Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 24 Ionawr 2017 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: PENDERFYNWYD
y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2017 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2017. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2017 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
STRATEGAETH Y GYMRAEG PDF 238 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Arweiniol Datblygu Cymunedol
(copi'n amgaeedig) yn cyflwyno'r Strategaeth Gymraeg arfaethedig i'w
gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo'r Strategaeth arfaethedig ar gyfer y Gymraeg. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Huw Jones yr adroddiad a chyflwyno Strategaeth arfaethedig y Gymraeg
(2017-2022) i'w chymeradwyo. Cyfeiriodd
at y sylw negyddol a fu yn y wasg yn ddiweddar ynglŷn â'r ddogfen ac roedd
yn gobeithio y byddai'r camau blaengar a nodwyd yn y strategaeth yn cael eu
hadrodd yn fwy cadarnhaol yn y cyfryngau yn awr. Cynhyrchwyd y
strategaeth mewn ymateb i weithrediad Safonau'r Iaith Gymraeg ac roedd yn nodi
sut y byddai'r awdurdod yn hyrwyddo a gwella'r iaith gyda'r nod o gynyddu nifer
y siaradwyr Cymraeg yn y sir o 0.5% dros y pum mlynedd nesaf. Rhannwyd y strategaeth yn themâu strategol-
cynllunio strategol, plant a phobl ifanc, cymuned, busnes a'r economi a
gweinyddiaeth fewnol o fewn y Cyngor.
Cyfeiriwyd at y gwaith a wnaed eisoes gyda phartneriaid i baratoi a
byddai'r strategaeth yn cael ei cyflenwi gan weithio gydag ystod o sefydliadau
cymunedol. Tynnwyd sylw at ddadansoddiad
ystadegol o siaradwyr Cymraeg yn y sir, gan gynnwys dylanwad cadarnhaol dysgu
mwy o Gymraeg i blant oedran ysgol. Canmolodd yr
Arweinydd bod Grŵp Llywio'r Gymraeg wedi'i sefydlu er mwyn hyrwyddo'r
Iaith Gymraeg ymhellach ac fe groesawodd y strategaeth fel dull o atal y
gostyngiad mewn siaradwyr Cymraeg a rhagori ar y targed o 0.5% yn
hirdymor. Roedd y Cyngor wedi derbyn
Safonau'r Iaith Gymraeg ond roedd yn teimlo y gellir dysgu mwy gan awdurdodau
eraill sy'n siarad Cymraeg ac awgrymodd y gallai Grŵp Llywio'r Gymraeg
archwilio'r mater ymhellach. Croesawodd y
Cabinet y strategaeth a'r camau cadarnhaol a nodwyd drwy'r themâu allweddol er
mwyn amddiffyn a hyrwyddo'r Iaith Gymraeg a cheisiwyd sicrwydd ynglŷn â
sut y byddai'r camau hyn yn cael eu monitro i sicrhau cynnydd effeithiol. Eglurwyd y byddai'r camau gweithredu'n cael
eu hadrodd yn chwarterol i Grŵp Llywio'r Gymraeg a byddai'r camau yn cael
eu cynnwys a'u monitro yn y cynlluniau gwasanaeth. Gyda'r nod o hyrwyddo'r Gymraeg, tynnodd y Cynghorydd
Eryl Williams sylw at lwyddiant cynnal digwyddiadau Cymraeg megis Eisteddfod
Genedlaethol yr Urdd mewn ardaloedd gyda llai o siaradwyr Cymraeg. Tynnodd sylw hefyd at y cynnydd mewn galw ar gyfer
addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y sir ac roedd yn teimlo y dylid adlewyrchu hyn
yn y strategaeth, ynghyd â'r pwysigrwydd bod disgyblion yn cadw'r iaith ar ôl
gadael yr ysgol a sicrhau bod y Gymraeg yn dod yn iaith fyw y tu allan i'r
system addysg. Croesawodd y Cynghorydd Meirick Davies y
strategaeth ond ceisiodd sicrwydd bod adnoddau yn eu lle i sicrhau y gellir ei
chyflawni'n ymarferol. Cytunodd yr
Arweinydd bod angen newid diwylliant ac y byddai cynnydd amserol y strategaeth
angen cyllid ychwanegol ac mae'n debyg y byddai'n fater i'r Cyngor newydd a Grŵp
Llywio'r Gymraeg ei olrhain. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo Strategaeth arfaethedig y Gymraeg. |
|
CYNNIG AR GYFER CYTUNDEB CYDWEITHREDOL CEFNOGI POBL CSDd A CHLWYD ALYN PDF 88 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Gofal
Cymdeithasol, Oedolion a Phlant (copi'n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth ar
gyfer y cynnig am gytundeb cydweithredol
i gyflawni prosiect tai â chymorth Y Dyfodol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo'r cynnig, fel
yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ar gyfer Cytundeb Cydweithredol Cefnogi Pobl
(CP) CSDd a Chymdeithas Tai Clwyd Alyn (CTCA) i gyflawni’r prosiect tai â
chymorth Y Dyfodol. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cytundeb
ar y cyd rhwng Cefnogi Pobl CSDd a Chymdeithas Tai Clwyd Alyn i ddarparu
prosiect tai â chymorth y Dyfodol o fis Hydref 2018. Roedd y Cabinet eisoes
wedi cymeradwyo cynnig i archwilio'r opsiwn o ddatblygu cytundeb partneriaeth
gyda Chymdeithas Tai Clwyd Alyn ym mis
Tachwedd 2016. Roedd
prosiect y Dyfodol a ariennir gan Gefnogi Pobl yn cael ei ddarparu gan
Gymdeithas Tai Clwyd Alyn ac yn darparu 35 uned o dai â chymorth ar gyfer pobl
ifanc. Daw'r contract presennol i ben ar 30 Medi 2018 yn dilyn nifer o
estyniadau contract er mwyn ail-fodelu'r Dyfodol mewn cydweithrediad â
budd-ddeiliaid allweddol fel rhan o ddatblygiad ymagwedd ehangach Llwybr Pobl
Ifanc. Ymhelaethodd
y Cynghorydd Feeley ar y rhesymau dros y bartneriaeth arfaethedig yn hytrach na
phroses dendro, a oedd yn cynnwys y ffaith y byddai'r prosiect yn cefnogi sawl
dyletswydd statudol (gan gynnwys Deddf Tai 2014 a Deddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Lles 2015) ac yn arwain at leihau amharu ar y gefnogaeth. Cyfanswm gwerth y
contract tair blynedd oedd £1,179,618 ac roedd y gost flynyddol o £393,206
eisoes wedi'i gyllidebu yn Grant CP o 2017/18 ymlaen. Atebodd
yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion CP y cwestiynau fel a ganlyn – ·
cadarnhawyd bod aelodau'r Rhyl
wedi'u cynnwys yn y prosiect ond cytunwyd y dylid cyflwyno'r cynnig i Grŵp
Ardal Aelodau'r Rhyl. ·
cynghorwyd bod y prosiect yn
darparu tai â chymorth ar gyfer pobl ifanc rhwng 16-24 oed a bod yr unedau yn
orlawn ond tynnwyd sylw at yr ymdrech i wella ymyraethau ar gam cynharach yn y
llwybr newydd ar gyfer pobl ifanc a fyddai'n arwain at ostyngiad mewn galw am
unedau llety â chymorth. ·
eglurwyd bod y prosiect wedi'i
ail-fodelu yn canolbwyntio ar ganlyniadau gwell, yn enwedig o ran addysg a
chyflogaeth, gyda phwyslais ar arfogi pobl ifanc gyda'r sgiliau hanfodol ar
gyfer annibyniaeth a darparu cefnogaeth yn ôl yr angen. ·
ymhelaethwyd ar y gwaith a
wnaed i sicrhau tenantiaethau mewn ystod o farchnadoedd gan ddarparwyr
cymeradwy pan fo pobl ifanc yn symud ymlaen o unedau tai â chymorth i sicrhau
llety cynaliadwy addas a thenantiaethau llwyddiannus. ·
ymhelaethwyd ar rôl y gwahanol
bartneriaid yn ymagwedd y Llwybr Pobl Ifanc a buddsoddiad gan wasanaethau
eraill wrth symud ymlaen a manteision dull partneriaeth. ·
cadarnhawyd bod CP yn gweithio
yn unol â chanllawiau cysylltiadau lleol a rhoddir blaenoriaeth i bobl leol. ·
o ran digartrefedd
cyffredinol, cynghorwyd yr aelodau ynglŷn â'r gefnogaeth sydd ar gael gan
gadarnhau bod cefnogaeth yn cael ei gynnig yn rhagweithiol i'r rhai sy'n cysgu
ar y stryd ·
darparwyd sicrwydd nad oedd
llawer i'w ennill o ran elw ariannol pe bai'r contract yn cael ei roi allan i
dendr ond gallai arwain at golli darpariaeth cefnogaeth; cyfeiriwyd hefyd at y prosesau
diogelu a deddfwriaethol sydd ar waith o ran dull y cytundeb ar y cyd. ·
ymhelaethwyd ar y buddion
cymunedol a gynigir gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn mewn perthynas â sgiliau
cyflogaeth fel y cyfeiriwyd atynt yn yr Asesiad o Effaith ar Les. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo'r cynnig, fel
yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ar gyfer Cytundeb Cydweithredol Cefnogi Pobl
(CP) CSDd a Chymdeithas Tai Clwyd Alyn (CTCA) i gyflawni prosiect tai â
chymorth y Dyfodol. |
|
GWELEDIGAETH TWF A STRATEGAETH AR GYFER ECONOMI GOGLEDD CYMRU PDF 176 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi
(copi'n amgaeedig) yn nodi'r cynnydd o ran datblygu Strategaeth Gweledigaeth
Twf ac amlinellu'r model llywodraethu rhanbarthol arfaethedig. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) cadarnhau’r
model llywodraethu rhanbarthol a ffefrir o gydbwyllgor statudol ar gyfer
datblygiad pellach. (b) cyfarwyddo
swyddogion i weithio gyda chydweithwyr mewn cynghorau partner yng Ngogledd
Cymru i ddatblygu cyfansoddiad a chytundeb rhyngasiantaethol ar gyfer y
Cydbwyllgor arfaethedig ac i ddod ag adroddiad yn ôl i’r Cyngor ei ystyried gan
ddechrau ar fodel cydbwyllgor statudol gyda phum cyngor partner, o fewn y tri
mis cyntaf o dymor newydd y Cyngor, a (c) bod y Cabinet yn
cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les
(Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o’u hystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Hugh Evans adroddiad yn nodi'r cynnydd o ran datblygu Strategaeth
Gweledigaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru ac yn amlinellu'r model
llywodraethu rhanbarthol arfaethedig gyda Chyd-bwyllgor statudol. Roedd
y Weledigaeth Twf wedi'i chefnogi gan chwe Chyngor Gogledd Cymru yn yr hydref
2016 a gwahoddir y Cabinet yn awr i gefnogi'r strwythur llywodraethu
arfaethedig i ddatblygu'r strategaeth i 'Gais Twf' ar gyfer buddsoddiad
cenedlaethol. Tynnodd
yr Arweinydd sylw at y disgwyliadau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru
o ran gwaith rhanbarthol i wneud y mwyaf o effaith buddsoddiad, a disgwyliadau
Llywodraeth y DU ar gyfer gwaith trawsffiniol a chysylltiadau gydag economïau
eraill. Amlinellodd
y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Economi a'r Parth Cyhoeddus gylch gorchwyl y
Cyd-Bwyllgor arfaethedig a oedd yn ymwneud â datblygu Cais Twf ffurfiol, gan
gytuno ar gynllun buddsoddi, a gosod a goruchwylio cynllun gweithredu. Pe bai'r model llywodraethu
amlinellol yn cael ei gytuno yna byddai mwy o wybodaeth a manylion yn cael eu
hychwanegu. Tynnwyd
sylw'r Cabinet at yr Asesiad o Effaith ar Les ac ymhelaethodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol am yr asesiadau o ran buddion a ffactorau risg y trefniadau hynny
ynghyd â'r mesurau lliniaru a diogelu i gynorthwyo i sicrhau canlyniad
cadarnhaol. Codwyd
y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd - ·
tynnwyd sylw at seilwaith
cludiant fel elfen allweddol o ddarparu'r strategaeth a bod angen gweledigaeth
gref o ran hynny, yn enwedig o ran y rhwydweithiau ffyrdd gan gynnwys cysylltiadau
rhwng cymunedau gwledig ac economïau eraill, i sicrhau bod Sir Ddinbych mewn
sefyllfa dda i elwa ar gam cynnar yn y broses. ·
Nodwyd bod yr A55, A494, A5
a'r A483 oll wedi'u nodi fel blaenoriaethau rhanbarthol. Cyfeiriwyd hefyd at y Cynllun Cludiant
Lleol ar draws y chwe Chyngor yng Ngogledd Cymru a chytunwyd y byddai'n amserol
pe bai'r Cyngor newydd yn adolygu'r strategaeth priffyrdd wrth symud ymlaen. Roedd y Cabinet hefyd yn
falch o nodi bod consortiwm trafnidiaeth rhanbarthol, yn debyg i TAITH, wedi'i
gynnig fel rhan o gylch gorchwyl y Cydbwyllgor ar gyfer Cynllunio a Chomisiynu
Cludiant, nodwyd pe bai'r model llywodraethu arfaethedig yn cael ei gymeradwyo
byddai gwaith pellach yn cael ei gyflawni i ddatblygu ymgynghoriad manwl a
chytundeb rhwng awdurdodau a'i gyflwyno'n ôl i'r Cabinet yn ystod tri mis
cyntaf o dymor y Cyngor newydd. Yr aelodaeth a argymhellir ar gyfer y Cyd-Bwyllgor oedd arweinwyr y chwe
chyngor. ·
pwysleisiwyd pwysigrwydd
sicrhau y cyflawnir buddion pennaf Sir Ddinbych
drwy waith rhanbarthol a sicrhau nad oedd y cyngor wedi'i ddifreinio o
ganlyniad i hynny. Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar y trafodaethau a gynhaliwyd
mewn perthynas â hynny ac fe gydnabuwyd efallai na fyddai cynlluniau penodol yn
darparu buddion ar gyfer y chwe chyngor a byddai'r Cyd-bwyllgor yn trafod y
gefnogaeth ar gyfer y cynlluniau hynny a'r pwysau ariannol o ran cyfraniadau
cynghorau. Dylid
canolbwyntio ar wneud buddsoddiadau a thyfu economi Gogledd Cymru i ganiatáu
mynediad i gyfleoedd cyflogaeth a sicrhau bod gan breswylwyr sgiliau
cyflogaeth. ·
eglurwyd bod gwaith
arfaethedig y Cyd-Bwyllgor wedi'i nodi yn y cylch gorchwyl ynghyd â'i
gyfyngiadau, a byddai gan gynghorau unigol eu gwaith eu hunain i wneud hefyd i
gefnogi datblygiad economaidd eu hardal, gan gynnwys adfywio. Roedd dyrannu cyllid
llywodraeth yn faes cymhleth ac roedd yn bwysig bod dealltwriaeth glir o
ddarpariaeth ariannol i wneud y mwyaf o gyfleoedd buddsoddi. ·
roedd effeithiau cadarnhaol a
negyddol posibl ar yr Iaith Gymraeg wedi'u cynnwys yn yr Asesiad o Effaith ar
Les ynghyd â'r camau lliniaru. · cynghorwyd yr aelodau bod Carchar EM y Berwyn wedi'u hymgysylltu'n llawn i weithio gyda'r rhanbarth i sicrhau effaith leol gadarnhaol ac unwaith y derbynnir y ffigurau o ran y buddion i Sir Ddinbych ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
AMCANION LLES CYNGOR SIR DDINBYCH PDF 93 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi
(copi'n amgaeedig) yn cynnig chwe Amcan Lles i'w mabwysiadu gan y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod yr Amcanion
Lles sy'n cael eu cynnwys yn yr adroddiad yn cael eu mabwysiadu gan y Cyngor. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Hugh Evans adroddiad yn cynnig chwech o amcanion lles i’w
mabwysiadu gan y Cyngor ac yn nodi’r broses ar gyfer eu hymgorffori yn y Cynllun
Corfforaethol nesaf. Roedd
yr adroddiad yn nodi'r ymagwedd a gymerwyd i alinio ac uno prosesau er mwyn
diwallu gofynion deddfwriaethol a nodi amcanion y Cyngor. Roedd chwe maes blaenoriaeth
posibl wedi dod i'r amlwg o'r broses ymgysylltu â'r cyhoedd ac roedd gwasgariad
demograffig yr ymatebwyr ar draws yr holl feysydd a'r grwpiau oedran yn sicrhau
adlewyrchiad gwirioneddol a chytbwys o safbwyntiau'r preswylwyr a oedd yn cael
eu profi ymhellach yn yr ail gam ymgynghori. Pwysleisiodd yr Arweinydd bwysigrwydd
y Cyngor newydd i adolygu'r blaenoriaethau hyn a'u halinio gyda'r Cynllun
Corfforaethol ac i gyfrannu at Gynllun Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Tynnodd sylw at bwysigrwydd
ymgynghoriad lleol i osod blaenoriaethau, yn enwedig o ystyried y goblygiadau
ar gyfer gwneud penderfyniadau sy'n deillio o Bapur Gwyn Llywodraeth Leol. Eglurodd
Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol bod gofyniad o dan Ddeddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 i gyhoeddi cyfres o Amcanion Lles erbyn 31 Mawrth
2017. Rhagwelwyd
y byddai'r Cyngor newydd yn adolygu'r amcanion hynny ym mis Gorffennaf ac y
byddai'r Cynllun Corfforaethol newydd yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis
Hydref 2017. Roedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gosod eu blaenoriaethau eu
hunain a gobeithir y byddai rhywfaint o aliniad rhwng amcanion y Cyngor a'r
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Ymatebodd
y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol i'r materion a godwyd gan yr aelodau fel a
ganlyn- ·
eglurodd bod deddfwriaeth yn
cyfeirio at Amcanion Lles ond yng nghyd-destun Sir Ddinbych roeddent yn cael eu
galw'n flaenoriaethau - cytunwyd y dylid gwneud y gwahaniaeth yn gliriach mewn
dogfennau yn y dyfodol. ·
cadarnhaodd nad oedd manylion
ar gael ar hyn o bryd ond bod y gyfres o flaenoriaethau arfaethedig yn amlygu
technoleg wyrdd i gefnogi lleihau carbon - pe bai'r amcanion/blaenoriaethau yn
cael eu cymeradwyo yna byddai'r cynlluniau yn cael eu datblygu gyda'r nod o
ddiwallu'r amcan hwnnw ·
o ran sicrhau Sir Ddinbych iachach
cydnabuwyd pwysigrwydd bod unigolion yn cymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd a'u
lles eu hunain ac roedd atal ac ymyrraeth gynnar yn egwyddorion allweddol wrth
ddatblygu cynlluniau a chyfrifoldebau personol. PENDERFYNWYD bod yr amcanion
Lles sy'n cael eu cynnwys yn yr adroddiad yn cael eu mabwysiadu gan y Cyngor. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, y
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb; (b) cymeradwyo
trosglwyddo £0.150m o danwariant Cyfleusterau, Asedau a Thai i Gronfa
Datblygiad Glan y Môr y Rhyl a gedwir yn ganolog a’i ddefnyddio i helpu llif
arian nifer o brosiectau, rhai ohonynt eisoes wedi’u cymeradwyo mewn egwyddor,
ac (c) nodi’r defnydd
arfaethedig o danwariant gwasanaeth lle nodir ac y gofynnir am gymeradwyaeth
ffurfiol pan fydd yr union ffigurau yn hysbys fel rhan o’r Adroddiad
Canlyniadau Terfynol. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
adroddiad a nodai’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chyllidebau gwasanaethau ar
gyfer 2016/17. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn- ·
rhagwelwyd
tanwariant net o £0.241miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaethau a chyllidebau
corfforaethol ·
cyflawnwyd
68% o arbedion hyd yma (targed o £5.2miliwn) ac roedd 2% arall yn gwneud
cynnydd da; byddai 25% yn cael ei ohirio a’i gyflawni yn 2017/18 a 5% yn unig o
arbedion fyddai heb eu cyflawni o fewn yr amserlen ·
amlygwyd
y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â meysydd gwasanaeth
unigol ·
diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf (gan
gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol) Gofynnwyd hefyd i'r Cabinet gymeradwyo trosglwyddo
£0.150m o danwariant Cyfleusterau, Asedau a Thai i Gronfa Wrth Gefn Datblygu
Glan y Môr y Rhyl ac i nodi defnydd arfaethedig tanwariant gwasanaethau lle y
nodwyd hynny. Codwyd y materion canlynol wrth drafod – ·
Amlygodd
y Cynghorydd Eryl Williams y pwysau cyllidebol ar ysgolion, er y diogelir
cyllideb o 1.85%, gyda 24 ysgol yn amcangyfrif diffyg ar hyn o bryd. ·
Roedd y Cabinet wedi gwneud
penderfyniad eisoes i sefydlu grŵp
tasg a gorffen i adolygu lefel balansau ysgolion a deall y ffactorau sy'n
cyfrannu at y lefelau hynny. Cytunodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd i ddarparu
diweddariad ar gynnydd cyn cyfarfod
nesaf y Cabinet, dylai cyfeiriad at 'Wasanaethau Cymunedol' nodi 'Gwasanaethau
Cymorth Cymunedol'. ·
Cyfeiriodd
y Cynghorydd Bobby Feeley at y posibilrwydd o arbedion pellach o £700mil i
gyfrannu at y gorwariant o £2.3m yn y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol. ·
Soniodd
y Cynghorydd David Smith am y diffyg cynnydd
o ran dosbarthu'r cyllid cyfyngedig oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru er
mwyn helpu i gwrdd â chostau’r Cyngor wrth adfer gwasanaethau cludiant ar ôl i
GHA Coaches fynd drwyddi. Ni phenderfynwyd hyd yma ar swm y cyllid
ar gyfer Sir Ddinbych, ond er y cafwyd sicrwydd cychwynnol ni fyddai’n ddigon i
gwrdd â’r holl gostau ychwanegol. Un taliad fyddai'r Cyngor yn ei dderbyn, heb
unrhyw ddarpariaeth barhaus. Roedd y Cynghorydd Smith o'r farn bod y sefyllfa yn annerbyniol. ·
yn
dilyn llwyddiant buddsoddiad yn y gwasanaethau hamdden, gofynnodd y Cynghorydd
Hugh Irving am fanylion refeniw i weld sut yr oedd y gwasanaethau hynny yn
perfformio. Cytunwyd y dylid darparu'r wybodaeth honno yn yr Adroddiad Ariannol
rheolaidd nesaf ac fe gynghorwyd y Cabinet bod mwyafrif y buddsoddiad cyfalaf
mewn cyfleusterau hamdden wedi bod yn bosibl oherwydd benthyca darbodus sy'n
hunan-ariannu a oedd yn niwtral o ran costau i'r Cyngor yn ei gyfanrwydd ·
roedd
talu i adael contract y Cynllun Ariannu
Preifat wedi arwain at arbedion sylweddol i'r awdurdod ac roedd y costau cynnal
a chadw wedi'u lleihau hefyd. Byddai pryderon ynglŷn â saernïaeth to Neuadd y Dref Rhuthun a difrod
stormydd diweddar yn cael eu hatgyfeirio at y gwasanaethau eiddo i'w
harchwilio. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb; (b) cymeradwyo
trosglwyddo £0.150m o danwariant Cyfleusterau, Asedau a Thai i Gronfa wrth gefn
Datblygu Glan y Môr y Rhyl a fydd yn cael ei gadw'n ganolog a'i ddefnyddio i
gynorthwyo â llif arian i nifer o brosiectau, y mae rhai ohonynt eisoes wedi'u
cymeradwyo mewn egwyddor, a (c) Nodi'r defnydd
arfaethedig o danwariant gwasanaethau lle y nodir hynny ac y ceisir
cymeradwyaeth ffurfiol pan fo'r ffigurau gwirioneddol yn hysbys fel rhan o'r
Adroddiad Alldro Terfynol. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 131 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet
i'w ystyried a nododd yr aelodau eitem ychwanegol Dileu Ardrethi Annomestig
(Trethi Busnes) ar gyfer mis Mawrth. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau
Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn
debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 o Ran 4 o
Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
DATBLYGIAD GLAN Y MÔR Y RHYL: CAM 1B ELFENNAU MASNACHOL
I ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol
yr Economi (copi'n amgaeedig) ar y model ariannu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo, mewn
egwyddor, yn dibynnu ar drafodaeth derfynol a chytundeb cyfreithiol, y cynnig a
nodwyd i ffurfio cytundebau prydles i gefnogi datblygiad gwesty 73 ystafell
wely, tafarn a bwyty fel rhan o gynllun adfywio Glan y Môr y Rhyl.
Gan
gymeradwyo'r canlynol mewn egwyddor- -
bod y Cyngor yn cyflawni cytundebau prydlesu cefn
wrth gefn am 25 mlynedd i gefnogi datblygiad gwesty 73 ystafell wely, tafarn
deuluol a bwyty ar lan y môr y Rhyl, yn amodol ar gytundeb terfynol a derbyn
elw rhent wedi hynny'n cynyddu gyda chwyddiant RPI bob pum mlynedd -
i ddirprwyo awdurdod i gwblhau'r trefniadau
terfynol i'r Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro, gyda'r cytundeb terfynol yn
cael ei gymeradwyo gan Arweinydd y Cyngor (fel deilydd portffolio), gan dybio
nad oedd y cytundeb terfynol yn waeth na'r telerau a nodwyd yn yr adroddiad
hwn. -
i gytuno i drosglwyddo'r safle rhydd-ddaliad am
ddim cost a bod y datblygwr yn gosod y gwerth a amcangyfrifwyd o'r derbyniad
cyfalaf sy'n deillio o werthu'r dafarn/bwyty yn erbyn y gost o ddatblygu'r
safle cyfan a'r gwesty i gytuno i sefydlu cronfa wrth gefn i roi'r elw rhent ynddo i ddechrau. Bydd hyn yn cronni cyllid y gellid ei ddefnyddio i liniaru risg ariannol y cyngor yn y dyfodol. Bydd y gronfa wrth gefn yn cael ei hadolygu o bryd i'w gilydd gan y Swyddog A.151 a fydd yn gwneud argymhellion ar gyfer ei ddefnydd yn y dyfodol. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Hugh Evans adroddiad cyfrinachol ynglŷn a'r model cyllid
arfaethedig ar gyfer Cam 1b Datblygu Glan y Môr y Rhyl. Cynghorwyd y
Cabinet ynglŷn â'r trafodaethau dwys a pharhaus ynglŷn â'r datblygiad
a'r rhesymau dros y newidiadau i'r cynigion gwreiddiol yn dilyn colli hyder
mewn buddsoddi mewn eiddo yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE. Nid oedd yn ymagwedd heb risgiau ac roedd y
risgiau wedi'u nodi'n glir yn yr adroddiad ynghyd â'r mesurau i liniaru'r risgiau
hynny. Fodd bynnag, credir mai'r cynnig
yw'r unig opsiwn hyfyw sydd ar gael i'r cyngor i symud ymlaen â'r cam hwn o'r
datblygiad. Holodd y Cabinet gwestiynau
ynglŷn â chyfreithlondeb y cynnig a'r risgiau ariannol er mwyn bodloni eu
hunain bod y cynnig yn cynrychioli'r ffordd orau ymlaen yn yr achos hwn o
ystyried maint y risg i'r awdurdod a'r mesurau a awgrymir i liniaru'r risgiau
hynny. Wrth ystyried yr argymhellion
cytunwyd y dylid tynnu'r cyfeiriad at ffigur elw rhent. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo'r cynnig
mewn egwyddor, yn amodol ar drafodaeth derfynol a chytundeb cyfreithiol, i
lunio cytundebau prydlesu i gefnogi datblygu gwesty 73 ystafell wely, tafarn a
bwyty fel rhan o gynllun adfywio Glan y Môr y Rhyl.
Yn benodol
i gymeradwyo, mewn egwyddor- -
bod y cyngor yn llunio cytundebau prydlesu dilynol
am 25 mlynedd i gefnogi datblygiad gwesty 73 ystafell wely, tafarn deuluol a
bwyty ar lan y môr y Rhyl, yn amodol ar gytundeb terfynol a derbyn elw rhent
wedi hynny sy'n cynyddu gyda chwyddiant RPI bob pum mlynedd. -
dirprwyo awdurdod i gwblhau'r trafodaethau terfynol
i'r Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro, gyda'r cytundeb terfynol yn cael ei
gymeradwyo gan Arweinydd y Cyngor (fel deilydd portffolio), gan dybio nad yw'r
cytundeb terfynol yn sylweddol waeth na'r telerau a nodwyd yn yr adroddiad hwn.
-
cytuno i drosglwyddo safle rhydd-ddaliad am ddim
cost a bod y datblygwr yn gosod gwerth amcangyfrifiedig y derbyniad cyfalaf
sy'n deillio o werthiant y dafarn/gwesty yn erbyn cost datblygu'r safle cyfan
a'r gwesty. -
cytuno i sefydlu cronfa wrth gefn er mwyn rhoi'r
elw rhent cychwynnol ynddi. -
Bydd hyn yn
cronni cyllid y gellir ei ddefnyddio i liniaru risg ariannol y Cyngor yn y
dyfodol. Bydd y
gronfa wrth gefn yn cael ei hadolygu'n gyfnodol gan Swyddog A.151 a fydd yn
llunio argymhellion ar gyfer ei defnydd yn y dyfodol. Daeth y cyfarfod i ben am 1.15pm. |