Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd

 

Cofnodion:

Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol:  Tai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 472 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 22 Ionawr 2019 (copi’n amgaeedig). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2019 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2019.

 

 Materion yn codi - Tudalen 6, Eitem 4 Cofnodion (Materion yn Codi) - Cabinet 30 Hydref 2018 (Darpariaeth Safle Sipsiwn a Theithwyr) - Diolchodd y Cynghorydd Peter Scott i'r Arweinydd am y datganiad diweddar i'r wasg yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar y safleoedd sipsiwn a theithwyr arfaethedig a chadarnhau ei fod yn edrych ymlaen at y cyfarfod adroddiad darpariaeth gyda Chyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau’r wythnos ganlynol.   Mewn ymateb i’w gais bod y mater yn cael ei atgyfeirio i’r pwyllgor craffu cadarnhawyd y byddai’r mater yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu Cymunedau ar 14 Mawrth 2019.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2019 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

POLISÏAU CYFLOGAETH pdf eicon PDF 221 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol dros Safonau Corfforaethol (copi’n amgaeedig) yn argymell mabwysiadu nifer o bolisïau cyflogaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet

 

 (a)      yn cymeradwyo’r polisïau cyflogaeth fel y nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer mabwysiadu yn y Cyngor, a

 

 (b)      chadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (atodiad i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mark Young adroddiad yn argymell mabwysiadu chwe pholisi cyflogaeth a oedd wedi’u datblygu /diwygio mewn ymgynghoriad â’r Undebau Llafur cydnabyddedig.   Roedd y chwe polisi’n ymdrin â’r canlynol-

 

(1)       Gweithdrefn Presenoldeb yn y Gwaith (polisi diwygiedig)

(2)       Canllawiau Addasiadau Rhesymol (polisi newydd)

(3)       Polisi Darfyddiad Mislif (polisi newydd)

(4)       Polisi Alcohol a Chamddefnyddio Sylweddau (polisi diwygiedig)

(5)       Polisi Dim Ysmygu (polisi diwygiedig)

(6)       Absenoldeb Brys wedi’i gynnwys yn y Polisi Amser o'r gwaith (geiriad diwygiedig)

           

Crynhodd y Cynghorydd Young y broses cyn cyflwyno’r polisïau i’r Cabinet i’w cymeradwyo a oedd yn cynnwys ymgynghori gyda Gweithgor Polisïau yn cynnwys cynrychiolwyr o Adnoddau Dynol, adran y Gyfraith a'r Undebau Llafur cyn cyflwyno i'r Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol (LJCC) a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr Cyflogwyr ac Undebau Llafur.   Roedd adborth ar y broses yn gadarnhaol gan yr holl bartïon ac roedd yr LJCC wedi argymell y polisïau i’r Cabinet i’w mabwysiadu.

 

Darparodd y Partner Busnes Arweiniol – Datblygu Sefydliadol grynodeb byr o bob polisi, yn tynnu sylw at y newidiadau arfaethedig o fewn y polisïau oedd yn bodoli eisoes a'r angen ar gyfer polisïau newydd ynghyd â'r rhesymau dros hynny, a oedd yn cynnwys newidiadau deddfwriaethol ac eglurder er mwyn sicrhau ymagwedd gyson a chywir.

 

Ystyriodd y Cabinet yr adroddiad a nodi bod yr holl bolisïau wedi bod yn destun Asesiad o Effaith ar Les unigol.   Ar ôl cyfrannu at y broses roedd y Cynghorydd Richard Mainon yn awyddus bod y polisïau yn cael eu mabwysiadu ac roedd yn canmol y broses a thalu teyrnged i waith caled y rhai a gyfrannodd at gyflwyno’r polisïau.   Ychwanegodd bod effaith lawn y polisïau wedi’u hadlewyrchu’n gywir yn yr Asesiadau o Effaith ar Les gan gynnwys cydnabod unrhyw ganlyniadau anfwriadol o ganlyniad, ac eglurodd yr elfen o ran y Polisi Presenoldeb yn y Gwaith a’r posibilrwydd o golli sgiliau posibl drwy salwch.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)       yn cymeradwyo’r polisïau cyflogaeth fel y nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer mabwysiadu yn y Cyngor, a

 

(b)       chadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les (atodiad i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

6.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 372 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a

 

 (b)      chyhoeddi datganiad i alw ar Lywodraethau Cymru a’r DU i gydnabod anawsterau darparu gwasanaethau statudol yn yr hinsawdd ariannol bresennol a gofyn iddynt weithredu er mwyn sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn cael eu cyllido fel eu bod yn gynaliadwy ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.  Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2018/19 oedd £194.418 miliwn (£189.252miliwn yn 2017/18)

·        roedd amcanestyniad o orwariant o £0.774 miliwn ar gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol

·        rhoddwyd manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £4.6 miliwm a gytunwyd arnynt gan gynnwys y rhai hynny a oedd eisoes wedi eu cyflawni gyda’r dybiaeth y byddai pob arbediad effeithlonrwydd/ arbediad yn cael eu cyflawni – byddai unrhyw eithriadau yn cael eu hadrodd i'r Cabinet lle bo’r angen

·        amlygwyd risgiau ac amrywiadau cyfredol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, a

·        darparwyd y wybodaeth gyffredinol ddiweddaraf ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a’r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol).

 

Codwyd y materion canlynol gan y Cabinet wrth drafod –

 

·          Cludiant i’r Ysgol - cyfeiriwyd at y gorwariant a ragwelir yng nghyllideb cludiant ysgol ac at y trafodaethau blaenorol a ddylid gosod y gyllideb yn y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol (HES) neu Wasanaethau Addysg a Phlant (ECS).   

Eglurwyd y rhesymeg y tu ôl i’r penderfyniad i osod y gyllideb gyda HES o ystyried fod ECS yn cynnal y broses o asesu i bennu a oedd plentyn yn gymwys i dderbyn cludiant i'r ysgol, ond roedd y trefniant comisiynu ar gyfer y rhai hynny a oedd yn gymwys ar gyfer cludiant i'r ysgol yn cael ei gynnal gan HES oherwydd yr arbenigedd a’r sgiliau oedd eu hangen ar gyfer trafod y contractau ysgolion.  Roedd HES hefyd yn darparu gwasanaeth tebyg ar gyfer darpariaeth cludiant mewn meysydd gwasanaeth eraill gan gynnwys Gwasanaethau Cymorth Cymunedol.   Cydnabuwyd bod cludiant i’r ysgol yn bwysau ar y gyllideb a oedd angen ei ddatrys lle bynnag y caiff ei leoli ac fe gytunwyd y dylai unrhyw adolygiad neu drafodaeth bellach am hynny gael ei gyflawni gyda’r swyddogion y tu allan i’r cyfarfod hwn.

 

·         Cyllid y Cyngor–- cyfeiriodd yr Arweinydd at y pwysau gwasanaeth parhaus y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu ac adroddodd fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru gyda’r nod o fuddsoddi mewn gwasanaethau craidd a darparu cynllun ariannol hir dymor i gynorthwyo gyda chynllunio ar gyfer y dyfodol.   

Er bod y Cyngor yn falch o’i gofnod o ran buddsoddi mewn gwasanaethau megis addysg a gofal cymdeithasol ac mewn trawsnewid gwasanaethau a datblygu gwydnwch, roedd hyfywedd a chynaliadwyedd y gwasanaethau lleol mewn perygl oherwydd y toriadau parhaus a chyson i gyllid llywodraeth leol.   Cydnabuwyd y gwaith a wnaed gan CLlLC ar ran yr awdurdodau lleol yng Nghymru ond roedd y Cabinet yn teimlo y byddai'n ddefnyddiol cyflwyno datganiad yn tynnu sylw at yr anawsterau ariannol ac i alw am ddarpariaeth cyllid digonol i sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau hanfodol yn y dyfodol.   Cyfeiriwyd hefyd at adolygiad o wariant Llywodraeth y DU sydd i ddod, i benderfynu ar y setliad ar gyfer Cymru ac yn dilyn hynny byddai Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar ddyraniadau cyllid ar gyfer y swyddogaethau datganoledig hynny, gan gynnwys llywodraeth leol, a bryd hynny efallai y byddai cyfle pellach i ddylanwadu ar benderfyniadau cyllidebol a lobïo ar ran y preswylwyr.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau nad ydynt yn aelodau Cabinet ynglŷn â gorwariant amrywiol mewn adrannau gwasanaeth, eglurodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill-

 

·          y byddai disgwyl i’r holl wasanaethau gydbwyso eu cyllidebau'n fewnol lle bynnag y bo modd ac roedd mesurau i fynd i'r afael â gorwariant yn ymwneud â phrosiect SC2 wedi'u nodi  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 268 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sy’n amgaeedig, a nodi'r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nodwyd y byddai’r eitem a ganlyn yn cael ei hychwanegu at y rhaglen waith ar gyfer mis Mawrth- Llety Sipsiwn a Theithwyr.

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Ar y pwynt hwn, gadawodd y Cynghorydd Richard Mainon y cyfarfod.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

8.

PENODI CONTRACTWYR I FFRAMWAITH ADEILADU GOGLEDD CYMRU 2

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn argymell penodi contractwyr i Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru 2.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD penodi'r contractwyr a nodir ym mharagraff 3 yr adroddiad ar gyfer Fframwaith Contractwyr Adeiladau Cyhoeddus ac Ysgolion Gogledd Cymru.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad cyfrinachol yn argymell penodi’r contractwyr a enwyd i Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru 2 (NWCF2) i’w defnyddio ar gyfer gwaith adeiladu mawr dros £250,000.

 

Roedd fframwaith cyntaf cytundeb NWCF wedi dod i ben ym mis Mai 2018 ac wedi bod yn hynod lwyddiannus.   Roedd yr adroddiad yn nodi buddiannau’r dull cydweithredol ar draws chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru, dan arweiniad Sir Ddinbych, a oedd yn cynnwys arbedion sylweddol o ran costau ac amser.   Y bwriad oedd gweithredu’r fframwaith am gyfnod o bedair blynedd o fis Mawrth 2019 (gyda chymal terfynu i’w adolygu ar ôl 2 a 3 blynedd).   Roedd y contractwyr a argymhellwyd wedi’u gwerthuso yn unol â’r fethodoleg sgorio a phwysoli a nodwyd yn y dogfennau tendro.

 

Cytunodd y Cabinet bod nifer addas o gontractwyr ym mhob Lot i ddarparu cystadleuaeth ac yn fodlon nodi cynnydd yn nifer y contractwyr lleol ar draws y rhanbarth o fewn y fframwaith.   Mewn ymateb i gwestiynau ymhelaethodd y Cynghorydd Thompson-Hill a’r swyddogion ar yr ymgysylltiad helaeth gyda'r diwydiant adeiladu a'r ymarfer gwersi a ddysgwyd i sicrhau arfer orau ar gyfer yr ail fframwaith.   Darparwyd sicrwydd hefyd o ran monitro ac archwilio prosiectau unigol a gwneud y mwyaf o ddarparu buddion cymunedol.

 

Llongyfarchodd y Cabinet y swyddogion ar lwyddiant y fframwaith cyntaf ac ar y gwobrau a enillwyd ynghyd â'r gwaith a wnaed i sicrhau bod mwy o lwyddiant a buddiannau yn deillio o'r ail fframwaith o ran yr economi leol, cyfleoedd cyflogaeth a buddion cymunedol.

 

PENDERFYNWYD penodi'r contractwyr a nodir ym mharagraff 3 yr adroddiad ar gyfer Fframwaith Contractwyr Adeiladau Cyhoeddus ac Ysgolion Gogledd Cymru.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.05.