Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
DATGANIAD AR YR ADOLYGIAD BARNWROL YNGLŶN AG YSGOL LLANFAIR AC YSGOL PENTRECELYN Gwnaeth y
Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg y datganiad canlynol - “Bydd yr
Aelodau'n ymwybodol bod yr Uchel Lys wedi trosglwyddo dyfarniad ym mis Awst o
ran her yr adolygiad barnwrol a ddygwyd gan Ymgyrch Pentrecelyn, yn erbyn y
penderfyniad i gau Ysgol Llanfair ac Ysgol Pentrecelyn ac agor ysgol Eglwys yng
Nghymru newydd categori 2 ar ddau safle. Penderfynodd y
Llys y dylai'r penderfyniad gael ei ddiddymu ar sail weithdrefnol.
Dywedodd y Llys hefyd
nad oedd yn dweud bod penderfyniad y Cyngor yn anghywir ar y rhinweddau.
Byddai'n agored i'r
Cyngor wneud penderfyniad tebyg yn y dyfodol, os yw'n dymuno, yn dilyn ymarfer
ymgynghori pellach. Byddwn nawr yn
cymryd amser i fyfyrio ar ganfyddiadau'r llys ac ystyried y ffordd orau ymlaen.
Byddwn yn ceisio
ymgysylltu â’r ddau Gorff Llywodraethol. Bydd swyddogion yn gweithio ar hyn ac yn
adrodd yn ôl i'r Cabinet gyda chanlyniadau'r ystyriaeth honno. Hoffwn ei gwneud
yn glir nad yw'r farn hon yn effeithio ar unrhyw benderfyniad arall y mae'r
Cyngor wedi’i wneud mewn perthynas ag unrhyw ysgol arall yn ardal Rhuthun.” |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorydd Huw
Jones, Aelod Arweiniol Datblygu Cymunedol. Cofnodion: Y Cynghorydd Huw
Jones, Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Cymunedol Rhoddodd y
Cadeirydd wybod am adferiad y Cynghorydd Jones, a oedd yn edrych ymlaen at
ddychwelyd, unwaith roedd ei iechyd wedi gwella'n ddigonol. |
|
Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol
neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y
cyfarfod hwn. Penderfyniad: Datganodd y
Cynghorydd Eryl Williams gysylltiad personol ag Eitem 6 ar y Rhaglen: Diweddariad ar Brosiectau a Ariennir Drwy’r Cynlluniau Tref
ac Ardal, oherwydd ei fod yn Gadeirydd Canolfan Cae Cymro. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Eryl Williams gysylltiad personol ag Eitem 6 ar y Rhaglen:
Diweddariad ar Brosiectau a ariennir drwy'r Cynlluniau Tref ac Ardal, gan ei
fod ef yn Gadeirydd Canolfan Cae Cymro. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf
Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd
ar 26 Gorffennaf 2016 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2016 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2016. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2016 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
GWASANAETHAU BWS LLEOL A CHLUDIANT ADDYSG PDF 123 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd David Smith,
Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y camau a
gymerwyd yn dilyn cwymp GHA Coaches Ltd a gofyn am gytundeb ar y strategaeth ar
gyfer gwasanaethau bws lleol yn y dyfodol. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - a) cymeradwyo'r camau a gymerwyd gan
swyddogion i lenwi bylchau yn y gwasanaeth yn dilyn cwymp GHA, h.y. cefnogi'r
meini prawf (a amlygwyd ym mharagraff 4.5 yr adroddiad) a ddefnyddir i
ailsefydlu'r gwasanaethau hyd ddiwedd y flwyddyn ariannol; (b) cytuno y bydd y cyngor yn defnyddio
cronfeydd wrth gefn i gyfrannu at rai o'r costau ychwanegol yn ystod 2016/17
(ar y dybiaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud cyfraniad ariannol ychwanegol
hefyd); (c) cytuno y dylai trafodaethau am y
gyllideb ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol yn y dyfodol ffurfio rhan o'r
gweithdai gyllideb sydd ar ddod; (d) nodi ac yn gwerthfawrogi cynnig
Llywodraeth Cymru i ddarparu arian i gwrdd â chostau ychwanegol y Cyngor wrth
adfer y gwasanaethau bws lleol yn dilyn methiant GHA Coaches. Hefyd, annog y
Gweinidog yn barchus i ystyried darparu cymorth ariannol pellach o ran y costau
ychwanegol a wynebir yn ystod y flwyddyn ariannol hon o ran darpariaeth
statudol gwasanaethau cludiant ysgol sy'n cynrychioli’r gyfran fwyaf o'r baich
ariannol ychwanegol a osodwyd ar y Cyngor oherwydd methiant y cwmni hwn; (e) cytuno bod swyddogion yn cynnal
trafodaethau gyda swyddogion y Llywodraeth mewn perthynas ag elfen cludiant
ysgol y costau ychwanegol hyn, ac yn (f) cytuno bod swyddogion yn mynd at y
Cynllun Datblygu Gwledig i weld a oes arian ar gyfer datblygu gwasanaethau
cludiant cymunedol. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd David Smith yr adroddiad yn nodi'r camau a gymerwyd yn dilyn cwymp
GHA Coaches Ltd ym mis Gorffennaf 2016, a cheisio cytundeb ar y strategaeth ar gyfer
gwasanaethau cludiant teithwyr yn y dyfodol. Eglurodd y
Cynghorydd Smith fod cludiant ysgol statudol wedi cael ei adfer yn syth ar ôl
cwymp GHA Coaches a’r gwasanaethau bws lleol wedi’u hadfer yn raddol, yn
rhannol o leiaf, hyd nes y ceir penderfyniad ynghylch y strategaeth ar gyfer y
dyfodol. Talodd deyrnged i'r Tîm Cludiant Teithwyr am
eu gwaith diflino wrth adfer cludiant i'r ysgol ar fyr rybudd a’r ymdrechion
sylweddol a wnaed wrth sicrhau bod y cymunedau yr effeithir arnynt yn parhau i
elwa o ryw fath o ddarpariaeth gwasanaeth bws lleol. Fodd
bynnag, mae'r costau wedi bod yn sylweddol gyda £175k ychwanegol ar gyfer
cludiant i'r ysgol yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Byddai'r gyllideb ar gyfer gwasanaethau bws lleol
hefyd yn cael ei gorwario ac yng ngoleuni costau yn y dyfodol, cynigiwyd bod
aelodau’n trafod y strategaeth yn y dyfodol ar gyfer y gwasanaethau hynny a
lefel y gyllideb ar gyfer gwasanaethau bws lleol yn y dyfodol, fel rhan o'r
gweithdy cyllideb sydd ar ddod. Fe wnaeth y Cynghorydd Smith hefyd ddiweddaru
aelodau ynghylch y trafodaethau gyda'r Gweinidog dros yr Economi a’r Seilwaith,
yn cynghori y byddai Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer y
costau wrth adfer gwasanaethau bws lleol, ond nid oedd cyfraniad wedi cael ei
gynnig ar gyfer cludiant i'r ysgol a oedd yn cynrychioli’r gyfran fwyaf o'r
baich ariannol ychwanegol i’r Cyngor. Cafodd y materion
canlynol eu trafod yn ystod y drafodaeth
- ·
Cymeradwyodd
y Cabinet y camau a gymerwyd gan y Tîm Cludiant Teithwyr wrth adfer
gwasanaethau bws a thalwyd deyrnged i'w gwaith caled a’u hymdrechion i sicrhau
cyn lleied o drafferthion â phosibl ·
tra
bod y cynnig o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau bws
lleol yn cael ei groesawu, codwyd pryderon ynghylch y pwysau ariannol sylweddol
ychwanegol ar ddarpariaeth cludiant i'r ysgol a gofynnodd y Cabinet bod
swyddogion yn cysylltu â Llywodraeth Cymru i geisio cymorth ariannol pellach yn
hynny o beth ·
ymatebodd
y swyddogion i gwestiynau ac ymhelaethasant ar y ddarpariaeth wahanol mewn
ardaloedd mwy poblog gyda thwf a buddsoddiad mewn gwasanaethau sector preifat,
yn groes i ardaloedd mwy gwledig llai poblog, lle mae twf yn annhebygol ·
trafodwyd
dyfodol y gyllideb cludiant cyhoeddus ynghyd â'r sefyllfa ariannol a goblygiadau
fel y nodwyd yn yr adroddiad, ac roedd rhywfaint o’r drafodaeth yn canolbwyntio
ar opsiynau posibl i'w hystyried fel rhan o'r strategaeth yn y dyfodol, gyda’r
bwriad o sicrhau gwasanaethau cynaliadwy yn y dyfodol. Cydnabu swyddogion bryderon ynghylch
effeithiau posibl mewn ardaloedd gwledig ac fe wnaethant ymateb i gwestiynau am
lwybrau penodol a rheoli gwasanaethau yn y dyfodol, er mwyn sicrhau atebion
cynaliadwy wrth ystyried y strategaeth yn y dyfodol. Cadarnhaodd y swyddogion fod gwahanol fodelau
yn cael eu harchwilio, gan gynnwys datblygu gwasanaethau cludiant
cymunedol. Roedd Cabinet yn cefnogi'r
cynnig gan y Cynghorydd Eryl Williams fod y Cyngor yn cysylltu â'r Cynllun
Datblygu Gwledig ar gyfer arian, er mwyn datblygu darpariaeth yn y gymuned. Cytunodd y Cabinet hefyd fod angen ystyried y
gyllideb yn ei chyfanrwydd, fel rhan o'r broses gyffredinol o osod y gyllideb · codwyd peth pryder bod y gost i deithwyr sy'n defnyddio'r gwasanaethau newydd wedi cynyddu mewn rhai achosion, a dywedodd y swyddogion nad oedd gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros gost tocynnau bws ar gyfer gwasanaethau a weithredir yn fasnachol ac efallai y bydd yn rhaid addasu prisiau i sicrhau hyfywedd dyfodol y gwasanaeth – fodd bynnag, i deithwyr rheolaidd, byddai’n fwy cost-effeithiol prynu ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
DIWEDDARIAD AR BROSIECTAU A ARIENNIR DRWY’R CYNLLUNIAU TREF AC ARDAL PDF 245 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans,
Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros yr Economi (copi'n amgaeedig) yn argymell
ariannu cynlluniau penodol fel y nodwyd yn yr adroddiad. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
yr arian heb ei ymrwymo, sy’n dod i gyfanswm o £100,000, yn cael ei ddefnyddio
i gefnogi'r cynlluniau a nodwyd yn yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad yn argymell cymeradwyo'r cyllid ar gyfer
prosiectau penodol Cynlluniau Tref ac Ardal fel y nodwyd yn yr adroddiad, ac
fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Hyrwyddwyr Tref. Yn
absenoldeb y Cynghorydd Huw Jones, adroddodd yr Arweinydd am ei bresenoldeb
mewn nifer o gyfarfodydd Grŵp Hyrwyddwyr Tref. Tynnodd sylw at y dull a
ddefnyddiwyd gan y Cyngor i fuddsoddi yn ei drefi a chymunedau a'r broses
arfarnu drylwyr a oedd wedi cael ei chymhwyso'n gyson i bob prosiect, yn
seiliedig ar feini prawf clir a mecanwaith sgorio. Roedd manylion arfarnu’r
prosiectau, gan gynnwys asesu prosiectau newydd posibl, a dyraniadau cyllid a argymhellwyd,
wedi eu nodi yn yr adroddiad. Y
disgwyl oedd y byddai'r holl arian arfaethedig a ddyrannwyd yn cael ei wario
erbyn diwedd Mai 2017. Mynegodd
y Cynghorydd Eryl Williams beth siom gyda'r broses ar gyfer cyflwyno’r gyfran
ddiweddaraf o brosiectau i’w hasesu heb gyfraniad y Grwpiau Ardal Aelodau, o
ystyried gwerthoedd trafod cynlluniau posibl yn lleol. Dywedodd yr Arweinydd y dylid
bod trafodaeth rhwng hyrwyddwyr tref ac aelodau lleol ar brosiectau posibl cyn
eu cyflwyno. Nodwyd
bod yr amserlen ar gyfer cyflwyno prosiectau er mwyn defnyddio'r tanwariant
wedi bod yn fyr ar yr achlysur hwn. Roedd y Cynghorydd Meirick
Davies yn siomedig nad oedd y prosiect Trefnant wedi cael cefnogaeth a dywedodd
yr Arweinydd fod yr un mecanwaith ar gyfer gwerthuso wedi cael ei gymhwyso'n
gyson i bob prosiect arfaethedig. PENDERFYNWYD bod
yr arian heb ei ymrwymo a oedd yn gyfanswm o £100,000 yn cael ei ddefnyddio i
gefnogi'r cynlluniau a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
GWELEDIGAETH TWF AR GYFER ECONOMI GOGLEDD CYMRU PDF 170 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans,
Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi (copi’n amgaeedig) yn gofyn am
gymeradwyaeth i “Weledigaeth Twf Economi Gogledd Cymru” fel sail ar gyfer
trafodaethau gyda Llywodraethau’r DU a Chymru dros Gais Cynllun Twf ar gyfer y
rhanbarth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) cymeradwyo “Gweledigaeth Twf ar gyfer
Economi Gogledd Cymru” (gweler yr atodiad) ac yn cefnogi ei ddefnydd fel sail
ar gyfer trafodaethau gan Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru gyda Llywodraethau’r DU
a Chymru dros Gynnig Cynllun Twf ar gyfer y rhanbarth, ac yn (b) nodi y bydd unrhyw Gynnig Cynllun Twf
sy’n codi yn cael ei gyflwyno gerbron y Cyngor am benderfyniad cyn i Gyngor Sir
Ddinbych wneud unrhyw ymrwymiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad yn
gofyn am gymeradwyo 'Gweledigaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru' fel sail
ar gyfer trafodaethau gyda Llywodraethau Cymru a'r DU dros Gynnig Bargen Twf ar
gyfer y rhanbarth. Roedd y ddogfen Gweledigaeth Twf yn ganlyniad dull
cydweithredol ac yn nodi uchelgais clir ar gyfer Gogledd Cymru, yn enwedig mewn
perthynas â datblygu seilwaith, sgiliau a chyflogaeth a thwf busnes. Os yw busnes yn cael ei sicrhau i gyflawni
cynllun gweithredu’r prosiectau, byddai'r rhanbarth yn profi twf economaidd
cynaliadwy a byddai gwerth yr economi yng Ngogledd Cymru’n tyfu o £12.8 biliwn
yn 2015 i £20 biliwn erbyn 2015 ac yn cynhyrchu o leiaf 120,000 o gyfleoedd
cyflogaeth newydd. Credai'r Arweinydd fod Sir Ddinbych mewn sefyllfa dda yn logistaidd i elwa
o fuddsoddiad a byddai'r ddogfen Weledigaeth yn ategu at waith y Cyngor ei hun
wrth ddatblygu'r economi leol. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Economi a Pharth y Cyhoedd drosolwg
o'r ddogfen sy'n nodi gweledigaeth a strategaeth ar gyfer twf ar draws y
rhanbarth, gan gynnwys pecyn o brosiectau, er mwyn sicrhau twf economaidd a
chyflogaeth gynaliadwy ac yn darparu sail ar gyfer trafodaethau buddsoddi â
Llywodraethau Cymru a'r DU. Croesawodd y Cabinet y Weledigaeth Twf fel ffordd
o ddarparu fframwaith strategol a chyd-destun er mwyn llywio buddsoddiad a
darparu twf ar draws y rhanbarth, a nododd y gefnogaeth eang gan sectorau a
sefydliadau eraill. Cafodd y materion canlynol eu trafod yn ystod y
drafodaeth - ·
trafododd yr aelodau’r strategaeth
i fanteisio ar gysylltiad ag economïau'r Northern Powerhouse ac Iwerddon, yn
enwedig yng ngoleuni'r newidiadau o fewn gweinyddiaethau cyfredol, gan nodi bod
ymrwymiad yn parhau i gryfhau a datblygu'r economi ac y byddai'r Weledigaeth yn
sicrhau bod y rhanbarth yn y sefyllfa orau i fanteisio ar fuddsoddiad ·
roedd
datblygu Bargen Twf ar gyfer Gogledd Cymru wedi’i gynnwys yn Rhaglen
Lywodraethu Llywodraeth Cymru a byddai'r Weledigaeth yn ffurfio sail ar gyfer y
trafodaethau hynny - nodwyd bod y Gweinidog dros yr Economi a’r Seilwaith wedi
bod yn gadarnhaol ynghylch y Weledigaeth a byddai â rôl allweddol wrth
ddatblygu economi Gogledd Cymru ·
roedd
y Cynghorydd Eryl Williams wedi bod yn siomedig nad oedd y diwydiant
amaethyddol wedi'i grybwyll yn benodol â'r ddogfen Weledigaeth o ystyried ei
bwysigrwydd yng Ngogledd Cymru, ac fe gyfeiriodd yr Arweinydd at yr anawsterau
wrth godi proffil un diwydiant penodol dros un arall, yn enwedig pan fo
diwydiannau eraill yn creu mwy o swyddi. Nodwyd bod rhai cynhyrchion amaethyddiaeth, megis
y sector bwyd a diod, wedi cael eu nodi ·
amlygwyd
pwysigrwydd seilwaith cludiant ac adroddodd y Cynghorydd David Smith ar waith y
Fforwm Ymgynghorol ar Gludiant, o ran dylanwadu ar gynlluniau cludiant yn y
dyfodol i fanteisio ar dwf economaidd yn y rhanbarth, a’i gefnogi ·
cyfeiriwyd
at y rhaglen sgiliau a sicrhau bod pobl â’r sgiliau angenrheidiol a mynediad at
swyddi wrth iddynt gael eu creu, ac adroddodd y Cynghorydd Eryl Williams ar y
gwaith o fewn ysgolion ynglŷn â gyrfaoedd yn y dyfodol, er mwyn sicrhau
bod pobl ifanc yn cael eu harfogi â’r sgiliau yr oedd cyflogwyr eu hangen drwy
wahanol fentrau, megis y rhaglen Llwybrau+. Byddai bod heb waith yn cael sylw drwy raglenni penodol sy'n canolbwyntio
ar amgylchiadau'r unigolyn. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) cymeradwyo
"Gweledigaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru" (ynghlwm fel
atodiad i'r adroddiad) a chymeradwyo ei defnyddio fel sail ar gyfer
trafodaethau gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru gyda Llywodraethau
Cymru a’r DU dros Gynnig Bargen Twf ar gyfer y rhanbarth, a (b) nodi y bydd unrhyw Gynnig Bargen Twf ffurfiol sy'n codi yn cael ei gyflwyno i'w benderfynu gan y ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad
(copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chyllidebau
gwasanaethau ar gyfer 2016/17. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd
ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb; (b) cymeradwyo'r Cynllun
Ariannol Tymor Canolig drafft (Atodiad 5); (c) cymeradwyo’r camau gweithredu sy’n cael eu hargymell i
liniaru effeithiau alldro ariannol yr arbedion sydd naill ai'n cael eu gohirio
tan 2017/18 neu ddim yn cael eu cyflawni o gwbl fel sy’n cael ei nodi ym
mharagraff 6 yr adroddiad, ac yn (d) cymeradwyo argymhelliad y
Grŵp Buddsoddiad Strategol i fuddsoddi £4.4 miliwn yng ngham cyntaf
prosiect datblygu glan y môr yn y Rhyl. Mae’r argymhelliad yn cynnwys
cymeradwyo pecyn cyllido sy’n cynnwys clustnodi’r cyfalaf y disgwylir ei
dderbyn o werthu cyn safle’r Honey Club yn y Rhyl (fel y nodir yn y tablau ym
mharagraff 6 yr adroddiad). Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chyllidebau gwasanaeth
ar gyfer 2016/17. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn - ·
rhagwelwyd
gorwariant net o £0.351 miliwn ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
roedd
60% o arbedion wedi'u cyflawni hyd yn hyn (targed 5.2m) gyda 10% arall yn
gwneud cynnydd da; byddai 25% yn cael ei ohirio a’i gyflawni yn 2017/18, gyda
dim ond 5% o arbedion ddim yn cael eu cyflawni o fewn yr amserlen ·
tynnwyd
sylw at risgiau cyfredol a rhagdybiaethau sy'n ymwneud â meysydd gwasanaeth
unigol ·
diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf
(gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol). Ymhelaethodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar
faterion ariannol eraill o fewn yr adroddiad a gofynnwyd i'r Cabinet
gymeradwyo'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig drafft; camau gweithredu i liniaru
effeithiau ar alldro ariannol arbedion sydd naill ai'n cael eu gohirio neu heb
eu cyflawni, ac argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol i fuddsoddi £4.4
miliwn yng ngham cyntaf prosiect datblygu glan y môr y Rhyl. Cafodd y materion canlynol eu trafod yn ystod y
drafodaeth - ·
Tynnodd
y Cynghorydd Eryl Williams sylw at yr effaith ar gyllideb y Cyngor yn deillio o
doriadau i gyllid grant gan Lywodraeth Cymru, a oedd y tu allan i reolaeth y
Cyngor - gofynnodd fod manylion y toriadau ariannol hynny yn cael eu cynnwys yn
y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer tryloywder (tudalen 71, Tabl 4
Cyllideb Llywodraeth Cymru). Nododd y Swyddogion fod y driniaeth o grantiau wedi’i chynnwys yn y
cyflwyniad i Gomisiwn Cyllid Llywodraeth Leol fel rhan o'r adolygiad cyllid ·
Roedd
Cabinet yn falch o nodi’r buddsoddiad sylweddol mewn prosiectau mawr, gan
gynnwys Glan y Môr y Rhyl a hefyd fe dynnwyd sylw at lwyddiant y Nova. Roedd y Cynghorydd Eryl Williams yn falch
o adrodd ar y cynnydd gyda phrosiectau mawr o ran y Rhaglen Ysgolion yr 21ain
Ganrif, gan roi gwybod bod Sir Ddinbych ar flaen y gad o ran buddsoddi mewn
moderneiddio ysgolion, a oedd yn wahanol i gynghorau eraill nad oeddent mewn
sefyllfa i fuddsoddi. Rhoddodd glod i'r cyngor blaenorol a'r cyngor cyfredol am y weledigaeth
strategol tymor hir ar gyfer ysgolion, a’i bod wedi’i gwireddu. O ran argaeledd arian yn y dyfodol, roedd
Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi bron i £2 biliwn
mewn ysgolion newydd ac wedi'u hadnewyddu, a fyddai'n rhoi cyfle i barhau â'r
rhaglen foderneiddio ·
Cyfeiriodd
y Cynghorydd David Smith at yr angen i fynd i'r afael â'r gorwariant parhaus ar
y gyllideb Cludiant Ysgol, gyda'r bwriad o ddarparu cyllid ychwanegol i gwrdd â
chost lawn y ddarpariaeth yn y gyllideb sylfaenol - roedd hefyd angen cwrdd â'r
gost ychwanegol o £175k, yn dilyn cwymp GHA Coaches ·
Lleisiodd
y Cynghorydd Jason McLellan ei bryderon ynghylch y broses gosod cyllideb ac
amserlen. Dywedodd y Cynghorydd Thompson-Hill a swyddogion bod proses y gyllideb yn
gadarn gan ymateb i'r pryderon a godwyd yn manylu ar y broses cyllideb hyd yma
a'r camau nesaf arfaethedig er mwyn gosod y gyllideb ar gyfer 2017/18. Nodwyd y
byddai proses y gyllideb yn cael ei thrafod yn fwy manwl yng nghyfarfod nesaf y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd a wnaed o ran
strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni; (b) cymeradwyo'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig drafft (yn amgaeedig fel
Atodiad 5 i'r adroddiad) (c) cymeradwyo’r camau gweithredu sy’n cael eu hargymell i liniaru effeithiau alldro ariannol yr arbedion sydd unai'n cael eu gohirio tan 2017/18, neu ddim yn cael eu ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 174 KB Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd
wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau/diwygiadau canlynol - ·
Adroddiad
Monitro Cynllun Datblygu Lleol Drafft (Hydref) – efallai y caiff ei symud ·
Darpariaeth
Uwchradd yn Seiliedig ar ffydd (Hydref) – symudwyd ·
Cam
Datblygu 1b Glan y Môr y Rhyl elfennau masnachol - Hydref ·
Cynigion Terfynol y Gyllideb 2017/18 - Ionawr Cyfeiriodd y Prif
Weithredwr at gael gwared ar yr adroddiad Darpariaeth Uwchradd yn Seiliedig ar
Ffydd a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer mis Hydref, a dywedodd y gallai'r eitem
gael ei hadfer os bydd angen, unwaith y bydd y sefyllfa’n gliriach. Adroddodd am yr anawsterau wrth fwrw ymlaen
â'r cynnig i gau Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ac agor ysgol
ffydd newydd, a dywedodd fod trafodaethau ar y gweill ar hyn o bryd er mwyn dod
o hyd i ffordd ymlaen y gall pawb dan sylw gytuno arni. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
o dan Adran 100A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, bod y Wasg a'r Cyhoedd i'w gwahardd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes canlynol ar sail y tebygolrwydd y byddai gwybodaeth
eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14, 16 ac 17 o Ran 4 Atodlen 12A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn debygol o gael ei datgelu. |
|
CYTUNDEB CYMAL LLETYGARWCH DATBLYGIAD GLANNAU’R RHYL Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans,
Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros yr Economi (copi’n amgaeedig) yn rhoi
diweddariad i’r Cabinet am gynnydd prosiect Datblygu Glannau’r Rhyl a gofyn am
gymeradwyaeth i gwblhau’r Cytundeb Cymal Lletygarwch. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo’r Cytundeb Cyfnod Lletygarwch gyda Neptune Developments a bod y
cytundeb yn cynnwys amod na fydd Cam 1b yn cael ei ddatblygu tan fydd y telerau
ariannu manwl wedi eu cymeradwyo gan y Cyngor, gyda chymeradwyaeth o'r fath ar
ddisgresiwn llwyr y Cyngor. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad cyfrinachol yn diweddaru'r Cabinet
ar y cynnydd gyda phrosiect Glan y Môr y Rhyl, a gofyn am gymeradwyaeth i
gwblhau'r Cytundeb Cymal Lletygarwch.
Roedd manylion pellach am y cytundeb cyfreithiol wedi eu dosbarthu yn y
cyfarfod. Roedd Neptune
Development Limited wedi’i benodi fel y partner datblygu a ffafrir ar gyfer
Glan y Môr y Rhyl, ac fe wnaeth y Cyngor a Neptune gwblhau cytundeb cyfyngu yn
Chwefror 2015 i symud ymlaen ymhellach â thrafodaethau. Roedd y Cytundeb Datblygu Meistr wedi’i
gwblhau ym mis Gorffennaf 2016 ac roedd y rhan gyntaf o’r cytundeb datblygu yn
barod i gael ei llofnodi. Cyfeiriwyd at
statws y gwahanol gymalau o fewn y parthau lletygarwch gyda chyllid ar gyfer
Cymal 1a (Theatr y Pafiliwn a'r Maes Parcio) a Chymal 1c (Dymchwel ac adfer yr
hen Heulfan) wedi'i sicrhau. Roedd
opsiynau ariannu yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd ar gyfer Cymal 1b
(Rhodfa’r Dwyrain, Hamdden, Bwyd a Diod Masnachol) a byddai model ariannu yn
cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Cabinet i'w ystyried. Croesawodd y
Cabinet yr ail-ddatblygu a’r buddsoddiad yng Nglan y Môr y Rhyl, gan ddangos
ymrwymiad y Cyngor i'r cynllun.
Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a'r swyddogion i gwestiynau ynghylch y
materion cyfreithiol ac elfennau cytundebol o fewn y cynllun, ac adroddwyd
ynghylch fforddiadwyedd a’r elfennau risg, ynghyd â chynlluniau i wella ac
adnewyddu'r Maes Parcio Dan Ddaear. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo bod y Cytundeb Cymal Lletygarwch yn cael ei wneud gyda Neptune
Development, â'r Cytundeb hwn yn cynnwys amod y bydd Cymal 1b ond yn symud
ymlaen pan fydd telerau ariannu manwl yn cael eu cymeradwyo gan y Cyngor, gyda
chymeradwyaeth o'r fath ar ddisgresiwn llwyr y Cyngor. |
|
CYN YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH - GORCHYMYN PRYNU GORFODOL Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd
David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus (copi’n amgaeedig) am gynnydd y
Gorchymyn Prynu Gorfodol ar y safle. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cefnogi gwneud y Datganiad Breinio Cyffredinol a chyflwyno cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar gyfer cymeradwyaeth
derfynol pan fydd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd, y Prif
Swyddog Cyllid a'r Aelod Arweiniol yn fodlon bod mesurau lliniaru rhesymol yn eu
lle mewn perthynas â’r risg ariannol fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd David Smith yr adroddiad cyfrinachol yn manylu ar y camau
angenrheidiol i gymryd perchnogaeth o'r safle a chwblhau'r broses Gorchymyn
Prynu Gorfodol. Roedd y Cabinet
yn gwybod am y dewisiadau i'w hystyried er mwyn symud ymlaen i’r Gorchymyn
Prynu Gorfodol, a oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad, ynghyd â'r opsiwn a
argymhellwyd a’r rhesymau felly. Nodwyd
y ceisiwyd am gefnogaeth y Cabinet ar gyfer yr opsiwn a ffafrir cyn ei gyflwyno
i'r Pwyllgor Cynllunio am benderfyniad ym mis Tachwedd / Rhagfyr. Trafododd yr
Aelodau’r gwahanol opsiynau gyda swyddogion a chodwyd cwestiynau ynglŷn â
chadernid y mesurau lliniaru arfaethedig er mwyn lleihau'r risg i'r Cyngor sy’n
deillio o'r broses. Fe fanylodd y Swyddogion
ar y senarios posibl a allai godi o'r gwahanol ddewisiadau ac ymhelaethwyd ar y
broses ar gyfer pennu iawndal sy'n daladwy, os byddai’r Cyngor yn cymryd
perchnogaeth o'r safle. O ran dyfodol y
safle, os byddai’r Cyngor yn cymryd perchnogaeth, rhoddwyd sicrwydd bod cynllun
cyflawni wedi’i gostio'n llawn yn ei le. Cytunodd y
Cabinet ei bod yn bwysig gweithredu a chynnal momentwm ac mai'r opsiwn a
argymhellwyd oedd y ffordd orau ymlaen yn yr achos hwn. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cefnogi gwneud y Datganiad Breinio Cyffredinol a symud ymlaen i'r Pwyllgor
Cynllunio ar gyfer cymeradwyaeth derfynol, pan fydd y Pennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Democrataidd, y Prif Swyddog Cyllid a'r Aelod Arweiniol yn fodlon bod mesurau
lliniaru rhesymol parthed risg ariannol wedi cael eu sicrhau fel y nodir yn
Atodiad 1 i'r adroddiad. Daeth y cyfarfod
i ben am 1.00 p.m. |