Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Tony Thomas – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 11 ar y Rhaglen

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Tony Thomas gysylltiad personol gydag eitem 11 ar y rhaglen gan ei fod yn Is-Gadeirydd Ardal Gwella Busnes (BID) y Rhyl  ac roedd Civica yn casglu ardoll y BID.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 374 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2019 (copi ynghlwm).  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2019 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2019.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2019 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

DOGFEN UWCH-GYNLLUN A GWELEDIGAETH CANOL TREF Y RHYL pdf eicon PDF 298 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi ynghlwm) yn cyflwyno fersiwn derfynol dogfen weledigaeth Canol Tref Y Rhyl a’r dull arfaethedig i gyflawni’r gwaith llywodraethu a darparu adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cefnogi’r uchelgeisiau hirdymor a’r 8 syniad allweddol sydd wedi’u nodi yn nogfen y Weledigaeth (Atodiad 2), a

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1) fel rhan o'i ystyriaethau a’i fod yn ymrwymo i’r Cyngor ganolbwyntio ar gyflawni’r effeithiau cadarnhaol, hirdymor ar les sydd wedi’u cynnwys ynddo.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a fersiwn derfynol o ddogfen Weledigaeth Canol Tref y Rhyl a'r dull arfaethedig ar gyfer llywodraethu a rhoi adnoddau i'w gyflawni.

 

Roedd y Cyngor wedi gweithio ar y cyd dros y deunaw mis diwethaf gan ymgysylltu gydag ystod o bobl a phartneriaid i ddatblygu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer Canol Tref y Rhyl, a oedd yn canolbwyntio ar: ddarparu cytbwysedd bywiog o ran defnydd, gwell mynediad at ganol y dref a llif cerddwyr o amgylch canol y dref, ac atmosffer canol y dref dymunol.  Mae wyth syniad allweddol wedi’u cynhyrchu ac roedd gwaith ar y gweill i’w datblygu mewn rhaglen gwaith i'r dyfodol o flaenoriaethau a phrosiectau dros gyfnod pymtheg mlynedd y Weledigaeth.   Byddai hyn yn ffurfio sail y cynllun gweithredu drafft ar gyfer y rhaglen er mwyn i Fwrdd Rhaglen y Rhyl ei symud ymlaen.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y buddsoddiad a’r gwelliannau sylweddol yn y Rhyl dros y blynyddoedd diwethaf a bod angen cynllunio i ddatblygu canol y dref gyda Gweledigaeth a oedd yn adlewyrchu dyheadau lleol drwy broses ymgysylltu helaeth, ac a oedd yn ategu at gynlluniau presennol a buddsoddiad gyda dull cydlynol.   Darparodd y Rheolwr Rhaglen a Thîm Datblygu Busnes ac Economaidd rywfaint o gefndir creu'r ddogfen Weledigaeth a phroses ymgysylltu gynhwysfawr, gan dynnu sylw at y prif themâu sy'n dod i'r amlwg a'r prosiectau allweddol i ddatblygu'r syniadau allweddol, a darparu trosolwg o brosiectau presennol a'r rhai sydd eisoes ar y gweill er mwyn cymryd mantais o'r cyfleoedd cyllid adfywio presennol a gyda'r nod o ddenu buddsoddiad y sector preifat.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd hefyd at waith Bwrdd Datblygu Cymunedol y Rhyl yn ategu at yr uwch gynllun a mynd i'r afael â materion cymdeithasol ac eglurodd y Prif Weithredwr rôl y Bwrdd, yn cynnwys uwch arweinwyr o'r sectorau statudol, i ystyried sut i wneud y budd mwyaf ar y cyd o fuddsoddiad ac adfywio wedi'i gynllunio'n ehangach yn y Rhyl i gydlynu a gwneud y mwyaf o gyfleoedd o ran cyflogaeth, iechyd, addysg, diogelwch cymunedol a thai.   Roedd y Cyngor wedi penderfynu buddsoddi mewn Swyddog Datblygu Cymunedol yn y Rhyl i weithio gyda’r gweithwyr o’r asiantaethau statudol, y sector gwirfoddol a’r grwpiau cymunedol i gynorthwyo i gyfeirio a gwneud y mwyaf o gyfleoedd cyllid ac adnoddau, i adrodd i’r Bwrdd ac i Grŵp Cyfeirio’r Rhyl i sicrhau ymgysylltiad gwleidyddol, a byddai adroddiadau'n cael eu cyflwyno i'r Cabinet.   Roedd y Bwrdd wedi gosod targedau llym yn seiliedig ar y dangosyddion amddifadedd gyda’r bwriad o nodi effaith y buddsoddiad ar breswylwyr.

 

Croesawodd y Cabinet y ddogfen fel modd o ddarparu canolbwynt clir ar gyfer canol y dref a’i adfywiad a rhoi hyder a chreu dyfodol hir dymor gwell ar gyfer y Rhyl.   Croesawyd y broses ymgysylltu gynhwysfawr a’r ymdrechion cydweithredol i gynhyrchu’r Weledigaeth hefyd.   Roedd y prif bwyntiau trafod yn cynnwys -

 

·          o ran blaenoriaethu a chynllunio prosiectau, hysbyswyd yr aelodau bod y ddogfen Weledigaeth yn nodi rhaglen hir dymor a byddai prosiectau’n cael eu blaenoriaethu gan ddefnyddio’r fethodoleg gorfforaethol yn seiliedig ar fuddion a chanlyniadau mesuradwy; darparwyd sicrwydd o ran hyblygrwydd o fewn y cynllun i ymateb i’r cyfleoedd fel yr oeddent yn dod i'r amlwg pe bai cyllid ar gael, yn yr un modd pe bai diddordeb gan y sector preifat byddai'n bosibl symud prosiect i fuddsoddiad sector preifat diogel a gwneud y mwyaf o'r buddion.

·         Nododd y Prif Weithredwr adfywiad ffisegol y Rhyl a oedd yn amlwg wrth ymweld â’r dref a’r cynlluniau adfywio hirdymor, a thynnu sylw at yr her o sicrhau y byddai buddsoddi mewn isadeiledd yn cael effaith gadarnhaol ar breswylwyr lleol a safonau  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CYFLWYNO MODEL DARPARU AMGEN (MDA) AR GYFER AMRYWIOL WEITHGAREDDAU/ SWYDDOGAETHAU CYSYLLTIEDIG Â HAMDDEN - CYFANSODDIAD Y BWRDD LLYWODRAETHU STRATEGOL pdf eicon PDF 390 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Bobby Feeley, Aelod Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth a Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet o gyfansoddiad y Bwrdd Llywodraethu Strategol i fonitro a rheoli'r berthynas rhwng y Cyngor a Denbighshire Leisure Limited (y Cwmni).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo cyfansoddiad y Bwrdd Llywodraethu Strategol sydd wedi’i nodi ym mharagraff 4.10 o’r adroddiad fel a ganlyn -

 

·         Prif Weithredwr neu ei chynrychiolydd enwebedig (Cadeirydd)

·         Yr Arweinydd

·         Aelod Arweiniol Cyllid

·         Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol

·         Cadeirydd o Bwyllgor Craffu

·         Swyddog Monitro (neu gynrychiolydd enwebedig)

·         Swyddog S151 (neu gynrychiolydd enwebedig)

·         Rheolwr Contractau

·         Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer cyfansoddiad y Bwrdd Llywodraethu Strategol i fonitro a rheoli’r berthynas rhwng y Cyngor a Denbighshire Leisure Limited (y Cwmni).   [Byddai gweithrediad dydd i ddydd y Cwmni’n gyfrifoldeb i Fwrdd Cyfarwyddwyr y Cwmni sy’n destun adroddiad ar wahân]

 

Roedd y Cyngor wedi cytuno i gefnogi creu cwmni masnachu awdurdod lleol cyfyngedig drwy warant nad er elw ar 30 Mai 2019 ac roedd yr adroddiad yn gam arall yn y broses honno.   Byddai’r Cwmni yn endid cyfreithiol ar wahân i'r Cyngor ond byddai'n darparu gwasanaethau i'r Cyngor o dan delerau contract.   O ganlyniad byddai angen sefydlu fforwm, sef y Bwrdd Llywodraethu Strategol arfaethedig, er mwyn galluogi’r Cyngor i gynnal gwaith monitro a darparu trosolwg rheolaidd ac effeithiol o berfformiad y Cwmni a lle y gellir trafod materion amrywiol rhwng y Cyngor a'r Cwmni.

 

Ymhelaethodd Pennaeth y Gyfraith, AD a’r Gwasanaethau Democrataidd ymhellach ar rôl y Bwrdd a'r rhesymau dros y cyfansoddiad a awgrymir i gynnwys aelodau a swyddogion allweddol yn unol â'r rolau dynodedig o fewn yr awdurdod.   Gan mai syniad y Cabinet oedd y Bwrdd yn ei hanfod er mwyn goruchwylio'r swyddogaeth hamdden gweithredol, penderfyniad y Cabinet ydoedd nid penderfyniad y Cyngor.   Wrth ymateb i gwestiynau, pwysleisiodd y swyddogion fuddion y penderfyniad i greu Cwmni newydd a sefydlu Bwrdd Llywodraethu Strategol i'w oruchwylio.   O ran hyfforddiant staff, cadarnhawyd y byddai gan staff o fewn y Cwmni a'r Cyngor amodau a thelerau cyfartal a gallent ddisgwyl mynediad cyfartal ar gyfer eu hanghenion hyfforddiant.   Ond pe nodir anghenion hyfforddiant ar gyfer staff o fewn y Cwmni, fel unrhyw anghenion hyfforddiant a nodir ar gyfer Staff y Cyngor, ni fyddai o reidrwydd yn cael ei ddarparu gan y Cyngor a gallai gael ei ddarparu gan gorff allanol.   Eglurwyd hefyd bod cyllideb ddigonol wedi’i dyrannu i’r Cwmni ar gyfer costau prynu mewn perthynas â'r gwasanaethau cefnogaeth megis hyfforddiant, cyfathrebu / marchnata, cyllid, TGCh ac AD - gallai'r Cwmni ddewis, a byddent i ddechrau, yn prynu cefnogaeth gan y Cyngor ond yn ddiweddarach efallai y byddant yn dewis prynu'r gwasanaethau cefnogaeth o fan arall.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)       yn cymeradwyo cyfansoddiad y Bwrdd Llywodraethu Strategol fel y nodwyd ym mharagraff 4.10 o’r adroddiad fel a ganlyn-

 

·         Prif Weithredwr neu gynrychiolydd enwebedig (Cadeirydd)

·         Yr Arweinydd

·         Aelod Arweiniol Cyllid

·         Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol

·         Cadeirydd Pwyllgor Craffu

·         Swyddog Monitro (neu gynrychiolydd enwebedig)

·         Swyddog A151(neu gynrychiolydd enwebedig)

·         Rheolwr Contractau

·         Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant

 

(b)       yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1) fel rhan o'u hystyriaethau.

 

 

7.

CYFLWYNO MODEL DARPARU AMGEN (MDA) AR GYFER AMRYWIOL WEITHGAREDDAU/ SWYDDOGAETHAU CYSYLLTIEDIG Â HAMDDEN - CYFANSODDIAD Y BWRDD CYFARWYDDWYR pdf eicon PDF 300 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Bobby Feeley, Aelod Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth a Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn gofyn am argymhelliad y Cabinet i'r Cyngor ynghylch cyfansoddiad a phenodi Bwrdd Cyfarwyddwyr Denbighshire Leisure Limited (y Cwmni).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo cyfansoddiad Bwrdd Cyfarwyddwyr y Cwmni fel y nodir yn yr adroddiad ac argymell y cyfansoddiad hwn i’r Cyngor -

 

·         Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus

·         Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth

·         Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd

·         Rheolwr Gyfarwyddwr

·         Cyfarwyddwr Annibynnol x2

·         Aelod nad yw’n aelod o’r Cabinet

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad yn ceisio argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor ar gyfansoddiad  a phenodiad Bwrdd Cyfarwyddwyr Denbighshire Leisure Limited (y Cwmni) a fydd yn gyfrifol am weithrediad dydd i ddydd y Cwmni.   [Byddai monitro a goruchwylio perfformiad y Cwmni yn gyfrifoldeb i’r Bwrdd Llywodraethu Strategol fel y cymeradwywyd ynghynt yn y rhaglen].

 

Ar 30 Mai 2019 cytunodd y Cyngor y byddent yn cefnogi creu cwmni masnachu awdurdod lleol cyfyngedig drwy warant nad er elw ac roeddent wedi cymeradwyo penodi’r Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Economi a’r Parth Cyhoeddus  fel Cyfarwyddwr.   Er bod yr achos busnes cychwynnol wedi awgrymu Cyfarwyddwr Cyllid roedd gwaith pellach yn awgrymu y gellir darparu arbenigedd, cyngor a rheolaeth ariannol priodol o'r Cwmni mewn modd arall heblaw drwy greu swydd ar y Bwrdd.   Felly cynigwyd bod y rolau’n cael eu llenwi gan gynghorwyr a gweithwyr y Cwmni ynghyd ag aelodau annibynnol sy’n cael eu recriwtio drwy hysbyseb agored.

 

Eglurodd Pennaeth y Gyfraith, AD a’r Gwasanaethau Democrataidd rôl y Bwrdd ymhellach a phwysigrwydd cynnwys cymysgedd priodol o sgiliau yn yr aelodaeth.   Roedd Saith Cyfarwyddwr wedi'u cynnig ac fe gynigwyd bod rhai swyddi penodol ar y Bwrdd yn cael eu llenwi o ganlyniad i swydd neu gyflogaeth benodol h.y.  Cyfarwyddwr Corfforaethol, Rheolwr Gyfarwyddwr, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd.  Awgrymwyd Cyfarwyddwr ychwanegol nad yw’n aelod o’r Cabinet, gyda phrofiad busnes a /neu ddiddordeb yn y sector hamdden, gan nodi y dylid ceisio enwebiadau ar gyfer y rôl gan y Cyngor.   Awgrymwyd y dylid llenwi’r ddwy swydd arall ar gyfer Cyfarwyddwyr gan unigolion annibynnol sy'n cael eu recriwtio drwy hysbyseb agored, un gyda phwyslais ar hamdden / cyllid a'r llall ar ddatblygu cymunedol / hamdden, ac y dylid eu penodi gan y Cyngor.   Eglurwyd hefyd y byddai’r rhai sy’n cael eu penodi i'r Bwrdd yn destun cyfrifoldebau statudol Cyfarwyddwyr ac yn derbyn hyfforddiant.   Fel rhan arferol o’u dyletswyddau byddai’r Cyfarwyddwyr yn cael eu digolledu mewn perthynas â'u gwahanol rwymedigaethau.

 

Mewn ymateb i gwestiynau, cadarnhawyd-

 

·         o ran y ddau Gyfarwyddwr Annibynnol, awgrymwyd y dylent dderbyn yr un taliadau presenoldeb â'r aelodau cyfetholedig ar gyfer y Pwyllgorau Craffu, aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau ac aelod lleyg y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol fel y gosodwyd gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, ac y byddai’r Cwmni’n gyfrifol am wneud y taliadau hynny.

·         roedd gan yr holl Gyfarwyddwyr gyfrifoldeb statudol i osgoi gwrthdaro buddiannau.   

Roedd Cytundeb Aelod ac Erthyglau Cymdeithas wedi'u hysgrifennu mewn modd lle na ddylid trin swyddogion neu aelodau o'r cyngor fel rhai sydd â buddiannau sy’n gwrthdaro os ydynt yn gwasanaethu fel Cyfarwyddwyr.   O ran penodiadau annibynnol yna byddai’n rhaid iddynt gydymffurfio â’r holl reolau ar gyfer Cyfarwyddwyr mewn perthynas â gwrthdaro buddiannau a datgan unrhyw gysylltiad o'r fath.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)       yn cefnogi cyfansoddiad Bwrdd Cyfarwyddwyr y Cwmni fel y nodir yn yr adroddiad ac yn argymell y cyfansoddiad i'r Cyngor-

 

·         Cyfarwyddwr Corfforaethol:

Economi a’r Parth Cyhoeddus

·         Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth

·         Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd

·         Rheolwr Gyfarwyddwr

·         Cyfarwyddwr Annibynnol x 2

·         Aelod nad yw’n aelod Cabinet

 

(b)       yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1) fel rhan o'u hystyriaethau.

 

Ar y pwynt hwn (11.25 am) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth.

 

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLI’R TRYSORLYS 2018/19 pdf eicon PDF 200 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ynglŷn â pherfformiad y swyddogaeth rheoli trysorlys ac yn dangos cydymffurfiad y Cyngor â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn ystod 2018/19.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi perfformiad swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2018/19 a’i chydymffurfiaeth â’r Dangosyddion Darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2018/19 (Atodiad 1 yr adroddiad), a

 

(b)       cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad yn diweddaru'r aelodau ar berfformiad y swyddogaeth rheoli trysorlys ac yn dangos cydymffurfiad â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn ystod 2018/19.

 

Wrth grynhoi'r adroddiad, cyfeiriodd y Cynghorydd Thompson-Hill at bwysigrwydd rheoli’r trysorlys a chyfeirio at y cefndir economaidd a'i effaith ar weithgareddau rheoli'r trysorlys.  Nododd y prif bwyntiau ar gyfer aelodau o ran gweithgareddau benthyca a buddsoddi a chadarnhau cydymffurfiaeth gyda’r holl ddangosyddion darbodus a osodwyd, gan ymhelaethu ar y dangosyddion a nodwyd yn Atodiad B a chadarnhau cymarebau priodol costau ariannu a lefelau benthyca o fewn y terfynau.

 

 Cafwyd rhywfaint o drafod ynglŷn â’r gymhareb ragamcanol a’r gymhareb wirioneddol o’r costau ariannu i’r ffrwd refeniw net ac fe gadarnhawyd na osodwyd unrhyw lefel statudol ac mai cyfrifoldeb awdurdodau unigol oedd ystyried beth oedd yn lefel ddarbodus yn eu tyb nhw.   Cyfeiriwyd hefyd at y drefn gyllid a nodwyd drwy ariannu Cynllun Amddiffyn yr Arfordir yn Nwyrain y Rhyl yn ddiweddar ac effaith refeniw y newid hwnnw, ac yr oedd disgwyl i'r awdurdod lleol ariannu'r holl fenthyca ymlaen llaw ond gyda chyfraniad Llywodraeth Cymru’n cael ei ad-dalu dros y cyfnod benthyca o 25 mlynedd.   Fel Aelod Arweiniol cadarnhaodd y Cynghorydd Thompson-Hill ei fod yn gyfforddus gyda’r lefel bresennol a nododd ei fod yn cynrychioli gwerth da ar y buddsoddiadau a wnaed.  Ychwanegodd y Prif Gyfrifydd / Swyddog A151 bod ymarferion meincnodi ysbeidiol yn cael eu cynnal gydag awdurdodau lleol eraill at ddibenion cymharu a oedd yn nodi bod y Cyngor o fewn terfynau cyfforddus.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)       Yn nodi perfformiad swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2018/19 a’i chydymffurfiaeth â’r dangosyddion darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2018/19 (Atodiad 1 yr adroddiad), ac

 

(b)       yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'u hystyriaethau.

 

 

9.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 305 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a

 

(b)       cymeradwyo defnyddio’r Grant Cynnal Ysgolion sydd wedi’i ddyfarnu i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru, fel yr argymhellir gan y Grŵp Buddsoddi Strategol ac a fanylir arno yn yr adroddiad hwn ac atodiadau 5, 6 a 7.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.  Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2019/20 oedd £198.538 miliwn (£194.418m yn 2018/19)

·        roedd amcanestyniad o orwariant o £1.379 miliwn ar gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol

·        nodwyd fod angen arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £5.672 miliwn, gan gynnwys arbedion corfforaethol a nodwyd yn 2018/19 (£0.5 miliwn), arbedion ysgolion gwerth 2% (£1.32 miliwn) ac arbedion yn y gwasanaethau (£3.852 miliwn)

·        tynnwyd sylw at risgiau ac amrywiadau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth penodol, yn enwedig o ran gorwariant yn y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a’r Gwasanaethau Addysg a Phlant er gwaethaf cynnydd yn y cyllidebau sylfaenol, a

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai

 

Gofynnwyd i'r Cabinet gymeradwyo'r defnydd o’r Grant Cynhaliaeth Ysgolion fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol.

 

Trafododd y Cabinet y materion canlynol yn fanwl-

 

·         o ran cludiant ysgol, roedd newidiadau deddfwriaethol sy’n dod i rym yn y flwyddyn newydd yn ei gwneud yn ofynnol bod mynediad i bobl anabl ar gludiant nad yw’n gonsesiynol, ac o ystyried bod consesiynau’n cael eu cynnig i blant eisoes, roedd pryderon difrifol am y gallu i ddiwallu'r ddarpariaeth.   

Nodwyd y byddai Grŵp Ymgynghorol Cludiant rhanbarthol yn ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Chludiant yn tynnu sylw at y pryderon hynny a chytunodd y Cynghorydd Brian Jones y byddai hefyd yn ysgrifennu at y Gweinidog ar ran y Cyngor.

·         Croesawodd yr aelodau’r Grant Cynhaliaeth Ysgolion a ddyfarnwyd i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru a'r newidiadau a oedd yn caniatáu defnyddio cyllid ar gyfer gwaith hanfodol a meysydd gyda'r anghenion mwyaf ac fe gefnogodd y Cabinet y dull na ddylid dyrannu cyllid i ysgolion ym Mand A Ysgolion yr 21ain Ganrif neu ysgolion sy'n debygol o elwa o Fand B ac argymhellion y Grŵp Buddsoddi Strategol.

·         Cafwyd rhywfaint o drafodaeth ynglŷn â gofal cymdeithasol plant, yn benodol o ran costau lleoliadau, ac fe eglurodd Cyfarwyddwr : Cymunedau bod Gweithgor Llywodraeth Cymru yn ystyried y mater hwnnw ymhellach a chomisiynu darparwyr o ansawdd uchel – cydnabuwyd bod costau lleoliadau yn wahanol mewn gwahanol ardaloedd yn y DU gydag ardaloedd â phoblogaeth uwch yn meddu ar fwy o bŵer prynu.   

Cadarnhaodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts bod y Cyngor yn gwneud popeth o fewn eu gallu i fynd i'r afael â'r costau ac roedd ganddo hyder yn y broses gomisiynu.   Eglurodd yr anawsterau o ran creu darpariaeth arbenigol yn lleol o ystyried y gwahanol anghenion a’r flaenoriaeth oedd comisiynu lleoliadau sy’n diwallu anghenion y plant orau gan olygu lleoliadau y tu allan i’r sir mewn achosion arbenigol gan achosi costau lleoliadau uchel.

·         Tynnodd y Cynghorydd Bobby Feeley sylw at y pwysau parhaus yn y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Oedolion  gyda gweddill cronfa wrth gefn y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio i ddiwallu’r gorwariant presennol na fyddai ar gael yn y dyfodol a gofynnodd bod mwy o arian yn cael ei ddyrannu i’r gwasanaeth.

 

Wrth ymateb i gwestiynau gan gynghorwyr nad oeddent yn Aelodau o’r Cabinet, bu i’r Aelodau Arweiniol a’r swyddogion ymateb fel a ganlyn –

 

·         o ran balansau ysgolion, roedd cynlluniau adfer ariannol cadarn yn eu lle ar gyfer ysgolion gyda diffyg ariannol ac rydym yn eu monitro’n agos; roedd yr holl ysgolion gyda diffyg ariannol yn datblygu fel y disgwylir yn erbyn eu cynlluniau adfer a byddai diweddariad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.   

Roedd balansau  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 290 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau canlynol -

 

·         Strategaeth Llyfrgelloedd – Hydref

·         Castell Bodelwyddan – Tachwedd

 

Cadarnhawyd y byddai adroddiad ar Brosiect Archif ar y Cyd Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu cyn y Cabinet ym mis Tachwedd.

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A o’r Ddeddf.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

11.

ESTYNIAD I GYTUNDEB GWASANAETH A REOLIR AR GYFER DARPARU GWASANAETHAU REFENIW A BUDD-DALIADAU

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn y Cytundeb Gwasanaeth a Reolir ar gyfer darparu Gwasanaethau Refeniw a Budd-daliadau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi’r buddion ariannol a buddion eraill sy’n gysylltiedig ag ymestyn y contract gyda Civica;

 

(b)       cymeradwyo estyniad o 3 blynedd i’r contract gyda Civica i ddarparu'r Cytundeb Gwasanaeth a Reolir ar gyfer Gwasanaethau Refeniw a Budd-daliadau, a

 

(c)        cadarnhau bod yn rhaid gweithredu’r penderfyniad ar unwaith yn unol â pharagraff 7.25 yng nghyfansoddiad y Cyngor.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad cyfrinachol yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn Cytundeb Gwasanaeth a Reolir ar gyfer darparu Gwasanaethau Refeniw a Budd-daliadau.

 

Darparwyd rhywfaint o wybodaeth gefndir ynglŷn â'r contract presennol ynghyd â'r rhesymau dros yr argymhelliad ar gyfer estyniad o'r bartneriaeth o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2025 o ystyried yr arbedion a fydd yn cael eu gwireddu yn y cyfnod ac i ganiatáu parhad llwyddiant y bartneriaeth fel y nodwyd yn yr adroddiad ac i sicrhau parhad busnes.   Roedd y contract gwreiddiol yn caniatáu estyniad o 3 blynedd yn unol â’r gofynion ond oherwydd gwerth y contract roedd angen cymeradwyaeth y Cabinet.   Cynigiwyd bod y penderfyniad yn cael ei weithredu ar unwaith gan fod trafod y disgownt i ryw raddau yn dibynnu ar allu Civica i gwblhau’r cytundeb cyn diwedd eu blwyddyn ariannol ar 30 Medi er mwyn gallu ei ystyried yn eu datganiadau ariannol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)       yn nodi buddion ariannol a buddion heb fod yn ariannol o ganlyniad i ymestyn y contract gyda Civica;

 

(b)       Cymeradwyo estyniad o 3 blynedd i’r contract gyda Civica i ddarparu Cytundeb Gwasanaeth a Reolir ar gyfer darparu Gwasanaethau Refeniw a Budd-daliadau, a

 

(c)        Chadarnhau bod yn rhaid gweithredu’r penderfyniad ar unwaith yn unol â pharagraff 7.25 o gyfansoddiad y Cyngor.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.40pm.