Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNTIAU SYLW (i)
Croesawyd
Judith Greenhalgh, Prif Weithredwr y Cyngor gan yr Arweinydd i’w chyfarfod
cyntaf o’r Cabinet a chyflwynwyd yr aelodau a oedd yn bresennol. (ii)
Cyfeiriodd
y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts i’r darganfyddiadau cadarnhaol o Archwiliad
diweddar gan Estyn o’r Gwasanaethau Addysg a phawb oedd yn rhan o’r llwyddiant,
yn y gorffennol ac ar hyn o bryd – crybwyllwyd yn benodol am gyfraniad Karen
Evans, Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Tony
Thomas – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 9 ar y Rhaglen Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Tony Thomas gysylltiad
personol yn eitem 9 ar y rhaglen – Eiddo ar Rodfa’r Gorllewin a Sussex Street
yn y Rhyl am ei fod yn aelod o Gyngor Tref y Rhyl. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Mawrth, 2018 (copi wedi’i amgáu). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2018 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2018. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2018 fel cofnod cywir ac y dylai’r
Arweinydd eu llofnodi. |
|
I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidebol a
gytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2017/18 a'r cynnydd a wnaed
yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r
cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllid y cytunwyd arni. Darparodd y crynodeb canlynol o sefyllfa
ariannol y Cyngor – ·
Y rhagolwg ar gyfer cyllidebau
gwasanaethau a chorfforaeth yw tanwariant o £889k gydag opsiynau ar sut y
gellir defnyddio’r tanwariant pe bai’r sefyllfa hynny’n parhau ·
Amlygwyd
y risgiau a’r gwahaniaethau ar hyn o bryd mewn perthynas â meysydd gwasanaeth
unigol gan gynnwys ansicrwydd a allai effeithio'r alldro ariannol ·
Balans
diffyg net arfaethedig o £0.844m ar gyfer ysgolion a’r effaith o ddyraniad
ychwanegol gan Lywodraeth Cymru o £484k ar gyfer costau cynnal a chadw, a ·
Darparwyd
diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r
Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol) Codwyd y materion canlynol wrth drafod – ·
Pwysau
ar Wasanaethau Plant ac Oedolion wedi derbyn llawer o sylw ac yn cael ei ystyried
yn ystod y broses llunio cyllideb ynghyd â phwysau eraill wedi’u nodi ·
Asesiad
yn cael ei wneud ar fynd i gostau o ganlyniad i amodau tywydd eithafol a thra
bo Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid i gynghorau i’w roi yn erbyn y costau
hynny ni fyddai yn ddigon i dalu am y cyfanswm cyfan o gostau - nodwyd y byddai
swyddogion Llywodraeth Cymru yn mynychu cyfarfod Pwyllgor Archwilio Perfformiad
yn y dyfodol i drafod cyllid priffyrdd ·
Nid
oedd y Cyngor yn atebol am gostau cludiant i'r ysgol i Goleg Dinbych am ei fod
yn gyfleuster trydyddol ond y byddai costau ategol eraill yn sgìl y cau. ·
Cynigodd y Cynghorydd Mabon Ap
Gwynfor fod cyllid ar gyfer addysg, yn arbennig anghenion dysgu ychwanegol, yn
cael ei gynnwys fel opsiwn ar gyfer y tanwariant posib gydag adroddiad i graffu
ar ei ddyraniad. Eglurodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill y rheswm dros yr opsiynau a nodwyd yn yr adroddiad ac eglurodd y
broses gwneud penderfyniadau ar gyfer dyrannu'r tanwariant terfynol - mae’r tanwariant yn cynrychioli cyllid
arian parod unwaith ac am byth a byddai ffigwr derfynol yn cael ei gynnwys yn
yr adroddiad alldro ariannol a gyflwynir i Cabinet ym Mehefin i benderfynu sut
y byddai’n cael ei ddefnyddio. Tynnodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts sylw at y buddsoddiad sylweddol
mewn addysg a theimlodd y byddai gwerth mewn rhoi rhagor o fanylion i aelodau o
ran sut y mae addysg yn cael ei ariannu gan gynnwys ymrwymiad i gyllid Band B
er mwyn iddyn nhw gael gwell dealltwriaeth o’r broses. Cytunwyd i ddarparu'r wybodaeth
fel rhan o’r gweithdy cyllideb nesaf i aelodau. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2017/18 a'r cynnydd a wnaed
yn erbyn y strategaeth gyllidol a chytunwyd arni. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 293 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD Nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cafodd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet ei
gyflwyno a nodwyd y byddai'r adroddiad alldro ariannol yn cael ei ychwanegu i’r
rhaglen waith ar gyfer Mehefin. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol
1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol o
fusnes ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu
fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 ac 15 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
CYN YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Economi a
Llywodraethu Corfforaethol (copi wedi'i amgáu) yn ceisio penderfyniad ar y
parti a ffafrir i gymryd perchnogaeth o’r safle unwaith bydd y Gorchymyn Prynu
Gorfodol wedi ei gwblhau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) Cadarnhau Jones Bros mewn perthynas â Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau
Gogledd Cymru fel y sawl a ffefrir i dderbyn perchnogaeth o’r safle ar ôl
cwblhau’r Gorchymyn Prynu Gormodol; (b) cytuno i’r Cyngor ymrwymo i Gytundeb Datblygu a Thrwydded Galwedigaethol,
sy’n dderbyniol i’r Cyngor yn dod i rym ar ôl cwblhau’r Gorchymyn Prynu
Gorfodol ac yn dirprwyo awdurdod i drafod y telerau ac amodau i’r Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Economi a'r Parth
Cyhoeddus mewn ymgynghoriad ag Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu
Corfforaethol, Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd
a’r Pennaeth Cyllid (e.e. y Swyddog Adran 151) ac (c) argymell bod y Pwyllgor Cynllunio wedi awdurdodi cyflwyno’r Datganiad
Breinio Cyffredinol, sef cam olaf cadarnhau’r Gorchymyn Prynu Gorfodol, gan roi
ystyriaeth i (a) a (b) uchod. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad cyfrinachol yn gofyn am benderfyniad ar y
parti o ddewis i gymryd perchnogaeth o’r safle unwaith y bydd y Gorchymyn Prynu
Gorfodol wedi’i gwblhau. Mae’r adroddiad
yn rhoi manylion ar y broses ar gyfer penderfynu pa barti i’w ddewis yn
seiliedig ar ddull cytundeb datblygu ynghyd ag asesiad technegol o'r
cyflwyniadau tendr gan gynnwys y meini prawf gwerthuso a matrics sgorio. Gofynnwyd i Cabinet asesu pob
cynnig ar gyfer y safle gan ystyried yr holl wybodaeth a ddarparwyd er mwyn
penderfynu pa opsiwn datblygu i’w ddewis. Adroddodd y Swyddogion ar
wybodaeth a dderbyniwyd yn hwyr gan un o’r partïon a thrafodwyd gyda'r aelodau
faint o sylw y dylid ei roi i’r wybodaeth hynny. Ystyriodd y Cabinet werthoedd y cynigion o ystyried y meini prawf gwerthuso
a’r pwysigrwydd ynghlwm â phob maen prawf. Rhoddwyd
y cyfle i aelodau nad oedd ar y Cabinet i rannu eu safbwyntiau hefyd a
gwahoddwyd aelodau lleol Dinbych yn arbennig i gyfrannu at y drafodaeth. Ymatebodd
y Swyddogion i’r cwestiynau a nodwyd bod manylion y datblygiad yn amodol ar y
broses gynllunio. Ailadroddwyd pwysigrwydd y safle ynghyd â’r angen
i ddatblygu’r safle er mwyn darparu'r adeiladau hanesyddol gyda dyfodol
cynaliadwy tra hefyd yn elwa'r economi.
Wrth ddod i benderfyniad
roedd yr aelodau yn cydnabod hanes cymhleth y safle gan ddiolch i swyddogion am
eu gwaith caled i symud ymlaen i'r cam presennol yn y broses o ddiogelu'r
safle. Nodwyd bod aelodau Sir Ddinbych yn cefnogi argymhellion yr adroddiad a
chynghorwyd y cynigydd a ffefrir gan y Cabinet. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cadarnhau mai Jones Bros mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Cadw
Adeiladu Gogledd Cymru yw’r parti o ddewis i gymryd perchnogaeth o’r safle ar
ôl cwblhau’r Gorchymyn Prynu Gorfodol; (b) cytuno i’r Cyngor fynd i Gytundeb Datblygu a Thrwydded Galwedigaethol, sydd
yn dderbyniol gan y Cyngor ac i ddechrau ar ôl cwblhau'r Gorchymyn Prynu
Gorfodol a dirprwyo awdurdod i drafod y telerau ac amodau gyda’r Cyfarwyddwr
Corfforaethol; Economi a Pharth Cyhoeddus mewn cydweithrediad â’r Aelod
Arweiniol dros Economi a Llywodraethu Corfforaethol, Pennaeth Y Gyfraith, AD a
Gwasanaethau Democrataidd a Phennaeth Cyllid (h.y. Swyddog adran 151), ac (c)
argymell fod y Pwyllgor Cynllunio yn awdurdodi cyflwyno Datganiad Breinio
Cyffredinol, sef y rhan olaf o gadarnhau'r Gorchymyn Prynu Gorfodol, gydag
ystyriaeth i (a) a (b) uchod. Ar y pwynt
hwn (11.05am) cymerodd yr aelodau egwyl am
luniaeth. |
|
ADRODDIAD DIWEDDARU GWASANAETH MEWNOL Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac
Annibyniaeth (copi wedi'i amgáu) ynglŷn â’r ymarfer tendro sy’n ymwneud â
throsglwyddo Canolfan Ddydd Hafan Deg, Y Rhyl, a cheisio cymeradwyaeth i
ddyfarnu'r contract i’r cynigydd a ffafrir. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cytuno i gyflwyno’r contract i’r cynigydd a ffefrir fel y nodwyd o
fewn yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad cyfrinachol ynglŷn â’r ymarfer
tendro mewn perthynas â throsglwyddo Canolfan Gofal Dydd Hafan Deg yn y Rhyl a
chael cymeradwyaeth i ddyfarnu’r contract i’r cynigydd o ddewis sydd wedi'i
nodi yn yr adroddiad i gymryd y brydles drosodd a rhedeg y gwasanaeth gofal
dydd. Darparwyd rhywfaint o wybodaeth
gefndirol ar y penderfyniad ynglŷn â darpariaeth gwasanaethau yn Hafan Deg
yn y dyfodol gan gynnwys proses ymgynghori ddwys ac ymrwymiad y Pwyllgor
Archwilio Perfformiad a’r Grŵp Tasg a Gorffen mewn gwerthuso effeithiau
posibl. Manylion
o’r ymarfer tendro a chanlyniad y broses werthuso wedi'u cynnwys yn yr
adroddiad ynghyd â'r monitro arfaethedig yn y dyfodol o'r cynllun rheoli
contractau trwy'r Pwyllgor Archwilio Perfformiad. Cynghorodd y Cynghorydd Huw
Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio Perfformiad ynglŷn â chanlyniad y
Grŵp Tasg a Gorffen ac roedd adroddiad dilynol i Bwyllgor Archwilio
Perfformiad yn cadarnhau fod nifer o arsylwadau a sicrwydd ynglŷn â’r broses gwerthuso tendr, ac argymhellwyd
bod Cabinet yn cefnogi dyrannu'r contract i'r cynigydd o ddewis. Tynnodd y Cynghorydd Jones
sylw at yr anawsterau yn wynebu’r Grŵp Tasg a Gorffen o fewn y broses
craffu ond roedd yn fodlon bod yr achosion wedi'u datrys ac wedi dysgu gwersi
ar gyfer y dyfodol. Lleisiodd y Cynghorydd Glenn
Swingler sydd hefyd yn aelod o’r Grŵp Tasg a Gorffen ei bryderon
ynglŷn â’r broses craffu yn yr achos hwn. Yn ystod y drafodaeth fe
ymatebodd y swyddogion i gwestiynau ynglŷn â diogelu o fewn contract ac
ymhelaethwyd ymhellach ar ddarpariaethau isbrydlesau, rheoli ariannol ac
ansawdd a mesuryddion perfformiad. Cyfeiriwyd hefyd at y trefniadau rheoli
contract i sicrhau trosglwyddiad esmwyth ac i fonitro effeithiolrwydd y ddarpariaeth
gwasanaeth. Nododd
Cabinet y buddion o drosglwyddo a fyddai’n gwella ac ehangu'r gwasanaethau sydd
ar gael ar hyn o bryd. O
ganlyniad - PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cytuno i ddyfarnu’r contract i’r cynigydd a ffafriwyd fel yr
amlygwyd yn yr adroddiad. |
|
EIDDO AR RODFA'R GORLLEWIN A STRYD SUSSEX, Y RHYL I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi wedi’i amgáu) yn ceisio cymeradwyaeth i
gaffael adeiladau Cam 1 a chymryd opsiwn i gaffael adeiladu Cam 2 fel y nodir o
fewn yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cymeradwyo caffael tir ac adeiladau Cam 1 a chwblhau Dewis i gaffael tir ac
adeiladau Cam 2 yn amodol ar y telerau canlynol - mae’r caffaeliad arfaethedig wedi’i ariannu 100% yn allanol ac nad oes costau refeniw cysylltiedig ag unrhyw un o’r caffaeliadau. Os am unrhyw reswm nad yw’r arian grant ar gyfer y cynnig yn cyrraedd yna ni ddylai’r caffaeliad symud ymlaen ·cyn cyflwyno unrhyw Rybudd Dewis i gaffael tir ac adeiladau Cam 2, mae’n
rhaid i’r Cyngor fodloni’r un amodau cyn derbyn cymeradwyaeth i gyflwyno’r
Rhybudd (b) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o’r
Effaith ar Les (Atodiad 2) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad cyfrinachol yn ceisio
cymeradwyaeth i gaffael adeiladau Cam 1 a chymryd yr opsiwn i gaffael adeiladau
Cam 2 yng Nghanol Tref y Rhyl fel y manylir yn yr adroddiad. Eglurwyd y rhesymeg tu ôl i'r caffael arfaethedig er mwyn hwyluso’r
prosiect i wella bywiogrwydd Canol Tref y Rhyl trwy ddychwelyd safle gydag
eiddo sy’n wag ac yn cael eu tanddefnyddio i ddefnydd cynhyrchiol a fyddai'n
gwella'r hyn sydd gan y dref i'w chynnig. Cynigwyd bod y caffael
ond yn mynd yn ei flaen ar y sail y byddent yn cael eu hariannu'n llwyr yn
allanol (trwy gyllid grant) a ddim yn costio dim i'r Cyngor. Ychwanegodd
yr Arweinydd ei gefnogaeth i’r argymhelliad yr oedd yn credu oedd yn elfen allweddol
yn y cam nesaf i gysylltu’r buddsoddiad yn y datblygiad glan y môr newydd i ganol y dref ac i ysgogi
mwy o fuddsoddiad sector breifat yn y dref. Nododd y Cabinet y gwerthoedd
adfywio yn perthyn i’r cynnig a chefnogwyd y caffaeliadau arfaethedig ar y sail
yr oeddent wedi’u nodi yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cymeradwyo caffael tir ac adeiladau Cam 1 ac yn cwblhau Opsiwn i gaffael
tir ac adeiladau Cam 2 yn amodol ar y telerau canlynol - ·
bod y caffael arfaethedig yn cael
ei ariannu yn allanol 100% ac nid oes unrhyw gostau refeniw cysylltiedig gydag
unrhyw gaffaeliadau. Os am unrhyw reswm bod y cyllid grant ar gyfer y cynnig
ddim yn cael ei gyflwyno yna ni fydd y caffael yn mynd yn ei flaen. ·
cyn cyflwyno unrhyw Hysbysiad Opsiwn
i gaffael tir ac adeiladau Cam 2 mae'n rhaid i'r Cyngor fodloni'r un amodau
cynsail cyn cael cymeradwyaeth i gyflwyno’r Hysbysiad (b) cadarnhau bod y Cabinet wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o’r
Effaith ar Les yn amgaeedig fel Atodiad 2 o’r adroddiad ac fel rhan o'i
ystyriaethau. |
|
SAFLEOEDD SIPSIWN A THEITHWYR Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai,
Rheoleiddio a'r Amgylchedd (copi wedi’i amgáu) ynglŷn â chynigion i’r
Cyngor ddiwallu’r anghenion a nodir yn Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr Sir
Ddinbych. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo bod gwaith datblygu pellach yn cael ei wneud ar y safleoedd fel yr
argymhellwyd yn Atodiad 4 yr adroddiad er mwyn symud i’r Cam Cais Cynllunio. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Tony Thomas yr adroddiad cyfrinachol ynglŷn â chynigion i’r
Cyngor gwrdd ag anghenion wedi’u nodi yn Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr Sir
Ddinbych. Mae
Deddf Tai (Cymru) 2014 angen i awdurdodau lleol i ymgymryd ag asesiad o
anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr ac i wneud darpariaeth pe bai angen yn cael
ei nodi. Mae’r
Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr wedi nodi angen am un safle preswyl parhaol
ac un safle teithiol ac mae amlinelliad o’r gweithredoedd hyd yma yn y broses
dewis safle i gwrdd â’r anghenion wedi eu nodi yn yr adroddiad ynghyd â’r
argaeledd o gyllid grant a’r amserlen i’w gyflawni. Yn dilyn proses asesiad manwl
o’r safleoedd posib argymhellwyd y dylid gwneud gwaith datblygu pellach ar y
safleoedd penodol wedi eu nodi yn yr adroddiad. Eglurwyd fod Llywodraeth Cymru
yn amharod i roi cyllid ar gyfer safleoedd preswyl a theithiol yn agos at eu
gilydd a bod angen archwilio ymhellach i ddewis yr opsiwn hynny. Yn
ystod trafodaeth fanwl cyfeiriwyd at y gwaith cynhwysfawr a wnaed yn ddiweddar
i ddod o hyd ac asesu hyfywedd safleoedd penodol. Cydnabuwyd bod gofyniad
statudol i gwrdd â’r anghenion a nodwyd a bod llawer o drafodaeth os oedd modd
cwrdd â darpariaeth safle preswyl a safle teithiol ar yr un pryd ac os na, a
oedd yna un ddarpariaeth yn rhagflaenu’r llall ac y dylid ei ateb gyntaf, yn
enwedig wrth ystyried yr amserlen dynn i wneud cais am gyllid grant. Heriodd y Cynghorydd Richard
Mainon rhai o’r rhagdybiaethau a wnaed yn y gwerthusiad o’r opsiynau ar gyfer
safleoedd a’r rhesymeg tu ôl i'r argymhellion ynglŷn â pha safleoedd y
dylid eu defnyddio. Teimlai
hefyd y dylid rhoi mwy o ystyriaeth i’r gwerthoedd unigol ar gyfer pob safle yn
hytrach na chanolbwyntio ar argaeledd y cyllid grant. Amlinellodd y Cynghorydd Tony
Thomas y sefyllfa bresennol a’r canlyniadau posib a thynnodd sylw at argaeledd
y cyllid grant fel ystyriaeth bwysig o fewn y broses hynny. Gofynnodd
y Cynghorydd Mainon bod canlyniad y bleidlais yn cael ei gofnodi ar yr eitem
hon. Wrth
fynd i’r bleidlais roedd 7 yn pleidleisio o blaid yr argymhelliad a 1 aelod yn
pleidleisio yn erbyn yr argymhelliad. O ganlyniad - PENDERFYNWYD bod y Cabinet
yn cymeradwyo bod gwaith datblygu pellach yn cael ei wneud ar y safleoedd fel
yr argymhellir yn Atodiad 4 o’r adroddiad er mwyn symud ymlaen i'r Cam Gwneud
Cais. Gofynnodd y
Cynghorydd Richard Mainon i nodyn gael ei wneud iddo bleidleisio yn erbyn y
penderfyniad uchod. Daeth y cyfarfod i ben am 1.35pm. |