Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Dim. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Datganodd yr
aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem 6 ar y rhaglen - Y Cynghorydd
Mabon ap Gwynfor – Llywodraethwr Ysgol Bro Dyfrdwy Y Cynghorydd
Meirick Davies - Llywodraethwr Ysgol Cefn Meiriadog ac Ysgol Trefnant Cofnodion: Datganodd yr
aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem 6 ar y rhaglen – Y Cynghorydd
Mabon ap Gwynfor – Llywodraethwr Ysgol Bro Dyfrdwy Y Cynghorydd
Meirick Davies – Llywodraethwr Ysgol Cefn Meiriadog ac Ysgol Trefnant |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Medi 2017 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Medi 2017 fel cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd
eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 26 Medi 2017. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Medi 2017 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
Ystyried
adroddiad, gan gynnwys atodiad
cyfrinachol, gan y Cyng. Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth
(copi ynghlwm) yn gofyn am gymeradwyaeth i estyn 18 Contract Byw yn y Gymuned
ar gyfer pobl ag Anableddau Dysgu am gyfnod o ddwy flynedd hyd nes cymeradwyir
trefniadau caffael ar gyfer y gwasanaethau hynny. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo estyniad o ddwy flynedd i bob gwasanaeth a nodir yn
Atodiad 1 i’r adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i estyn 18
Contract Byw yn y Gymuned ar gyfer pobl ag Anableddau Dysgu am gyfnod o ddwy
flynedd arall hyd nes cymeradwyir trefniadau caffael ar gyfer y gwasanaethau
hynny. Mae’r
adroddiad yn manylu ar drefniadau’r contractau i gefnogi unigolion gydag
anableddau dysgu sy’n derbyn gwasanaethau byw â chymorth, ynghyd â gofynion
deddfwriaethol caffael gwasanaethau o’r fath. Mae’r
cynlluniau comisiynu yn cynnwys dwy ffrwd waith - ·
Lleol – y posibilrwydd o
gynnig cyllidebau cefnogi i alluogi dinasyddion i dderbyn cefnogaeth yn
uniongyrchol gan eu dewis ddarparwr ·
Rhanbarthol – mae’r
Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol eraill
gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddechrau proses i
dendro ar gyfer Fframwaith Rhanbarthol ar gyfer darparu gofal cartref a
gwasanaethau eraill fesul cam Byddai’r
fframwaith rhanbarthol newydd yn darparu system well a chadarn, ac felly
cynigir ymestyn y contractau presennol ddwy flynedd er mwyn rhoi digon o amser
i ddatblygu'r broses gaffael ranbarthol. Ers
ysgrifennu’r adroddiad mae gofal cartref plant hefyd wedi ei gynnwys yn y
broses dendro, sydd fel a ganlyn: Cam 1
– Gofal Cartref Sylfaenol, Cam 2 – Gofal Cartref Plant, Cam 3 – Gofal Cartref
Lefel Uwch, a Cham 4 – Lleoliadau Byw â Chymorth (testun yr adroddiad). Rhagwelir y cedwir at y graddfeydd amser o
ganlyniad i’r ychwanegiad a’r posibilrwydd o derfynu’r contractau byw yn y
gymuned cyn diwedd yr estyniad o ddwy flynedd os caiff y broses ei chwblhau’n
gynt na’r disgwyl. Cadarnhaodd y Swyddog Contractau bod yr holl gontractau yn
cael eu trefnu’n allanol a bod BIPBC yn gefnogol ac yn rhan o’r broses. Mae’r cam tendro cyntaf wedi dod i ben ac mae’r
materion yn datblygu o fewn y graddfeydd amser. Nododd
y Cabinet y rheswm dros yr argymhelliad i estyn y contractau presennol yn
hytrach nag ail-gaffael, sef i arbed cost cynnal dwy broses dendro wahanol ar
gyfer yr un ddarpariaeth ac i osgoi’r dryswch tebygol yn sgil cael darparwyr
gwahanol. Nodwyd y byddai’r fframwaith arfaethedig yn creu arbedion
effeithlonrwydd o ran amser staff yn tendro am wasanaethau ac yn sicrhau
ansawdd a gwerth am arian wrth ddyfarnu contractau. Yn seiliedig ar hynny,
roedd y Cabinet yn fodlon â’r dull i estyn y contractau i gyd-fynd â graddfa
amser y fframwaith rhanbarthol newydd, a chytunodd yr aelodau â’r trefniadau
dros dro. Gofynnodd
y Cynghorydd Joan Butterfield gwestiynau am y gwasanaethau plant. Eglurodd y Swyddog Contractau bod yr ail gam yn ymwneud
â gofal cartref plant a bod yr elfen byw yn y gymuned yn rhan o gam 4, gan
ymhelaethu ar y graddfeydd amser disgwyliedig ar gyfer darparu’r gwasanaeth. Bu iddi hefyd gadarnhau y byddai’r contract gorffenedig a'r fanyleb
gwasanaeth ar gael i’r aelodau. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo estyniad o ddwy flynedd i bob gwasanaeth a nodir yn
Atodiad 1 i’r adroddiad. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, y Cynllun
Corfforaethol a Pherfformiad (copi ynghlwm) yn manylu ar y sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a’r cynnydd o ran y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2017/18 a'r cynnydd yn erbyn y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb; (b) cymeradwyo trosglwyddo tanwariant y Gwasanaeth Gwella Busnes a Moderneiddio
(£35,000) i gronfa wrth gefn y System Rheoli Dogfennau a Chofnodion Electronig
er mwyn cynorthwyo ag estyn y prosiect digideiddio; (c) cefnogi cyflwyno Achos Busnes Llawn ar gyfer adeilad ysgol a chyfleusterau
newydd Ysgol Llanfair i Lywodraeth Cymru fel y nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
adroddiad gyda manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r
cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Darparodd y crynodeb canlynol o sefyllfa ariannol y Cyngor – ·
Rhagwelir
y bydd gorwariant net o £0.002 miliwn ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
Mae gwerth
£0.902 miliwn o arbedion effeithlonrwydd gwasanaethau eisoes wedi eu cytuno
arnynt fel rhan o'r gyllideb, gyda'r rhagdybiaeth y bydd pob un yn cael ei
ddarparu – bydd unrhyw eithriad yn cael ei adrodd wrth y Cabinet ·
Amlygwyd
y risgiau presennol a’r amrywiadau o fewn meysydd gwasanaeth unigol, a
phwysleisiwyd y gorwariant mewn perthynas â chyllidebau gofal cymdeithasol –
mae’r mater hwn yn cael ei fonitro'n ofalus ac yn cael ei ystyried fel rhan o
broses gyllidol 2018/19 ·
Darparodd
ddiweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r
Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol) Gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo trosglwyddo £35
mil i i’r gronfa EDRMS i helpu i ymestyn y prosiect digidol a chefnogi cyflwyno
achos busnes llawn ar gyfer adeilad ysgol newydd Ysgol Llanfair i Lywodraeth
Cymru. Codwyd y materion canlynol wrth drafod – ·
Eglurwyd
bod elfen o'r costau ariannu wedi ei chadw drwy'r contract ar gyfer Datblygiad
Harbwr y Rhyl ac Ysgol Newydd y Rhyl, a fyddai'n cael ei rhyddhau yn dilyn
cwblhau'r elfennau problemus ·
O ran
y pwysau a’r diffyg a ragwelir yn incwm y Tîm Prosiectau Mawr (Priffyrdd a’r
Amgylchedd), dywedodd y Cynghorydd Brian Jones bod yna gyfleoedd posibl yn y
dyfodol y gall y tîm eu harchwilio. Bydd adroddiad ar y Strategaeth Cynnal a
Chadw Priffyrdd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad ym mis
Rhagfyr ·
Roedd
ar y Cynghorydd Emrys Wynne eisiau eglurhad a sicrwydd ynghylch darpariaeth pob
tywydd yr ysgolion newydd ar safle Glasdir. Cytunodd y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts i edrych i mewn i’r mater ac adrodd yn ôl wrth y Cynghorydd
Wynne. Bu iddo hefyd sicrhau nad oes unrhyw newid wedi ei wneud i’r cynllun
gwreiddiol o ran y ddarpariaeth honno er mwyn arbed arian ·
Holodd
y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor ynghylch y gwariant cyfalaf o £33 mil ar gyfer
Ysgol Bro Dyfrdwy, fel y nodir yn y Cynllun Corfforaethol, a chytunodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill i edrych i mewn i’r mater ac adrodd yn ôl wrtho
·
O ran y buddsoddiad mewn ysgolion, byddai
prosiectau yn y dyfodol yn cael eu cynnal drwy gyllid Band B Rhaglen Ysgolion
yr 21ain ganrif ac fel rhan o gyllideb cynnal a chadw cyffredinol yr ysgolion -
eglurwyd y broses ar gyfer dyraniadau bloc cyllid y cynllun cyfalaf ynghyd â threfniadau
categoreiddio a blaenoriaethu yn seiliedig ar y gwaith sydd ei angen ·
Cyfeiriwyd
at y pwysau sylweddau at Wasanaethau Plant o ystyried natur anghyson costau
lleoliadau ac eglurwyd bod cyllidebau ar wahân ar gyfer Gwasanaethau Plant ac
Addysg. Bu cynnydd sylweddol yn nifer y diwrnodau
o leoliadau a ddarparwyd yn ystod y flwyddyn bresennol a bu cynnydd hefyd y
flwyddyn flaenorol. Cyn hynny roedd y gyllideb yn
cael ei thanwario a dyna pam y penderfynwyd gwneud arbediad cyllidebol bach a
chreu cronfa wrth gefn ar gyfer lleoliadau, sydd wedi ei defnyddio yn ystod y
flwyddyn bresennol gyda chyfraniad ariannol pellach i leihau'r baich ariannol. Cynigiwyd y dylid cynyddu'r gyllideb sylfaenol yn y maes hwn, a fyddai’n
cael ei drafod ymhellach fel rhan o broses gyllidol 2018/19. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod lleoliadau arbenigol wedi
eu craffu arnynt yn unigol gan y Panel Rhianta Corfforaethol, ac atgoffodd yr
aelodau am eu cyfrifoldebau rhianta corfforaethol a’r cyfle i fynychu
cyfarfodydd y panel Cafwyd trafodaeth faith ar sefyllfa ariannol ysgolion a gofynnwyd cwestiynau ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 366 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau canlynol - Cynigion Cyllideb 2018/19 – Ionawr Cynllun Cyfalaf 2018/19 – Ionawr Prosiect Llety Sipsiwn a Theithwyr – i'w gadarnhau PENDERFYNWYD
nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 11.05 a.m. |