Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nicola Stubbins, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau

 

Cofnodion:

Nicola Stubbins, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Datganodd y Cynghorwyr Meirick Davies, Huw Hilditch-Roberts, Martyn Holland, Arwel Roberts, Glenn Swingler, Rhys Thomas, Tony Thomas, Julian Thompson-Hill Emrys Wynne a Mark Young gysylltiad personol ag eitem 6 - Darpariaeth Band B- Rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif.

 

Cofnodion:

Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem 6 ar y rhaglen – Cyflawni Rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif Band B

 

Y Cynghorydd Meirick Davies - Llywodraethwr Ysgol Cefn Meiriadog ac Ysgol Trefnant

Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts – Llywodraethwr Ysgol Brynhyfryd a Pen Barras/Rhiant

Y Cynghorydd Martyn Holland - Llywodraethwr Ysgol Bro Famau

Y Cynghorydd Arwel Roberts – Llywodraethwr Ysgol y Castell ac Ysgol Dewi Sant

Y Cynghorydd Glenn Swingler – Llywodraethwr Ysgol Pendref

Y Cynghorydd Rhys Thomas – Llywodraethwr Ysgol Twm o’r Nant ac Ysgol Frongoch

Y Cynghorydd Tony Thomas – Llywodraethwr Ysgol Brynhedydd/Plentyn yn Ysgol y Santes Ffraid

Y Cynghorydd Julian Thompson-Hill - Llywodraethwr Ysgol Clawdd Offa

Y Cynghorydd Emrys Wynne – Llywodraethwr Ysgol Borthyn

Y Cynghorydd Mark Young – Llywodraethwr Ysgol Uwchradd Dinbych

 

Datganodd y Cynghorydd Meirick Davies hefyd fudd personol yn eitem 9 yn y rhaglen sef Cyllideb 2018/19 – Cynigion Terfynol oherwydd ei fod yn Gadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub.

 

 

3.

MATERION BRYS

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 320 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2017 (copi’n amgaeedig).  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2017 fel cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2017.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2017 fel cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi.

 

 

5.

CYNNIG I SEFYDLU GRŴP CYNLLUNIO STRATEGOL pdf eicon PDF 303 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio a Theithio Cynaliadwy (copi’n amgaeedig) yn amlinellu’r cynigion ar gyfer sefydlu Grŵp Cynllunio Strategol i arwain ar ddatblygiad disodliad Cynllun Datblygu Lleol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo sefydlu’r grŵp, y cylch gorchwyl ac aelodaeth y Grŵp Cynllunio Strategol fel y nodir yn Atodiad 1, yn amodol ar gynnwys y canlynol yn y cylch gorchwyl (1) cyfeiriad cliriach at y ffaith na fydd cyfarfodydd y grŵp yn agored i bob aelod etholedig eu mynychu, a (2) eglurhad pellach ynghylch y broses ar gyfer paratoi’r Adroddiad Monitro Blynyddol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad yn amlinellu'r cynigion i ddisodli’r Grŵp Llywio Cynllun Datblygu Lleol gyda Grŵp Cynllunio Strategol gyda mwy o ffocws i arwain ar ddatblygu Cynllun Datblygu Lleol newydd.

 

Byddai’r Grŵp newydd yn darparu arweinyddiaeth a chyfarwyddyd corfforaethol i symud y Cynllun Datblygu Lleol newydd yn ei flaen i’r broses fabwysiadu ffurfiol ac i ganolbwyntio ar weithredu strategaeth a pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol. Roedd y cylch gorchwyl drafft yn amlinellu rôl a diben y Grŵp a’i aelodau ynghlwm â’r adroddiad hwn.

 

Nododd y Cabinet y cynigion ar gyfer Grŵp llai, fyddai â mwy o ffocws, a cheisiodd sicrwydd y byddai cyfleoedd yn cael eu darparu i’r holl aelodau gael mewnbwn yn y broses newydd. Cadarnhaodd swyddogion fod y cylch gorchwyl drafft yn darparu ar gyfer un cynrychiolydd a dirprwy gynrychiolydd o bob un o'r Grwpiau Ardal Aelodau a chyfrifoldeb yr aelod hwnnw fyddai adrodd yn ôl a darparu mewnbwn o’u Grwpiau Ardal Aelod unigol a grwpiau gwleidyddol. Hefyd byddai'r holl waith papur perthnasol yn ymwneud â chyfarfodydd y Grŵp ar gael i’r holl gynghorwyr a byddai gweithdai/sesiynau briffio yn cael eu cynnal bob chwe mis i sicrhau cyfranogiad parhaus yr holl aelodau. Byddai adroddiadau diweddaru yn cael eu cynnwys ar raglenni’r Grŵp Ardal Aelodau yn ôl yr angen a byddai cyfnodau allweddol o ran datblygiad yn cael eu hadrodd i’r Cabinet a/neu’r Cyngor. Wrth ymateb i gwestiynau atebodd yr Aelod Arweiniol a’r Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai y cwestiynau fel a ganlyn –

 

·        cadarnhawyd na fyddai cyfarfodydd y Grŵp newydd ar agor i’r holl aelodau eu mynychu a chytunwyd i wneud hyn yn fwy eglur yn y cylch gorchwyl

·        pwysleisiwyd na fyddai’r cyfarfodydd ar agor i’r cyhoedd

·        cydnabuwyd gwaith caled y Grŵp Llywio CDLl a chadarnhawyd y byddai’r rhagolygon poblogaeth ac aelwydydd diwygiedig yn sail i'r CDLl newydd

·        eglurwyd y gofyniad statudol i ddarparu Adroddiad Monitro Blynyddol i Lywodraeth Cymru a rôl y Grŵp newydd mewn goruchwylio paratoi'r adroddiad hwnnw; cytunwyd i roi eglurhad pellach ar y broses honno yn y cylch gorchwyl

·        ailategwyd y bwriad i sicrhau un cynrychiolydd ac un dirprwy gynrychiolydd o bob Grŵp Ardal Aelodau gan gofio ei fod yn Grŵp newydd a oedd angen llai o aelodau na'r Grŵp Llywio blaenorol.

 

Pwysleisiodd y Cabinet ei bod yn bwysig fod  cynrychiolwyr y Grwpiau Ardal Aelodau yn ymgysylltu’n rhagweithiol gyda'u Grŵp Ardal Aelodau perthnasol i roi adborth a darparu mewnbwn pellach i'r broses.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo sefydlu’r grŵp, y Cylch Gorchwyl drafft ac aelodaeth y Grŵp Cynllunio Strategol fel y nodir yn Atodiad 1, yn amodol ar gynnwys y canlynol yn y cylch gorchwyl (1) cyfeiriad cliriach at y ffaith na fyddai cyfarfodydd y grŵp yn agored i bob aelod etholedig eu mynychu, ac (2) eglurhad pellach ynghylch y broses ar gyfer paratoi’r Adroddiad Monitro Blynyddol.

 

 

6.

DARPARIAETH BAND B - RHAGLEN YSGOLION YR 21AIN GANRIF pdf eicon PDF 283 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc (copi’n amgaeedig) ar gynnydd o ran Band B a’r Rhaglen Addysg Ysgolion yr 21ain Ganrif a goblygiadau’r ddarpariaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cadarnhau ei ymrwymiad i ddarparu cynigion Band B yn unol â’r Rhaglen Amlinellol Strategol, fel y’u cyflwynwyd i Lywodraeth Cymru, er mwyn cwrdd â’r flaenoriaeth a nodir yng Nghynllun Corfforaethol 2017-2022;

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad yn cynghori’r Cabinet ynglŷn â chymeradwyo cyflwyno rhaglen Band B ar gyfer Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg a goblygiadau cyflawni.

 

Roedd y Cyngor wedi gwneud cynnydd rhagorol o ran cyflawni’r cynigion Band A mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a gyda’i gilydd fe fyddent wedi buddsoddi dros £90m erbyn 2019 i gyflawni prosiectau allweddol. Fis Gorffennaf 2017, cymeradwyodd y Cabinet gyflwyno cynigion Band B gwerth £80.5m i Lywodraeth Cymru fel rhan o gam nesaf y buddsoddiad. Roedd Llywodraeth Cymru ers hynny wedi cymeradwyo’r buddsoddiad mewn egwyddor yn ddibynnol ar gymeradwyo achosion busnes prosiectau unigol.  Yn dilyn hynny gofynnwyd i’r Cabinet gadarnhau ymrwymiad ariannol y Cyngor i gyflawni cynigion Band B yn unol â'r Cynllun Corfforaethol. £32.8m fyddai cyfraniad Sir Ddinbych a tua £1.8m fyddai’r gyllideb refeniw fyddai ei hangen i ariannu'r benthyca i gefnogi'r rhaglen dros saith mlynedd y rhaglen. Nid oedd unrhyw fanylion wedi ei ddarparu yn nhermau cynigion unigol a fyddai'n ddibynnol ar achosion busnes unigol yn cael eu hystyried gan y Grŵp Buddsoddiad Strategol a'r Cabinet.

 

Croesawodd y Cabinet yr adroddiad a buddsoddiad yng ngwaith adeiladu ysgolion er budd plant a phobl ifanc ac roedd yr Arweinydd yn awyddus i barhau â buddsoddiad a chynnydd y Cyngor blaenorol a manteisio ar unrhyw gyllid fyddai ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y diben hwnnw. Pwysleisiodd y Cynghorydd Mark Young yr angen i sicrhau proses agored ar gyfer cymunedau a rhoddodd yr Aelod Arweiniol sicrwydd o ran y gwersi sydd wedi eu dysgu o adolygiadau blaenorol a fyddai’n cael eu hadlewyrchu ym mhrosesau'r dyfodol.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a Phennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant i gwestiynau gan aelodau nad ydynt yn aelodau o'r Cabinet fel a ganlyn -

 

·        roedd y Rhaglen Amlinellol Strategol wedi ei chyflwyno cyn y cyhoeddiad diweddar ynglŷn ag arian ychwanegol yn benodol ar gyfer addysg Cyfrwng Cymraeg.

·        Ond atgoffwyd aelodau fod tua £30m wedi ei fuddsoddi mewn cynyddu a gwella cyfleusterau ar gyfer addysg Cyfrwng Cymraeg yn rhan Band A o’r cyllid a rhoddwyd sicrwydd pellach y byddai unrhyw gynlluniau fyddai’n mynd ymlaen i Fand B yn canolbwyntio ar barhau i gryfhau a chynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer addysg Cyfrwng Cymraeg. Roedd swyddogion yn awyddus i sicrhau fod aelodau’n cael eu hysbysu ynglŷn ag unrhyw gyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru a allai ychwanegu neu alluogi cynlluniau i symud ymlaen i fuddsoddi yn ystâd yr ysgol yn gyffredinol. Roedd swyddogion yn ymrwymedig i sicrhau yr ymdrinnir ag unrhyw ddiffygion mewn darpariaeth addysgol ar draws yr holl ysgolion yn Sir Ddinbych a thrafodwyd y ddarpariaeth ar gyfer Dysgwyr ag Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig yn ystod datblygiad y Cynllun Amlinellol Strategol; byddai'r drafodaeth yn parhau wrth i gynlluniau mwy manwl gael eu datblygu.

·        unwaith roedd y Cabinet wedi cadarnhau ei ymrwymiad ariannol byddai’n bosibl mynd i'r afael â thrafodaethau helaeth yn ymwneud ag unrhyw gynigion dilynol fyddai'n cael eu cyflwyno yn unol â'r broses ddemocrataidd a glynu at bolisïau a gweithdrefnau’r Cod Trefniadaeth Ysgol

·        hefyd rhoddwyd sicrwydd fod swyddogion yn gweithio’n agos gyda thimau dylunio o ran yr effeithiau ar yr amgylchedd gan gydnabod yr ymrwymiad i sicrhau fod gofynion amgylcheddol yn cael eu hateb cymaint â phosibl o fewn yr adnoddau ariannol sydd ar gael ar gyfer prosiectau penodol.

 

PENDERFYNWYD - bod y Cabinet yn:-

 

 (a)      cadarnhau ei ymrwymiad ariannol i gyflawni cynigion Band B yn unol â’r Rhaglen Amlinellol Strategol fel a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru i’w alluogi i gwrdd â'r flaenoriaeth a gynhwysir o fewn y Cynllun Corfforaethol 2017 – 2022, a

 

 (b)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

GOSOD RHENT TAI A CHYLLIDEBAU REFENIW TAI A CHYFALAF 2018/19 pdf eicon PDF 231 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i godi rhent blynyddol tai cyngor Sir Ddinbych ac i gymeradwyo'r Cyfrif Refeniw Tai a Chyllidebau Cyfalaf ar gyfer 2018/19 a’r Cynllun Busnes Stoc Dai.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD –

 

(a)       mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad);

 

(b)       cynyddu rhenti anheddau’r Cyngor yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd fis Ebrill 2015 i rent wythnosol cyfartalog o £87.63 o ddydd Llun 2 Ebrill 2018 ymlaen.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y cynnydd rhent blynyddol i dai yn Sir Ddinbych, Cyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai a Chyllidebau Refeniw ar gyfer 2018/19 a’r Cynllun Busnes Stoc Tai.

 

Cafodd aelodau eu harwain drwy ffigyrau’r gyllideb gan y Cynghorydd Thompson-Hill a hefyd drwy'r rhagdybiaethau lefelau incwm a gyfrifwyd drwy ystyried Polisi Rhenti Llywodraeth Cymru ar gyfer rhenti tai cymdeithasol a mecanwaith ar gyfer cynyddu rhenti.  Roedd yr adolygiad blynyddol o Gynllun Busnes y Stoc Dai yn dangos ei fod yn parhau’n gadarn ac yn hyfyw yn ariannol gydag adnoddau digonol i gefnogi rheoli a goruchwylio’r gwasanaeth tai ac anghenion y stoc o ran buddsoddiad.

 

Roedd y Cabinet yn falch o nodi'r raddfa uchel o ran bodlonrwydd gan denantiaid a bod Sir Ddinbych yn cymharu’n ffafriol gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai eraill mewn perthynas â rhenti tai.  Nodwyd hefyd fod gan Sir Ddinbych ôl- ddyledion rhenti tai sy’n gyson isel mewn cymhariaeth â Chymru a'r DU. Ond cydnabuwyd fod Credyd Cynhwysol yn risg oedd yn cael ei reoli yn dda o fewn Sir Ddinbych gyda niferoedd isel o ôl-ddyledion rhent ar hyn o bryd. Roedd Aelodau hefyd yn falch o nodi fod rhaglen o 170 o gartrefi newydd wedi eu hymgorffori o fewn y Cynllun Busnes Stoc Tai ac atebodd yr Aelod Arweiniol - Tai Cymunedol gwestiynau'n ymwneud â chynnydd gyda'r rhaglen benodol honno a hefyd cadarnhaodd fod ffynonellau cynhesu gwahanol i nwy hylifol mewn ardaloedd gwledig yn cael eu harchwilio.  Ni ymdriniwyd â modurdai yn yr adroddiad gan nad ydynt yn ddarostyngedig i Bolisi Rhent Llywodraeth Cymru a byddai'r ffioedd a'r defnydd o safleoedd modurdai yn cael eu hadolygu gan y Pennaeth Cyfleusterau, Asedau a Thai.  Er hynny mynegodd y Cynghorydd Bobby Feeley bryder yn ymwneud â’r amser y mae wedi ei gymryd i gwblhau’r adolygiad o safleoedd modurdai a chytunwyd i dderbyn adroddiad yn ôl ar ymagwedd y Cyngor o ran modurdai yn dilyn cwblhau'r adolygiad mewn tua chwe mis.

 

PENDERFYNWYD –

 

 (a)      mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad), a

 

 (b)      cynyddu rhenti anheddau’r Cyngor yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd fis Ebrill 2015 i rent wythnosol cyfartalog o £87.63 o ddydd Llun 2 Ebrill 2018 ymlaen.

 

 

8.

ARGYMHELLION Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL pdf eicon PDF 233 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi'n amgaeedig) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet ar gyfer prosiectau a nodwyd ar gyfer eu cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2018/19.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y prosiectau a nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad, sydd i'w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2018/19, yn cael eu cefnogi, ynghyd ag eitem o Atodiad 2 sy’n ymwneud â chyfyngiad cyflymder o 40mya ar Fwlch yr Oernant os yw’r cais am grant yn aflwyddiannus, a’u hargymell i'r Cyngor llawn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad gan geisio cefnogaeth y Cabinet i brosiectau a nodwyd i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2018/19 fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol (GBS) ac fel y nodwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

Arweiniodd y Cynghorydd Thompson-Hill yr aelodau drwy’r adroddiad ac ymhelaethodd ar y cyllid sydd ar gael ar gyfer dyraniadau bloc ar gyfer rhaglenni gwaith parhaus.  Cyfeiriwyd at waith y GBS wrth adolygu’r cynigion am ddyraniadau a darparwyd crynodeb o’u hargymhellion ac fe ymhelaethwyd arnynt ymhellach yn y cyfarfod.  Roedd cynigion penodol lle roedd y GBS wedi argymell peidio â dyrannu cyllid, neu ddyrannu llai o gyllid ar eu cyfer, wedi eu nodi yn Atodiad 2 i'r adroddiad. Cyfeiriodd y Cynghorydd Thompson-Hill at sylwadau a dderbyniwyd gan aelodau yn ymwneud â’r cynnig am gyfyngiad cyflymder 40 milltir yr awr ym Mwlch yr Oernant, gyda safbwynt y GBS nad oedd ffynonellau ariannol eraill wedi eu harchwilio’n llawn. Byddai cais am arian grant yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, ond os yn aflwyddiannus byddai diwygiad i'r argymhelliad i gynnwys bod dyraniad cyllid ar gyfer ei gynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2018/19 yn cael ei wneud.

 

Atebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion y cwestiynau fel a ganlyn –

 

·         Bloc Priffyrdd C07 – roedd cyllid ar gyfer materion yn ymwneud â’r priffyrdd wedi ei gynnwys o fewn y dyraniad bloc cyfan a byddai’r Pennaeth Gwasanaeth yn penderfynu ar y defnydd mwyaf priodol o’r dyraniad hwnnw.

·         Roedd yr elfen fenthyciad i ganiatáu parhau gyda rhaglen y lanternau stryd newydd yn cael ei drin ar wahân.

·         C06 Gwaith Traffig – Astudiaeth Dichonoldeb Parcio Bysiau – roedd yr elfen hon o’r cais yn ymwneud ag astudiaeth ddichonoldeb ar draws nifer o feysydd ond nid oedd wedi ei gefnogi o ganlyniad i fforddiadwyedd gyda ffynonellau cyllid eraill i gael eu harchwilio

·          

 

PENDERFYNWYD bod y prosiectau a nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad, sydd i'w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2018/19, yn cael eu cefnogi, ynghyd ag eitem o Atodiad 2 sy’n ymwneud â chyfyngiad cyflymder o 40mya ar Fwlch yr Oernant, os yw’r cais grant am gyllid yn aflwyddiannus, a’u hargymell i'r Cyngor llawn.

 

 

9.

CYLLIDEB 2018/19 – CYNIGION TERFYNOL pdf eicon PDF 302 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn nodi goblygiadau Setliad Drafft Llywodraeth Leol 2018/19 a chynigion i gwblhau'r gyllideb ar gyfer 2018/19.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi effaith Setliad Llywodraeth Leol 2018/19;

 

(b)       cefnogi'r cynigion a amlinellir yn Atodiad 1, sy’n cyd-fynd â’r rhagdybiaethau a gyflwynwyd i aelodau yn ystod y sesiynau briffio a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2017, a chan hynny'n eu hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn pennu cyllideb derfynol 2018/19;

 

(c)        argymell i’r Cyngor mai’r cynnydd cyfartalog sydd ei angen i Dreth y Cyngor er mwyn cefnogi’r gyllideb yw 4.75%, sy’n cydnabod y pwysau ariannol cynyddol ar wasanaethau gofal cymdeithasol plant ac oedolion drwy ddarparu cyllid ychwanegol o £1.5 miliwn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn amlinellu goblygiadau Setliad Llywodraeth Leol 2018/19 a'r cynigion ar gyfer cyllideb derfynol 2018/19, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor.

 

Darparodd y Cynghorydd Thompson-Hill drosolwg o broses y gyllideb a sefyllfa ddiweddaraf y gyllideb ac ymhelaethodd ar y cynigion i’w hystyried a’r argymhelliad i’r cyngor llawn er mwyn gosod y gyllideb ar gyfer 2018/19. Roedd y setliad terfynol wedi arwain at ostyngiad ariannol o -0.2% (roedd setliad dros dro wedi dangos -0.9%) ond er mwyn i’r sefyllfa ariannu aros yn niwtral byddai angen i’r setliad fod o leiaf +3.6%.  Er nad oedd y gostyngiad mor ddrwg â'r hyn a ofnwyd i ddechrau, roedd angen ystyried ffactorau eraill, fel pwysau cyflogau, pensiwn a'r Cyflog Byw Cenedlaethol, yn ogystal â chwyddiant prisiau/ynni, lefi'r gwasanaeth tân a lle ar gyfer cynnydd yn y Cynllun Gostyngiadau i Dreth y Cyngor. Roedd pwysau’n parhau ar draws yr awdurdod gyda galw cynyddol am ariannu addysg a gofal cymdeithasol – roedd y gyllideb arfaethedig yn cynnwys cynnydd o £1.8m (2.7%) mewn cyllidebau ar gyfer ysgolion a dyraniad ychwanegol o £1.5m (3.2%) i ofal cymdeithasol. Roedd arbedion wedi eu canfod ar draws y Cyngor i gynorthwyo i ddarparu cyllideb gytbwys.  O ran Treth y Cyngor cynigiwyd cynnydd o 4.75% oedd yn cynnwys dyraniad ychwanegol o 2% i ariannu pwysau gofal cymdeithasol gwerth £1.5m.

 

Trafododd y Cabinet y cynigion yn ymwneud â’r gyllideb, gan gydnabod y gostyngiad oedd yn parhau yn nyraniad cyllideb Sir Ddinbych a'r goblygiadau i wasanaethau o ganlyniad i hynny, a hefyd cydnabod fod yr hinsawdd ariannol yn parhau'n her i'r dyfodol a fyddai'n arwain at fwy o benderfyniadau anodd.  Tra’n croesawu’r cynnydd arfaethedig i’r gyllideb gofal cymdeithasol, pwysleisiodd y Cynghorydd Bobby Feeley ei phryderon yn ymwneud ag ariannu ar gyfer y blynyddoedd i ddod o ystyried y galw cynyddol parhaus a’r pwysau sydd wedi eu nodi ar gyfer y dyfodol. Hefyd pwysleisiodd yr angen i sicrhau fod preswylwyr yn dod yn ymwybodol o’r cynnydd penodol yn Nhreth y Cyngor i ariannu'r pwysau presennol o ran gofal cymdeithasol. Cytunodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, gan ychwanegu fod yna gysyniad fod Treth y Cyngor yn cyfrif am y rhan fwyaf o gyllideb y Cyngor, elfen yr oedd angen ymdrin â hi hefyd. Credai fod y gyllideb arfaethedig yn deg, yn ddealladwy ac yn ddoeth ac y dylai roi hyder i'r preswylwyr gyda gofal cymdeithasol, addysg a gwasanaethau plant yn cael eu hamddiffyn.  Yng ngoleuni pwysau parhaus a gostyngiad mewn setliadau yn y dyfodol, roedd aelodau hefyd yn awyddus i ddechrau proses y gyllideb ar gyfer y blynyddoedd i ddod mor fuan â phosibl.

 

Roedd trafodaethau pellach ar gynigion y gyllideb yn canolbwyntio ar y canlynol -

 

·         roedd gwaith yn parhau i reoli costau ynni a chadw cynnydd mor isel â phosibl; mae lleihau'r cyfanswm o ynni sy’n cael ei ddefnyddio yn fater allweddol yn y Cynllun Corfforaethol ac mae Prosbectws Ynni yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd

 

·         talwyd teyrnged i waith Archaeolegydd y Sir sy’n ymddeol a thrafodwyd goblygiadau dileu’r swydd honno.

 

·         Nodwyd y gallai fod rhaid cael cyngor arbenigol o du allan i'r awdurdod yn y dyfodol

 

·         y rhesymu y tu ôl i ddiddymu cynllun grant datblygu'r busnesau bach er mwyn cael arbediad o 50% a hefyd ymhelaethwyd ar fuddsoddi mewn system wella busnes sydd â mwy o ffocws

 

·         roedd gwaith yn cael ei wneud gydag ysgolion ac Adnoddau Dynol i sicrhau fod cytundebau i staff yn addas a bod modd eu haddasu o fewn ysgolion i alluogi i gytundebau gael eu newid yn unol â newid mewn anghenion.

·         roedd y Cyngor yn dal i gefnogi  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 291 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidebol a gytunwyd arni.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol a chytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr adroddiad yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd o ran strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.  Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn-

 

·        amcanwyd y byddai cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol yn adennill costau o ganlyniad i ddefnyddio cynlluniau corfforaethol wrth gefn

·        arbedion effeithlonrwydd gwasanaeth gwerth £0.902m oedd eisoes wedi eu cytuno fel rhan o’r gyllideb gyda'r dybiaeth y byddai'r cyfan yn cael ei gyflawni – byddai’r Cabinet yn cael eu hysbysu ynglŷn ag unrhyw eithriadau os oedd angen

·        pwysleisiwyd y risgiau ac amrywiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, a

·        darparwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Cynllun Cyfalaf Tai a’r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol).

 

Roedd y Cynghorydd Bobby Feeley yn awyddus i ailategu y byddai yna bwysau o hyd ar gyllidebau gofal cymdeithasol, hyd yn oed gyda dyraniad y cyllid ychwanegol arfaethedig i Wasanaethau Cefnogi Cymunedol, a nododd y Cabinet y byddai'r sefyllfa'n cael ei monitro'n ofalus.  O ran y tywydd garw a’r effaith ar gyllid cyfeiriodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill at y gronfa wrth gefn ar gyfer cynnal yn ystod y gaeaf er mwyn cynorthwyo’r amrywiaeth mewn gwariant, a doedd dim materion penodol ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2017/18 a'r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni.

.

 

 

11.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 276 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau/ diwygiadau canlynol -

 

·         Rhanbarthau Gwella Busnes – wedi eu haildrefnu o Fai i Fawrth 2018

·         Canolfan Ddydd Hafan Deg Y Rhyl – wedi ei hychwanegu at y rhaglen waith ar gyfer Ebrill 2018

·         Adolygiad Cartref Gofal – i’w ychwanegu i’r rhaglen waith, dyddiad i'w gadarnhau

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 ac 16 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

12.

CYN YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH – GWEITHDREFN GORCHYMYN PRYNU GORFODOL

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi’n amgaeedig) yn diweddaru’r Cabinet ar weithdrefn Gorchymyn Prynu Gorfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cefnogi’r broses a nodir yn yr adroddiad ar gyfer penderfynu ar y dewis datblygu a’r datblygwr a ffefrir ar gyfer y safle ar ôl i broses y Gorchymyn Prynu Gorfodol ddod i ben.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad cyfrinachol yn diweddaru’r Cabinet ar y weithdrefn Gorchymyn Prynu Gorfodol yn ymwneud â chyn Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych a cheisio cefnogaeth aelodau i’r broses o benderfynu beth yw'r dewis gorau o ran datblygu a’r datblygwr ar gyfer y safle fel yr amlinellir o fewn yr adroddiad. Nodwyd yr ymgynghorwyd â swyddogion Swyddfa Archwilio Cymru a’u bod yn fodlon gyda'r broses arfaethedig.

 

Darparodd swyddogion ychydig o wybodaeth gefndir yn arwain at y sefyllfa bresennol a nododd aelodau’r amserlen ar gyfer cwblhau’r Gorchymyn Prynu Gorfodol a chyflawni’r prosiect. Roedd y fersiwn derfynol o fanyleb y tendr wedi ei gylchredeg yn y cyfarfod a phwysleisiodd swyddogion y prif newidiadau o’r drafft blaenorol. Trafododd aelodau yr argymhellion, fel y nodir o fewn yr adroddiad, gyda swyddogion gan gynnwys manyleb y tendr a’r weithdrefn asesu a gwerthuso er mwyn penderfynu ar y dewis gorau ar gyfer y safle yn ogystal â rhai materion cyfreithiol a risgiau o gylch y broses gyfan a goblygiadau o ran cost yn y dyfodol.  Yn dilyn trafodaeth fanwl:

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cefnogi’r broses a nodir yn yr adroddiad ar gyfer penderfynu ar y dewis o ran  datblygu a’r datblygwr a ffefrir ar gyfer y safle ar ôl i broses y Gorchymyn Prynu Gorfodol ddod i ben.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.00 pm.

 

 

13.

NORTH WALES HOSPITAL DENBIGH - REVISED APPENDIX

Dogfennau ychwanegol: