Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
CYDNABYDDIAETH Fe soniodd yr
Arweinydd bod cyfarfod olaf tymor presennol y Cabinet yn gyfle i ddathlu
llwyddiannau’r cyfnod hwnnw, gan gynnwys cyflwyno’r Cynllun Corfforaethol, a'r
gwahaniaeth a wnaed i'r sir a'i phreswylwyr. Diolchodd i swyddogion ac aelodau
am eu cefnogaeth werthfawr a’u gwaith caled, a dywedodd ei fod wedi bod yn
fraint ac yn anrhydedd i arwain y Cyngor yn ystod y weinyddiaeth bresennol.
Talodd y Cynghorydd David Smith deyrnged i ymroddiad ac ymrwymiad yr Arweinydd
a diolchodd iddo am ei gefnogaeth a'i waith caled a wnaed ar ran y Cyngor. |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2017 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2017 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2017. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2017 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL – CHWARTER 3 – 2016/17 PDF 291 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Cynllun
Corfforaethol a Pherfformiad (copi wedi’i amgáu) yn rhoi diweddariad ar
ddarparu Cynllun Corfforaethol 2012 – 17 ar ddiwedd chwarter 3 2016/17. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni’r
Cynllun Corfforaethol ar ddiwedd chwarter 3 o 2016/17. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i
aelodau ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012 - 17 ar ddiwedd chwarter 3 o 2016/17. Roedd yr adroddiad yn cynnwys dwy brif elfen - ·
Crynodeb
Gweithredol - cyflawniadau manwl ac eithriadau allweddol gyda pherfformiad da
yn gyffredinol. ·
Dim
ond un canlyniad wedi cael ei asesu fel Coch: Blaenoriaeth ar gyfer Gwella - Canlyniad 7 Mae myfyrwyr yn cyflawni eu
potensial, a oedd yn ddangosydd blynyddol fel y nodwyd a thrafodwyd yn
flaenorol. Roedd pob canlyniad arall wedi’i werthuso i fod yn dderbyniol neu’n well,
ac roedd adroddiad chwarterol llawn wedi darparu asesiad ar sail tystiolaeth
o'r sefyllfa bresennol yn canolbwyntio ar eithriadau allweddol. Roedd eglurhad ar gyfer statws pob dangosydd
penodol wedi’i gynnwys yn yr adroddiad gyda materion allweddol yn cael sylw yn
y cyfarfod. Roedd y rhan fwyaf o feysydd yn ddangosyddion blynyddol ac ni fu fawr o
symudiad ers y chwarter diwethaf. Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd yr Aelodau’r
materion canlynol – ·
Datblygu'r
Economi Leol - roedd y Cabinet yn falch o nodi llwyddiant y dull gweithredu
traws-wasanaeth newydd i ddelio â busnesau a oedd eisiau buddsoddi yn y sir fel
y gwelwyd ym muddsoddiad gwerth £6m a sicrhawyd gan The Real Petfood Company ym
Modelwyddan. ·
Nodwyd
hefyd bod nifer o bobl wedi cymryd rhan ym menter Mis Mawrth Busnes. Fe soniodd yr Arweinydd am yr her yn y
dyfodol o alinio blaenoriaethau’r Cyngor gyda Chynllun Twf Gogledd Cymru i
sicrhau bod Sir Ddinbych mewn sefyllfa dda i elwa o fuddsoddiad yn y dyfodol,
yn enwedig o ran isadeiledd cludiant. Cyfeiriodd Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a
Pharth Cyhoeddus at y pwyntiau a godwyd yn ystod trafodaeth yng nghyfarfod
blaenorol y Cabinet wrth ystyried Gweledigaeth Twf a Strategaeth, a
chadarnhaodd y byddai’n symud ymlaen â’r pwyntiau hynny, gan gynnwys
pwysigrwydd isadeiledd cludiant. Myfyrwyr yn cyflawni
eu potensial – cafwyd eglurhad bod y data perfformiad ar gyfer y flwyddyn yn
cynnwys pob EOTAS (Addysg Heblaw yn yr Ysgol) am y tro cyntaf, a oedd yn
cyfeirio at garfan fechan iawn o blant a phobl ifanc, gan gynnwys y rhai sy'n
cael eu haddysgu gartref ac mewn lleoliadau addysgol a gwarchodol. Fe dynnodd y Cynghorydd Eryl Williams sylw at ddangosydd EDU017 (% y
disgyblion sy’n cyrraedd trothwy lefel 2)
a dywedodd bod GwE yn datblygu model a rhaglen fwy effeithiol i wella
safonau ymhellach. Fe soniodd hefyd am y gwahaniaeth yn y gorffennol rhwng dyraniadau cyllid
Llywodraeth Cymru a dywedodd y byddai newidiadau diweddar yn arwain at gyllid
ychwanegol i ogledd Cymru a fyddai’n cael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau. ·
Gwella
ein ffyrdd - Ailadroddodd y Cynghorydd David Smith yr angen am gyllid priffyrdd
ychwanegol er mwyn parhau i gynnal ffyrdd i'r safon bresennol. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun
Corfforaethol ar ddiwedd chwarter 3 o 2016/17. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, y
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd yn erbyn y
strategaethau y cytunwyd arnynt ar gyfer y gyllideb, a (c) nodi'r defnydd arfaethedig o danwariant gwasanaethau lle nodir hynny ac y ceisir
cymeradwyaeth ffurfiol pan fo'r union ffigyrau’n hysbys fel rhan o'r Adroddiad
Alldro Terfynol. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
adroddiad a nodai’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chyllidebau gwasanaethau ar
gyfer 2016/17. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn- ·
rhagwelwyd
tanwariant net o £0.213miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaethau a chyllidebau
corfforaethol ·
cyflawnwyd
68% o arbedion hyd yma (targed o £5.2miliwn) ac roedd 2% arall yn gwneud cynnydd
da; byddai 25% yn cael ei ohirio a’i gyflawni yn 2017/18 a 5% yn unig o
arbedion fyddai heb eu cyflawni o fewn yr amserlen ·
amlygwyd
y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â meysydd gwasanaeth
unigol ·
diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf
(gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol) Gofynnwyd i'r Cabinet hefyd nodi'r defnydd
arfaethedig o danwariant gwasanaethau. Byddent yn gofyn am
gymeradwyaeth ffurfiol pan fyddai’r union ffigurau yn hysbys yn rhan o’r
adroddiad Alldro terfynol. Codwyd y materion canlynol wrth drafod – ·
roedd
manylion Cyllideb Refeniw y Gwasanaethau Hamdden 2016/17 wedi'u hatodi i'r
adroddiad fel y gofynnwyd yng nghyfarfod diwethaf y Cabinet. ·
Roedd
cymariaethau cost rhwng 2013/14 (y flwyddyn olaf o fasnachu cyn i’r
ddarpariaeth hamdden gael ei reoli'n fewnol) yn dangos arbediad o tua £80,000
yn 2016/17. Dywedodd y Cynghorydd Huw Jones bod darparu’r cyfleusterau hamdden
presennol am y gost bresennol (£560,000) yn gyflawniad rhyfeddol a’i fod yn
cymharu’n fwy na ffafriol gydag awdurdodau lleol eraill. Roedd y Cabinet yn falch o nodi llwyddiant
y dull a ddefnyddir gan yr awdurdod i fuddsoddi yn ei gyfleusterau hamdden a
thalodd deyrnged i'r Pennaeth Cyfleusterau, Asedau a Thai a'i dîm wrth reoli a
gweithredu gwasanaethau hamdden o fewn y sir. Cyfeiriwyd at Ganolfan Grefft Rhuthun, a thra’n nodi llwyddiant yr
arddangosfeydd a'r arddangosiadau, ynghyd â'r caffi, codwyd cwestiynau ynghylch
a yw'r unedau stiwdio’n cael eu gweithredu i gapasiti i weithredu'n gwbl
effeithiol. Nodwyd bod amodau grant blaenorol wedi
cyfyngu ar ddefnydd yr unedau, ond mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau mwy o
hyblygrwydd er mwyn i’r gofod gael ei ddefnyddio yn fwy masnachol a fyddai
hefyd yn arwain at ostyngiad mewn cymorthdaliadau gan y cyngor a'r Cyngor
Celfyddydau. Roedd cyflwyniad diweddar wedi ei wneud i
Gyngor Tref Rhuthun yn hynny o beth. Roedd y Cynghorydd
Bobby Feeley yn falch o adrodd ar lwyddiant enwog y Ganolfan ond teimlai y
byddai hefyd yn elwa o fwy o gyhoeddusrwydd yn lleol. Cyfeiriwyd hefyd at y cyhoeddusrwydd a
gynhyrchwyd ar ôl i Gyfarwyddwr Canolfan Grefft Rhuthun, Philip Hughes gael MBE
am ei gyfraniadau i gelf a chrefft ac i lwyddiant y ganolfan ·
Tynnwyd
sylw at y pwysau y mae’r Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yn ei wynebu fel yr
amlygwyd yn yr adroddiad, ond nid oedd yn glir ar hyn o bryd faint o'r arian
ychwanegol ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU o
ganlyniad i'r buddsoddiad ychwanegol yn y sector gofal cymdeithasol yn Lloegr,
a fyddai’n cael ei drosglwyddo i awdurdodau lleol Cymru
i ddiwallu’r pwysau ariannol yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol. ·
Dylai’r
cyfeiriad at 'Wasanaethau Cymunedol' yn yr adroddiad ddarllen fel 'Gwasanaethau
Cymorth Cymunedol' a thynnodd y Cynghorydd Bobby Feeley sylw at y gwaith caled
wrth adolygu darpariaeth gwasanaethau gofal mewnol yn y dyfodol er mwyn darparu
gwasanaeth gwell er lles preswylwyr, a thalodd deyrnged i bawb a fu’n rhan o'r
broses honno. Roedd hi hefyd yn falch o nodi llwyddiant uno Gwasanaethau Addysg a Phlant
a fyddai'n arwain at welliannau pellach i’r gwasanaethau. Teimlai'r Arweinydd bod yr adroddiad cyllid rheolaidd yn ffordd werthfawr o roi gwybod i’r Cabinet am y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r pwysau presennol. Roedd yr adroddiad yn dangos fod pob gwasanaeth yn cael ei reoli’n dda ac roedd ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 265 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cafodd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet ei
gyflwyno i'w ystyried a nodwyd y byddai'r cyfarfod Cabinet nesaf yn cael ei
gynnal ar 6 Mehefin 2017. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
o dan Adran 100A Deddf
Llywodraeth Leol 1972, bod y Wasg a'r Cyhoedd i'w gwahardd o'r cyfarfod ar
gyfer yr eitemau busnes canlynol ar y sail fod tebygrwydd y byddai gwybodaeth eithriedig
fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 ac 14 o Ran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972. |
|
DILEU TRETHI BUSNES Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi wedi’i amgáu) yn ceisio
cymeradwyaeth y Cabinet i ddileu ôl-ddyledion trethi busnes anadferadwy fel y
manylwyd o fewn yr adroddiad. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cytuno i ddiddymu’r Trethi Busnes na ellir eu hadennill fel y nodir
yn Nhabl 1 yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad cyfrinachol yn gofyn i’r Cabinet
gymeradwyo dileu Trethi Busnes na ellid eu hadennill ar gyfer pedwar
cwmni/unigolyn lle na fyddai camau adennill yn parhau oherwydd eu bod naill ai
wedi eu dirwyn i ben neu eu diddymu. Mewn ymateb i gwestiynau, cafodd y Cabinet wybod am y broses gadarn i
adennill dyledion i sicrhau y cyfle gorau o gael canlyniad ffafriol, ond nid
oedd llawer y gallai'r awdurdod ei wneud yn ychwanegol at y broses honno o ran
atal dyledion drwg rheolaidd gan yr un masnachwyr/busnesau unigol. Bu rhywfaint o’r drafodaeth yn
canolbwyntio ar yr ailbrisio diweddar o ardrethi busnes a'r effaith ar fusnesau
llai a rhoddodd swyddogion sicrwydd bod yr wybodaeth a chymorth perthnasol ar
gael i fusnesau o ran y newidiadau trosiannol, rhyddhad ardrethi a phrosesau
apelio. Cadarnhaodd yr Arweinydd hefyd ei fod wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru
yn mynegi pryder yn uniongyrchol ynghylch yr effaith ar fusnesau lleol sy'n
deillio o newidiadau i werth trethiannol busnesau a chynigion ar ryddhad
ardrethi. Nododd y Cabinet nad oedd unrhyw obaith o adennill unrhyw un o'r dyledion
trethi busnes fel y nodwyd yn yr adroddiad. Nodwyd
hefyd na fyddai unrhyw gost uniongyrchol i'r cyngor am y dyledion a ddiddymwyd
a gafodd eu diwallu gan y Gronfa Genedlaethol. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cytuno i ddiddymu’r Trethi Busnes na ellir eu hadennill fel y
nodir yn Nhabl 1 yr adroddiad. Cyn i’r cyfarfod
ddod i ben, fe ddymunodd yr Arweinydd y gorau i’r aelodau hynny sy'n sefyll i
gael eu hailethol. Ni fydd y Cynghorydd
David Smith yn sefyll i gael ei ail-ethol a bu'r Arweinydd yn rhoi teyrnged am
ei waith a'i gyfraniad gwerthfawr yn ystod ei gyfnod a dymunodd yn dda iddo yn
ei ymddeoliad. Fe achubodd y Prif
Weithredwr ar y cyfle hefyd i ddiolch i’r Cabinet ar ran swyddogion am eu
cymorth a’u hymrwymiad cyfunol er mwyn cyflawni’r gorau i Sir Ddinbych. Daeth y cyfarfod i ben am 11.00 a.m. |