Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

MUNUD O DAWELWCH

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y ddau drychineb diweddar yng Nghorwen a’r bywydau a gollwyd a safodd yr aelodau mewn teyrnged ddistaw.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 89 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiad o gysylltiad wedi’i godi.

 

 

3.

MATERION BRYS

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw fater brys wedi’i godi.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 167 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2015 (copi’n amgaeedig). 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2015 fel cofnod cywir a’u llofnodi gan yr Arweinydd.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2015.

 

Materion yn Codi – Tudalen 6, Eitem 5: Cynigion yn gysylltiedig ag Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn – adroddodd y Pennaeth Cyfreithiol, AD a Gwasanaethau Democrataidd ar alw i mewn y penderfyniad ar yr eitem hon a gafodd ei hystyried gan y Pwyllgor Archwilio Cymunedau ar 16 Tachwedd 2015. Roedd cynnig i gyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet wedi cael ei drechu ac mae penderfyniad y Cabinet yn sefyll.

 

Cydnabu’r Cynghorydd Eryl Williams fod craffu yn rhan annatod o’r broses a chafwyd rhywfaint o drafodaeth am sut y gallai’r Cabinet a Chraffu weithio’n well gyda’i gilydd i sicrhau fod craffu ar faterion pwysig yn fwy effeithiol. Awgrymwyd cyfeirio’r mater hwn at Grŵp y Cadeiryddion a’r Is-Gadeiryddion Craffu i’w ystyried ymhellach.

 

PENDERFYNWYD fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2015 yn cael eu cymeradwyo fel rhai cywir a’u llofnodi gan yr Arweinydd.

 

 

5.

CYNLLUN CORFFORAETHOL – DIWEDDARIAD ARIANNOL pdf eicon PDF 95 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi'n amgaeedig) yn darparu'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar y Cynllun Corfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD -

 

(a)       Bod y Cabinet yn cadarnhau'r rhagdybiaethau a nodir yn y Cynllun.

 

(b)       aelodau i ofyn am adroddiadau pellach i'r Cabinet ym mis Ionawr 2016 ac yn rheolaidd wedi hynny ar y cynnydd sy'n cael ei wneud ar bob un o'r prosiectau a nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar sefyllfa ariannol y Cynllun Corfforaethol.

 

Lansiwyd y Cynllun Corfforaethol yn 2012 ac roedd yn gosod allan raglen uchelgeisiol o fuddsoddiad cyfalaf mewn ysgolion, ffyrdd, gofal cymdeithasol a moderneiddio. Roedd cyflawni’r Cynllun yn dibynnu ar sicrhau cyllideb i dalu am fenthyca a chynnal cronfeydd arian parod ynghyd â grant llywodraeth i helpu i gyflawni rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, ac yn y blynyddoedd cynt roedd grant llywodraeth wedi helpu i dalu am fuddsoddiad priffyrdd ychwanegol hefyd. Roedd y Cynllun wedi datblygu ers 2012 ac er mwyn gallu ei fforddio, bu’n rhaid ei ddiwygio rywfaint ochr yn ochr â newidiadau mewn rhagdybiaethau cynllunio.

 

Manylodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar elfennau ariannol y Cynllun Corfforaethol, yn cynnwys rhagdybiaethau allweddol, gan gyfeirio’n arbennig at -

 

·         gytundeb y Cyngor i roi blaenoriaeth i gyflawni’r Cynllun yn y cylchoedd cyllideb nesaf

·         newidiadau allweddol i’r Cynllun gwreiddiol fyddai cael gwared ar y prosiect Swyddfeydd a gostyngiad yn amcan gost y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif

·         cytunodd y Cabinet ym mis Mehefin 2015 i gynyddu gwariant Priffyrdd £3.2m i £18.4m drwy ddyraniad ychwanegol o £800k y flwyddyn

·         y sefyllfa ddiweddaraf am gyllido rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yw y derbyniwyd cadarnhad yn ddiweddar gan LlC fod y Rhaglen Amlinellol Strategol a gyflwynwyd ym Mehefin 2015 yn dderbyniol ac y byddai pob cynllun (yn cynnwys y prosiect ysgol ffydd, Ysgol Tref Rhuthun, Ysgol Carreg Emlyn, ardaloedd Llanfair/Pentrecelyn ac Ysgol Pendref yn Ninbych) yn cael eu cyllido ar 50%

·         cyfanswm yr amcan gostau cyfalaf oedd £126m ac roedd ciplun o’r llif arian presennol a’r gwariant hyd at 2019/20 wedi’i gynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

I gloi dywedodd y Cynghoyrdd Thompson-Hill fod y cynllun yn un cadarn ac, â phopeth arall yn gyfartal, fod adnoddau yn eu lle i barhau i allu cyflawni’r Cynllun.

 

Wrth ystyried yr adroddiad trafodwyd y materion canlynol –

 

·         Ailadroddodd y Cynghorydd Eryl Williams y ffaith fod Sir Ddinbych ar flaen y gad o ran buddsoddi mewn adeiladau ysgol a bod y strategaeth yn dwyn ffrwyth erbyn hyn gyda LlC yn ariannu pob cynllun ar 50%. Canmolodd y cyngor blaenorol am eu gweledigaeth hirdymor i ysgolion a’r cyngor presennol am barhau â’r buddsoddiad hwnnw - dywedodd fod sefyllfa Sir Ddinbych yn cyferbynnu â chynghorau eraill nad oeddent mewn sefyllfa i fuddsoddi.

·         eglurwyd fod y rhagdybiaeth wreiddiol ar gyfer yr ysgol ffydd yn seiliedig ar 15% o gyllid y cyngor a chyllid o 100% i ysgolion ardal Rhuthun - drwy gyfuno’r elfennau hyn a chytuno ar becyn ariannu newydd o 50% gyda LlC, roedd y cyngor bellach yn elwa ar gyllid ychwanegol o £6m

·         gofynnwyd am sicrhad ynghylch cyflawni’r prosiectau tai gofal ychwanegol. Adroddodd y Cynghoryrdd Bobby Feeley am yr amserlenni a’r cynnydd a wnaed a dywedodd fod cynnydd yn dibynnu ar bartneriaid allanol hefyd

·         tynnodd yr aelodau sylw at yr angen i gadw llygad manwl ar y prosiectau er mwyn osgoi llithriad ac adroddodd y Cynghorwyr Eryl Williams a Julian Thompson-Hill ar waith y Bwrdd Moderneiddio Addysg yn sicrhau fod y prosiectau ysgolion yn cael eu cyflwyno’n brydlon – byddai adroddiad cynnydd ar y prosiect ysgol ffydd yn cael ei gyflwyno i gyfarfod Briffio nesaf y Cyngor

·         atebodd y Cynghorydd David Smith gwestiynau am gyllid priffyrdd a chadarnhaodd fod £800k ychwanegol wedi’i ddyrannu i briffyrdd i geisio cynnal safonau i ffyrdd blaenoriaeth ond er gwaethaf y buddsoddiad ychwanegol, ei bod yn debygol y byddai lefelau’n dirywio’n araf

·         wrth ymateb i gwestiynau ar fenthyca darbodus, cadarnhaodd y Cynghorydd Thompson-Hill fod prynu cymhorthdal y PFI a HRA wedi arwain at enillion ariannol. Roedd dangosyddion darbodus yn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 228 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedif) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2015/16 a'r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghoyrdd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllideb y cytunwyd arni. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn -

 

·        rhagwelid tan wariant net o £0.298m i’r cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·        cyflawnwyd 91% o’r arbedion y cytunwyd arnynt hyd yma (targed £7.3m) a rhoddwyd manylion hefyd am y cynnydd tuag at gyflawni’r 9% sy’n weddill

·        tynnwyd sylw at amrywiannau allweddol o’r cyllidebau neu’r targedau arbedion a oedd yn gysylltiedig â meysydd gwasanaeth unigol, a

·        chafwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a’r Cynllun Cyfalaf (yn cynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol).

 

Codwyd y materion canlynol mewn trafodaeth –

 

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Eryl Williams at y polisi o gynnig hen adeiladau ysgol i’r gymuned leol fel dewis cyntaf ond tynnodd sylw at nifer yr adeiladau ysgol sy’n wag ers tro erbyn hyn a’r costau sydd ynghlwm â hyn – felly roedd gwaith ar y gweill i dynhau’r polisi a sicrhau nad oedd y cynnig i’r gymuned yn aros yn benagored

·         Eglurodd y Cynghorydd David Smith oblygiadau’r gostyngiadau yn incwm ffioedd gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Gorllewin Cymru a’r dyraniad buddsoddiad a lefel y gwaith yn yr ardal hon. Dywedodd y Cynghorydd Huw Jones fod yr A5 yn arbennig angen buddsoddiad

·         Cyfeiriwyd at y cynnydd a wnaed i gyflawni’r 9% (£638k) o arbedion sy’n weddill ar gyfer 2015/16 gyda rhai i’w cyflawni yn 2016/17 – byddai unrhyw ddiffyg a achosir gan oedi mewn gweithredu yn cael ei gwrdd gan ffynonellau eraill yn y gwasanaethau dan sylw.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill hefyd i gwestiynau a godwyd gan aelodau nad oeddent yn y Cabinet, fel a ganlyn -

 

·         gwnaed oddeutu £900 o arbedion drwy beidio â thalu costau teithio i aelodau oedd yn mynd i gyfarfodydd fel arsyllwyr

·         roedd y cytundeb fframwaith a ddefnyddir ar gyfer athrawon llanw wedi cyflwyno arbedion

·         manylodd ar y risgiau sy’n dod i’r amlwg ynghylch rhwymedigaethau’r cyngor sy’n gysylltiedig â hawliadau  hanesyddol i’r cyn Mutual Municipal Insurance Company

·         dywedodd fod datganiad i’r wasg wedi’i wneud am fanteision terfynu’r cytundeb PFI ond bod y telerau penodol yn aros yn gyfrinachol - yn ogystal ag arbedion sylweddol, rodd y prynu allan yn rhoi mwy o hyblygrwydd dros yr adeiladau a’r meysydd parcio ac roedd gwaith wedi dechrau ar archwilio posibiliadau i’w ddefnyddio yn y dyfodol. Adroddodd y Cynghorydd Bobby Feeley ei bod yn paratoi taflenni i’r preswylwyr lleol i’w diweddaru am y prynu PFI allan a materion cysylltiedig wrth iddynt fynd rhagddynt

·         cadarnhawyd y byddai unrhyw rewi rhent yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru yn cael effaith ac y byddai’n cael ei gynnwys yng nghyllideb y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr ar y sefyllfa ariannol gymharol iach yn y cyfnod hwn yn y flwyddyn ariannol a’i fod yn hyderus o gael cyllideb fantoledig. Cyfeiriodd at Ddatganiad Ariannol yr Hydref a oedd ar fin digwydd a’r goblygiadau i Gymru a mynegodd bryderon y gallai llywodraeth leol golli allan i elfennau eraill o’r sector cyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD fod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a osodwyd ar gyfer 2015/16 a’r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni.

 

 

7.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 74 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr aelodau y newidiadau canlynol -

 

·         eitem ychwanegol ar gyfer mis Rhagfyr ar Ddatblygu West Parade, Y Rhyl

·         eitem ychwanegol ar gyfer mis Ionawr ar Strategaeth Rheoli’r Trysorlys

·         eitem ychwanegol ar gyfer mis Chwefror ar y Rhaglen Gyfalaf

·         cyn Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych wedi’i hail-drefnu o fis Rhagfyr i fis Chwefror

·         adroddiad cynnydd ar brosiectau’r Cynllun Corfforaethol ar gyfer mis Ionawr ac yn rheolaidd wedi hynny fel y cytunodd y Cabinet ynghynt ar yr agenda

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.30 a.m.