Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Meirick Davies – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 5 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Brian Jones – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 8 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Tony Thomas – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 8 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Julian Thompson-Hill – Cysylltiad Personol - Eitem 5 ar y Rhaglen.

 

Cofnodion:

Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitemau ar y rhaglen -

 

Y Cynghorydd Meirick Davies –Eitem 5 - oherwydd ei fod yn Gadeirydd Awdurdod Tân Gogledd Cymru

Y Cynghorydd Julian Thompson-Hill – Eitem 5 – Cyfarwyddwr Data Cymru

Cynghorydd Tony Thomas – Eitem 8 – Cynghorydd Tref y Rhyl a Chynghorydd Sir.

Cynghorydd Brian Jones – Eitem 8 – Aelod o Grŵp Busnes/Cynghorydd Tref y Rhyl  a Chynghorydd Sir.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 374 KB

Derbyn -

 

(a)  cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2018 (copi’n amgaeedig), a

 

(b)  cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Hydref 2018 (copi’n amgaeedig).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 15 Hydref ac 30 Hydref 2018 fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet Arbennig a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2018 ar chyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Hydref 2018.

 

Materion yn codi -

 

Cabinet Arbennig (15 Hydref 2018) -  dywedodd y Cynghorydd Brian Jones fod diwedd y cyfarfod wedi’i gofnodi fel 6.10pm a’i fod yn teimlo y byddai’n ddoethach defnyddio’r cloc pedair awr ar hugain er mwyn osgoi unrhyw ddryswch.

 

Cabinet (30 Hydref 2018) – Tudalen 16, Eitem 4 yn y Cofnodion – Darpariaeth Safle Sipsiwn a Theithwyr – cyflwynodd y Cynghorydd Peter Scott safbwyntiau busnesau Parc Busnes Llanelwy a oedd wedi gwrthwynebu’r cynnig i leoli’r safle yn Green-gates Farm East, Llanelwy, gan gyfeirio at dystiolaeth o aflonyddu, difrod a materion diogelwch a brofwyd yn flaenorol yn y lleoliad hwnnw.  Amlygodd hefyd effaith niweidiol y cynnig o ran y gallu i gadw busnesau ar y Parc Busnes ac i ddenu busnesau newydd yno yn y dyfodol.  Erfyniodd y Cynghorydd Scott ar y Cabinet i ddefnyddio unrhyw ddylanwad sydd ganddynt dros yr ymgynghoriad cyn-cynllunio er mwyn sicrhau na fydd dyfodol Parc Busnes Llanelwy'n cael ei beryglu.   Dywedodd yr Arweinydd y cafodd y Cabinet eu cynrychioli’n dda gan yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Tony Thomas, mewn cyfarfodydd cyhoeddus a gyda’r sector busnes mewn perthynas â’r cynigion ac y byddai'r holl bryderon yn cael eu hystyried.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Thomas ei fod wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o Barc Busnes Llanelwy ac wedi gwrando ar ac ystyried eu safbwyntiau. Dywedodd fod y cam cyn-cynllunio ar y gweill ac y byddai'n dod i ben ar 25 Tachwedd 2018.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 15 Medi 2018 ac 30 Hydref 2018 fel cofnod cywir.

 

 

5.

ADRODDIAD AR BERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL – CHWARTER 2 – 2018-19 pdf eicon PDF 350 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,  Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi wedi’i amgáu) yn rhoi diweddariad ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2017-2022 ar ddiwedd chwarter 2 2018 - 19.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun Corfforaethol ar ddiwedd chwarter 2 o 2018/19.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i aelodau ar ddarpariaeth Cynllun Corfforaethol 2017-22 ar ddiwedd Chwarter 2  2018–19 .

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys tair prif elfen -

 

·         Crynodeb Gweithredol – yn nodi cyraeddiadau ac eithriadau allweddol gyda dau ddarn o sylwebaeth ar gyfer pob blaenoriaeth:

·          Adroddiad chwarterol llawn ar berfformiad a chynnydd y rhaglen – wedi’i gynhyrchu o System Rheoli Perfformiad Verto ac yn darparu asesiad yn seiliedig ar dystiolaeth o’r sefyllfa bresennol.

·         Crynodeb o’r prosiectau sy’n cael eu rheoli o dan bob Bwrdd Rhaglen – Cymunedau a’r Amgylchedd a Phobl Ifanc a Thai.

 

Roedd perfformiad fel y byddai disgwyl iddo fod ar gam mor gynnar o ystyried yr amseroedd a bennwyd ar gyfer gwelliannau.  Roedd dwy flaenoriaeth wedi’u hasesu fel rhai ar gyfer gwella, sef Cymunedau Gwydn a Phobl Ifanc, sy’n gofyn am fwy o fewnbwn gan bartneriaid allanol ac nad ydynt o dan reolaeth uniongyrchol y Cyngor.  Mae’r tair blaenoriaeth arall - Tai, Cymunedau Wedi'u Cysylltu â’r Amgylchedd yn parhau i fod ar lefel dderbyniol.   Roedd cynnydd ar draws y blaenoriaethau wedi’i asesu fel bod yn dda a rhoddwyd manylion y prosiectau a reolir gan y ddau Fwrdd Rhaglen gan amlygu'r gwahanol gamau y maent wedi'u cyrraedd.  Roedd un prosiect wedi’i wrthod a’i gau oherwydd nad oedd y Bwrdd yn ystyried y byddai’n cyflawni ei amcanion, sy'n dangos cadernid y broses asesu.

 

Arweiniodd Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol yr aelodau drwy’r meysydd blaenoriaeth yn yr adroddiad a thynnodd sylw at sawl maes o arfer da gan ymhelaethu ar ddatblygiadau’r prosiect mewn meysydd allweddol.  Ychwanegodd y Cynghorydd Thompson-Hill y caiff adroddiadau rheolaidd eu cyflwyno i’r Pwyllgor Craffu fel rhan o’r broses fonitro er mwyn iddynt ystyried a oes angen ymchwilio ymhellach i rai meysydd.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd yr Aelodau’r materion canlynol –

 

·          o ran y prosiect i ddod a 500 o dai gwag yn ôl i ddefnydd, ystyriwyd bod 500 yn darged y byddai modd ei gyrraedd ond ei fod er hynny yn heriol o ystyried lefelau newidiol tai gwag - nodwyd fod cynnydd yn unol â’r targed.

·         soniodd yr Arweinydd am bwysigrwydd Cynllun Corfforaethol uchelgeisiol ac roedd yn falch fod y Cyngor wedi dal gafael ar ei uchelgais ac wedi cynnal momentwm a’r ymrwymiad i drigolion i lwyddo er gwaethaf yr hinsawdd ariannol – ar ôl gosod y blaenoriaethau roedd cynnydd da’n cael ei wneud o ran eu cyflawni.

·         nodwyd ymgysylltiad aelodau'r Cabinet â’r Byrddau Rhaglen a sefydlwyd i ganolbwyntio ar flaenoriaethau a darpariaeth prosiectau, ynghyd â'r crynodeb allweddol o brosiectau ar gyfer gwneud gwelliannau a oedd wedi’u cynnwys fel atodiad i'r adroddiad - bu peth trafodaeth ar rinweddau cryfhau cysylltiadau gyda’r rhai nad ydynt yn aelodau o’r cabinet yn ychwanegol at y monitro rheolaidd gan y Pwyllgor Craffu a’r Adroddiad Gwelliant Blynyddol i’r Cabinet.  Cytunodd y Prif Weithredwr y byddai’n trafod gyda’r Aelod Arweiniol a fyddai lledaenu neu ddosbarthu gwybodaeth ymhellach yn ychwanegu gwerth at y broses bresennol.

·         Pwysleisiodd y Cynghorydd Mark Young bwysigrwydd sicrhau parhad yn y gwaith cynnal a chadw ar y systemau amddiffyn rhag llifogydd presennol, a rhoddwyd sicrwydd bod yr elfen hon yn cael ei hystyried fel busnes arferol, a bod rhaglen o waith cynnal a chadw wedi'i sefydlu - nod y Cynllun Corfforaethol yw gwella’r ddarpariaeth bresennol yn hytrach na delio â materion cynnal a chadw bob dydd.  Mewn perthynas â chynlluniau ac astudiaethau amddiffyn rhag llifogydd, nodwyd bod y gwaith yn parhau gyda phartneriaid.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones mewn perthynas â’r adroddiad annibynnol i’r llifogydd yn Ffordd Derwen, Y Rhyl, cadarnhaodd y Cynghorydd Brian  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 342 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a gwybodaeth am gynnydd yn erbyn y strategaeth gyllidol gytunedig.  Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2018/19 oedd £194.418m (£189.252m yn 2017/18).

·        rhagamcanwyd gorwariant o £1.292m ar gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol

·        rhoddwyd manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd cytunedig gwerth £4.6m gan gynnwys y rhai hynny a oedd eisoes wedi eu cyflawni gyda’r dybiaeth y byddai pob effeithlonrwydd/ arbediad yn cael eu cyflawni – byddai unrhyw eithriadau yn cael eu hadrodd i'r Cabinet lle bo angen.

·        amlygwyd risgiau ac amrywiadau cyfredol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, a

·        darparwyd y wybodaeth gyffredinol ddiweddaraf ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a’r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol).

 

Soniodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill am y meysydd risg arferol ond cadarnhaodd na fu fawr o newid yn y ffigyrau ers yr adroddiad i’r cyfarfod diwethaf.  Ychwanegodd y Prif Weithredwr nad oedd yr heriau cysylltiedig â Chludiant Ysgolion a Gwasanaethau Plant yn unigryw i Sir Ddinbych ac mai'r rheswm y tu ôl iddynt oedd cynnydd mewn galw.   Cafwyd sicrwydd fod swyddogion wedi craffu’n fanwl ar y pwysau hwn y byddai angen delio ag o ochr yn ochr â'r setliad ariannol gwael ar gyfer 2019/20.

 

Codwyd y materion canlynol yn ystod y drafodaeth –

 

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts at y pwysau ar gludiant ysgol, sef bron £600k, ond yn y cyd-destun hwn dywedodd fod Cyngor Sir Powys yn gwario oddeutu £68k y diwrnod (£12.5m y flwyddyn) ar gostau cludiant.

·           Rhoddodd sicrwydd ynghylch darbodaeth wrth weithredu’r meini prawf cymhwysedd am gludiant ysgol ac eglurodd elfennau disgresiwn y polisi.  Nid oedd yn hyrwyddo adolygiad o’r elfennau anstatudol gan ei fod yn credu y byddai hynny’n arwain at effaith arwyddocaol ar ddysgwyr.  Mae’r Cyngor wedi gwneud yr ymdrechion gorau dros y blynyddoedd diwethaf i ailstrwythuro gwasanaethau gan ganolbwyntio ar wytnwch er mwyn lleihau cyllidebau heb effeithio ar ddefnyddwyr gwasanaethau, ond mynegwyd pryderon na fydd efallai’n bosibl fforddio’r amddiffyniad hwnnw yn y dyfodol  Mewn ymateb i gwestiynau ynglŷn â’r posibilrwydd o gael arian ychwanegol, yn benodol ar gyfer gofal cymdeithasol, dywedodd y Cynghorydd Thompson-Hill fod £30m ychwanegol wedi'i gynnwys yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal cymdeithasol ar linell y gyllideb iechyd; roedd awdurdodau lleol yn lobio am beth o'r cyllid hwnnw.  O safbwynt clustnodi elfen ganlyniadol Cyllideb  Hydref y DU nid oedd yn hysbys eto a fyddai’n arwain at unrhyw arian ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol.   Disgwylir y cyhoeddiad am y setliad terfynol ar 19 Rhagfyr. Soniodd yr Aelodau eto am yr anawsterau gyda  chynllunio ariannol y dyfodol yng ngoleuni'r ansicrwydd ynghylch  cyllidebau a chyhoeddiad hwyr y setliad terfynol.  Dywedwyd fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dal i lobio Llywodraeth Cymru ar y pwynt hwn

·          Cyfeiriodd y Cynghorydd Mark Young at gyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru bod £15m wedi’i glustnodi ar gyfer datblygiad proffesiynol athrawon, a chadarnhaodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ei fod wedi codi’r mater gyda’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams. Nododd mai ei farn ef, o ystyried bod colli swyddi addysgu'n bosibilrwydd gwirioneddol, oedd y dylai awdurdodau lleol gael caniatâd i ddosbarthu cyllid addysg ar sail angen, fyddai’n fwy buddiol i ysgolion na chlustnodi gwariant yn benodol.  Roedd yr Ysgrifennydd Addysg wedi ymateb drwy ddweud fod undebau’r athrawon yn fodlon â’r dyraniad ar gyfer hyfforddiant.

·         mewn ymateb i gwestiynau am gontract cynnal a chadw Pont y Ddraig cafwyd eglurhad am faterion perthnasol i’r gwasanaeth a chostau trwsio ac eglurwyd y byddai angen ail drafod y contract cynnal a chadw er mwyn rhagweld costau’r dyfodol  a  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 294 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm, a nodi'r cynnwys.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried.

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

Dogfennau ychwanegol:

8.

DYFARNU GRANT ER MWYN CAFFAEL EIDDO AR RODFA'R GORLLEWIN A SUSSEX STREET YN Y RHYL

Ystyried adroddiad cyfrinachol ar y cyd gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol a Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi wedi’i amgáu) yn ceisio cymeradwyaeth i dderbyn cynnig o gyllid grant gan Lywodraeth Cymru i gaffael eiddo ar Rodfa’r Gorllewin a Sussex Street yn y Rhyl.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)       yn cymeradwyo derbyn cyllid grant a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru i brynu eiddo ar Rodfa'r Gorllewin a Sussex Street yn y Rhyl sef safle hen westy’r Savoy a Marchnad, Theatr a Gwesty’r Frenhines cyn belled a bo’r caffaeliad arfaethedig, gan gynnwys unrhyw gostau refeniw rhagarweiniol, yn cael eu hariannu’n allanol, a

 

(b)       chadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorwyr Hugh Evans a Julian Thompson-Hill adroddiad cyfrinachol yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i dderbyn cynnig o arian grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer caffael eiddo ar Rodfa’r Gorllewin a Sussex Street yn y Rhyl.

 

Roedd y Cabinet wedi cymeradwyo prynu’r adeiladau yn Ebrill 2018 yn amodol ar gyllid allanol ar gyfer y costau caffael a dim costau refeniw cysylltiedig i'r Cyngor.  Roedd Llywodraeth Cymru yn awr wedi cadarnhau cyllid grant cychwynnol o £2.5m er mwyn galluogi'r Cyngor i symud ymlaen gyda'r pryniannau ac ymrwymiad mewn egwyddor i roi £2.5m ychwanegol i gynorthwyo ag ailddatblygiad y safleoedd.  Dywedodd yr Arweinydd fod ailddatblygiad arfaethedig y safle yn brosiect allweddol yn adfywiad y Rhyl ac y byddai’n dod ag eiddo adfeiliedig yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol, gan ddarparu cyfleoedd am swyddi a thwf busnesau, ac ysgogi rhagor o fuddsoddiad sector preifat yn y dref.  Soniodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill am y gwahaniaethau rhwng hyn a’r cynnig gwreiddiol a ystyriwyd gan y Cabinet ym mis Ebrill 2018 a'r rhesymu y tu ôl i’r bwriad i gaffael yr holl eiddo fel un eitem yn hytrach nag fel dwy eitem fel y nodwyd yn flaenorol.  Rhoddodd  wybodaeth hefyd am fanylion yr arian grant a gynigiwyd a’r goblygiadau ariannol, ynghyd â’r risgiau sy'n deillio o’r cynnig.

 

Nododd y Cabinet fod y cynnig wedi cael cefnogaeth Grŵp Aelodau Ardal y Rhyl a’r Grŵp Rheoli Asedau, ac roedd y Grŵp Buddsoddiad Strategol hefyd wedi argymell symud ymlaen â’r cynnig.  Cydnabuwyd hefyd rinweddau’r cynnig o safbwynt adfywio.  Mewn trafodaeth fanwl atebodd yr Aelodau Arweiniol a’r swyddogion gwestiynau pellach am y risgiau a ddynodwyd, yr effaith ar adnoddau ariannol, argaeledd arian grant a’r cytundebau/camau cyfreithiol angenrheidiol i symud ymlaen.  Wedi ystyried manteision y cynnig ac wedi cydnabod y risgiau er mwyn symud ymlaen -

PENDERFYNWYD bod y Cabinet

 

(a)       Yn cymeradwyo derbyn y cynnig o arian grant gan Lywodraeth Cymru er mwyn caffael eiddo yn Rhodfa’r Gorllewin a Sussex Streed y Rhyl sy’n cynnwys yr hen Westy’r Savoy a Theatr, Marchnad a Gwesty’r Frenhines ar yr amod fod y caffael arfaethedig gan gynnwys unrhyw gostau refeniw cychwynnol cysylltiedig yn cael eu hariannu’n allanol, a

 

(b)       cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau;

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.22pm.