Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Meirick Davies – Cysylltiad Personol – Eitemau 6 ac 8 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Glenn Swingler – Cysylltiad Personol – Eitemau 5 ac 8 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Rhys Thomas – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 8 ar y Rhaglen

 

Cofnodion:

Datganodd yr aelodau gysylltiad personol yn yr eitemau a ganlyn -

 

Cynghorydd Meirick Davies – Eitem 6 ar y Rhaglen fel Cadeirydd Awdurdod Tân Gogledd Cymru ac Eitem 8 ar y Rhaglen gan ei fod yn rhentu garej gan y cyngor

 

Y Cynghorydd Glenn Swingler – Eitem 5 ar y Rhaglen fel Gweithiwr Cefnogi ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu ac Eitem 8 ar y Rhaglen gan ei fod yn gynghorydd ar Gyngor Tref Dinbych

 

Y Cynghorydd Rhys Thomas – Eitem 8 ar y Rhaglen gan ei fod yn gynghorydd ar Gyngor Tref Dinbych

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dim materion brys wedi eu codi ac angen penderfyniad arnynt.

 

 

Cofnodion:

Dim materion brys wedi eu codi ac angen penderfyniad arnynt.

 

Roedd cwestiwn wedi ei dderbyn gan y Cynghorydd Rhys Thomas y cytunodd yr Arweinydd y gellir delio ag o dan faterion brys.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas y cwestiwn canlynol:

 

 “Yn sgil y newyddion fod Hitachi wedi atal eu gwaith yn y Wylfa Newydd oherwydd costau cynyddol, a yw’r Cabinet wedi ystyried goblygiadau’r newyddion ar Gynnig Twf Gogledd Cymru gan ei fod yn dibynnu’n drwm, fel y mae, ar ddau brosiect mawr arall sy’n gysylltiedig â’r diwydiant niwclear?”

 

Ymatebodd yr Arweinydd i’r cwestiwn drwy nodi, gan fod y cyhoeddiad ond newydd gael ei wneud ar ddiwedd yr wythnos flaenorol, nid oedd y Cabinet wedi cael cyfle hyd yma i ystyried y mater.  Fodd bynnag, roedd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (NWEAB) wedi cwrdd â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru ac Ynni Niwclear Horizon y diwrnod blaenorol ac wedi rhyddhau’r datganiad canlynol –

 

 “Mae’r Bwrdd yn llwyr gefnogol i ddatblygu atomfa niwclear newydd yn Wylfa ar Ynys Môn a’r buddion economaidd y bydd hyn yn ei gynnig i’r rhanbarth cyfan.


Rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar y perthnasau gwaith agos sydd eisoes wedi eu sefydlu gyda Llywodraethau'r DU a Chymru, y sector preifat a Horizon Nuclear Power, ac yn ogystal ag archwilio’r camau nesaf a’r ffordd orau o fwrw ymlaen.


Hoffai’r Bwrdd nodi’n glir na fydd y penderfyniad i atal gwaith ar y Wylfa Newydd yn cael unrhyw effaith o gwbl ar unrhyw brosiectau ym Margen Dwf Gogledd Cymru. Mae’r prosiectau hynny’n sefyll ar eu traed eu hunain gydag achosion busnes wedi eu cymeradwyo a byddant yn hanfodol i ffyniant economaidd pellach yr ardal.


Byddwn rŵan yn dechrau ar drafodaethau pellach gyda Llywodraethau'r DU a Chymru i edrych ar gymorth ychwanegol a chyfleoedd ariannu yn sgil y penderfyniad hwn.”

 

Caniatawyd cwestiwn atodol a holodd y Cynghorydd Rhys Thomas a fyddai unrhyw gyfle i gael prosiectau ynni adnewyddadwy eraill yng Ngogledd Cymru a fyddai’n fwy manteisiol i Sir Ddinbych pe na bai’r prosiect yn mynd yn ei flaen.  Ymatebodd yr Arweinydd gan ddweud fod NWEAB yn parhau i gefnogi'r datblygiad ac roedd trafodaethau’n parhau gyda’r rhai a oedd yn ymwneud â chynnydd y prosiect fel y bwriadwyd yn wreiddiol os oedd modd.  Os na fyddai modd cyflawni hynny, byddai cyfleoedd i ailedrych ar brosiectau presennol o fewn y Fargen Dwf na fyddai angen cymaint o ffocws ar ynni niwclear ar gyfer y rhanbarth.  Roedd hefyd cyfle i geisio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU ar gyfer y Fargen Dwf, a fyddai, pe bai’n llwyddiannus, yn galluogi prosiectau eraill i amlygu eu hunain.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 415 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2018 (copi’n amgaeedig).  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2018 fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2018.

 

Materion yn Codi – Tudalen 8, Eitem 4 y Cofnodion – Cabinet 30 Hydref 2018 (Darpariaeth Sipsiwn a Theithwyr) – holodd y Cynghorydd Peter Scott ynghylch cynnydd o ran dadansoddi ymatebion i'r ymgynghoriad cyn cyflwyno cais cynllunio, ac o ystyried y sibrydion oedd ar led ynglŷn â’r mater, gofynnodd am eglurhad i drigolion Llanelwy.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Tony Thomas fod y dadansoddiad bron yn gyflawn, nid oedd unrhyw benderfyniad wedi ei wneud hyd yma, a byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno er mwyn cael penderfyniad yn y Gwanwyn.  I ymateb i’r sibrydion, cytunodd yr Arweinydd y byddai’n Cyngor yn cadarnhau’r sefyllfa bresennol yn gyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2018 fel cofnod cywir.

 

 

5.

STRATEGAETH ANABLEDDAU DYSGU GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 304 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol ar gyfer Lles ac Annibyniaeth (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer cyfranogiad Sir Ddinbych yn y Strategaeth Anabledd Dysgu Rhanbarthol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo ymrwymiad Cyngor Sir Ddinbych yn y Strategaeth Anabledd Dysgu Rhanbarthol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad a oedd yn cynnwys Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru 2018 – 2023 a gofynnodd am gymeradwyaeth y Cabinet i gyfranogiad y Cyngor yn y Strategaeth honno.

 

Datblygwyd y Strategaeth ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, chwe chyngor Gogledd Cymru, ac wedi ei chefnogi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.  Roedd yn cynnwys dull rhanbarthol o weithio tuag at wasanaethau anabledd dysgu integredig yng Ngogledd Cymru ac wedi ei llywio gan bobl gydag anableddau dysgu a’u gofalwyr gyda’r nod o gyflawni gwell ansawdd bywyd i’r rhai hynny sydd ag anableddau dysgu.  Roedd y Strategaeth yn cynnwys pum maes gwaith ac roedd yn cyd-fynd â blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor.  Roedd y costau darparu wedi eu cefnogi gan werth £1.7m o gyllid Llywodraeth Cymru ac ni ddylai greu unrhyw bwysau ychwanegol yn lleol.

 

Trafododd y Cabinet y dogfennau gyda’r Aelod Arweiniol a swyddogion a -

 

·         ddarparodd sicrwydd ynghylch materion cydraddoldeb a chael gafael ar wasanaethau

·         cadarnhaodd yr heriau a gyflwynwyd wrth ddiwallu anghenion ardaloedd gwledig a oedd wedi eu nodi ac roedd cryn dipyn o waith yn cael ei wneud i’r perwyl hwnnw i liniaru effeithiau negyddol o ran diogelu a hyrwyddo annibyniaeth

·         cadarnhaodd y byddai dull rhanbarthol yn cryfhau gwasanaethau ac nid eu gwanhau

·         eglurodd ddarpariaeth cyllid grant a oedd yn parhau am flynyddoedd i ddod a’r angen i gyd-fynd â’r galwadau cynyddol ar wasanaethau.

 

Wrth ymateb i gwestiynau gan gynghorwyr nad oedd yn Aelodau o’r Cabinet, gwnaeth yr Aelod Arweiniol a swyddogion -

 

·         gadarnhau y gellid darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg

·         adrodd ar y sefyllfa o safbwynt o ran ymateb cwmnïau bysiau o safbwynt dangos chwarae teg i bobl gydag anableddau dysgu drwy hunan-eiriolaeth

·         nodi fod diogelu a’r oes ddigidol yn fater ehangach ac roedd protocolau pendant ynghylch camdriniaeth ar y we, a oedd yn fater arall

·         cadarnhau y gellid trefnu hyfforddiant perthnasol ar gyfer cynghorwyr

·         egluro fod rhaid defnyddio cyllid rhanbarthol at ddibenion penodol ac roedd un o’r pum maes gwaith yn y Strategaeth yn canolbwyntio ar ddatblygu'r gweithlu

·         nodi fod y Strategaeth yn cael ei chyfieithu ar hyn o bryd a byddai fersiwn Gymraeg ar gael mor fuan â phosibl.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo cyfranogiad Cyngor Sir Ddinbych yn y Strategaeth Anabledd Dysgu Rhanbarthol.

 

 

6.

GOSOD RHENT TAI A CHYLLIDEBAU REFENIW TAI A CHYFALAF 2019/20 pdf eicon PDF 229 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i godi rhent blynyddol tai cyngor Sir Ddinbych ac i gymeradwyo Cyllidebau Cyfalaf a Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019/20 a’r Cynllun Busnes Stoc Dai.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD –

 

(a)       mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019/20 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad); ac

 

(b)       Cynyddu rhent anheddau'r Cyngor yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhent Tai Cymdeithasol i rent wythnosol cyfartalog o £89.77 i’w weithredu o ddydd Llun 1 Ebrill 2019.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i gynnydd rhent blynyddol Tai Sir Ddinbych, Cyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai a Chyllidebau Refeniw ar gyfer 2019/20 a'r Cynllun Busnes Stoc Dai.

 

Soniodd y Cynghorydd Thompson-Hill wrth yr aelodau am ffigurau’r gyllideb a rhagdybiaethau lefel yr incwm a oedd wedi’u cyfrifo gan ystyried Polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhenti Tai mewn perthynas â thai cymdeithasol a’i dull ar gyfer cynyddu rhenti.  Y cynnydd ar gyfer 2019/20 oedd 2.4% a byddai’n gadael 40% o gartrefi ar lefelau rhent targed.  Daeth y polisi presennol i ben yn 2018/19 ac roedd y cynnydd ar gyfer 2019/20 yn bolisi dros dro am flwyddyn ac mae disgwyl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar y polisi rhent yn y dyfodol ym mis Ebrill 2019. Dangosodd yr adolygiad blynyddol o’r Cynllun Busnes Stoc Dai ei fod yn parhau’n gadarn ac yn hyfyw’n ariannol ac roedd digon o adnoddau i gefnogi rheolaeth a goruchwyliaeth o’r gwasanaeth tai a’r angen am fuddsoddiad yn y stoc.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafodwyd y materion canlynol -

 

·         eglurwyd y gofyniad i gynnwys darpariaeth dyledion drwg ynghyd ag effaith Credyd Cynhwysol a dull rhagweithiol y Cyngor i’r perwyl hwnnw a darparu cyngor ariannol a chymorth i denantiaid – nodwyd fod cyfraddau casglu rhent yn parhau’n uchel ac roedd yr ôl-ddyledion ymhlith y rhai isaf yng Nghymru.

·         o safbwynt colli incwm ar Dai Gwag, cydnabuwyd ei bod wedi cymryd amser i gwblhau gwaith i sicrhau fod eiddo gwag o safon uchel - roedd y bendithion yn cynnwys cyn lleied o amhariad â phosibl i denantiaid yn y dyfodol a chartref o ansawdd uchel gyda llai o gostau atgyweirio yn y dyfodol, rhywbeth roedd tenantiaid yn ei werthfawrogi.

·         nodwyd nad oedd yr adroddiad yn ymdrin â garejys gan nad oedd yn destun Polisi Rhenti Llywodraeth Cymru a byddai’n cael ei adolygu gan y Pennaeth Gwasanaeth dan awdurdod dirprwyedig - yn hanesyddol, roedd rhenti garejys yn dueddol o gael eu cynyddu yn unol â rhenti tai. 

Teimlai’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y byddai rhinwedd i’r Cabinet osod lefelau rhenti garejys wrth osod lefelau rhent ar gyfer tai.  Roedd yr adolygiad o garejys yn tynnu at ei derfyn, a gofynnodd yr Arweinydd i aelodau gael eu hysbysu ar ôl i’r adolygiad gael ei gwblhau, a fyddai hefyd yn amser priodol i ystyried y pwynt a godwyd gan y Cynghorydd Hilditch-Roberts

·         derbyniwyd y gallai Ffederasiwn Tenantiaid a Thrigolion Sir Ddinbych fod yn fwy cynrychioliadol, fodd bynnag roedd perthynas dda’n bodoli gyda thenantiaid ac roedd cynllun cyswllt manwl i gael adborth a llywio cynlluniau yn y dyfodol

·         gwerthfawrogwyd y gallai unrhyw gynnydd rhent gael effaith ar allu rhai tenantiaid i gyflawni eu hymrwymiadau ariannol a byddai swyddogion yn parhau i helpu cwsmeriaid i reoli eu cyllid yn effeithiol a chynyddu eu hincwm. 

Cydnabuwyd yr angen i sicrhau fforddiadwyedd a gwerth am arian, a dangosodd adborth cychwynnol gan yr arolwg STAR diweddaraf fod 89% o denantiaid yn ystyried fod eu cartref yn cynnig gwerth am arian.

 

PENDERFYNWYD –

 

 (a)      mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019/20 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad); a

 

 (b)      cynyddu rhent anheddau'r Cyngor yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhent Tai Cymdeithasol i rent wythnosol cyfartalog o £89.77 i’w weithredu o ddydd Llun 1 Ebrill 2019.

 

 

7.

ARGYMHELLION Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL pdf eicon PDF 228 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi'n amgaeedig) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet ar gyfer prosiectau a nodwyd ar gyfer eu cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2019/20.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y prosiectau a nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad i'w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2019/20 yn cael eu cefnogi a’u hargymell i'r Cyngor llawn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad gan geisio cefnogaeth y Cabinet i brosiectau a nodwyd i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2019/20 fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol (GBS) ac fel y nodwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

Arweiniodd y Cynghorydd Thompson-Hill yr aelodau drwy’r adroddiad ac ymhelaethodd ar y cyllid sydd ar gael ar gyfer dyraniadau bloc ar gyfer rhaglenni gwaith parhaus a oedd hefyd yn cynnwys dyraniadau dros dro cyn cael cadarnhad o’r cyllid grant cyfalaf cyffredinol ychwanegol o £1.680m.  Mae’r arian grant ychwanegol wedi ei gadarnhau gan Lywodraeth Cymru ers hynny ac felly gallai’r dyraniadau dros dro gael eu cadarnhau hefyd.  Cyfeiriwyd at waith y GBS wrth adolygu’r cynigion am ddyraniadau a darparwyd crynodeb o’u hargymhellion ac fe ymhelaethwyd arnynt ymhellach yn y cyfarfod.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler, cadarnhawyd nad oedd rhan o’r dyraniad bloc ar gyfer priffyrdd yn cynnwys elfen o atgyweirio troedffyrdd a fyddai’n cael ei flaenoriaethu fel oedd yn briodol gan yr adran honno.

 

PENDERFYNWYD bod y prosiectau a nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad i'w cynnwys yn Nghynllun Cyfalaf 2019/20 yn cael eu cefnogi a’u hargymell i'r Cyngor llawn.

 

Ar y pwynt hwn (11.30 a.m.) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth.

 

 

8.

CYLLIDEB 2019/20 – CYNIGION TERFYNOL pdf eicon PDF 507 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn nodi goblygiadau Setliad Llywodraeth Leol 2019/20 a chynigion i gwblhau'r gyllideb ar gyfer 2019/20.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi effaith Setliad Llywodraeth Leol 2019/20;

 

(b)       cefnogi’r cynigion a amlinellwyd yn Atodiad 1 o’r adroddiad sy’n cyd-fynd â’r cynigion a gyflwynwyd yn y gweithdy cyllideb i’r aelodau a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2019, ac felly’n eu hargymell i'r Cyngor llawn er mwyn cwblhau cyllideb 2019/20;

 

(c)        cymeradwyo’r arbedion sy’n dod i £223k wedi'u rhestru yn Atodiad 2 fel rhan o’r pecyn cyllideb;

 

(ch)     argymell i’r Cyngor y cynnydd cyfartalog o 6.35% yn Nhreth y Cyngor, sy’n cydnabod pwysau cynyddol amrywiol, gan gynnwys cynnydd o ran costau ar wasanaethau gofal cymdeithasol plant ac oedolion ac yn cefnogi'r dyraniad o £2.0m o gyllid ychwanegol ar draws y ddau wasanaeth, a 

 

(d)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les a gyflwynwyd fel rhan o’r adroddiad hwn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn amlinellu goblygiadau Setliad Llywodraeth Leol 2019/20 a'r cynigion ar gyfer cyllideb derfynol 2019/20, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor.

 

Darparodd y Cynghorydd Thompson-Hill drosolwg o broses y gyllideb a sefyllfa ddiweddaraf y gyllideb ac ymhelaethodd ar y cynigion i’w hystyried a’r argymhelliad i’r cyngor llawn er mwyn gosod y gyllideb ar gyfer 2019/20. Roedd y setliad terfynol wedi arwain at sefyllfa ariannu niwtral, ond er mwyn i’r sefyllfa ariannu aros yn niwtral o safbwynt y pwysau ariannu isafswm, byddai angen i’r setliad fod yn nes at +5%.  Roedd y pwysau’n cynnwys tâl, pensiwn, Cyflog Byw Cenedlaethol, chwyddiant pris/ ynni, ardoll y gwasanaeth tân, lwfansau ar gyfer cynnydd yn y cynllun gostyngiad Treth y Cyngor, gostyngiad yng Ngrant Gweinyddu’r Adran Gwaith a Phensiynau ac arian wrth gefn canolog.  Mae pwysau ar y gyllideb mewn meysydd blaenoriaeth hefyd wedi ei gydnabod gan gynnwys gofal cymdeithasol, ysgolion a chludiant.  Mae cynnydd o 6.35% mewn Treth y Cyngor wedi ei gynnig er mwyn codi £797,000 yn ychwanegol o’i gymharu â'r cynnydd mewn Treth y Cyngor yn 2018/19, i’w ddefnyddio fel rhan o’r pecyn cyffredinol i fynd i’r afael â’r diffyg ar y gyllideb – roedd hyn yn cynnwys £2 filiwn yn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i aelodau’r Cabinet a swyddogion am roi pecyn o arbedion at ei gilydd a oedd yn diogelu gwasanaethau rheng flaen am gyhyd â phosibl a hefyd yn cydnabod pwysau o ran galw.  Roedd y pecyn wedi ei gyflawni drwy ganolbwyntio ar arbedion effeithlonrwydd a datblygu modelau darparu amgen.  Cydnabuwyd fod penderfyniadau anodd wedi eu gwneud, gan gynnwys o ran lefel Treth y Cyngor, a chydnabuwyd y byddai’r blynyddoedd i ddod yr un mor heriol.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd aelodau’r Cabinet y cynigion yn fanwl, ynghyd â swyddogion, ac ymatebwyd i gwestiynau amrywiol a oedd yn ymwneud â meysydd penodol o fewn eu portffolios gan gynnwys ystod eang o wahanol faterion.

 

Canolbwyntiwyd ar y prif faterion trafod a ganlyn -

 

·        y rhesymeg tu ôl i gyfran y dyraniad cyllid ychwanegol arfaethedig i Wasanaethau Cymorth Cymunedol (CCC) a thrafodwyd Addysg a Gwasanaethau Plant (AGP) o ystyried y gwahaniaethiad yn y cyllidebau sail. 

Nodwyd fod cynigion cyllid wedi eu trafod yn seiliedig ar amcanestyniadau galw ar gyfer y gwasanaethau unigol er mwyn mynd i'r afael yn briodol â materion uniongyrchol ym mhob maes gwasanaeth.  Roedd y strategaeth ar gyfer ymdrin â CCC hefyd yn cynnwys defnydd o gronfa wrth gefn benodol i reoli’r pwysau ac roedd argaeledd tebygol cymorth grant ychwanegol ar gyfer 2019/20 wedi ei ystyried hefyd.  Roedd CCC ac AGP yn wasanaethau statudol ond, er fod y mwyafrif o wasanaethau i oedolion yn gallu cael eu darparu o fewn y sir, roedd yn rhaid diwallu anghenion rhai plant y tu allan i’r sir mewn darpariaeth arbenigol am gost sylweddol.  Roedd £750,000 ychwanegol wedi ei neilltuo i CCC yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf ac roedd £1.5 miliwn yn ychwanegol wedi ei gynnig ar gyfer 2019/20 – gobeithiwyd fod y dull o godi’r gyllideb sail yn mynd i’r afael â’r mater yn y tymor hir.

·        mae’r cyngor yn parhau i gefnogi ysgolion drwy ariannu tâl a chwyddiant cysylltiedig ac unrhyw newid mewn perthynas â nifer y disgyblion. 

Gofynnwyd i ysgolion nodi arbedion gwerth 2% ac er bod hynny’n anodd, cafwyd ymateb cadarnhaol gan benaethiaid drwy’r Fforwm Cyllidebau Ysgolion ac roedd hyder y byddai modd cyflawni arbedion.  Mater i ysgolion unigol fyddai asesu effaith yr arbedion a'u gweithredu, a fyddai'n wahanol ar gyfer pob ysgol

·        o safbwynt yr arbediad arfaethedig o £23,000 yn ymwneud â chostau rhedeg  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 373 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.  Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2018/19 oedd £194.418 miliwn (£189.252m yn 2017/18)

·        roedd amcanestyniad o orwariant o £0.756 miliwn ar gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol

·        rhoddwyd manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £4.6 miliwm a gytunwyd arnynt gan gynnwys y rhai hynny a oedd eisoes wedi eu cyflawni gyda’r dybiaeth y byddai pob arbediad effeithlonrwydd/ arbediad yn cael eu cyflawni – byddai unrhyw eithriadau yn cael eu hadrodd i'r Cabinet lle bo angen

·        amlygwyd risgiau ac amrywiadau cyfredol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, a

·        darparwyd y wybodaeth gyffredinol ddiweddaraf ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a’r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol).

 

Ymatebodd aelodau’r Cabinet i nifer o gwestiynau a godwyd, gan ymhelaethu ar y rhesymeg y tu ôl i’r gorwariant yn y gwasanaethau Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata a’r gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd.  O safbwynt cludiant i'r ysgol, roedd y mater o ran a fyddai’n well gosod y gyllideb o fewn Priffyrdd a'r Amgylchedd neu Addysg a Gwasanaethau Plant wedi ei drafod yn flaenorol er ei fod yn bwysau a gydnabuwyd a oedd angen mynd i'r afael ag o ble bynnag y byddai'n cael ei leoli.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.

 

 

10.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 280 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm, a nodi'r cynnwys.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Blaenraglen Waith y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nodwyd y byddai’r eitemau a ganlyn yn cael eu hychwanegu at y rhaglen waith ar gyfer mis Mawrth – Rhoi Model Darparu Amgen ar waith ar gyfer gwahanol weithgareddau / swyddogaethau cysylltiedig â hamdden (i gymeradwyo’r achos busnes).

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

 

11.

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12, 14 a 15 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

12.

RHOI MODEL DARPARU AMGEN (MDA) AR WAITH AR GYFER GWAHANOL WEITHGAREDDAU / SWYDDOGAETHAU CYSYLLTIEDIG Â HAMDDEN

Ystyried adroddiad cyfrinachol ar y cyd gan y Cynghorwyr Bobby Feeley, Aelod Arweiniol ar gyfer Lles ac Annibyniaeth a Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet ar gyfer y brîff prosiect.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo’r Brîff Prosiect yn amgaeedig i'r adroddiad er mwyn gallu symud Achos Busnes llawn y Prosiect ymlaen, a

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall a chymryd yr Asesiad o’r Effaith ar Lesiant  i ystyriaeth (Atodiad B o’r adroddiad) fel rhan o'i benderfyniad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorwyr Bobby Feeley a Julian Thompson-Hill adroddiad cyfrinachol ar y cyd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r Briff Prosiect Model Darparu Amgen, i'n galluogi i fwrw ymlaen â’r achos busnes llawn ar gyfer y prosiect.

 

Amlygwyd gwerth a phwysigrwydd darpariaeth gwasanaeth hamdden y Cyngor a bod buddsoddiad sylweddol wedi bod yn ei gyfleusterau.  Eglurwyd y rhesymeg y tu ôl i’r prosiect er mwyn cynnal a, gobeithio, gwella’r ddarpariaeth honno o ystyried y cyfyngiadau ariannol sy’n wynebu’r awdurdod a’r arbedion sylweddol y gellid eu cynhyrchu gan ymagwedd o'r fath.  Pwrpas y brîff prosiect oedd ystyried y cwmpas o safbwynt pa weithgareddau / swyddogaethau cysylltiedig â hamdden y dylid eu symud ymlaen i achosion busnes ar hyn o bryd, tra hefyd yn cydnabod y cyfleoedd posibl i ychwanegu swyddogaethau / gweithgareddau yn y dyfodol fel y bo’n briodol.  Eglurwyd y rhesymeg y tu ôl i’r elfennau o’r ddarpariaeth a gynigiwyd eu cynnwys o fewn cwmpas y brîff prosiect er mwyn adlewyrchu’r busnes hamdden craidd a’r elfennau hynny a oedd yn cynnig eu hunain i ddull mwy masnachol.

 

Trafododd y Cabinet rinweddau’r brîff prosiect a chwmpas gweithgareddau yn ymwneud â hamdden i’w cynnwys fel rhan o’r cam nesaf.  Holodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts a fyddai modd defnyddio matrics sgorio i asesu’r elfennau hynny i’w cynnwys i sicrhau rhesymeg glir y tu ôl i'r penderfyniad i gynnwys neu hepgor elfennau penodol ynghyd â chostau manwl.  Rhoddwyd sicrwydd ynghylch lefel y manylion a fyddai’n cael eu cynnwys o fewn yr achos busnes.  Canolbwyntiodd y drafodaeth bellach ar elfennau staffio ac adnoddau’r cynnig a rhoddwyd cadarnhad, er fod angen gwaith pellach o safbwynt datblygu'r costau gweithredol a fyddai’n cael eu cynnwys fel rhan o’r achos busnes, gellid cyflenwi arbedion ar unwaith o safbwynt rhyddhad ar drethi busnes ac esemptiadau TAW.  O safbwynt yr effaith ar y Gymraeg, rhoddwyd sicrwydd y byddent yn ymdrin â’r mater fel rhan o unrhyw drefniadau llywodraethu yn y dyfodol a byddai ymlyniad at bolisi’r Cyngor yn cael ei gynnwys yn nhelerau ac amodau’r cwmni darparu amgen newydd.  Rhoddwyd sicrwydd pellach hefyd o safbwynt sicrhau bod gwasanaethau hamdden yn parhau’n fforddiadwy i drigolion o ystyried y ffocws ar ddull mwy masnachol.  O safbwynt yr amserlenni, y bwriad oedd cynnig gwybodaeth ar yr achos busnes i Frîff y Cabinet ym mis Chwefror, wedi ei ddilyn gan Weithdy Aelodau ym mis Mawrth, rydym yn aros am benderfyniad ar yr achos busnes sy'n cael ei ystyried gan y Cabinet ar ôl y Gweithdy Aelodau gyda phenderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y Cyngor ym mis Ebrill.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn cymeradwyo’r Brîff Prosiect yn amgaeedig i'r adroddiad er mwyn gallu symud Achos Busnes llawn y Prosiect ymlaen, a

 

 (b)      yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall a chymryd yr Asesiad o’r Effaith ar Lesiant  i ystyriaeth (Atodiad B o’r adroddiad) fel rhan o'i benderfyniad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 14.15 pm.