Agenda and decisions

Agenda and decisions

Lleoliad: Siambr yr Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

3.

MATERION BRYS

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 384 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2017 (copi’n amgaeedig).  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2017 fel cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi.

 

5.

CAIS BARGEN TWF ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU – ADRODDIAD CYNNYDD pdf eicon PDF 316 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi’n amgaeedig) yn rhoi’r diweddaraf i’r Cabinet am ddatblygiad Cais Bargen Twf ar gyfer y rhanbarth a gofyn am gymeradwyaeth i barhau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

 (a)      nodi a chefnogi’r cynnydd yn natblygiad Cais Bargen Twf cystadleuol ar gyfer y rhanbarth;

 

 (b)      cefnogi mewn egwyddor, y model llywodraethu a ffafrir, sef model cydbwyllgor statudol ar gyfer ei ddatblygu ymhellach, gydag adroddiad llawn ar gyfansoddiad a chylch gorchwyl a argymhellir, a Chytundeb Rhyng-Awdurdod, i ddilyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

 (c)       awdurdodi’r Arweinydd i weithredu fel aelod Sir Ddinbych o Gydbwyllgor ‘Cysgodol’ yn y cyfnod interim;

 

 (d)      awdurdodi’r Arweinydd, ynghyd ag Arweinwyr y 5 cyngor partner arall, i ddechrau trafodaethau cam cyntaf cyfun gyda’r ddwy Lywodraeth dros raddfa a chynnwys amlinellol Cais Bargen Twf, gan nodi na ddechreuir unrhyw ymrwymiadau ariannol nac ymrwymiadau eraill ar y cam cyntaf hwn o drafodaethau a

 

 (e)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

6.

CYNLLUN CORFFORAETHOL CYNGOR SIR DDINBYCH 2017-2022 pdf eicon PDF 231 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau (copi'n amgaeedig) ar y Cynllun Corfforaethol drafft cyn ei gyflwyno i’r Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

 (a)      cymeradwyo’r Cynllun Corfforaethol drafft sydd bron yn derfynol ar gyfer ei gyflwyno i'r Cyngor Sir ar 17 Hydref 2017 ac argymell ei fabwysiadu yn ddibynnol ar (1) fireinio’r geiriad yn derfynol, a (2) cynnwys cynllun ariannol â chymorth, a

 

 (b)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad B i’r adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

7.

POLISI CORFFORAETHOL: INCWM, FFIOEDD A THALIADAU pdf eicon PDF 355 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar y Polisi Corfforaethol: Incwm, Ffioedd a Thaliadau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD fod y Cabinet yn cymeradwyo'r ddogfen 'Polisi Corfforaethol: Incwm Ffioedd a Thaliadau’ sydd fel atodiad ynghlwm i’r adroddiad hwn.

 

8.

POLISI ISAFSWM DARPARIAETH REFENIW DIWYGIEDIG 2017 / 18 pdf eicon PDF 283 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ac argymhellion diwygiadau i Bolisi Isafswm Darpariaeth Refeniw 2017/18 i’r Cyngor Sir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

 (a)      cymeradwyo ac argymell y diwygiadau i’r polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw ar gyfer 2017/18 –

 

·         Polisi ar gyfer 2017/18 – Opsiwn 3 (Dull Oes Ased – llinol) i’w ddefnyddio i gyfrif yr Isafswm Darpariaeth Refeniw ar fenthyca â chymorth sy’n ddyledus ar 31 Mawrth 2017. Yr hyn gaiff ei gyfrifo yw'r dull 'llinol’ dros 50 mlynedd.

·           Mae hyn yn cynrychioli newid o Opsiwn 1 (y Dull Rheoli) fel y cymeradwywyd gan y Cyngor ar 14 Chwefror 2017 Polisi ar gyfer 2017/18 – Opsiwn 3 (y Dull Oes Ased - llinol) i'w ddefnyddio i gyfrif yr Isafswm Darpariaeth Refeniw ar Fenthyca â chymorth a gafwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017. Bydd y cyfrif yn defnyddio’r dull ‘llinol’ dros nifer benodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o gynhyrchu buddion. Mae hyn hefyd yn cynrychioli newid o Opsiwn 1

·         Polisi ar gyfer 2017/18 – Opsiwn 3 (Dull Oes Ased – llinol) i’w ddefnyddio i gyfrif yr Isafswm Darpariaeth Refeniw ar yr holl wariant cyfalaf wedi ei ariannu gan fenthyca heb gymorth. Mae hyn yn cynrychioli parhad o’r polisi sydd wedi ei gymeradwyo,

 

 (b)      Cymeradwyo’r defnydd o’r arbedion ariannol yn 2017/18 a’r arbedion cyllidebol cylchol o 2018/19 fel y nodir yn y fersiwn ddiweddaraf o’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ac mae crynodeb isod -

 

·         Arbedion Ariannol 2017/18 - argymhellir fod yr arbedion ariannol o £1.861m yn cael eu gosod yng Nghronfa Lliniaru'r Gyllideb er mwyn cynorthwyo i liniaru effeithiau'r gostyngiadau yn y gyllideb yn 2018/19

·         Arbedion parhaus o 2018/19 – argymhellir gostwng y gyllideb ariannu cyfalafol o £1.861m fel rhan o’r strategaeth i gydbwyso cyllideb 2018/19.

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLI TRYSORLYS 2016/17 pdf eicon PDF 199 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau (copi'n amgaeedig) yn diweddaru aelodau ar berfformiad y swyddogaeth rheoli trysorlys ac yn dangos cydymffurfiad y Cyngor â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn ystod 2016/17.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

 (a)      nodi perfformiad swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2016/17 a’i gydymffurfiaeth â’r Dangosyddion Darbodus, fel yr adroddwyd yn Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2016/17 (Atodiad 1 i’r adroddiad), a

 

 (b)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 2 i’r adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

10.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 290 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2017/18 a'r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni.

 

11.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 363 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

12.

PARC DŴR Y RHYL: DYFARNU CONTRACTAU

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi’n amgaeedig) yn rhoi gwybod i’r Cabinet am ddyfarnu'r contract yn gysylltiedig â datblygiad Parc Dŵr Y Rhyl.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad.