Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2015 (copi ynghlwm). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2015 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2015. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2015 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL – CHWARTER 2 – 2015/16 PDF 84 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Cynllun
Corfforaethol a Pherfformiad (copi ynghlwm) yn rhoi diweddariad ar ddarparu
Cynllun Corfforaethol 2012 – 17 ar ddiwedd chwarter 2 2015/16. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni Cynllun
Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd chwarter 2 2015/16. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi
diweddariad ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012 - 17 ar ddiwedd chwarter 2 o 2015/16. Roedd yr adroddiad perfformiad yn darparu crynodeb
o ran sefyllfa pob canlyniad yn y Cynllun ynghyd â dadansoddiad o’r eithriadau
allweddol. Roedd yr holl ganlyniadau wedi’u gwerthuso fel derbyniol neu well ac roedd
eglurhad ar gyfer statws pob dangosydd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad gyda
materion allweddol wedi’u hegluro ymhellach yn y cyfarfod. O ran y Gofrestr Prosiectau Corfforaethol nid oedd unrhyw brosiect â statws
'Coch' a dim ond tri phrosiect oedd â statws derbyniol 'Oren' gyda'r holl
brosiectau ar y trywydd cywir. Cynghorwyd y Cabinet bod adroddiad Chwarter 2 wedi’i ystyried gan y
Pwyllgor Archwilio Perfformiad lle y codwyd materion yn ymwneud â system filio
newydd Nwy Prydain ac is-ddeddfau baw cŵn. Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd yr Aelodau’r
materion canlynol - ·
Presenoldeb
disgyblion mewn ysgolion – roedd y ffigyrau blynyddol diweddaraf (hyd at fis
Ebrill 2014) yn dangos bod perfformiad 0.1% yn is na'r lefel dderbyniol o
93.7%. Er bod y dangosydd hwn yn flaenoriaeth ar gyfer gwella nid oedd yn faes
pryder penodol. ·
Canran
yr achosion agored o blant ar y gofrestr amddiffyn plant sydd â gweithiwr
cymdeithasol dynodedig – er mwyn darparu sicrwydd ar ddiddymu’r dangosydd hwn
cynghorwyd yr Aelodau bod y fframwaith canlyniadau yn newid yn unol â gofynion
Deddf y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ac roedd y dangosydd yn cael ei
ddisodli gan gyfres o ddangosyddion a fyddai'n cofnodi data mewn dull sy'n fwy
ystyrlon - byddai'r gwasanaeth yn debygol o barhau i fonitro'r dangosydd
penodol hwn nes y sefydlir y dangosyddion newydd. ·
Arolwg
Preswylwyr – cynghorwyd yr Aelodau bod y data o arolwg 2013 ac y byddai’r
canlyniadau sy’n deillio o arolwg 2015 gan adlewyrchu’r safbwyntiau diweddaraf
ar gael ar gyfer yr adroddiad chwarterol nesaf. Cytunwyd y byddai cymhariaeth o ganlyniadau'r ddau
arolwg yn yr adroddiad hwnnw. ·
Allyriadau
Carbon – ni ellir cynhyrchu gwybodaeth ar hyn o bryd oherwydd problem fawr gyda
system filio newydd Nwy Prydain yr oeddent yn ceisio ei datrys. Nid problem Sir Ddinbych yn unig oedd hon
gan ei bod yn effeithio ar nifer o awdurdodau lleol ac awgrymwyd y dylid
ystyried ceisio cefnogaeth gan CLlLC ac LGA i godi'r mater gyda'r Gweinidogion
Ynni. Roedd y Cyngor am newid ei ddarparwr ynni o fis Ebrill 2016 beth bynnag.
Cyfeiriwyd hefyd at waith y Cyngor i leihau ei allyriadau carbon a chytunodd
Pennaeth Cyllid, Asedau a Thai i ddosbarthu nodyn briffio yn egluro’r sefyllfa
bresennol o ran y system filio a’r camau a gymerir er mwyn lleihau ôl troed
carbon y Cyngor. ·
Datblygu’r
Economi Leol – amlygodd yr Arweinydd newidiadau i gefnogaeth a chyllid
Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau newydd a’r pryderon ynglŷn â’r model
newydd arfaethedig yr oedd yn credu y gallai amharu ar dwf busnes yn Sir
Ddinbych. Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus ymhellach ynglŷn â sut yr oedd cefnogaeth
Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yn newid a darparodd sicrwydd bod y Cyngor
yn gweithio’n agos gyda darparwyr cyngor a chymorth busnes eraill er budd
busnesau lleol. Canmolodd y Cabinet natur gadarnhaol yr adroddiad perfformiad a thrafod y dull gorau o gyfleu’r neges i’r cyhoedd a chynhyrchu cyhoeddusrwydd cadarnhaol. Roedd yr Aelodau o blaid dull rhannu gwybodaeth mewn rhannau er mwyn sicrhau cyflenwad rheolaidd o wybodaeth ynglŷn â’r perfformiad rhagorol a gwaith da a buddsoddiad ehangach mewn meysydd eraill ac ar brosiectau mawr. Awgrymwyd hefyd y gellir ail-hyrwyddo llwyddiant prosiectau a gwblhawyd yn flaenorol, megis Datblygu Harbwr y Rhyl. Cytunodd y Cynghorydd Hugh Irving i godi’r ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2015/16 a'r cynnydd a wnaed o
ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r
cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa
ariannol y Cyngor- ·
rhagwelwyd
tanwariant net o £0.410 miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
Roedd
91% o’r arbedion a gytunwyd wedi'u cyflawni hyd yn hyn (targed o £7.3m) ac amcangyfrifir
y byddai mwyafrif yr arbedion sy'n weddill yn cael eu cyflawni erbyn 2016/17
fan bellaf ·
amlygwyd
bod y prif amrywiadau oddi wrth dargedau cyllideb neu arbedion yn ymwneud â
meysydd gwasanaeth unigol, a ·
diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf
(gan gynnwys yr elfen y Cynllun Corfforaethol). Canmolodd y Cabinet gynllun Datblygu Arfordirol Gorllewin y Rhyl a oedd yn
agos at gael ei gwblhau a chadarnhawyd bod gwaith ar y cynllun ar draws Cwrs Golff
y Rhyl ar y gweill a fyddai’n darparu gwell amddiffynfa ar gyfer preswylwyr yn
nwyrain y Rhyl. Canmolwyd Datblygiad y Nova hefyd a chanmolodd yr aelodau y deunyddiau
hyrwyddo a hysbysebu a gynhyrchwyd i farchnata’r cyfleuster rhagorol ar gyfer
preswylwyr ac ymwelwyr. Manteisiodd yr aelodau ar y cyfle i longyfarch a diolch i’r holl staff a
fu’n rhan o’r prosiect hwnnw. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2015/16 a'r cynnydd a wnaed o
ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 95 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w ystyried a nododd yr aelodau’r diwygiadau canlynol- ·
dileu
eitem Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer mis Ionawr ·
eitem
ychwanegol ar gyfer mis Chwefror ynglŷn â Prosiect Datblygu Glan y Môr y
Rhyl. O ran adroddiad cynnydd Prosiectau y Cynllun
Corfforaethol roedd y Cabinet wedi cytuno i dderbyn adroddiad cychwynnol ym mis
Ionawr ac yna'n rheolaidd wedi hynny. Awgrymodd y Prif Weithredwr y dylid darparu
cyflwyniad proffesiynol i’r cyfryngau ymlaen llaw er mwyn codi ymwybyddiaeth a
chynhyrchu cyhoeddusrwydd cadarnhaol. Teimla’r Cabinet ei bod yn bwysig amlygu
llwyddiannau blaenorol ynghyd â’r prosiectau a gynlluniwyd er mwyn amlygu
prosiectau pwysig eraill y tu hwnt i’r Cynllun Corfforaethol i ddangos
ymrwymiad a buddsoddiad y Cyngor yn y sir. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
o dan Adran 100A Deddf
Llywodraeth Leol 1972, bod y Wasg a'r Cyhoedd i'w gwahardd o'r cyfarfod ar gyfer
yr eitemau busnes canlynol ar y sail fod tebygrwydd y byddai gwybodaeth
eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 ac 16 o Ran 4 Atodlen 12A Deddf
Llywodraeth Leol 1972. |
|
21-26 RHODFA’R GORLLEWIN, Y RHYL (HEN SAFLE HONEY CLUB) Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
Cyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi'n amgaeedig) ynglŷn â
21 – 26 Rhodfa’r Gorllewin, y Rhyl. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) cymeradwyo terfynu'r
Cytundeb Datblygu presennol gyda Chesham Estates (Y Rhyl) Ltd ac awdurdodi'r
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd i gyhoeddi
hysbysiad terfynu; (b) cymeradwyo gwaredu tir a
leolir yn 21 - 16 Rhodfa’r Gorllewin (y safle) a Maes Parcio Ffordd Cilgant ar
brydles 125 mlynedd i Whitbread/Premier Inn Hotels Cyf ar delerau sy'n cynnig
yr ystyriaeth orau sy’n rhesymol ar gael ar sail y wybodaeth yn yr adroddiad, a (c) bod telerau gwaredu o'r fath fel y cymeradwywyd gan y Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd a’r Pennaeth Cyllid,
Asedau a Thai. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad cyfrinachol yn ceisio llwybr datblygu
amgen ar gyfer 21-26 Rhodfa’r Gorllewin, y Rhyl. Cynghorwyd y
Cabinet ynglŷn â’r cymhlethdodau a darparwyd cefndir i'r sefyllfa
bresennol ynghyd â'r goblygiadau ariannol a'r rhesymau dros yr argymhellion yn
yr adroddiad. Adroddodd Bennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, AD a
Democrataidd ynglŷn â'r elfennau cyfreithiol ac ymateb i’r materion a
godwyd gan Chesham Estates (Rhyl) Ltd yn eu gohebiaeth i’r Aelodau Cabinet yn
ddiweddar. Ystyriodd yr
Aelodau’r sefyllfa bresennol a’r opsiynau amrywiol a gyflwynwyd er mwyn symud
ymlaen i ddatblygu’r safle a'r cwestiynau a godwyd mewn perthynas â gwahanol
agweddau o’r adroddiad a’r gwersi a ddysgwyd o’r broses. Rhoddwyd
sicrwydd ynglŷn ag ymrwymiad Whitbread / Premier Inn Hotels Ltd i
ddatblygu’r safle. Roedd y Cabinet
yn awyddus i ddiogelu’r cyfle datblygu gorau posibl ar gyfer y safle fel rhan o
adfywiad cyffredinol y Rhyl ac i osgoi unrhyw oedi gormodol yn y broses honno. Roedd
yr Aelodau’n fodlon bod yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad yn rhesymol ac
yn gamau gweithredu cymesur o ystyried yr amgylchiadau ac yn cynrychioli’r
opsiwn gorau ar gyfer datblygu’r safle yn y dyfodol. Felly
- PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) Cymeradwyo terfynu'r
Cytundeb datblygu presennol gyda Chesham Estates (Rhyl) Ltd ac awdurdodi
Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, AD a Democrataidd i gyflwyno rhybudd terfynu; (b) Cymeradwyo gwaredu’r tir
yn 21-26 Rhodfa’r Gorllewin (y safle) a Maes Parcio Crescent Road ar brydles
125 mlynedd i Whitbread / Premier Inn Hotels Ltd ar delerau sy’n cynnig yr
ystyriaeth orau sy’n rhesymol bosibl ar gyfer y Cyngor yn seiliedig ar yr
wybodaeth yn yr adroddiad hwn; a (c) Bod telerau gwaredu o’r fath yn cael eu cymeradwyo gan Bennaeth
Gwasanaethau'r Gyfraith, AD a Democrataidd a Phennaeth Cyllid, Asedau a Thai. Daeth y cyfarfod i ben am 11.50 a.m. |