Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT SYLW

Cadeiriwyd y cyfarfod gan y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yn absenoldeb yr arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Hugh Evans

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Arweiniol dros yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 508 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 20 Tachwedd 2018 (copi’n amgaeedig).   

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2018 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2018 i’w cymeradwyo.

 

 

Materion yn codi – Tudalen 8, Cofnodion Eitem 4 – Cabinet 30 Hydref 2018 (Darpariaeth Safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr) – Roedd y Cynghorydd Peter Scott yn werthfawrogol o’r arolwg ofalus o’r holl wybodaeth a dderbyniwyd gan breswylwyr, y gymuned ehangach a’r sector fusnes mewn ymateb i’r ymgynghoriad rhag-gynllunio ynglŷn â’r cynigion, ac fe edrychai ymlaen at gyflwyniad yr adroddiad yng Ngwanwyn 2019. Roedd hefyd yn falch fod y Cabinet yn gwerthfawrogi’r dyfnder teimlad a’r pryderon a gyflwynwyd.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2018 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

CORFF CYMERADWYO (SAB) DRAENIO CYNALIADWY (SuDS) pdf eicon PDF 334 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol dros Briffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy (copi'n amgaeedig), ynghylch y gofyniad deddfwriaethol i'r Cyngor gynnal rôl Corff Cymeradwyo (SAB) y System Draenio Cynaliadwy (SuDS), a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddirprwyo pwerau i swyddogion sefydlu a gweithredu’r SAB.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn nodi fod Llywodraeth Cymru wedi dod ag Atodlen 3 ‘Draenio Cynaliadwy’ o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 i rym ar 1 Mai 2018, ac y bydd yn ofynnol yn ôl y Ddeddf i’r Cyngor ddarparu gwasanaeth newydd o 7 Ionawr 2019 ymlaen, ac

 

 (b)      yn cymeradwyo dirprwyo pwerau i’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol sefydlu a gweithredu’r SAB.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones yn manylu ar y gofyniad deddfwriaethol i'r Cyngor gynnal rôl Corff Cymeradwyo (SAB) y System Draenio Cynaliadwy (SuDS), ac yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddirprwyo pwerau i swyddogion sefydlu a gweithredu’r SAB.

 

Byddai gofyn i'r Cyngor ymgymryd â rôl y SAB o 7 Ionawr 2019 yn dilyn rhoi Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 ar waith. Roedd y dull cyfredol o fynd ati i reoli draenio dŵr wyneb ar gyfer datblygiadau newydd wedi profi’n broblematig, gyda systemau draenio confensiynol yn aml yn gwaethygu llifogi mewn mannau eraill.  Roedd y dull Systemau Draenio Cynaliadwy yn anelu at fynd i’r afael â rheoli dŵr wyneb mewn ffordd wahanol ac o’r herwydd, at leihau’r perygl o lifogydd yn ehangach.  Roedd Llywodraeth Cymru yn cymryd yn ganiataol y byddai’r gost o sefydlu a gweithredu swyddogaethau SAB yn cael ei hunan-ariannu.  Fodd bynnag, roedd perygl y byddai’r costau o gyflawni’r swyddogaeth yn uwch na’r ffioedd a dderbyniwyd ar gyfer ceisiadau a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth SuDS.  Er mwyn lleihau’r perygl hwnnw, y bwriad oedd i ddatblygu SAB cydweithredol rhanbarthol gydag awdurdodau lleol yn Sir Y Fflint a Wrecsam, a sicrhau fod costau ac incwm y SAB yn cael eu monitro yn ofalus.  Cadarnhawyd fod ceisiadau SAB yn rhedeg ochr yn ochr â’r broses ceisiadau cynllunio, ac yn denu ffi ar wahân.

 

Holodd y Cynghorydd Mark Young ynghylch y peryglon a’r atebolrwydd oedd yn gysylltiedig â’r rôl.  Cadarnhawyd na fyddai’r rôl SAB yn berthnasol i geisiadau ôl-weithredol ac yn dilyn ei roi ar waith ar 7 Ionawr 2019 y byddai’r SAB yn ymgymryd â chytundebau cyfreithiol â datblygwyr er mwyn gwarchod y Cyngor rhag risg ac atebolrwydd yn y dyfodol.  Am ei fod yn ddeddfwriaeth newydd, byddai cyfnod o ddysgu ac arfer, ond dylai’r cyfnod penderfyniad o wyth wythnos ar geisiadau ddarparu digon o amser i roi’r trefniadau angenrheidiol yn eu lle i sicrhau gwarchodaeth ddigonol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn nodi fod Llywodraeth Cymru wedi dod ag Atodlen 3 ‘Draenio Cynaliadwy’ o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 i rym ar 1 Mai 2018, ac y bydd yn ofynnol yn ôl y Ddeddf i’r Cyngor ddarparu gwasanaeth newydd o 7 Ionawr 2019 ymlaen, ac

 

 (b)      yn cymeradwyo dirprwyo pwerau i’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol sefydlu a gweithredu’r SAB.

 

 

6.

CYNLLUN COMISIYNU ATAL DIGARTREFEDD / CEFNOGI POBL 2019-22 pdf eicon PDF 373 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, yr Aelod Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth (copi’n amgaeedig), yn ceisio cymeradwyaeth ymlaen llaw i Gynllun Comisiynu Atal Digartrefedd / Cefnogi Pobl 2019 - 22 drafft, cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol ac i Lywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn cymeradwyo drafft Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl / Atal Digartrefedd Sir Ddinbych ar gyfer 2019-22, cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru fis Ionawr 2019, ac

 

 (c)       yn cadarnhau ei fod wedi darllen yr Asesiad o’r Effaith ar Lesiant yn Atodiad 2, ei ddeall a’i ystyried fel rhan o'i benderfyniad.

 

Cofnodion:

Cafwyd adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feely yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Cynllun Comisiynu Atal Digartrefedd / Cefnogi Pobl 2019-22 Sir Ddinbych cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru.

 

Roedd gofyn i'r Cyngor gyflwyno Cynllun Comisiynu bob tair blynedd a diweddariad blynyddol i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol ym mis Ionawr bob blwyddyn.  Darparai’r Cynllun Comisiynu drosolwg o gynlluniau a blaenoriaethau ar gyfer 2019 – 22, yn ymwneud yn bennaf â datblygiad gwasanaeth wedi’i gomisiynu ar gyfer Cefnogi Pobl.  Roedd y Cynllun yn rhan allweddol o ddarparu yn erbyn y Strategaeth Digartrefedd, gyda ffocws ar ddatblygu gwasanaeth wedi’i gomisiynu a phum blaenoriaeth eang.  Roedd Comisiynu yn rhan bwysig o’r cynllun ac fe fyddai contractau yn cael eu ailfodelu a’u datblygu yn barhaus er mwyn eu gwneud yn fwy hyblyg ac wedi eu teilwra at yr angen gyda ffocws ar atal.  Mae manylion llawn y datblygiad Cefnogi Pobl wedi’i gyllido wedi eu cynnwys o fewn y Cynllun.  Roedd y Cynllun wedi’i ddatblygu ar ôl ymgynghori'n helaeth ac roedd wedi ei ystyried gan Bwyllgor Archwilio Partneriaethau pan gafodd ei argymell er cymeradwyaeth.

 

Yn ystod trafodaeth codwyd yr angen am dai cymdeithasol digonol, ac amlygwyd achosion yn ymwneud â thai/digartrefedd er mwyn esbonio pwyntiau a phroblemau a wynebir o'r cyfeiriad hwnnw.  Wrth ymateb i’r materion a godwyd a chwestiynau pellach a gododd o’r adroddiad, nododd y Cynghorydd Bobby Feely a swyddogion –

 

·        fod gan y cyngor gyfundrefn orfodi gadarn yn ei lle o ran tai, yn ogystal â phwerau i fynd i’r afael â materion yn y sector rhentu preifat, ac y dylai unrhyw bryderon yn y meysydd hynny gael eu cyfeirio at y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd er mwyn i’w dîm ddelio â hwy;

·        fod y Tîm Atal Digartrefedd yn gweithio â’r Tîm Gorfodi Tai er mwyn sicrhau mai landlordiaid cofrestredig yn unig a ddefnyddir ac i adrodd ar faterion sy’n peri pryder. Roedd cysylltiadau hefyd yn cael eu magu rhwng prosiectau Cefnogi Pobl wedi’u comisiynu a’r Tîm Gorfodi Tai er mwyn sicrhau fod tai o safon dda.

·        Ehangwyd ar fentrau a gwaith cyfredol i ymgysylltu â landlordiaid ag enw da o fewn y sector breifat er mwyn eu cefnogi i ddarparu cartrefi i unigolion y mae angen llety brys, dros dro neu barhaol arnynt.

·        fod digartrefedd yn fater corfforaethol a bod nifer o wasanaethau’r cyngor yn rhan o’r gwaith o fynd i’r afael â’r mater yn ogystal â’r Tîm Atal Digartrefedd

·        Rhoddwyd cydnabyddiaeth i effaith polisïau cenedlaethol megis Diwygio'r Gyfundrefn Les, ac adroddwyd ar fesurau i leihau’r effeithiau hynny ynghyd â mentrau sy’n derbyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru megis Prosiect Tai Yn Gyntaf Sir Ddinbych / Conwy.  Roedd Cymorth Cymru yn cynrychioli’r sector ac yn ymgyrchu ar eu rhan.

·        fod sicrwydd wedi ei ddarparu na fyddai dyraniad cyllid y flwyddyn nesaf yn cael ei dorri, ond gyda rhybudd bychan y dylid ymdrechu at arbed arian os oedd modd gwneud hynny. Fodd bynnag, roedd posib y byddai materion yn codi ynglŷn â newidiadau i ddosbarthiad grantiau yn y dyfodol ac effaith hynny wedyn ar y rhanbarthau amrywiol.

·        fod y Cyfrif Refeniw Tai wedi ei glustnodi o gyllid ehangach y cyngor er mwyn ei wario ym maes darparu gwasanaeth ar gyfer tenantiaid.  Roedd prosiect cyfredol ar waith er mwyn cyfeirio rhywfaint o’r cyllid hwnnw tuag at ddarparu gwasanaeth ar gyfer llety dros dro ar frys a fyddai’n cael ei berchnogi a’i reoli gan y Cyngor i gynorthwyo wrth fynd i’r afael â phroblem ehangach digartrefedd.  Yn ogystal â hyn, roedd y Tîm Atal Digartrefedd yn prydlesu nifer o eiddo gan Dai Cymunedol er mwyn darparu llety i  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

STRATEGAETH CYSYLLTEDD DIGIDOL GOGLEDD CYMRU A RHAGLEN RHWYDWAITH FFIBR LLAWN LLEOL pdf eicon PDF 222 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi’n amgaeedig), yn diweddaru’r Cabinet ar y gwaith digidol a wnaed hyd yn hyn gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer awdurdodi wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn mabwysiadu Strategaeth Cysylltedd Gogledd Cymru,

 

 (b)      yn cymeradwyo swyddogaeth Cyngor Sir Ddinbych fel Corff Arweiniol y Prosiect Rhwydweithiau Ffeibr Cyflawn ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ac yn cydsynio i’r Cyngor sefydlu Cytundeb Rhwng Awdurdodau addas â’r cyrff eraill sy’n bartneriaid ar y Prosiect, ac

 

 (c)       yn rhoi awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a’r Parth Cyhoeddus, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151, y Swyddog Monitro a’r Arweinydd, i gytuno ar delerau terfynol y Cytundeb Rhwng Awdurdodau.

 

Cofnodion:

Yn absenoldeb y Cynghorydd Hugh Evans, cafwyd adroddiad gan y Cynghorydd Richard Mainon yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ynghylch gwaith digidol a gwblhawyd hyd yn hyn gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) ac yn gofyn am gymeradwyo awdurdodiadau ar gyfer y gwaith sy’n mynd rhagddo.

 

Roedd BUEGC wedi cymeradwyo Strategaeth Cysylltedd Digidol ar gyfer y Rhanbarth ac roedd y rhaglen Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol yn brosiect pwysig tuag at gyflawni’r strategaeth honno.  Roedd y Bwrdd wedi cytuno i ddatblygu a chyflwyno cais rhanbarthol i Gronfa Her Rhaglen Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol Llywodraeth y DU ac mai Cyngor Sir Ddinbych fyddai’r awdurdod arweiniol ar gyfer y prosiect.  Roedd y cais Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol wedi ei gymeradwyo mewn egwyddor gan Lywodraeth y DU, ac fel y safai pethau ar y pryd roedd y cynnig yn cynnwys buddsoddiad o oddeutu £9 miliwn yn y rhanbarth.  Byddai’r buddsoddiad yn cael ei gyfeirio tuag at wella cysylltedd ar draws y sector cyhoeddus gan arwain at welliant ehangach y rhwydweithiau sy’n gwasanaethu cymunedau.  Gofynnwyd i’r Cabinet fabwysiadu’r Strategaeth Cysylltedd Digidol yn ffurfiol a chymeradwyo rôl y Cyngor wrth gyflenwi’r prosiect Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol.

 

Amlygodd y Cynghorydd Mainon fanteision y prosiect fyddai’n gosod rhwydwaith ffibr llawn ledled Gogledd Cymru gan gysylltu hyd at 400 o adeiladau cyhoeddus yn cynnwys ysgolion, llyfrgelloedd, swyddfeydd llywodraeth leol ac a oedd hefyd yn cynnwys y Bwrdd Iechyd a meddygfeydd teulu.  Roedd y prosiect yn dangos cam cadarnhaol yn nhermau gosod isadeiledd ddigidol y mae dirfawr angen amdano yn y rhanbarth, ac roedd Sir Ddinbych yn benodol mewn lle da i fanteisio ar hynny gyda 95 o'r lleoliadau a fyddai’n cael eu diweddaru wedi eu lleoli o fewn y sir.  Roedd potensial mawr hefyd am fanteision ychwanegol i leoliadau eraill fel rhan o’r broses honno.  Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar wella cysylltedd y sector cyhoeddus, ac roedd rhaglenni digidol eraill yn gweithio ochr yn ochr â’r rhaglen hon i fynd i’r afael â gofynion digidol o fewn sectorau eraill.  Ychwanegodd y Swyddog Datblygu’r Economi a Busnes mai’r bwriad oedd cychwyn ar y prosiect ym Mawrth 2019 i’w gwblhau ym Mawrth 2021. Roedd hon yn amserlen heriol, ond o ystyried y llwybr caffael a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru, roedd hyder y cyflawnid hyn.

 

Croesawai’r Cabinet y prosiect, a nododd y manteision cadarnhaol ar draws y rhanbarth.  Mewn ymateb i gwestiynau hysbyswyd y Cabinet –

 

·        fod cwmpas posib diweddariadau i adeiladau sector cyhoeddus wedi cael ei fanylu arno yn y Strategaeth. Fodd bynnag, roedd yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon wedi gofyn yn ddiweddar am i safleoedd pellach gael eu cynnig gyda golwg at ymestyn ffibr llawn ymhellach i ardaloedd gwledig, ac fe fyddai arolwg yn cael ei gynnal i’r perwyl hwnnw.

·        yn nhermau partneriaid iechyd, y byddai’r dechnoleg yn eu galluogi i foderneiddio eu gwasanaethau a magu gwytnwch pellach. Tra y byddai modd iddynt ddewis cynnig Wi-Fi mewn ardaloedd aros, ni fyddent dan orfod i wneud hynny.  Byddai manteision enfawr hefyd i adeiladau cyhoeddus eraill megis ysgolion a llyfrgelloedd.

·        y byddai trefniadau craffu yn cael eu cynnal yn lleol yn ystod y cymal hwn ac y gallai’r prosiect gael ei alw o flaen y Cyngor i’w graffu. Roedd potensial ar gyfer craffu rhanbarthol ar brosiectau rhanbarthol yn ystod ail gyfnod y Bargen Twf.

 

Gwahoddwyd cwestiynau hefyd gan aelodau nad oeddent yn rhan o’r Cabinet, ac ymatebodd y Cynghorydd Mainon a Swyddog Datblygu’r Economi a Busnes iddynt fel a ganlyn –

 

·        mewn perthynas â galwadau am i adeiladau cymunedol eraill weld budd gan y prosiect, cadarnhawyd y gallai dosbarthiad adeiladau cymunedol/trefol llai eraill ar draws y rhanbarth fod  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 343 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.  Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2018/19 oedd £194.418m (£189.252m yn 2017/18)

·        roedd amcanestyniad o orwariant o £0.964m ar gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol

·        rhoddwyd manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £4.6m a gytunwyd arnynt gan gynnwys y rhai hynny a oedd eisoes wedi eu cyflawni gyda’r dybiaeth y byddai pob effeithlonrwydd/ arbedion yn cael eu cyflawni – byddai unrhyw eithriadau yn cael eu hadrodd i'r Cabinet lle bo angen

·        amlygwyd risgiau ac amrywiadau cyfredol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, a

·        darparwyd y wybodaeth gyffredinol ddiweddaraf ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a’r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol).

 

Codwyd y materion canlynol wrth drafod –

 

·         Roedd cyllid ar gyfer y codiad ym mhensiynau athrawon yn cael ei ystyried fel rhan o baratoadau’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.  Roedd trafodaethau yn mynd rhagddynt rhwng Llywodraethau’r DU a Chymru mewn perthynas â hyn, a tra y disgwylid y byddai’r goblygiadau o ran cost yn cael eu hariannu, ni chafwyd cadarnhad o hynny hyd yma.

·         Holodd y Cynghorydd Arwel Roberts ynghylch y potensial i glystyrau ysgolion gael mynediad at fudd-daliadau cyllid cymunedol a godai o ddatblygiadau ffermydd gwynt, ac anogodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts bob clwstwr ysgolion a chyrff eraill i geisio am gyllid ychwanegol a fyddai o fudd i’w cymunedau.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Richard Mainon fod y Cyngor mewn lle da i gynorthwyo a chefnogi unrhyw grwpiau a ddeuai ymlaen er mwyn rhoi achos da at ei gilydd a chynyddu’r siawns o lwyddiant wrth geisio mynediad at y cyllid hwnnw.

·         Roedd cyfanswm cyllideb o £23.813m ar gyfer Ysgol Ffydd newydd Y Rhyl (gwariant o £7.005m hyd yma, ac amcan gwariant o £8.122m yn 2018/19 a £8.686m yn 2019/20). Roedd yr arian yn cael ei dalu fesul cyfran trwy gydol cyfnod y contract yn ddibynnol ar ba bryd y cyflawnwyd camau penodol yn y gwaith adeiladu.

·         Nid oedd unrhyw effaith ariannol yn codi o benderfyniad y Gweinidog Addysg mewn perthynas ag Ysgol Llanbedr gan fod y Cyngor wedi parhau i ariannu’r ysgol tra’n disgwyl y penderfyniad ac y byddai’n parhau i wneud hynny – roedd penderfyniad y Cyngor yn seiliedig ar leoedd gwag yn hytrach na materion yn ymwneud â chyllid.    Bu newid i gòd trefniadaeth yr ysgol, gwelwyd cynnydd yn nifer y disgyblion, ac ystyrid fod cynnig addysgol yr ardal yn briodol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.

 

Ar y pwynt hwn (11.40 am) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth.

 

 

9.

BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET pdf eicon PDF 281 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sy’n amgaeedig, a nodi'r cynnwys.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Blaenraglen Waith y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nodwyd y byddai’r eitem a ganlyn yn cael ei hychwanegu at y rhaglen waith ar gyfer mis Mehefin - Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru.

 

PENDERFYNWYD nodi Blaenraglen Waith y Cabinet.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

10.

DYLUNIAD GWASANAETH AILGYLCHU A GWASTRAFF NEWYDD ARFAETHEDIG A GOFYNION ISADEILEDD CYSYLLTIEDIG (DEPO)

I ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol dros Briffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy (copi’n amgaeedig), sy’n manylu ynghylch canlyniad y modelu a wnaed i nodi’r model gweithredu newydd gorau ar gyfer gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu, a cheisio penderfyniad aelodau ar addasrwydd y dyluniad gwasanaeth newydd arfaethedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn cadarnhau ei fod wedi darllen yr Asesiad o’r Effaith ar Lesiant yn Atodiad III, ei ddeall a’i ystyried fel rhan o'i benderfyniad,

 

 (b)      yn nodi bod yr arbedion refeniw y rhagwelir (yn Adran 9 o’r adroddiad) y gellid eu cyflawni drwy weithredu dewis B o ran dyluniad y gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu a’r depo, yn fwy nag unrhyw rai eraill o’r dulliau gwasanaeth yr oedd WRAP wedi’u modelu (Atodiad IV).

 

 (c)       yn nodi bod y manteision cymdeithasol a'r goblygiadau ariannol (Adran 9.7 o'r adroddiad) o ddefnyddio'r trydydd sector ar gyfer casglu tecstilau ac Offer Trydanol ac Electronig, ac yn argymell y dylid  parhau ac ehangu’r trefniant gyda Menter Gymdeithasol yn Sir Ddinbych ar gyfer casglu'r deunyddiau hyn, eu hailddefnyddio a’u hailgylchu.

 

 (ch)    yn cymeradwyo dyluniad newydd y gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu fel y nodir yn Atodiad II (A), gan weithredu glasbrint Llywodraeth Cymru ar gyfer casglu gwastraff, ar yr amod y bydd yr arbedion refeniw a ddisgwylir (am y saith blynedd gyntaf) rhwng £500,000 a £750,000 o leiaf. Bydd tîm cyllid y Cyngor yn archwilio’r arbedion refeniw a ddisgwylir cyn cyflawni unrhyw gam arwyddocaol o’r prosiect, fel prynu tir, er enghraifft.

 

 (d)      yn cymeradwyo’r Polisi Casglu Gwastraff Cartrefi drafft yn Atodiad II (B) a luniwyd i gefnogi gweithredu'r gwasanaeth arfaethedig a’i reoleiddio er mwyn cyflawni arbedion refeniw a thargedau amgylcheddol.

 

 (dd)    yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau £900,000 o gyllid cyfalaf yn 2018/19, £4 miliwn yn 2019/20 a £3 miliwn arall yn 2020/21 ar gyfer gweithredu trefn casglu deunydd ailgylchu gan ddidoli ar garreg y drws, ac yn rhoi cyfarwyddyd i’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ymrwymo i wario £900,000 yn 2018/19 yn unol ag amodau a thelerau’r grant, fel y gellir hawlio’r arian yn llawn.  Dylai’r Aelodau nodi’r risg sydd wedi’i amlygu ym mharagraff 13.3 o'r adroddiad,

 

 (e)      yn cefnogi Dewis B (depo canolog) ar gyfer gweithredu’r drefn newydd, ac yn rhoi awdurdod i’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol feithrin cyswllt â’r Pennaeth Cyfleusterau, Asedau a Thai wrth fynd ati i brynu’r tir sy’n angenrheidiol er mwyn datblygu’r depo canolog, ar yr amod fod y pris yn rhesymol ac yn adlewyrchu gwerth presennol tir o’r fath ar y farchnad,

 

 (f)        yn rhoi caniatâd i’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol gyflwyno achos busnes ffurfiol, drwy Bartneriaeth Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru, yn gofyn i Lywodraeth Cymru ariannu elfen ychwanegol o Ddewis B (depo canolog), a fyddai’n gostwng y swm o fenthyca darbodus sydd ei angen fel y nodwyd yn Adran 9.3 o'r adroddiad, ac

 

 (g)      yn cymeradwyo Dewis A (dau safle) fel cynllun wrth gefn, ac yn rhoi awdurdod i’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ddal ati i ddatblygu’r costau a’r ffynonellau cyllid gyda’r nod o droi at Ddewis A pe na fyddai’r Cyngor yn medru prynu’r tir sy’n angenrheidiol ar gyfer Dewis B (y dewis a ffefrir).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Brian Jones, yn manylu ynghylch canlyniad y modelu a wnaed i nodi’r model gweithredu newydd gorau ar gyfer gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu, ac yn ceisio penderfyniad aelodau ar addasrwydd y dyluniad gwasanaeth newydd arfaethedig a’r gofynion depo cysylltiedig.

 

Nododd y Cynghorydd Jones fod y cynnig yn canoli ar welliant amgylcheddol ac roedd manteision yn cynnwys lleihad yn ôl troed carbon y gwasanaeth, creu mwy o ailgylchu, a gwella ansawdd deunydd ailgylchadwy.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi gosod targed ailgylchu o 70% erbyn 2025, gyda’r disgwyl y byddai’r targed yn codi i 80% yn y dyfodol; ac roeddent wedi ymrwymo £7.9m tuag at y gwasanaeth arfaethedig a fyddai’n cael ei ddefnyddio i ddatblygu’r isadeiledd angenrheidiol i alluogi’r newidiadau i’r gwasanaeth.  Byddai’r cynnig hefyd yn golygu arbedion o £500k o leiaf ac yn creu oddeutu 20 o swyddi.  Pe cymeradwyid dyluniad newydd y gwasanaeth, rhagwelid na fyddai unrhyw newidiadau yn digwydd nes 2020 ar y cynharaf.

 

Byddai’r dyluniad gwasanaeth newydd yn golygu y byddai’r mwyafrif o breswylwyr yn newid i wasanaeth ailgylchu didoli ar garreg y drws wythnosol, a gwasanaeth bob pedair wythnos ar gyfer gweddill y gwastraff nas gellir ei ailgylchu.  Byddai gwasanaeth wythnosol am ddim ar gyfer casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol (cewynnau a gwastraff anymataliaeth) yn cael ei gyflwyno ynghyd â gwasanaeth bob pythefnos ar gyfer dillad ac eitemau trydanol bychain.  Roedd y datrysiad mwyaf manteisiol yn economaidd hefyd yn gofyn am fuddsoddiad mewn isadeiledd depo, ac amlinellai'r adroddiad y datrysiad depo a ffafrid – Opsiwn B (depo canolog) gydag Opsiwn A (opsiwn dwy safle) fel cynllun wrth gefn – ac yn cynnig sut y gellid ariannu’r gofynion hynny.

 

Croesawai’r Cabinet effaith gadarnhaol y cynigion ar yr amgylchedd, ac roedd yn falch o nodi ehangiad y gwasanaeth ailgylchu i annog arferion ecogyfeillgar.  Yng ngoleuni’r gallu ailgylchu uwch a fyddai’n cael ei gynnig i breswylwyr, ystyriwyd fod y cynnig i newid i wasanaeth bob pedair wythnos ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn ddigonol ond nodwyd y gellid darparu biniau mwy pe bai hynny yn briodol.  Amlygodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts nifer o faterion a godwyd gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau a oedd wedi rhoi gwell eglurder o ran y gwasanaeth newydd arfaethedig yn cynnwys y gost i dai/aelwydydd newydd; y gwasanaeth casglu wythnosol newydd ar gyfer cewynnau; delio a gwastraff anifeiliaid anwes a thrafodaethau ag aelwydydd unigol fesul achos.  O ganlyniad i’r adolygiad gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau, roedd y ffioedd arfaethedig am gynhwysyddion bellach wedi cael eu tynnu o’r polisi drafft a byddid yn parhau i ddarparu pob cynhwysydd i aelwydydd yn rhad ac am ddim, yn cynnwys tai yn cael eu hadeiladu o’r newydd.  Ystyriai'r Cabinet fod ymgysylltu â’r cyhoedd a strategaeth gyfathrebu effeithiol ac amserol i addysgu a hysbysu preswylwyr ynghylch rhoi’r gwasanaeth newydd ar waith o’r pwys mwyaf, a chafwyd sicrwydd i’r perwyl hwnnw gan y Cynghorydd Brian Jones a’r swyddogion.  Nodwyd fod rhai ardaloedd a oedd yn profi’n anodd ymgysylltu â hwy, ond roedd swyddogion yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â'r problemau yn yr ardaloedd hynny cyn rhoi’r prosiect ar waith er mwyn rhoi sylfaen gadarn i’r Cyngor wrth fynd ati i weithredu’r newidiadau. Cydnabuwyd fod rhai achosion penodol lle y byddai gofyn i breswylwyr barhau i ddefnyddio sachau neu lle y byddai angen casgliadau mwy mynych, a bod materion eto i fynd i’r afael â hwy yn nhermau mynediad a thipio anghyfreithlon ayyb.  Cafwyd trafodaeth hefyd ar oblygiadau ariannol, a chyfeiriodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill at waith modelu ariannol cadarn a chraffu trwyadl a wnaed ar yr achos busnes gan y Grŵp Buddsoddi Strategol  ...  view the full Cofnodion text for item 10.