Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad personol na rhagfarnol ei ddatgan. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 30 Mehefin 2015 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2015 fel cofnod cywir i’r
Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2015 PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2015 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
DYFODOL GWASANAETHAU GOFAL MEWNOL PDF 107 KB I ystyried
adroddiad ar y cyd gan Gadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen Gofal Cymdeithasol
Mewnol a Phennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol (copi'n amgaeëdig) yn rhoi
manylion canfyddiadau’r ymarfer casglu gwybodaeth a gofyn am gymeradwyaeth ar
gamau gweithredu yn y dyfodol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) cytuno i ymgynghori'n gyhoeddus ynglŷn
â’r awgrymiadau fel y manylir arnynt yn yr adroddiad ac fel y cânt eu
hamlinellu isod - ·
Hafan
Deg - ymuno mewn partneriaeth â sefydliad allanol a throsglwyddo’r adeilad iddynt,
gan gomisiynu gwasanaeth gofal dydd yn yr adeilad ac, yn ogystal, galluogi
asiantaethau’r trydydd sector i ddarparu gweithgareddau ymyrraeth gynnar ar
gyfer pobl hŷn a fydd yn lleihau unigedd cymdeithasol, yn cefnogi
annibyniaeth ac yn hybu gwytnwch. ·
Dolwen
- ymuno mewn partneriaeth â sefydliad allanol a throsglwyddo’r gwasanaeth cyfan
iddynt (gofal preswyl a gofal dydd), gsn gofrestru ar gyfer gofal Henoed Eiddil
eu Meddwl. ·
Awelon
- atal derbyniadau newydd a gweithio gyda’r unigolion a'u teuluoedd, yn eu
pwysau, i archwilio, lle bo’n briodol,
ddewisiadau amgen addas ar gyfer ymuno mewn partneriaeth â pherchennog Llys
Awelon i ddatblygu rhagor o fflatiau Gofal Ychwanegol ar y safle. ·
Cysgod
y Gaer - ymuno mewn partneriaeth â budd-ddeiliaid perthnasol (gan gynnwys
Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r 3ydd sector) i ddatblygu'r safle yn 'ganolfan
cymorth' gan gynnig cyfleusterau preswyl a gofal ychwanegol, yn ogystal â gofal
cartref allgymorth a gwasanaeth cymorth i denantiaid Cynlluniau Tai Gwarchod
lleol ac i boblogaeth ehangach Corwen a'r ardal gyfagos. (b) cytuno i ymrwymo i dendr ar gyfer darparu
gofal yn y cartref yng Nghynlluniau Gofal Ychwanegol Llys Awelon, Nant y Môr a
Gorwel Newydd fel y nodir ym mharagraff 4.5.5 yr adroddiad; (c) nodi y bydd yn rhaid i unrhyw
ddarpariaeth yn y dyfodol gydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau gofal drwy
gyfrwng y Gymraeg, ar gyfer y bobl hŷn hynny y mae arnynt ei angen, a
chynnal y gallu i wneud hynny, a (d) bod y Cyngor yn ymgysylltu â Gweinidogion
a Swyddogion Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn
annog rhagor o gydweithio a gwaith partneriaethol rhwng y Cyngor a Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr o ran darparu gwasanaethau sy'n ymwneud â gofal i
bobl hŷn. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad
Grŵp Tasg a Gorffen Gofal Cymdeithasol Mewnol yn nodi canfyddiadau’r
ymarfer casglu gwybodaeth o adolygiadau unigolion a theuluoedd sy’n defnyddio’r
gwasanaethau gofal mewnol a cheisio cymeradwyaeth i gynnal ymgynghoriad
cyhoeddus ar awgrymiadau ar gyfer Awelon, Cysgod y Gaer, Dolwen a Hafan Deg a
dechrau tendro ar gyfer darpariaeth gofal yn y cartref mewn cynlluniau gofal
ychwanegol. Darparodd y Cynghorydd Feeley rywfaint o
gyd-destun yr adroddiad gan amlygu gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Lles (Cymru) a’r galw i foderneiddio gwasanaethau mewn ymateb i newidiadau
demograffig ac anghenion y cyhoedd, gan ystyried effaith toriadau cyllidebol
sylweddol a sicrhau gwasanaethau cynaliadwy yn y dyfodol. Cymerodd y cyfle i ddiolch i’r Grŵp
Tasg a Gorffen a’r swyddogion am eu gwaith caled yn archwilio’r opsiynau ar
gyfer darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol o ansawdd uchel gan ystyried
anghenion lleol ac egluro’r awgrymiadau a gyflwynwyd ar gyfer gwasanaethau
gofal mewnol yn y dyfodol. Dengys ymchwil fod y galw am ofal preswyl yn lleihau a bod pobl yn ffafrio
byw’n annibynnol gyda chefnogaeth a bod galw am ofal Iechyd Meddwl i’r Henoed a
gwelyau nyrsio. Credwyd y byddai’r cynigion cyfredol yn darparu gwasanaeth da i breswylwyr
Sir Ddinbych yn y dyfodol. Nododd y Cabinet y gwahaniaeth rhwng y cynigion
gwreiddiol a chyfredol a oedd yn arddangos bod safbwyntiau defnyddwyr
gwasanaeth a’u teuluoedd wedi’u hystyried. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol- ·
Cafwyd
eglurhad o rôl y Sefydliad Ymgynghori fel arbenigwyr mewn ymarferion ymgynghori
cyhoeddus a cheisiwyd eu cyngor er mwyn diogelu yn erbyn her a sicrhau bod y
canlyniad terfynol yn gyraeddadwy. ·
byddai
natur a’r math o bartneriaethau a awgrymwyd yn amrywio gan ddibynnu ar yr
anghenion mewn gwahanol ardaloedd a byddai’n debygol o gynnwys partneriaethau
yn y sectorau preifat a gwirfoddol – pe bai’r awgrymiadau’n cael eu cytuno
byddai’n ofynnol ceisio datganiadau diddordeb er mwyn darparu’r canlyniadau a
allai gynnwys eraill yn darparu gwasanaethau ar ran y Cyngor. ·
Amlygwyd pwysigrwydd gweithio ar
y cyd, yn enwedig gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i ddarparu
gwasanaethau gofal lleol ar gyfer pobl hŷn, a theimlwyd y dylid rhoi mwy o
bwyslais ar ddatblygu’r elfen hon o waith partneriaeth yn y dyfodol - cytunwyd
y dylid cyfeirio at hyn yn y penderfyniad. ·
Nodwyd
nad oedd yn gost effeithiol i Sir Ddinbych dderbyn preswylwyr i gartrefi gofal
o’r tu allan i’r Sir ar hyn o bryd, ond gallai hyn newid yn y dyfodol o
ganlyniad i waith partneriaeth gydag awdurdodau lleol eraill. ·
Er y
darparwyd sicrwydd o ran darparu gwasanaethau gofal trwy gyfrwng y Gymraeg nid
oedd cyfeiriad penodol at hyn yn yr adroddiad – cytunwyd y dylid adlewyrchu hyn
yn y penderfyniad pe bai’r Cabinet yn cymeradwyo’r cynigion, ac y dylid egluro
yn y broses ymgynghori bod y Gymraeg yn flaenoriaeth ar gyfer y gwasanaethau yn
y dyfodol. ·
o ran
Awelon cydnabuwyd na fyddai’n briodol symud rhai o’r preswylwyr, felly roedd
gweledigaeth hirach ar gyfer y safle hwnnw – cytunwyd y dylid aralleirio’r
argymhelliad i adlewyrchu hyn. ·
darparwyd
rhai terfynau amser dangosol pe bai’r awgrymiadau yn cael eu cymeradwyo ar
gyfer ymgynghoriad cyhoeddus a gwireddu arbedion yn y dyfodol. Darparodd y Cynghorydd David Simmons, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio Perfformiad, drosolwg o drafodaeth y Pwyllgor Archwilio a’r sylwadau a oedd wedi’u crynhoi yn yr adroddiad. Roedd proses asesu gofal dydd hefyd wedi’i godi fel mater ac o ran gwasanaethau gofal dydd, roedd y pwyllgor Archwilio wedi awgrymu y dylid sicrhau darpariaeth ar gyfer unigolion sy’n byw ar eu pennau eu hunain ac fel seibiant ar gyfer gofalwyr. Cadarnhaodd y Swyddogion y bwriad o gomisiynu gwasanaeth gofal dydd yn Hafan Deg a Dolwen, a ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
GWEITHREDU DEDDF TAI CYMRU 2014 PDF 81 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a Llyfrgelloedd
(copi'n amgaeedig) yn ceisio cadarnhad y Cabinet am eu penderfyniad gwreiddiol
i gadw'r prawf digartrefedd bwriadoldeb yn dilyn adolygiad o'r raddfa amser a
ragnodwyd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi cynnwys yr adroddiad ac yn cymeradwyo eu penderfyniad
gwreiddiol i gadw’r prawf "bwriadoldeb" yn ei grynswth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Hugh Irving adroddiad yn ceisio cefnogaeth y Cabinet ar gyfer eu
penderfyniad gwreiddiol (a wnaed ar 17 Chwefror 2015) i gadw prawf digartrefedd
bwriadoldeb yn llawn yn dilyn diwygio'r terfynau amser a nodwyd. Yn dilyn
penderfyniad y Cabinet i gadw’r prawf bwriadoldeb cynghorodd Llywodraeth Cymru
y dylid diwygio'r terfyn amser a nodwyd oherwydd oedi o ran cadarnhau Cod
Canllawiau Digartrefedd i gyd-fynd â Deddf Tai (Cymru) 2014. Gan
na wnaed unrhyw newid i’r amodau a pharamedrau’n disgresiwn a roddir i
Gynghorau o ran cadw'r prawf bwriadoldeb (heblaw’r amserlen), roedd y
penderfyniad yn parhau i fod yn gyfreithiol ddilys. Fodd
bynnag, roedd Llywodraeth Cymru wedi argymell bod adroddiad yn cael ei gyflwyno
i’r Cabinet er mwyn ail-gadarnhau eu penderfyniad gwreiddiol. Cadarnhaodd
y swyddogion bod y penderfyniad gwreiddiol wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru
a'i gyhoeddi o fewn yr amserlen ddiwygiedig. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi cynnwys yr adroddiad ac yn cefnogi eu penderfyniad gwreiddiol
i gadw’r prawf “Bwriadoldeb” yn llawn. |
|
I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, y
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi wedi’i amgáu) yn ceisio
cymeradwyaeth y Cabinet i ddileu ôl-ddyledion trethi busnes anadferadwy. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cytuno i ddiddymu Trethi Busnes na ellir eu hadennill fel y nodir
yn Nhabl 1 yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo dileu Trethi Busnes na ellid eu
hadennill ar gyfer dau gwmni lle na fyddai camau adennill yn parhau oherwydd eu
bod naill ai wedi eu dirwyn i ben neu eu diddymu. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion pellach yn
ymwneud â phob cwmni. Mewn ymateb i gwestiynau adroddodd y swyddogion ar
y broses o adennill a’r defnydd o’r Gwasanaeth Methdaliad mewn achosion penodol
a’r camau a gymerir i sicrhau bod “cwmnïau phoenix” yn cael eu nodi a bod
unigolion yn cael eu dwyn i gyfrif. Nododd y Cabinet bod y ddyled ar gyfer un o’r cwmnïau yn ymwneud â chyfnod
o ddwy flynedd a darparwyd sicrwydd ynglŷn â chadernid y broses adennill
a’r terfynau amser perthnasol i sicrhau'r cyfle gorau i gael canlyniad
cadarnhaol. Roedd y rhan fwyaf o’r dyledion yn cael eu casglu yn ystod y flwyddyn ond
oherwydd y terfynau amser gallai’r ddyled barhau am ddwy flynedd ariannol. Nododd y Cabinet na fyddai cost i’r Cyngor
am y dyledion a waredir gan eu bod yn cael eu diwallu gan y Gronfa
Genedlaethol. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo dileu Trethi Busnes na ellir eu hadennill fel y nodir
yn Nhabl 1 yr adroddiad. |
|
I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, y
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi ynghlwm) yn manylu ar y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb a gytunwyd
arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2015/16 a'r cynnydd a wnaed o
ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r
cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni. Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa
ariannol y Cyngor- ·
rhagwelwyd
tanwariant net o £0.594 miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
roedd
73% o’r arbedion y cytunwyd arnynt (targed o £7.3 miliwn) wedi’u sicrhau hyd
yma ·
amlygwyd
y prif amrywiadau oddi wrth dargedau cyllideb neu arbedion yn ymwneud â meysydd
gwasanaeth unigol; a ·
diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf
(gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol). Codwyd y materion canlynol yn ystod y drafodaeth- ·
Amlygwyd
y cynnydd da a wnaed mewn perthynas â phrif brosiectau gan gyfeirio’n benodol
at Ysgol Newydd y Rhyl a Datblygiad Nova Prestatyn. Diolchodd yr Arweinydd i’r swyddogion a
gyfranogodd at ddarpariaeth llwyddiannus Cynllun Datblygiad Arfordirol
Gorllewin y Rhyl (Cam 3) a oedd yn brosiect risg uchel yn y dechrau a chyfeiriwyd
at waith Cyngor Tref y Rhyl i sicrhau gwelliannau pellach i’r ardal honno o’r
promenâd gan gynnwys seddi / lloches. ·
cafwyd
trafodaeth dda yn y Pwyllgor Archwilio Cymunedau ynglŷn â gosod lefelau
ffioedd parcio – roedd gosod ffioedd a thaliadau wedi’i ddirprwyo i Bennaeth
Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd ac roedd y newidiadau yn cael eu
gweithredu cyn gynted â phosibl. ·
Byddai’r
newidiadau i ddarpariaeth cludiant ysgol yn cael ei fonitro’n agos dros y
misoedd nesaf ac roedd angen digon o amser i sicrhau asesiad cywir; byddai
manylion ariannol contractau ysgolion ar gyfer 2015/16 ar gael ym mis Medi ac
adroddir eu heffaith i’r Cabinet ym mis Hydref fel rhan o’r adroddiad cyllid
rheolaidd. ·
amlygwyd
effaith gostyngiadau hysbys o incwm ffioedd Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a
Chanolbarth Cymru unwaith eto fel pryder difrifol a oedd yn cael ei waethygu
gan oedi’r Gweinidog o ran cadarnhau lefel yr incwm a’r gwaith yn y dyfodol. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2015/16 a'r cynnydd a wnaed
yn erbyn y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 87 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans Raglen Gwaith
i’r Dyfodol y Cabinet i’w ystyried a nododd yr Aelodau’r eitem ychwanegol ar
gyfer mis Rhagfyr a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Cynllun
Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 12.05pm. |