Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNTIAU SYLW

Yr Arweinydd -

 

·         croesawodd bawb i gyfarfod cyntaf Cabinet y Cyngor newydd gan ddweud y bydd y cyfarfod yn cael ei we ddarlledu

·         dywedodd y byddai munud o dawelwch yn cael ei gynnal am 11:00am i gofio'r sawl a fu farw yn y digwyddiadau yn Llundain,

·         cyflwynwyd y chwe aelod Cabinet a oedd yn bresennol a rhoddwyd manylion am eu portffolios.  Esboniwyd bod dwy sedd y Cabinet sy'n weddill wedi cael eu cynnig i'r Grŵp Plaid Cymru ond bod angen cadarnhau’r penodiadau hynny gan eu Gweithredwr Cenedlaethol.  Yn yr interim, byddai’r Arweinydd a’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill yn arwain ar y ddau bortffolio sy’n weddill, Priffyrdd a Theithio Cynaliadwy a Safonau Corfforaethol, yn y drefn honno.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGANIADAU O GYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

3.

MATERION BRYS

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 304 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 28 Mawrth, 2017 (copi’n amgaeedig). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28  Mawrth 2017 fel cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2017 .

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28  Mawrth 2017 fel cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi.

 

 

5.

YSGOL GATHOLIG NEWYDD ARFAETHEDIG 3 - 16 YN Y RHYL pdf eicon PDF 390 KB

Ystyried adroddiad (copi’n amgaeedig) ar ganfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol ar y cynnig a cheisio cymeradwyaeth i gyhoeddi’r hysbysiad statudol i gau Ysgol Mair ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones 31 Awst 2019, ac i Esgobaeth Wrecsam sefydlu Ysgol Gatholig 3 – 16 newydd ar y safle presennol o 1 Medi 2019.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi canfyddiadau'r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer cau Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair (Ysgol Mair) ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ac agor Ysgol Gatholig i ddisgyblion 3 – 16 oed newydd;

 

(b)       cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i Gyngor Sir Ddinbych gau Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair (Ysgol Mair) ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ar 31 Awst 2019; ac Esgobaeth Wrecsam i sefydlu Ysgol Gatholig newydd 3-16 mlwydd oed ar y safle presennol o 1 Medi 2019 ac yn

 

(c)        cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’i ystyriaethau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad ar ganfyddiadau ymgynghori ffurfiol y cynnig, gan geisio cymeradwyaeth cyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol  Gynradd Gatholig y Santes Fair (Ysgol Mair) ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ar 31 Awst 2019; ac i Esgobaeth Wrecsam sefydlu Ysgol Gatholig newydd 3-16 oed ar y safle presennol o 1 Medi 2019.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts y Gwir Barchedig Peter Brignall, Esgob Wrecsam, gan ddiolch iddo am ei gefnogaeth gyda’r broses. Roedd manylion yr ymgynghori ffurfiol a gynhaliwyd gan y Cyngor mewn partneriaeth ag Esgobaeth Wrecsam wedi cael eu cynnwys yn yr adroddiad, ac roedd y Cynghorydd Hilditch-Roberts yn falch o adrodd ar yr ymateb cadarnhaol gan yr holl sectorau gydag ymateb aruthrol o blaid y cynnig.  Cymerodd y cyfle hefyd i amlygu buddion y cynnig o ran model newydd cyflwyno’r cwricwlwm.  Ar ôl ystyried canfyddiadau’r ymgynghoriad, argymhellwyd bod y Cabinet yn parhau â'r camau nesaf, a oedd yn cynnwys cyhoeddi hysbysiad statudol yn seiliedig ar y cynnig presennol. 

 

Ar wahoddiad yr Arweinydd, cyfarchodd y Gwir Barchedig, Peter Brignall, y Cabinet gan fynegi cefnogaeth am y cynnig ar ran Esgobaeth Wrecsam.  Cyflwynodd y cynnig i’r Cabinet fel prosiect cyffrous, gan dynnu sylw at y cyfleoedd y byddai'r ysgol newydd yn ei darparu ar gyfer y rhai sy'n dymuno cael addysg ffydd yn yr ardal, ac edrychodd ymlaen at ei chynnydd.

 

Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad a oedd yn dangos ymrwymiad parhaus y Cyngor i fuddsoddi mewn addysg yn y sir, a thalodd deyrnged i'r gwaith caled sy'n rhan o ddatblygu'r cynnig hyd yma.  Atseiniodd y Cabinet y farn honno ac roedd yn falch o gefnogi dilyniant y cynnig i’r cam nesaf.  Nodwyd mai amcangyfrif o’r gyllideb bresennol ar gyfer y prosiect oedd £23.8m ac roedd elfen fach o risg o ystyried ei bod yn rhaid i’r Cyngor ddarparu’r costau cychwynnol i ddatblygu'r achos busnes cyn y byddai Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i'w siâr ariannu. 

 

Canolbwyntiodd trafodaeth bellach ar y canlynol -

 

·         ceisiwyd eglurhad ar deilyngdod y model 3 – 16 newydd fel cynnig cadarnhaol.

·           Cyfeiriodd swyddogion at ethos ac ysbryd cyfan addysg ffydd o ran meithriniad a chynhwysiant, gan gynghori y gellid cyflunio addysg ar gyfer yr holl ddysgwyr fel y gellid cyflwyno'r cwricwlwm yn briodol o ran gofynion oedran, tra bod gwerthoedd yr ysgol yn parhau yr holl ffordd i fyny fel bod y cyfnod pontio rhwng darpariaeth gynradd ac uwchradd yn llyfn.  Byddai un tîm arwain yn rheoli’r cwricwlwm a darpariaeth weithredol yr ysgol, a oedd yn ffafriol i ysbryd y cwricwlwm newydd.  Byddai’r model newydd hefyd yn cefnogi darpariaeth addysgu a dysgu o safon, ac yn gwella cyfleoedd a hyfforddiant mewnol.  Roedd model 3 – 18 yn gweithredu’n llwyddiannus yn Ysgol St. Brigid’s, Dinbych, ac roedd y model 3 – 16 yn gweithredu’n llwyddiannus mewn ardaloedd eraill

·         er bod canlyniad yr Asesiad o Effaith ar Les yn gadarnhaol, canolbwyntiodd yn bennaf ar yr amgylchedd ffisegol o ran gwytnwch, gan roi llai o bwyslais ar unigolion yn y gymuned ac o fewn yr ysgol.  Dywedodd Swyddogion y byddai'r model ei hun yn cryfhau gwytnwch drwy gefnogi datblygiad sgiliau a chyflawni cymwysterau, a fyddai o fudd llawer gwell i ddisgyblion o ystyried yr amgylchedd a oedd yn cael ei greu.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts y byddai Asesiadau o Effaith ar Les yn y dyfodol yn cynnwys mwy o fanylion am yr effaith ar bobl, yn ogystal â'r amgylchedd ffisegol.

 

Croesawodd y Cynghorydd Joan Butterfield y prosiect yn ogystal, y teimlai oedd yn gyfannol i adfywiad Y Rhyl, a diolchodd i bawb a gymerodd ran am eu hymrwymiad a’u dyfalbarhad wrth fynd â’r  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADNEWYDDU FFRAMWAITH ADEILADU GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 146 KB

Ystyried adroddiad (copi’n amgaeedig), yn amlinellu’r dull arfaethedig i gaffael y genhedlaeth nesaf o Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)        cadarnhau'r dull a amlinellwyd o fewn yr adroddiad i gaffael Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru'r genhedlaeth nesaf; a

 

(b)       chadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i ddechrau caffael ail gam Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru (NWCF), i fod yn effeithiol yn dilyn gorffen y cam cyntaf ym mis Mai 2018. Byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar ganlyniad yr ymarfer caffael hwnnw.

 

Roedd NWCF yn bartneriaeth rhwng chwe chyngor Gogledd Cymru, ymhle roedd gan Sir Ddinbych y rôl arweiniol, a darparwyd mecanwaith symlach, cost effeithiol i sicrhau contractwyr i adeiladu ysgolion newydd ac adeiladau cyhoeddus eraill.  Roedd chwe chontractwr ar yr NWCF ar hyn o bryd, gydag ugain o brosiectau’n cael eu prosesu ar draws y rhanbarth gyda gwerth o dros £200m.  Roedd manylion prosiectau Sir Ddinbych wedi cael eu cynnwys yn yr adroddiad, ynghyd â buddion cymunedol wedi'u sicrhau o dan yr NWCF gan fuddsoddi mewn sgiliau lleol a'r economi.  Nodwyd bod 80% o wariant y gadwyn gyflenwi wedi dod o radiws 30 milltir o brosiectau.  Cyfeiriwyd at y trefniadau NWCF presennol a sut i feithrin y llwyddiant hwnnw o ran buddion ac arbedion ar gyfer yr ail gam.

 

Roedd newidiadau allweddol i’r fframwaith newydd yn cynnwys -

 

·         lleihau’r trothwyon ariannol ar gyfer contractau a allai gynyddu nifer y contractwyr lleol ar y fframwaith

·         Gwneud y mwyaf o ddarparu buddion cymunedol, megis gofynion hyfforddiant a datblygu cadwyni cyflenwi lleol, a

·         chyflwyno ffi codi tâl fframwaith i ostwng cost y fframwaith i'r chwe awdurdod lleol, lle codir ffi ar gontractwyr am bob prosiect yr enillir.

 

Oherwydd y cynnydd i’r gwaith cysylltiedig, cynigiwyd ehangu'r tîm presennol rywfaint ac roedd darpariaeth yn y gyllideb eisoes wedi'i gwneud.  Yn olaf, cyfeiriwyd at yr Asesiad o Effaith ar Les gydag effaith gadarnhaol ar yr holl feysydd, yn ogystal â statws cynaliadwyedd da.

 

Nododd y Cabinet lwyddiant y fframwaith gan gymeradwyo Tîm Rheoli’r Fframwaith, a oedd wedi ennill gwobrau cenedlaethol am eu gwaith yn y diwydiant adeiladu.  Ystyriodd aelodau y dull i sicrhau’r ail gam a thrafodwyd y materion canlynol yn fanylach -

 

·         roedd y rhan fwyaf o gontractwyr cyfredol nad oeddent yn rhai lleol ac esboniwyd bod y fframwaith wedi ei sefydlu i ddechrau i ddelio â phrosiectau mawr, nad oedd gan lawer o gontractwyr lleol y capasiti i ddarparu ar eu cyfer. 

·            Fodd bynnag, o fewn y gadwyn gyflenwi, cafodd llawer iawn ei gwblhau gan gwmnïau lleol a llawer o waith wedi'i wneud gan gontractwyr lleol i'w gwneud yn haws iddynt gael eu hystyried ar gyfer contractau a datblygu cwmnïau lleol lle'r oedd bylchau yn y gadwyn gyflenwi.    Rhagwelwyd hefyd y byddai nifer sylweddol o gontractwyr lleol yn gymwys ar gyfer y fframwaith o ganlyniad i'r lleihad arfaethedig yn nhrothwyon ariannol contractau yn yr ail gam. Roedd y fframwaith presennol wedi bod yn weithredol ers 2014 ac ystyriwyd bod y gyllideb yn ddigonol i reoli'r fframwaith heb ofyn am unrhyw gyllid ychwanegol. Roedd y refeniw a ddyfarnwyd gan y chwe awdurdod lleol yn ddigon i gwmpasu Tîm Rheoli'r Fframwaith i helpu gyda newidiadau allweddol.     Byddai capasiti hefyd yn y Tîm Dylunio a Datblygu i helpu, a phe digwydd unrhyw ddiffygion gellid comisiynu adnoddau ychwanegol ar sail ad hoc

·         pan gafodd y fframwaith ei ddatblygu, roedd Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar recriwtio a hyfforddiant wedi'u targedu a chafodd y fframwaith ei sefydlu i gyflawni'r elfennau hynny o fuddion cymunedol.  Cafwyd hyblygrwydd gyda’r fframwaith i ddarparu buddion cymunedol ffisegol, a oedd wedi’u cyflawni mewn rhai achosion, pan yn briodol, yn dibynnu ar y prosiect penodol ac anghenion yr ardal

·         trafodwyd ffi y contract arfaethedig ac awgrymwyd bod y ffi yn cael ei godi ar ddiwedd y broses ar gyfer cwmnïau llai er mwyn helpu gyda llif arian a  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL – CHWARTER 4 – 2016/17 pdf eicon PDF 213 KB

Ystyried adroddiad (copi’n amgaeedig) yn rhoi diweddariad ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012 - 17 fel y mae ar ddiwedd chwarter 4 2016/17.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun Corfforaethol ar ddiwedd chwarter 4 o 2016/17.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i aelodau ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012 - 17  ar ddiwedd chwarter 4 o 2016/17.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys dwy brif elfen -

 

·         Crynodeb Gweithredol - cyflawniadau manwl ac eithriadau allweddol gyda pherfformiad da yn gyffredinol.

·           Dim ond un canlyniad wedi cael ei asesu fel Coch: Blaenoriaeth ar gyfer Gwella - Canlyniad 7 Mae myfyrwyr yn cyflawni eu potensial, a oedd yn ddangosydd blynyddol (dim data newydd ar gyfer y chwarter hwn) fel y nodwyd a thrafodwyd yn flaenorol.  Roedd pob canlyniad arall wedi’i werthuso i fod yn dderbyniol neu’n well, ac roedd adroddiad chwarterol llawn wedi darparu asesiad ar sail tystiolaeth o'r sefyllfa bresennol yn canolbwyntio ar eithriadau allweddol.

 

Roedd eglurhad ar gyfer statws pob dangosydd penodol wedi’i gynnwys yn yr adroddiad gyda materion allweddol yn cael sylw a’u trafod ymhellach yn y cyfarfod.  Roedd y rhan fwyaf o feysydd yn ddangosyddion blynyddol ac ni fu fawr o symudiad ers y chwarter diwethaf.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd yr Aelodau’r materion canlynol –

 

·         Canlyniad 7: Mae myfyrwyr yn cyflawni eu potensial – ar gyfer eglurder, esboniodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant y cefndir hyd at y sefyllfa bresennol.

·           Yn 2012, roedd y Cyngor wedi gosod targed uchelgeisiol iddo ei hun i fod y Cyngor sy’n perfformio orau yng Nghymru o ran cyrhaeddiad addysgol.  Mesurodd Estyn berfformiad yn ôl safle Prydau Ysgol Am Ddim  y Cyngor, lle'r oedd Sir Ddinbych yn safle 14, ac roedd lefel llwyddiant Sir Ddinbych yn unol â hynny.  Ym mis Ebrill 2013, aeth Gwasanaeth Rhanbarthol Gwella Ysgolion, GwE, yn fyw a dirprwywyd y gwasanaeth i ddarparu ar ran awdurdodau lleol yn rhanbarthol, a chafodd adnoddau eu cyfeirio at yr awdurdodau hynny mewn angen fwyaf.  Gan fod Sir Ddinbych yn perfformio’n dda, golygai’r dull nad oedd gwelliant yn parhau ar yr un raddfa, ac er bod y Cyngor yn dal i gyflawni'n gadarnhaol yn unol â phroffil Estyn o'r awdurdod, nid oedd wedi cyflawni ei uchelgais.  Gan fod yna bellach well cysondeb ar draws y rhanbarth, rhagwelwyd y byddai cyfradd gwelliant Sir Ddinbych yn cynyddu.  Ychwanegodd yr Arweinydd bod uchelgeisiau'r Cyngor yn parhau’n uchel a bod angen sicrhau tuedd o welliant.  O ran heriau'r dyfodol, cynghorodd y Pennaeth Gwasanaeth fod disgyblion CA2 yn cyflawni’n dda ond bod bwlch mewn lefel perfformiad rhwng CA2 a CA4, ac y byddai trafodaethau’n cael eu cynnal gyda GwE er mwyn sicrhau'r lefel cywir o gefnogaeth yn hynny o beth.  Ychwanegodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts fod yna bellach well cysondeb ar draws y rhanbarth, ac felly roedd angen ymdrechu i gyrraedd lefel uwch o welliant. Roedd yn hyderus y byddai'r adroddiad nesaf yn adlewyrchu'r nod hwnnw.  Dadleuodd y Prif Weithredwr fod angen mwy o bwyslais ar ansawdd addysg mewn ysgolion yn hytrach nag ansawdd y gwasanaeth cefnogi, a theimlai y gellid rhoi teilyngdod i adolygu’r targed, er y dylai barhau yn uchelgeisiol. Canlyniad 8: Gwella ein ffyrdd – trafodwyd yr her o gynnal ansawdd ein ffyrdd gwledig yn barhaus, yn ogystal â p'un a fyddai buddsoddiad ychwanegol ar gael at y diben hwnnw.  Nodwyd y byddai aelodau yn trafod blaenoriaethau corfforaethol y cyngor ar gyfer buddsoddi yn y Cyngor llawn ym mis Gorffennaf

·         Canlyniad 9: Mesur Newydd - nifer y lleoliadau newydd i oedolion y mae'r awdurdod yn eu cefnogi mewn cartrefi gofal (65 oed neu hŷn).  Esboniwyd bod hwn yn fesur newydd heb unrhyw ffigurau eto, ond mai ei bwrpas oedd nodi tueddiadau'r dyfodol.  Fodd bynnag, roedd y duedd gyffredinol i lawr gan fod yna bellach lawer o ddewisiadau amgen i gartrefi gofal.

 

PENDERFYNWYD bod y  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

ADRODDIAD CYLLID (ALLDRO ARIANNOL 2016/17) pdf eicon PDF 305 KB

Ystyried adroddiad (copi’n amgaeedig) yn manylu ar sefyllfa alldro refeniw terfynol 2016/17 a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi’r sefyllfa alldro refeniw terfynol ar gyfer 2016/17;

 

(b)       cymeradwyo'r driniaeth arfaethedig o gronfeydd a balansau wrth gefn fel y manylir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1, 2 a 3 a

 

(c)        nodi manylion y trosglwyddiadau i ac o Gronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd fel y nodwyd yn Atodiad 4.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ar y sefyllfa alldro refeniw terfynol am 2016/17 a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau.  Byddai drafft cyntaf Datganiad Cyfrifon Blynyddol 2016/17 yn cael ei gyflwyno i archwilwyr allanol erbyn 30 Mehefin a’r cyfrifon wedi’u harchwilio yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ym mis Medi i’w cymeradwyo’n ffurfiol.

 

Tywyswyd yr aelodau drwy fanylion yr adroddiad a'r atodiadau.  Yn fyr, roedd y sefyllfa alldro derfynol ar gyllidebau corfforaethol a gwasanaeth (gan gynnwys ysgolion) yn orwariant o £2.626m (1.4% o’r gyllideb refeniw net).  Roedd y prif feysydd i’w nodi wedi cael eu hamlygu ac yn cynnwys pwysau ar Gyllidebau Ysgolion; Gwasanaethau Cymorth Cymunedol; Addysg a Gwasanaeth Plant a Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd, a thrafodwyd y materion hynny ymhellach yn y cyfarfod.  O ran ysgolion, bu'n flwyddyn anodd oherwydd pwysau chwyddiannol mwy nag arfer, ac roedd sefyllfa’r alldro yn cynnwys gorwariant o £2.618m ar gyllidebau dirprwyedig – roedd 26 o ysgolion yn dangos balansau â diffyg ac roedd swyddogion cyllid yn gweithio’n agos gyda hwy ar gynlluniau adfer ariannol.  Cyfeiriwyd at y trosglwyddiadau i ac o'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a chafodd nifer o drafodion diwedd y flwyddyn eu hargymell i'w cymeradwyo hefyd.  O ystyried y sefyllfa gyffredinol o fewn gwasanaethau ac argaeledd cyllid corfforaethol, cynigiwyd bod y gwasanaethau yn dwyn ymlaen y tanwariant net a restrir fel balansau gwasanaethau ymrwymedig er mwyn helpu i gyflawni strategaeth cyllideb 2017/18 a bodloni ymrwymiadau sy'n bodoli eisoes.  Bu’n flwyddyn dda ar gyfer yr awdurdod yn gyffredinol, er bod tuedd sylfaenol i orwario ar y cyfan, ac roedd yn bwysig monitro’r sefyllfa mewn ysgolion er mwyn sicrhau na fydd yn gwaethygu yn y dyfodol.

 

Teimlai’r Arweinydd ei bod yn bwysig deall y pwysau sy'n wynebu Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yn well, a’r goblygiadau ariannol wrth fynd ymlaen gan fod defnyddio cronfeydd wrth gefn i gynnwys pwysau’r gyllideb yn anghynaladwy.  Tynnodd y Cynghorydd Bobby Feeley sylw at rai o’r pwysau ariannol sy’n wynebu’r gwasanaeth, gan ychwanegu bod pwysau ar ofal cymdeithasol yn fater byd-eang.  Cytunodd y byddai peth teilyngdod wrth drafod y mater gyda’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth.  Esboniodd y Pennaeth Cyllid fod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn cydnabod y beichiau ychwanegol ar ofal cymdeithasol, a fyddai’n ffurfio rhan o’r trafodaethau yn ystod y broses nesaf o osod cyllidebau.  Cadarnhaodd y defnyddiwyd cronfeydd arian parod wrth gefn yn 2015/16 a 2016/17 ac y caniataodd y sefyllfa ddiwedd y flwyddyn i ailgyflenwi rhywfaint o’r cronfeydd wrth gefn hynny.  Cydnabuwyd nad oedd y defnydd o gronfeydd arian parod wrth gefn yn ddatrysiad hirdymor.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

 (a)      nodi’r sefyllfa alldro refeniw derfynol ar gyfer 2016/17;

 

 (b)      cymeradwyo'r driniaeth arfaethedig o gronfeydd a balansau wrth gefn fel y manylir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1, 2 a 3 a

 

 (c)       nodi manylion y trosglwyddiadau i ac o Gronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd fel y nodwyd yn Atodiad 4.

 

 

9.

ADRODDIAD CYLLID (MAI – YN CYNNWYS LLYFR CRYNODEB Y GYLLIDEB 2017/18) pdf eicon PDF 340 KB

Ystyried adroddiad (copi’n amgaeedig), yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2017/18 a'r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad gan roi manylion y sefyllfa ariannol a’r cyllidebau gwasanaeth diweddaraf ar gyfer 2017/18 ynghyd â Llyfr Crynodeb Cyllideb 2017/18 (Atodiad 1 yr adroddiad).  Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa ariannol y Cyngor-

 

·        roedd cyllideb refeniw net y Cyngor ar gyfer 2017/18 yn £189.252m (£185.062m yn 2016/17)

·        manylion arbedion effeithlonrwydd gwasanaeth gwerth £0.902m a oedd wedi’u cytuno eisoes fel rhan o'r gyllideb, gyda'r rhagdybiaeth y byddai’r cyfan yn cael ei ddarparu – byddai unrhyw eithriadau’n cael eu hadrodd i'r Cabinet pe bai angen

·        does dim anghytundebau i’w hadrodd ar y cam hwn yn y flwyddyn ariannol, ond roedd nifer o bwysau gwasanaeth wedi’u nodi sydd angen eu monitro'n ofalus, a

·        diweddariad cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf, Y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Huw Jones y gostyngiad yn y gyllideb a ddangosir yn erbyn y gwasanaethau parcio, sef yr incwm a gyllidebwyd yn bennaf, y disgwyliwyd iddo gael ei godi o daliadau parcio.  Cytunodd y Pennaeth Cyllid i ganfod a yw'r swm yn cynnwys unrhyw ffioedd neu elfennau eraill a allai gyfrif am y gostyngiad ac adrodd yn ôl ar hynny.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2017/18 a'r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni.

 

 

10.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 349 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Blaenraglen Waith y Cabinet i'w hystyried a nodwyd efallai y bydd oedi cyn cyflwyno Cynigion Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif 21 a drefnwyd ar gyfer mis Gorffennaf.

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.55 a.m.