Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
TEYRNGEDAU I GYNGHORWYR Cyfeiriodd yr Arweinydd at y tristwch o golli dau aelod gwerthfawr ac uchel
eu parch yn ddiweddar, sef y Cynghorwyr Peter Owen (Dyserth) a Richard Davies
(Dinbych Isaf). Byddai colled fawr ar ôl
y ddau ohonynt a mynegodd yr Arweinydd gydymdeimlad y Cabinet â’u teuluoedd ar
yr adeg anodd hon. Safodd yr Aelodau a’r
swyddogion mewn tawelwch fel teyrnged iddynt. |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Mohammed Mehmet - Prif Weithredwr Cofnodion: Mohammed Mehmet –
Prif Weithredwr |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Y Cynghorydd Bobby Feeley - Personol - Eitem 6 ar
y Rhaglen - Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Cofnodion: Y Cynghorydd
Bobby Feeley – Personol – Eitem 6 ar yr Agenda – Aelod Bwrdd Annibynnol o Fwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw faterion brys. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
faterion brys wedi cael eu codi. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2016 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 16 Chwefror 2016 fel cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Cabinet a
gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2016. PENDERFYNWYD cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2016 fel rhai cywir ac fe’u
llofnodwyd gan yr Arweinydd. |
|
DIRWYN CYDBWYLLGOR TAITH I BEN PDF 82 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol dros Barth Cyhoeddus
(copi'n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddirwyn Cydbwyllgor
TAITH i ben ac ystyried trefniadau olynol. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) cymeradwyo penderfyniad Cydbwyllgor Taith i derfynu ei swyddogaeth, a
fydd yn dod i rym o 29 Medi, 2015. (b) cefnogi sefydlu Fforwm Ymgynghorol ar Gludiant o
dan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i gynnwys Aelod Arweiniol Tir y
Cyhoedd fel cynrychiolydd Sir Ddinbych. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd David Smith yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddirwyn
Cydbwyllgor Taith i ben ac i ystyried trefniadau olynu. Cafodd
Cydbwyllgor Taith ei sefydlu gan Awdurdodau Gogledd Cymru yn 2007 i hyrwyddo
cydweithredu rhanbarthol ym maes trafnidiaeth.
Yn 2014 tynnodd y Gweinidog y trefniadau cyd-drefnu, cynllunio
rhanbarthol a monitro cyfalaf oddi ar y consortia trafnidiaeth rhanbarthol. Cynrychiolai’r cyfrifoldebau hyn y rhan fwyaf
o waith Taith, felly roedd Bwrdd Taith wedi cytuno y dylid dirwyn y Cydbwyllgor
i ben. O ran y trefniadau i’r dyfodol,
argymhellwyd bod Fforwm Cynghori ar Drafnidiaeth i gael ei sefydlu o dan Fwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, i ddelio ag ymyriadau trafnidiaeth gan
ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad deiliaid portffolio trafnidiaeth. Byddai adroddiad tebyg yn cael ei ystyried
gan bob Cabinet yn yr awdurdodau lleol eraill dan sylw. Cydnabu’r Cabinet
fod Taith wedi gweithio’n arbennig o dda i’r rhanbarth, gan ddarparu ffordd deg
o flaenoriaethu prosiectau seilwaith yn y Gogledd ac roedd rhywfaint o siom fod
rhaid newid. O ran y trefniadau olynu,
roedd yr aelodau’n falch o nodi y byddid yn dal i fanteisio ar ymwneud ac
arbenigedd deiliaid portffolio trafnidiaeth, gan ddarparu mewnbwn gwerthfawr
ynglŷn â materion trafnidiaeth rhanbarthol. Cyfeiriodd yr Arweinydd at y bwlch o ran
seilwaith rhwng y Gogledd a’r De a phwysigrwydd y Fforwm newydd er mwyn
gwireddu gwelliannau a fydd o fudd i’r economi, gan danlinellu’r angen i
fuddsoddi yn yr A55 yn arbennig. PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn cadarnhau penderfyniad Cydbwyllgor
Taith i derfynu’i rôl, yn dod i rym o 29 Medi 2015, a (b) yn cefnogi sefydlu Fforwm Cynghori ar
Drafnidiaeth o dan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, i gynnwys yr Aelod
Arweiniol dros Dir y Cyhoedd fel cynrychiolydd Sir Ddinbych. |
|
PRYDLES ARFAETHEDIG TŶ NANT, PRESTATYN I FWRDD IECHYD PRIFYSGOL BETSI CADWALADR PDF 91 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid, y
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi'n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth
y Cabinet i ganiatáu prydles ar delerau yn adlewyrchu gosod yr eiddo ar y
farchnad agored fel yr argymhellwyd gan
Reolwr Datblygu Masnachol y Cyngor ac asiantau allanol y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD rhoi prydles ar delerau sy’n adlewyrchu
gosod yr eiddo ar y farchnad agored fel yr argymhellwyd gan Reolwr Datblygu
Masnachol y Cyngor ac asiantau allanol y Cyngor. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet
i ganiatáu prydles i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar delerau sy’n
gyson â gosod yr eiddo ar y farchnad agored, yn unol ag argymhelliad Rheolwr
Datblygu Masnachol y Cyngor ac asiantaeth allanol y Cyngor. Symudwyd o
Dŷ Nant yn 2014 er mwyn gallu’i osod/werthu fel rhan o gynllun adfywio
ehangach ond ychydig o ddiddordeb fu yn yr eiddo ers hynny. Roedd y Bwrdd Iechyd wedi nodi angen am eiddo
newydd i redeg ei wasanaeth gofal sylfaenol yn dilyn penderfyniad gan ddau
bractis meddygol i ddod â’u contractau gyda’r Bwrdd i ben. Roedd y Bwrdd Iechyd am brydlesu’r eiddo er
mwyn darparu canolfan gofal sylfaenol integredig a chyflenwi gwasanaethau o un
adeilad canolog yng nghanol y dref. Roedd y
Cynghorydd Hugh Irving o blaid caniatáu prydles i’r Bwrdd Iechyd. Byddai hynny’n ateb anghenion gofal sylfaenol
yr ardal a byddai o fudd i drigolion lleol.
Byddai hefyd yn golygu bod adeiladau eraill yn dod yn wag. O ran y goblygiadau ariannol, dywedwyd wrth y
Cabinet mai’r Bwrdd Iechyd fyddai’n talu am unrhyw ailwampio mewnol ar yr
adeilad. Roedd targed arbedion cyfredol
yr adeilad eisoes wedi’i gymryd fel rhan o arbedion effeithlonrwydd blaenorol a
byddai’n golygu bod y pwysau presennol yn cael eu bodloni. O ystyried geiriad yr adroddiad ynglŷn â
chaniatâd cynllunio tybiedig, eglurwyd bod newid defnydd yn amodol ar y broses
gynllunio ffurfiol ond roedd trafodaethau ar sail gwybodaeth gyda chydweithwyr
cynllunio yn awgrymu ei bod yn annhebygol y byddent yn argymell gwrthod
caniatâd. PENDERFYNWYD caniatáu Prydles ar delerau sy’n gyson â gosod yr
eiddo ar y farchnad agored, fel yr argymhellwyd gan Reolwr Datblygu Masnachol y
Cyngor ac asiantau allanol y Cyngor. |
|
Y RHYL YN SYMUD YMLAEN – ADOLYGU A CHAMAU NESAF PDF 274 KB Ystyried adroddiad
gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros yr Economi
(copi'n amgaeedig) yn amlinellu adolygiad o'r cynnydd gyda Rhaglen Adfywio y
Rhyl yn Symud Ymlaen ac asesiad o le mae angen i'r Rhaglen fynd nesaf. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) nodi'r cynnydd a wnaed â phrosiectau adfywio yn y Rhyl; (b) cymeradwyo'r cynigion ar gyfer y cam nesaf o weithgaredd adfywio yn y Rhyl
a nodir isod ac a ddangosir yn Atodiad 2 yr adroddiad a chytuno y dylid eu
defnyddio i lywio blaenoriaethau ar gyfer unrhyw gyllid adfywio a allai fod ar
gael; a (c) cymeradwyo'r trefniadau rheoli rhaglen a llywodraethu a nodir isod yn yr
adroddiad ac a ddangosir yn Atodiad 3 yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad yn adolygu cynnydd Rhaglen Adfywio Y Rhyl Yn
Symud Ymlaen a chynigion o ran gweithgarwch adfywio i’r dyfodol. Roedd y Rhyl wedi bod yn flaenoriaeth adfywio
am fwy na deng mlynedd. Crynhodd y
Cynghorydd Evans yn adroddiad a oedd yn rhoi rhywfaint o gyd-destun hanesyddol
i ddirywiad trefi glan y môr ac asesiad o weithgarwch adfywio blaenorol yn y
Rhyl. Roedd angen ymdrin â gweithgarwch
adfywio yn y dyfodol drwy gydweithio.
Roedd croeso arbennig i gefnogaeth Llywodraeth Cymru i nifer o
gynlluniau, yn fwyaf diweddar prosiect Glan y Môr, ynghyd â phartneriaethau a
buddsoddiad sector preifat. Y nod oedd
ail-greu’r Rhyl fel lle dymunol i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag ef, ac er
bod hynny’n her enfawr teimlai’r Cynghorydd Evans fod cynllun cydlynol wedi’i
sefydlu erbyn hyn ac y gellid gwneud cynnydd drwy’r strategaethau adfywio a’r
cynigion ar gyfer cam nesaf y gwaith, yn unol â’r manylion yn yr adroddiad. Tynnodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a Thir y Cyhoedd sylw at nifer o
lwyddiannau a chyfeiriodd at y meysydd hynny lle’r oedd angen gwaith pellach a
lle nad oedd y canlyniadau cystal â’r disgwyl.
Dywedodd y dylai’r ffocws fod ar weithgareddau sy’n cynyddu nifer yr
ymwelwyr â’r dref, yn denu trigolion sy’n fwy gweithgar yn economaidd i fyw yn
y Rhyl, yn mynd i’r afael ag argraffiadau negyddol, ac yn meithrin hyder a thwf
busnesau. O ganlyniad roedd tair ffrwd
waith wedi’u hawgrymu, yn cynnwys prosiectau sy’n canolbwyntio ar Dwristiaeth
ac Ymwelwyr, Canol y Dref a Byw a Gweithio yn y Rhyl. Argymhellwyd bod y Cabinet yn cymeradwyo’r
cynigion hynny ynghyd â threfniadau i reoli a llywodraethu’r rhaglenni. Croesawai’r
Cabinet y cynllun i fynd i’r afael ag adfywio yn y Rhyl a’r cynigion i ddenu
pobl yn ôl i’r dref ar draws y tair ffrwd waith. Y gobaith oedd gallu efelychu llwyddiant
gwreiddiol yr Heulfan gyda chyfres o atyniadau gan na fyddai unrhyw welliannau
i’r ddarpariaeth fanwerthu yn ddigon ynddynt eu hunain i ddenu pobl yn ôl i’r
Rhyl. Tynnwyd sylw hefyd at yr angen i
gynhyrchu incwm cynaliadwy ynghyd â buddsoddi parhaus mewn cyfleusterau fel bod
y ddarpariaeth hamdden wastad yn ffres a chyffrous. Cytunai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol na fyddai
darpariaeth fanwerthu yn unig yn cynnal y dref ac ymhelaethodd ar brosiect Glan
y Môr a fyddai’n darparu gweithgareddau, digwyddiadau a chyfleusterau ac yn
cynyddu nifer yr ymwelwyr â’r dref, gan gyfrannu’n gadarnhaol at yr
adfywio. Ymddiheurodd hefyd na
chyfeiriwyd at y cynnydd o ran cyflwyno traeth y Rhyl am wobr glan y môr a
chytunodd i gylchredeg y wybodaeth honno i’r aelodau. Dywedodd y
Cynghorydd Joan Butterfield fod Aelodau’r Rhyl yn llwyr gefnogi’r Rhyl fel
blaenoriaeth adfywio ond mynegodd nifer o bryderon, fel a ganlyn – ·
y
diffyg mewnbwn gan Aelodau’r Rhyl wrth lunio’r cynllun adfywio a’r ffaith nad
ydynt yn rhan o’r byrddau prosiect sy’n goruchwylio cynlluniau penodol ·
y
diffyg buddsoddi ar gynnal cyfleusterau’r Rhyl, megis y Tŵr Awyr a’r
Heulfan, tra buddsoddir mewn cyfleusterau mewn rhannau eraill o’r sir ·
pryderon
ynglŷn â’r oedi ar ran Grŵp Tai Pennaf (sy’n cynnwys Cymdeithas Tai
Clwyd Alyn) rhag gwireddu elfen datblygu tai Prosiect Gwella Tai Gorllewin y
Rhyl ·
tynnodd
sylw at y buddsoddi sylweddol yng Ngorllewin y Rhyl a oedd wedi arwain at ddim
effaith, neu effaith fach iawn, ar ganlyniadau, a diffyg buddsoddi mewn
ardaloedd eraill ·
croesawai’r
buddsoddi yn Ysgol Newydd y Rhyl ond nododd na fu unrhyw gynnydd pellach o ran
yr Ysgol Ffydd newydd. Ymatebodd yr
Aelodau Arweiniol a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol i’r materion a godwyd fel a
ganlyn – · cafodd yr adroddiad ei ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL – CHWARTER 3 – 2015/16 PDF 86 KB Ystyried adroddiad
gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
Aelod Arweiniol dros Gyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi
wedi’i amgáu) yn rhoi diweddariad ar ddarparu Cynllun Corfforaethol 2012 – 17
ar ddiwedd chwarter 3 2015/16. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn
nodi'r cynnydd o ran cyflawni Cynllun Corfforaethol 2012 – 17 ar ddiwedd
chwarter 3 2015/16. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad a roddai’r wybodaeth ddiweddaraf hyd at ddiwedd chwarter 3 o 2015/16
am gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012 – 17. Roedd yr adroddiad perfformiad yn crynhoi’r
sefyllfa o ran pob canlyniad ac yn dadansoddi unrhyw eithriadau allweddol. Cafodd pob canlyniad ei werthuso’n dderbyniol
neu’n well. Esboniwyd beth oedd wrth
wraidd statws pob dangosydd ac ymhelaethwyd ymhellach yn y cyfarfod ar faterion
allweddol ynghyd â’r hyn a gyflawnwyd yn chwarter 3. Roedd y Pwyllgor Archwilio – Perfformiad wedi
ystyried yr adroddiad ac wedi galw materion yn ymwneud â’r dangosyddion addysg
a thai i mewn i graffu ymhellach arnynt.
Roedd Bwrdd Gwella’r Cynllun Corfforaethol wedi cael ei sefydlu i
fonitro sut y cyflawnir y Cynllun dros ddeunaw mis olaf y weinyddiaeth. Wrth ystyried yr adroddiad trafododd yr aelodau’r
canlynol – ·
Dangosydd
JHLAS03i – nodwyd bod y dangosydd hwn yn wyrdd wrth fesur y blynyddoedd o
gyflenwad tir tai a bod hynny’n anghyson â’r sgôr goch yn Adroddiad Blynyddol y
CDLl a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio’i dull cyfrifyddu hi. Roedd y swyddogion yn amau bod y casgliadau
hyn sy’n groes i’w gilydd i’w priodoli i ddefnyddio mesur gwahanol ond
cytunasant i ymchwilio i’r mater ymhellach ac adrodd yn ôl ·
CES111a
– roedd lleihau’r ddibyniaeth ar lety symudol wedi cael ei ddyfarnu’n las
(wedi’i gwblhau) am fod polisi wedi’i sefydlu i fynd i’r afael â’r mater hwnnw;
nodwyd bod nifer y lleoedd ysgol a ddarparwyd drwy ystafelloedd dosbarth
symudol wedi cael ei ddyfarnu’n felyn o ran ysgolion cynradd ac oren i’r rhai
uwchradd ·
roedd
y perfformiad yn erbyn y dangosydd i ddisgyblion sy’n cyrraedd trothwy lefel 2
yn cynnwys Cymraeg/Saesneg a Mathemateg wedi cynyddu o 55% yn 2013-14 i 56% yn
2014-15. Fodd bynnag, golygai’r
gwelliant mewn rhannau eraill o Gymru fod perfformiad Sir Ddinbych wedi gostwng
islaw’r canolrif a châi ei ystyried yn flaenoriaeth wella. Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams fod y
dangosydd yn annheg oherwydd y gwahaniaeth enfawr yn yr arian sy’n cael ei
ddyrannu gan Lywodraeth Cymru i’w wario ar wella ysgolion a chodi safonau ar
draws y rhanbarth ·
THS012:
% y prif ffyrdd (A) a’r ffyrdd eraill (B) ac (C) sydd mewn cyflwr gwael yn
gyffredinol – cydnabuwyd y gallai’r dangosydd gwyrdd fod yn gamarweiniol ond
mewn gwirionedd roedd yn ganlyniad cadarnhaol gyda’r lefel sydd mewn cyflwr
gwael wedi gostwng drwyddi draw. Nid
oedd yn bosibl newid y geiriad i’w wneud yn gliriach gan fod y dangosydd yn
cael ei osod yn genedlaethol. Soniodd y
Cynghorydd David Smith am y ffigurau diweddaraf sydd ar gael a oedd yn dangos
gwelliant yng nghyflwr prif ffyrdd a ffyrdd eraill er 2012. Cydnabuwyd ei bod yn her cynnal ffyrdd y sir
yn barhaus ·
roedd
y dangosydd coch o ran argaeledd band eang yn bryder difrifol a oedd wedi’i alw
i mewn i graffu arno a byddai’r oedi’n cael ei drafod yn uniongyrchol gyda BT ·
Arolwg
Trigolion 2015 – defnyddiwyd yr ymatebion diweddaraf fel sail i ganlyniadau’r
cynllun ac roedd yn siom, os nad yn syndod, nodi bod lefelau boddhad cwsmeriaid
yn dal yn goch ac nad oedd yr adroddiad cadarnhaol at ei gilydd yn cael ei
adlewyrchu yn ymatebion trigolion ·
Trefi
a Chymunedau Bywiog – roedd gweithgareddau’n ymwneud â’r Clwb Mêl a Queen
Street, y Rhyl wedi cael eu dyfarnu’n wyrdd gan fod gwaith y Cyngor yn y
cyswllt hwnnw yn mynd rhagddo yn unol â’r amserlen – gofynnodd y Cabinet am fwy
o eglurder yn adroddiadau’r dyfodol o ran pa elfen perfformiad o’r prosiect
oedd yn cael ei mesur · roedd y gyfradd digwyddiadau tipio anghyfreithlon yn uchel oherwydd y ffordd y caiff digwyddiadau eu cofnodi ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
POLISÏAU CYFLOGAETH PDF 117 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a
Thai (copi’n amgaeedig) yn argymell cymeradwyo'r nifer o bolisïau cyflogaeth. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn mabwysiadu'r polisïau
cyflogaeth fel y manylwyd yn yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith yr adroddiad
yn argymell cymeradwyo wyth polisi cyflogaeth a oedd wedi cael eu
datblygu/diwygio. Manylai’r adroddiad ar
bedwar polisi newydd a thynnai sylw at newidiadau arfaethedig yn y polisïau
presennol a’r rhesymau amdanynt.
Cyfeiriwyd at y broses ymgynghori ac er nad oedd cworwm yn y Cyd
Bwyllgor Ymgynghorol Lleol pan ystyriwyd y polisïau, roedd yr undebau a’r
aelodau’n hapus i argymell eu mabwysiadu. Wrth ystyried y Polisi Cyfle Cyfartal mewn
Cyflogaeth, gofynnodd y Cynghorydd Huw Jones pa effaith a gâi Safonau newydd y
Gymraeg. Cadarnhaodd y swyddogion nad
yw’r Gymraeg yn nodwedd warchodedig yn ôl diffiniad y ddeddfwriaeth
cydraddoldeb a bod yna bolisïau eraill yn ymwneud â iaith, yn cynnwys cynllun y
Cyngor ei hun ar y Gymraeg. Ceisiwyd
sicrwydd hefyd ynglŷn ag arddel y polisïau’n gyson ar draws yr awdurdod a
dywedodd y swyddogion fod y polisïau’n cael eu hyrwyddo’n ddygn mewn gwahanol
gyfarfodydd rheoli a’u bod ar gael ar y fewnrwyd ac yn cael eu hyrwyddo arni. Cafodd y dogfennau eu hailfformatio fel eu
bod yn hawdd eu defnyddio a chynhwyswyd templedau er cysondeb. PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn mabwysiadu’r polisïau cyflogaeth fel y’u nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2015/16 a'r cynnydd yn erbyn y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb; (b) cymeradwyo'r defnydd o danwariant o fewn y PFI a Chyllidebau Cyllido
Cyfalaf o £677,000 i sefydlu cronfa wrth gefn i helpu lliniaru effeithiau
gostyngiadau mewn cyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r
strategaeth y gyllideb ar gyfer 2017/18, ac (c) nodi'r diweddariad ar y Setliad Terfynol a chymeradwyo'r defnydd a
argymhellir o’r £6,000 ychwanegol mewn cyllid Llywodraeth Cymru. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn y
strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni.
Darparodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn – ·
roedd
tanwariant net o £0.585m yn cael ei ddarogan i gyllidebau gwasanaeth a
chorfforaethol ·
roedd
91% o’r arbedion y cytunwyd arnynt wedi’u cyflawni hyd yma (targed £7.3m) ac
roedd yr amcanestyniadau’n dangos y câi mwyafrif yr arbedion sy’n weddill eu
gwireddu erbyn 2016/17 fan hwyraf – eglurwyd y câi’r 9% o arbedion sy’n weddill
yn 2015/16 eu cyflawni mewn termau arian ond na châi’r arbediad gwirioneddol ei
gyflawni efallai tan 2016/17 ·
tynnwyd
sylw at achosion allweddol lle’r oedd y ffigurau’n wahanol i’r gyllideb neu
dargedau arbedion, a hynny mewn perthynas â meysydd gwasanaeth unigol, a ·
chafwyd
diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a’r
Cynllun Cyfalaf (yn cynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol). Gofynnwyd hefyd i’r Cabinet gymeradwyo’r
tanwariant o £677k yn y Cyllidebau PFI a Chyllido Cyfalaf er mwyn sefydlu
cronfa wrth gefn i helpu i liniaru effeithiau gostyngiadau ariannu yn y
dyfodol. Eglurwyd y câi’r elfen hon ei
hystyried yn ystod gweithdai cyllideb yr aelodau. Gan fod y Setliad Terfynol wedi golygu £6k
ychwanegol o gyllid, argymhellwyd ychwanegu’r swm hwn at £480k y Gronfa
Gorfforaethol Wrth Gefn ar gyfer 2016/17 i helpu i wrthbwyso unrhyw oedi cyn
cyflawni arbedion effeithlonrwydd. Yn ystod y
drafodaeth rhoddwyd sicrwydd fod penderfyniadau ynglŷn â lleoliadau uchel
eu cost yn y Gwasanaethau Plant yn cael eu seilio ar angen, nid ar ystyriaethau
ariannol, a bod cronfa ar gyfer lleoliadau arbenigol wedi cael ei chreu i
dalu’r costau hynny. O ran prosiect
Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras, gofynnodd y Cynghorydd Bobby Feeley am
i adroddiadau gael eu haileirio yn y dyfodol i egluro ymhellach y byddai dwy
ysgol ar safle Glasdir. PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn nodi’r cyllidebau a
osodwyd ar gyfer 2015/16 a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllidebol y
cytunwyd arni; (b) yn cymeradwyo defnyddio’r
tanwariant o £677k yn y Cyllidebau PFI ac Ariannu Cyfalaf i sefydlu cronfa wrth
gefn i helpu i liniaru effeithiau gostyngiadau yn yr arian a geir gan
Lywodraeth Cymru yn y dyfodol fel rhan o strategaeth y gyllideb ar gyfer
2017/18, ac (c) yn nodi’r diweddariad ar y
Setliad Terfynol ac yn cymeradwyo’r defnydd a argymhellwyd i’r £6k ychwanegol o
arian gan Lywodraeth Cymru. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 84 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried, a nododd yr aelodau y canlynol – ·
y
câi’r Polisi Codi Tâl am Ofal Cymdeithasol i Oedolion ei ystyried ym mis Ebrill ·
y
dylid dileu’r cyfeiriad at Bolisi Codi Tâl am Ofal Cymdeithasol i Oedolion ym
mis Mai a rhoi Dyfodol Gwasanaethau Darparwyr Oedolion yn ei le, ac ·
y
gallai’r eitem am hen Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych, a oedd wedi’i rhaglennu ar
gyfer mis Mai gael ei gohirio gan ei bod yn amodol ar adroddiad gan y Prisiwr
Dosbarth. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 12.30 p.m. |