Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Y CYNGHORYDD RAYMOND BARTLEY – TEYRNGED Talodd yr
Arweinydd deyrnged i’r Cynghorydd Raymond Bartley a fu farw ychydig cyn y
Nadolig. Bu’r Cynghorydd Bartley yn
arsylwi'r Cabinet yn gyson ac roedd wastad yn barod i gyfrannu os teimlai fod
angen iddo wneud hynny. Roedd yn
gynghorydd poblogaidd ac uchel ei barch, ac yn gydweithiwr y bydd pawb yn gweld
colled ar ei ôl. Roedd y Pwyllgor yn
meddwl am y teulu ar yr adeg hon. Safodd
yr aelodau a'r swyddogion fel teyrnged dawel. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
DATGAN CYSYLLTIADAU PERSONOL PDF 88 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd
Bobby Feeley – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 8 ar y Rhaglen. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Bobby Feeley gysylltiad personol yn eitem 8 ar y rhaglen gan ei bod
yn aelod o Bwyllgor Canolfan Awelon. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2016 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD
y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2016 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2016. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2016 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
YSGOL GATHOLIG 3-16 ARFAETHEDIG YN Y RHYL PDF 114 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi’n
amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth i ddechrau cynigion ymgynghori i gau Ysgol
Gynradd Gatholig Mair ac Ysgol Uwchradd y Bendigaid Edward Jones ar 31 Awst
2019 ac agor ysgol Gatholig 3-16 newydd ar yr un safle ar 1 Medi 2019. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: RESOLVED that Cabinet – (a) cymeradwyo i
symud ymlaen i ymgynghori’n ffurfiol ar gynnig i gau Ysgol Gynradd Gatholig
Mair ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ar 31 Awst 2019 ac
agor Ysgol Gatholig 3-16 ar yr un safle ar 1 Medi 2019 ac (b) argymell
cymeradwyo cyllid er mwyn dechrau ar y cam cysyniad/ dylunio manwl. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Eryl Williams adroddiad gan ofyn am gymeradwyaeth i ddechrau
cynigion ymgynghori i gau Ysgol Gatholig Mair (Cynradd 3-11) ac Ysgol Uwchradd
Gatholig y Bendigaid Edward Jones (Uwchradd 11-16) ar 31 Awst 2019 ac agor
ysgol Gatholig 3-16 newydd ar yr un safle ar 1 Medi 2019. Bu ymrwymiad
cychwynnol ar gyfer darpariaeth ffydd gyfun, uwchradd ond roedd trafod helaeth
â phartneriaid wedi golygu cynnig prosiect am Ysgol Gatholig newydd yn lle’r
ddarpariaeth sydd yn y Rhyl ar hyn o bryd.
Roedd y Cynghorydd Williams yn falch o gyflwyno’r adroddiad, a oedd wedi
cymryd cryn dipyn o amser i gyrraedd y fan hon, a dywedodd y byddai
ymgynghoriad ar y cynnig yn cychwyn mewn partneriaeth ag Esgobaeth Gatholig
Wrecsam, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet.
Roedd mwy o fanylion am y broses ymgynghori, amserlenni, achos busnes
a'r goblygiadau ariannol o gyflawni'r prosiect wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bu i’r Cabinet
groesawu cynigion i fuddsoddi mewn Ysgol Gatholig newydd yn y Rhyl yn lle’r
ddarpariaeth bresennol. Codwyd
cwestiynau ynglŷn ag amryw agweddau’r cynnig, gan gynnwys y broses
ymgynghori a’r gofynion ariannu. Atebodd yr Aelod
Arweiniol a’r swyddogion y cwestiynau fel a ganlyn – ·
rhoddwyd
eglurhad am ofynion ariannu'r prosiect gan ddweud y byddent yn dod yn rhan o
Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif – er bod y rhaglen gyfan yn cael ei hariannu ar
sail 50/50 rhwng Llywodraeth Cymru a’r Cyngor, byddai’r swm gwirioneddol yn
wahanol ar gyfer cynlluniau unigol ·
cafwyd
sicrwydd bod cefnogaeth ar y cyd ar gyfer y cynnig gan y ddau Gorff Llywodraethu
ac Esgobaeth Gatholig Wrecsam a byddai ymdrechion i sicrhau proses ymgynghori
gadarn a phriodol ·
er
bod y model 3-16 yn newydd i Sir Ddinbych, roedd tystiolaeth gref i’w gefnogi
fel cynnig cadarnhaol ac roedd nodweddion penodol o addysg Gatholig y byddai’r
model newydd yn eu darparu a’u cryfhau ·
amlygwyd
y diffyg lleoedd sydd ar gael yn ysgolion uwchradd y Rhyl ar hyn o bryd gan
ddweud y byddai'r cynnig yn sicrhau cynaliadwyedd o ran hynny ·
o ran
buddsoddi yn ysgol y Santes Ffraid, nad oedd yn rhan o’r cynnig bellach,
byddai’r ysgol yn cael ei hystyried ochr yn ochr â phrosiectau eraill am gyllid
Band B dan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ·
o ran
y safle, gan gynnwys maint/cynllun yr ysgol newydd arfaethedig, dywedodd y
swyddogion y byddai’r disgyblion yn cael eu haddysgu ar y safle tra roedd y
gwaith yn mynd rhagddo ac roeddent yn hyderus y byddai'r agwedd hon yn cael ei
rheoli'n effeithiol. Ystyriwyd hefyd y dylid cadw cae chwarae ar wahân ar gyfer
chwaraeon tîm a gweithgareddau allgyrsiol ac y byddai’n cael ei reoli’n
briodol. ·
Croesawodd y
Cynghorydd Joan Butterfield y prosiect fel ffordd arall o gyflawni blaenoriaeth
adfywio’r Rhyl. Yn ymateb i gwestiynau
pellach, tynnodd y swyddogion sylw at y ddogfen ymgynghori ddrafft (wedi’i
hatodi i’r adroddiad) a oedd yn cadarnhau y byddai'r ymgynghoriad yn cychwyn
mewn partneriaeth ag Esgobaeth Gatholig Wrecsam ar 14 Chwefror tan 27 Mawrth
2017. O ran y cynnig cychwynnol am Ysgol
Ffydd Anglicanaidd Gyfun, eglurodd yr Aelod Arweiniol y cyfyngder o ran lleoliad
y safle. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cymeradwyo
parhau ar gyfer ymgynghori’n ffurfiol ar gynnig i gau Ysgol Gynradd Gatholig
Mair ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ar 31 Awst 2019 ac
agor Ysgol Gatholig 3-16 ar yr un safle ar 1 Medi 2019 ac, (b) argymell
cymeradwyo’r cyllid er mwyn dechrau ar y cam cynllunio cysyniadol/manwl. |
|
DIWYGIADAU I ASESIAD LLETY SIPSIWN A THEITHWYR PDF 282 KB Ystyried
adroddiad (gan gynnwys atodiad cyfrinachol)
gan y Cynghorydd Hugh Irving,
Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Llyfrgelloedd (copi’n amgaeedig) yn gofyn am
gymeradwyaeth y Cabinet o’r diwygiadau i gopi drafft o Asesiad Llety Sipsiwn a
Theithwyr Sir Ddinbych i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo newidiadau i
ddrafft Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr Sir Ddinbych i’w gyflwyno i
Lywodraeth Cymru, gan gynnwys gofynion ar gyfer - – a)
safle Sipsiwn a Theithwyr preswyl yn Sir
Ddinbych, sy’n cynnwys 6 chae i ddiwallu anghenion aelwydydd Sipsiwn a
Theithwyr yn y sir, a b)
safle teithiol ar gyfer 4-5 cae i ddarparu
ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr sy'n teithio drwy'r sir.. Cofnodion: Roedd
y Cynghorydd Hugh Irving yn falch o gyflwyno dau aelod o Gymuned Sipsiwn a
Theithwyr a oedd yn bresennol yn y cyfarfod. Cyflwynodd
y Cynghorydd Irving yr adroddiad gan ofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i
ddiwygiadau i Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr drafft Sir Ddinbych (atodiad
cyfrinachol i'r adroddiad) i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Roedd
yn ofynnol yn statudol dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 i gynnal asesiad o anghenion
llety preswyl a theithiol Sipsiwn a Theithwyr ac i ddarparu safleoedd pan oedd
angen amlwg. Roedd
y Cabinet wedi cymeradwyo'r asesiad gwreiddiol fis Chwefror 2016 ond gofynnwyd
am esboniadau cyn ei gyflwyno gerbron gweinidogion i’w gymeradwyo ac roedd
angen diwygiadau hefyd, yn sgil dod o hyd i fwy o wybodaeth ynglŷn ag
amgylchiadau'r unigolion. Roedd y diwygiadau allweddol yn ymwneud â’r angen
posibl am safle preswyl yn Sir Ddinbych a'r dull o ddarparu ar gyfer teithio. Atebodd
Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai y cwestiynau fel a ganlyn – ·
manylodd ar y fethodoleg a
ddefnyddiwyd wrth gynnal yr asesiad gan bwysleisio’r broses ymgynghori sylweddol
a rhagweithiol a oedd yn cynnwys cyfweliadau dilynol pellach gan olygu asesiad
diwygiedig a'r casgliad bod angen am ddarpariaeth breswyl ar ffurf 6 llain (i
ganiatáu am 5 ar hyn o bryd ac 1 ar gyfer angen ychwanegol yn y pum mlynedd
nesaf); o ran darpariaeth deithiol, cafwyd llawer o wybodaeth o nifer a
lleoliadau gwersylloedd diawdurdod ynghyd â thrafodaethau â’r cymunedau hynny a
oedd wedi dweud bod angen safle teithiol (4-5 llain) ·
eglurwyd y cyfreithiau a oedd
yn rheoli pwerau'r heddlu i ddweud wrth deithwyr am adael tir lle roedd llain
addas mewn man arall yn un o ardaloedd yr un awdurdod lleol a gwaith blaenorol
a wnaed gyda Chonwy wrth ystyried safle cyfun wedi'i leoli yn Sir Conwy nad
oedd yn ymarferol bellach, o ystyried y cyfreithiau hynny – fodd bynnag,
sefydlwyd ers hynny bod angen safle yn Sir Ddinbych ·
o ran amserlen, byddai angen
cyflwyno’r asesiad diwygiedig i Lywodraeth Cymru i brofi pa mor gadarn ydyw cyn
ei gyflwyno gerbron y gweinidogion i’w gymeradwyo – ar ôl derbyn cymeradwyaeth,
byddai chwiliad ffurfiol am safle’n cychwyn a byddai swyddogion hefyd yn trafod
â Chymuned Sipsiwn a Theithwyr mewn perthynas â hynny ·
eglurwyd bod gan yr asesiad
oes o bum mlynedd ac roedd yr angen hirdymor am leiniau yn y dyfodol yn
anhysbys ar hyn o bryd ·
gwnaed gwaith costio
rhagarweiniol ar wersylloedd diawdurdod a gellid codi rhent ar leiniau preswyl
a theithiol; roedd grant gan Lywodraeth Cymru ar gael i sefydlu’r safleoedd ond
nid oedd yn cynnwys cael gafael ar dir Roedd
y Cynghorydd Hugh Irving yn falch o ddweud bod perthynas waith dda wedi’i
sefydlu ag aelodau Cymuned Sipsiwn a Theithwyr. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo newidiadau i
Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr drafft Sir Ddinbych i’w gyflwyno i Lywodraeth
Cymru, gan gynnwys gofynion ar gyfer - a)
safle preswyl yn Sir Ddinbych i Sipsiwn a
Theithwyr, sy’n cynnwys 6 llain i ddiwallu anghenion Sipsiwn a Theithwyr yn y
Sir, a b)
safle teithiol o 4-5 llain i ddarparu ar
gyfer Sipsiwn a Theithwyr sy'n teithio drwy'r Sir. |
|
CYNLLUNIAU CYMUNEDOL YN Y CYNGOR NEWYDD PDF 100 KB Ystyried adroddiad
gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi (copi’n
amgaeedig) sy’n cyflwyno model newydd o gynllunio cymunedol ar gyfer y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) <}77{>cytuno nad yw’r Cynlluniau Tref ac Ardal ar gyfer pob ardal Grŵp Ardal
Aelodau yn y Cyngor yn ofynnol mwyach, a
(b) bod y system
newydd o gynllunio cymunedol a ddisgrifir yn yr adroddiad yn cael ei fabwysiadu. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Hugh Evans adroddiad ar y cyd â'r Cynghorydd Hugh Jones a
ddisgrifiai fodel cynllunio cymunedol newydd y Cyngor, gyda phwyslais penodol
ar yr angen i symud oddi wrth Gynlluniau Tref ac Ardal (CTAau) o blaid system
hyblyg newydd y gellir ei defnyddio'n fwy eang. Manylodd
y Cynghorydd Evans ar y model newydd arfaethedig a ddatblygwyd ar ôl ymgynghori
â Chefnogwyr Trefi a Grwpiau Ardal yr Aelodau (GAAau) ac a ganolbwyntiai ar
ddatblygu dull cynllunio cymunedol sy’n galluogi ac sy’n sbardun i’r gymuned, gyda
chefnogaeth a chyngor gan y Cyngor pan fo angen. Os byddai’n cael ei
gymeradwyo, byddai swyddogion yn datblygu ‘pecyn gwaith’ i helpu cymunedau i
ddatblygu eu cynlluniau eu hunain. Byddai’r Cyngor yn rhoi
cefnogaeth a chymorth, yn amodol ar gefnogaeth yr Aelod Lleol neu'r GAA i'r
prosiect, ac mewn achosion lle nad oedd arweinyddiaeth leol er mwyn helpu i
ddatblygu'r ddarpariaeth honno, fel ardaloedd gwledig sydd ar wahân neu ardaloedd difreintiedig. Ni fyddai’r Cyngor yn cefnogi
unrhyw gynnig nad oedd yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol, a oedd yn
groes i amcanion y Cyngor neu nad oedd yn defnyddio adnoddau cyhoeddus yn
effeithlon. Awgrymodd
y Cynghorydd Evans i'r Cyngor nesaf lansio'r dull newydd er mwyn codi
ymwybyddiaeth ac er mwyn monitro cynnydd hefyd. Pwysleisiodd y Cynghorydd Hugh
Jones gysylltiadau â’r Cynllun Corfforaethol hefyd, a gwerth aelodau lleol yn
bod yn rhan o brosesau newydd ac yn eu cefnogi er lles eu cymunedau. Wrth
ystyried yr adroddiad, trafododd yr Aelodau’r materion canlynol – ·
amlygwyd pwysigrwydd defnyddio
profiad a llwyddiannau ar draws y Sir hyd yma ac roedd awgrymiadau am sefydlu
cynllun mentora a darparu cronfa/cyfeiriadur data y gallai’r gymuned ei
ddefnyddio er mwyn cefnogi a hwyluso datblygu prosiectau newydd, gan gynnwys
cyllid a grantiau allanol sydd ar gael i brosiectau cymunedol ·
datganwyd pryder na fyddai gan
ardaloedd gwledig llai yr awydd na’r sgiliau i ddatblygu syniadau a gofynnwyd
am sicrwydd na fyddai’r cymunedau hynny'n dod yn ddifreintiedig o ganlyniad i’r
dull newydd. Eglurodd
y Cynghorydd Evans y bwriad i sicrhau na fyddai unrhyw gymuned ar eu colled, a
derbyniwyd bod angen annog y cymunedau. Byddai’r dull newydd yn helpu
i atgyfnerthu cymunedau, bodloni gofynion deddfwriaethol newydd a byddai'n cael
ei ddatblygu ymhellach gan y Cyngor newydd yn dilyn dod â CTAau i ben ·
cyfeiriwyd at yr angen i
ailedrych ar drefniadau llywodraethu ar gyfer y dull newydd ·
roedd rôl Cefnogwyr Trefi yn gysylltiedig
â CTAau a chyflawni'r prosiectau hynny, ond o dan y dull cynhwysol newydd,
byddai rôl allweddol i'r holl aelodau. Awgrymwyd y dylid trefnu
braslun o’r dull newydd a rôl cynghorwyr wrth hwyluso cynllunio cymunedol ar
gyfer cyfarfod Briffio’r Cyngor cyn gynted â phosib' yn dilyn etholiadau mis
Mai ac y dylid trefnu hyfforddiant penodol i aelodau mewn perthynas â hynny ar
y model newydd ·
Tynnodd
y Cynghorydd Joan Butterfield sylw at grwpiau difreintiedig yn y Rhyl ac er ei
bod yn cytuno y dylai cynghorwyr lleol arwain o dan y dull newydd, roedd hi
hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cefnogaeth y Cyngor, yn enwedig i grwpiau heb
yr arbenigedd i ddatblygu prosiectau na chael gafael ar gyllid. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cytuno nad oes
angen y Cynlluniau Tref ac Ardal ar gyfer pob ardal Grŵp Ardal Aelodau yn
y Cyngor mwyach, a (b) bod y system
newydd o gynllunio cymunedol a ddisgrifir yn yr adroddiad yn cael ei
mabwysiadu. |
|
ADRODDIAD AR YR OPSIYNAU AR GYFER DEFNYDDIO CARTREF GOFAL PRESWYL AWELON YN Y DYFODOL PDF 143 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Gofal
Cymdeithasol, Oedolion a Phlant (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y dewisiadau ar
gyfer y defnydd o gartref gofal preswyl Awelon yn y dyfodol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cadarnhau eu bod
wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’u hystyriaethau; (b) cytuno nad yw
Opsiynau 1 a 3b Astudiaeth Ddichonoldeb Grŵp Cynefin yn ddewisiadau
ymarferol am y rhesymau a nodir yn atodiadau 1 a 5 yn y drefn honno; (c) cytuno bod
trafodaethau’n cael eu cynnal rhwng Aelodau lleol, Swyddogion, Grŵp
Cynefin a phwyllgor Canolfan Awelon i weithio drwy Opsiynau 2a, 2b a 3a i symud
ymlaen gyda'r cyfluniad gorau ar gyfer y safle sy'n diwallu anghenion pob parti
ac yn golygu'r amhariad lleiaf ar breswylwyr/ tenantiaid presennol, a (d) gofyn i
swyddogion weithio gyda chynrychiolwyr o’r grwpiau cymuned sy’n defnyddio
Canolfan Awelon ar hyn o bryd, er mwyn nodi cyfleusterau amgen addas iddynt eu
defnyddio yn ystod y broses adeiladu. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad a oedd yn manylu ar yr opsiynau ar gyfer
defnyddio Cartref Gofal Preswyl Awelon yn y dyfodol gan ofyn am gymeradwyaeth i
waith trwy opsiynau penodol i barhau â’r cynllun gorau ar gyfer y safle i
fodloni anghenion pawb ac i amharu po leiaf bosib’ ar y preswylwyr/tenantiaid presennol. Roedd
yr argymhellion wedi’u seilio ar waith y Grŵp Tasg a Gorffen (a sefydlwyd
i adolygu darpariaeth gofal cymdeithasol fewnol y Cyngor) a’r Pwyllgor
Archwilio Perfformiad. O
ganlyniad i hynny, gwahoddodd yr Arweinydd y Cynghorydd Barry Mellor, Cadeirydd
y Pwyllgor Archwilio Perfformiad, i drafod gwaith archwilio'r pwyllgor ar
ganfyddiadau'r Grŵp Tasg a Gorffen ar yr astudiaeth ddichonoldeb a
gomisiynwyd ar gyfer safle Awelon yn Rhuthun, a ystyriwyd yn eu cyfarfod ar 6
Ionawr 2016. Dywedodd
y Cynghorydd Mellor bod y pwyllgor yn credu bod yr argymhellion yn ateb
ymarferol i fodloni'r galw am ofal a chefnogaeth ar ffurf trefniadau gofal
ychwanegol yn ardal Rhuthun ac i gefnogi gweithgareddau cymunedol trwy
ddatblygu cyfleusterau cymunedol newydd. Cytunodd y pwyllgor y byddai’r
prosiect yn elwa o gael ei reoli gan y tri sy'n defnyddio'r safle ar hyn o
bryd: y Cyngor, Grŵp Cynefin a Phwyllgor Canolfan Awelon – a’r canlyniad
oedd yr argymhelliad eu bod yn cydweithio i weithredu’r cynllun gorau ar gyfer
y safle ar sail Opsiynau 2a, 2b a 3a yn yr adroddiad. Trafodwyd pob un o’r pump
opsiwn yn yr astudiaeth ddichonoldeb ac roedd y pwyllgor yn fodlon nad oedd
Opsiwn 1 na 3b yn ymarferol am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad. O ganlyniad, derbyniodd y pwyllgor
gasgliad ac argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen (fel y’u nodir yn adroddiad
y Cabinet). Roedd
y pwyllgor wedi ychwanegu at yr argymhelliad y dylid cynnwys trafodaethau
ynglŷn â gofynion o ran arwynebedd llawr ar gyfer Canolfan Awelon – nid
oedd yr amod hon wedi’i chynnwys yn argymhellion y Cabinet gan y gallai’r
trafodaethau ddod o hyd i drefniant gwell ac roedd y Cynghorydd Mellor yn
fodlon â'r rhesymeg honno. Diolchodd
yr Arweinydd a’r Cynghorydd Bobby Feeley i’r Cynghorydd Mellor am ei adroddiad
cynhwysfawr, a diolchwyd i’r Grŵp Tasg a Gorffen a’r Pwyllgor Archwilio
Perfformiad am eu gwaith caled. Cyfeiriodd
y Cynghorydd Feeley at y cynigion am gyfleusterau modern a chynaliadwy a
fyddai’n galluogi’r preswylwyr i barhau i fod yn annibynnol a pheidio â phrofi
arwahanrwydd cymdeithasol. Pwysleisiodd
y byddai’r argymhellion yn sicrhau po leiaf bosib’ o amharu ar y preswylwyr
presennol ac y gallent aros ar y safle tra roedd gwaith adeiladu’n mynd
rhagddo, a byddai pawb sydd ynghlwm â’r Ganolfan yn cael gwybod am y
datblygiadau diweddaraf. Byddai’r
opsiynau a argymhellir, a ddatblygwyd gyda Grŵp Cynefin, yn cynyddu’r
nifer o fflatiau gofal ychwanegol i tua 57 a byddai’n cynnwys gofal seibiant a
chanolfan gymunedol newydd. Manylodd
y Cynghorydd Feeley ar y broses hirwyntog hyd yma a diolchodd i'r swyddogion am
eu hymroddiad a'u gwaith caled. Talodd
deyrnged i’r Cynghorydd Raymond Bartley hefyd, a fu’n aelod ymroddgar a phrysur
o’r Grŵp Tasg a Gorffen. Cydnabu’r
Cabinet y gwaith caled a oedd ynghlwm ag adolygu darpariaeth gofal cymdeithasol
fewnol y Cyngor a arweiniai at yr argymhellion diweddaraf ar gyfer safle Awelon
gan groesawu'r gwaith ailddatblygu a’r buddsoddiad. Cytunai'r Aelodau â
chanfyddiadau'r Grŵp Tasg a Gorffen a'r Pwyllgor Archwilio Perfformiad
mai'r opsiynau a argymhellwyd oedd y ffordd orau o barhau â'r mater a
moderneiddio gwasanaethau er lles Rhuthun a’r ardal o'i hamgylch. Wrth
ystyried yr adroddiad, codwyd y materion canlynol – · pwysleisiodd y Cynghorydd David Smith bwysigrwydd Canolfan Awelon fel cyfleuster cymunedol a oedd yn cael ei ddefnyddio'n ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
GOSOD RHENT TAI A CHYLLIDEBAU REFENIW TAI A CHYFALAF 2017/18 PDF 123 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, y
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn gofyn am
gymeradwyaeth y Cabinet i godi rhent blynyddol tai cyngor Sir Ddinbych ac i
gymeradwyo'r Cyfrif Refeniw Tai a Chyllidebau Cyfalaf a Refeniw. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: RESOLVED that – (a) mabwysiadu
Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2017/18 (Atodiad 1 yn yr adroddiad) a
Chynllun Busnes y Stoc Tai (Atodiad 2);; (b) cynyddu rhenti
anheddau Cyngor yn unol â chanllawiau Polisi Rhenti Tai Cymdeithasol
Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2015 i £81.77 yr wythnos ar
gyfartaledd o ddydd Llun 3 Ebrill 2017; a (c) chynyddu rhenti
ar gyfer garejis y Cyngor yn unol â'r cynnydd mewn rhenti am anheddau Cyngor i
£6.85 ar gyfer Tenantiaid y Cyngor a £8.22 ar gyfer Tenantiaid eraill. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y
Cabinet ar gyfer cynnydd rhent blynyddol tai Sir Ddinbych, Cyfalaf y Cyfrif
Refeniw Tai a Chyllidebau Refeniw. Soniodd y
Cynghorydd Thompson-Hill wrth yr aelodau am ffigurau’r gyllideb a
rhagdybiaethau lefel yr incwm a oedd wedi’u cyfrifo gan ystyried Polisi
Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhenti Tai Cymdeithasol a’i dull ar gyfer cynyddu
rhenti. Roedd adolygiad blynyddol
Cynllun Busnes y Stoc Dai y dangos ei fod yn parhau’n gadarn ac yn ymarferol ac
roedd digon o adnoddau ar gyfer rheoli a goruchwylio’r gwasanaeth tai ac
anghenion y stoc am fuddsoddi. Wrth ystyried yr
adroddiad, trafodwyd y materion canlynol – ·
nodwyd
y disgwylid o hyd i weinidogion gymeradwyo'r achos busnes i atal gwerthiannau
Hawl i Brynu (HiB), er gwaethaf anfon nodiadau atgoffa, a datganodd yr aelodau
a’r swyddogion eu rhwystredigaeth yn sgil hynny o ystyried bod yr oedi’n
tanseilio gallu’r Cyngor i fuddsoddi a’i fod yn golygu ei fod yn colli mwy o’i
stoc dai trwy werthiannau HiB. ·
roedd Llywodraeth Cymru wedi cymryd pedwar
mis i brofi cadernid yr achos busnes cyn ei gyflwyno gerbron gweinidogion i’w
gymeradwyo fis Tachwedd, a allai gymryd hyd at chwe mis arall. Cytunodd y swyddogion i ystyried gyda'r Aelod
Arweiniol a oedd angen cefnogaeth wleidyddol. Cynhaliwyd arolwg o garejis y
Cyngor ac roedd ymgynghoriad ar hyn o bryd gyda Grwpiau Ardal yr Aelodau mewn perthynas
â safleoedd garejis y Cyngor a oedd â thir y gellid ei ddatblygu ar gyfer tai.
Roedd yr arolwg wedi amlygu llawer o waith cynnal a chadw a oedd heb ei wneud.
Nid oedd y rhent a oedd yn daladwy yn ddigon i gwrdd â’r gost a byddai'n cymryd
blynyddoedd i'w gwblhau. Byddai
canfyddiadau’r arolwg ynghyd ag ymarferoldeb defnyddio safleoedd garejis y
Cyngor at ddibenion eraill yn cael eu cynnwys mewn adroddiad yn y dyfodol ·
o ran
Safonau Ansawdd Tai Cymru (ATC), roedd elfennau penodol wedi’u cynnwys a'u
monitro o fewn Cynllun Busnes y Stoc Dai ac fe soniodd y swyddogion am y safon
osod well ar gyfer tai a olygai bod Sir Ddinbych yn darparu tai o ansawdd gwell
na Safonau ATC ·
o ran
cynyddu rhenti, disgwylid y byddai pob tenant yn talu’r rhent targed llawn o
2021 ymlaen ac roedd Sir Ddinbych yn anelu at y rhent targed canol, yn amodol
ar unrhyw oblygiadau o ddiwygio’r gyfundrefn les. PENDERFYNWYD – (a) mabwysiadu
Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2017/18 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a
Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad); (b) cynyddu rhenti
anheddau’r Cyngor yn unol â chanllawiau Polisi Rhenti Tai Cymdeithasol
Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd fis Ebrill 2015 i rent wythnosol cyfartalog o
£81.77 o ddydd Llun 3 Ebrill 2017 ymlaen, a (c) chynyddu rhenti
garejis y Cyngor yn unol â’r cynnydd yn rhenti anheddau’r Cyngor i £6.85 i
Denantiaid y Cyngor ac £8.22 i Denantiaid eraill, yr wythnos. Ar y
pwynt hwn (11.45am) cafwyd egwyl ar gyfer
lluniaeth. |
|
ARGYMHELLION Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL PDF 114 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, y
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi'n amgaeedig) yn gofyn am gefnogaeth
y Cabinet ar gyfer prosiectau a nodwyd ar gyfer eu cynnwys yng Nghynllun
Cyfalaf 2017/18. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y prosiectau a nodwyd yn Atodiad 1 o'r
adroddiad i'w cynnwys yn y Cynllun Cyfalaf 2017/18 yn cael eu cefnogi a’u
hargymell i'r Cyngor llawn.. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad gan geisio cefnogaeth y Cabinet
i brosiectau a nodwyd i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2017/18 yn ôl
argymhellion y Grŵp Buddsoddi Strategol (GBS) ac fel y nodwyd yn Atodiad 1
i’r adroddiad. Soniodd y Cynghorydd Thompson-Hill wrth yr aelodau
am yr adroddiad ac fe ymhelaethodd ar y cyllid sydd ar gael ar gyfer buddsoddi
cyfalaf mewn prosiectau un-tro a dyraniadau bloc ar gyfer rhaglenni gwaith
parhaus. Cyfeiriwyd at waith y GBS wrth adolygu cynigion am ddyraniadau a darparwyd
crynodeb o’u hargymhellion ac fe ymhelaethwyd arno yn y cyfarfod. Roedd y GBS wedi ystyried ystod o
brosiectau ac wedi defnyddio dull cyson gan ganolbwyntio ar flaenoriaethau
cynnal a chadw. Nodwyd y cynigion penodol roedd y GBS wedi argymell peidio â dyrannu
cyllid, neu ddyrannu llai o gyllid ar eu cyfer, yn Atodiad 2 i'r adroddiad. Roedd yr Arweinydd a’r Cynghorydd Barbara Smith
hefyd yn aelodau o’r GBS ac roeddent yn cytuno bod yr un broses adolygu drylwyr
wedi'i chynnal ar bob cynnig mewn modd agored a thryloyw. Roedd pob cynnig yn haeddiannol a bu'n
broses anodd a heriol iawn, ac roedd y galw'n llawer mwy na'r cyllid a oedd ar
gael. Roedd y Cynghorydd Hugh Jones yn falch o nodi bod cyllid wedi’i ddyrannu ar
gyfer gwaith atgyweirio strwythurol ac fel arall, gan gynnwys pontydd, a byddai
adroddiad ar Strategaeth Cynnal a Chadw Pontydd yn cael ei archwilio gan y
Pwyllgor Archwilio Perfformiad yn nes ymlaen yr wythnos honno. Pwysleisiodd y Cynghorydd David Smith yr
angen i’r strategaeth cynnal a chadw gael ei hariannu’n briodol dros y cynllun
deng mlynedd o hyd. PENDERFYNWYD bod y prosiectau a nodwyd yn Atodiad 1 i'r
adroddiad i'w cynnwys yn Nghynllun Cyfalaf 2017/18 yn cael eu cefnogi a’u
hargymell i'r Cyngor llawn. |
|
CYLLIDEB 2017/18 – CYNIGION TERFYNOL PDF 105 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, y
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn nodi goblygiadau
Setliad Drafft Llywodraeth Leol 2017/18 a chynigion i gwblhau'r gyllideb ar
gyfer 2017/18. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: RESOLVED that Cabinet – (a) <}94{>nodi effaith Setliad Llywodraeth Leol 2017/18; (b) cefnogi'r
cynigion a amlinellir yn Atodiad 1, sy’n cyd-fynd â’r tybiaethau a gyflwynwyd i
aelodau yng ngweithdy’r gyllideb a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd 2016, a gan hynny'n
eu hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn cwblhau cyllideb 2017/18, ac (c) argymell i’r
Cyngor, mai’r cynnydd cyfartalog mewn Treth y Cyngor sydd ei angen i gefnogi'r
gyllideb yw 2.75%. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad a oedd yn nodi goblygiadau ariannol
Setliad Llywodraeth Leol 2017/18 a'r cynigion ar gyfer cyllideb derfynol
2017/18, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor. Trafododd y
Cynghorydd Thompson-Hill broses y gyllideb a sefyllfa ddiweddaraf y gyllideb yn
fras gan ymhelaethu ar y cynigion i’w hystyried a'u hargymell i’r Cyngor llawn
er mwyn gosod y gyllideb ar gyfer 2017/18. Roedd y setliad terfynol wedi
darparu cynnydd ariannol o 0.6% ond roedd yn doriad mewn gwirionedd gan nad
oedd yn ystyried chwyddiant na phwysau'r galw am wasanaethau. Cyfeiriwyd at nifer o gyhoeddiadau
Llywodraeth Cymru y gallent fod o fantais ariannol i'r Cyngor ond nid oeddent
yn rhan o’r setliad ariannol ac felly nid oeddent yn effeithio ar y gyllideb ar
gyfer 2017/18. O ran Treth y Cyngor, ystyrid cynnydd arfaethedig o 2.75% yn
synhwyrol ac yn gynaliadwy. Trafododd y
Cabinet gynigion ar gyfer y gyllideb a chanolbwyntiai'r trafod ar y canlynol – ·
Pwysleisiodd
y Cynghorydd Eryl Williams y pwysau sylweddol a oedd ar gyllidebau ysgolion, yn
enwedig ar gyfer ariannu disgyblion a chanddynt anghenion arbennig drwy’r
system addysg, a dylid adolygu hynny i leihau’r problemau yn y dyfodol ·
roedd balansau ysgolion wedi lleihau'n
sylweddol yn ddiweddar, ac fe ganmolwyd y gwaith a oedd yn cael ei wneud gydag
ysgolion i sicrhau bod cyllid yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol. Cododd y
Cynghorydd Bobby Feeley ei phryderon hi ynglŷn â phwysau ar y gwasanaethau
cymdeithasol gan holi a oedd y cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor yn ddigon
i helpu i fynd i'r afael â'r pwysau hwnnw.
Dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill bod y pwysau parhaus ar ofal
cymdeithasol wedi cael ei gydnabod a bod swm o £750,000 wedi’i gynnwys yng nghynigion
y gyllideb gyda chynlluniau am gynnydd pellach ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, derbyniwyd na fyddai £750,000 yn
cwrdd â'r lefel bresennol o orwariant (£2m) ac nid oedd modd cwrdd â’r pwysau
llawn a oedd yn weddill ym mhob gwasanaeth; byddai angen gwneud penderfyniadau
anodd yn y dyfodol. Ystyriwyd y cynnydd o 2.75% yn lefel synhwyrol a
chynaliadwy. Byddai wedi bod angen
cynyddu Treth y Cyngor y tu hwnt i’r lefel wedi’i chapio i gwrdd â’r holl
bwysau cyfredol. Cyfeiriodd y swyddogion
at y cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a gyhoeddwyd gan
Lywodraeth Cymru, a oedd yn debygol o fod ar ffurf grant a fyddai'n cael ei
reoli wrth symud ymlaen ·
soniodd
y Cynghorydd David Smith am y cyllid cyfyngedig a oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru
er mwyn helpu i gwrdd â chostau’r Cyngor wrth adfer gwasanaethau cludiant ar ôl
i GHA Coaches fynd drwyddi ·
ni
phenderfynwyd hyd yma ar swm y cyllid ar gyfer Sir Ddinbych, ond ni fyddai’n
ddigon i gwrdd â’r holl gostau ychwanegol. Un taliad fyddai'r Cyngor yn ei
dderbyn, heb unrhyw ddarpariaeth barhaus.
Byddai angen trafod ymhellach o ran trefniadau rheoli ar gyfer darparu
gwasanaethau'n barhaus Cytunodd y
Cabinet bod y gyllideb arfaethedig yn gynhwysfawr ac yn gynaliadwy yn y tymor
byr a'i bod yn caniatáu i’r Cyngor nesaf allu buddsoddi rhywfaint. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi effaith
Setliad Llywodraeth Leol 2017/18; a (b) chefnogi'r
cynigion a amlinellir yn Atodiad 1, sy’n cyd-fynd â’r rhagdybiaethau a
gyflwynwyd i aelodau yng ngweithdy’r gyllideb a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd 2016,
a chan hynny'n eu hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn gosod cyllideb derfynol
2017/18; ac (c) argymell i’r
Cyngor mai’r cynnydd cyfartalog sydd ei angen yn Nhreth y Cyngor i gefnogi'r
gyllideb yw 2.75%. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, y Cynllun
Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb; (b) cymeradwyo
trosglwyddo £1m o’r gyllideb Gorfforaethol ac Amrywiol i Gronfa Lliniaru’r
Gyllideb er mwyn hwyluso cyflawniad y Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC)
sydd angen £1m o gyfraniad arian parod ychwanegol ar gyfer 2018/19 er mwyn
lliniaru a lleddfu effeithiau’r gostyngiadau a ragwelir mewn cyllid dros nifer
o flynyddoedd, ac (c) wedi ystyried
argymhellion y Grŵp Buddsoddi Strategol o ran prosiect Ysgolion yr 21ain
ganrif Ysgol Llanfair, bod y Cabinet yn – ·
cefnogi cyflwyno Achos Busnes
ar gyfer adeilad ysgol newydd i Ysgol Llanfair (Atodiad 5) ger bron Llywodraeth
Cymru ·
cymeradwyo’n ffurfiol y
gyllideb gyffredinol o £5.369m fel y manylir yn yr achos busnes ·
cefnogi mewn egwyddor pryniant
arfaethedig y tir yn Llanfair i hwyluso datblygiad yr ysgol newydd. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
adroddiad a nodai’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chyllidebau gwasanaethau ar
gyfer 2016/17. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn- ·
rhagwelwyd
tanwariant net o £1.070miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaethau a chyllidebau
corfforaethol ·
cyflawnwyd
68% o arbedion hyd yma (targed o £5.2miliwn) ac roedd 2% arall yn gwneud
cynnydd da; byddai 25% yn cael ei ohirio a’i gyflawni yn 2017/18 a 5% yn unig o
arbedion fyddai heb eu cyflawni o fewn yr amserlen ·
amlygwyd
y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â meysydd gwasanaeth
unigol ·
diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf
(gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol) Gofynnwyd i’r Cabinet hefyd gymeradwyo trosglwyddo
£1miliwn o’r gyllideb Gorfforaethol ac Amrywiol i Gronfa Lliniaru’r Gyllideb i
hwyluso cyflawni’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ynghyd ag argymhellion y
Grŵp Buddsoddi Strategol mewn perthynas â phrosiect Ysgolion yr 21ain
Ganrif Ysgol Llanfair. Codwyd y materion canlynol wrth drafod – ·
roedd
yr Arweinydd yn falch o nodi cynnydd yr achos busnes ar gyfer Ysgol Llanfair a
phwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau bod y rhai a oedd ynghlwm yn cael y wybodaeth
ddiweddaraf yn rheolaidd ·
sicrhaodd
y swyddogion bod trafodaethau rheolaidd â’r Corff Llywodraethu ac, yn dilyn
cael cymeradwyaeth y Cabinet ar argymhellion y prosiect, byddai amserlen eglur
yn cael ei llunio a’i rhannu. Roedd y Corff Llywodraethu eisoes wedi bod yn ynghlwm â’r camau cynllunio
cychwynnol ar gyfer adeilad newydd yr ysgol. Cytunwyd y byddai penderfyniad y Cabinet
ynglŷn â phrosiect Ysgol Llanfair yn destun datganiad i'r Wasg. Cytunwyd y
dylid cael gwared â chyfeiriadau at Bentrecelyn o adroddiadau'r dyfodol ar yr
eitem hon a bod argymhellion unigol yr adroddiadau'n cael eu rhifo'n briodol ·
cyfeiriwyd
at safbwyntiau’r Ysgrifennydd Addysg am gefnogi ysgolion bach gwledig a ph’un a
fyddai effaith ar gynigion ad-drefnu ysgolion y Cyngor o ganlyniad i’w chyhoeddiad
diweddar ·
dywedodd
y Cynghorydd Eryl Williams y byddai mwy o drafod ar y materion hynny ar yr adeg
briodol yn rhan o adolygiadau ardaloedd yn y dyfodol ac wrth ystyried cynigion
Band B yn rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb; (b) cymeradwyo
trosglwyddo £1miliwn o’r gyllideb Gorfforaethol ac Amrywiol i Gronfa Lliniaru’r
Gyllideb er mwyn hwyluso cyflawni’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) sydd
angen cyfraniad ariannol ychwanegol o£1miliwn ar gyfer 2018/19 er mwyn lliniaru
a lleihau effeithiau’r gostyngiadau a ragwelir mewn cyllid dros nifer o
flynyddoedd, ac (c) wedi ystyried
argymhellion y Grŵp Buddsoddi Strategol o ran prosiect Ysgolion yr 21ain
Ganrif Ysgol Llanfair, bod y Cabinet yn - ·
cefnogi cyflwyno Achos Busnes
ar gyfer adeilad ysgol newydd i Ysgol Llanfair (Atodiad 5) gerbron Llywodraeth
Cymru; ·
cymeradwyo’r gyllideb
gyffredinol o £5.369miliwn yn ffurfiol fel y’i manylir yn yr achos busnes ·
cefnogi’r cynnig i brynu tir
yn Llanfair, mewn egwyddor, i hwyluso datblygiad yr ysgol newydd. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 140 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried ac fe nododd yr Aelodau ychwanegu eitem ar 'Eithriad i Gontract Y
Dyfodol – Cynnig Cytundeb Cefnogi Pobl a Phartneriaeth Clwyd Alyn’ ar gyfer mis
Chwefror. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y Wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD, dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972,
gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol ar
y sail fod tebygolrwydd y byddai gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym
mharagraffau 12, 13 ac 14 Rhan 4 o Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 yn
cael ei datgelu. Dogfennau ychwanegol: |
|
ADFEDDU MANTEISION CYFAMODAU CYFYNGOL AR RODFA'R DWYRAIN, Y RHYL I HWYLUSO CYFLAWNI CYMAL LLETYGARWCH ARFAETHEDIG Y DATBLYGIAD GLAN MÔR
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
Cyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn argymell
meddiannu cyfamodau cyfyngol i hwyluso darpariaeth y Cam Lletygarwch
arfaethedig o Ddatblygiad Glan y Môr, Y Rhyl. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD y dylai’r Cyngor
feddiannu ar y cyfamodau cyfyngu sy’n rhedeg â’r tir fel a ddangosir gydag
amlinelliad coch yn Atodiad A sydd ynghlwm wrth yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad cyfrinachol a oedd yn argymell
adfeddu cyfamodau cyfyngol fel y’u nodwyd i hwyluso cyflawni’r Cymal
Lletygarwch arfaethedig o Ddatblygiad Glan Môr y Rhyl. Eglurwyd y
rhesymau y tu ôl i’r argymhelliad yn sgil y cyfamodau amrywiol a oedd yn
rhwystro defnyddio’r tir a’r effaith o ganlyniad i hynny ar y datblygiad. Eglurwyd materion penodol gan y swyddogion yn
atebion i gwestiynau’r aelodau ar hyn, yn enwedig mewn perthynas â’r broses
gyfreithiol a’r canlyniadau posibl, gan gynnwys amserlenni a'r goblygiadau
ariannol. PENDERFYNWYD y dylai’r Cyngor
adfeddu’r cyfamodau cyfyngu sy’n cyd-fynd â’r tir sydd ag amlinell goch yn
Atodiad A yr adroddiad. |
|
TIR YN TIRIONFA, FFORDD GALLT MELYD, RHUDDLAN
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
Cyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn argymell
bod y Cabinet yn cymeradwyo datganiad y fferm a'r tir nad oes ei angen mwyach
a'i waredu wedi hynny. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo – (a) datgan bod y tir
glas ( fel y manylir yn Atodiad 1 ynghlwm wrth yr adroddiad) yn weddill i anghenion
y Cyngor a chael gwared ohono ar y farchnad agored; (b) llunio Cytundeb
Perchnogaeth Tir gyda pherchennog y tir coch
(fel y manylir yn Atodiad 1 ynghlwm wrth yr adroddiad) a rhyddhau’r
cyfamod ar y tir coch sy’n eiddo i drydydd parti yn gyfnewid am hawl tramwy
dros y tir coch a fydd o fudd i’r tir glas a melyn sy’n eiddo i'r Cyngor, a (c) chael gwared ar
y tiroedd coch, gwyrdd a glas (fel y manylir yn Atodiad A ynghlwm wrth yr
adroddiad) ar y cyd gyda’r perchennog cyfagos a bydd y Cyngor yn derbyn 66.05%
o elw net y gwerthiant, yn dilyn tynnu costau cytunedig ar gyfer sicrhau
caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer y tir coch a glas yn unig. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad cyfrinachol a oedd yn argymell y
dylai’r Cabinet gymeradwyo datgan bod y tir a nodwyd yn ychwanegol i anghenion
ac y dylid ei waredu am hynny fel y nodir yn yr adroddiad. Roedd yr
adroddiad yn nodi hanes perchnogaeth a chynllunio’r darnau o dir y cyfeiriwyd
atynt yn yr achos hwn a’r rhesymau dros y cynigion ar gyfer y safle yn dilyn
trafod â pherchennog tir sy’n taro arno ar y ffordd ymlaen. Holodd y Cabinet ynglŷn â threfniadau
mynediad at y darnau o dir a nodwyd, ynghyd â dosbarthiadau'r tir, ac fe nodwyd
cymhlethdodau'r safle. Cyfeiriwyd at
safbwyntiau’r Aelodau Lleol ond derbyniwyd na fyddai cyfyngiad o’r math ar y
tir yn ffafriol i gael po fwyaf bosibl o incwm wrth gael gwared ag o ac y
byddai perchennog trydydd parti’r tir yn gwrthwynebu. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo – (a) datganiad bod y
tir glas (fel y’i nodir yn Atodiad 1 ynghlwm i’r adroddiad) yn ychwanegol i
anghenion y Cyngor a chymeradwyo cael gwared ag o ar y farchnad agored; (b) llunio Cytundeb
Perchnogaeth Tir gyda pherchennog y tir coch (fel y’i nodir yn Atodiad 1
ynghlwm i’r adroddiad) a diddymu’r cyfamod ar y tir coch sy’n eiddo i drydydd
parti yn gyfnewid am hawl tramwy dros y tir coch er budd i’r tir glas a melyn
sy’n eiddo i'r Cyngor, a (c) chael gwared â’r
tir coch, gwyrdd a glas (fel y’i nodir yn Atodiad A ynghlwm i'r adroddiad) ar y
cyd â’r perchennog sy’n taro ar y tir, a bod y Cyngor yn derbyn 66.05% o elw
net y gwerthiant yn dilyn tynnu’r costau y cytunwyd arnynt am gael caniatâd
cynllunio amlinellol ar gyfer y tir coch a glas yn unig. |
|
BOD YNYS FARM, RHEWL, RHUTHUN
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
Cyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn argymell
bod y Cabinet yn cymeradwyo datganiad y fferm a'r tir nad oes ei angen mwyach
a'i waredu wedi hynny. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo datgan Bod Ynys Farm, fel a ddangosir gydag amlinelliad coch ar y cynlluniau
yn Atodiad A sydd ynghlwm wrth yr adroddiad, yn weddill i anghenion ac yn
cymeradwyo cael gwared ar y fferm. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad cyfrinachol yn argymell y dylai’r
Cabinet gymeradwyo datgan y fferm a’r tir a nodwyd yn ychwanegol i anghenion a
chymeradwyo cael gwared ag o, yn unol â hynny.
Ystyriodd y
Cabinet nodweddion y cynnig ac fe nodwyd bod cael gwared â’r tir yn cyd-fynd â
strategaeth ystadau amaethyddol y Cyngor ac y byddai’n creu cyfalaf, er y
byddai ychydig o bwysau ar wasanaethau trwy golli incwm rhenti. Holodd y Cynghorydd Joan Butterfield
gwestiynau cyffredinol ynglŷn â chael gwared ag ystadau amaethyddol ac
fe’i cyfeiriwyd at Grŵp Gwaith Ystadau Amaethyddol. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo datgan Bod Ynys Farm, sydd ag amlinell goch ar y cynlluniau yn
Atodiad A sydd ynghlwm wrth yr adroddiad, yn ychwanegol i anghenion ac yn
cymeradwyo cael gwared â’r fferm. Daeth y cyfarfod i ben am 1.15pm. |