Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT SYLW Y Dirprwy
Arweinydd, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, oedd Cadeirydd y cyfarfod am y
rhan gyntaf yn absenoldeb yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, a oedd mewn
cyfarfod â’r Gweinidog Llywodraeth Leol. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Byddai'r
Cynghorydd Hugh Evans a Huw Hilditch-Roberts yn cyrraedd yn hwyr ar gyfer y
cyfarfod. Cofnodion: Roedd y
Cynghorydd Hugh Evans wedi cael ei ddal yn ôl gyda’r Gweinidog Llywodraeth
Leol. Byddai'r
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yn cyrraedd y cyfarfod yn hwyr. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn perthynas ag unrhyw fusnes a fydd yn cael ei ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd
Meirick Davies – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 5 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
Brian Jones – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Tony
Thomas – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
Arwel Roberts – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 7 ar y Rhaglen Cofnodion: Datganodd yr
aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem 5 ar y rhaglen – Ailwampio Maes
Parcio Tanddaearol y Rhyl - Y Cynghorydd
Meirick Davies oherwydd ei fod yn Gadeirydd Awdurdod Tân Gogledd Cymru Y Cynghorydd
Brian Jones oherwydd ei fod yn Gynghorydd Tref y Rhyl Y Cynghorydd Tony
Thomas oherwydd ei fod yn Gynghorydd Tref y Rhyl Datganodd y Cynghorydd
Arwel Roberts gysylltiad personol ag eitem 7 ar yr agenda – Adroddiad Cyllid
oherwydd ei fod yn Llywodraethwr Ysgol (Ysgol Dewi Sant ac Ysgol y Castell) |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniataodd y
Cadeirydd adroddiad llafar ar y penderfyniadau a wnaed o dan y darpariaethau
penderfyniadau brys yng Nghyfansoddiad y Cyngor yn dilyn gohirio’r cyfarfod
Cabinet diwethaf. Cofnodion: Caniataodd y
Cadeirydd adroddiad llafar ar y penderfyniadau a wnaethpwyd o dan y
darpariaethau penderfyniadau brys yng Nghyfansoddiad y Cyngor ar ôl i gyfarfod
diwethaf y Cabinet gael ei ganslo. Adroddodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd bod cyfarfod
diwethaf y Cabinet a drefnwyd ar gyfer 27 Chwefror 2018 wedi cael ei ganslo
oherwydd tywydd garw ac roedd dwy eitem ar yr agenda nad oedd modd eu gohirio
tan y cyfarfod nesaf. Roedd yr eitemau
yn ymwneud â’r canlynol - (1) Ymateb i wahoddiad Llywodraeth Cymru i
baratoi Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd â Chonwy – roedd terfyn amser ar gyfer
ymateb i Ysgrifennydd y Cabinet sef 28 Chwefror 2018, a (2) Dyfarnu Cytundeb Gofal yn y Cartref
Gogledd Cymru (eitem gyfrinachol) - roedd angen i’r penderfyniad hwnnw gael ei
wneud hefyd cyn y byddai modd cynnal cyfarfod Cabinet arall er mwyn i
gontractau gael eu gosod cyn i’r contractau eraill ddod i ben. Roedd y
Cyfansoddiad yn darparu ar gyfer amgylchiadau fel hyn o dan y Cynllun Dirprwyo
Swyddogion a oedd yn datgan bod Prif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr yn cael
awdurdod, neu awdurdod mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y
Cabinet, h.y. yr Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd, i gymryd unrhyw gamau ar
unrhyw fater yng nghylch gorchwyl y Cabinet y maent yn ei ystyried mor frys na
allant aros tan cyfarfod nesaf y Cabinet cyn belled a bod unrhyw gamau tebyg yn
cael eu hadrodd yn y cyfarfod nesaf a gynhelir.
Yn y ddau achos mewn perthynas â’r penderfyniadau hynny, ymgynghorwyd â
holl aelodau’r Cabinet trwy e-bost a chadarnhawyd y gellir gwneud y penderfyniad
a bod yr Arweinydd a’r Diprwy Arweinydd wedi awdurdodi hynny. Roedd y llythyr i Lywodraeth Cymru
ynglŷn â’r Cynllun Datblygu Lleol wedi cael ei gylchredeg i bob aelod gan
y Cynghorydd Brian Jones ers hynny. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 23 Ionawr 2018 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2018 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2018. Tudalen 10 – Eitem 9: Cyllideb 2018/19 – Cynigion
Terfynol – holodd y Cynghorydd Bobby Feeley a gynhwyswyd nodyn esboniadol gyda
biliau treth y cyngor yn nodi sut y byddai’r cynnydd yn cael ei wario, yn
arbennig o ran gofal cymdeithasol.
Dywedwyd wrth y Cabinet, fel rhan o fesurau arbed arian, nad oedd y
llyfryn esboniadol ‘Eich Arian’ bellach yn cael ei bostio gyda biliau treth y
cyngor ond bod preswylwyr yn cael eu cyfeirio at y wybodaeth hon sydd ar gael
ar wefan y cyngor. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2018 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
AILWAMPIO MAES PARCIO TANDDAEAROL Y RHYL PDF 225 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi wedi’i atodi) yn ceisio cymeradwyaeth i symud ymlaen gydag ailwampio maes parcio dan ddaear y Rhyl fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cymeradwyo argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol i fwrw ymlaen i
adnewyddu maes parcio tanddaearol y Rhyl, a (b) chyfarwyddo
swyddogion i fynd ymlaen i roi’r prosiect ar waith. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson Hill yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i symud
ymlaen â’r gwaith o ailwampio maes parcio tanddaearol y Rhyl a’r cyllid fel yr
argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol (GBS). Roedd
y Cabinet wedi cymeradwyo’r rhaglen adfywio bresennol yn y Rhyl ym mis Mawrth
2016 a oedd yn cynnwys amryw o brosiectau y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad. Roedd y maes parcio
tanddaearol wedi’i leoli ger y cyfleuster parc dŵr newydd ac ystyriwyd bod
sicrhau ei fod yn gwbl weithredol ac yn llenwi’r capasiti yn allweddol er mwyn
cyfrannu at lwyddiant y gwaith o ddatblygu glan y môr a chanol y dref yn y
dyfodol. Roedd
diffygion mewn perthynas â’r maes parcio tanddaearol yn cynnwys diffyg golau,
awyru a hygyrchedd ac nid oedd yn cael ei ddefnyddio yn ddigonol o gwbl. Roedd y GBS wedi cymeradwyo
achos busnes ar gyfer y gwaith ailwampio am gost o £2.126m gyda’r costau
cyfalaf yn cael eu hariannu trwy gymysgedd o fenthyca darbodus a Benthyciad
Canol Trefi gan Lywodraeth Cymru. Byddai’r cyllid gofynnol i
ad-dalu’r benthyciad yn cael ei gynhyrchu trwy refeniw’r maes parcio
ychwanegol. Roedd
y Cabinet yn cefnogi’r gwaith o ailwampio’r maes parcio fel prosiect allweddol
yn y gwaith ehangach o ailwampio’r Rhyl ac roedd yn cydnabod ei bwysigrwydd i
gyflenwi darpariaeth parcio priodol a digonol i'r datblygiad glan môr, gyda
chysylltiadau i mewn i ganol y dref. Fodd bynnag, codwyd cwestiynau
a cheisiwyd sicrwydd mewn perthynas â’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r prosiect,
yn arbennig risgiau ariannol, ynghyd ag unrhyw fesurau lliniaru i leddfu’r
rheiny. Ceisiwyd
sicrwydd hefyd mewn perthynas â rheoli llif traffig a darparu arwyddion digonol
cyn agor y cyfleuster parc dŵr newydd a hefyd ystyried cysylltiadau
trafnidiaeth gyhoeddus. Ymatebodd
yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol a swyddogion fel a
ganlyn - ·
roedd y risg na fyddai digon o
refeniw yn cael ei gynhyrchu o’r meysydd parcio i ad-dalu’r benthyciadau wedi
cael ei gydnabod ond roedd amcangyfrifon darbodus wedi cael eu defnyddio i
gyfrifo niferoedd ymwelwyr ac incwm ac roedd tybiaethau rhesymol wedi cael eu
gwneud ynglŷn â defnydd ychwanegol, yn arbennig wrth ystyried y diffyg
defnydd a wneir o’r safle ar hyn o bryd a'r disgwyliadau ar ôl cwblhau’r
atyniadau ar gyfer ymwelwyr trwy gydol y flwyddyn, ac roedd ffactorau hysbys
o'r gwaith ailwampio yn Nova hefyd wedi cael eu cymryd i ystyriaeth. ·
Roedd y GBS yn hyderus y
dylai’r refeniw ychwanegol a gynhyrchir fod yn fwy na digon i ad-dalu’r costau. Pe na bai digon o incwm yn
cael ei gynhyrchu, byddai’r ddyled yn cael ei hystyried yn bwysau corfforaethol
a ariennir gan y cyngor. Cadarnhawyd fod
y Benthyciad Canol Trefi gan Lywodraeth Cymru eisoes wedi’i gymeradwyo. Defnyddiwyd y Benthyciad Canol
Trefi fel dull o ddarparu cyllid heb log ar gyfer cynlluniau adfywio gan arwain
at refeniw ychwanegol – roedd y cyllid ar gael am bymtheg mlynedd cyn bod angen
ei ad-dalu a gellid defnyddio’r cyllid sawl gwaith o fewn y cyfnod hwnnw ·
ymhelaethwyd ynglŷn â’r
gwaith ailwampio arfaethedig er mwyn creu gwelliannau a sicrhau amgylchedd
diogel a chroesawgar i ddefnyddwyr gyda threfniadau rheoli a diogelwch priodol
a chysylltiadau at atyniadau ymwelwyr eraill a chanol y dref – roedd manylion
penodol y gwaith ailwampio wedi’u cynnwys yn yr adroddiad · byddai arwyddion priodol mewn lle i arwain ymwelwyr trwodd i’r Rhyl a’r safle ac roedd gwaith yn cael ei wneud er mwyn cynyddu nifer yr ymwelwyr o gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus a fyddai mewn lle cyn i’r parc dŵr agor ym mis Ionawr 2019; o ran maes parcio coetsys roedd mesur dros dro yn cael ei roi mewn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
DILEU TRETHI BUSNES ANADFERADWY PDF 278 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi wedi’i amgáu) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddileu Trethi Busnes anadferadwy fel y nodwyd yn yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cytuno i ddiddymu’r gwerthoedd anadferadwy fel y nodir yn Nhabl 1
yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet i ddiddymu Ardrethi Annomestig (busnes) nad oedd modd eu hadennill ar
gyfer Graval Alok UK Ltd (a oedd yn masnachu fel Store 21, Canolfan White Rose,
Y Rhyl) lle nad oedd modd parhau â chamau adennill oherwydd bod y cwmni yn
fethdalwr. Cafodd
y cwmni ei ddiddymu ym mis Ebrill 2017 a’i ddirwyn i ben ar 10 Gorffennaf 2017.
Roedd yna ddyledion sylweddol yn ddyledus ac asedau cyfyngedig i wneud unrhyw
daliadau yn erbyn y dyledion hyn. O ganlyniad, rhoddwyd gwybod
i’r holl gredydwyr ansicredig, gan gynnwys y Cyngor, na fyddai unrhyw daliad
difidend yn cael ei wneud. Cyfanswm
y ddyled i’w diddymu fyddai £60,385.07 ar gyfer blynyddoedd ariannol 2016/17 a
2017/18. Nododd y Cabinet
nad oedd disgwyl i’r ardrethi busnes gael eu hadennill ac na fyddai unrhyw gost
uniongyrchol i'r cyngor am ddiddymu'r dyledion gan fod y Gronfa Genedlaethol
wedi gwneud hynny. Eglurwyd rôl y cyngor
fel asiantaeth gasglu i Lywodraeth Cymru hefyd.
Mewn ymateb i gwestiynau, dywedwyd wrth y Cabinet fod gweithdrefnau
cadarn mewn lle i adfer dyledion gan fusnesau a phreswylwyr ac ymhelaethodd
swyddogion am rai o’r pethau sy’n debyg ac yn wahanol am y ddau, gyda phwyslais
arbennig ar y materion cyfreithiol o amgylch busnesau sy’n mynd yn fethdalwyr
a’r broses weinyddol o adfer dyledion.
Yn yr achos arbennig hwn roedd y bil wedi cael ei dalu’n llawn tan
ddiwedd y flwyddyn ariannol flaenorol a chyn pen ychydig ddyddiau ar ôl methu â
thalu roedd y gweithdrefnau adennill perthnasol wedi cael eu gweithredu. Fodd bynnag, unwaith yr oedd busnes wedi cael
ei drosglwyddo i’r gweinyddwyr roedd y cyngor yn gyfyngedig o ran y camau
gweithredu y gellid eu cymryd. Sicrhawyd
bod dull cyson a chadarn wedi’i ddefnyddio i adfer dyledion ym mhob achos a bod
dulliau talu priodol mewn lle. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cytuno diddymu’r gwerthoedd na ellir eu hadennill fel y nodir yn
Nhabl 1 yr adroddiad. |
|
I ystyried adroddiad gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2017/18 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllid
y cytunwyd arni; (b) bod swyddogion
yn paratoi crynodeb o’r gost ariannol i’r Cyngor mewn perthynas â’r tywydd garw
a brofwyd y gaeaf hwn gan gynnwys amcangyfrif o’r gostyngiad mewn incwm a
achoswyd gan y digwyddiadau hyn. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r
cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllid y cytunwyd arni. Darparodd y crynodeb canlynol o sefyllfa
ariannol y Cyngor – ·
rhagwelir
tanwariant o £239k mewn perthynas â’r cyllidebau corfforaethol a gwasanaeth ·
roedd
gwerth £0.902 miliwn o arbedion effeithlonrwydd mewn gwasanaethau eisoes wedi'u
cytuno yn rhan o'r gyllideb, gan ddisgwyl y byddent i gyd yn cael eu cyflawni –
byddai unrhyw eithriad yn cael ei adrodd wrth y Cabinet ·
amlygwyd
y risgiau ar hyn o bryd a’r gwahaniaethau mewn perthynas â meysydd gwasanaeth
unigol, a ·
darparwyd
diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r
Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol). Dywedwyd wrth y Cabinet hefyd bod
Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod £484k ychwanegol yn cael ei roi i ysgolion
Sir Ddinbych i helpu â chostau cynnal a chadw a ysgwyddwyd yn ystod 2017/18
ynghyd â grant cyfalaf o £1.2m am wella priffyrdd. Codwyd y materion canlynol wrth drafod – ·
croesawyd
y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru ar gyfer
ysgolion a phriffyrdd ond gobeithir y bydd unrhyw ddarpariaeth ychwanegol yn y
dyfodol yn cael ei dyrannu’n gynharach yn y flwyddyn ariannol er mwyn medru
creu cynlluniau ariannol yn well ·
Dywedodd
y Cynghorydd Brian Jones fod arbedion wedi cael eu gwneud trwy gyllid craidd a
chostau rheoli i ostwng y diffyg yn y Tîm Prosiectau Mawr o £165k i £115k. Roedd angen gostwng y ffigwr incwm ar
gyfer y Tîm Prosiectau Mawr yn y flwyddyn ddilynol hefyd er mwyn adlewyrchu’r
sefyllfa bresennol yn well ·
rhagwelir
ar hyn o bryd y gellid ymateb i effaith y tywydd garw diweddar ar y gyllideb
cynnal a chadw'r gaeaf yn defnyddio’r adnoddau presennol ond byddai’r mater yn
cael ei adolygu’n barhaus ac roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi gofyn
am help ariannol gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i dalu am effaith y tywydd
garw ·
mae
pryderon wedi codi am effaith y tywydd garw ar briffyrdd, coetiroedd a llwybrau
troed ynghyd â’r angen am raglen trwsio a chynnal a chadw briodol, gan gynnwys
goblygiadau costau, er mwyn mynd i’r afael â’r materion hynny. Amlygwyd yr effaith ehangach ar
wasanaethau’r cyngor hefyd megis y rhai sy’n ddibynnol iawn ar gynhyrchu incwm
a fyddai’n cael eu heffeithio’n sylweddol o ganlyniad i gau cyfleusterau. O ganlyniad cytunwyd y dylid paratoi
crynodeb o’r costau ariannol i’r cyngor yn sgil y tywydd garw ·
Roedd
Llywodraeth Cymru wedi gofyn i awdurdodau lleol am adborth am effeithiau’r
tywydd garw ac felly wedi cydnabod effaith ar draws y gwasanaethau. Amlygwyd fod rhai busnesau lleol hefyd
wedi cael eu heffeithio’n arw ac awgrymwyd y gallai Llywodraeth Cymru gymryd
hynny i ystyriaeth hefyd ·
anogwyd
aelodau i adrodd am unrhyw bryderon priffyrdd drwy’r system Rheoli Cyswllt
Cwsmer fel y gellir eu cofnodi’n briodol a gweithredu arnynt ond teimlai'r
Cynghorydd Meirick Davies y dylid cael dull ar wahân ar gyfer gwaith brys sy’n
ofynnol er mwyn osgoi unrhyw oedi gormodol ·
canmolwyd
gwaith y staff Priffyrdd wrth ymateb i’r tywydd garw a chynnal a chadw ffyrdd y
sir a dywedodd y Cynghorydd Brian Jones y byddai’r Pennaeth Priffyrdd a
Gwasanaethau Amgylcheddol yn cynnwys gwerthfawrogiad y Cabinet yn ei ohebiaeth
i’r holl staff dan sylw ·
Ailadroddodd
Arwel Roberts ei bryderon blaenorol am ysgolion â diffygion ariannol a'r
effaith dilynol oherwydd cynnydd yn oedran pensiwn y wladwriaeth. Rhoddodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts
sicrwydd ynglŷn â chadernid y cynlluniau ariannol ar gyfer pobl ysgol a
oedd yn cynnwys costau cyflogau presennol. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2017/18 ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 215 KB Derbyn Blaenraglen Waith amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD –
Nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cyn terfynu’r
cyfarfod dywedodd yr Arweinydd mai hwn fyddai’r cyfarfod Cabinet olaf i Dr.
Mohammed Mehmet, Y Prif Weithredwr.
Myfyriodd yr Arweinydd am amser Dr. Mehmet gyda’r awdurdod a mynegodd ei
werthfawrogiad am ei wasanaeth ffyddlon ac ymroddedig, gan drawsnewid Sir
Ddinbych ac arwain yr awdurdod i fod yn un o’r cynghorau sy’n perfformio ar y
lefel uchaf yng Nghymru ac yn agos i’w gymunedau. Ar ran y Cabinet presennol a’r gorffennol,
dymunodd yr Arweinydd yn dda i Dr. Mehmet i’r dyfodol. Dywedodd Dr.
Mehmet ei fod yn falch o gyflawniadau’r awdurdod a thalodd deyrnged i
aelodau a staff am fod yn allweddol yn llwyddiant y Cyngor. Diolchodd i’r Arweinydd am ei acolâd a dymunodd
yn dda i Sir Ddinbych. Daeth y cyfarfod i ben am 11.40 a.m. |