Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
CYHOEDDIADAU Yr Arweinydd - (i)
Rhoddodd
wybod i’r Aelodau am adferiad y Cynghorydd Huw Jones a oedd wedi ei daro'n wael
yn ddiweddar a chadarnhaodd y trefniadau dros dro i drosglwyddo ei
gyfrifoldebau i Aelodau Cabinet eraill er mwyn sicrhau y bydd pob maes yn ei
bortffolio yn cael sylw yn ei absenoldeb, ynghyd â, cyn belled ag y bo modd, ei
gyfrifoldebau cymunedol. (ii)
Llongyfarchodd tîm pêl-droed
Cymru ar eu llwyddiant yn Ewro 2016 a diolchodd i'r swyddogion a oedd yn
gyfrifol am drefnu’r ardal gefnogwyr yn Arena Ddigwyddiadau’r Rhyl ar gyfer gêm
gynderfynol Ewro 2016 a hynny ar fyr rybudd. Roedd yr ardal yn hynod boblogaidd
a phawb wrth eu bodd. |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorydd Huw
Jones, Aelod Arweiniol ar gyfer Datblygu Cymunedol Cofnodion: Y Cynghorydd Huw
Jones, Aelod Arweiniol Datblygu Cymunedol. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. Cofnodion: Dim. |
|
Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2016 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2016. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2016 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2016. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2016 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol dros Ofal
Cymdeithasol, Oedolion a Gwasanaethau Plant (copi'n amgaeedig) yn nodi'r
gofynion i sefydlu Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ym mhob rhanbarth bwrdd
iechyd yng Nghymru, a'r camau sy'n cael eu cymryd i sefydlu’r Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol hwn. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet - (a) yn cymeradwyo cynigion y Bwrdd Cysgodol Partneriaeth Rhanbarthol i
sefydlu'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn amodol ar ddeialog dwy ffordd
barhaus rhwng y Bwrdd a phartneriaid ar y rhaglen waith a threfniadau
gweithredu ar gyfer y Bwrdd; (b) yn enwebu ei Gyfarwyddwr statudol ac aelod arweiniol ar gyfer Gwasanaethau
Cymdeithasol i eistedd ar y Bwrdd, ac (c) yn cefnogi'r opsiwn strwythurol lle - (i)
mae Grŵp Arweinyddiaeth o
Swyddogion yn cefnogi'r Bwrdd drwy ddarparu cyngor strategol a chyfarwyddo
gwaith gweithredol. (ii) mae'r Bwrdd yn gweithio mewn partneriaeth â threfniadau ardal i gyflwyno
gwasanaethau integredig a chyllidebau cyfunol (lle bo'n briodol). Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol, Oedolion a
Gwasanaethau Plant adroddiad yn nodi'r gofynion i sefydlu Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol ym mhob rhanbarth bwrdd iechyd yng Nghymru, a’r camau sy’n cael eu
cymryd i sefydlu’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yma yng Ngogledd Cymru. Diben Rhan 9 yw
gwella canlyniadau a lles pobl yn ogystal â gwella effeithlonrwydd ac
effeithiolrwydd o ddarparu gwasanaethau. Bydd y Byrddau Partneriaeth
Rhanbarthol statudol yn hyrwyddo gweithio integredig ac yn edrych ar amrywiaeth
o ffrydiau ariannu rhanbarthol yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Yn dilyn cytundeb partneriaid statudol, a
oedd yn cynnwys chwe awdurdod lleol gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr, mae Bwrdd Cysgodol wedi ei sefydlu i hwyluso'r broses o
sefydlu'r bwrdd ffurfiol ym mis Medi. Mae’r Cynghorydd Feeley yn
credu bod y Ddeddf wedi bod yn gatalydd angenrheidiol ar gyfer newid mewn
ymateb i ddemograffeg gynyddol a phobl yn byw'n hirach, ac i wella bywydau. Ymatebodd yr
Aelod Arweiniol a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol i gwestiynau fel a ganlyn - ·
Nid yw
adnoddau’r bartneriaeth (arian parod, pobl, asedau, cyfleusterau, ac ati) yn
gwbl glir ar hyn o bryd ond bydd yn fater i’r Bwrdd ei ystyried; mae’r Bwrdd
Cysgodol wedi cyfethol cynrychiolydd Adran 151 o'r rhanbarth, gyda Swyddog
Adran 151 y Cyngor yn cymryd yr awenau, sy’n rhoi sicrwydd ynghylch yr agweddau
ariannol. ·
Bydd yr elfennau cydweithio a phartneriaeth yn
helpu i ddatblygu'r gwaith o integreiddio’r gwasanaethau cymdeithasol ac
iechyd, a bydd yr asesiad anghenion rhanbarthol yn helpu i nodi meysydd
blaenoriaeth ar gyfer darparu gwasanaethau lleol integredig a fyddai’n cynnwys
prosiectau rhanbarthol ac isranbarthol. ·
Bydd
y Bwrdd yn gyfrifol am sicrhau bod arian ffrydiau cyllido Llywodraeth Cymru yn
cael ei ddosbarthu’n deg ac yn briodol er budd y rhanbarth. ·
Bydd
mudiadau trydydd sector hefyd yn cael eu cynrychioli ac yn dod yn bartneriaid
statudol pan fydd y Bwrdd ffurfiol wedi ei sefydlu. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) yn cymeradwyo cynigion Bwrdd Cysgodol y
Bartneriaeth Rhanbarthol i sefydlu'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn amodol
ar ddeialog dwy ffordd barhaus rhwng y Bwrdd a phartneriaid ar y rhaglen waith
a threfniadau gweithredu ar gyfer y Bwrdd; (b) yn enwebu ei gyfarwyddwr statudol a’i
aelod arweiniol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol i eistedd ar y Bwrdd, ac (c) yn cefnogi'r opsiwn strwythurol lle - (i)
mae Grŵp Arweinyddiaeth o
Swyddogion yn cefnogi'r Bwrdd drwy ddarparu cyngor strategol a chyfarwyddo
gwaith gweithredol. (ii) mae'r Bwrdd yn gweithio mewn partneriaeth â threfniadau ardal i gyflwyno
gwasanaethau integredig a chyllidebau cyfunol (lle bo'n briodol). |
|
POLISÏAU CYFLOGAETH A TGCH PDF 167 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a
Thai (copi’n amgaeedig) yn cyflwyno nifer o bolisïau cyflogaeth ar gyfer
mabwysiadu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn mabwysiadu'r polisïau cyflogaeth fel y manylwyd yn yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Barbara Smith yr adroddiad yn argymell mabwysiadu’r pedwar polisi
cyflogaeth sydd wedi eu datblygu/hadolygu. Mae’r adroddiad yn manylu ar y ddau bolisi newydd ac yn amlygu’r
newidiadau arfaethedig o fewn y polisïau presennol a'r rhesymau am hynny.
Ymgynghorwyd â’r
Undebau ac maent yn hapus efo’r polisïau. Y
polisïau dan sylw yw - (1) Polisi
Diogelwch Gwybodaeth TGCh (Polisi Diwygiedig) (2) Polisi
Lles a Chymorth (Polisi Newydd) (3) Gweithdrefn
Dychwelyd i’r Gwaith yn Raddol (Gweithdrefn Newydd) (4) Polisi
Teithio (Polisi Diwygiedig) Dywedwyd bod y Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol unwaith eto wedi methu ffurfio
cworwm o ochr y gweithwyr. Cadarnhawyd bod yr undebau
wedi ymgynghori ar y polisïau y tu allan i'r cyfarfod a bod hynny wedi arwain
at newid geiriad y Polisi Lles a Chymorth o ran amseroedd triniaethau wrth
dderbyn cymorth cwnsela a gwasanaethau ffisiotherapi/osteopathi. Mae'r holl
ddiwygiadau terfynol wedi eu cytuno arnynt gan yr Undebau cyn cyflwyno'r
dogfennau polisi i'r Cabinet. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn mabwysiadu'r polisïau cyflogaeth fel y manylwyd yn yr adroddiad. |
|
STRATEGAETH AR GYFER ATAL A CHANFOD TWYLL, LLYGREDIGAETH A LLWGRWOBRWYAETH PDF 84 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a
Thai (copi'n amgaeedig) yn cyflwyno'r strategaeth ddiwygiedig ar gyfer atal a
chanfod twyll, llygredigaeth a llwgrwobrwyaeth, i'w gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo’r Strategaeth ddrafft ar gyfer Atal a Chanfod Twyll,
Llygredigaeth a Llwgrwobrwyaeth fel sydd ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod
Arweiniol Moderneiddio a Thai y strategaeth ddiwygiedig ar gyfer atal a chanfod
twyll, llygredigaeth a llwgrwobrwyaeth, i'w chymeradwyo. Mabwysiadwyd y
strategaeth flaenorol yn 2006 ac mae'r drafft diweddaraf wedi ei diweddaru i
ystyried y datblygiadau deddfwriaethol, technolegol a phroffesiynol newydd ac i
gynnwys neges glir na fyddai'r Cyngor yn goddef amhriodoldeb. Yn ystod y drafodaeth gofynnwyd cwestiynau
ynghylch y camau i ddelio ag ystod o weithgareddau twyllodrus ynghyd ag unrhyw
ddiwygiad o ran arfer gorau. Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Adnoddau Dynol a Democrataidd fel a ganlyn - ·
Eglurwyd
y byddai'r Cyngor yn parhau i fabwysiadu dull rhagweithiol o atal
gweithgareddau twyllodrus gyda’r strategaeth ddiwygiedig yn nodi sefyllfa'r
Cyngor yn glir yn y cyswllt hwnnw a’r rheolaethau ar waith. ·
Dywedodd
fod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gyfrifol am ddelio ag erlyniadau yn ymwneud
â thwyll budd-daliadau ond, er gwybodaeth, bod yr adran tai/treth y cyngor wedi
derbyn copi o’r strategaeth. ·
Ers
mabwysiadu'r polisi yn 2006 mae Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a
Chyfrifyddiaeth wedi cyhoeddi canllawiau newydd gyda mwy o bwyslais ar adnabod
risg. Mae’r Gofrestr Risgiau Gorfforaethol bellach yn
cyfeirio at hyrwyddo gwyliadwriaeth a lleihau risg ac mae gwaith hefyd wedi ei
wneud i greu diwylliant gwrth-dwyll effeithiol gydag ystod o strategaethau
eraill yn eu lle i hyrwyddo gwyliadwriaeth ynghyd â chamau i'w cymryd pan
ganfyddir gweithgareddau twyllodrus. ·
Mae
gan y Cyngor amrywiaeth o fesurau i ddiogelu yn erbyn twyll ar y rhyngrwyd gan
gynnwys systemau TG a chaffael electronig diogel a gwiriadau adnabod. Pob blwyddyn, fel rhan o Rwydwaith y Sector
Cyhoeddus, mae’n rhaid i’r Cyngor gyrraedd safonau llywodraeth llym o ran
diogelwch. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo’r Strategaeth ddrafft ar gyfer Atal a Chanfod Twyll,
Llygredigaeth a Llwgrwobrwyaeth fel sydd ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLI TRYSORLYS 2015/16 PDF 79 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi'n amgaeedig) yn diweddaru'r aelodau ar berfformiad y swyddogaeth
rheoli trysorlys ac yn dangos cydymffurfiad â chyfyngiadau'r trysorlys a’r
Dangosyddion Darbodus yn ystod 2015/16. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi’r
Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2015/16. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
adroddiad yn diweddaru'r Cabinet ar berfformiad y swyddogaeth rheoli trysorlys
gan ddangos cydymffurfiad â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus
yn ystod 2015/16. Wrth grynhoi'r adroddiad, cyfeiriodd y Cynghorydd
Thompson-Hill at y cefndir economaidd a'i effaith ar weithgareddau rheoli'r
trysorlys. Tynnodd sylw at y prif bwyntiau o ran benthyca a gweithgarwch
buddsoddi, gan gynnwys tu i adael cytundeb Cynllun Ariannu Preifat Neuadd y Sir
a thalu i adael y Cymhorthdal Refeniw Tai, a fydd yn arwain at
arbedion sylweddol i'r awdurdod. Cadarnhaodd hefyd bod y Cyngor yn cydymffurfio
â’r holl ddangosyddion darbodus, a rhoddodd
wybodaeth am y dangosyddion hynny (gweler Atodiad B yr adroddiad). Atgoffodd y
Prif Swyddog Cyllid bod gweithgarwch benthyca'r Cyngor yn cael ei gymell gan ei
wariant cyfalaf sy'n gysylltiedig â'r cynllun cyfalaf. Yn dilyn y bleidlais i
adael yr Undeb Ewropeaidd bu’r marchnadoedd ariannol yn anwadal am gyfnod.
Nododd y Cabinet bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn
diweddariad rheolaidd ar weithgareddau rheoli'r trysorlys. Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a
ddilynodd - ·
Trafodwyd
y cyhoeddiad diweddar y gall banciau gyflwyno cyfraddau llog negyddol, a
fyddai'n golygu y byddent yn dechrau codi tâl ar dderbyn adneuon gan gwsmeriaid
busnes. Cadarnhawyd y byddai hynny’n effeithio ar yr arian
yng nghyfrif cyfredol y Cyngor ac, os cyflwynir mesur o’r fath, byddai angen
rheoli'r risg yn ofalus i gyfyngu ar amlygiad y Cyngor mewn perthynas â chadw arian mewn cyfrifon cyfredol. Gall
hynny wedyn arwain at addasu'r strategaeth bresennol er mwyn adneuo mwy o arian
parod gyda’r trysorlys yn hytrach na banciau. ·
Mae’r
strategaeth rheoli trysorlys yn seiliedig ar gydbwyso risg gydag elw ar
fuddsoddiad. Yn ystod yr wyth mlynedd ddiwethaf mae’r enillion wedi bod yn isel
iawn o gymharu â’r blynyddoedd cyn hynny ac o ganlyniad mae'r Cyngor
wedi bod yn wyliadwrus. ·
Cyfeiriwyd
at y strategaeth fenthyca bresennol fel modd o bennu symiau benthyca a
chyfnodau ad-dalu - eglurwyd bod y strategaeth yn cael ei rheoli drwy’r
portffolio dyled presennol a’r dyddiadau aeddfedrwydd ynghyd â gofynion cyllido
cyfalaf; mae’r proffil dyled yn cael ei ystyried dros gyfnod o hanner can
mlynedd. ·
Gofynnwyd
am sicrwydd ynghylch statws credyd y banciau ac arddododd y Prif Swyddog Cyllid
ar ddiweddariadau amser real a ddarperir i'r Cyngor gan ei ymgynghorwyr
trysorlys, Arlingclose Ltd, i sicrhau y gweithredir ar unwaith i ddiogelu arian
parod dan yr amgylchiadau hynny ac y caiff y sefyllfa ei monitro'n gyson. Yn ôl
y cyngor diweddaraf nid oes angen cymryd unrhyw gam mewn perthynas â hynny. Roedd y Cabinet hefyd yn pryderu ynghylch yr
ansicrwydd ariannol a wynebai’r llywodraeth leol a'r economi leol a
chenedlaethol ehangach, ac ynghylch effaith y bleidlais i adael yr Undeb
Ewropeaidd. Gofynnwyd am sicrwydd y byddai'r aelodau yn derbyn yr wybodaeth
ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiad yn hyn o beth ac y byddai'r Cyngor mewn
sefyllfa i ddylanwadu ac ymateb yn gyflym er mwyn gwneud y gorau o unrhyw fudd
i'r sir. PENDERFYNWYD nodi’r
Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2015/16. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd a wnaed o
ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r
cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Rhoddodd y
crynodeb canlynol o sefyllfa ariannol y Cyngor- ·
rhagwelwyd
gorwariant net o £0.402 miliwn ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
rydym
ni wedi llwyddo i gyrraedd 42% o’r targed ar gyfer arbedion (£5.2 miliwn), ac yn
gwneud cynnydd da ar ganfod 25% arall o’r arbedion - mae nifer o arbedion yn
cael eu hadolygu ar hyn o bryd a bydd y canlyniadau'n cael eu cynnwys mewn
adroddiadau monitro yn y dyfodol ·
amlygodd
y risgiau cyfredol a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol ·
rhoddwyd
diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r
Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol). Cafodd y materion canlynol eu trafod yn ystod y
drafodaeth - ·
Cyfeiriodd
y Cynghorydd David Smith at yr angen i fynd i’r afael â’r gorwariant parhaus yng nghyllideb Cludiant
Ysgol yn y cylch cyllideb nesaf gyda golwg ar ddarparu cyllid ychwanegol i
gwrdd â chost lawn y ddarpariaeth. ·
Mae’r
Cyngor hefyd yn mynd i gostau ychwanegol yn sgil methiant cwmni GHA Coaches.
Mae’r Cyngor wedi ceisio cyflenwi cynifer o’r gwasanaethau bysiau hynny ag y bo
modd. Soniodd y Cynghorydd Smith am gyfarfod sydd ar y
gweill gyda'r Gweinidog dros yr Economi a Seilwaith i drafod pa gymorth all
Llywodraeth Cymru ei ddarparu yn hynny o beth. Trafodwyd y goblygiadau o ran
cost a dichonoldeb llwybrau bysiau penodol yn y dyfodol, ac awgrymwyd y dylid
codi’r pryderon ynghylch y posibilrwydd o golli gwasanaethau bysiau, yn enwedig
mewn ardaloedd gwledig, gyda'r Gweinidog. Sicrhaodd y swyddogion fod y broses
dendro ar gyfer gwasanaethau yn gadarn, gan gynnwys meini prawf pris ac
ansawdd, ac y byddai’n rhaid i gontractwyr basio profion diwydrwydd dyladwy
trylwyr cyn caiff y contract ei ddyfarnu. Yn anffodus, yn y sefyllfa ariannol
sydd ohoni, gall amgylchiadau cwmnïau newid yn eithaf cyflym. O ran y
ddarpariaeth gludiant yn y dyfodol, efallai y bydd angen model diwygiedig neu
ddull arloesol sy’n cynnwys y gymuned. Argymhellodd yr Arweinydd
y dylid ail-ffurfio’r Fforwm Cludiant Gwledig, neu ffurfio fforwm tebyg i
drafod y pryderon a'r ffordd ymlaen ·
Cyfeiriwyd
at y pwysau mewn perthynas â chontract Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, gyda rhai
aelodau o staff wedi eu symud i feysydd gwasanaeth eraill er mwyn lleihau costau
a gwaith wedi ei gyfyngu i glirio eira a graeanu. Gellir codi’r pryderon ynghylch rôl Asiantaeth
Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru gyda’r Gweinidog newydd yn y cyfarfod
nesaf ym mis Hydref a gweld a yw o'r un farn â’r Gweinidog blaenorol. Dywedodd y Cynghorydd Huw
Williams ei fod yn bryderus ynghylch cyflwr gwael yr A5 ac eglurodd y
Cynghorydd David Smith mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw hyn ac argymhellodd
y dylai gysylltu â'r Gweinidog yn uniongyrchol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Eryl Williams at benderfyniad y Cabinet i sefydlu grŵp tasg a gorffen i adolygu balansau ysgolion a dywedodd fod y gwaith wedi dechrau. Cyfeiriodd hefyd at brosiect
Ysgolion Cynradd Rhuthun, fel y manylir yn Atodiad 4 i'r adroddiad, a
gofynnodd, er tryloywder, i gyfanswm cost y prosiect yn ogystal â’r dichonoldeb
/ elfen dylunio gael ei gynnwys yn yr adroddiadau o hyn allan. ·
Dywedwyd
y byddai pwysau chwyddiant, fel gweithredu'r Cyflog Byw Cenedlaethol a chynnydd
mewn ffioedd cartrefi gofal yn cael eu lleihau drwy gronfeydd wrth gefn y
gwasanaethau yn 2016/17. Fodd bynnag, ateb tymor byr yw hyn a bydd angen mynd
i'r afael â hyn yn y tymor hwy. · Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch prosiectau ailwampio ysgolion eraill sydd angen buddsoddiad cyfalaf, dywedodd y ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 112 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau/ diwygiadau canlynol - ·
Darpariaeth
Ffydd Uwchradd - symud o fis Gorffennaf i fis Medi ·
Diweddariad
ar brosiectau a ariennir drwy’r Cynlluniau Tref ac Ardal – mis Medi ·
Hen Ysbyty Gogledd Cymru (Gorchymyn Prynu Gorfodol) - mis
Mehefin ·
Adroddiad Monitro Blynyddol 2016 y Cynllun Datblygu Lleol
ac Adolygiad o’r Cynllun Datblygu Lleol – mis Hydref PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD,
dan Adran 100A Deddf
Llywodraeth Leol 1972, bod y Wasg a'r Cyhoedd i'w gwahardd o'r cyfarfod ar
gyfer yr eitemau busnes canlynol ar y sail fod tebygrwydd y byddai gwybodaeth
eithriedig fel y'i diffinnir ym mharagraffau 12, 13 ac 14 Rhan 4 o Atodlen 12A
Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
DATBLYGIAD ADDYSGOL GLASDIR (ADEILADAU YSGOL A CHYFLEUSTERAU NEWYDD AR GYFER YSGOL STRYD Y RHOS AC YSGOL PEN BARRAS, RHUTHUN) Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros
Addysg (copi'n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu'r
contract adeiladu ar gyfer datblygiad addysgol Glasdir. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo'r penderfyniad terfynol i lunio contract ffurfiol gyda'r contractwr
a enwyd fel y nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer Cam 3 y contract yn ymwneud â
phrosiect Datblygiad Addysgol Glasdir yn unol â Rheoliadau Ariannol y Cyngor,
yn amodol ar beidio mynd dros y pecyn cyllido cyffredinol a gymeradwywyd gan y
Cyngor llawn. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Eryl Williams adroddiad cyfrinachol yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet i ddyfarnu'r contract adeiladu ar gyfer datblygiad addysgol Glasdir.
Mae’r prosiect yn cynnwys adeiladu ysgol a chyfleusterau newydd ar gyfer Ysgol
Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras. Wrth ystyried yr
adroddiad nododd yr aelodau y broses gaffael ynghyd â’r gofynion ariannu a'r
amserlen a ragwelir ar gyfer cwblhau. Ymatebodd y Cynghorydd Williams i wahanol
faterion a godwyd ynghylch y datblygiad a soniodd am gadernid y broses ar gyfer
cyfrifo nifer y disgyblion presennol a'r nifer yn y dyfodol gyda digon o fodd i
ehangu yn y dyfodol os oes angen. Rhoddwyd sicrwydd ynghylch y dyraniad yn y
gyllideb ar gyfer y prosiect a’r hyblygrwydd o ran arian at raid. Cyfeiriwyd
hefyd at y gobaith ar gyfer safleoedd yr ysgolion presennol, sydd wedi ei
ddogfennu'n dda o ran darparu tai gofal ychwanegol. Dywedodd y Cynghorydd David
Smith fod arno eisiau eglurhad ynghylch y mesurau i’w rhoi ar waith i sicrhau
llwybr diogel i'r ysgol, gan ychwanegu y dylai’r datblygwr gwrdd â’r gost honno. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo'r penderfyniad terfynol i lunio contract ffurfiol gyda'r contractwr
a enwyd fel y nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer Cam 3 y contract yn ymwneud â
phrosiect Datblygiad Addysgol Glasdir yn unol â Rheoliadau Ariannol y Cyngor,
yn amodol ar y pecyn cyllido cyffredinol a gymeradwywyd gan y Cyngor llawn ddim
yn cael ei rhagori. |
|
TYN Y CELYN, LLANBEDR DYFFRYN CLWYD, RHUTHUN Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
dros Gyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn
argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo datganiad y fferm a'r tir fel gweddill i
anghenion a'i waredu wedi hynny. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo - (a) datgan Fferm Tyn y Celyn sy’n dod i gyfanswm o tua 10.32 ha (25.47 acer)
fel y dangosir gydag amlinelliad coch ar Atodiad A i'r adroddiad yn weddill i
anghenion ac yn cymeradwyo cael gwared ar y fferm ar y farchnad agored, ar ôl
rhoi ystyriaeth ddyledus i rannu’r safle a chyngor prisiad proffesiynol
ynghylch y cynnig mwyaf manteisiol ar gyfer y Cyngor; (b) cadw tua 10.42 ha (25.74 acer) o dir moel a ddangosir gydag amlinelliad
coch ar Atodiad A i'r adroddiad er mwyn gosod y tir hwn i newydd-ddyfodiad i
ffermio; (c) y dylai cyfran o'r derbyniadau cyfalaf o tua £50,000 sy’n codi o’r gwaredu
gael ei gadw a'i ddefnyddio er mwyn galluogi darparu adeilad
amaethyddol/sylfaen ar gyfer gweithrediadau fel rhan o osod y tir moel, a (d) datgan y 10.42 ha (25.74 acer) sy'n weddill o dir a ddangosir gydag
amlinelliad coch ar Atodiad A i'r adroddiad yn weddill i anghenion ac yn
cymeradwyo cael gwared ar y tir hwn ar y farchnad agored pe na bai wedi bod yn
bosibl gosod y tir hwn i newydd-ddyfodiad o fewn cyfnod o 12 mis. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad cyfrinachol yn argymell y dylai’r
Cabinet gymeradwyo datgan y fferm a’r tir yn weddill i anghenion a’i waredu
wedi hynny ar y farchnad agored. Ystyriodd y
Cabinet rinweddau'r cynnig gan nodi bod y camau gwaredu yn cydymffurfio â
strategaeth stadau amaethyddol y Cyngor ac y byddai'n cynhyrchu derbyniad
cyfalaf sy'n darparu cyllid ar gyfer prosiectau cyfalaf. Byddai cadw tua 25
acer yn rhoi cyfle i osod y tir i newydd-ddyfodiad i ffermio. Croesawodd yr Aelodau'r cyfle i newydd-ddyfodiaid ac roedd y Cynghorydd
David Smith yn awyddus bod ymgeiswyr gyda chymhwyster amaethyddol yn cael
blaenoriaeth. Roedd arno hefyd yn awyddus i’r colegau lleol gefnogi'r
newydd-ddyfodiad. Soniodd y
Cynghorydd Eryl Williams bod sefydliadau eraill yn darparu cyfleoedd yn Eryri.
Dywedodd swyddogion fod trafodaethau wedi eu cynnal o'r blaen gyda choleg
ynghylch ffyrdd o gynorthwyo newydd-ddyfodiaid a bod ymchwil wedi ei gynnal
mewn perthynas â chyfleoedd eraill a oedd ar gael. Amlygwyd yr angen i gynnal
proses ddethol agored a bod y cynnig yn dal yn cael ei ddatblygu ac y bydd y
Gweithgor Stad Amaethyddol yn cael mewnbwn yn y broses ddethol. Pwysleisiodd y
Cynghorydd Eryl Williams yr angen i sicrhau gwerth am arian gydag isafswm pris
yn cael ei gosod a gofynnodd am ystyriaeth bellach i rannu'r tir yn lotiau i
sicrhau’r incwm mwyaf posibl. Roedd yn pryderu, heb rannu’r tir yn lotiau
cywir, y gallai’r tir gael ei werthu gan y perchennog newydd am bris uwch yn y
tymor byr. Manylodd y swyddogion ar y broses brisio a gwaredu trwyadl a
defnyddio amod gorswm i warchod buddiannau'r Cyngor yn y dyfodol mewn perthynas
ag unrhyw ganiatâd cynllunio. Ymhelaethwyd ymhellach ar y rhesymeg y tu ôl i
rannu’r tir ac, mewn ymateb i’r pryderon a godwyd, cytunwyd i roi ystyriaeth
bellach i rannu’r tir yn lotiau a chytunodd y Cabinet i ddiwygio'r penderfyniad
i adlewyrchu'r camau hynny. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo - (a) datgan Fferm Tyn y Celyn, sy’n dod i
gyfanswm o tua 10.32 ha (25.47 acer) fel y dangosir gydag amlinelliad coch yn
Atodiad A i'r adroddiad, yn weddill i anghenion ac yn cymeradwyo cael gwared ar
y fferm ar y farchnad agored, ar ôl rhoi ystyriaeth ddyledus i lotio’r safle a
chyngor prisiad proffesiynol ynghylch y cynnig mwyaf manteisiol ar gyfer y
Cyngor; (b) cadw tua 10.42 ha (25.74 acer) o dir moel
a ddangosir gydag amlinelliad coch yn Atodiad A i'r adroddiad er mwyn gosod y
tir hwn i newydd-ddyfodiad i ffermio; (c) y dylai cyfran o'r derbyniadau cyfalaf,
sef oddeutu £50,000, sy’n codi o’r gwaredu gael ei gadw a'i ddefnyddio er mwyn
galluogi darparu adeilad amaethyddol/sylfaen ar gyfer gweithrediadau fel rhan o
osod y tir moel, ac yn (d) cymeradwyo datgan y 10.42 ha (25.74 acer)
sy'n weddill o dir a ddangosir gydag amlinelliad coch yn Atodiad A i'r
adroddiad yn weddill i anghenion ac yn cymeradwyo cael gwared ar y tir hwn ar y
farchnad agored pe na fod wedi bod yn bosibl i osod y tir hwn i
newydd-ddyfodiad o fewn cyfnod o 12 mis. |
|
LODGE FARM, DINBYCH
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
dros Gyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn
argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo datganiad y fferm a'r tir fel gweddill i
anghenion a'i waredu wedi hynny. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo datgan Lodge Farm, Dinbych (fel a ddangosir
gydag amlinelliad coch ar Atodiad A sydd ynghlwm wrth yr adroddiad) yn weddill
i anghenion ac yn cymeradwyo cael gwared ar y fferm fel a fanylwyd yn yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad cyfrinachol yn argymell y dylai’r
Cabinet gymeradwyo datgan y fferm a’r tir yn weddill i anghenion a’i waredu
wedi hynny fel y nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
Cabinet rinweddau’r cynnig, sy’n cydymffurfio â strategaeth stadau amaethyddol y Cyngor, a nodi’r
amodau gorswm sydd yn eu lle i warchod budd y Cyngor yn y safle yn y dyfodol.
Dywedwyd hefyd y byddai'r tir sydd wedi ei gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol
ar gyfer tai yn cael ei gadw. PENDERFYNWYD bod y Cabinet
yn cymeradwyo datgan Lodge Farm, Dinbych (fel y dangosir gydag amlinelliad coch
yn Atodiad A sydd ynghlwm wrth yr adroddiad) yn weddill i anghenion ac yn
cymeradwyo cael gwared ar y fferm fel y nodwyd yn yr adroddiad. Daeth y cyfarfod i ben am 12.35 p.m. |