Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Datganodd y
Cynghorydd Meirick Davies gysylltiad personol yn Eitem 6 ar y Rhaglen: Cyllideb
2016/17 oherwydd ei fod yn Gadeirydd ar yr Awdurdod Tân. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Meirick Davies fudd personol yn Eitem 6 ar yr Agenda: Cyllideb
2016/17 oherwydd ei fod yn Gadeirydd yr Awdurdod Tân. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2015 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2015 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2015. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2015 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
CYNLLUN COMISIYNU LLEOL CEFNOGI POBL SIR DDINBYCH 2016-19 PDF 262 KB Rhoi ystyriaeth i
adroddiad (gan gynnwys atodiad
cyfrinachol) gan y Cynghorydd Bobby Feeley, yr Aelod Arweiniol dros Ofal
Cymdeithasol, Gwasanaethau Oedolion a Phlant (copi'n amgaeedig) yn ceisio
cymeradwyaeth i Gynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl 2016-19 er mwyn ei
gyflwyno i Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gogledd Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo'r Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl Lleol ar gyfer 2016 – 2019 cyn ei
gyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol ym mis Chwefror 2016. <0} Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad yn
ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i Gynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl 2016-19
cyn y câi ei gyflwyno ger bron Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gogledd
Cymru. Ffynhonnell
ariannu gan Lywodraeth Cymru yw Cefnogi Pobl (CP) sy'n darparu cefnogaeth gyda
thai i bobl diamddiffyn er mwyn eu galluogi i fyw mor annibynnol ag y bo
modd. Adroddodd y Cynghorydd Feeley ar y
gwaith da a wneir yn Sir Ddinbych yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau drwy
elusennau a'r trydydd sector ynghyd â gwasanaethau cymorth mewnol allweddol a
gafodd eu hariannu gan y grant Cefnogi Pobl.
Roedd y Cynllun yn nodi’r blaenoriaethau a'r camau gweithredu dros y
tair blynedd nesaf a chyfeiriwyd at y goblygiadau ariannu sy'n codi o doriadau,
gyda gostyngiadau dangosol gan y darparwr ar gyfer 2016/17 wedi'u cynnwys mewn
atodiad cyfrinachol i'r prif adroddiad. Ystyriodd y
Cabinet y blaenoriaethau a nodwyd yn yr adroddiad ynghyd â'r cynigion i reoli'r
gostyngiad mewn arian. Trafododd yr
Aelodau y ffaith eu bod wedi gofyn am gefnogaeth barhaus i’r Rhaglen Cefnogi
Pobl yn y Cyngor llawn ym mis Medi 2015 ac er nad oedd Llywodraeth Cymru wedi
gostwng y gyllideb eleni, disgwylir toriadau pellach yn y dyfodol. Cwestiynodd yr Aelodau gynaliadwyedd prosiectau
y dyfodol yng ngoleuni'r toriadau pellach a gofyn am sicrwydd ynghylch
cynlluniau i liniaru gostyngiadau ariannu.
Eglurodd swyddogion y fethodoleg wrth gynllunio ar gyfer toriadau
ariannol a gyflawnwyd yn bennaf hyd yma drwy effeithlonrwydd a thrafodaethau
gyda darparwyr gwasanaeth nad oedd eto wedi effeithio ar wasanaethau rheng
flaen. Tynnwyd sylw'r Aelodau at y
gymhariaeth o wariant 2014/15 a 2015/16 fel y manylir yn y Cynllun a
chadarnhaodd y swyddogion fod cronfa wrth gefn wedi cael ei sefydlu petai
unrhyw doriadau yn digwydd yn ystod y flwyddyn.
Defnyddiwyd ymarfer mapio anghenion er mwyn dosbarthu arian yn briodol
gan ystyried arweiniad Llywodraeth Cymru.
Roedd toriadau cyllid y dyfodol yn golygu bod rhaid dadgomisiynu rhai
gwasanaethau a fyddai'n cael eu gwneud yn unol â Strategaeth Dadgomisiynu CP
Sir Ddinbych. Roedd llawer o waith yn
cael ei wneud er mwyn cael tystiolaeth am ganlyniadau ac arddangos
cynaliadwyedd y gwasanaethau hynny a gomisiynir. Gan ymateb i gwestiynau ynghylch ymateb y
Cyngor i statws ffoaduriaid, adroddodd y swyddogion am raglen adsefydlu y
Llywodraeth ar gyfer ffoaduriaid Syria.
Eglurwyd bod proses statudol wahanol yn berthnasol i geiswyr lloches. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo'r Cynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl ar gyfer 2016 – 2019 cyn ei
gyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol ym mis Chwefror 2016. |
|
CYLLIDEB 2016/17 (CYNIGION TERFYNOL - CAM 6) PDF 124 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid, y
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi ynghlwm) yn nodi goblygiadau Setliad
Drafft Llywodraeth Leol 2016/17 a chynigion i gwblhau'r gyllideb ar gyfer
2016/17. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) nodi effaith Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol ac nad oes angen unrhyw
arbedion pellach oni bai am y £5.2m sydd eisoes wedi'i gymeradwyo gan
wasanaethau ar gyfer 2016/17, (b) cefnogi'r cynigion canlynol ac yn unol â hynny yn eu hargymell i'r Cyngor
llawn er mwyn cwblhau cyllideb 2016/17: 1. cynyddu cyllid i ysgolion i fodloni’r lefel ddiogelu genedlaethol o +1.85%. 2. neilltuo cyllideb wrth gefn un flwyddyn o £480k ar gyfer 2016/17 er mwyn
lliniaru'r risgiau i gyflawni’r gyllideb a nodir yn yr adroddiad 3. argymell i'r Cyngor y cynnydd cyfartalog o ganlyniad yn Nhreth y Cyngor o
1.5%. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad yn nodi goblygiadau Setliad Drafft
Llywodraeth Leol 2016/17 a chynigion i gwblhau'r gyllideb ar gyfer 2016/17, gan
gynnwys lefel Treth y Cyngor. Rhoddodd y
Cynghorydd Thompson-Hill drosolwg o broses y gyllideb, a’r sefyllfa gyllideb
ddiweddaraf ac ymhelaethodd ar y cynigion i'w hystyried a'r argymhelliad i'r
Cyngor llawn er mwyn gosod y gyllideb ar gyfer 2016/17. Mae'r setliad drafft
wedi bod yn llawer gwell na'r disgwyl gyda gostyngiad ariannol cyffredinol o
1.2% i Sir Ddinbych a oedd yn golygu gostyngiad o £3.9m yn llai na'r disgwyl. O ganlyniad i’r cynigion diweddaraf, nid oedd
angen rhagor o arbedion gan wasanaethau yn 2016/17 (roedd arbedion o £5.2m
eisoes wedi eu clustnodi) a byddai'n golygu lefel is o gynnydd i Dreth y Cyngor
o 2.75% i 1.5% ar gyfartaledd. Roedd y
gyllideb arfaethedig hefyd wedi ystyried cynnydd mewn cyllid i ysgolion i
fodloni'r lefel genedlaethol o amddiffyniad ar 1.85% ac i neilltuo £480,000 i
liniaru'r risgiau at gyflawni'r gyllideb hon. Trafododd y
Cabinet gynigion y gyllideb yn fanwl – dyma oedd y prif feysydd trafodaeth – ·
Ystyriodd
yr aelodau ddigonolrwydd y gyllideb wrth gefn arfaethedig o £480k a thrafod y
risgiau sy'n gysylltiedig â chyflawni’r gyllideb o gofio bod rhaid i gynghorau
bennu cyllidebau a Threth y Cyngor yn seiliedig ar setliad dros dro. Nid yw nifer o grantiau refeniw wedi cael eu
cadarnhau eto ac efallai y bydd angen mwy o amser i gyflawni rhai o'r arbedion
a gytunwyd ar gyfer 2016/17. Gallai’r
setliad terfynol newid, yn enwedig yng ngoleuni lobïo gan gynghorau gwledig a oedd wedi bod yn destun
mwy o ostyngiadau. Trafodwyd rôl
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y broses honno, ynghyd â'r posibilrwydd o
gynghorau gyda setliadau mwy ffafriol yn darparu cymorthdaliadau ar gyfer y
rheiny sy’n waeth eu byd. Adroddodd y
Prif Weithredwr bod dull gweithredu o'r fath yn bosib, ond yn annhebygol a
disgwylid y byddai'r diffyg ariannol ar gyfer cynghorau gwledig yn fwy tebygol
o gael cymhorthdal drwy ffrydiau cyllid grant eraill yn hytrach
nag adolygiad o'r setliad drafft. Yn
seiliedig ar dybiaethau cyfredol roedd y gyllideb wrth gefn arfaethedig o £480k
i liniaru'r risg yn briodol. Byddai
unrhyw ddiffyg mwy yn y gyllideb yn arwain at graffu pellach o gyllidebau
unigol a/neu ddefnyddio cronfeydd wrth gefn corfforaethol. Teimlai'r Cynghorydd Barbara Smith y dylai'r
cyngor ei gwneud yn glir na fyddai'n ailfeddwl am unrhyw benderfyniadau
cyllidebol blaenorol yng ngoleuni'r setliad oedd yn well na'r disgwyl. · Teimlai'r Cynghorydd Eryl Williams y byddai'n ddoeth i ystyried cynnydd o 2% ar gyfartaledd gyda Threth y Cyngor er mwyn amddiffyn yn erbyn toriadau yn y dyfodol a lleihau risgiau ariannol. Nododd y bu consensws ar gyfer cynnydd o 1.5% ar gyfartaledd yn y gweithdy cyllideb diwethaf ond oherwydd y presenoldeb isel oedd yno, roedd yn teimlo efallai nad oedd y farn honno yn wirioneddol gynrychioliadol. Cafwyd peth trafodaeth o amgylch y manteision a'r anfanteision o ymagwedd o'r fath a chydbwyso'r angen am fod yn ddoeth am yr effaith ar drigolion. Roedd y rhan fwyaf o aelodau o'r farn, o ystyried y setliad gwell na’r disgwyl a fforddiadwyedd cyllideb y Cyngor gyda chynnydd o 1.5%, ac o gofio fod lefel Treth y Cyngor Sir Ddinbych yn dal yn uchel o gymharu ag awdurdodau eraill yng Nghymru, bod cynnydd o 1.5% yn ddoeth ac yn briodol. Roedd yna hefyd amheuon y byddai cronfa wrth gefn yn cael ei datblygu am ddim pwrpas penodol. Cydnabuwyd y byddai'r mater yn debygol o fod yn destun trafodaeth bellach mewn Cyngor llawn ac awgrymwyd y gallai fod yn ddefnyddiol darparu dadansoddiad pellach o ffigyrau ar gyfer cynnydd ar gyfartaledd o 2% ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2015/16 a'r cynnydd a wnaed o
ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r
cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa
ariannol y Cyngor – ·
rhagwelwyd
tanwariant net o £0.460 miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
Roedd
91% o’r arbedion a gytunwyd wedi'u cyflawni hyd yn hyn (targed o £7.3m) ac
amcangyfrifir y byddai mwyafrif yr arbedion sy'n weddill yn cael eu cyflawni
erbyn 2016/17 fan bellaf ·
amlygwyd
bod y prif amrywiadau oddi wrth dargedau cyllideb neu arbedion yn ymwneud â
meysydd gwasanaeth unigol, a ·
diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf
(gan gynnwys yr elfen y Cynllun Corfforaethol). Rhoddodd y Cynghorydd David Smith ddiweddariad ar
faterion priffyrdd gan gynghori y byddai ffioedd parcio newydd yn weithredol o
1 Mawrth 2016 er mwyn lleddfu'r gorwariant yn y maes hwn. Adroddodd am y gwaith sy'n cael ei wneud ar
hyn o bryd i ddiweddaru mesuryddion parcio er mwyn iddynt allu derbyn taliadau
gyda cherdyn a rhoi rhybudd cyfreithiol am y ffioedd newydd. Dywedodd y Cynghorydd Smith hefyd am her
gyfreithiol barhaus o amgylch y dynodiad llwybr diogel yn ne'r sir yn dilyn
gweithredu'r polisi cludiant ysgol newydd.
Rhoddodd Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a’r
Gwasanaethau Democrataidd wybodaeth bellach am y broses gyfreithiol a
chanlyniadau posibl o amgylch yr her gyfreithiol mewn ymateb i gwestiynau ar
hynny. O ran y gwaith a wnaed ar ran yr
Asiantaeth Cefnffyrdd mae hyn yn parhau i fod yn risg. Amlygodd y Cynghorydd Huw Jones yr angen i roi
sylw i sut y byddai Cynlluniau Tref ac Ardal yn cael eu datblygu yn y dyfodol i
sicrhau eu parhad. Cyfeiriodd yr
Arweinydd at gyfarfod lle gellid cyfeirio at y mater hwnnw er mwyn ei
ddatblygu. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2015/16 a'r cynnydd a wnaed o
ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 91 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD
nodi Rhaglen Gwaith i'r
Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried a nododd yr aelodau ei chynnwys. Cymerodd y Prif Weithredwr y cyfle i ddarparu
diweddariad ar lafar ar yr ysgol ffydd ar y cyd posibl gan ddweud y byddai
opsiynau posib eraill gwahanol i'r rhai a oedd wedi eu cyflwyno yn cael eu
harchwilio gyda'r canlyniad yn cael ei adrodd yn ôl i'r Cabinet. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 12.30 pm. |