gadarnhau hefyd na chafwyd unrhyw gostau ychwanegol oherwydd Covid-19 gyda’r costau wedi’u cyfrifo yn seiliedig ar nifer yr oriau o ofal a chymorth sy’n cael eu prynu. Roedd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cyfnod trosglwyddo ond roedd oedi’r cynllun wedi rhoi cyfle i weithio gyda’r cwmni ar recriwtio staff yn barod ar gyfer agor.   Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler bod Grŵp Ardal Aelodau Sir Ddinbych wedi cael cyflwyniad ar y cynllun a thaith rithiol a’i bod hi’n cymeradwyo’r rhaglen.

 

Croesawodd y Cabinet y cynllun ac ar ôl ystyried yr  ymarfer caffael diweddar a chanlyniad y broses honno ynghyd ag argymhellion yr adroddiad –

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn:

 

(a)       Cymeradwyo penodiad y darparwr gwasanaeth a enwyd fel yr argymhellir yn yr adroddiad i ddarparu gofal a chymorth i unigolion gydag anableddau cymhleth sy’n byw ym mloc C, a

 

(b)       Cymeradwyo penodiad y darparwr gwasanaeth a enwyd fel yr argymhellir yn yr adroddiad i ddarparu gofal a chymorth i bobl hŷn a fydd yn byw ym Mlociau A a B Tai Gofal Ychwanegol Awel y Dyffryn, Dinbych.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.10 pm.