Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Datganodd y
Cynghorwyr Meirick Davies ac Emrys Wynne gysylltiad personol yn Eitem Rhaglen
Rhif 9. Cofnodion: Datganodd yr
aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem 9 ar y rhaglen – Adroddiad Cyllid
(Alldro Ariannol 2017/18)- Y Cynghorydd
Meirick Davies - Llywodraethwr Ysgol Cefn Meiriadog ac Ysgol Trefnant Y Cynghorydd
Emrys Wynne – Llywodraethwr Ysgol Borthyn |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Mai 2018 (copi wedi’i amgáu). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mai 2018 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 22 Mai 2018. Tynnodd yr Arweinydd sylw at y cwestiynau a godwyd
mewn perthynas â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg a oedd yn adlewyrchu
lefel uchel o graffu a fyddai'n well mewn pwyllgor archwilio. Gan fod y Cabinet yn fforwm gwneud
penderfyniadau gofynnodd i’r aelodau ganolbwyntio ar argymhellion yr adroddiad
a bod unrhyw eitem sydd angen ei graffu’n fanylach yn cael ei gyfeirio drwy’r
broses archwilio. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mai 2018 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
GWELEDIGAETH A STRATEGAETH DWF AR GYFER ECONOMI GOGLEDD CYMRU: TREFNIADAU LLYWODRAETHU PDF 275 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr
Economi a Llywodraethu Corfforaethol, (copi wedi’i amgáu) ynglŷn â’r
Cytundeb Llywodraethu sydd ei angen i ffurfioli trefniadau cyfansoddiadol Bwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a rhoi pwerau penderfynu i’r Bwrdd o fewn
terfynau penodol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod - (a) cynnydd ar
ddatblygiad Cynnig y Fargen Twf i’w nodi a’i groesawu;. (b) bod y Cabinet yn
cymeradwyo Cytundeb Llywodraethu’r cam cyntaf yn amodol ar gymeradwyaeth y
Cyngor o’r trefniadau anweithredol h.y. y trefniadau ar gyfer Craffu; (c) cyflwyno drafft
terfynol y Cynnig Bargen Twf i’r Cyngor ei adolygu a’i ganiatáu ym mis
Medi/Hydref, cyn cam cyrraedd Penawdau Telerau gyda’r ddwy Lywodraeth. (d) rhoi awdurdod
dirprwyedig i’r Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth
Cyhoeddus a Phennaeth Cyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd,
mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd, i gwblhau telerau’r Cytundeb Llywodraethu’n
sylweddol yn unol â’r drafft sydd ynghlwm wrth yr adroddiad hwn, a (e) bod y Cabinet yn
cymeradwyo’r trefniadau gweithredol sydd wedi’u cynnwys yn y Cytundeb
Llywodraethu a bod y Cyngor yn cymeradwyo eu cynnwys yn y Cyfansoddiad ynghyd
â’r trefniadau anweithredol yn ymwneud â Chraffu. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad ynglŷn â’r Cytundeb Llywodraethu sy’n
ofynnol er mwyn ffurfioli trefniadau cyfansoddiadol Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru, a rhoi pwerau gwneud penderfyniadau iddynt o fewn y terfynau
rhagnodedig. Darparwyd
rhywfaint o wybodaeth gefndir ynglŷn â chymeradwyaeth cydweithrediadau
blaenorol er mwyn mabwysiadu’r Weledigaeth Twf a datblygu Cynnig Bargen Twf. Roedd y cam nesaf yn gofyn am
gymeradwyaeth ar gyfer cam cyntaf y Cytundeb Llywodraethu gan chwe awdurdod
lleol Gogledd Cymru- ceisiwyd cymeradwyaeth y Cabinet am ei fod yn ymwneud â
threfniadau gweithredol yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor Llawn ar gyfer y
trefniadau anweithredol. Roedd
y Cytundeb Llywodraethu cyntaf yn ymwneud â’r cam paratoadol a datblygiadol hyd
at ganol mis Gorffennaf 2019. Wedi hynny byddai angen cymeradwyo Cytundeb
Llywodraethu manylach i fynd i’r afael â cham gweithredu a darparu’r prosiect. Croesawodd
y Cabinet y cynnydd o ran datblygu’r Cynnig Twf a phwysleisio bod angen
trefniadau llywodraethu cadarn, yn enwedig wrth symud ymlaen i’r ail gam o
flaenoriaethu prosiectau yn y rhanbarth a'r cyfraniadau ariannol. Mewn ymateb i gwestiynau
cafwyd yr ymatebion canlynol gan yr Arweinydd a Phennaeth Gwasanaethau'r
Gyfraith, AD a Democrataidd - ·
nodwyd aelodaeth y Bwrdd a oedd
yn cynnwys cynrychiolwyr o’r chwe awdurdod lleol, dwy brifysgol, dau goleg
addysg bellach a Chyngor Busnes Merswy Dyfrdwy Gogledd Cymru a chadarnhau'r
darpariaethau sydd ar waith ar gyfer eilydd enwebedig a chynrychiolwyr
ychwanegol i sicrhau parhad. ·
Cadarnhawyd mai model
cydbwyllgor yw'r mwyaf priodol o ran llywodraethu ar hyn o bryd ond gofynnwyd i
Lywodraeth Cymru greu model sy'n fwy priodol gan mai dim ond yr awdurdodau
lleol sydd â hawliau pleidleisio ac nid oes darpariaeth o'r fath ar gyfer y partneriaid.
·
Ymhelaethwyd ar y map
llywodraethu a oedd yn cynnwys fforwm budd-ddeiliaid gyda chynrychiolwyr o’r
sectorau perthnasol a monitro’r Bwrdd ac eglurwyd y byddai’r ail gam yn cynnwys
sefydlu nifer o is-grwpiau amrywiol. ·
eglurwyd y darpariaethau yn Atodiad
1 (Polisi Dirprwyaeth), pwynt 21 a oedd yn ymwneud â materion achlysurol gydag
unrhyw brif faterion yn cael eu cadw'n ôl fel y nodwyd yn y tabl. ·
cynghorwyd bod pob awdurdod
lleol yn cael eu cynrychioli ar y Bwrdd gan eu Harweinydd a byddai penderfyniadau’n
cael eu llunio’n unol â’r trefniadau llywodraethu a gytunwyd gydag atebolrwydd
clir. ·
Eglurwyd bod cyllid o £50,000
wedi’i ymrwymo i symud ymlaen â’r gwaith cychwynnol ond byddai angen ystyried
buddsoddiad pellach wrth i faterion symud ymlaen ac wrth i gostau prosiectau
posibl a chyfraniadau ariannol ddod yn fwy eglur ·
eglurwyd y trefniadau craffu a
fyddai’n golygu craffu lleol yng ngham cyntaf y Cytundeb Llywodraethu gyda’r
posibilrwydd o graffu’n rhanbarthol yn yr ail gam. ·
eglurwyd cyd-destun y Cynllun
Datblygu Lleol o ran prosiectau posibl yn y dyfodol gyda Bodelwyddan wedi’i
nodi fel blaenoriaeth ar gyfer yr ardal –nid oedd effaith ar y trefniadau
presennol o ganlyniad i’r Cytundeb Llywodraethu. PENDERFYNWYD – (a) Nodi a chroesawu’r cynnydd ar ddatblygiad y Cynnig Bargen Twf; (b) Cymeradwyo cam cyntaf y Cytundeb Llywodraethu yn amodol ar gymeradwyaeth y
Cyngor o'r trefniadau anweithredol h.y. trefniadau ar gyfer Craffu; (c) Cyflwyno drafft terfynol Cynnig Bargen Twf i’r Cyngor i’w adolygu a’i
gymeradwyo ym mis Medi / Hydref cyn y cam o lunio penawdau'r telerau gyda’r
ddau Lywodraeth; (d) Y rhoddir yr awdurdod i’r Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus a Phennaeth y
Gwasanaethau’r Gyfraith, AD a Democrataidd, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, i
benderfynu ar delerau terfynol y Cytundeb Llywodraethu’n unol â'r drafft sydd
ynghlwm â'r adroddiad hwn, a (e) Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r trefniadau gweithredol a nodwyd yn y Cytundeb Llywodraethu ac yn argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo eu cynnwys yn y Cyfansoddiad ynghyd ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL – CHWARTER 4 – 2017-18 PDF 281 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau
Strategol (copi wedi’i amgáu) yn rhoi diweddariad ar gyflawni Cynllun
Corfforaethol 2017-2022 ar ddiwedd chwarter 4 2017-18. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac
yn nodi'r cynnydd yn narpariaeth y Cynllun Corfforaethol ar ddiwedd chwarter 4
2017/18. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i aelodau
ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2017 - 22
ar ddiwedd chwarter 4 o 2017/18. Roedd yr adroddiad yn cynnwys dwy brif elfen - ·
Crynodeb
Gweithredol – yn nodi cyflawniadau / eithriadau allweddol gyda dau ddarn o
sylwebaeth ar gyfer pob blaenoriaeth: Statws Perfformiad a Chynnydd Rhaglen ·
Adroddiad
chwarterol llawn – wedi’i gynhyrchu o System Rheoli Perfformiad Verto ac yn
darparu asesiad yn seiliedig ar dystiolaeth o’r sefyllfa bresennol. Roedd eglurhad ar gyfer Statws Perfformiad a
Chynnydd Rhaglen pob blaenoriaeth wedi’i gynnwys yn yr adroddiad gyda materion
allweddol yn cael sylw a’u trafod ymhellach yn y cyfarfod. Roedd dau faes wedi’u hasesu fel Coch: Nid oedd Blaenoriaeth ar gyfer Gwella (1)
Cymunedau Gwydn a (2) Pobl Ifanc o dan reolaeth uniongyrchol y Cyngor gyda mwy
o gyfranogiad gan bartneriaid allanol. Disgwylir lefelau perfformiad isel ar y cam cynnar
hwn ond dros amser disgwylir i’r lefelau perfformiad a rhaglen gyfateb â
chanlyniad statws 'da' o leiaf. Cyfeiriwyd hefyd at y trefniadau llywodraethu a rôl y Byrddau Rhaglen wrth
asesu briffiau prosiect ac achosion busnes. Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd yr Aelodau’r
materion canlynol – ·
eglurwyd
y dulliau adrodd ar gyfer monitro perfformiad a chynnydd o ran cyflawni’r Cynllun
Corfforaethol, roedd hyn yn cynnwys adroddiadau i'r Cabinet, Pwyllgorau
Archwilio, Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth. ·
Darparodd
y Cynghorydd Bobby Feeley ragor o wybodaeth am faterion yn ymwneud â'i
phortffolio gan gynnwys datblygiadau tai gofal ychwanegol a fyddai'n lleihau'r
niferoedd sy'n aros mewn cartrefi gofal preswyl; prosiect i ddarparu mwy o
gefnogaeth i ofalwyr; adborth cadarnhaol ar gyfer y Pwynt Mynediad Sengl a
Thimau Ardal i gefnogi annibyniaeth pobl, ac ystod o waith arall sydd ar y
gweill i gymell gwelliannau ·
Eglurodd
y Cynghorydd Brian Jones fod y Strategaeth Priffyrdd wedi bod yn destun proses
graffu gadarnhaol ac roedd darlun o waith stryd yn cael ei gyflwyno i’r Grwpiau
Ardal Aelodau; adroddodd hefyd ar gynnydd y rhaglen triniaeth wyneb ffordd. ·
Roedd
y Cynllun yn fwriadol uchelgeisiol a heriol ac roedd wedi’i alinio ag amcanion
y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus o ran blaenoriaethu Cymunedau Gwydn a Chlymu
Cymunedau; ychwanegodd y Prif Weithredwr bod y Cynllun wedi derbyn blaenoriaeth
a darparwyd sicrwydd o ran ei ddarpariaeth yn y dyfodol. ·
Cwestiynodd
y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor y statws perfformiad derbyniol ar gyfer Clymu
Cymunedau o ystyried cyflwr annerbyniol ffordd B4401 a diffyg gweithredu i fynd
i’r afael â’r pryderon hynny. Eglurwyd y dull o asesu a meincnodi perfformiad yn
erbyn awdurdodau eraill yng Nghymru- fodd bynnag cydnabuwyd bod darnau o ffordd
a oedd yn is na'r safonau hyn. Cytunodd y Cynghorydd Brian Jones y byddai’n olrhain y mater o ran B4401 ac
anogodd yr unigolion i gofrestru digwyddiadau ar system CRM. ·
cadarnhaodd
y swyddogion bod y ffigwr cyffredinol ar gyfer tai cyngor newydd yn cynnwys
prynu cyn-dai cyngor yn ôl a chytuno y byddant yn egluro'r mater mewn
adroddiadau yn y dyfodol. ·
Gofynnodd
y Cynghorydd Rhys Thomas i’r Cabinet ystyried, er bod yr adroddiad yn cael ei
fesur yn erbyn targedau cenedlaethol cyffredinol, roedd meysydd yn
tanberfformio mewn cymunedau unigol ac na ddylid diystyru’r rhain. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun
Corfforaethol ar ddiwedd chwarter 4 o 2017/18. |
|
SEFYDLU SYSTEM BRYNU DDEINAMIG AR GYFER GWASANAETHAU CLUDO TEITHWYR PDF 246 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a
Theithio Cynaliadwy (copi wedi'i amgáu) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i
ddechrau proses gaffael i sefydlu system brynu ddeinamig ar gyfer cludiant i
ddysgwyr a gwasanaethau bysiau lleol ar draws Sir Ddinbych. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) cymeradwyo dechrau’r
caffaeliad i sefydlu DPS ar gyfer cludiant i ddysgwyr a gwasanaethau bysiau
lleol; (b) awdurdodi
Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd a'r Amgylchedd i benodi darparwyr i'r DPS yn
ystod ei fodolaeth, o dan yr amod bod y darparwr yn bodloni'r meini prawf
cymhwyso ar gyfer penodiad i'r DPS; a thynnu darparwyr na ddymuna gael eu cofrestru ar y DPS bellach, neu sydd
ddim yn gymwys i fod yn rhan o'r DPS; (c) awdurdodi
Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd i gynnal cystadlaethau bychain o
dan y DPS yn ystod ei fodolaeth a gwobrwyo cytundebau yn ôl y gofyn, a (d) cadarnhau y gall
trefniadau gael eu hymestyn i gludiant
gofal cymdeithasol oedolion. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i ddechrau proses
gaffael i sefydlu system brynu ddeinamig (DPS) ar gyfer cludiant i weithredu
cludiant i ddysgwyr a gwasanaethau bws lleol ar draws Sir Ddinbych. Byddai’r
system yn disodli’r broses dendro draddodiadol gyda system gaffael sy’n fwy
effeithlon, yn cefnogi anghenion busnes y cyngor a chynorthwyo i ddarparu
gwerth am arian. Nid
oedd cost ychwanegol o ganlyniad i’r System newydd a byddai’n galluogi’r cyngor
i dendro am wasanaethau fel y caniateir yn y gyllideb. Cyfeiriodd
y Rheolwr Cludiant i Deithwyr at y trafodaethau gyda gwasanaethau gofal
cymdeithasol oedolion a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i ychwanegu’r
gwasanaeth hwn at fframwaith y System newydd ar yr amod bod yr holl ddogfennau
gofynnol wedi'u paratoi erbyn terfyn amser Gorffennaf 2018. Canmolodd y Cynghorydd Bobby
Feeley y broses newydd a chefnogi’r diwygiad i gynnwys gwasanaethau gofal
cymdeithasol oedolion, ac fe gefnogwyd hyn gan y Cabinet. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) Cymeradwyo dechrau'r broses gaffael i sefydlu System Brynu Ddeinamig (DPS)
ar gyfer cludiant i ddysgwyr a gwasanaethau bws lleol; (b) Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd i benodi
cyflenwyr i’r System DPS yn ystod ei defnydd, ar yr amod bod y cyflenwyr yn
diwallu'r meini prawf cymhwyso ar gyfer eu penodi; ac i dynnu cyflenwyr nad
ydynt eisiau bod arno bellach neu nad ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwyso i
fod yn rhan o’r DPS; (c) Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd i gynnal
cystadlaethau bychan o dan y System yn ystod ei defnydd a dyfarnu contractau
fel bo’r angen; a (d) Chadarnhau y gellir ymestyn y trefniadau i gludiant gofal cymdeithasol
oedolion. |
|
SEFYDLU FFRAMWAITH CYNNAL A CHADW TAI GWAG PDF 223 KB Ystyried adroddiad
ar y cyd gan y Cynghorwyr Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r
Amgylchedd a Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac
Asedau Strategol (copi wedi’i amgáu) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i
ddechrau proses gaffael a ffurfio cytundeb i benodi nifer o gontractwyr ar
gyfer fframwaith i gwblhau gwaith adnewyddu ar adeiladau domestig gwag sy’n
eiddo i’r Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo dechrau'r caffaeliad i osod fframwaith a penodi contractwyr i'r
cyfrannau amrywiol. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad oedd yn ceisio cymeradwyaeth i
ddechrau proses gaffael a llunio contract i benodi nifer o gontractwyr i
fframwaith i ymgymryd â gwaith adnewyddu i eiddo domestig gwag sy'n eiddo i'r
cyngor (sy'n cael eu hadnabod fel unedau gwag). Byddai
darparu fframwaith yn lleihau’r costau a’r amser a dreulir yn cyflawni gwaith
ar dai gwag a chredir mai dyma'r datrysiad mwyaf manteisiol. Roedd yr adroddiad yn cynnwys
manylion llawn a manyleb y fframwaith arfaethedig gan gynnwys rhaniad pris 60%
ac ansawdd 40% gyda gwerth disgwyliedig o £11m dros bedair blynedd. Roedd posibilrwydd caffael
cydweithredol wedi’i ystyried ond wedi'i ddiystyru yn yr achos hwn oherwydd y
gwahaniaethau mewn anghenion. Darparodd
Prif Swyddog - Eiddo a Stoc Tai Corfforaethol yr atebion canlynol i’r
cwestiynau- ·
ymhelaethodd ar yr adnoddau mewnol
sydd ar gael i ymgymryd â gwaith ar dai gwag a oedd yn tueddu i ganolbwyntio ar
waith adweithiol ac roedd yn destun adolygiad ar hyn o bryd ·
Eglurodd y rhesymau dros y
rhaniad 60% pris a 40% ansawdd a chydnabod bod y prisiau yn tueddu i fod yn
debyg ond byddai ansawdd yn cael ei fonitro drwy’r fframwaith – byddai’r broses
newydd yn lleihau’r amser a dreulir ar y broses dendro ac yn caniatáu mwy o
amser i ganolbwyntio ar ansawdd ac adolygu costau. ·
pwysleisiodd bod angen
contractwyr sydd wedi’u lleoli yn yr ardal leol a chyflogi preswylwyr Sir
Ddinbych drwy gyfres o gynlluniau budd cymunedol gyda’r nod o wneud y mwyaf o’r
twf economaidd lleol a disgwylir ymateb da gan gontractwyr lleol ·
cadarnhaodd cyfartaledd o 250 o
eiddo gwag y flwyddyn ac eglurodd bod yr unedau gwag yn rhai dros dro sy’n aros
am waith i wella eu safon ar gyfer tenantiaid newydd ·
cydnabuwyd manteision y
safonau ansawdd newydd ar gyfer tai cyn eu gosod ond roedd yr amser cyfnewid
wedi cynyddu o ganlyniad; roedd disgwyliad y byddai'r amser cyfnewid yn lleihau
ymhellach o dan y fframwaith newydd PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo dechrau'r broses gaffael i sefydlu fframwaith a phenodi contractwyr
ar gyfer y gwaith amrywiol. Ar y pwynt hwn (11.30am)
cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth. |
|
ADRODDIAD ARIANNOL (SEFYLLFA ARIANNOL DERFYNOL 2017/18) PDF 398 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi wedi’i amgáu), yn manylu ar sefyllfa
refeniw derfynol y Cyngor ar gyfer 2017/18 a’r argymhellion arfaethedig i
ymdrin â chronfeydd wrth gefn a balansau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) nodi sefyllfa
refeniw derfynol ar gyfer 2017/18; (b) cymeradwyo y
driniaeth arfaethedig i gronfeydd wrth gefn a balansau fel y disgrifiwyd yn yr
adroddiad a manylwyd yn Atodiadau 1, 2 a 3, a (c) nodi
manylion y trosglwyddiadau i ac o Gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd fel y
manylir yn Atodiad 4. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ar y sefyllfa
alldro refeniw terfynol ar gyfer 2017/18 a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd
wrth gefn a balansau. Tywyswyd yr aelodau drwy fanylion yr adroddiad a'r atodiadau. Yn fyr, roedd y sefyllfa alldro derfynol ar
gyllidebau corfforaethol a gwasanaeth (gan gynnwys ysgolion) yn danwariant o
£1.244m (0.7% o’r gyllideb refeniw net).
Roedd y prif feysydd i’w nodi wedi cael eu hamlygu ac yn cynnwys gwell
sefyllfa ariannol ar gyfer ysgolion (sefyllfa diffyg ariannol net o £0.343m, i
lawr o £1.056m y llynedd), ynghyd â phwysau ar Wasanaethau Cymorth Cymunedol;
Addysg a Gwasanaeth Plant a Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd, a thrafodwyd
y materion hynny ymhellach yn y cyfarfod.
Cyfeiriwyd at y trosglwyddiadau i ac o'r cronfeydd wrth gefn a
glustnodwyd a chafodd nifer o drafodion diwedd y flwyddyn eu hargymell i'w
cymeradwyo hefyd. Tynnwyd sylw hefyd at
y sefyllfa o ran arenillion o Dreth y Cyngor.
O ystyried y sefyllfa gyffredinol o fewn gwasanaethau ac argaeledd
cyllid corfforaethol, cynigiwyd bod y gwasanaethau yn dwyn ymlaen y tanwariant
net a restrir fel balansau gwasanaethau ymrwymedig er mwyn helpu i gyflawni
strategaeth cyllideb 2018/19 a bodloni ymrwymiadau sy'n bodoli eisoes. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y meysydd canlynol - ·
Gwasanaethau
Addysg a Phlant – cafwyd trafodaeth ac eglurhad am y pwysau y mae’r gwasanaeth
yn ei wynebu a’r ansicrwydd o ran costau lleoliadau y tu allan i'r sir a oedd
yn cael effaith sylweddol ar y gyllideb ac y tu hwnt i reolaeth y Cyngor. Nodwyd bod hyn yn broblem genedlaethol ledled Cymru a’r DU ac roedd gwaith
archwilio ar y gweill yn rhanbarthol i ystyried opsiynau i ddatblygu
darpariaeth yn lleol er bod anghenion rhai o’r plant yn gymhleth iawn. Roedd uno’r Gwasanaethau Addysg a Phlant
wedi darparu cyfleoedd i sefydlu mesurau ymyrraeth gynnar ac atal wrth weithio
gyda phlant a phobl ifanc er mwyn ceisio atal yr anghenion rhag dwysau a
darparu rhywfaint o wydnwch gan ddibynnu'n llai ar ddarpariaeth statudol. ·
Ysgolion
– Cydnabuwyd y pwysau yr oedd yr ysgolion yn eu hwynebu ond darparwyd sicrwydd
bod prosesau cynllunio ariannol cadarn yn eu lle i gefnogi ysgolion gan arwain
at welliant o ran y sefyllfa ariannol ar gyfer ysgolion gyda sefyllfa diffyg
net llai o dros £300mil o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Gan fod gan rhai ysgolion falansau mawr gofynnwyd i Fforwm Cyllideb
Ysgolion adolygu’r polisi ynglŷn â balansau ysgolion. Tynnwyd sylw at rôl bwysig y Cyrff
Llywodraethu o ran rheoli ysgolion, yn enwedig o ran yr heriau ariannol y
byddai’r ysgolion yn eu hwynebu yn y dyfodol. ·
cytunodd
y Pennaeth Cyllid y byddai’n darparu manylion i'r Cynghorydd Mark Young
ynglŷn ag incwm blynyddol o'r mast ffôn symudol ar y Tŵr Awyr yn y
Rhyl. Roedd
incwm o’r fath yn cael ei gynnwys yn y gyllideb ar gyfer y gwasanaeth sy’n
gyfrifol am yr ased. Nododd y Cabinet bod y sefyllfa alldro cyffredinol yn dda o ystyried yr
amgylchiadau presennol a chanmolodd yr Arweinydd y modd y cynhaliwyd y
gwasanaethau o dan bwysau ac i safon uchel a diolchwyd i'r swyddogion am hynny.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) nodi’r sefyllfa alldro refeniw derfynol ar gyfer 2017/18; (b) cymeradwyo'r driniaeth arfaethedig o gronfeydd a balansau wrth gefn fel y
manylir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1, 2 a 3 a (c) nodi manylion y trosglwyddiadau i ac o Gronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd
fel y nodwyd yn Atodiad 4. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi wedi’i amgáu) ar y sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd a wnaed o ran y
strategaeth y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r
cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllid y cytunwyd arni. Darparodd y crynodeb canlynol o sefyllfa
ariannol y Cyngor – ·
roedd
cyllideb refeniw net y Cyngor ar gyfer 2018/19 yn £194.418m (£189.252m yn
2017/18) ·
Rhagwelir
y bydd gorwariant o £1.210 miliwn ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
nododd
arbedion ac effeithiolrwydd a gytunwyd o £4.6m gan gynnwys y rhai a gyflawnwyd eisoes
gan dybio y byddai'r holl effeithiolrwydd/ arbedion gwasanaeth yn cael eu
darparu - byddai unrhyw eithriadau yn cael eu hadrodd i'r Cabinet pe bai angen ·
amlygwyd
y risgiau ar hyn o bryd a’r gwahaniaethau mewn perthynas â meysydd gwasanaeth
unigol, a ·
darparwyd
diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r
Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol). Holodd yr Arweinydd ynglŷn â’r pwysau parhaus
a nodwyd yn yr Adran Priffyrdd a’r Amgylchedd yn ymwneud â’r diffyg incwm o
ganlyniad i faint y gwaith a'r ad-daliadau
gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru. Cadarnhaodd y Cynghorydd Brian Jones nad
oedd y lefelau incwm blaenorol yn bosibl bellach ac roedd y gwasanaeth yn
adolygu'r mater. Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid y byddai’r pwysau yn cael ei ystyried fel
rhan o broses cyllideb 2019/20. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bobby Feeley, darparodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts sicrwydd y gellir cynnwys cyllid i fynd i'r
afael â'r angen ar gyfer mwy o ofod awyr agored yn Ysgol Stryd y Rhos yng
Nglasdir o fewn y gyllideb arian at raid heb unrhyw gostau ychwanegol. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y
strategaeth gyllidol a chytunwyd arni. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 351 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried a nodwyd y byddai gwerthusiad opsiynau ar gyfer darpariaeth
gorfodaeth troseddau amgylcheddol yn y sir yn y dyfodol yn cael ei ychwanegu at
raglen waith mis Medi. PENDERFYNWYD
Nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol
1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel
y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
DYRANNU CONTRACT GWASANAETHAU YSWIRIANT Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi wedi’i amgáu) yn ceisio cymeradwyaeth
y Cabinet i ddyrannu Contract Yswiriant y Cyngor i’r darparwyr sydd wedi’u
henwi yn yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) gwobrwyo’r
cytundeb i’r darparwyr yswiriant a enwir ar gyfer Cyfrannau 1-6 fel y manylir o
fewn yr adroddiad ar gytundeb 3 mlynedd gyda’r opsiwn i’r Cyngor ymestyn am
ddwy flynedd arall ac opsiwn arall i’r Cyngor ymestyn am ddwy flynedd wedi
hynny, yn ddibynnol ar amodau’r farchnad (yn unol â'r adroddiad Argymell
Gwobrwyo Cytundeb sydd ynghlwm ag atodiad Un yr adroddiad), ac (b) awdurdodi
Pennaeth Cyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd i gytuno ar y
math priodol o gytundeb gyda phob yswiriwr er mwyn penodi’r yswiriwr fel
darparwr yswiriant y Cyngor. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad cyfrinachol yn ceisio cymeradwyaeth
i ddyfarnu contract yswiriant y Cyngor i’r darparwyr a enwyd fel y nodwyd yn yr
adroddiad. Roedd
contract yswiriant presennol y Cyngor yn dod i ben ar 30 Gorffennaf 2018 ac
roedd angen contract newydd o’r dyddiad hwn ymlaen. Roedd manylion y rhaglen
yswiriant wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ynghyd â gwerthusiad o’r tendrau a
gyflwynwyd ac roedd yr argymhellion yn seiliedig ar yr opsiwn mwyaf economaidd.
Nodwyd
nad oedd yswiriant yn faes sy’n addas ar gyfer caffael mewn cydweithrediad
oherwydd gofynion unigol. Ymhelaethodd
y swyddogion ar y broses dendro a gwerthuso mewn ymateb i’r cwestiynau ac roedd
y Cabinet yn falch o nodi y gellir arbed costau o ystyried amodau presennol y
farchnad heb unrhyw fwlch mewn darpariaeth na chynnydd mewn tâl atodol. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) Dyfarnu’r contract i’r ddau ddarparwr yswiriant a nodwyd ar gyfer Eitemau
1-6 fel y nodwyd yn yr adroddiad ar gontract tair blynedd gyda’r opsiwn bod y
Cyngor yn ymestyn am ddwy flynedd arall ac opsiwn arall bod y Cyngor yn ymestyn
am ddwy flynedd arall wedi hynny yn dibynnu ar amodau’r farchnad (fel y nodir
yn yr Adroddiad Argymhellion Dyfarnu Contract sydd ynghlwm yn Atodiad 1 yr
adroddiad), ac (b) Awdurdodi Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, AD a Democrataidd i gytuno a
llunio contract priodol gyda phob yswiriwr er mwyn penodi yswiriwr fel darparwr
yswiriant y Cyngor. Daeth y cyfarfod i ben am 12.30pm. |