Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorwyr Hugh
Irving a David Smith. Cofnodion: Y Cynghorwyr Hugh
Irving, Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Llyfrgelloedd a David Smith, Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus. |
|
Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol
neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y
cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf
Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd
ar 15 Tachwedd 2016 (copi ynghlwm).
Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2016 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2016. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2016 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
CYNLLUN COMISIYNU LLEOL CEFNOGI POBL SIR DDINBYCH 2017-18 PDF 116 KB Rhoi ystyriaeth i adroddiad gan y Cynghorydd Bobby
Feeley, yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant (copi
wedi’i amgáu) yn ceisio cymeradwyaeth i Gynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl
2017-18 a 2017 cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol ac i
Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2017. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo'r Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl Lleol ar gyfer 2017 – 2018 cyn ei
gyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol ym mis Ionawr 2017. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i Gynllun
Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl 2017 -18, cyn y câi ei gyflwyno ger bron y
Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru yn Ionawr 2017. Roedd Cefnogi
Pobl yn ffrwd ariannu gan Lywodraeth Cymru sy'n darparu cefnogaeth yn
gysylltiedig â thai i bobl ddiamddiffyn, er mwyn eu galluogi i fyw mor
annibynnol â phosibl ac roedd yn cyflawni nifer o ofynion Deddf Tai (Cymru)
2014, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Lles
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Roedd y Cynllun yn rhoi diweddariad ar
gomisiynu Cefnogi Pobl ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, gan gynnwys
cynlluniau strategol a blaenoriaethau, ynghyd â chynigion i reoli gostyngiadau
parhaus posibl i'r Grant Cefnogi Pobl (cafodd y cynllun ei fodelu ar y pryd ar
ostyngiad 0% gan mai’r arwyddion diweddaraf oedd bod y grant ar gyfer 2017-18 wedi
cael ei ddiogelu rhag toriad pellach, ond hefyd yn cynnwys cynlluniau wrth gefn
ar gyfer 5%). Roedd y grant wedi’i
neilltuo gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cefnogi Pobl, fodd bynnag, byddai
dyraniad y grant ac unrhyw doriadau yn cael effaith ar wasanaethau eraill. Cyfeiriwyd hefyd at yr ymgynghoriad ar y
Cynllun Comisiynu Lleol ac roedd y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau wedi
gwneud mân newidiadau a oedd wedi'u hadlewyrchu yn yr adroddiad. Roedd y Cabinet
yn cydnabod pwysigrwydd y Cynllun a chodwyd cwestiynau ynglŷn â'i
ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd o ran atal digartrefedd, ynghyd â gwaith wrth
ddatblygu'r Strategaeth Ddigartrefedd.
Hefyd codwyd cwestiynau ynghylch y duedd yn Sir Ddinbych, effaith
diwygiadau lles, ac addysg pobl ifanc. Fe wnaeth yr
Aelod Arweiniol a swyddogion ymateb i gwestiynau a rhoddir y sylwadau canlynol
- ·
ymhelaethwyd
ar yr ystod o wasanaethau fel y disgrifir yn y Cynllun gyda'r nod o atal
digartrefedd, a gafodd ei ddarparu i ystod eang o grwpiau ag anghenion cymhleth,
a chyfeiriwyd hefyd at ddyletswyddau deddfwriaethol a datblygiad pellach o
fesurau ataliol a oedd yn parhau i fod y ffocws presennol ·
roedd
datblygu’r Strategaeth Ddigartrefedd yn fodd allweddol o gryfhau'r dull o atal
ac roedd adolygiad cynhwysfawr o ddigartrefedd yn cael ei wneud - y gobaith
oedd y byddai'r Strategaeth yn ei lle erbyn mis Mawrth 2017, ac yn cynnwys
camau gweithredu allweddol ar ystod o faterion ac yn gwella'r math o adnoddau
sydd ar gael, gan gynnwys symud oddi wrth lety gwely a brecwast a darparu ystod
well o dai ·
roedd
gan y rhan fwyaf o bobl a oedd yn cyflwyno eu hunain yn ddigartref faterion
eraill i ddelio â nhw, fel anawsterau ariannol neu faterion yn ymwneud ag
iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau a throseddu ac roedd yn hanfodol
mabwysiadu ymagwedd aml-asiantaeth i sicrhau bod y lefel briodol o gefnogaeth
yn cael ei rhoi ·
roedd
y dull partneriaeth wedi cael ei gryfhau ac ail-sefydlwyd y Fforwm Digartrefedd
a oedd â rhan allweddol wrth ddatblygu’r Strategaeth Ddigartrefedd, ynghyd â'r
Grŵp Llywio Atal Digartrefedd ·
bu
cynnydd yn nifer y bobl ifanc a oedd angen gwasanaethau yn ddiweddar, ac roedd
mwy o ffocws bellach ar atal pellach fel rhan o Lwybrau Pobl Ifanc, a dull
llawer mwy cydlynol i atal digartrefedd rheolaidd. Ymhelaethodd y Cynghorydd Eryl Williams ar
fesurau a wnaed yn y system addysg i sicrhau bod pobl ifanc yn llai diamddiffyn
i ddigartrefedd, gan gynnwys rheolaeth ariannol ac ymyrraeth gynnar ·
adroddwyd
ar y gwaith da a wnaed yn Sir Ddinbych yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau gyda
phartneriaid, a ariennir gan y grant Cefnogi Pobl, yn cynnwys y Lloches Tŷ
Golau a agorwyd yn ddiweddar yn y Rhyl · trafodwyd effaith newidiadau diwygio lles hefyd, a fyddai'n her fawr ac roedd dull partneriaeth yn cael ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL – CHWARTER 2 – 2016/17 PDF 162 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros
Gyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi wedi’i amgáu) yn rhoi
diweddariad ar ddarparu Cynllun Corfforaethol 2012 – 17 ar ddiwedd chwarter 2
2016/17. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD - (a) bod y Cabinet yn nodi cynnwys yr adroddiad; (b) gwahodd cynrychiolwyr perthnasol y darparwyr band eang cyflym iawn i'r
pwyllgor craffu perthnasol i ateb cwestiynau ac ymateb i bryderon yr aelodau o
ran y broses o gyflwyno band eang cyflym iawn yn Sir Ddinbych, ac (c) anfon llythyr agored at Weinidogion Cymru yn nodi pryderon y Cabinet
ynghylch cynnydd y broses o gyflwyno band eang cyflym iawn yn Sir Ddinbych. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i aelodau
ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012 - 17 fel ag yr oedd ar ddiwedd chwarter
2 o 2016/17. Roedd yr adroddiad yn cynnwys dwy brif elfen - ·
Crynodeb
Gweithredol - cyflawniadau manwl ac eithriadau allweddol gyda pherfformiad da
yn gyffredinol. Dim ond un
canlyniad wedi cael ei asesu fel Coch: Blaenoriaeth ar gyfer Gwella - Canlyniad
7 Mae myfyrwyr yn cyflawni eu potensial, a oedd yn ddangosydd blynyddol fel y
trafodwyd yn flaenorol gan y Cabinet, ac yn destun archwilio gan y Pwyllgor
Archwilio Perfformiad. Roedd pob
canlyniad arall wedi’i werthuso fel bod yn dderbyniol neu’n well ac ·
Adroddiad
chwarterol llawn – wedi darparu asesiad ar sail dystiolaeth o'r sefyllfa
bresennol yn canolbwyntio ar eithriadau allweddol. Roedd eglurhad ar gyfer statws pob dangosydd
wedi’i gynnwys yn yr adroddiad gyda materion allweddol wedi’u hegluro ymhellach
yn y cyfarfod. Roedd y rhan fwyaf o feysydd yn
ddangosyddion blynyddol ac ni fu fawr o symudiad ers y chwarter diwethaf. Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd yr Aelodau’r
materion canlynol - ·
nodwyd
cyd-destun hanesyddol yr adroddiad ar y chwarter blaenorol ac er eglurder,
cytunwyd y dylid pwysleisio hyn yn yr adroddiad i ddarllenwyr, o gofio bod
materion penodol yn yr adroddiad wedi symud ymlaen ers hynny ·
adroddodd
y Cynghorydd Barbara Smith ar y cam symud o system y Cyngor ei hun i lwyfan
e-ddysgu y GIG a oedd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ac roedd yn hyderus y
byddai e-ddysgu ar waith ar gyfer aelodau erbyn Mai 2017 ·
cyfeiriwyd
at yr Asesiad o Effaith Lles a'i ddylanwad ar benderfyniadau ac esboniwyd y
byddai'r broses yn cael ei defnyddio fel canllaw i helpu i lunio cynigion a
llywio penderfyniadau, ond rhoddwyd sicrwydd mai lle'r aelodau oedd gwneud eu
penderfyniadau eu hunain yn dilyn y broses honno ·
Credai'r
Cynghorydd Meirick Davies y dylai Adroddiad Perfformiad y Cynllun Corfforaethol
ar gyfer Chwarter 2 a oedd yn atodiad i’r adroddiad fod wedi'i gyfieithu. Yn unol â pholisi'r Cyngor, cynghorodd y
swyddogion fod dogfennau a anfonir at y cyhoedd yn ddwyieithog, ond o ran y
pwyllgorau, nid oedd atodiadau a oedd yn fwy na phedair ochr o dudalen yn cael
eu cyfieithu. Cytunwyd bod y mater yn
cael ei gyfeirio at Grŵp Llywio'r Iaith Gymraeg ar gyfer ystyriaeth
bellach Wrth ystyried y meysydd hynny a oedd angen
archwilio pellach, trafodwyd y materion canlynol yn fwy manwl - ·
Arolwg
Trigolion – roedd ymateb siomedig i'r arolwg trigolion a diffyg ystyriaeth
uchel i'r Cyngor yn parhau i achosi pryder. Wrth ddarparu rhywfaint o gyd-destun i'r
dangosydd, nodwyd y bu nifer fach iawn o ymatebwyr, ac roedd pobl yn
gyffredinol yn debygol o ymateb os oedd ganddynt farn negyddol. Nodwyd bod yr arolwg trigolion wedi bod yn
destun archwilio’n flaenorol a byddai’r fethodoleg ar gyfer cynnal yr arolwg
trigolion nesaf yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Archwilio Cymunedau ddechrau
flwyddyn nesaf
· Tipio Anghyfreithlon - o ystyried y cynnydd mewn achosion o dipio anghyfreithlon, roedd y Cynghorydd Martyn Holland yn awyddus i droseddwyr gael eu herlyn, ond roedd hefyd yn credu y dylai camau cyfreithiol gael eu cymryd yn erbyn y rhai sy'n defnyddio casglwyr heb drwydded i waredu gwastraff. Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd at Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 yn cynghori y byddai achos o'r fath yn dibynnu ar p'un a yw'r unigolyn wedi achosi neu ganiatáu’r drosedd o dipio anghyfreithlon yn fwriadol, ac wedi cymryd pob rhagofal rhesymol, ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy yn y cyswllt hwnnw. Cytunwyd y dylid ymchwilio i’r potensial i erlyn yr unigolion hynny ymhellach ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad
(copi wedi’i amgáu) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar
strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd yn erbyn y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb; (b) cymeradwyo bod tanwariant blwyddyn gyfredol a blwyddyn flaenorol y
gwasanaeth TGCh yn cael ei drosglwyddo i Gronfa Ddatblygu Rhwydweithiau TG i
ariannu'r prosiectau moderneiddio penodol a ddisgrifir yn Adran 6 o'r adroddiad
a bod y Cabinet hefyd yn derbyn adroddiadau cynnydd rheolaidd ar gyflwyno, (c) cymeradwyo dileu balansau mân ddyledwyr, sy’n dod i £37,599, mewn perthynas
â Clwyd Leisure Ltd sydd eisoes wedi'i ddarparu’n llawn. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
adroddiad yn nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chyllidebau gwasanaeth ar
gyfer 2016/17. Darparodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn - ·
rhagwelwyd
tanwariant net o £0.909 miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
roedd
68% o’r arbedion wedi’u cyflawni hyd yn hyn (targed o 5.2m) gyda 2% pellach yn
gwneud cynnydd da; byddai 25% yn cael eu gohirio ac yn cael eu cyflawni yn
2017/18 gyda dim ond 5% o’r arbedion heb eu cyflawni o fewn y terfyn amser. ·
amlygodd
y risgiau cyfredol a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol ·
diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf
(gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol). Gofynnwyd hefyd i'r Cabinet gymeradwyo trosglwyddo
tanwariant Gwasanaeth TGCh i'r Gronfa Wrth Gefn Datblygu Rhwydweithiau TG, i
ariannu prosiectau moderneiddio penodol, ynghyd â dileu balansau dyledwyr
amrywiol yn ymwneud â Clwyd Leisure Ltd. Cafodd y materion canlynol eu codi yn ystod y
drafodaeth - ·
o ran
prosiect Ysgol Glan Clwyd, roedd y Cynghorydd Eryl Williams yn falch o
gadarnhau y byddai symud i’r bloc newydd yn dechrau’r wythnos nesaf ·
adroddodd y Prif Swyddog
Cyllid ar ofynion Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth
ôl-weithredol am y blynyddoedd blaenorol o waith mawr atgyweirio tai a fyddai'n
profi'n feichus ac yn anodd ei roi, o ystyried na fu unrhyw ofyniad i gofnodi'r
wybodaeth honno ar y pryd. Roedd y swyddogion yn trafod â Llywodraeth
Cymru ac yn hyderus y byddai'r mater yn cael ei ddatrys yn foddhaol. Byddai diweddariad pellach yn cael ei
ddarparu yn yr adroddiad nesaf ·
Amlygodd
y Cynghorydd Bobby Feeley y pwysau ariannol ar y Gwasanaethau Cefnogaeth
Gymunedol a Gwasanaethau Plant, a thra gellid cynnwys y pwysau hynny yn ystod y
flwyddyn ariannol gyfredol, roedd pryder yn y tymor hir ·
trafodwyd
ymhellach y cais i drosglwyddo tanwariant TGCh i'r Gronfa Wrth Gefn Datblygu
Rhwydweithiau TG, gyda'r Arweinydd yn gofyn am sicrwydd ynglŷn â chysondeb
o ran dull ar gyfer gwasanaethau wrth ymdrin â thanwariant, o ystyried y
byddai'r tanwariant yn cael ei gadw am ddwy flynedd, ac roedd pwysau presennol
mewn meysydd eraill. Eglurodd y
Cynghorydd Barbara Smith bod y tanwariant mewn TGCh yn ymwneud â gwireddu
cynharach o arbedion effeithlonrwydd drwy ailstrwythuro, a'r bwriad oedd gosod
y tanwariant mewn cronfa wrth gefn i helpu ariannu'r Strategaeth TGCh
Gorfforaethol dros gynllun dwy flynedd yn 2017/18 a 2018/19, fel y nodwyd yn yr
adroddiad. Os nad oedd y Cabinet yn
awyddus i gadw'r tanwariant i ariannu'r Strategaeth TGCh, byddai angen dod o
hyd i’r cyllid o rywle arall yn y dyfodol.
Hysbyswyd yr aelodau hefyd o'r amseroedd rhagarweiniol mwy yn
gyffredinol ar gyfer gwaith TGCh a bod y Strategaeth TGCh yn cefnogi meysydd
gwasanaeth eraill ·
Gofynnodd
y Cynghorydd Meirick Davies a allai'r rhaglen CYSILL (pecyn meddalwedd sillafu
a gramadeg y Gymraeg) gael ei gyflwyno ar draws y Cyngor ac awgrymwyd y gallai
fod yn fater i'r Grŵp Llywio'r Iaith Gymraeg ei ystyried. Cododd y Cynghorydd Davies bryder ynghylch
ansawdd gwybodaeth dechnegol arbennig a gyfieithwyd ac adroddodd y swyddogion
ar y gwasanaeth rhagorol a dderbyniwyd drwy Wasanaeth Cyfieithu Cyngor
Bwrdeistref Sirol Conwy a groesawodd adborth, er mwyn sicrhau gwelliant
parhaus. Awgrymwyd y dylai’r Cynghorydd
Davies gysylltu â'r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn uniongyrchol i roi
adborth yn hynny o beth. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd
ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb; (b) cymeradwyo bod tanwariant blwyddyn gyfredol a blwyddyn flaenorol y gwasanaeth TGCh yn cael ei drosglwyddo i Gronfa Datblygu Rhwydweithiau TG i ariannu'r prosiectau moderneiddio ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 126 KB Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd
wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau canlynol - ·
Ysgol
Arfaethedig 3-16 Gatholig yn y Rhyl – Ionawr ·
Stadau Amaethyddol: Fferm Bodynys, Rhewl, Rhuthun - Ionawr ·
Diweddariad Asesu Llety Sipsiwn a Theithwyr – Ionawr (i'w
gadarnhau) PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod
i ben am 11.50 a.m. |