Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 303 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2018 (copi’n amgaeedig).  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2019 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2019.

 

Materion yn Codi – Tudalen 6, Eitem 4 Cofnodion (Materion yn Codi) – Cabinet 30 Hydref 2018 (Darparu Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr) – Adroddodd y Cynghorydd Peter Scott ar ei gyfarfod gyda’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau i drafod yr adroddiad ymgynghori cyn cynllunio.  Roed yn teimlo nad oedd yr adroddiad wedi bod yn agored a thryloyw ac roedd yn bryderus fod sylwadau a gwrthwynebiadau pwysig gyda chyfiawnhad wedi cael eu diystyru gyda chamau lliniaru aneffeithiol ac amhriodol wedi’u cynnig.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Scott y byddai’n ymhelaethu mwy ar ei bryderon o dan yr eitem ar y rhaglen ynghylch Darparu Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. 

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2019 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

DARPARU SAFLEOEDD SIPSIWN A THEITHWYR pdf eicon PDF 225 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol dros Dai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd (copi’n amgaeedig), yn diweddaru'r Cabinet ar yr ymarfer ymgynghori cyn cynllunio o ran darparu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr preswyl a sefydlog, a chyflwyno’r dewisiadau ar gyfer bwrw ymlaen â’r prosiect.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn nodi dadansoddiad o’r ymarfer ymgynghori cyn cynllunio a gwblhawyd mewn perthynas â safleoedd preswyl a thramwy arfaethedig ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr ar safle Fferm Greengates (Dwyrain) yn  Llanelwy fel yr amlinellir yn Atodiad 2 yr adroddiad hwn.

 

 (b)      yn nodi argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2019 fel y nodwyd ym mharagraff 8.4 yr adroddiad;

 

 (c)       wrth ymateb i’r pryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyn cynllunio ynglŷn ag agosrwydd y safleoedd i’w gilydd, diffyg ymgynghoriad  arwyddocaol gyda’r Gymuned Deithiol gan gydnabod yr angen blaenoriaethol ar gyfer y teulu preswyl, bod y Cabinet yn cytuno i beidio â symud ymlaen gyda'r safle tramwy Sipsiwn a Theithwyr ar Fferm Greengates (Dwyrain) trwy gais cynllunio ffurfiol, a bod lleoliad y safle datblygu arfaethedig hwn yn cael ei benderfynu trwy broses ddyrannu safle ffurfiol fel rhan o fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol newydd;

 

 (d)      wedi ystyried yr opsiynau ar gyfer y safle preswyl i Sipsiwn a Theithwyr, cytuno i symud ymlaen â datblygiad safle preswyl Sipsiwn a Theithwyr Fferm Greengates (Dwyrain) drwy’r broses cais cynllunio ffurfiol yn y lleoliad a nodir yn Atodiad 3 yr adroddiad, ac y dylai’r cais cynllunio ffurfiol gynnwys fel cefndir wybodaeth gefnogol yr holl wybodaeth statudol yn ogystal ag asesiadau effaith busnes a phreswyl a mesurau addas ar gyfer lliniaru lle bo hynny'n angenrheidiol;

 

 (e)      pa bynnag opsiynau sy’n cael eu dewis i bennu lleoliad ar gyfer Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr preswyl a thramwy, na chaiff y safleoedd hynny eu datblygu yn agos i’w gilydd;

 

 (f)        nad yw’r Cabinet yn argymell dyrannu safle tramwy yn Fferm Greengates (Dwyrain) fel rhan o broses y Cynllun Datblygu Lleol, a

 

 (g)      yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les (Atodiad 5 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas yr adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet yn dilyn yr ymarfer ymgynghori cyn cynllunio a gynhaliwyd mewn perthynas â darparu safleoedd preswyl a thramwy ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr ac amlinellu’r opsiynau ar gyfer bwrw ymlaen â'r prosiect ac argymhellion mewn perthynas â cham nesaf y prosiect. Cymerodd y cyfle hefyd i ddiolch i'r swyddogion am eu gwaith caled yn hynny o beth.

 

Darparwyd rhywfaint o wybodaeth gefndir yn yr adroddiad, gan gynnwys gofyniad statudol y Cyngor i gynnal asesiad o anghenion llety preswyl a thramwy ar gyfer sipsiwn a theithwyr a gwneud darpariaeth ar gyfer safleoedd pan nodwyd angen. Roedd yr asesiad wedi nodi'r angen am un safle preswyl ac un safle tramwy ac yn dilyn proses gynhwysfawr o ddewis safleoedd, roedd y Cabinet wedi cymeradwyo cynnal ymgynghoriad cyn-gynllunio ar y cynnig i leoli'r ddau safle ar Greengates Farm East, Llanelwy. Darparwyd manylion yr ymgynghoriad hwnnw, gan gynnwys dadansoddiad o'r ymatebion a dderbyniwyd, yn yr adroddiad ynghyd ag argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar ôl ystyried yr ymarfer ymgynghori cyn cynllunio a dadansoddiad o ymatebion.

 

Argymhellodd yr adroddiad fod y Cabinet yn cytuno i beidio â symud ymlaen â'r safle tramwy yn Greengates Farm East a bod y lleoliad yn cael ei benderfynu drwy'r broses ffurfiol o ddyrannu safleoedd fel rhan o fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd. Argymhellwyd hefyd y dylai'r Cabinet ystyried a ddylid datblygu safle preswyl yn Greengates Farm East trwy gais cynllunio ffurfiol neu drwy broses y CDLl. Mewn unrhyw achos, argymhellwyd na ddylid lleoli'r safleoedd tramwy a phreswyl yn agos at ei gilydd.

 

Trwy gyflwyniad power point, gwnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y pwyntiau canlynol

 

·         ail-bwysleisiwyd dyletswyddau statudol a deddfwriaeth berthnasol y Cyngor yn hynny o beth

·         darparwyd trosolwg o'r cynigion ar wahân ar gyfer safleoedd preswyl a thramwy

·         rhoddwyd trosolwg o'r broses ymgynghori cyn cynllunio

·         rhoddwyd crynodeb o weithgarwch lleol o amgylch yr ymgynghoriad

·         amlygwyd y pryderon Cydraddoldeb a godwyd fel rhan o'r ymgynghoriad

·         darparwyd trosolwg a dadansoddiad o'r ymatebion a dderbyniwyd a'r materion a godwyd.

 

Wrth gloi dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol mai barn y swyddogion oedd y gellid lliniaru'r materion cynllunio perthnasol yn foddhaol a bod ymchwil yn awgrymu nad oedd yr effeithiau canfyddedig yn debygol o ddigwydd.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod cyfrifoldebau statudol y Cyngor yn glir o ran darparu llety i Sipsiwn a Theithwyr a rhaid i'r Cabinet fod yn fodlon mai'r lleoliad arfaethedig oedd yr un cywir ar gyfer y safleoedd hynny. Ychwanegodd na fyddai dadl ar sefyllfa teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan y datblygiadau posibl.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Huw Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau, drosolwg o'r ddadl graffu ar yr ymarfer ymgynghori cyn cynllunio ac adborth yn ystod y cyfarfod ar 14 Mawrth 2019 ac ymhelaethodd ar y rhesymeg y tu ôl i'w hargymhellion i'r Cabinet “(i) nad yw’r safleoedd Sipsiwn a Theithwyr preswyl a thramwy yn cael eu datblygu yn agos at ei gilydd, ble bynnag y meant yn cael eu lleoli, a (ii) bod lleoliad y safleoedd Sipsiwn a Theithwyr preswyl a thramwy yn cael eu penderfynu drwy broses barhaus y Cynllun Datblygu Lleol”. Fel pwynt o eglurhad cadarnhaodd y Cynghorydd Brian Jones y byddai'r CDLl newydd yn cael ei fabwysiadu yn 2021 ar gyfer y cyfnod hyd at 2033. Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai'r Cabinet yn ystyried safbwynt y pwyllgor craffu yn ofalus a’i fod yn gwerthfawrogi eu mewnbwn i'r broses gwneud penderfyniadau.

 

Roedd y prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y canlynol

 

·         Adroddodd y Cynghorydd Tony Thomas ar y broses ymgynghori gynhwysfawr ac ymhelaethodd ar bryderon y gymuned fusnes, gan nodi tystiolaeth o  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 423 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb;

 

 (b)      yn nodi'r defnydd arfaethedig o arian a ddygwyd ymlaen o ran gwasanaethau, ac

 

 (c)       yn cymeradwyo cynlluniau cyfalaf tai yn Aquarium Street a John Street Y Rhyl fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol ac fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllideb y cytunwyd arni. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2018/19 oedd £194.418m (£189.252m yn 2017/18)

·        rhagwelwyd gorwariant o £0.487m ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·        tynnu sylw at risgiau ac amrywiannau cyfredol sy'n ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, a

·        darparu diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol).

 

Gofynnwyd i'r Cabinet hefyd nodi bod y defnydd arfaethedig o gyllidebau a gaiff eu cario drosodd gan wasanaethau a chymeradwyo'r cynlluniau cyfalaf tai yn Aquarium Street a John Street, Y Rhyl fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol ac a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Codwyd y materion canlynol yn ystod y drafodaeth

 

·        rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd i'r Cabinet gan ddweud bod y duedd ar i lawr o ran y pwysau cyllidebol yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf wedi digwydd yn bennaf oherwydd y camau cadarnhaol a gymerwyd gan uwch swyddogion wrth reoli gwariant i sicrhau sefyllfa fwy cadarn yn y dyfodol.

·        Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones bod Dawnus Construction, a oedd wedi is-gontractio’r contract cynnal a chadw pont Pont y Ddraig allan, wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn ddiweddar. Darparwyd sicrwydd bod mesurau dros dro wedi eu gweithredu i sicrhau bod y bont yn gweithredu'n effeithiol a'i bod yn cael ei chynnal a'i chadw'n iawn cyn dyfarnu contract cynnal a chadw ffurfiol.

·        Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd hefyd fod Dawnus Construction yn un o'r cynigwyr llwyddiannus ar Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru ac adroddodd ar drafodaethau gyda'r gweinyddwyr ynghylch eu sefyllfa a'u cyfreithlondeb ynghylch y broses honno a gwaharddiad posibl Dawnus o'r fframwaith – pe byddai’n cael ei wahardd, mae'n debyg y byddai Dawnus yn cael ei ddisodli gan y cyflenwr â’r sgôr uchaf nesaf.

·        roedd cyfeiriad at orwariant yn ymwneud ag SC2 wedi'i gynnwys yn yr adroddiad ac eglurodd y Pennaeth Cyfleusterau, Asedau a Thai nad oedd gorwariant ar SC2 ac eglurodd fod y gwasanaeth, yn hytrach na gofyn am arian corfforaethol, wedi dewis cynnwys y costau sefydlu cyfan. Roedd y ddarpariaeth ar gyfer costau sefydlu wedi ei chynnwys yn yr achos busnes gwreiddiol ac roedd y gwasanaeth cyfan wedi cyflawni gormod i gynnwys y costau sefydlu hynny.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet  

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllideb y cytunwyd arni;

 

(b)       nodi'r defnydd arfaethedig o gyllidebau a gaiff eu cario drosodd gan wasanaethau, a

 

(c)        chymeradwyo'r cynlluniau cyfalaf tai yn Aquarium Street a John Street, Y Rhyl fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol ac a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

7.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 283 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sy’n amgaeedig, a nodi'r cynnwys.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried.

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.40 pm.