Agenda, decisions and draft minutes
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT SYLW Yn sgil y
cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol
oherwydd pandemig y Coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng
fideo gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd. Cafodd pob aelod gyfle i fynychu fel arsylwyr
a chafodd y Gohebydd Democratiaeth Lleol wahoddiad i arsylwi hefyd. |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw faterion brys Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2020 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: Pleidlais: 7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2020 fel cofnod cywir. Cofnodion: Cafodd cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2020 eu cyflwyno. Materion yn Codi - Tudalen 6 Eitem Rhif Cofnod 4 (Materion yn
Codi): Cadarnhaodd y Cynghorydd Peter Scott ei fod wedi derbyn e-bost gan
Gyfarwyddwr Corfforaethol Economi a Pharth Cyhoeddus yn ei hysbysu bod disgwyl
i’r adroddiad i adolygu'r materion ehangach sy'n deillio o stormydd/llifogydd
mis Chwefror fod ar gael ym mis Medi. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2020 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. |
|
TRWYDDEDU YCHWANEGOL TAI AMLFEDDIANNAETH PDF 235 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau
(copi’n amgaeedig) i geisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer ail-ddynodi
Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth o fewn y Rhyl ac
ymestyn y dynodiad i Brestatyn, Dinbych a Llangollen. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Pleidlais: 7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn cymeradwyo ail-ddynodiad y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol yn y Rhyl ac
yn ei ymestyn i Brestatyn, Dinbych a Llangollen. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet i ail-ddynodi Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth
yn y Rhyl ac ymestyn y dynodiad i Brestatyn, Dinbych a Llangollen. Rhoddwyd
rhywfaint o gefndir ynglŷn â darpariaethau deddfwriaethol a osodwyd gan
Ddeddf Tai 2004 a’r dyletswyddau ar awdurdodau lleol i weithredu cynllun
trwyddedu gorfodol ar gyfer mathau penodol o Dai Amlfeddiannaeth i sicrhau bod
cyfleusterau addas a threfniadau diogelwch tân yn cael eu rheoli a’u darparu. Mae’r Ddeddf hefyd yn galluogi
awdurdodau lleol i ymestyn y cynllun trwyddedu i gategorïau eraill o Dai
Amlfeddiannaeth er mwyn mynd i’r afael â phroblemau penodol a’i gwneud yn
ofynnol bod y dynodiad yn cael ei adolygu bob 5 mlynedd. Mae
cynllun trwyddedu ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth yn y Rhyl wedi bod yn
weithredol ers 2010 (fe'i adolygwyd a'i ymestyn gan y Cabinet ym mis Rhagfyr
2014), a bellach mae eisiau cymeradwyaeth y Cabinet i ail ddynodi cynllun y
Rhyl ac ymestyn y dynodiad i eiddo perthnasol ym Mhrestatyn, Dinbych a
Llangollen. Mae
nifer o elfennau sydd angen eu hystyried wedi’u manylu yn yr adroddiad yn
cynnwys y meini prawf i’w defnyddio; cyfiawnhad a thystiolaeth dros y cynllun
trwyddedu ychwanegol; amodau i’w gosod a chanlyniad y broses ymgynghori
ffurfiol ar y cynigion. Fe
ymatebodd swyddogion i gwestiynau oedd yn deillio o’r adroddiad fel a ganlyn - ·
ymhelaethu ar yr ymresymiad y
tu ôl i’r argymhellion o ystyried llwyddiant y cynllun yn y Rhyl. Yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddarparwyd, roedd
lle i gredu y byddai Prestatyn, Dinbych a Llangollen yn elwa o’r cynllun gan
fod dwysedd uchel o Dai Amlfeddiannaeth yn yr ardaloedd hynny ar ôl y Rhyl a
bod nifer fawr o gwynion gwasanaeth a digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol
yn digwydd yno ·
o ran capasiti i weinyddu a
gorfodi’r cynllun, roedd lle i gredu y dylai adnoddau staff presennol fod yn
ddigonol ar gyfer yr ardaloedd ychwanegol ond byddai’n ddibynnol ar gyfanswm y niferoedd
a chyflwr y Tai Amlfeddiannaeth oedd yn gymwys ar gyfer y cynllun – os byddai
angen rhagor o adnoddau na'r disgwyl yna roedd disgwyl y byddai'r ffioedd
ychwanegol a fyddai’n cael ei greu gan y cynllun yn ddigon i dalu am y gost
ychwanegol ·
roedd rhai awdurdodau lleol
wedi cyflwyno polisi Sir gyfan, ond nid oedd lle i gredu fod hyn yn addas ar
gyfer Sir Ddinbych o ystyried diffyg tystiolaeth i gyfiawnhau’r agwedd yna a
digonedd o adnoddau i’w weinyddu ·
cydnabuwyd mai Llanelwy oedd
â’r nifer uchaf nesaf o stoc Tai Amlfeddiannaeth, ond o ystyried yr adnoddau
staff cyfyngedig a’r dystiolaeth oedd ar gael i gyfiawnhau trwyddedu
ychwanegol, fe benderfynwyd peidio â chynnwys Llanelwy yn y cynllun ·
roedd hi’n gyfamserol i
ymestyn y dynodiad i feysydd eraill ochr yn ochr â’r adolygiad pum mlynedd
ofynnol ar ddynodiad yn y Rhyl ·
cyfeiriwyd at y tân trasig ym
Mhrestatyn yn 2012 allai fod wedi cael ei atal petai cynllun trwyddedu
ychwanegol wedi bod ar waith; er nad oedd yna dystiolaeth ddigonol ar gael bryd
hynny i gyfiawnhau trwyddedu ychwanegol, mae ystadegau mwy manwl a thystiolaeth
gefnogol bellach ar gael i ddadlau'r achos ·
ymhelaethwyd ar storio a
thaflu sbwriel o ran bodloni safonau trwyddedu gofynnol ar gyfer Tai
Amlfeddiannaeth mewn cysylltiad â chyfrifoldebau tenantiaid a landlordiaid -
rhoddwyd sicrwydd fod cefnogaeth ar gael i denantiaid diamddiffyn o ran bodloni
eu rhwymedigaethau ·
mewn cysylltiad â sicrhau
cydymffurfiaeth gyda’r cynllun, rhoddwyd sicrwydd ynglŷn â pherthynas
waith da gydag asiantaethau rheoli a gosod a’u hymgysylltiad cadarnhaol gyda’r
broses ac ymatebion i geisiadau · cafwyd eglurhad o’r broses i adnabod Tai Amlfeddiannaeth addas ar gyfer trwyddedu ychwanegol gan ffynonellau amrywiol yn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
PROFI, OLRHAIN A DIOGELU - CYTUNDEB RHWNG AWDURDODAU PDF 222 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol ar gyfer Cynllunio,
Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel (copi’n amgaeedig) yn ceisio
cymeradwyaeth y Cabinet o’r diwygiadau i ddirprwyo awdurdod i Bennaeth
Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad i fynd i mewn i
gytundeb. Penderfyniad: Pleidlais: 7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a
Gwasanaethau Cefn Gwlad yn dilyn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol dros
Gynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad, y Swyddog a151 a’r
Swyddog Monitro i gytuno a llofnodi’r Cytundeb Rhyng-Awdurdod i sicrhau bod y
Cyngor yn cefnogi’r strategaeth gydlynol genedlaethol a rhanbarthol i gyfyngu
ar ledaeniad Covid-19. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mark Young adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet i ddirprwyo awdurdod i Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Gwasanaeth Cefn Gwlad i ymrwymo i Gytundeb Rhyng-Awdurdod gydag awdurdodau
lleol eraill Gogledd Cymru i reoli’r broses o recriwtio a rheoli staff
ychwanegol i weithredu elfen olrhain cysylltiadau o brosiect Profi, Olrhain a
Diogelu. Ym mis Mai 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth genedlaethol oedd
yn cynnwys gofyniad i dracio ac olrhain lledaeniad Covid-19 yng Nghymru. Fel
rhan o’r strategaeth honno, fe sefydlodd awdurdodau lleol Gogledd Cymru dimau
olrhain cysylltiadau gyda staff oedd wedi’u hadleoli. Wrth i fwy o wasanaethau’r Cynghorau
ailddechrau byddai'r staff yna angen dychwelyd i'w dyletswydd arferol a byddai
staffio'r timau olrhain cysylltiadau yn fater hanfodol. Roedd Llywodraeth Cymru
wedi cymeradwyo £11.2m o gyllid ar gyfer y prosiect yng ngogledd Cymru ar gyfer
gweddill y flwyddyn ariannol. Cynigiwyd
bod Cyngor Sir y Fflint yn cydlynu’r gwaith o recriwtio a rheoli staff ar gyfer
y prosiect ar ran holl awdurdodau lleol gogledd Cymru, ac y byddai’r trefniadau
llywodraethu’n cael eu nodi mewn Cytundeb Rhyng-Awdurdod. Roedd rhagor o fanylion yn cynnwys manteision
y dull a gweithrediad y prosiect wedi cael eu darparu yn yr adroddiad. Tynnodd y Cabinet sylw at bwysigrwydd y prosiect
Profi, Olrhain a Diogelu er mwyn atal lledaeniad Covid-19 ar y cyd â rhaglen
brofi effeithiol, a mynegwyd rhywfaint o rwystredigaeth dros yr amser aros i
gael prawf a'r canlyniad. O ran adnabod ardaloedd risg uchel a strategaeth yn y
dyfodol, fe soniodd y Prif Weithredwr am ganlyniad y dadansoddiad ar ôl y don
gyntaf o Covid-19 gyda’r mwyafrif o’r rhai a gafodd eu heffeithio yn
gysylltiedig â’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd nifer o feysydd risg uchel a grwpiau
diamddiffyn wedi cael eu hadnabod ac roedd llawer o waith yn mynd rhagddo ar
draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Grŵp Adfer Iechyd a Gofal
Cymdeithasol er mwyn ymateb i’r ffactorau hynny, dadansoddi data ymhellach a
rheoli’r risgiau wrth fynd ymlaen. Roedd ffliw tymhorol yn bryder hefyd o
ystyried y pwysau ychwanegol ar systemau iechyd a gofal cymdeithasol ac fe
fyddai yna ymgyrch weithredol i gynnig a hyrwyddo brechiad y ffliw gyda’r nod o
leihau’r pwysau hwnnw ar draws y system. Roedd yr Arweinydd yn croesawu dyraniad cyllid
Llywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect ar draws y rhanbarth gan obeithio y
byddai'n ddigonol. Roedd yn awyddus i dynnu sylw at bwysigrwydd cyfathrebu a
hyrwyddo prosiect Profi, Olrhain a Diogelu ac i sicrhau fod y rhai oedd yn cael
eu holrhain yn gwrando ar y cyngor ac yn ymateb yn gyflym ac yn gadarnhaol.
Roedd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethu Cefn Gwlad yn
cytuno y byddai cynllun cyfathrebu effeithiol yn hanfodol ac fe soniodd am
gyhoeddi astudiaethau achos ar unigolion sy'n gweithio fel swyddogion olrhain
cysylltiadau er mwyn hyrwyddo'r mater a thynnu sylw at ei bwysigrwydd; fe
fyddai yna gynllun cyfathrebu rhanbarthol.
Fe soniodd hefyd am elfen ‘Diogelu’ y prosiect gan ddweud fod ei
wasanaeth yn gweithio’n agos gyda busnesau o ran gwaith atal sydd yn parhau i
fod yn ffocws allweddol ar draws gwasanaethau awdurdodau lleol eraill. Fe soniodd y Cynghorydd Mark Young am
lwyddiant prosiect Profi, Olrhain a Diogelu yn Sir Ddinbych hyd yn hyn, ond
dywedodd bod rhagor o waith yn mynd rhagddo er mwyn canfod pa gefnogaeth fyddai
ar gael i fusnesau oedd wedi’u heffeithio’n wael yn rhan o’r broses honno. PENDERFYNWYD bod y Cabinet y dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad yn dilyn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol dros Gynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad, y Swyddog a151 a’r Swyddog Monitro ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Pleidlais: 7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol a gytunwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r
cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr
amlinellir isod - ·
y
gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 oedd £208.302 miliwn (£198.538 miliwn yn
2019/20). ·
rhagwelir
gorwariant o £7.585m ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol (nid oedd
y gorwariant yn rhagdybio unrhyw grant 'colli incwm’ y gellir ei dderbyn) ·
tynnwyd
sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth
unigol ynghyd ag effaith ariannol Coronafeirws a chyllidebau Model darparu
Amgen Hamdden ·
arbedion
ac arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol o £4.448m i gael eu nodi a’u cytuno
yn cynnwys arbedion corfforaethol sy’n ymwneud ag adolygiad actiwaraidd
teirblwydd o Gronfa Bensiynau Clwyd (£2m); 1% arbedion ysgolion (£0.692m);
arbedion gwasanaeth (£1.756m) ·
rhoddwyd
diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun
Cyfalaf Tai. Fe ymhelaethodd y Cynghorydd Thompson-Hill am y sefyllfa
ariannol bresennol, yn enwedig o ran effaith ariannol Covid-19, yn cynnwys
cyllid grant a gafwyd hyd yn hyn a’r sefyllfa ar hawliadau ar gyfer colledion
refeniw ac incwm ynghyd â chyflwyno pwysau gwariant ac incwm ar gyfer Chwarter
2. O ran colli incwm, roedd yna arwyddion gan Lywodraeth Cymru fod yna o leiaf
pedwar prif faes lle roedd colli incwm yn gyffredin ymysg y 22 awdurdod lleol,
a fyddai'n cael eu talu o hawliad Chwater 1. Roedd hyn yn cynnwys incwm o
hamdden, meysydd parcio, gwastraff a phrydau ysgol a byddai werth tua £2.5m i
Sir Ddinbych – nid oedd y ffigur yma wedi cael ei gynnwys yn y ffigurau gan na
dderbyniwyd cadarnhad ffurfiol eto. Efallai na fydd diffyg incwm sy’n cael ei
ystyried yn ‘benderfyniad lleol’ a gymerwyd gan awdurdodau lleol unigol yn cael
eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac nid yw’n hysbys sut y byddai colli incwm ar
gyfer Chwarter 2 a thu hwnt yn cael ei drin.
Roedd yr ansicrwydd sylweddol yn ei gwneud yn anodd iawn ar gyfer
cynllunio ariannol yn y dyfodol. Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a
ddilynodd - ·
Croesawodd
y Cynghorydd Bobby Feeley y cyllid grant a dderbyniwyd, yn enwedig ar gyfer
gofal cymdeithasol a digartrefedd, a dywedodd y byddai gwasanaethau hamdden yn
debygol o elwa o gyllid ar gyfer colli incwm yn Chwarter 1. Serch hynny, roedd
hi’n teimlo y dylid gwneud achos penodol i gydnabod gwasanaethau hamdden fel
gwasanaeth hamdden o ystyried y manteision iechyd a lles a ddylai gael eu
hariannu’n unol â hynny. Gobeithio y byddai’r hawliad am golli incwm ar
gyfer gwasanaethau hamdden yn Chwarter 1 yn cael ei dalu’n llawn. Fe ychwanegodd yr Arweinydd fod pob awdurdod
lleol yng Nghymru yn yr un sefyllfa o ran pwysau, ond fe soniodd am gyfarfodydd
rheolaidd gyda Gweinidogion trwy Gymdeithas Llywodraeth Lleol Cymru a oedd yn
ddull effeithiol o gyfathrebu, ac roedd y pwysau ariannol roedd awdurdodau
lleol yn ei wynebu wedi cael ei gydnabod.
Gobeithio y gellir mynd i’r afael â’r pwysau drwy gyllid grant, ond
roedd hi’n bwysig cael neges glir mewn cysylltiad â hynny wrth symud ymlaen er
mwyn dylanwadu ar y broses gyllideb ·
Gofynnodd
y Cynghorydd Mark Young am argaeledd y £78m a gyhoeddwyd yn y gyllideb atodol
ar gyfer colli incwm yn Chwarter 1 ac roedd yr Aelod Arweiniol Cyllid yn falch
o ddweud fod yr wybodaeth ddiweddaraf yn dangos y byddai’r swm llawn bellach yn
cael ei ddyrannu at y diben hwnnw. Fe ychwanegodd y Pennaeth Cyllid ei fod yn gobeithio y byddai’r hawliad am golli enillion ar draws y pedwar maes cyffredin yn y 22 awdurdod lleol yn cael ei dalu’n llawn, ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 279 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys. Penderfyniad: Pleidlais: 7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad PENDERFYNWYD nodi Blaenraglen Waith y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Waith i’r Dyfodol y Cabinet i’w
hystyried a nododd yr aelodau’r eitemau canlynol ar gyfer cyfarfodydd yn y
dyfodol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Meirick Davies at Brosiect
Archifau Sir Ddinbych a Sir y Fflint ar y Cyd oedd i fod i agor ym mis
Tachwedd, a dywedodd fod ‘Archifdy Gogledd Ddwyrain Cymru’ wedi cael ei
ddefnyddio i ddisgrifio’r prosiect mewn gohebiaeth. Gofynnodd bod enw Cymraeg yn cael ei
ystyried ar gyfer y prosiect ac i adolygu a oedd ‘Gogledd Ddwyrain’ yn briodol. Gofynnodd yr Arweinydd i’r Aelod Arweiniol
roi ystyriaeth dyledus i’r sylwadau yma. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Waith i’r Dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 11.20am. |