Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Tony
Thomas Cofnodion: Y Cynghorydd Tony
Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau |
|
DATGAN CYSYLLTIADAU PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bu datganiad o
fuddiant gan y Cynghorwyr Meirick Davies, Peter Scott, Glenn Swingler a Mark
Young mewn perthynas ag eitem 5 ar y rhaglen – Cynigion Band B Rhaglen Ysgolion
yr 21ain ganrif. Datganodd y
Cynghorwyr Huw Hilditch-Roberts a Bobby Feeley gysylltiad personol ag eitem 8
ar y rhaglen (Gweithredu Model Darparu Amgen ar gyfer amrywiol
weithgareddau/swyddogaethau cysylltiedig â hamdden: prydles eiddo. Cofnodion: Datganodd yr
aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem 5 ar y rhaglen – Cynigion Band B
Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif – Y Cynghorydd
Meirick Davies – Llywodraethwr Ysgol Cefn Meiriadog ac Ysgol Trefnant Y Cynghorydd
Peter Scott – Llywodraethwr Ysgol Fabanod Llanelwy Y Cynghorydd
Glenn Swingler – Llywodraethwr Ysgol Pendref Y Cynghorydd Mark
Young – Llywodraethwr Ysgol Uwchradd Dinbych Datganodd y
Cynghorwyr Huw Hilditch-Roberts a Bobby Feeley gysylltiad personol ag eitem 8
ar y rhaglen – Gweithredu Model Darparu Amgen ar gyfer amrywiol
weithgareddau/swyddogaethau cysylltiedig â hamdden: prydlesu eiddo – gan eu bod
yn Gyfarwyddwyr ar Hamdden Sir Ddinbych Cyf. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 19 Tachwedd 2019 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019. Materion a godwyd – Tudalen 9, Eitem 5 Strategaeth Lyfrgelloedd 2019
– 22 – cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai'r fforwm priodol yn cael gwybod
am ganlyniad y dadansoddiad ar gymariaethau costau gwasanaeth gydag awdurdodau
eraill pan fyddai wedi'i gwblhau. PENDERFYNWYD
derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019 a’u cadarnhau fel
cofnod cywir. |
|
RHAGLEN YSGOLION YR 21AIN GANRIF - CYNIGION BAND B PDF 297 KB I ystyried yr
adroddiad gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Gwasanaethau
Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd (copi i ddilyn) yn ceisio cymeradwyaeth y
Rhaglen Amlinellol Strategol diwygiedig i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) Cymeradwyo’r
Rhaglen Amlinellol Strategol (Atodiad 1 yr adroddiad) ar gyfer ei gyflwyno i
Lywodraeth Cymru, a (b) chadarnhau eu
bod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer
y Rhaglen Amlinellol Strategol ddiwygiedig (Cynigion Band B) ar gyfer Rhaglen
Ysgolion yr 21ain Ganrif i'w chyflwyno i Lywodraeth Cymru. Roedd
y Cabinet wedi cytuno ar y Rhaglen Amlinellol Strategol ym mis Gorffennaf 2017,
ac fe gafodd ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2017. Y
rhaniad o ran cyllid ar gyfer y rhaglen Band A oedd 50% gan Lywodraeth Cymru a
50% gan awdurdodau lleol, ond ym mis Tachwedd 2018, cyhoeddodd LlC gyfraddau
diwygiedig ar gyfer Band B fel a ganlyn – 65% o gyfraniad gan LlC, ar gyfer
ysgolion arbennig gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion, cyfraniad o 75% ac ar
gyfer Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir, 85% gan Lywodraeth Cymru a 15% gan yr Awdurdod
Esgobaethol neu’r Corff Llywodraethu. Yn dilyn gwaith dichonoldeb ar
ysgolion yn ardal yr adolygiad, roedd rhaglen ddiwygiedig wedi ymddangos gyda’r
costau cyfredol yn debygol o fod yn fwy na dyraniad cymeradwy'r rhaglen o £80
miliwn a chyfraniad gan Lywodraeth Cymru o £45 miliwn. Roedd y diwygiadau i’r
cyfraddau cyllid hefyd wedi gostwng y rhaniad posib’ ar gyfer Sir Ddinbych o
£32 miliwn i oddeutu £21 miliwn. Roedd nifer o opsiynau wedi’u
hystyried ar y ffordd ymlaen ac yn unol ag argymhelliad y Bwrdd Moderneiddio
Addysg, argymhellwyd y dylid mynd at Lywodraeth Cymru i drafod cynnydd posib’
yn eu hadnoddau yn seiliedig ar hanes Sir Ddinbych o gyflawni a fforddiadwyedd
y cynigion. Rhoddodd
yr Aelod Arweiniol eglurhad ar y cynlluniau buddsoddi ar gyfer y cynigion Band
B a oedd yn canolbwyntio ar ysgolion yn ardaloedd Dinbych, y Rhyl a Llangollen
ac eglurodd y rhesymau dros unrhyw newidiadau i'r rhaglen a gymeradwywyd yn
flaenorol. Ceisiodd
gymeradwyaeth y Cabinet i’r rhaglen ddiwygiedig ac roedd yn awyddus i’r
cynigion gael eu datblygu. Trafododd
y Cabinet yr adroddiad gyda’r Aelod Arweiniol fel a ganlyn – ·
Amlygodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill yr angen am fuddsoddi mewn ysgolion eraill a oedd y tu allan i’r
rhaglen, gan gyfeirio’n benodol at Ysgol Uwchradd Prestatyn. Cytunodd yr Aelod Arweiniol
ond eglurodd fod y gwaith oedd ei angen mewn ysgolion yn llawer mwy na’r cyllid
a oedd ar gael ac felly roedd angen cyflwyno proses flaenoriaethu i dargedu’r
ardaloedd lle’r oedd yr angen mwyaf. Roedd yr asesiad o ysgolion ar
gyfer Band B wedi blaenoriaethu ysgolion o ran eu cyflwr yn gyffredinol ond
cadarnhaodd bod buddsoddiadau'n dal i gael eu gwneud mewn ysgolion eraill, gan
dynnu sylw at waith adnewyddu penodol a gwaith cynnal a chadw a wnaed yn Ysgol
Uwchradd Prestatyn. Yn
rhan o gynlluniau yn y dyfodol, byddai angen gwneud gwaith i fesur effaith
ysgol newydd Crist y Gair ac ysgol gynradd newydd bosib' y Rhyl ar niferoedd
disgyblion yn yr ardal. ·
Gofynnodd y Cynghorydd Bobby
Feeley i’r cyfeiriad at “permeations” ar dudalen 11 yn yr adroddiad Saesneg
gael ei newid i "permutations". ·
Ceisiodd y Cynghorydd Mark
Young sicrwydd ynghylch cyfathrebu a chadarnhaodd yr Aelod Arweiniol y
cysylltwyd â phob pennaeth ynghylch yr adroddiad ac y byddai ymgynghoriad
ehangach gydag ysgolion a llywodraethwyr wrth i faterion ddatblygu. ·
Bu i’r swyddogion adrodd ar
ddewisiadau eraill a ystyriwyd fel y ffordd ymlaen, gan gynnwys lleihau cwmpas
y rhaglen ac ariannu prosiectau y tu allan i'r rhaglen honno'n llawn. Pe bai’r Cabinet yn cymeradwyo'r argymhelliad ac na
dderbynnid ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru, byddai dewisiadau eraill yn
cael eu hailystyried. ·
O ran amserlen, roedd disgwyl
ymateb gan Lywodraeth Cymru erbyn Mawrth 2020. Ymatebodd
yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion hefyd i gwestiynau gan aelodau nad oeddent yn
aelodau o’r Cabinet fel a ganlyn – · A rhoi y byddai LlC yn ymateb yn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYNIGION I DDIWYGIO CYLCH GORCHWYL AR GYFER Y GRŴP CYNLLUNIO STRATEGOL PDF 213 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol ar gyfer Cynllunio,
Gwarchod Y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel (copi’n amgaeedig) yn ceisio
cymeradwyaeth y Cabinet o’r diwygiadau i’r cylch gorchwyl ar gyfer y Grŵp
Cynllunio Strategol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo Cylch Gorchwyl diwygiedig y Grŵp Cynllunio
Strategol (Atodiad 1 yr adroddiad). Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Mark Young yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i
ddiwygiadau i Gylch Gorchwyl y Grŵp Cynllunio Strategol. Cymeradwyodd
y Cabinet sefydlu Grŵp Cynllunio Strategol (GCS) a’i Gylch Gorchwyl ym mis
Ionawr 2018 yn lle Grŵp Aelodau'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Y bwriad oedd sefydlu
Grŵp llai, mwy cryno i roi arweiniad corfforaethol wrth ddatblygu'r CDLl
newydd nes y byddai'n cael ei fabwysiadu'n ffurfiol. Roedd gan y Grŵp
swyddogaeth anweithredol ond roedd yn adrodd yn ôl ac yn gwneud argymhellion
i’r Cabinet a/neu’r Cyngor yn ôl yr angen. Yng nghyfarfod y Grŵp Cynllunio
Strategol fis Gorffennaf 2019, cynigiwyd y dylid diwygio’r Cylch Gorchwyl ac yn
dilyn trafodaethau pellach yng nghyfarfodydd Briffio’r Cabinet a'r Grŵp, argymhellodd
y Grŵp – ·
na ddylid newid aelodaeth
graidd y Grŵp ·
dylai cyfarfodydd fod yn
agored i’r holl aelodau ·
dim ond arsylwi cyfarfodydd y
gallai aelodau nad oeddent yn aelodau craidd o’r Grŵp ei wneud, ac nid
cyfrannu na siarad ·
i ganiatáu mwy o hyblygrwydd
i’r Grŵp gyfarfod yn fwy aml yn ôl yr angen, dylai’r Grŵp gyfarfod
pob dau fis neu fel y cytunir. Ystyriodd
y Cabinet yr adroddiad a’r argymhellion a gyflwynwyd gan y Grŵp Cynllunio
Strategol ac roedd barn gymysg ynghylch effeithiolrwydd prosesau i ymgysylltu a
sicrhau bod cyfle i’r holl aelodau leisio barn a dylanwadu ar drafodaethau ac
argymhellion, yn enwedig o ystyried pwysigrwydd y CDLl. Er bod rhai aelodau’n teimlo
bod y prosesau’n gweithio’n dda iddynt hwy a bod digon o gyfle i godi materion
a rhoi adborth trwy Grwpiau Ardal yr Aelodau, roedd eraill yn cwestiynu
effeithiolrwydd y broses, yn enwedig lle’r oedd gwahaniaeth barn ar bolisïau
neu strategaethau penodol a oedd dan ystyriaeth, a lle’r oedd cyfarfodydd
Grwpiau Ardal yr Aelodau’n cael eu canslo ac yn dibynnu ar gynrychiolwyr y
Grwpiau hynny. Canolbwyntiwyd
ar y prif faterion trafod a ganlyn – ·
Roedd y Cynghorydd Brian Jones
yn teimlo bod y Grŵp Cynllunio Strategol wedi cyflawni ei bwrpas ac y
dylid ei ddiddymu. Credai
fod y Cylch Gorchwyl yn annemocrataidd gan nad oedd yn caniatáu i aelodau
siarad a theimlai y dylai pob aelod allu cyfrannu. Roedd yn gwybod am aelodau
eraill a oedd yn anhapus â’r trefniadau cyfredol. ·
dywedodd yr Arweinydd bod
llawer o waith gan y Grŵp i’w wneud eto ac roedd yn credu bod Grwpiau
Ardal yr Aelodau’n rhan bwysig o sicrhau trafodaeth agored a mewnbwn i ffocws a
chyfeiriad gwaith y Grŵp. Roedd
y broses yn gweithio’n dda i Grŵp Ardal Rhuthun ac os oedd unrhyw
broblemau’n codi o arsylwi cyfarfodydd y Grŵp Cynllunio Strategol, gellid
eu codi trwy Grwpiau Ardal yr Aelodau. Roedd hefyd yn teimlo bod y
broses ddemocrataidd wedi cael ei pharchu, gyda chyfle i’r holl aelodau fod yn
rhan. · Amlygodd y Cynghorydd Richard Mainon mai grŵp heb fod yn un gweithredol ydoedd, gydag ond chwe aelod o Grwpiau Ardal yr Aelodau, ond roedd ganddo rôl ddylanwadol wrth lunio’r CDLl newydd, a fyddai’n cael effaith hirdymor enfawr. O ystyried rôl hanfodol bwysig y Grŵp, teimlai ei bod yn anghywir gwahardd aelodau rhag cyfrannu a siarad yn y cyfarfodydd hynny a dywedodd hefyd, gan fod dau gyfarfod Grŵp Ardal Aelodau Elwy wedi'u canslo, na fu unrhyw gyfle iddynt leisio barn oherwydd y prosesau sydd ar waith ar hyn o bryd, ac roedd ardal Grŵp Elwy, o bosib', yn un o’r rhai a oedd yn cael ei heffeithio fwyaf yn y sir. Roedd y Grŵp i’w weld wedi mabwysiadu deinameg gwleidyddol ond nid oedd yn wleidyddol gytbwys a theimlai ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
POLISÏAU CYFLOGAETH PDF 211 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Richard Mainon, Aelod Arweiniol dros Safonau
Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol (copi’n amgaeedig) yn cyflwyno dau bolisi
cyflogaeth i’w mabwysiadu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cymeradwyo’r
polisïau cyflogaeth fel y nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer mabwysiadu, a (b) chadarnhau eu
bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (atodiad
i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Richard Mainon yr adroddiad yn argymell mabwysiadu dau bolisi
cyflogaeth a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â’r Undebau Llafur cydnabyddedig
oedd yn trafod (1) Diswyddo a (2) Recriwtio a Dewis. Dywedwyd
wrth y Cabinet am yr adolygiad cylchol o bolisïau cyflogaeth i sicrhau eu bod
yn gyfredol, yn berthnasol ac yn sicrhau bod cyfrifoldebau’n cael eu cyflawni’n
dda. Roedd
y ddau bolisi wedi eu llunio yn dilyn cydweithio cadarnhaol drwy’r broses
ymgynghori y cytunwyd arni ac fe gawsant eu cymeradwyo’n unfrydol gan y
Cydbwyllgor Ymgynghorol ar Iechyd a Diogelwch a Chysylltiadau Cyflogaeth. Darparwyd crynodeb o bob
polisi ac eglurodd y Cynghorydd Mainon bod y polisi Disgyblu’n adlewyrchu’r
weithdrefn a ddilynir yn well ac yn cynnwys dogfen Asesiad Risg Gwaharddiad
ynghyd â phroses gyflym i gael ei rhoi ar waith gan y gweithiwr i ganiatáu i
achosion gael eu trin yn amserol. Roedd y Polisi Recriwtio a
Dewis yn cynnwys adran ar Lwybrau Gyrfa i hwyluso dringo o fewn yr awdurdod ac
yn dilyn deddfwriaeth newydd, roedd y Cynllun Gwarantu Cyfweliad wedi’i ddileu
ac fe gafodd yr adran 'Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd' ei chynnwys. Cefnogodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr argymhellion a’r lefel o ymgynghori ar y
polisïau ac arweiniodd at gymeradwyaeth unfrydol gan ochr y cyflogwr a'r
gweithwyr o'r Cydbwyllgor Ymgynghorol. Mewn ymateb i gwestiwn gan yr
Arweinydd, ehangodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd ar
bwrpas y broses gyflymach y gallai gweithwyr ofyn amdani mewn achosion o
gamymddwyn lefel isel a oedd wedi’i llunio ar y cyd â’r undebau llafur. Eglurodd ac amlygodd hefyd
rinweddau'r broses ymgynghori ar ddatblygu polisi i bob ochr gydweithio. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cymeradwyo’r
polisïau cyflogaeth fel y nodwyd yn yr adroddiad i’w mabwysiadu, a (b) cadarnhau ei fod
wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (atodiad i’r
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet i ganiatáu 16 prydles, un ar yfer cyfnod o 10 mlynedd ar rent pitw, i
Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig ar delerau a nodir o fewn yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) rhoi
cymeradwyaeth i ganiatáu prydlesi 10 mlynedd i Hamdden Sir Ddinbych Cyf ar
gyfer pob un o’r safleoedd am rent rhad. Bydd y prydlesi wedi’u seilio ar
brydlesi safonol (Atodiad 3 yr adroddiad). Bydd addasiadau penodol i’r safle yn cael eu
cynnwys ym mhob un o'r prydlesi hyn er mwyn ymgorffori: cytundebau rhannu
defnyddwyr blynyddol, rhwymedigaethau cyllidwyr grant, gofynion y Comisiwn
Elusennau, cyngor gan gynghorwyr treth CSDd, meddiannaeth trydydd parti, yn
ogystal ag unrhyw drefniadau safle lleoledig; gan roi awdurdod dirprwyedig i’r
Pennaeth Cyllid a Gwasanaethau Eiddo gytuno, mewn ymgynghoriad â’r Aelod
Arweiniol Cyllid ac Effeithlonrwydd a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD
a Democrataidd, ac (b) chadarnhau eu
bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4
yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet i roi un ar bymtheg o brydlesi, a phob un am gyfnod o ddeng mlynedd ar
rent rhad, i Hamdden Sir Ddinbych Cyf ar delerau fel maent wedi'u nodi yn yr
adroddiad. Ym mis
Mai 2019, cytunodd y Cabinet i sefydlu Hamdden Sir Ddinbych Cyf, sy’n Gwmni
Masnachol Awdurdod Lleol, cyfyngedig drwy warant, sy’n eiddo’n gyfan gwbl i’r
Cyngor. Roedd
y adroddiad yn cynrychioli cam arall yn y broses honno yn ymwneud â phrydlesu
un ar bymtheg eiddo i Hamdden Sir Ddinbych fel roedd yr adroddiad yn nodi,
ynghyd â’r telerau nodedig. O
ystyried yr amryw faterion penodol i safleoedd lle mae angen mwy o eglurder a
manylder y gallai Hamdden Sir Ddinbych fod eisiau eu codi, argymhellwyd y dylid
rhoi’r prydlesi ar sail y brydles safonol ddrafft gan roi pwerau dirprwyedig
i'r Pennaeth Cyllid ac Eiddo ar y cyd ag Aelod Arweiniol Cyllid a Phennaeth y
Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd i gytuno ar fân amrywiadau mewn
perthynas â’r materion hynny. Byddai
unrhyw wyriad sylweddol oddi wrth y brydles safonol yn dod yn ôl ger bron y
Cabinet. Cyfeiriwyd
hefyd at elfen y Dreth Trafodion Tir a sefyllfa Sir Ddinbych o ran hynny, a
oedd wedi’i nodi yn yr adroddiad. Dywedodd
y Cynghorydd Bobby Feeley bod ganddi nifer o bwyntiau i’w codi ynghlwm â’r
prydlesi ac roedd yn falch bod proses ar waith i gytuno ar amrywiadau dilynol. Cwestiynodd hefyd lefel yr
ymgynghori ac amlygodd nad oedd Pennaeth Hamdden wedi’i gynnwys yn rhan o’r
broses honno. O
ran y risgiau sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, roedd hi’n teimlo, o ystyried
natur unigryw’r achos hwn, na fyddai unrhyw fantais o gynnwys y risgiau ynghlwm
â chyfranogiad y Cyngor a’i rwymedigaethau. I ategu’r pwynt hwnnw, er
eglurder, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf bod
rhwymedigaethau ar y ddwy ochr yn nhrefniadau’r prydlesi ond nad oedd yr
adroddiad ond wedi cyfeirio at y risgiau ynghlwm â Hamdden Sir Ddinbych ac nid
ynghlwm â’r Cyngor yn cyflawni ei rwymedigaethau ei hun yn hynny o beth. Gan ymateb i’r materion a
godwyd eglurodd yr Aelod Lleol a'r swyddogion bod – ·
y penderfyniad yn cael ei
wneud gan y Cyngor ac felly roedd yr adroddiad yn cynnwys y risgiau posib’ i’r
Cyngor a oedd angen eu hystyried wrth benderfynu a ddylid caniatáu’r prydlesi
ai peidio ar sail yr hyn sydd yn yr adroddiad. Roedd angen i’r Cyngor ystyried
ei fuddion ei hun a sicrhau ei fod yn cyflawni ei rwymedigaethau mewn perthynas
â threfniadau’r prydlesi. Gallai
fod risg i Hamdden Sir Ddinbych, yn dibynnu ar ymddygiad y Cyngor, ond ni
fyddai’r risg honno wedi’i chynnwys yn yr adroddiad gan nad oedd y Cyngor yn
risg iddo ef ei hun. Y
lle priodol i gofnodi’r risgiau i Hamdden Sir Ddinbych fyddai eu Cofrestr Risg
eu hunain. ·
ymgynghoriadau wedi’u cynnal
mewn perthynas â’r Model Darparu Amgen gyda’r rheiny sydd wedi’u rhestru yn yr
adroddiad ac o ran safleoedd penodol, roeddent yn cynnwys ymgynghori â Chyngor
Tref y Rhyl o ran eu diddordeb yn SC2, Cyngor Celfyddydau Cymru o ran cyllid
grant ynghyd ag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen o ran Pafiliwn Llangollen a
oedd heb eu rhestru. Cododd
y Cabinet gwestiynau pellach ynglŷn â’r risgiau i’r Cyngor ynghyd â'r
’haniad cyfrifoldebau rhwng y Cyngor a Hamdden Sir Ddinbych, yn benodol o ran
cynnal a chadw, ynghyd â goblygiadau ariannol cyflawni rhwymedigaethau’r
prydlesi o ran hynny a’r effaith o ganlyniad ar lwyddiant ariannol Hamdden Sir
Ddinbych. Atebodd
yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion y cwestiynau fel a ganlyn – · roedd y risg na fyddai'r Model Darparu ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn (b) cymeradwyo
Sylfaen y Dreth Gyngor i osod cyllideb 2020/21 fel y manylir yn Atodiad 6 yr
adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cyng. Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r
cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y
Cyngor fel a ganlyn – ·
y
gyllideb refeniw net ar gyfer 2019/20 oedd £198.538 miliwn (£194.418 miliwn yn
2018/19). ·
rhagwelid
y byddai gorwariant o £1.678 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a
chorfforaethol. ·
amlygwyd
y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â meysydd gwasanaeth
unigol. ·
nodwyd
fod angen arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £5.672 miliwn, gan gynnwys
arbedion corfforaethol a nodwyd yn 2018/19 (£0.5 miliwn), arbedion ysgolion
gwerth 2% (£1.32 miliwn) ac arbedion yn y gwasanaethau (£3.852 miliwn), gyda
dyraniad cymeradwy o £616,000 o Gronfa Wrth Gefn Cyflawni Arbedion i dalu am
arbedion heb eu cyflawni. ·
rhoddwyd
diweddariad cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun
Cyfalaf Tai. Gofynnwyd i’r Cabinet hefyd gymeradwyo Sylfaen
Treth y Cyngor i osod cyllideb 2020/21, a oedd yn gyfrifiad technegol fel yr
oedd wedi’i nodi yn yr adroddiad. Cyfeiriodd yr Arweinydd at ddatblygiad yr ysgol
newydd ar gyfer Ysgol Llanfair a datblygiad tai mawr arall yn y pentref a oedd,
gyda'i gilydd, yn achosi amhariadau mawr. Er ei fod yn croesawu twf a buddsoddiad yn yr
ardal, teimlai y gellid dysgu gwersi o ran rheoli dull cydlynol wrth gau ffyrdd
ac ati, gan ddweud bod angen rhyw ffurf ar ymgysylltu â datblygwyr a’r gymuned
i gyfathrebu a threfnu gwaith penodol i gael yr effaith leiaf bosib’. Soniodd yr Aelod Arweiniol am y berthynas
dda gyda chontractwyr a oedd yn gwneud prosiectau ysgol mawr a chadarnhaodd bod
strategaeth gyfathrebu’n cael eu chyflawni drwy’r fframwaith caffael. Roedd llai o reolaeth dros ddatblygwyr
preifat ond gallai fod gyfleoedd yn y dyfodol i drosglwyddo cynnydd sydd wedi’i
wneud gan y Tîm Caffael ar brosiectau mwy’r Cyngor i ddatblygiadau tai fel
roedd amser yn mynd yn ei flaen. O ran yr oedi a oedd yn cael ei achosi gan waith cysylltu draeniau dŵr
budr, bu cost o ganlyniad ond roedd wedi’i chynnwys yn y gyllideb gyffredinol
ar gyfer y prosiect. PENDERFYNWYD bod y Cabinet
yn – (a) nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a (b) cymeradwyo
Sylfaen Treth y Cyngor i osod cyllideb 2020/21 fel y manylir yn Atodiad 6 yr
adroddiad. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 209 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD
nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau/ diwygiadau canlynol – ·
Darpariaeth
Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr – wedi’i ohirio o fis Ionawr i fis Chwefror ·
Trefniant
Llywodraethu 2 Cynnig Twf Gogledd Cymru – Chwefror (gallai gael ei ohirio) ·
Argymhellion
y Grŵp Buddsoddi Strategol – Chwefror PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100(a) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei
datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A o’r Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
CYNLLUN AMDDIFFYN ARFORDIR DWYRAIN Y RHYL Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff,
Cludiant a’r Amgylchedd (copi’n amgaeedig) yn ceisio awdurdodiad y Cabinet i
amrywio’r cytundeb cyn-adeiladu ar sail gwerth cytundeb diwygiedig. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) awdurdodi’r
amrywiad i’r contract cyn adeiladu, yn seiliedig ar werth contract diwygiedig
fel y nodir o fewn yr adroddiad, a (b) chadarnhau eu
bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1
yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad
cyfrinachol yn ceisio awdurdodiad y Cabinet i amrywio’r contract cyn-adeiladu
mewn perthynas â Chynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain y Rhyl yn seiliedig ar
werth diwygiedig i'r contract. Roedd y Cyngor wedi cymeradwyo cam adeiladu’r
cynllun ym mis Medi 2019. Oherwydd nad
oedd y gweithgareddau adeiladu’n cychwyn tan fis Ebrill 2020, roedd cyfle i
ddod â rhai o’r gweithgareddau a gynlluniwyd ar gyfer y cam adeiladu ymlaen a'u
cyflawni yn ystod y cam cyn-adeiladu. Byddai hyn yn lleihau costau’r cam adeiladu a
gallai hefyd leihau cost gyffredinol y cynllun a lleihau’r risgiau o oedi wrth
ymdrin ag amgylchiadau annisgwyl. Roedd manylion goblygiadau ariannol y cynllun ynghyd â gwerth diwygiedig y
contract cyn-adeiladu wedi'i nodi yn yr adroddiad. Roedd angen awdurdodiad y Cabinet oherwydd
gwerth y contract. Mewn ymateb i gwestiynau, darparodd y Rheolwr Perygl Llifogydd fwy o
fanylion am y gwaith a oedd i gael ei wneud yn ystod y cyfnod cyn-adeiladu a
chadarnhaodd y manteision o nodi unrhyw risgiau ar gam cynt yn y broses er mwyn
ymdrin â nhw fel y bo'n briodol. Nododd y Cabinet na fyddai’r gweithgareddau
cyn-adeiladu ychwanegol yn cynyddu cost gyffredinol y prosiect a nododd y
manteision o ddod â rhai gweithgareddau ymlaen i’r cam cyn-adeiladu. O ganlyniad - PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) awdurdodi’r
amrywiad i’r contract cyn adeiladu, yn seiliedig ar werth contract diwygiedig
fel y nodir o fewn yr adroddiad, a (b) cadarnhau ei fod
wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 i’r
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. |
|
CYTUNDEB TRWYDDEDU MICROSOFT ENTERPRISE Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Richard
Mainon, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol
(copi i ddilyn) yn ceisio penderfyniad mewn perthynas â dyfarnu Cytundeb
Trwyddedu Microsoft ar gyfer yr awdurdod. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cytuno’n
ôl-weithredol i ddyrannu'r broses caffael ar gyfer Trwyddedau Microsoft drwy
Fframwaith Masnachol Crown, a elwir yn RM 3733 ac i ddyfarnu’r contract i
Ddarparwr Datrys Trwyddedu (fel y manylir o fewn yr adroddiad a rannwyd yn y
cyfarfod) er mwyn gosod archeb trwyddedu gyda Microsoft, a (c) chadarnhau bod
yn rhaid gweithredu’r penderfyniad ar unwaith yn unol â pharagraff 7.25 yng
nghyfansoddiad y Cyngor. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Richard Mainon yr
adroddiad cyfrinachol ynghlwm â’r broses gaffael ar gyfer Trwydded Microsoft ac
argymhellodd ddyfarnu’r contract am gyfnod o dair blynedd. Rhoddwyd rhywfaint o gefndir ynghylch
darpariaethau’r contract a’r broses gaffael a ddefnyddiwyd yn yr achos hwn. Roedd adroddiad atodol (a ddosbarthwyd yn y
cyfarfod) yn rhoi mwy o fanylion ar y cyflwyniadau tendro ynghyd â'r meini
prawf gwerthuso a'r broses asesu a arweiniodd at y Darparwr Datrysiadau
Trwyddedu Microsoft a argymhellwyd. Tynnwyd sylw’r Cabinet hefyd at y manylion ariannol fel roeddent wedi’u
nodi yn yr adroddiad a’r bwlch cyllid ym mlynyddoedd 2 a 3 a sut y gellid mynd
i’r afael â hwnnw. Argymhellwyd y dylid gweithredu’r penderfyniad i ddyrannu’r
contract ar unwaith o ystyried bod y cytundeb trwyddedu cyfredol yn dod i ben
ar 29 Rhagfyr 2019. Ystyriodd y Cabinet yr ymarfer caffael diweddar a
chanlyniad y broses honno ynghyd ag argymhellion yr adroddiad ac o ganlyniad – PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cytuno’n
ôl-weithredol i ddyrannu'r broses gaffael ar gyfer Trwyddedau Microsoft drwy
Fframwaith Masnachol y Goron, a elwir yn RM 3733 ac i ddyfarnu’r contract i
Ddarparwr Datrysiadau Trwyddedu (fel y manylir o fewn yr adroddiad a rannwyd yn
y cyfarfod) er mwyn creu archeb drwyddedu gyda Microsoft, a (c) cadarnhau ei bod
yn rhaid gweithredu’r penderfyniad ar unwaith yn unol â pharagraff 7.25 yng
nghyfansoddiad y Cyngor. Daeth y cyfarfod i ben am 12.22pm. |