Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorydd Hugh
Irving, Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Llyfrgelloedd Cofnodion: Y Cynghorydd Hugh
Irving, Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a Llyfrgelloedd |
|
☻Dylai’r
Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn
unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Y Cynghorydd Meirick Davies - Personol - Eitem 9 ar y Rhaglen – yn rhentu
garej gan y cyngor Y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts - Personol – Eitemau 5 a 6 ar y Rhaglen - Llywodraethwr Ysgol
Pen Barras Cofnodion: Y Cynghorydd
Meirick Davies – Personol – Eitem 9 yr Agenda – modurdy rhent y cyngor Y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts – Personol – Eitemau 5 a 6 yr Agenda – Llywodraethwr Ysgol Pen
Barras |
|
MATERION BRYS ☻Rhybudd o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: ☻Ni
chafwyd unrhyw faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 12 Mehefin 2016 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: ☻PENDERFYNWYD
y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2016 fel cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu
llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2016. Tudalen 9 – Eitem 6: Cyllideb 2016/17 (Cynigion
Terfynol – Cam 6) gofynnodd y Cynghorydd Eryl Williams am ddiweddariad ar
ddyraniadau grant ers y cyfarfod diwethaf a thynnodd sylw at yr angen i’r
cyngor gofnodi’r dyraniadau hynny, gan gynnwys toriadau i gyllid grant, at
ddibenion tryloywder. Cadarnhawyd na wnaeth y Gweinidog unrhyw gyhoeddiadau
pellach o ran dyraniadau grant a oedd yn tueddu i gael eu talu’n raddol dros
gyfnod o fisoedd. O ran awdurdodau gwledig oedd wedi bod yn destun mwy o
doriadau o ganlyniad i setliad drafft y llywodraeth leol, mae cyllid wedi bod
ar gael o gronfeydd Llywodraeth Cymru ers hynny. PENDERFYNWYD
cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2016 fel gwir gofnod
ac fe’u harwyddwyd gan yr Arweinydd. |
|
☻I
ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y
sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd
arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a)
nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2015/16 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arnynt ar gyfer y gyllideb; (b) yn cymeradwyo
dyrannu £4.8m wrth gefn i gefnogi cynlluniau Glasdir ac Ysgol Carreg Emlyn o
fewn y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, i'w ariannu drwy ryddhau cyllidebau
refeniw o fewn y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion; (c) cymeradwyo dileu
dyledion sy'n ddyledus gan The Scala Company Limited Prestatyn cyfanswm o
£140k, a (d) cymeradwyo
dyraniad o £1.5m o'r adolygiad o ddarpariaethau’r fantolen a’r argyfyngau yn y
flwyddyn i’r Cynllun Cyfalaf. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad sy’n rhoi
manylion y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth gytûn
y gyllideb. Darparodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn - ·
rhagwelwyd
tanwariant net o £0.418m ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
cyflawnwyd
91% o arbedion cytûn hyd yma (targed £7.3m) a rhagwelwyd bod mwyafrif yr
arbedion sy’n weddill yn cael eu cyflawni erbyn 2016/17 fan hwyraf ·
amlygwyd
amrywiadau allweddol o dargedau cyllidebau neu arbedion yn ymwneud â meysydd
gwasanaeth unigol, a ·
diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Cynllun Cyfalaf Tai a’r Cynllun Cyfalaf
(gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol). Gofynnwyd i’r Cabinet hefyd gymeradwyo treuliau
annisgwyl o £4.8m i gefnogi cynlluniau Glasdir ac Ysgol Carreg Emlyn; £1.5m i’r
Cynllun Cyfalaf ynghyd â dileu’r £140,000 o ddyledion sy’n ddyledus gan The
Scala Prestatyn Company Limited. Codwyd y materion canlynol yn ystod y ddadl – ·
canmolodd y Cabinet y
buddsoddiad sylweddol mewn prosiectau cyfalaf mawrion, yn enwedig o gofio’r
cyfnod ariannol anodd, oedd yn cynnwys buddsoddiadau mewn Ysgolion, Glan Môr y
Rhyl, Datblygiad Nova a Chynllun Datblygu Arfordirol Gorllewin y Rhyl, a
llongyfarchodd bawb oedd ynghlwm â’r prosiectau hynny ·
amlygwyd hefyd y buddsoddiad
ym mhrosiect Ysgolion 21ain Ganrif Ysgolion Cynradd Rhuthun ac roedd yr
aelodau’n falch o nodi bod cynlluniau Glasdir ac Ysgol Carreg Emlyn ar y
trywydd iawn i gael eu cyflawni ym mis Medi 2017 ac ychwanegwyd diweddariad ar
y prosiectau hynny at adroddiad cyllid rheolaidd y Cabinet. Cytunwyd, o ran
Glasdir, gyfeirio yn y dyfodol at ‘safle ar y cyd’ yn wahanol i ‘ysgol ar y
cyd’ er mwyn dynodi’r ddwy ysgol ar y safle ·
yn dilyn cadarnhad o ffigurau
terfynol diwedd y flwyddyn, byddai’r driniaeth o danwariant yn cael ei
hystyried gan y Cabinet yn yr adroddiad alldro ariannol - rhagwelwyd y byddai
sawl gwasanaeth yn cadw eu tanwariant i barhau gyda phrosiectau arfaethedig yn
y flwyddyn ariannol nesaf ·
cadarnhawyd
bod y Cynllun Corfforaethol yn rymus ac, ar sail y tybiaethau presennol, roedd
adnoddau yn eu lle i sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni ·
trafodwyd
effaith andwyol tywydd difrifol ar y priffyrdd hefyd a’r gwaith cynnal a chadw
ffyrdd ychwanegol angenrheidiol o ganlyniad i lifogydd – ceisiwyd cyllid
Llywodraeth Cymru ond os nad oedd cyllid allanol ar gael, byddai’r gwaith
angenrheidiol yn cael ei ariannu gan y Gronfa Tywydd Difrifol ·
cyfrannodd
yr oedi mewn gwaith prosiect a newidiadau yn y dull cynllunio busnes at
danwariant yn y gwasanaeth Datblygu Economaidd a Busnes a rhoddwyd sicrwydd
mewn perthynas â’r bwriad i gario cyllid ymlaen yn y flwyddyn ariannol nesaf i
symud y prosiectau arfaethedig hynny ymlaen. PENDERFYNWYD bod y
Cabinet – (a) yn nodi’r cyllidebau a
osodwyd ar gyfer 2015/16 a symud ymlaen yn erbyn y strategaeth gyllideb gytûn; (b) yn cymeradwyo’r dyraniad o
dreuliau annisgwyl o £4.8m i gefnogi cynlluniau Glasdir ac Ysgol Carreg Emlyn
yn Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, a fydd yn cael ei ariannu trwy ryddhau
cyllidebau refeniw o fewn y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion cyffredinol. (c) yn cymeradwyo dileu
dyledion sy’n ddyledus gan The Scala Prestatyn Company Limited sy’n gwneud
cyfanswm o £140,000 ac yn (d) cymeradwyo’r dyraniad o £1.5m o adolygiad
darpariaethau’r fantolen a threuliau annisgwyl yn y flwyddyn i’r Cynllun
Cyfalaf. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg (copi’n
amgaeedig) yn cyflwyno'r adroddiad gwrthwynebiad i'w ystyried a gofyn i’r
Cabinet gymeradwyo gweithredu’r cynnig. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) nodi canfyddiadau'r adroddiad gwrthwynebiad, ac (b) yn amodol ar ystyried yr uchod, bod y Cabinet yn cymeradwyo'r gweithredu’r cynnig i gau Ysgol
Llanbedr ar 31 Awst 2016 a throsglwyddo'r disgyblion i Ysgol Borthyn, Rhuthun,
yn dibynnu ar ddewis y rhieni. Cofnodion: [Ceisiodd yr
Arweinydd gael sicrwydd gan aelodau’r Cabinet a gadarnhaodd eu bod yn fodlon
iddynt gael digon o gyfle i astudio’r holl wybodaeth mewn perthynas â’r eitem
hon er mwyn gwneud penderfyniad deallus.] Cyfeiriodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd at y Cod
Trefniadaeth Ysgolion ac esboniodd fod rhaid i’r Cabinet benderfynu ar y cynnig
gyda meddwl agored gan ystyried y ffactorau perthnasol a osodwyd ym
mharagraffau 4.5, 4.8 a 4.9 yr adroddiad. Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad sy’n rhoi manylion y gwrthwynebiadau
a ddaeth i law yn dilyn cyhoeddiad yr hysbysiad statudol o’r cynnig i’w
hystyried. Cyfeiriodd at weledigaeth y Cyngor ar gyfer addysg a buddsoddiad
sylweddol mewn ysgolion fel rhan o’r agenda moderneiddio ysgolion. Gwnaed y
cynnig fel rhan o adolygiad ardal ehangach Rhuthun a gosodwyd yr achos am newid
yn yr adroddiad yn seiliedig ar amcanion y Cyngor i leihau’r lleoedd dros ben,
cyflawni dosbarthiad tecach a mwy cyfiawn o gyllid ysgol a darparu mwy o
effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ystâd
yr ysgol. Roedd y ddarpariaeth addysgol yn yr ardal yn cynnwys (1) Addysg
Cyfrwng Cymraeg, (2) Addysg Cyfrwng Saesneg, (3) Addysg Seiliedig ar Ffydd
Cyfrwng Cymraeg, a (4) Addysg Ffydd Cyfrwng Saesneg. Rhoddodd wybod y byddai
pedair elfen y ddarpariaeth yn parhau o weithredu’r cynnig. Ystyriodd y Cabinet y gwrthwynebiadau yn yr adroddiad ynghyd â’r dadleuon
ar gyfer y cynnig a’r ffactorau y manylwyd arnynt yn y Cod Trefniadaeth
Ysgolion. Ceisiodd yr aelodau gael eglurder ynghylch y cyfeiriadau at ffedereiddio
yn ymatebion yr ymgynghoriad ac a fyddai’r dewis hwn yn bodloni amcanion
allweddol y Cyngor a chwestiynwyd pam nad ymgynghorwyd ynghylch cynigion
eraill. Codwyd cwestiynau hefyd mewn perthynas â chapasiti Ysgol Borthyn i
letya disgyblion Ysgol Llanbedr a chynnig darpariaeth gofal plant cofleidiol.
Ceisiwyd sicrwydd hefyd mai’r cynnig hwn
oedd yn cynrychioli’r dewis gorau i fodloni amcanion y Cyngor. Ymatebodd y
swyddogion fel a ganlyn – ·
esboniwyd bod dewisiadau eraill i’r cynnig wedi’u
hystyried, gan gynnwys yr achos o blaid ffedereiddio, yn gynharach yn y broses
ymgynghori. Ystyriwyd y manteision a’r anfanteision ac er bod gan ffedereiddio
nifer fawr o fanteision, nid aeth i’r afael ag amcanion allweddol y Cyngor i
fynd i’r afael â’r lleoedd dros ben, cyflawni dosbarthiad tecach a mwy cyfiawn
o gyllid ysgol, na darparu mwy o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ystâd yr
ysgol ·
roedd
y Cod Trefniadaeth Ysgolion yn gofyn i’r Cyngor weithio gyda phartneriaid
allweddol megis yr Esgobaeth a chynhaliwyd ymgynghoriad ym mis Ebrill/Mai.
Cynhaliwyd dadansoddiad o ddewisiadau eraill a rhoddwyd rhesymau o ran pam nad
aed ar drywydd y dewisiadau hynny, gan gynnwys ffedereiddio. Cynhwyswyd y
dewisiadau eraill hyn yn yr adroddiad ymgynghori ffurfiol ochr yn ochr â’r
dewis oedd yn cael ei ffafrio gan y Cyngor ·
rhoddwyd sicrwydd fod y cynnig yn bodloni gofynion y Cod
Trefniadaeth Ysgolion ac yn cynrychioli’r dewis gorau i fodloni amcanion
allweddol y Cyngor i fynd i’r afael â lleoedd dros ben, gostwng y gost fesul disgybl
a darparu ystâd ysgol effeithlon a chynaliadwy ·
cadarnhawyd
petai pob plentyn o Ysgol Llanbedr yn dewis trosglwyddo i Ysgol Borthyn, byddai
lle i gefnogi’r trosglwyddiad hwnnw – gallai fod angen rhywfaint o waith mân
gyflunio i’r lle addysgu ·
derbyniwyd
bod y cyfleuster gofal plant cofleidiol presennol yn Ysgol Llanbedr yn cael ei
werthfawrogi’n fawr ond roedd darpariaeth gofal cofleidiol ar gael mewn
ysgolion eraill yn yr ardal, gan gynnwys Ysgol Borthyn a phetai’r cynnig yn
mynd yn ei flaen, byddai’r swyddogion yn gweithio i helpu cefnogi’r
ddarpariaeth honno. Siaradodd y Cynghorydd Huw Williams yn erbyn y cynnig a chwestiynodd y gost oedd ynghlwm, gan gynnwys addasu Ysgol Borthyn i letya disgyblion ychwanegol. ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Y DIWEDDARAF AM BROSIECT DATBLYGU GLAN Y MÔR Y RHYL PDF 194 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros yr
Economi (copi’n amgaeedig) yn rhoi’r diweddaraf i’r Cabinet am gynnydd prosiect
Datblygu Glan y Môr y Rhyl a gofyn am gymeradwyaeth i barhau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: ☻PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a)
rhoi
cymeradwyaeth i fynd i ymuno mewn Cytundeb Adfywio Cyffredinol ar sail y
modelau ariannu a nodir ynddynt; gyda phob elfen o'r adfywio cael ei gyflwyno'n
raddol ac yn amodol ar gymeradwyaeth bellach (p'un ai gan y Cabinet neu drwy
Benderfyniad Dirprwyedig dibynnu ar werth) i fwrw ymlaen, a (b) cymeradwyo
sefydlu cyllideb prosiect a ariennir drwy ailddyrannu adnoddau corfforaethol
presennol. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad yn diweddaru’r Cabinet ar gynnydd gyda
phrosiect Datblygu Glan Môr y Rhyl a cheisiodd gymeradwyaeth i fwrw ymlaen i
gytundeb datblygu mwy ffurfiol ar y telerau a amlinellwyd yn yr adroddiad. Penodwyd Neptune Development Limited (NDL) fel y partner datblygu dewisol i
gynorthwyo’r Cyngor wrth adnewyddu’r arlwy hamdden a chyfleusterau ar gyfer
llain arfordirol y Rhyl. Roedd cynigion bellach wedi datblygu’n ddigonol i
symud i gytundeb mwy ffurfiol a fyddai’n sicrhau bod modd asesu a deall yn
llawn ymarferoldeb ariannol elfennau unigol y cynllun a’r effaith ar y
datblygiad ehangach cyn caniatáu cymeradwyaeth. Roedd manylion y cynllun, a
rannwyd yn bum parth amlwg ar hyd yr arfordir, wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Bu ymateb y cyhoedd i’r cynigion yn aruthrol o gadarnhaol. Croesawodd y
Cabinet y prosiect datblygu a’r cynigion i adfywio’r Rhyl gan nodi y byddai
angen buddsoddiad sylweddol, sy’n debygol trwy gyfuniad o grantiau llywodraeth,
buddsoddiad sector preifat a rhai cyfraniadau gan y cyngor. Cadarnhawyd bod NDL
wedi modelu cynllun ymarferol o bosibl yn seiliedig ar nifer o dybiaethau ond
byddai angen datblygu achosion busnes manwl ar gyfer pob elfen i asesu
ymarferoldeb unigol a’r effaith ar y cynllun cyffredinol. O ran amserlenni ar
gyfer datblygu, cynghorwyd yr aelodau ynghylch hyblygrwydd y cytundeb
cyffredinol a fyddai’n galluogi ar gyfer symud gwahanol gamau ymlaen wrth
iddynt ddatblygu. Cafodd llinell amser mynegol ei gynnwys yn yr adroddiad yn
seiliedig ar yr hyn yr oedd NDL yn
ystyried bod modd ei gyflawni, ond byddai amserlenni mwy pendant yn cael eu
cadarnhau wrth i’r broses symud yn ei blaen. Nodwyd bod y Bwrdd Prosiect
Cyfleusterau Arfordirol yn goruchwylio
datblygiad y prosiect a gofynnodd y Cynghorydd Eryl Williams fod cofnodion y
cyfarfodydd hynny ar gael yn gyhoeddus i sicrhau bod yr holl aelodau’n
ymwybodol o’r gwaith oedd yn cael ei wneud. PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a)
yn rhoi cymeradwyaeth i fynd i
Gytundeb Adfywio Cyffredinol ar sail y modelau cyllido a osodwyd yn hynny; gyda
phob elfen o’r adfywio’n cael ei chyflwyno’n raddol ac yn destun cymeradwyaeth bellach
(boed gan y Cabinet neu drwy Benderfyniad wedi’i Ddirprwyo yn dibynnu ar y
gwerth) i fwrw ymlaen, ac (b) yn cymeradwyo sefydlu
cyllideb prosiect a ariennir trwy ailddyrannu’r adnoddau corfforaethol
presennol. |
|
ARGYMHELLION Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL PDF 116 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid,
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi'n amgaeedig) yn gofyn am gefnogaeth
y Cabinet ar gyfer prosiectau a nodwyd ar gyfer eu cynnwys yng Nghynllun
Cyfalaf 2016/17. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: ☻PENDERFYNWYD bod y prosiectau a nodwyd yn Atodiad 1 o'r
adroddiad i'w gynnwys yn y Cynllun Cyfalaf 2016/17 yn cael ei gefnogi a’i
argymell i'r Cyngor llawn. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad gan geisio
cefnogaeth y Cabinet o brosiectau a nodwyd i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf
2016/17 fel a argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol ac a fanylwyd yn
Atodiad 1 i’r adroddiad. Arweiniodd y Cynghorydd Thompson-Hill yr aelodau trwy’r adroddiad ac
ymhelaethodd ar y cyllid sydd ar gael ar gyfer buddsoddiad cyfalaf i brosiectau
un tro a dyraniadau bloc ar gyfer rhaglenni gwaith parhaus. Cyfeiriwyd at waith
y Grŵp Buddsoddi Strategol wrth adolygu ceisiadau am ddyraniadau a
darparwyd crynodeb o’r argymhellion. Yn sgil bod cyllid cyfalaf annigonol ar
gael i gwmpasu pob prosiect, gwnaed nifer o ddyraniadau dros dro yn amodol ar
werthu asedau. Mewn ymateb i gwestiynau, gwnaeth y Cynghorydd
Julian Thompson-Hill – ·
esbonio’r broses benthyca
ddarbodus sy’n cynghori bod angen i’r cyngor ddibynnu’n fwyfwy ar ei adnoddau
ei hun i fuddsoddi yn sgil y gostyngiad parhaus yng ngwerth go iawn setliadau
cyfalaf Llywodraeth Cymru ·
cadarnhau bod cynigion cynnal
cyfalaf ysgolion a heb fod i ysgolion yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cynnal a
chadw hanfodol megis gwaredu asbestos. Ymhelaethodd y Cynghorydd Eryl Williams
ar brif sefyllfa’r Cyngor o ran troi at gyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif i
fuddsoddi mewn adeiladau a chyfleusterau ysgolion fel rhan o’r agenda
moderneiddio ysgolion ·
dweud bod y cynigion am waith
Priffyrdd yn cynnwys gwelliannau i ffyrdd a phontydd, goleuadau strydoedd a
diogelwch ffyrdd a blaenoriaethwyd y dyraniadau ar sail angen - rhoddodd y
Cynghorydd David Smith wybod bod gwariant ar gynlluniau unigol wedi’u trafod
gan Grwpiau Ardal Aelodau ac awgrymwyd mynd i’r afael ag unrhyw
gwestiynau/pryderon yn hyn o beth yn y fforwm hwnnw neu eu codi’n uniongyrchol
gyda’r Gwasanaeth Priffyrdd. PENDERFYNWYD bod y prosiectau y manylir arnynt yn Atodiad 1
i’r adroddiad i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2016/17 yn cael eu cefnogi a’u
hargymell i’r Cyngor llawn. |
|
GOSOD RHENT TAI A CHYLLIDEBAU REFENIW TAI A CHYFALAF 2016/17 PDF 106 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid,
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth
i godi’r rhent arfaethedig ar gyfer tai cyngor ac i gymeradwyo'r Cyfrif Refeniw
Tai a Chyllidebau Cyfalaf a Refeniw ar gyfer 2016/17. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD: (a) mabwysiadu
Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2016/17 (Atodiad 1) a Chynllun Busnes y
Stoc Tai (Atodiad 2); (b) cynyddu rhenti
anheddau Cyngor yn unol â chanllawiau Polisi Rhenti Tai Cymdeithasol
Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd ym mis
Ebrill 2015 (£77.74 yr wythnos ar gyfartaledd) o ddydd Llun 4 Ebrill 2016; a (c) cynyddu rhenti ar gyfer garejis y Cyngor yn unol â'r cynnydd mewn rhenti
am anheddau Cyngor i £6.68 ar gyfer Tenantiaid y Cyngor a £8.02 yr wythnos ar
gyfer Tenantiaid eraill. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i’r
cynnydd arfaethedig mewn rhent ar gyfer tai cyngor a chymeradwyaeth Cyllidebau
Cyfalaf a Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2016/17. Arweiniodd y Cynghorydd Thompson-Hill yr aelodau trwy ffigurau’r gyllideb
a’r tybiaethau lefel incwm a gyfrifwyd gan ystyried Polisi Llywodraeth Cymru ar
gyfer Rhenti Tai Cymdeithasol a’r mecanwaith i godi rhenti. Dangosodd yr
adolygiad blynyddol o Gynllun Busnes y Stoc Tai (CBST) iddo barhau’n rymus ac
yn ariannol hyfyw ac y cafwyd buddsoddiad sylweddol mewn gwella’r stoc tai
presennol ac adeiladu stoc tai newydd mawr ei hangen. Yn ystod yr
ystyriaeth o’r adroddiad, trafodwyd y materion canlynol – ·
bu pum gwerthiant Hawl i Brynu (HiB) yn 2015/16 hyd yma a
rhagwelwyd un gwerthiant y flwyddyn yn y blynyddoedd dilynol, fodd bynnag
profwyd y CBST gyda’r dybiaeth o ddim gwerthiant ac ni chafwyd unrhyw effaith
andwyol. Eglurwyd nad oedd angen gwerthiant HiB bellach er mwyn ariannu’r
cynllun oherwydd y setliadau cymhorthdal gwell na’r disgwyl dros amser.
Cydnabuodd aelodau’n flaenorol y gallai gwerthiannau HiB fod yn wrthgynhyrchiol
i dyfu’r stoc tai ac yn dilyn Hysbysiad o Gynnig i’r Cyngor, awdurdodwyd y
swyddogion i adrodd nôl ar achos busnes i ohirio gwerthiannau HiB. Cadarnhaodd
y swyddogion y byddai’r achos busnes yn cwmpasu gwerthiannau HiB ar draws y sir
ac a fyddai unrhyw eithriadau ar gyfer meysydd penodol yn berthnasol. Ar hyn o
bryd, ail-fuddsoddwyd 25% o werthiannau HiB mewn stoc tai a defnyddiwyd 75% i
ad-dalu dyledion ·
roedd
adolygiad o fodurdai’r cyngor yn mynd rhagddo a hefyd yn rhan o’r dewisiadau ar
gyfer adeilad newydd. Nid oedd y rhent yn talu am gostau cynnal a chadw ac
roedd rhai modurdai’n cael eu defnyddio fel cyfleusterau storio ac nid ar gyfer
eu diben bwriadedig – roedd y materion hyn yn cael eu hystyried fel rhan o’r
adolygiad. Amlygwyd pwysigrwydd cadw modurdai’r cyngor er mwyn cadw’r briffordd
yn rhydd o dagfeydd a chadarnhaodd y swyddogion y byddai modurdai sy’n cynnig
lleoedd parcio ceir gwerthfawr yn cael eu hystyried felly o fewn yr adolygiad.
Eglurwyd bod y rhent ar gyfer tenantiaid nad ydynt yn denantiaid y Cyngor
ychydig yn uwch oherwydd ei fod yn cynnwys TAW ·
cadarnhawyd
yr ymgynghorwyd â Ffederasiwn Tenantiaid a Thrigolion Sir Ddinbych a bod y
rheswm am y codiad mewn rhent a’r effaith ar Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw
Tai wedi’i esbonio’n llawn i’r grŵp ·
roedd y Cabinet yn falch o nodi’r adborth cadarnhaol gan
gwsmeriaid yn arolwg STAR yn 2015 a ddychwelodd lefelau bodlonrwydd uchel o ran
gwerth am arian rhent a ffioedd gwasanaeth a llongyfarchwyd y swyddogion yn
hynny o beth ·
roedd camau’n cael eu cymryd i godi rhent yn raddol er
mwyn bodloni’r ffigurau rhent targed yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru ar
gyfer rhenti tai cymdeithasol. Y codiad rhent a gadarnhawyd gan Lywodraeth
Cymru oedd 1.4% (CPI+1.5% a £2) a byddai 22% o denantiaid yn talu’r lefel rent
darged yn 2016/17 - disgwylid y byddai’r holl denantiaid yn talu’r rhent targed
llawn erbyn 2021. PENDERFYNWYD – (a) mabwysiadu
Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2016/17 (Atodiad 1 yr adroddiad) a
Chynllun Busnes y Stoc Tai (Atodiad 2 i’r adroddiad); (b) codi rhenti anheddau’r Cyngor yn unol â Pholisi Llywodraeth
Cymru ar gyfer Rhenti Tai Cymdeithasol a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2015 i rent
wythnosol cyfartalog o £77.74 a fyddai’n dod i rym ar ddydd Llun 4 Ebrill 2016,
a (c) chodi
rhenti modurdai’r Cyngor yn unol â’r cynnydd mewn rhenti ar gyfer anheddau’r
Cyngor i £6.68 i Denantiaid y Cyngor ac £8.02 i Denantiaid eraill yr wythnos. |
|
DIWEDDARIAD AM ASESIAD LLETY SIPSIWN A THEITHWYR PDF 94 KB Ystyried
adroddiad ac atodiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Barbara Smith,
Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Thai (copi’n amgaeedig) yn cyflwyno'r
Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr i gael cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru ac
yn gofyn am gymeradwyaeth i ddefnyddio ymagwedd ranbarthol tuag at chwilio am
safleoedd i gwrdd ag unrhyw ddarpariaeth y bydd eu hangen yn y dyfodol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo:- (a) Asesiad Llety
Sipsiwn a Theithwyr i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru, a (b) defnyddio
ymagwedd ranbarthol at chwilio am safleoedd i gwrdd ag unrhyw ddarpariaeth sydd
eu hangen yn y dyfodol. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith yr adroddiad
yn amlinellu canfyddiadau Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr 2016 ar gyfer Sir
Ddinbych (ynghlwm fel atodiad cyfrinachol i’r adroddiad) a cheisiodd
gymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno’r Asesiad i Lywodraeth Cymru ac i ddefnyddio
dull rhanbarthol o chwilio am safleoedd i fodloni unrhyw ddarpariaeth
angenrheidiol i’r dyfodol. Roedd gofyniad statudol ar awdurdodau lleol i
gynnal asesiad a darparu ar gyfer safleoedd pan oedd angen wedi’i nodi. Galwodd
asesiad cynharach yn 2013 am safle tramwy ar y cyd i Gonwy a Sir Ddinbych
oherwydd bod cyfran uchel o wersyllu anawdurdodedig yn digwydd yng ngogledd y
sir ger y ffin. Cynhaliwyd asesiad ar y cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol
Conwy ond byddai dogfennau ar wahân yn cael eu cyflwyno. Casglodd yr asesiad
fod angen safle tramwy neu fan stopio yng ngogledd y sir ac roedd angen i’r
Cyngor fynd i’r afael â’r angen hwnnw. Yn ystod y ddadl a ddilynodd, codwyd cwestiynau mewn perthynas â’r
cyfrifoldebau statudol ar awdurdodau lleol, y camau nesaf yn y broses, ac a
fyddai unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i alluogi awdurdodau i
fodloni eu rhwymedigaethau statudol. Amlinellodd y Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd y darpariaethau dan Ddeddf Tai
(Cymru) 2014 mewn perthynas â Llety Sipsiwn a Theithwyr a nodwyd bod rhai
rhannau o’r Ddeddf, yn enwedig o ran sancsiynau i fethu bodloni unrhyw angen a
nodwyd, heb fod mewn grym eto. Adroddodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu a Pholisi
ar y bwriad i gydweithio gyda Chonwy i nodi safle addas a chynghorodd bod
cyllid cyfyngedig Llywodraeth Cymru ar gael ond nad oedd yn cwmpasu costau
caffael y safle. Er mwyn gwneud cais am gyllid, roedd angen caniatâd cynllunio
ar safle wedi’i gaffael a chael cynllun prosiect manwl ar waith. Roedd gan
Gonwy un safle parhaol ac roedd wedi clustnodi safle tramwy ond roedd y
sefyllfa ddiweddaraf yn aneglur oherwydd y gwrthwynebiad lleol. Petai safle
tramwy’n cael ei ddarparu, byddai gan y cyngor y grym i symud gwersyllfannau
anawdurdodedig i’r safle hwnnw. Byddai’r angen dynodedig ar draws Cymru’n
hysbys pan fydd yr holl asesiadau wedi’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo – (a) cyflwyno Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr i Lywodraeth
Cymru, a (b) defnyddio
dull rhanbarthol o chwilio am safleoedd i fodloni unrhyw ddarpariaeth
angenrheidiol i’r dyfodol. |
|
BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET PDF 89 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: ☻PENDERFYNWYD
nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Blaenraglen Waith y Cabinet i’w
hystyried a nododd yr aelodau’r diwygiadau canlynol – ·
eitem
ychwanegol ar Gau TAITH – Mawrth ·
hen
Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych – symudwyd o fis Mawrth i fis Ebrill/Mai PENDERFYNWYD
nodi Blaenraglen Waith y Cabinet |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD dan Adran 100A Deddf
Llywodraeth Leol 1972, i wahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod am yr eitemau busnes
canlynol oherwydd ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei
datgelu, fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A Deddf
Llywodraeth Leol 1972. |
|
DYFARNU CONTRACT AR GYFER GWAREDU GWASTRAFF GWEDDILLIOL
Ystyried adroddiad
cyfrinachol gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus
(copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract
sengl ar gyfer casglu gwastraff. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cafodd yr eitem
hon ei thynnu’n ôl. Cofnodion: Tynnwyd yr eitem
hon yn ôl oherwydd bod un o’r tendrau wedi’i dynnu’n ôl. Roedd angen gwaith
pellach ar y broses dendro erbyn hyn cyn ailgyflwyno i’r Cabinet. |
|
DYFARNU CONTRACT GWASANAETH BWS LLEOL
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth
Cyhoeddus (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu
contract gwasanaeth bws lleol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: ☻PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo dyfarnu'r contract gwasanaeth bws lleol i'r tendr mwyaf manteisiol
yn economaidd fel y nodwyd yn yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd David Smith yr adroddiad cyfrinachol yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet i ddyfarnu contract gwasanaeth bws lleol yn unol â Rheolau Gweithdrefn
y Contract i’r tendrwr mwyaf manteisiol yn economaidd. Tendrodd y Swyddogion ystod o ddewisiadau a bu modd i’r cyflenwyr gynnig am
gontractau unigol neu ddau gontract neu’n fwy gyda’i gilydd. Y contract mwyaf
manteisiol yn economaidd i’r cyngor wrth gynnal gwasanaethau cyn agosed â
phosibl i’r rhai presennol o fewn y gyllideb sydd ar gael. Roedd newid
allweddol yn ymwneud â dargyfeirio rhai adnoddau i weithredu rhwng Corwen a
Wrecsam a gafodd ei gynnig yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Diolchodd y
Cynghorydd Huw Jones i’r Rheolwr Cludiant Teithwyr am ei holl waith caled yn
hyn o beth a gofynnodd fod cyfarfod o’r Fforwm Defnyddwyr Bws yn cael ei drefnu
ar ôl rhoi’r newidiadau ar waith er mwyn adolygu’r trefniant newydd a sicrhau
ei fod yn gweithio’n dda. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo dyfarniad y contract gwasanaeth bws lleol i’r tendrwr mwyaf
manteisiol yn economaidd fel y manylwyd yn yr adroddiad. Daeth y cyfarfod i ben am 12.40 p.m. |