Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Datganodd y
Cynghorwyr Huw Hilditch-Roberts, Brian Jones a Tony Thomas gysylltiad personol
yn Eitem Rhif 6. Cofnodion: Datganodd yr
aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem 6 ar y rhaglen - Cynllun
Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017 – 2020 - Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts – Llywodraethwr/Rhiant plentyn mewn ysgol yn Sir Ddinbych Cynghorydd Brian
Jones – Rhiant plentyn mewn ysgol yn Sir Ddinbych Cynghorydd Tony
Thomas – Rhiant plentyn mewn ysgol yn Sir Ddinbych |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2018 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2018 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2018. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2018 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi
a Llywodraethu Corfforaethol (copi’n amgaeedig) yn cyflwyno Cynllun Adfywio
Rhanbarthol Gogledd Cymru a chynigion i'r Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio i
gael ei gymeradwyo a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cymeradwyo - ·
cyflwyno Cynllun Adfywio
Rhanbarthol Gogledd Cymru terfynol (a blaenoriaethau eang sydd wedi’u cynnwys
ynddo) i Lywodraeth Cymru er mwyn cael mynediad i gronfeydd Buddsoddiad Adfywio
wedi'i Dargedu ·
prosiectau amlinellol a
gynigiwyd i’w cyflwyno gan y Cyngor i’r Buddsoddiad Adfywio wedi’i Dargedu ·
awdurdod dirprwyedig i’r Cyfarwyddwr
Corfforaethol, Economi a'r Parth Cyhoeddus mewn ymgynghoriad ag Aelod Arweiniol
yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol, Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a
Gwasanaethau Democrataidd a’r Pennaeth Cyllid (y Swyddog Adran 151) i - o
wneud unrhyw geisiadau cyllido
prosiect sy’n angenrheidiol i ddiogelu adnoddau o’r rhaglen Buddsoddiad Adfywio
wedi’i Dargedu ar gyfer cyfnod ei weithrediad o
derbyn a gweithredu gwariant
ar brosiectau sy’n cael mynediad i gefnogaeth rhaglen Buddsoddiad Adfywio
wedi’i Dargedu, gan gynnwys dyfarnu grantiau i drydydd parti o
trafod a llunio cytundebau
gyda chynghorau eraill Gogledd Cymru lle mae angen i wneud cais ar gyfer
cronfeydd rhaglen Buddsoddiad Adfywio wedi’i Dargedu, neu i gael y cronfeydd
hynny (b) nodi y bydd
adolygiad blynyddol o’r Cynllun Adfywio Rhanbarthol yn unol â threfniadau
llywodraethu a monitro (a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad) i gynnig cyfle ar
gyfer newidiadau o ran strategaeth a chyfeiriad a allai ganolbwyntio adnoddau
ar drefi/ardaloedd eraill) (c) cadarnhau eu bod
wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 yr
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Gwnaeth
y Cynghorydd Hugh Evans gyflwyno’r adroddiad a chyflwynodd Gynllun Adfywio
Rhanbarthol Gogledd Cymru 2018 – 2035 a chynigion ar gyfer Targedu Buddsoddiad
Adfywio ar gyfer ei gymeradwyo i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Roedd
rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio wedi’i lansio gan Lywodraeth Cymru i
ddarparu rhagor o gyllid ar gyfer prosiectau adfywio dros dair blynedd gyda
£22m wedi’i ddyrannu i Ogledd Cymru. Roedd angen dull cydweithredol
gan fod cyllid yn amodol ar gyflwyno Cynllun Adfywio Rhanbarthol wedi’i
flaenoriaethu a gytunwyd gan chwe chyngor Gogledd Cymru. Yn unol â threfniadau ariannu,
roedd deuddeg ardal ar draws y rhanbarth wedi’u cynnig fel ardaloedd
blaenoriaeth ar sail sgorau amddifadedd a oedd yn cynnwys y Rhyl a Dinbych,
gyda phedair ardal flaenoriaeth (gan gynnwys y Rhyl) wedi’u nodi ar gyfer y
cyfnod ariannu tair blynedd dechreuol. Rhoddwyd eglurhad o’r rheswm y
tu ôl i’r ffocws ar y Rhyl fel ardal flaenoriaeth gan ystyried y meini prawf
ariannu a osodwyd gan Lywodraeth Cymru a sgôr y Rhyl fel y dref fwyaf
difreintiedig yng Ngogledd Cymru, ac o ystyried buddsoddiad y Cyngor a’i
ymrwymiad i adfywio’r Rhyl, roedd yn briodol bod opsiynau ariannu posibl yn
cael eu defnyddio i helpu i gyflawni’r nod hwnnw. Roedd yr adroddiad yn cydnabod
tlodi a oedd yn gysylltiedig ag aneddiadau trefol mwy a’r angen i fynd i’r
afael â thlodi ac adfywio mewn trefi bach ac ardaloedd gwledig a gobeithiwyd y
byddai’n cael sylw yn ystod oes y Cynllun. Gwnaeth
y Cabinet groesawu’r dyraniad cyllid ar gyfer adfywio ardaloedd yn y rhanbarth
ond gwnaeth gydnabod y cyfyngiadau ar gyfer cael mynediad i’r cyllid hwnnw o
ystyried y meini prawf a osodwyd gan Lywodraeth Cymru o ran y fethodoleg ar
gyfer blaenoriaethu ardaloedd adfywio a’r angen am ddull rhanbarthol gan arwain
at gonsensws ar draws pob un o chwe chyngor Gogledd Cymru a oedd angen
rhywfaint o drafod a chyfaddawdu ar bob ochr. Nododd y Cabinet hefyd fod
meini prawf a dull thematig y Cynllun Adfywio Rhanbarthol wedi’u halinio’n eang
â blaenoriaethau corfforaethol eraill ac roedd yn amlygu’r angen i Sir Ddinbych
gynyddu cyfleoedd o weithio rhanbarthol yn hynny o beth. Gan
ymateb i gwestiynau, dywedodd yr Aelod Arweiniol a swyddogion - ·
roedd y Cynllun Adfywio
Rhanbarthol wedi’i gymeradwyo gan dri chyngor ac roedd yn debygol o gael ei gymeradwyo
gan y cynghorau eraill o ystyried y byddai’r cyllid yn cael ei golli fel arall ·
o ran monitro, roedd ffigurau
gwaelodlin wedi’u nodi ar gyfer gwahanol ardaloedd adfywio i fesur cynnydd a
chanlyniadau ar lefel rhaglen a byddai gan brosiectau unigol sy’n dod o’r
Cynllun eu targedau eu hun a fyddai’n destun craffu gan Lywodraeth Cymru cyn i
arian gael ei ddyrannu ·
roedd cyfleoedd pellach y tu
allan i’r Cynllun i gefnogi blaenoriaethau eraill ac edrych ar amrywiaeth eang
o wahanol fentrau Llywodraeth Cymru ac roedd gwaith yn cael ei wneud i arwain y
ffynonellau cefnogaeth eraill hynny, a buddsoddiad dros y tymor hir ·
roedd ymgysylltiad cadarnhaol
wedi bod ar lefel swyddog gyda chytundeb ac ymrwymiad i faterion allweddol ar
draws y rhanbarth – ar ôl cydweithio i gytuno blaenoriaethau, ystyriwyd bod y
Cynllun Adfywio Rhanbarthol yn gyfaddawd da a rhesymol ·
Roedd y Rhyl wedi’i osod yn
gyntaf o ran trefn amddifadedd ac roedd wedi’i nodi ar gyfer targedu
buddsoddiad yn y tair blynedd cyntaf, fodd bynnag mae’n bosibl y bydd rhywfaint
o arian yn cael ei ddenu i Ddinbych yn y tymor byr ar draws gynigion thematig
tai ac adeiladau allweddol ac yn y tymor hwy roedd Dinbych mewn sefyllfa dda i
fanteisio, gan ystyried ei fod wedi’i sgorio yn y degfed safle o ran amddifadedd · roedd mater o ran ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYNLLUN STRATEGOL CYMRAEG MEWN ADDYSG 2017-2020 PDF 450 KB Ystyried
adroddiad gan y Cyng. Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a
Phobl Ifanc (copi’n amgaeedig) yn cyflwyno Cynllun Strategol Cymraeg mewn
Addysg 2017 – 2020 i'w gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cymeradwyo
Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017 – 2020 arfaethedig a oedd wedi’i
gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2018, a (b) cadarnhau eu bod
wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (fel y manylir
yn Atodiad 2 yr adroddiad), fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad a chyflwynodd Gynllun Strategol Cymraeg
mewn Addysg 2017 - 2020 arfaethedig y Cyngor i’w gymeradwyo (roedd y Cynllun
drafft wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2018). Roedd
y Cynllun yn dangos sut roedd y Cyngor yn bwriadu cyrraedd targedau Llywodraeth
Cymru drwy ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir ac roedd yn canolbwyntio
ar wella sgiliau, yn enwedig cyfathrebu llafar a dealltwriaeth. Y nod hirdymor oedd i holl
blant a phobl ifanc y sir adael addysg llawn amser gyda’r gallu a’r hyder i
ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg. Cyfeiriodd
y Cynghorydd Hilditch-Roberts at lwyddiant blaenorol y Cyngor o ddatblygu
gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a buddsoddi mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac
roedd Estyn wedi canmol dull y Cyngor yn ystod yr arolwg diweddar o wasanaethau
addysg. Byddai’r
Cynllun yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â budd-ddeiliaid allweddol gan
gynnwys ysgolion, yr Urdd, Mudiad Meithrin a Menter Iaith ac roedd Llywodraeth
Cymru wedi sicrhau bod amrywiaeth o ffrydiau ariannu ar gael i helpu i gyrraedd
targedau gan gynnwys arian cyfalaf £30m a grantiau datblygu’r gweithlu £2m a
gellid gwneud ceisiadau yn erbyn rhain. Gwnaeth Pennaeth y
Gwasanaethau Addysg a Phlant amlygu’r broses ymgynghori gynhwysfawr o ran gosod
amcanion a rôl Grŵp Strategol y Gymraeg mewn Addysg o ran datblygiad y
Cynllun a monitro ei ddarpariaeth. Roedd elfennau allweddol yn
canolbwyntio ar (1) ansawdd a safonau Cymraeg a gaiff ei haddysgu drwy
gwricwlwm ysgolion, gwella canlyniadau i ddysgwyr a lefel rhuglder ar draws pob
ysgol, a (2) sicrhau bod digon o leoedd ar gael mewn addysg Cyfrwng Cymraeg. Gwnaeth y Pennaeth Gwasanaeth
ganmol y Cynllun a’r gwaith caled o ran ei ddatblygiad. Gwnaeth
y Cabinet groesawu’r Cynllun fel ffordd o ddatblygu addysg Cyfrwng Cymraeg
ymhellach yn y sir a chyfrannu at y targed cenedlaethol o sicrhau miliwn o
siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rhoddwyd
teyrnged hefyd i’r rhai sy’n ymwneud â datblygu’r Cynllun a soniwyd yn benodol
am Grŵp Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Ychwanegodd y Cynghorydd Arwel
Roberts a’r Cynghorydd Emrys Wynne, a oedd yn aelodau o Grŵp Strategol y
Gymraeg mewn Addysg, eu cefnogaeth i’r Cynllun a chanmol y gwaith gyda
phartneriaid a’r gwaith da a’r llwyddiant a oedd eisoes wedi’i gyflawni yn y
sir, a oedd hefyd wedi’i gydnabod yn adroddiad arolygu diweddar Estyn. Yn
ystod y drafodaeth ddilynol - ·
gofynnwyd am ragor o fanylion
o ran goblygiadau ariannol darparu’r Cynllun a rhoddodd swyddogion
ddadansoddiad o ffrydiau ariannu a oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru a sut
gellid defnyddio’r arian hwnnw i fodloni canlyniadau, gan gynnwys ariannu ar
gyfer cynllunio’r gweithlu a datblygiad proffesiynol parhaus ·
rhoddwyd sicrwydd hefyd fod y
cyngor a’i bartneriaid yn gweithio’n barhaus i fanteisio ar unrhyw ffrydiau ariannu
allanol o ffynonellau eraill sy’n agored iddynt, er mwyn diwallu nodau ac
amcanion yn y Cynllun ·
amlygwyd y gwaith da a’r
llwyddiant a gyflawnwyd yn Sir Ddinbych gyda ffocws o’r newydd ar welliannau
pellach o fewn adnoddau presennol a manteisio ar ffynonellau ariannu allanol
sydd ar gael i ganolbwyntio ar ganlyniadau penodol ·
cydnabuwyd yr angen am
gydbwysedd i sicrhau’r ddarpariaeth iawn i ddysgwyr gan ystyried dewis rhieni a
darparu cyfleoedd i ddysgu’r Gymraeg, a soniodd swyddogion am y gwaith cynhwysfawr
a wnaed yn y sir o ran rhagweld galw am leoedd ysgol a oedd wedi nodi cynnydd o
ran galw am leoedd Cyfrwng Cymraeg · cyfeiriwyd at fanteision addysg ddwyieithog, yn enwedig o ran cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol lle roedd rhuglder yn y Gymraeg yn bwysig, a’r her i ddangos manteision addysg ddwyieithog i deuluoedd di-Gymraeg er mwyn gallu gwneud dewisiadau deallus ar gyfer dysgwyr o oedran cynnar ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidebol a
gytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a (b) cymeradwyo’r
defnydd o £1.2miliwn o grant cyfalaf unwaith yn unig gan Lywodraeth Cymru ar y
cynlluniau priffyrdd blaenoriaeth fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn yr
Achos Busnes (fel y manylir yn Atodiad 3 yr adroddiad). Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
adroddiad a nodai’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chyllidebau gwasanaethau ar
gyfer 2018/19 a’r Llyfr Crynhoi’r Gyllideb 2018/19. Rhoddodd grynodeb o
sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn- ·
roedd
cyllideb refeniw net y Cyngor ar gyfer 2018/19 yn £194.418m (£189.252m yn
2017/18) ·
manylwyd
ar arbedion ac arbedion effeithlonrwydd a gytunwyd gwerth £4.6m gan gynnwys y rhai
a oedd eisoes wedi’u cyflawni gyda’r rhagdybiaeth y byddai’r holl arbedion
effeithlonrwydd/arbedion gwasanaeth yn cael eu darparu – byddai unrhyw
eithriadau yn cael eu hadrodd i’r Cabinet os oedd angen ·
nid
oedd amrywiadau i'w hadrodd ar y cam hwn yn y flwyddyn ariannol, ond roedd
nifer o bwysau gwasanaeth wedi’u nodi a oedd angen eu monitro'n ofalus ·
rhoddwyd
diweddariad cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf, Y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun
Cyfalaf Tai Gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo defnyddio Grant
Cyfalaf unwaith yn unig Ailwampio Priffyrdd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer
cynlluniau blaenoriaeth fel a argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol
ac fel a amlinellwyd yn yr adroddiad. Codwyd y materion canlynol wrth drafod – ·
trafodwyd
y pwysau parhaus ar ofal cymdeithasol a soniodd swyddogion am waith i fodelu
anghenion yn y dyfodol gan ddweud bod tueddiadau data wedi dangos cynnydd o ran
cost drwy’r sector a chynnydd o ran cymhlethdod rhai achosion. Roedd angen canolbwyntio ar yr effaith
uniongyrchol dros y blynyddoedd nesaf i lywio’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig
ac roedd y pwysau yn destun adolygiad blynyddol i lywio cyflwyniadau cyllideb y
flwyddyn sydd i ddod. Amlygwyd pwysigrwydd gwasanaethau hamdden hefyd fel elfen allweddol o ran
adeiladu cadernid a lles gyda’r effaith o leihau galw ar wasanaethau eraill. ·
gwnaeth
yr Arweinydd groesawu’r cyllid grant ychwanegol ar gyfer priffyrdd gan
Lywodraeth Cymru ond amlygodd anawsterau o ran rheoli dyraniadau unwaith yn
unig ar fyr rybudd, ac roedd yn gobeithio y byddai unrhyw ddarpariaeth
ychwanegol ym mlynyddoedd y dyfodol yn cael eu dyrannu ar gam cynharach, fel
drwy’r setliad Grant Cynnal Refeniw, er mwyn cynorthwyo cynllunio ariannol yn
well. Ychwanegodd fod rhinweddau cyllideb tair blynedd
yn hytrach na setliad cyllideb blynyddol unwaith yn unig ar gyfer awdurdodau
lleol wedi’i drafod gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. ·
Dywedodd
Cynghorydd Brian Jones y byddai swyddogion Llywodraeth Cymru yn mynychu
cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ar 7 Mehefin i drafod cyllid priffyrdd
a byddai’n codi’r pwynt am yr angen am ddyraniadau cyllid amserol er mwyn
cynllunio gwaith priffyrdd yn effeithiol. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a (b) cymeradwyo’r
defnydd o £1.2miliwn o grant cyfalaf unwaith yn unig gan Lywodraeth Cymru ar y
cynlluniau priffyrdd blaenoriaeth fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn yr
Achos Busnes (fel y manylir yn Atodiad 3 yr adroddiad). |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 278 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried a nodwyd y byddai’r eitemau a ganlyn yn cael eu hychwanegu at y
rhaglen waith ar gyfer mis Mehefin - ·
Cais
Twf Rhanbarthol ·
Sefydlu
Fframwaith Cynnal a Chadw Bylchau PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol
1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel
y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
GWASANAETH A REOLIR AR GYFER DARPARU GWEITHWYR ASIANTAETH Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr Aelod Arweiniol
dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, (copi ynghlwm) yn gofyn am
gymeradwyaeth i ddyfarnu'r contract i gyflenwi staff asiantaeth dros dro i'r
cyflenwr a enwir yn yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) penodi’r
darparwr a enwyd fel a nodir yn yr adroddiad fel cyflenwr staff asiantaeth dros
dro gan ddefnyddio cytundeb fframwaith MSTAR, a (b) awdurdodi
Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd i gymeradwyo a
mynd i mewn i ffurf priodol o gyswllt gyda’r darparwr a enwir. Cofnodion: Cyflwynodd
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad cyfrinachol i geisio cymeradwyaeth
i ddyfarnu’r contract ar gyfer cyflenwi staff asiantaeth dros dro i’r cyflenwr
a enwir fel a nodir yn yr adroddiad. Roedd
y Cabinet wedi cael adroddiad ym mis Rhagfyr 2017 o ran yr ymarfer caffael a
phenderfynwyd gofyn i’r pwyllgor craffu priodol graffu ar y broses honno gydag
opsiynau amgen ar agor i’r Cyngor yn seiliedig ar werth gorau. Roedd canfyddiadau ac
argymhellion y Pwyllgor Archwilio Perfformiad yn hynny o beth wedi’u nodi yn yr
adroddiad gyda manylion y weithdrefn gwerthuso tendrau a’r canlyniad a’r
argymhelliad ar gyfer dyfarnu. Cadarnhaodd
Cynghorydd Huw Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio Perfformiad ei fod yn
fodlon â'r argymhellion i’r Cabinet wrth symud ymlaen. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) penodi’r
darparwr a enwyd fel a nodir yn yr adroddiad fel cyflenwr staff asiantaeth dros
dro gan ddefnyddio cytundeb fframwaith MSTAR, a (b) awdurdodi
Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd i gymeradwyo a
mynd i mewn i ffurf priodol o gontract gyda’r darparwr a enwir. Daeth y cyfarfod i ben am
12.30pm. |