Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNTIAU SYLW Bu i’r Arweinydd
– (i)
dalu
teyrnged i waith staff y Cyngor o sawl adran dros y diwrnodau diwethaf wrth
ymateb i dywydd eithafol yn y sir mewn amgylchiadau heriol ac anodd, ac fe
gyfleodd ei werthfawrogiad (ii)
gofyn
i rai nad oeddent yn aelodau o'r Cabinet ymatal rhag gwneud sylwadau a
datganiadau cyffredinol ar eitemau penodol a chanolbwyntio ar ofyn cwestiynau
perthnasol ar yr adroddiad penodol a'r argymhellion a oedd dan ystyriaeth. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd
Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth Nicola Stubbins,
Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau Cofnodion: Y Cynghorydd
Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth Nicola Stubbins,
Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2017 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2017 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2017. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2017 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
STRATEGAETH DDIGARTREFEDD SIR DDINBYCH 2017-21 PDF 217 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol ar gyfer Lles ac
Annibyniaeth (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer
Strategaeth Digartrefedd 2017-21 cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol
Rhanbarthol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylai’r Cabinet gymeradwyo’r Strategaeth Ddigartrefedd cyn ei chyflwyno i’r
Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol ym mis Ionawr 2018, a’i gweithredu hyd at
2021. Cofnodion: Yn
absenoldeb y Cynghorydd Bobby Feeley, cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas yr
adroddiad i geisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Strategaeth Ddigartrefedd
2017-21 cyn ei chyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol. Roedd y
Strategaeth yn amlinellu cynlluniau a chamau gweithredu'r Tîm Atal Digartrefedd
(a’i bartneriaid) i fynd i’r afael â digartrefedd a’i achosion. Roedd
Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal
adolygiad o ddigartrefedd yn eu hardal a datblygu Strategaeth Ddigartrefedd yn
seiliedig ar ganfyddiadau'r adolygiad. Roedd y Strategaeth yn manylu ar chwe
blaenoriaeth strategol ar gyfer y 4 blynedd nesaf i fynd i’r afael â
digartrefedd yn Sir Ddinbych ac, yn y pen draw, i gael gwared ag o’n gyfan
gwbl, gydag ymrwymiad cadarn i ymyrryd yn gynnar ac atal. Roedd y Strategaeth wedi’i
datblygu ar ôl ymgynghori'n helaeth ac roedd wedi’i hystyried gan Bwyllgor
Archwilio Partneriaethau ym mis Tachwedd pan gafodd ei hargymell i’r Cabinet
i’w mabwysiadu. Trafododd
y Cabinet yr adroddiad gyda swyddogion ac roeddent yn awyddus i ddeall effaith
diwygio'r gyfundrefn les ar ddigartrefedd a sut roedd Sir Ddinbych yn cymharu â
gweddill y wlad yn sgil y pwysau cynyddol a'r galw am wasanaethau, ynghyd â
mesurau i fynd i'r afael â phroblemau penodol, gan gynnwys yr effaith ar bobl
ifanc a theuluoedd. Wrth
ymateb i gwestiynau’r aelodau, bu i’r swyddogion – ·
gadarnhau bod effaith fawr
wedi bod mewn ardaloedd lle roedd credyd cynhwysol wedi’i gyflwyno ac roedd y
Tîm Atal Digartrefedd, ynghyd â phartneriaid, yn gweithio i ddod o hyd i'r
grwpiau hynny a effeithiwyd er mwyn lliniaru effaith y newidiadau hyn gymaint â
phosib’ a darparu cyngor a chymorth yn gynnar ·
o ran galw cyffredinol, roedd yn
anodd cymharu ffigyrau yn sgil y newidiadau deddfwriaethol diweddar ond roedd
llawer o alw'n dal i fod, a oedd yn anodd ei ateb mewn rhai achosion ·
ymhelaethu ar ddefnyddio llai
o lety gwely a brecwast ar gyfer pobl ifanc a oedd yn dilyn datblygu Llwybr
Cadarnhaol Pobl Ifanc a defnyddio llety dros dro mwy addas a gwahanol opsiynau ·
pwysleisio pwysigrwydd y
sector rhentu preifat i ddiwallu anghenion o ran tai a datblygu cynnig i
landlordiaid, gan gynnwys taliadau anogaeth i landlordiaid, i gynyddu nifer y
tai a oedd ar gael i unigolion a theuluoedd a oedd yn ddigartref neu dan
fygythiad o fod yn ddigartref ·
trafod yr heriau wrth
gyfathrebu gyda’r 'rhai digartref cudd’ a’r rhai nad oeddent yn cydnabod eu
statws neu nad oeddent yn dymuno derbyn cymorth y gwasanaeth – roedd llawer yn
cael ei wneud drwy sawl rhaglen allgymorth ac ymateb gyda gwasanaethau hyblyg a
oedd wedi’u harwain gan anghenion unigolion; roedd offerynnau hunan-help ar y
we yn ddull arall ar gyfer y rhai nad oeddent yn dymuno cael cymorth
uniongyrchol ·
roedd y costau uwch ar ôl
cyflwyno Deddf Tai 2014 wedi’u cydnabod gan Lywodraeth Cymru yn y ddarpariaeth
o gyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf ·
prif sail y Strategaeth oedd
yr adolygiad o ddigartrefedd a gynhaliwyd yn 2016, a oedd yn gynhwysfawr iawn
ac a oedd yn arwain yn allweddol ar yr hyn yr oedd ei angen yn lleol, gan
fodloni gofynion cyfreithiol y Ddeddf ar yr un pryd ·
ymhelaethu ar y cysylltiadau
cryf a oedd rhwng adrannau, yn enwedig Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, a oedd â
rheolaeth reoleiddio dros safonau tai a landlordiaid ac a oedd wedi ysgogi
gwell ansawdd a disgwyliadau ·
cydnabod bod ymyrraeth gynnar
yn allweddol ac adrodd ar gamau i ymgysylltu ag unigolion a theuluoedd yn
gynnar i atal digartrefedd a fyddai, yn y dyfodol, yn cynnwys presenoldeb
ffisegol ar y rhiniog · roedd cyfeiriad mwy eglur tuag at feini prawf ar gysylltiadau lleol ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYNLLUN CEFNOGI POBL/ATAL DIGARTREFEDD SIR DDINBYCH 2018/19 PDF 221 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol ar gyfer Lles ac
Annibyniaeth (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y
Cynllun cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylai’r Cabinet gymeradwyo Cynllun Cefnogi Pobl/Atal Digartrefedd 2018/19, ei
gyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol ym mis Ionawr 2018, a’i
weithredu yn 2018/19. Cofnodion: Yn
absenoldeb y Cynghorydd Bobby Feeley, cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas yr
adroddiad i geisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Cynllun Cefnogi Pobl/Atal
Digartrefedd Sir Ddinbych 2018/19 cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol
Rhanbarthol. Roedd
y Cynllun yn amlinellu cynlluniau a gweithredoedd y Tîm Atal Digartrefedd (a'i
bartneriaid) wrth fynd i'r afael â digartrefedd a'i achosion, gyda phwyslais
arbennig ar ddatblygiad gwasanaeth a gomisiynwyd dros y flwyddyn nesaf. Roedd y Cynllun hefyd yn rhan
allweddol o gyflawni rhannau o'r Strategaeth Ddigartrefedd (a drafodwyd o dan
yr eitem flaenorol). Roedd
pum blaenoriaeth strategol wedi’u nodi ar gyfer y Cynllun, a fyddai hefyd yn
cynnwys cynllun gwario llawn ar gyfer y Grant Cefnogi Pobl ar ôl i Lywodraeth
Cymru gadarnhau’r gyllideb. Roedd
y Cynllun wedi’i ddatblygu ar ôl ymgynghori'n helaeth ac roedd wedi’i hystyried
gan Bwyllgor Archwilio Partneriaethau pan gafodd ei argymell i’r Cabinet i’w
fabwysiadu. Wrth
ymateb i gwestiynau ynglŷn â lefelau cyllid, dywedodd swyddogion bod elfen
Cefnogi Pobl y cyllid wedi'i neilltuo at y dibenion hynny gan Lywodraeth Cymru
am y ddwy flynedd nesaf. Roedd
cynllun gwario’n cael ei ddatblygu bob blwyddyn ynghyd â chynllun arian at raid
ar sail toriadau disgwyliedig yn sgil cael gwybod yn hwyr am y lefel union o
gyllid i awdurdodau lleol unigol gan Lywodraeth Cymru. Eglurodd Rheolwr y
Gwasanaethau Cyfreithiol mai’r darpariaethau deddfwriaethol cywir o dan yr
adran ‘pŵer i wneud y penderfyniad’ yn yr adroddiad oedd Rhan 2 o Ddeddf
Tai (Cymru) 2014. PENDERFYNWYD
y dylai’r Cabinet gymeradwyo Cynllun Cefnogi Pobl/Atal Digartrefedd 2018/19,
cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol ym mis Ionawr 2018 a’i
weithredu yn 2018/19. |
|
CYTUNDEB Y GRONFA GOFAL INTEGREDIG 2017-2020 PDF 201 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol dros Les ac
Annibyniaeth (copi amgaeedig), yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r Cyngor
ymrwymo i gytundeb cyfreithiol yn ymwneud â’r Gronfa Gofal Integredig. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi cynnwys yr adroddiad; (b) cymeradwyo bod y Cyngor yn ymrwymo i’r cytundeb cyfreithiol rhwng Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a chwe awdurdod lleol gogledd Cymru, i
reoleiddio’r drefn lywodraethol a’r prosesau ar gyfer y gofynion gwario ac
adrodd mewn perthynas â TGCh, ac yn (c) cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar
Les (Atodiad 1) fel rhan o’u hystyriaethau. Cofnodion: Yn
absenoldeb y Cynghorydd Bobby Feeley, cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas yr
adroddiad i geisio cymeradwyaeth y Cabinet i'r Cyngor fod yn rhan o gytundeb
cyfreithiol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r chwe awdurdod
lleol ar draws Gogledd Cymru mewn perthynas â’r Gronfa Gofal Integredig er mwyn
gwneud trefniadau cyllid a llywodraethu rhanbarthol yn ffurfiol. Roedd
y Gronfa Gofal Integredig yn rhan o raglen ehangach o gydweithio ar ofal
cymdeithasol ac iechyd a ddaeth yn sgil Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014 ac roedd yn darparu ffrwd gyllid wedi’i rheoleiddio, drwy
gyllidebau cyfun, i leihau’r pwysau ar yr ysbyty ac yn y gymuned, gan fod ar
gyfer derbyniadau i'r ysbyty a rhyddhau o'r ysbyty yn rhanbarthol yn bennaf. Roedd trefniadau eisoes ar
waith a byddai’r cytundeb cyfreithiol yn ffurfioli ac yn rheoleiddio’r
gweithgareddau penodol hynny a’r ffrwd gyllid. Roedd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yn cefnogi’r argymhellion ac yn cefnogi
trosglwyddo i drefniadau mwy ffurfiol y gellid eu defnyddio fel achos prawf er
mwyn rheoli tensiynau yn gynnar cyn bwrw ymlaen â'r rhaglen gydweithio ehangach
rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Mewn ymateb i ymholiad
ynglŷn â rôl y tîm ymateb cyflym, dywedodd y swyddogion bod cymorth yn y
cartref bellach yn cael ei reoli o fewn prosiectau eraill, gyda nifer o
wasanaethau'n gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau gofal yn y cartref, a oedd
hefyd yn cynnwys ail-alluogi ac ymyrraeth glinigol. Roedd
y Cabinet yn cefnogi ffurfioli trefniadau a’r gwaith a wnaed i ddarparu gwasanaethau'n
rhanbarthol ac felly – PENDERFYNWYD bod y Cabinet
yn – (a) nodi cynnwys yr
adroddiad; (b) cymeradwyo bod y
Cyngor yn ymrwymo i’r cytundeb cyfreithiol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr a chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru, i reoleiddio’r drefn
lywodraethol a’r prosesau ar gyfer y gofynion gwario ac adrodd mewn perthynas â
TGCh, ac yn (c) cadarnhau eu bod
wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1) fel
rhan o’u hystyriaethau. |
|
GWASANAETH A REOLIR AR GYFER DARPARU GWEITHWYR ASIANTAETH PDF 302 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet i gychwyn caffael a llunio contract i benodi asiantaeth i ddarparu staff
dros dro i’r Cyngor eu defnyddio. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo – (a) dechrau’r broses gaffael yn defnyddio Fframwaith ESPO MSTAR2, Rhif 653F; (b) bod Cyngor Sir Ddinbych yn cydweithio gyda Chyngor Sir y Fflint i arwain a
rheoli’r broses gaffael; (c) bod y pwyllgor archwilio priodol yn derbyn adroddiad gan y swyddogion
perthnasol ym mis Ionawr 2018 o ran y broses gaffael a’r dewisiadau amgen sydd
ar gael i’r Cyngor yn seiliedig ar y gwerth gorau, a (d) bod y Cabinet yn derbyn adroddiad i ddyfarnu’r contract i’r cynigiwr sy’n
cynnig y budd economaidd mwyaf ym mis Chwefror 2018. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth y Cabinet
i ddechrau caffael cydweithredol gyda Chyngor Sir y Fflint a llunio contract i
benodi asiantaeth i gyflenwi staff dros dro i’r Cyngor eu defnyddio. Daeth
cytundeb cyfredol y Cyngor i gyflenwi staff asiantaeth i ben fis Chwefror
2018. Gan fod angen parhaus am staff
asiantaeth ac o ystyried y gofynion deddfwriaethol, cynigiwyd y dylid cynnal
proses dendro gystadleuol gan ddefnyddio'r fframwaith MSTAR2 (Gwasanaethau a
Reolir ar gyfer Staff Asiantaeth Dros Dro). Byddai’r contract yn para tair
blynedd, gyda dewis i roi estyniad o flwyddyn arall. Yn
ystod y drafodaeth a ddilynodd, ceisiodd y Cabinet eglurder ynglŷn ag
elfen gwerth am arian y contract arfaethedig, manylion am y contract, ac a oedd
dulliau darpariaeth eraill wedi'u hystyried. Nododd yr aelodau bod arbedion
o dros £200,000 y flwyddyn wedi’u gwneud gan ddefnyddio’r fframwaith presennol
ac er y cydnabyddid y byddai’r contract newydd arfaethedig hefyd yn debygol o
gael effaith gadarnhaol ar y Cyngor yn ariannol, roedd pryder ynglŷn â’r
diffyg manylder a ddarparwyd yn yr adroddiad er mwyn rhoi'r sicrwydd ar werth
am arian, yn enwedig o gofio y byddai gwariant arfaethedig dros £4m dros bedair
blynedd o dan y contract newydd, a chredai'r Cabinet y byddai'r mater yn elwa
o’i archwilio ymhellach. Trafodwyd
yr amserlenni ar gyfer y broses gaffael a bod y cytundeb cyfredol yn dod i ben
ac, o ystyried bod yr amser yn brin, cytunwyd y dylid dechrau'r broses gaffael
ond y dylid gofyn i'r pwyllgor archwilio priodol ystyried caffael cydweithredol
ac opsiynau eraill ar sail y gwerth gorau cyn gynted â phosib, gyda'r bwriad o
gyflwyno adroddiad yn ôl i'r Cabinet i ystyried a ddylid parhau â'r broses neu
dynnu yn ôl i ddewis opsiwn a fyddai o fwy o fantais. PENDERFYNWYD bod y Cabinet
yn cymeradwyo – (a) dechrau’r broses
gaffael gan ddefnyddio Fframwaith ESPO MSTAR2 Rhif 653F; (b) bod Cyngor Sir
Ddinbych yn cydweithio gyda Chyngor Sir y Fflint i arwain a rheoli’r broses
gaffael; (c) bod y pwyllgor
archwilio priodol yn derbyn adroddiad gan y swyddogion perthnasol ym mis Ionawr
2018 ar y broses gaffael a’r dewisiadau eraill sydd ar gael i’r Cyngor yn
seiliedig ar y gwerth gorau, a (d) bod y Cabinet yn
derbyn adroddiad i ddyfarnu’r contract i’r cynigiwr sy’n cynnig y budd
economaidd mwyaf ym mis Chwefror 2018. |
|
I ystyried
adroddiad gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidebol a gytunwyd
arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2017/18 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth
y cytunwyd arni; (b) cefnogi cyflwyno Achos Busnes Llawn ar gyfer codi ysgol Gatholig newydd ar
gyfer disgyblion 3-16 oed i Lywodraeth Cymru (gweler Atodiad 4). Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r
cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllid y cytunwyd arni. Darparodd y crynodeb canlynol o sefyllfa
ariannol y Cyngor – ·
rhagwelwyd
y byddai cyllidebau gwasanaethau a rhai corfforaethol yn bodloni’r costau drwy
ddefnyddio arian corfforaethol at raid ·
roedd
gwerth £0.902 miliwn o arbedion effeithlonrwydd mewn gwasanaethau eisoes wedi'u
cytuno yn rhan o'r gyllideb, gan ddisgwyl y byddent i gyd yn cael eu cyflawni –
byddai unrhyw eithriad yn cael ei adrodd wrth y Cabinet ·
amlygwyd
y risgiau ar hyn o bryd a’r gwahaniaethau mewn perthynas â meysydd gwasanaeth
unigol, a ·
darparwyd
diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r
Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol) Gofynnwyd i aelodau’r Cabinet gymeradwyo cyflwyno
achos busnes llawn am adeilad ysgol a chyfleusterau newydd ar gyfer Ysgol
Gatholig 3-16 oed i Lywodraeth Cymru. Wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut y
byddai’r tywydd garw’n effeithio ar gyllid, cyfeiriodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill at y gronfa wrth gefn er mwyn cynnal a chadw yn y gaeaf a
sefydlwyd i gynorthwyo â galw mawr pe bai tywydd garw. Nodwyd nad oedd cludiant i’r ysgol wedi
bod ar waith mewn sawl ardal, a fyddai’n arbed arian. PENDERFYNWYD bod y Cabinet
yn – (a) nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2017/18 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllid
y cytunwyd arni; (b) cefnogi cyflwyno
achos busnes llawn ar gyfer ysgol Gatholig newydd a chyfleusterau ar gyfer
disgyblion 3-16 oed i Lywodraeth Cymru (gweler Atodiad 4). |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL PDF 354 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried. Byddai adroddiad ar y gwasanaeth a reolir i
ddarparu gweithwyr asiantaeth yn cael ei drefnu at fis Chwefror 2018. PENDERFYNWYD
nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer
yr eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth
Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei
datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
CONTRACT GWASANAETHAU BYSIAU LLEOL
I ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol dros
Briffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy (copi ynghlwm) yn ceisio
cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contractau ar gyfer gwasanaethau bysiau
lleol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn rhoi caniatâd i Bennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac
Amgylcheddol, ac Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Chludiant Cynaliadwy, i
ddyfarnu contractau hyd at y terfyn ac o fewn y gyllideb sydd ar gael yn unol
â’r cynigion yn yr atodiad i’r adroddiad. Mae’n bosibl y bydd angen gwneud mân
newidiadau i fanylion y cynllun yn dilyn ymgysylltu’n ffurfiol gyda’r
contractwyr ac wrth i’r sefyllfa ddod yn gliriach. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad
cyfrinachol yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyrannu contractau ar gyfer
gwasanaethau bysiau lleol yn unol â Rheolau’r Weithdrefn Gontractau i’r cynigwyr
a oedd yn cynnig y fantais ariannol fwyaf. Roedd swyddogion wedi tendro ystod o opsiynau ac
roedd cyflenwyr yn gallu cynnig am gontractau unigol ar gyfer dau neu fwy o
gontractau ynghyd. Roedd nifer o ardaloedd heb wasanaethau ond roedd angen cymeradwyaeth gan y
Cabinet er mwyn i’r swyddogion allu dyfarnu contractau’n ffurfiol yn unol â'r
amserlenni perthnasol. Os nad oedd darparwyr yn gallu derbyn yr hyn a gynigiwyd iddynt ar y cam
dyfarnu ffurfiol, byddai newidiadau dilynol yn cael eu rheoli gan ddefnyddio'r
arian a oedd ar gael yn y gyllideb. Yn ystod trafodaeth faith, bu'r swyddogion yn
ymateb i gwestiynau ar ystod o faterion gan gynnwys y broses werthuso a
sicrhau'r gwerth gorau am arian, profi bod ymchwil digonol wedi'i wneud,
tocynnau a phrisiau, a gweithrediad penodol gwasanaethau penodol mewn gwahanol
ardaloedd yn y sir ynghyd ag ymarferoldeb llwybrau a gwasanaethau penodol. Trafodwyd rhywfaint ynglŷn â’r
potensial am fysiau trydan, a oedd yn dal i gael ei ystyried, a chan fod amser
yn brin i wneud cais am gyllid mewn perthynas â hynny, cytunwyd y dylai’r
Grŵp Buddsoddi Strategol ystyried y sefyllfa ddiweddaraf ymhellach y
prynhawn hwnnw. O ran y cyllid a oedd ar gael, dywedodd y swyddogion bod y cynigion yn
seiliedig ar gyllidebau a rhagdybiaethau cyfredol ac fe fynegodd y Cabinet
bryder bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod yn hwyr bod cyllid ar gael a
chytunwyd y byddai'r mater yn cael ei drafod gyda nhw'n uniongyrchol. PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn rhoi caniatâd i Bennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac
Amgylcheddol, ac Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Chludiant Cynaliadwy, i
ddyfarnu contractau hyd at y terfyn ac o fewn y gyllideb sydd ar gael yn unol
â’r cynigion yn yr atodiad i’r adroddiad.
Mae’n bosibl y bydd angen gwneud mân newidiadau i fanylion y cynllun yn
dilyn ymgysylltu’n ffurfiol gyda’r contractwyr ac wrth i’r sefyllfa ddod yn fwy
eglur. Daeth y cyfarfod i ben am 12.20 p.m. |