Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw fuddiant ei ddatgan.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

BARGEN DWF AR GYFER ECONOMI GOGLEDD CYMRU: DOGFEN GYNNIG pdf eicon PDF 200 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Economi a Llywodraethu Corfforaethol yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y Ddogfen Gynnig ar gyfer argymhelliad i’r Cyngor ei mabwysiadu a rhoi awdurdod i’r Arweinydd ymrwymo’r Cyngor, ynghyd â’i bartneriaid i fod yn rhan o gytundeb Penawdau'r Telerau gyda Llywodraethau Cymru a’r DU.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD –

 

 (a)      Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Ddogfen Gynnig ac yn argymell bod y Cyngor yn ei mabwysiadu fel (1) y sail ar gyfer strategaeth ranbarthol fwy hirdymor ar gyfer twf economaidd a (2) y cais rhanbarthol ar gyfer rhaglenni a phrosiectau â blaenoriaeth, a fydd yn sail ar gyfer cynnwys y Fargen Twf a lunnir wrth gytuno ar Benawdau Telerau gyda’r ddwy Lywodraeth.  Nid yw mabwysiadu’r ddogfen yn rhwymo’r Cyngor i wneud unrhyw fuddsoddiad ariannol ei hun am y tro, ac mae’n amodol ar bennu risgiau a manteision y Fargen Twf derfynol yn fanwl a’u hystyried yn llawn cyn cyflwyno’r Fargen derfynol er cymeradwyaeth faes o law; ac

 

 (b)      awdurdodi’r Arweinydd i ymrwymo’r Cyngor i gytuno ar Benawdau Telerau â’r ddwy Lywodraeth, ar y cyd ag arweinwyr gwleidyddol a phroffesiynol y naw partner statudol arall sydd â chynrychiolaeth ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a Chyngor Busnes Gogledd Cymru, Mersi a Dyfrdwy, o fewn y ffiniau hynny a bennir yn y Ddogfen Gynnig.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y Ddogfen Gynnig ar gyfer argymhelliad i’r Cyngor ei mabwysiadu a rhoi awdurdod i’r Arweinydd ymrwymo’r Cyngor, ynghyd â’i bartneriaid, i fod yn rhan o gytundeb penawdau'r telerau gyda Llywodraethau Cymru a’r DU.  Eglurodd yr angen i ystyried yr adroddiad ar gam cynharach er mwyn i’r Canghellor allu cynnwys cyfeiriad at y Fargen Dwf yn Natganiad Yr Hydref ar 29 Hydref 2018.

 

Darparwyd rhywfaint o wybodaeth gefndir ynglŷn â chymeradwyaeth cydweithrediadau yn flaenorol er mwyn mabwysiadu’r Weledigaeth Dwf a datblygu Cynnig Bargen Twf ar gyfer y rhanbarth.  Roedd y Ddogfen Gynnig yn nodi’r rhaglenni blaenoriaeth gweithgaredd a phrosiectau i’w hystyried ar gyfer eu cynnwys yn y Fargen Dwf yng ngham Penawdau'r Telerau ac roedd gofyn am gymeradwyaeth gan y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru fel y cam nesaf yn y broses.  Pwysleisiwyd nad oedd mabwysiadu yn rhwymo’r Cyngor i wneud unrhyw fuddsoddiad ariannol ei hun am y  tro, ac roedd yn amodol ar risgiau a manteision ariannol y Fargen Dwf derfynol yn cael eu nodi yn fanwl a’u hystyried yn llawn pan fo’r Fargen derfynol yn cael ei chyflwyno er cymeradwyaeth yn y dyfodol.

 

Dadleuodd yr Arweinydd mai'r Ddogfen Gynnig oedd y cyfle gorau i ehangu economi Gogledd Cymru a chystadlu â rhanbarthau eraill gan dynnu sylw at yr effaith bosibl ar Sir Ddinbych yn benodol.  Tynnwyd sylw hefyd at ba mor bwysig yw i Sir Ddinbych gyd-fynd â chynlluniau a strategaethau economaidd eraill drwy’r Fargen Dwf a nodwyd bod y Ddogfen Gynnig yn ddibynnol ar gyflawni strategaethau buddsoddi mewn ffyrdd a rheilffyrdd eraill megis Growth Track 360 a Rhaglen Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru.  Tynnodd yr Arweinydd sylw at ymrwymiad Llywodraethau Cymru a’r DU i fuddsoddi yn y fargen dwf ac fe dynnodd sylw at y berthynas ardderchog rhwng Arweinwyr y Cynghorau mewn partneriaeth ag addysg uwch ac addysg bellach a’r sector preifat a oedd wedi dangos hyder yn hynny o beth.  Unwaith y bydd maint posibl a chynnwys y Fargen Dwf yn hysbys, yn dilyn cytundeb Penawdau'r Telerau, gellir cynnal asesiad risg a dadansoddiad cost a budd llawn.  Byddai hyn ar gael ar gyfer gwneud penderfyniad cyn i’r rhanbarth ymrwymo yn ystod cam terfynol cytundeb Bargen Dwf yn hwyrach yn 2019.  Mae dadansoddi risg wedi’i gynnwys yn y modelu achos busnes ar gyfer y rhaglenni a phrosiectau sy’n rhan o’r Cynnig datblygu.  Roedd gan bob prosiect a restrwyd yn y Ddogfen Gynnig achos busnes amlinellol i ddangos eu gwerth.  Roedd materion pwysig eraill i’w nodi yn cynnwys -

 

·         bod yr achosion busnes amlinellol yn cael eu hadolygu gan weision sifil yng Nghaerdydd ac Abertawe ar hyn o bryd.

·         bod grŵp rhan-ddeiliaid ar gyfer y sector preifat wedi'i sefydlu a bod sesiynau herio wedi'u cynnal o fewn y rhanbarth.

·         bod amserlen risg yn cael ei datblygu fel rhan o’r cam nesaf – byddai ymrwymiadau ariannol y Cyngor yn dod yn amlycach dros y misoedd nesaf pan fo maint ymrwymiad ariannol y ddwy Lywodraeth yn hysbys.

·         pe bai Sir Ddinbych yn  cymryd rhan yn y Fargen Dwf byddai cyfleoedd pellach yn dilyn pe bai Sir Ddinbych yn  cymryd rhan yn y Fargen Dwf byddai cyfleoedd pellach yn Brexit i ymgysylltu’r rhanbarth â’r Gronfa Ffyniant.

                                                      

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Parth Cyhoeddus bwrpas y Ddogfen Gynnig i osod pecyn o fesurau ac ymyriadau mentrus er mwyn darparu twf economaidd cynaliadwy yng Ngogledd Cymru.  Yna, fe arweiniodd aelodau'r Cabinet drwy’r Ddogfen Gynnig a phwyntiau perthnasol o ran gosod yr achos ar gyfer buddsoddi; cyd-destun strategol a chyd- fynd â pholisi llywodraeth; gwerthusiad dewisiadau a’r ffordd  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

EITEMAU O’R PWYLLGORAU CRAFFU pdf eicon PDF 287 KB

Ystyried unrhyw faterion a godwyd gan y Pwyllgor Craffu at sylw’r Cabinet.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn cydnabod casgliadau ac argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn sgil ei adolygiad o benderfyniadau’r Cabinet ar 25 Medi;

 

 (b)      ar ôl ystyried argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau a’r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd yn y cyfarfod, yn cadarnhau’r penderfyniadau a wnaethpwyd ar 25 Medi 2018, sef –

 

(i)    cymeradwyo cynnal ymgynghoriad cyn cynllunio a cheisiadau cynllunio llawn dilynol (gan ystyried canlyniadau’r ymarfer cyn cynllunio) ar gyfer safleoedd preswyl a theithiol Sipsiwn a Theithwyr ar y safle 'Green-gates Farm East' yn y lleoliadau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad, a

 

(ii)  cymeradwyo cyflwyno ceisiadau cyllid i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chynigion ar gyfer safleoedd preswyl a/neu Sipsiwn a Theithwyr yn amodol ar roi caniatâd cynllunio yn unol â’r rhaglen a amlinellwyd ym mharagraff 4.11 o’r adroddiad.”

 

 (c)       bod yr Aelod Arweiniol yn meithrin cyswllt â’r Aelodau Lleol i gytuno ar y dull mwyaf priodol o ymgynghori â’r gymuned yn y cyfnod cyn cynllunio, ac

 

 (d)      o ran pob mater a ddaw gerbron y Cabinet er penderfyniad, bod yr Aelodau Arweiniol yn awr ac yn y dyfodol yn ystyried yr angen i friffio’r Aelodau eraill ac ymgysylltu â hwy, ac y gallai’r ffordd fwyaf priodol a chymesur o wneud hynny gynnwys Briffio’r Cyngor, Pwyllgor Craffu neu weithdai/sesiynau hyfforddiant.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Graham Timms, Is -Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad, yr adroddiad yn nodi casgliadau'r Pwyllgor Craffu yn dilyn ystyriaeth o alw i mewn penderfyniadau'r Cabinet ar 25 Medi 2018 mewn perthynas â darpariaeth Safle i Sipsiwn a Theithwyr.

 

Yn gryno, er y cydnabuwyd bod y Cabinet wedi derbyn a thrafod gwybodaeth bellach trwy sesiynau Briffio’r Cabinet, roedd y Pwyllgor Craffu o’r farn na ddarparwyd digon o wybodaeth er cymhariaeth yn yr adroddiad i’r Cabinet ar 25 Medi 2018 i alluogi’r Cabinet i wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â’r safle fwyaf addas.  O ganlyniad, gofynnwyd i’r Cabinet ailymweld â’i benderfyniad gan ystyried yr wybodaeth ychwanegol yn cynnwys data cymharol ar gyfer bob safle a’r rhesymau pam fod lleoliadau, a oedd wedi’u cynnwys ar restr gynharach o safleoedd posibl, wedi’u diystyru.  Hefyd, roedd y Pwyllgor Craffu o’r farn y dylai’r Cabinet fod wedi cyfeirio'r mater at sesiwn Briffio’r Cyngor fel y gallasai mwy o aelodau gyfrannu cyn gwneud penderfyniad ffurfiol ac argymhellwyd bod yr arfer hwn yn cael ei ddilyn wrth ystyried penderfyniadau a allai fod yn ddadleuol yn y dyfodol.  Mynegodd y Cynghorydd Timms ei farn ar amseriad adolygiad y Cabinet o’r penderfyniad ac roedd yn credu’n gryf, oherwydd y byr rybudd ac argaeledd yr wybodaeth ychwanegol a geisiwyd gan y Pwyllgor Craffu yn yr achos hwn, nad oedd digon o amser i'r holl gynghorwyr brosesu’r wybodaeth a gwneud trefniadau i fynychu a gofyn cwestiynau yn ystod cyfarfod y Cabinet.  Felly, anogodd y Cabinet i ailystyried ei benderfyniad ar y mater hwn yn ystod ei gyfarfod nesaf ar 30 Hydref 2018 a fyddai’n dangos bod y Cabinet wedi llwyr ystyried argymhellion y Pwyllgor Craffu.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd sut yr oedd darpariaethau’r ddeddfwriaeth hysbysiad cyhoeddus o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 wedi’u cyflawni a nododd fanylion am reolau galw i mewn y Cyfansoddiad.  Yn dilyn ystyried argymhellion y Pwyllgor Craffu, efallai y bydd y Cabinet yn ystyried adolygu’r penderfyniad yn ystod y cyfarfod hwn neu gyfarfod yn y dyfodol.  Darparodd yr Aelod Arweiniol, Y Cynghorydd Tony Thomas, wybodaeth gefndirol bellach gan ddweud bod y prosiect wedi bod yn mynd rhagddo ers peth amser ac nid oedd erioed wedi’i alw i'r Pwyllgor Craffu er i aelodau’r Cabinet gadarnhau bod yn well ganddynt safle ym mis Ebrill 2018. Ar ôl ystyried y materion a godwyd gan y Pwyllgor Craffu ac o ystyried bod yr wybodaeth yr oeddent wedi’i cheisio wedi’i darparu, cynigodd y Cynghorydd Thomas bod y Cabinet yn adolygu ei benderfyniad heb oedi, eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill.  Ar sail hynny, ceisiodd yr Arweinydd gadarnhad bod y Cabinet yn fodlon bod modd iddo wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ac yn dilyn pleidlais PENDERFNWYD YN UNOL Â HYNNY.  Fe ymatalodd y Cynghorydd Richard Mainon rhag pleidleisio ar y cynnig hwnnw.

 

Cyn adolygu’r penderfyniad, cyfeiriodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts at argymhelliad 3.3 y Pwyllgor Craffu, sef i'r holl gynghorwyr gael eu briffio ar benderfyniadau a allai fod yn ddadleuol yn ystod sesiynau Briffio’r Cyngor, cefnogodd y Cabinet ei gynnig am ddiwygiad i gynnwys dulliau briffio eraill fel y bo’n briodol, yn cynnwys y Pwyllgor Craffu, Grwpiau Ardal Yr Aelodau neu weithdai/ digwyddiadau hyfforddiant.

 

         GW    GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

 

Er mwyn ailymweld â’r penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 25 Medi 2018 ac ystyried manylion yr atodiadau cyfrinachol -

 

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

Atgoffodd y Swyddog  ...  view the full Cofnodion text for item 5.