Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Datganodd y Cynghorwyr Meirick Davies, Alice Jones a Huw Jones gysylltiad personol gydag eitem 5 ar y rhaglen. Datganodd y Cynghorwyr Bobby Feeley, Huw Hilditch-Roberts, Martyn Holland, Dewi Owens, Merfyn Parry, Arwel Roberts, David Smith, Julian Thompson-Hill, Cefyn Williams a Huw Williams gysylltiad personol gydag eitemau 5, 6 a 7 ar y rhaglen. Cofnodion: Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol gydag eitem 5 ar y
rhaglen - Y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies - Llywodraethwr Ysgol Cefn Meiriadog ac
Ysgol Trefnant Y Cynghorydd Alice Jones – Llywodraethwr Ysgol y Faenol Y Cynghorydd Huw Jones – Llywodraethwr Ysgol Caer Drewyn ac Ysgol Carrog Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol gydag eitemau 5, 6 a 7 ar
y rhaglen - Y Cynghorydd Bobby Feeley - Llywodraethwr Ysgol Stryd y Rhos Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts - Llywodraethwr Ysgol Pen Barras a
Nithoedd yn Ysgol Rhewl Y Cynghorydd Martyn Holland - Llywodraethwr Ysgol Bro Famau Cynghorydd Dewi Owens – Llywodraethwr Ysgol Glan Clwyd ac Ysgol Fabanod
Llanelwy. Y Cynghorydd Merfyn Parry – Llywodraethwr Ysgol Bryn Clwyd ac Ysgol
Gellifor Y Cynghorydd Arwel Roberts – Llywodraethwr Ysgol y Castell ac Ysgol Dewi
Sant Y Cynghorydd David Smith – Ŵyr yn Ysgol Pen Barras Y Cynghorydd Julian Thompson-Hill - Llywodraethwr Ysgol Clawdd Offa Y Cynghorydd Cefyn Williams – Llywodraethwr Ysgol Bro Dyfrdwy Y Cynghorydd Huw Williams – mab yn Ysgol Pen Barras |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Mawrth, 2015 (copi wedi’i amgáu). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2015 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2015. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2015 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
YSGOL LLANFAIR AC YSGOL PENTRECELYN PDF 160 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi ynghlwm)
yn nodi manylion canfyddiadau ymgynghoriad ffurfiol ynglŷn â dyfodol Ysgol
Llanfair ac Ysgol Pentrecelyn a gofyn am gefnogaeth y Cabinet i gyhoeddi’r
cynigion statudol gofynnol ar gyfer cau’r ddwy ysgol a chreu ysgol ardal
newydd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) nodi canfyddiadau'r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer cau Ysgol Llanfair ac
Ysgol Pentrecelyn ac agor ysgol ardal newydd ar y ddau safle presennol; (b) cymeradwyo
cyhoeddi hysbysiad statudol i Gyngor Sir Ddinbych gau Ysgol Llanfair DC ac
Ysgol Pentrecelyn ar 31 Awst 2016; ac i’r Eglwys yng Nghymru sefydlu Ysgol
Ardal Wirfoddol a Reolir newydd ar y safleoedd presennol o 1 Medi 2016, ac (c) nodi’r opsiwn i rieni wneud cais i anfon eu plant i Ysgol Pen Barras fel
ysgol arall pe baent yn dymuno i’w plant aros o fewn ysgol Categori 1. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad
yn nodi manylion canfyddiadau ymgynghoriad ffurfiol ynglŷn â dyfodol Ysgol
Llanfair ac Ysgol Pentrecelyn a gofyn am gefnogaeth y Cabinet i gyhoeddi’r
cynigion statudol gofynnol ar gyfer cau’r ddwy ysgol a chreu ysgol ardal
newydd. Y cynnig yw y bydd yr ysgol ardal newydd yn Ysgol Wirfoddol dan Reolaeth yr
Eglwys yng Nghymru (dwy ffrwd) Categori Iaith 2. Byddai’r ysgol ardal newydd yn defnyddio safleoedd
presennol hyd nes oedd wedi’i chyfuno ar un safle mewn adeilad newydd. Eglurodd y Cynghorydd Williams gyd-destun y cynnig
fel rhan o'r adolygiad ysgolion ardal Rhuthun ehangach i ddiogelu cynaliadwyedd
darpariaeth addysg yn yr ardal yn y dyfodol. Prif faes y gynnen oedd categoreiddio arfaethedig
yr ysgol newydd. Cefnogodd mwyafrif o ymatebwyr yr ymgynghoriad o Ysgol Llanfair ysgol
Categori 2 tra roedd ymatebwyr o Ysgol Pentrecelyn eisiau Categori 1 (cyfrwng
Cymraeg). Wrth ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, roedd yn bwysig sicrhau
cydbwysedd rhwng anghenion teuluoedd Cymraeg a Saesneg eu hiaith. Roedd perygl y byddai rhieni o gartrefi
teuluoedd di-Gymraeg yn dewis anfon disgyblion i ysgolion cyfrwng Saesneg os
oedd yr ysgol ardal newydd yn Gategori 1. O ganlyniad, ystyriodd y Cynghorydd
Williams mai Categori 2 oedd yr opsiwn gorau ar gyfer cynnal ac o bosibl
cynyddu nifer y disgyblion sy’n cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn
gadael yr ysgol yn rhugl yn y ddwy iaith. Roedd gan y ddwy ysgol ethos a diwylliant Cymraeg
cryf gyda phob disgybl yn gadael yr ysgol yn rhugl yn y ddwy iaith ac roedd yn
hyderus y byddai hyn yn parhau yn yr ysgol ardal newydd. Ystyriodd y Cabinet yr ymatebion i'r ymgynghoriad
a dadleuon ynghylch y cynnig a gofynnwyd am eglurhad am ddiffiniadau
categoreiddio iaith o fewn ysgolion a chanlyniadau disgwyliedig. Codwyd cwestiynau hefyd ynghylch dynodiad
crefyddol, buddsoddi cyfalaf a goblygiadau ariannol; ynghyd â hyfywedd yr ysgol
arfaethedig pe bai rhieni yn boicotio’r ysgol ardal newydd. Fel aelod lleol dywedodd yr Arweinydd am
ei gysylltiadau personol gyda'r ddwy gymuned a llwyddiant y ddwy ysgol. Tynnodd sylw at bwysigrwydd pwyso a mesur
yr holl wybodaeth a gyflwynwyd er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau posibl ar
gyfer darparu addysg yn yr ardal. Cododd gwestiynau hefyd ynglŷn ag ethos yr ysgol newydd a'r rhesymau
dros beidio dilyn opsiynau eraill a awgrymwyd ar gyfer darpariaeth leol. Darparwyd yr ymatebion canlynol i faterion a
godwyd - ·
esboniwyd
cyd-destun y broses gategoreiddio a chyfeiriwyd at ddogfen arweiniad
Llywodraeth Cymru (2007) er mwyn diffinio ysgolion yn ôl darpariaeth cyfrwng
Cymraeg. Cyfeiriwyd hefyd at Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru
(2010) o ran addysg ddwyieithog. Nodwyd bod disgyblion ffrwd Gymraeg mewn ysgolion Categori 2 yn gorfod
cyflawni'r un canlyniadau â disgyblion mewn ysgolion Categori 1. Roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion o Ysgol
Llanfair yn trosglwyddo i'r ffrwd Gymraeg yn yr ysgol uwchradd. Roedd y Cynghorydd Huw Jones yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynyddu nifer
y siaradwyr Cymraeg gyda'r nod o bob disgybl yn gadael yr ysgol yn hyderus yn y
ddwy iaith - roedd yn cefnogi ysgol Categori 2 i hwyluso'r broses hon ·
roedd
yr ymgynghoriad wedi'i gynnal mewn partneriaeth ag Esgobaeth yr Eglwys yng
Nghymru, Llanelwy oedd yn cefnogi'r cynnig ar gyfer ysgol Categori 2 a Reolir
yn Wirfoddol gan yr Eglwys yng Nghymru · o ran cynaliadwyedd ysgol ardal yn y dyfodol dywedodd swyddogion os oedd holl rieni o Ysgol Pentrecelyn (35 o ddisgyblion) yn ceisio darpariaeth Categori 1 yn y dyfodol byddai’r ysgol yn dal yn gynnig ymarferol. Roedd Ysgol Llanfair (94 o ddisgyblion) yn cefnogi ysgol Categori 2 a byddai perygl mawr o ran hyfywedd os byddai’r cynnig yn newid i ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi ynghlwm)
yn nodi manylion canfyddiadau ymgynghoriad ffurfiol ynglŷn â dyfodol Ysgol
Rhewl a gofyn am gefnogaeth y Cabinet i gyhoeddi’r cynigion statudol gofynnol
ar gyfer cau’r ysgol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) nodi
canfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer cau Ysgol Rhewl, a (b) cymeradwyo
cyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Rhewl ar 31 Awst 2017 gyda disgyblion
yn trosglwyddo i Ysgol Pen Barras neu Ysgol Stryd y Rhos i gyd-fynd ag agor yr
adeiladau ysgol newydd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Eryl Williams adroddiad yn manylu ar y canfyddiadau o'r ymgynghoriad
ffurfiol ar gyfer dyfodol Ysgol Rhewl ac yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i
gyhoeddi’r cynnig statudol gofynnol ar gyfer cau’r ysgol gyda disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol
Pen Barras neu Ysgol Stryd y Rhos i gyd-fynd ag agor adeiladau’r ysgol newydd. Rhoddodd y
Cynghorydd Williams gefndir i'r adolygiad o ysgolion cynradd yn y sir ac
esboniodd gyd-destun y cynnig fel rhan o'r adolygiad o ysgolion ardal Rhuthun
ehangach, gan dynnu sylw at yr angen i fynd i'r afael â lleoedd gwag a
buddsoddi mewn adeiladu ysgolion newydd i sicrhau’r addysg orau bosibl ar gyfer
disgyblion yn yr ardal. Ar ôl ystyried yr ymatebion i’r
ymgynghoriad roedd y farn yn parhau y byddai’r cynnig i gau’r ysgol a
throsglwyddo disgyblion yn cynrychioli’r dewis gorau i sicrhau bod disgyblion yn yr ardal yn gallu
parhau i gael mynediad i addysg o safon dda mewn cyfleusterau modern, addas i
bwrpas. Trafododd y
Cabinet yr adroddiad a chanfyddiadau'r ymgynghoriad, yn arbennig o ran effaith
iaith a gofynnwyd am eglurhad yn y cyswllt hwn a cholli darpariaeth ddwyieithog. Codwyd
cwestiynau hefyd ynghylch capasiti mewn ysgolion eraill i symud disgyblion a
phryderon rheoli traffig. Darparwyd yr ymatebion canlynol - ·
cyfeiriodd
swyddogion at ganllawiau Llywodraeth Cymru 'Diffinio ysgolion yn ôl darpariaeth
cyfrwng Cymraeg' (2007) a'r broses categoreiddio iaith a oedd yn canolbwyntio
ar ddarpariaeth a chyrhaeddiad. Roedd ysgol gynradd dwy ffrwd yn cynnig
dau fath o ddarpariaeth gyda'r opsiwn o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg neu
Saesneg. Roedd y canlyniadau ar gyfer y ffrwd Gymraeg fel Categori 1 a’r ffrwd
Saesneg fel Categori 5. Cyfeiriwyd hefyd at Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg
Llywodraeth Cymru (2010) a oedd yn cynnwys diffiniad o ddarpariaeth ddwyieithog
– term a ddefnyddir i gyfeirio at ystod eang o sefydliadau dysgu ac addysgu a
allai gynnwys amrywiaeth o ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Tra
yn hanesyddol roedd rhai disgyblion o Ysgol Rhewl wedi trosglwyddo i’r ffrwd
Gymraeg yn yr ysgol uwchradd nid oedd neb wedi gwneud hynny yn y blynyddoedd
diwethaf. Os byddai’r ysgol yn cau byddai yna ddarpariaeth
amgen o fewn y cyd-destun categoreiddio ·
wrth
gydnabod y cyfoeth o ymatebion yn erbyn y cynnig, roedd yr achos dros gau yn
seiliedig ar yr angen i ad-drefnu ysgolion a mynd i'r afael â lleoedd gwag a
materion cynaliadwyedd. Dim ond 20 o’r 54 o ddisgyblion oedd yn
byw yn Rhewl/Llanynys gyda'r gweddill yn byw y tu allan i'r ardal honno ·
rhoddwyd
sicrwydd y bydd digon o gapasiti yn y system ysgol i adleoli disgyblion – roedd
y cynnig yn cyd-daro ag agor ysgolion newydd yng Nglasdir ac yn dilyn
trafodaethau â rhieni byddai digon o le yn cael ei gynllunio i ddarparu ar
gyfer disgyblion ·
cadarnhawyd
y byddai astudiaeth rheoli traffig yn cael ei gynnal ynghyd ag asesu llwybrau
mwy diogel fel rhan o'r astudiaeth dichonoldeb manwl o safle Glasdir. Siaradodd y
Cynghorydd Merfyn Parry yn erbyn y cynnig a chyfeiriodd at ei e-bost diweddar
i'r Cabinet yn manylu ar ei farn ar yr adroddiad a gyflwynodd ef ar ran
llywodraethwyr Ysgol Rhewl. Tynnodd sylw penodol at y pwyntiau
canlynol – ·
pryderon ynghylch
addasrwydd y llwybr ar gyfer disgyblion o Rewl i Glasdir ·
cyfeiriad
at argymhellion y Pwyllgor Seneddol na ddylai ysgolion newydd gael eu datblygu
ger prif ffyrdd, fel y cynigiwyd yng Nglasdir ·
cyfeiriad
at adroddiad diweddar i’r Pwyllgor Archwilio Cymunedau ar gategoreiddio iaith
ysgolion a statws Ysgol Rhewl · nid oedd statws dwyieithog yr ysgol wedi derbyn sylw priodol – unwaith yr oedd yn hysbys bod asesu yn y Gymraeg yn ddangosydd ar gyfer darparu trwy gyfrwng y Gymraeg roedd 4 ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg (copi
ynghlwm) yn rhoi manylion trafodaethau gydag Awdurdod Esgobaethol yr Eglwys yng
Nghymru ynglŷn â dyfodol Ysgol Llanbedr a gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet
i fwrw ymlaen i ymgynghori’n ffurfiol ar y cynnig i gau Ysgol Wirfoddol a
Reolir Llanbedr ar 31 Awst, 2016 gyda disgyblion presennol yn trosglwyddo i
Ysgol Wirfoddol a Reolir Borthyn, yn dibynnu ar ddewis y rhieni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer y cynigion i gau
Ysgol Wirfoddol a Reolir Llanbedr ar 31 Awst 2016 a throsglwyddo’r disgyblion
presennol i Ysgol Wirfoddol a Reolir Borthyn, yn dibynnu ar ddewis y rhieni. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad yn rhoi manylion trafodaethau gydag
Awdurdod Esgobaethol yr Eglwys yng Nghymru ynglŷn â dyfodol Ysgol Llanbedr
a gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i fwrw ymlaen i ymgynghori’n ffurfiol ar y
cynnig i gau Ysgol Wirfoddol a Reolir Llanbedr ar 31 Awst 2016 gyda disgyblion
presennol yn trosglwyddo i Ysgol Wirfoddol a Reolir Borthyn, yn dibynnu ar
ddewis y rhieni. Ailadroddodd y
Cynghorydd Williams y rhesymeg y tu ôl i'r adolygiad o ysgolion cynradd yn y
sir a chyd-destun Ysgol Llanbedr fel rhan o'r adolygiad ehangach o ardal
Rhuthun. Roedd yr achos dros newid wedi'i gynnwys yn yr
adroddiad yn amlygu amcanestyniadau o ran lleoedd gwag a materion dros
gynaliadwyedd a hyfywedd yr ysgol a safonau addysg a chyrhaeddiad yn y dyfodol. Yn
dilyn penderfyniad i wrthod y cynnig cychwynnol gan Lywodraeth Cymru, roedd
swyddogion wedi ymgynghori gyda'r Eglwys yng Nghymru ynglŷn â dyfodol yr
ysgol. Roedd yr Esgobaeth wedi cyflwyno cynnig amgen a
oedd yn cynnwys atal yr ymgynghoriad arfaethedig i gau ysgol i ganiatáu i
bartner ffederasiwn gael ei sicrhau a newid statws i gwirfoddol a gynorthwyir,
gydag ymrwymiad i adolygu dyfodol yr ysgol ym mis Mai 2018. Roeddent yn credu y
byddai'r cynnig hwn yn mynd i'r afael ag amcanion y Cyngor o leihau costau a
mynd i'r afael â lleoedd gwag. Dywedodd y Cynghorydd Williams y gellid
cyflwyno cynigion mwy manwl yn ystod y cyfnod ymgynghori ffurfiol a byddai
swyddogion yn gweithio gyda’r Esgobaeth yn hynny o beth. Roedd y Cabinet
wedi ystyried yr adroddiad a myfyrio ar eu cyfarfod diweddar gyda’r Esgobaeth
ynghylch eu cynnig. Oherwydd y diffyg manylder ac achos busnes
cadarn, ni ellid gwneud gwerthusiad o hyfywedd y cynnig. Eglurwyd
y byddai unrhyw ddatblygiad o'r cynnig angen cael ei wneud gan yr Esgobaeth,
ond byddai swyddogion yn barod i weithio gyda nhw a darparu unrhyw wybodaeth
berthnasol. Mynegodd y
Cynghorydd Huw Williams ei siom bod y mater o gau yn dal i gael ei ystyried a
gofynnodd i’r ymgynghoriad gael ei ohirio er mwyn caniatáu amser i’r cynnig ar
gyfer ffederasiwn gael ei ddatblygu – teimlodd y gall sgyrsiau yn y dyfodol â
darpar bartneriaid gael ei beryglu os byddai’r ymgynghoriad ar gyfer cau yn
mynd ymlaen. Hefyd atgoffodd y Cabinet bod cyllid i ddatblygu’r
cynigion adolygu ardal Rhuthun wedi'i sicrhau ac nad oedd yn ddibynnol ar gau’r
ysgol. Roedd y Cynghorydd Dewi Owens hefyd yn teimlo'n
gryf y dylid gohirio’r ymgynghoriad ac y dylai’r Cyngor a’r Esgobaeth
gydweithio i ddatblygu cynnig y ffederasiwn. Roedd
y Cynghorydd Martyn Holland yn amlygu manteision ffedereiddio fel dewis real yn
lle cau ac yn cyfeirio at y goblygiadau posibl ar niferoedd y disgyblion sy'n
deillio o ddatblygiadau tai newydd.
Gofynnodd y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts am eglurhad ar nifer y disgyblion a phwysleisiodd yr angen i
feddwl am y plant yr effeithir arnynt.
Darparwyd yr ymatebion fel a
ganlyn – ·
eglurwyd
bod y cynnig i gau ysgol yn destun ymgynghoriad newydd a byddai aelodau’n aros
â meddwl agored ac yn ystyried yr holl ymatebion, gan gynnwys unrhyw gynnig
amgen a gyflwynwyd ·
rhoddwyd
sicrhad y byddai hyfywedd unrhyw gynigion amgen yn cael eu hasesu a’u cyflwyno
i'r Cabinet ynghyd ag ymatebion i'r ymgynghoriad llawn ar gyfer ystyriaeth ·
y
ffigwr amcanestyniad disgyblion oedd 53 erbyn 2020 – roedd capasiti wedi'i
adolygu ar gais y corff llywodraethu a byddai’n cynyddu i 77 o Medi 2016, eto
ar gais y Corff Llywodraethu · cafwyd rhywfaint o drafodaeth ar y mater ffederasiwn a phan gafodd ei godi’n wreiddiol, roedd hyn yn cynnwys pam bod ffedereiddio gydag Ysgol Borthyn wedi’i ddiystyru, methiant yr Esgobaeth i gyflwyno ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
ADRODDIAD CYLLID A DIWEDDARIAD AR Y CYNLLUN CORFFORAETHOL PDF 101 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau
(copi ynghlwm) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a gofyn i’r Cabinet
gymeradwyo newidiadau i’r Cynllun Corfforaethol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) nodi cyllidebau
ac arbedion 2015/16, a (b) cymeradwyo'r
cynigion i gynyddu gwariant ar gynnal a chadw priffyrdd o £800k y flwyddyn a
chadarnhau’r rhagdybiaethau a nodir yn y Cynllun. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad oedd yn manylu
ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf ac yn ceisio cymeradwyaeth i gynyddu
buddsoddiad mewn cynnal a chadw priffyrdd. Arweiniodd yr aelodau drwy'r adroddiad a oedd yn
cynnwys yr elfennau canlynol – ·
crynodeb
o gyllideb refeniw’r Cyngor ar gyfer 2015/16 ·
crynodeb
o'r arbedion y cytunwyd arnynt ar gyfer 2015/16 gan ardal gwasanaeth ·
sefyllfa
ddiweddaraf ar y Cynllun Corfforaethol, newidiadau allweddol a rhagdybiaethau,
a’r ·
angen
am fuddsoddiad ychwanegol o £800mil y flwyddyn ar gyfer priffyrdd i gynnal y
ffyrdd i’r safon bresennol – yn seiliedig ar y tybiaethau diweddaraf o fewn y
Cynllun roedd yn bosibl i ariannu’r adnodd ychwanegol hwn. Roedd y Cabinet yn croesawu'r buddsoddiad
ychwanegol ar gyfer priffyrdd er mwyn cynnal safonau ac osgoi dirywiad yn
ffyrdd y sir. Trafododd yr Aelodau sut y byddai'r arian ychwanegol yn cael ei dargedu i
gynnal gwelliannau. Eglurwyd y byddai’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol yn
cyflwyno ei gynigion drwy Grwpiau Ardal yr Aelodau ac nid oedd gofyniad i
wario’r dyraniad cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Roedd y Prif Weithredwr eisiau arian wedi'i dargedu
i sicrhau bod canlyniad y Cynllun Corfforaethol ar gyfer priffyrdd yn cael ei
gyflawni. Roedd trafodaeth hefyd yn canolbwyntio ar yr angen i roi cyhoeddusrwydd i
ymrwymiad y Cyngor a buddsoddi yn ffyrdd y sir – cytunwyd y dylai’r Aelod
Arweiniol perthnasol a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol gwrdd â’r wasg yn
uniongyrchol i esbonio'r sefyllfa a'r canlyniad cadarnhaol. O ran arbedion roedd y Cabinet hefyd yn
falch o nodi bod 71% o arbedion ar gyfer 2015/16 eisoes wedi'i gyflawni gydag
arbedion sy'n weddill hefyd yn cael eu datblygu. Byddai unrhyw danwariant o’r flwyddyn flaenorol yn
cael ei gynnwys yn yr adroddiad alldro ariannol i'w ystyried yn y cyfarfod
nesaf. Cytunodd y Cabinet i addasu geiriad yr
argymhelliad ar gyfer eglurder. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) nodi cyllidebau
ac arbedion 2015/16, a (b) chymeradwyo'r
cynigion i gynyddu gwariant ar gynnal a chadw priffyrdd o £800mil y flwyddyn a
chadarnhau’r rhagdybiaethau a nodir yn y Cynllun. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 102 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans Raglen Gwaith
i'r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried ac
roedd yr aelodau’n nodi nifer o newidiadau. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau
Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn
debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 Rhan 4 Atodlen
12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
CONTRACT PFI - Y DIWEDDARAF Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) yn rhoi diweddariad i’r Cabinet ar y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf ynglŷn â chontract Cynllun Ariannu Preifat Rhuthun. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
nodi'r sefyllfa ddiweddaraf. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad cyfrinachol a rhoddodd
ddiweddariad i’r Cabinet ar y sefyllfa ddiweddaraf ynghylch terfynu contract
Cynllun Ariannu Preifat Rhuthun. Darparwyd
manylion y contract ynghyd â’r camau a gymerwyd hyd yma a'r camau nesaf yn y
broses. Roedd swyddogion yn ymateb i gwestiynau
ynglŷn â rheoli’r broses a’r darpariaethau terfynu ynghyd â risgiau
ariannol cysylltiedig. O ran amserlen byddai’r contract yn cael ei
derfynu o fewn chwe mis. Cytunwyd i dderbyn adroddiad cynnydd mewn
cyfarfod yn y dyfodol. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
nodi'r sefyllfa ddiweddaraf. Daeth y cyfarfod i ben am 6.05pm. |