Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: TRWY GYFRWNG FIDEO

Eitemau
Rhif Eitem

DALIWCH SYLW

Yn sgil y cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol oherwydd pandemig y coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng fideo gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd.  Cafodd pob aelod gyfle i fynychu fel arsylwyr a chafodd y Gohebydd Democratiaeth Leol wahoddiad i arsylwi hefyd.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 422 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2020 (copi ynghlwm).  

 

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2020 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2020.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2020 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

Y FARGEN DWF DERFYNOL pdf eicon PDF 293 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r dogfennau allweddol sy’n ofynnol i gyrraedd y Fargen Derfynol ar gyfer Bargen Dwf Gogledd Cymru i’w cymeradwyo’n ffurfiol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      cymeradwyo yn ffurfiol ac yn argymell fod y Cyngor yn cymeradwyo’r Cynllun Busnes Trosfwaol fel y ddogfen sy’n nodi’r trefniadau i gyflawni Bargen Dwf Gogledd Cymru fel y sail ar gyfer bod yn rhan o’r Fargen Dwf Derfynol a derbyn y Llythyr Cyllid Grant gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y  DU;

 

 (b)      cymeradwyo’n ffurfiol y darpariaethau yng Nghytundeb Llywodraethu 2 sy’n ymwneud â swyddogaethau gweithrediaeth, argymell fod y Cyngor yn cymeradwyo’r darpariaethau sy’n ymwneud â swyddogaethau anweithredol, a’i fod yn benodol yn mabwysiadu dirprwyaethau'r cylch gorchwyl yng “Nghytundeb Llywodraethu 2: Atodiad 1” ohono fel y sail ar gyfer cwblhau’r Fargen Dwf Derfynol a derbyn y Llythyr Cyllid Grant gyda Llywodraethau Cymru a’r DU;

 

 (c)       cymeradwyo’n ffurfiol ac yn argymell fod y Cyngor yn awdurdodi’r corff atebol, Cyngor Gwynedd, i arwyddo’r llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y Partneriaid;

 

 (d)      cymeradwyo’n ffurfiol ac yn argymell fod y Cyngor yn argymell cymeradwyo’r dull a ddefnyddir i gyfrifo’r gost benthyg tybiannol angenrheidiol er mwyn hwyluso’r llif arian negyddol ar gyfer y Fargen Dwf, ac i gynnwys darpariaeth o fewn cyllideb y Cyngor i dalu’r cyfraniad hwn a'r craidd sefydledig a’r cyfraniadau atodol fel y nodir yng Nghytundeb Llywodraethu 2 (ac ym mharagraffau 5.5 a 5.7 yr adroddiad templed a atodir fel rhan o Atodiad 1);

 

 (e)      bod y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, y Swyddog Monitro a Swyddog Adran 151 yn cael awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i’r dogfennau gyda’r Partneriaid fel bo’n angenrheidiol i gwblhau’r cytundeb, a

 

 (f)        bod y Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried cynnwys yr Asesiad o’r Effaith ar Les Cyngor Sir Ddinbych sydd ynghlwm fel Atodiad 2 fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol yr adroddiad i geisio cefnogaeth y Cabinet o’r dogfennau allweddol sydd eu hangen i gyrraedd y Fargen Dwf Derfynol ar gyfer Bargen Dwf Gogledd Cymru i’w gyflwyno i'r Cyngor ar gyfer cymeradwyaeth ffurfiol.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys y cefndir mewn perthynas â chymeradwyaethau o’r holl bartneriaid yn arwain at y sefyllfa bresennol.  Roedd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi ymrwymo i gyflawni Cytundeb Bargen Derfynol gyda Llywodraethau'r DU a Chymru erbyn diwedd 2020 ac roedd y ddogfennaeth berthnasol yn mynd trwy’r prosesau democrataidd ymhob awdurdod lleol.  Gofynnwyd i’r Cabinet a’r Cyngor, ynghyd â’r holl bartneriaid, gymeradwyo amryw o ddogfennau a fyddai’n galluogi i’r Fargen Dwf Derfynol gael ei gwblhau.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd nod y Fargen Dwf i adeiladu economi mwy cynaliadwy a chadarn yng Ngogledd Cymru mewn partneriaeth â’r sectorau cyhoeddus a phreifat, gyda chymorth £240 miliwn o gyllid gan Lywodraethau’r DU a Chymru dros y 15 mlynedd nesaf.  Nod y Fargen Dwf oedd darparu buddsoddiad o hyd at £1.1 biliwn i economi Gogledd Cymru er mwyn creu 3,400 – 4,200 o swyddi newydd a chreu £2 - £2.4 biliwn mewn gwerth ychwanegol gros erbyn 2036. Darparodd yr Arweinydd gyflwyniad ar y cyd â’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Economi a‘r Parth Cyhoeddus; Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, Ad a Chyfraith a Phennaeth Cyllid, gan grybwyll meysydd canlynol y Fargen Dwf -

 

·         y Weledigaeth Dwf a Phortffolio'r Fargen Dwf o fuddsoddiad ynghyd â buddion uniongyrchol i'r rhanbarth, gan gynnwys ffyniant economaidd; creu swyddi o ansawdd gwell a gweithlu medrus, a gwelliannau i safonau byw

·         y portffolio o raglenni sy’n ymwneud ag (1) Ynni Carbon Isel; (2) Digidol; (3) Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel; (4) Bwyd Amaeth a Thwristiaeth, a (5) Tir ac Eiddo ynghyd â rhaglenni heb eu hariannu’n uniongyrchol ond a gefnogir mewn perthynas â Sgiliau a Chyflogaeth a Chludiant

·         dangos lledaeniad daearyddol y 14 o brosiectau a nodwyd, gyda phob prosiect yn darparu buddion eang ar draws y rhanbarth gan sicrhau newid

·         egluro’r prosiectau penodol a nodwyd yn Sir Ddinbych mewn perthynas â (1) Parc Busnes Llanelwy; (2) Hen Safle Ysbyty Gogledd Cymru Dinbych; (3) Prosiect Fferm Carbon Niwtral Llysfasi, a (4) Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan

·         manylion am gyfreithlondeb y Cytundeb Bargen Dwf Derfynol rhwng yr NWEAB a Llywodraethau’r DU a Chymru ar gyfer darparu’r Fargen a gaiff ei arwyddo ar sail achos busnes y portffolio a phump achosion busnes rhaglen

·         amlygu'r ystyriaethau ariannol gan gynnwys cost y rhaglen a sut gaiff ei ariannu, gan gynnwys cyfraniadau partner dros dymor o 15 mlynedd ynghyd â chyfraniadau partner blynyddol a'r fethodoleg tu ôl i'r cyfrifiadau a oedd yn dod a Sir Ddinbych rhwng £64,000 - £90,000

·         adrodd ar Gytundeb Llywodraethu 2 i fynd â’r bartneriaeth i gam gweithredu'r Fargen Dwf, gan barhau'r model llywodraethu a fabwysiadwyd yng Nghytundeb Llywodraethu 1 a diffinio'r berthynas rhwng y Bwrdd a'i sefydliadau partner, cyfyngiadau'r ddirprwyaeth ac atebolrwydd.

 

Roedd manylion y Fargen Dwf wedi cael eu craffu yn eang ac yn ddiweddar wedi bod yn destun Gweithdy i Aelodau.  Nid oedd y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Partneriaethau wedi gallu mynychu’r Cabinet, a gofynnodd i'r Arweinydd ddarllen ei datganiad ar ganfyddiadau craffu yn dilyn ystyried y Fargen Dwf ar 5 Tachwedd.  Yn gryno, roedd y Pwyllgor Craffu -

 

·         yn cydnabod er y byddai’r prosiectau wedi’u lleoli mewn ardaloedd amrywiol ar draws y rhanbarth, byddent oll, i ryw raddau, yn elwa'r rhanbarth gyfan

·         yn cytuno ei fod yn hollbwysig bod y Fargen yn symud ymlaen er mwyn sicrhau cyllid i ddarparu’r prosiect a gwireddu’r buddion economaidd a ragwelir

·         wedi cael  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

LLYS AWELON CAM 2 pdf eicon PDF 311 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo rhyddhau’r arian cyfalaf £5miliwn y cytunwyd arno'n flaenorol i gyfrannu at adeiladu cam 2 Tai Gofal Ychwanegol 2 Llys Awelon mewn partneriaeth gyda Grŵp Cynefin. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau, a

 

 (b)      cymeradwyo rhyddhau cyfalaf a gytunwyd arno eisoes o £5 miliwn er mwyn cyfrannu at adeiladu cam 2 Tai Gofal Ychwanegol Llys Awelon.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feely adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i ryddhau cyfalaf a gytunwyd arno eisoes o £5 miliwn er mwyn cyfrannu at adeiladu cam 2 Tai Gofal Ychwanegol Llys Awelon mewn partneriaeth â Grŵp Cynefin.

 

Yn 2010, ar y cyd â Grŵp Cynefin, comisiynodd y Cyngor gyfleuster Gofal Ychwanegol 12 Uned ger Cartref Gofal Awelon.  Roedd y Cartref Gofal a Chanolfan Awelon wedi cau yn 2020 i baratoi ar gyfer ail gam y cynllun yn cynnwys 35 o unedau ychwanegol.  Byddai’r brydles bresennol ar gyfer cam 1 y datblygiad yn dod i ben a byddai prydles hirdymor newydd yn cael ei chyflwyno i Grŵp Cynefin ar gyfer y safle gyfan.  Byddai’r datblygiad yn cymryd dull amgylcheddol cynaliadwy gyda'r golwg o gyflawni graddfa Rhagoriaeth BREEM.  Byddai’r prosiect yn creu arbedion i gyllidebau gofal yn y gymuned ac mae manylion cost a budd o’r buddsoddiad o £5 miliwn wedi ei gynnwys fel atodiad i’r adroddiad.

 

Eglurodd y Cynghorydd Bobby Feeley bod yr oedi i symud ymlaen â’r prosiect yn sgil Covid-19 ac yn falch o fod mewn safle bellach i barhau gyda'r datblygiad.  Gofynnodd y Cynghorydd Emrys Wynne i’r cyfeiriad o fewn yr Asesiad o Effaith ar Les at Cymraeg iaith gyntaf gael ei dynnu o ystyried bod y Grŵp Cynefin yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn gwbl ddwyieithog.  Mewn ymateb i’r cais a sylwadau eraill cytunodd yr Aelod Arweiniol a Phennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol i newid y cyfeiriad at yr iaith Gymraeg yn yr Asesiad o Effaith ar Les; cadarnhawyd y trefniadau bwyd ac amser prydau i breswylwyr, a nodwyd tra bo cynlluniau i adleoli’r clinig ar Mount Road, roedd meddygfa fwy arall yn agos ac roedd gan y dref gyfleusterau gofal iechyd ardderchog.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau, a

 

 (b)      cymeradwyo rhyddhau cyfalaf a gytunwyd arno eisoes o £5 miliwn er mwyn cyfrannu at adeiladu cam 2 Tai Gofal Ychwanegol Llys Awelon.

 

 

7.

STRATEGAETH DAI A DIGARTREFEDD DDRAFFT pdf eicon PDF 315 KB

Ystyried cyd-adroddiad  gan y Cynghorwyr Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau a Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth (copi ynghlwm) yn cyflwyno’r Strategaeth Dai a Digartrefedd Ddrafft cyn cyflwyno i’r Cyngor llawn ar gyfer cymeradwyaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn argymell mynd a’r Strategaeth Dai a Digartrefedd Ddrafft i’r Cabinet i’w chymeradwyo.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas a Bobby Feeley yr adroddiad a’r Strategaeth Dai a Digartrefedd Ddraft ar y cyd i'r Cabinet ei ystyried cyn ei gyflwyno i'r Cyngor llawn am gymeradwyaeth.

 

Roedd y Strategaeth Dai yn cael ei adolygu i ffurfio Strategaeth Dai a Digartrefedd newydd ar gyfer y sir a fyddai'r darparu datganiad clir o weledigaeth a nodau'r cyngor am y pum mlynedd nesaf.  Roedd sicrhau bod pawb yn cael cefnogaeth i fyw mewn cartrefi oedd yn diwallu eu hanghenion yn flaenoriaeth corfforaethol allweddol a byddai’r Strategaeth ddiwygiedig yn darparu fframwaith ar gyfer holl swyddogaethau perthnasol y Cyngor i fynd i’r afael â’r flaenoriaeth yn llwyddiannus.  Cynigiwyd cadw’r 5 thema allweddol o fewn y Strategaeth Dai bresennol gan ychwanegu thema ar wahân ‘Atal a mynd i'r afael â Digartrefedd'.  Roedd y Strategaeth ddrafft yn cynnwys cynllun gweithredu newydd wedi’i strwythuro o amgylch y 6 thema allweddol ac yn nodi’r camau gweithredu i ddarparu'r canlyniadau disgwyliedig.

               

Croesawodd y Cynghorydd Feeley y cysylltiad a wnaed rhwng tai a digartrefedd yn y Strategaeth ddrafft a’r dull a gymerwyd i weithio yn y dyfodol; diolchodd hefyd i’r swyddogion am eu gwaith caled i greu’r ddogfen.  Roedd yr Arweinydd hefyd yn cefnogi’r dull a gymerwyd a holodd sut fyddai’r gwaith yn cysylltu â’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).  Ymatebodd y Cynghorydd Mark Young bod y CDLl yn cyd-fynd â'r Strategaeth a byddent yn llywio ei gilydd.  Adroddodd hefyd am ei bresenoldeb mewn cyfarfodydd y Grŵp Tai a Digartrefedd Strategol a’r trafodaethau cadarnhaol.  O ran y camau nesaf, ystyrir tystiolaeth data gan y Grŵp Cynllunio Strategol yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd a fydd yn helpu i lywio'r dyraniadau tai wrth symud ymlaen yn y CDLl.  O ran y Strategaeth ddrafft, amlygodd y Rheolwr Tai a Chynllunio Strategol yr ymgynghoriad a gynhaliwyd i hysbysu'r ddogfen.  Os caiff ei gymeradwyo gan y Cyngor ym mis Rhagfyr, bydd darpariaeth y Strategaeth a’r cynllun gweithredu yn cael ei oruchwylio a'i monitro gan y Grŵp Tai a Digartrefedd Strategol a bydd adroddiadau rheolaidd yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Craffu.

 

Teimlodd y Cynghorydd Meirick Davies y dylai’r Strategaeth adlewyrchu dyheadau’r Cyngor yn y dyfodol megis cynyddu’r amod 10% ar gyfer tai fforddiadwy.  Cadarnhaodd y swyddogion bod y cynllun gweithredu yn cyfeirio at gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a byddai’r dull a’r trothwyon presennol ym mholisïau CDLl yn cael eu hadolygu fel rhan o’r gwaith CDLl sy’n codi.  Roedd y gofyniad 10% yn cyfeirio at gynlluniau tai'r farchnad agored, ond roedd ystod o ffyrdd oedd yn cyfrannu tuag at dai fforddiadwy gyda’r mwyafrif o dai fforddiadwy yn cael eu cyflenwi drwy landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chymdeithasau tai.  Canran cyffredinol o dai fforddiadwy a ddarparwyd o’r tai a adeiladwyd yn 2019/20 oedd 57%.  Roedd rhaid i’r gofyniad am dai fforddiadwy a ddarparwyd ar gynlluniau tai’r sector preifat fod yn seiliedig ar hyfywedd a’i ystyried ar y cyd â meini prawf a lles cynllunio eraill megis cyfraniadau addysg neu ecoleg.  Pwysleisiodd Mark Young rôl yr CCA i graffu’r data perthnasol er mwyn cytuno â’r ffigwr o dai fforddiadwy yn y sector preifat fel rhan o'r CDLl newydd.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn argymell mynd a’r Strategaeth Dai a Digartrefedd Ddrafft i’r Cyngor i’w chymeradwyo.

 

 [Ar y pwynt hwn (11.45 am) cymerodd y pwyllgor egwyl deng munud am luniaeth.]

 

 

8.

PROSIECT ARCHIFAU AR Y CYD SIR DDINBYCH A SIR Y FFLINT pdf eicon PDF 244 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi ynghlwm) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet ar gyfer adeilad Archif Passivhaus newydd a adeiladwyd yn bwrpasol yn Yr Wyddgrug ar gyfer Gwasanaeth Archifau ar y Cyd newydd Sir Ddinbych a Sir y Fflint a gofynion arian grant ac arian cyfatebol cysylltiol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      cytuno y caiff y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd gyflwyno cais i gam nesaf (Rownd 1) Cronfa Treftadaeth Gorwelion Cronfa Dreftadaeth y Loteri;

 

 (b)      nodi’r galw posib ar £2,034,521 o gyllid y Cyngor er mwyn cyflawni’r ganolfan archifau newydd.  Mae hyn yn dibynnu os bydd y cais yn llwyddiannus ar gam Rownd 1 o’r broses ymgeisio am grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri a derbyn ffurflen cynnig cyllid, a

 

 (c)       cymeradwyo’r dull gweithredu o safbwynt Carchar Rhuthun ac estyniad arfaethedig yr atyniad treftadaeth, fel yr amlinellir yn adran 4.8 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

[Roedd rhaid i’r Arweinydd adael yn ystod yr eitem hon a chymerodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y Gadair am weddill y cyfarfod.]

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas yr adroddiad yn ceisio cefnogaeth y Cabinet am adeilad Archif Passivhaus pwrpasol newydd arfaethedig yn yr Wyddgrug, er mwyn lletya Gwasanaeth Archifau ar y Cyd Sir Ddinbych a Sir y Fflint sydd newydd ei ffurfio a'r cyllid grant cysylltiedig a'r gofynion arian cyfatebol.

 

Roedd y gwasanaeth archifau ar y cyd wedi’i ffurfio i alluogi’r cynghorau i fodloni eu cyfrifoldebau deddfwriaethol o ran dogfennau o bwysigrwydd hanesyddol a chreu gwasanaeth gwell a mwy cynaliadwy.  Roedd y gwasanaeth ar y cyd yn cael ei weithredu dros ddwy safle ym Mhenarlâg a (Carchar) Rhuthun.  Datblygwyd y cais Grant Heritage Horizons Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol er mwyn ariannu adeilad newydd pwrpasol yn yr Wyddgrug a chynllun gweithgaredd 3 mlynedd cysylltiol.  Dewiswyd y safle o astudiaeth ddichonoldeb safle a gynhaliwyd gan ymgynghorydd annibynnol.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r achos ar gyfer yr adeilad newydd; gan roi manylion ystyriaethau ariannol, a chynigion ar gyfer Carchar Rhuthun.

 

Amlygodd y Cynghorydd Thomas gyfrifoldebau statudol y Cyngor i ddiogelu ei eitemau hanesyddol a’r anawsterau presennol a wynebwyd o ran problemau capasiti, cyflwr y cyfleusterau presennol a’r buddsoddiad sylweddol angenrheidiol wrth symud ymlaen.  Byddai’r cynigion yn parhau i ganiatáu presenoldeb yr archifau yn Rhuthun gyda darpariaeth cysylltu-o-bell o holl lyfrgelloedd a fyddai’n cryfhau safle a darparu hygyrchedd i holl drigolion.  Roedd ymrwymiad hefyd i wella'r cynnig treftadaeth yng Ngharchar Rhuthun (gan ddefnyddio gofod gwag y gwasanaeth archifau) gyda'r golwg o ddyblu'r 12,000 o ymwelwyr presennol i’r safle.  Roedd mynegiannau cadarnhaol o ran y cynnig i Gronfa Heritage Horizon Cronfa Dreftadaeth y Loteri, ond nid oedd sicrwydd o lwyddiant.  Pe bydda’i cynnig yn llwyddiannus, byddai adeilad pwrpasol newydd yn cael ei ddarparu i letya’r gwasanaeth archifau ar y cyd a fydd yn elwa holl gymunedau, gydag ymrwymiad llawn i wella’r ddarpariaeth yn y Carchar.

 

Trafododd y Cabinet yr argymhellion yn fanwl.  Ar y dechrau, roedd anfodlonrwydd o ran y cynigion ar gyfer y gwasanaeth pan cawsant eu cyflwyno i ddechrau, ond roedd mwyafrif y pryderon wedi cael eu datrys ac ar y cyfan roedd y Cyabinet yn cefnogi’r argymhellion, yn arbennig o ystyried yr heriau o gadw dogfennau hanesyddol ac arteffactau ynghyd â’r effaith andwyol ar ddarpariaeth y gwasanaeth a’r goblygiadau cost sylweddol pen a fyddai’r argymhellion yn cael eu gwireddu.  Er fod anfodlonrwydd am golli’r cyflester yng Ngharchar Rhuthun a symud tu allan i’r sir, roedd y Cabinet hefyd wedi ystyried mai rhannu gwasanaethau oedd y dewis cywir o ran cynaliadwyedd a chyfleoedd moderneiddio i sicrhau bod y dylestswyddau deddfriaethol yn cael eu bodloni ac i gadw hanes a threftadaeth lleol yr ardal.  Nodwyd hefyd y byddai’r cynnig yn darparu mynediad ehangach i wybodaeth o fewn Sir Ddinbych trwy’r gwasanaeth llyfrgelloedd ynghyd â phresenoldeb rhan amser yng Ngharchar Rhuthun a gwell mynediad i ysgolion a ddylai annog cynulleidfa fwy.  Roedd y Cabinet hefyd yn falch o nodi y cynlluniau gwella ac ehangu Carchar Rhuthun o ganlyniad i hyn a fyddai’n elwa’r sir.

 

Ymatebodd y Rheolwr Tîm a Gwybodaeth Busnes i’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Mark Young fel a ganlyn -

                                   

·         tra bod yr adnoddau wedi cael eu rhoi tuag at y cais, cytunwyd  bod angen cynllun wrth gefn os na fyddai’r cais yn llwyddiannus a byddai'r gwaith hynny'n dechrau'n fuan

·         Byddai’r Gwasanaeth Moderneiddio a Gwella Busnes yn adeiladu cronfa wrth gefn o £65,000 fel cost untro yn unol â’r costau mynegiannol a ddarparwyd er mwyn symud ymlaen â’r cynlluniau arfaethedig i ehangu’r atyniad treftadaeth yng Ngharchar Rhuthun.  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 464 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 oedd £208.302 miliwn (£198.538 miliwn yn 2019/20).

·        rhagwelwyd gorwariant o £5.492 miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol (nid oedd y gorwariant yn rhagdybio unrhyw grant 'colli incwm’ pellach neu geisiadau)

·        tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol ynghyd ag effaith ariannol Coronafeirws a chyllidebau Model darparu Amgen Hamdden

·        manylion o arbedion ac arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol o £4.448 miliwn y cytunwyd arno, gan gynnwys cynnwys arbedion corfforaethol sy’n ymwneud ag adolygiad actiwaraidd teirblwydd o Gronfa Bensiynau Clwyd (£2 miliwn); 1% arbedion ysgolion (£0.692 miliwn); arbedion gwasanaeth (£1.756 miliwn)

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai.

               

Ymhelaethodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf yn fanwl, yn enwedig o ran effaith ariannol Covid-19, gan gynnwys y cyllid grant a gafwyd hyd yma a'r safle ar hawliau i'r cyngor.  Hefyd amlygodd y peryglon mewn perthynas ag Incwm o Dreth y Cyngor a’r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor (CTRS).  Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi elfen o gyllid ychwanegol ar draws Cymru ar gyfer y CTRS.  Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid y rhagwelir lleihad o 1.5% yn Incwm o Dreth y Cyngor ac roedd LlC wedi cytuno i edrych i mewn i’r posibilrwydd o gyllido darpariaeth o ran hynny.  Hefyd amlygwyd bod risgiau o amgylch cyllidebau gofal cymdeithasol, cludiant ysgol a gwasanaethau gwastraff.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·        Roedd y Cynghorydd Brian yn awyddus i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o waith y Cyngor i wneud y mwyaf o gyfleoedd ariannu er mwyn lleihau'r gorwariant a ragwelwyd a lliniaru effaith Covid-10 ar gyllid yr awdurdod. 

Cadarnhaodd Aelod Arweiniol Cyllid bod cyllid LlC a gyhoeddwyd yn gynharach yn y flwyddyn wedi cynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer colled incwm ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol.  Roedd mwyafrif o gais Chwarter 1 wedi cael ei fodloni ac roedd cais Chwarter 2 yn cael ei werthuso ar hyn o bryd.  Byddai ceisiadau hefyd yn cael eu gwneud ar gyfer Chwarter 3 a 4 ar yr amser priodol a byddai’r awdurdod yn parhau i wneud cais am unrhyw ffynonellau o gyllid ar gael iddynt er mwyn gwneud y mwyaf o incwm.

·        Roedd y Cynghorydd Mark Young yn cydymdeimlo â’r rhai oedd yn wynebu anawsterau ariannol a chwestiynodd y dull o adennill Treth y Cyngor.  

Rhoddwyd sicrwydd bod gan y Cyngor safbwynt cytbwys gyda dull sensitif a hyblyg gan ystyried amgylchiadau unigol.  Er mai ychydig iawn o gamau adennill a gymerwyd yn ystod y chwe mis cyntaf, roedd y Cyngor bellach yn ymgysylltu â thrigolion ac yn gweithio gyda Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych i dargedu cymorth lle bo angen ac er mwyn sicrhau ei fod yn adennill ôl-ddyledion lle bo’n briodol.  Roedd disgwyliad gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r gwaith adennill.

·        mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Meirick Davies, cadarnhawyd bod safleoedd yr hen ysgol yng Nghlocaenog a Chyffylliog yn eiddo i'r Cyngor ac roedd defnydd y safleoedd yn y dyfodol yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, yn unol â pholisi gwaredu'r Cyngor. 

O ran Ysgol Llanbedr, roedd egwyddor sylfaenol cyfnewid tir wedi cael ei gytunol fel rhan o’r cynnig gwreiddiol, er mwyn darparu’r ysgol newydd a rhoddwyd diweddariad ar drafodaethau ar gyfer defnydd safle'r hen ysgol yn y dyfodol, eto yn unol â pholisi gwaredu'r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 282 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys.  

 

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr aelodau diwygiadau canlynol –

 

·         Rheolau'r Weithdrefn Gontractau - wedi’i symud o fis Rhagfyr i fis Chwefror

·         Cynigion Cyllideb Derfynol 2021/22 – Ionawr 

·         Grant Digartrefedd Covid Llywodraeth Cymru – i’w gadarnhau

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 13.00.