Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorydd
Barbara Smith, Aelod Arweiniol Moderneiddio a Thai. Cofnodion: Y Cynghorydd
Barbara Smith, Aelod Arweiniol Moderneiddio a Thai. |
|
☻Dylai’r
Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn
unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Datganodd y Cynghorwyr Joan Butterfield, Meirick Davies, Bobby Feeley,
Martyn Holland, Huw Jones, Merfyn Parry, Arwel Roberts, David Simmons, David
Smith, Julian Thompson-Hill gysylltiad personol ag eitem 5 ar y rhaglen. Datganodd y Cynghorwyr Bobby Feeley, Hugh Irving a Julian Thompson-Hill
gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag eitem 11 ar y rhaglen yn ymwneud â Gofal
Iechyd Cefndy. Cofnodion: Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol gydag eitem 5 ar y
rhaglen - Y Cynghorydd Joan Butterfield – Llywodraethwr Ysgol Tir Morfa Y Cynghorydd Meirick Davies - Llywodraethwr Ysgol Cefn Meiriadog ac Ysgol
Trefnant Y Cynghorydd Bobby Feeley - Llywodraethwr Ysgol Stryd y Rhos Y Cynghorydd Martyn Holland - Llywodraethwr Ysgol Bro Famau Y Cynghorydd Huw Jones – Llywodraethwr Ysgol Caer Drewyn ac Ysgol Carrog Y Cynghorydd Merfyn Parry – Llywodraethwr Ysgol Bryn Clwyd ac Ysgol
Gellifor Y Cynghorydd Arwel Roberts – Llywodraethwr Ysgol y Castell ac Ysgol Dewi
Sant Y Cynghorydd David Simmons – Llywodraethwr Ysgol Tir Morfa Y Cynghorydd David Smith – Ŵyr yn Ysgol Pen Barras Y Cynghorydd Julian Thompson-Hill - Llywodraethwr Ysgol Clawdd Offa Datganodd y Cynghorwyr Bobby Feeley, Hugh Irving a Julian Thompson-Hill
gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag eitem 11 ar y rhaglen yn ymwneud â Gofal
Iechyd Cefndy. Gan fod yr aelodau hynny wedi'u henwebu gan y
Cyngor i Fwrdd Rheoli Gofal Iechyd Cefndy, cawsant eu heithrio o dan y Cod
Ymddygiad a chael caniatâd i gymryd rhan yn y ddadl a phleidleisio ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS ☻Rhybudd o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
☻Derbyn
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 2 Mehefin 2015 (copi amgaeedig). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mehefin 2015 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 2 Mehefin 2015. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mehefin 2015 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
☻Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi amgaeedig) yn rhoi manylion
casgliadau'r Pwyllgor Archwilio Perfformiad ar ôl iddo ystyried penderfyniadau
y Cabinet a gymerwyd Cabinet ar 2 Mehefin 2015 o ran Ysgol Llanfair Dyffryn
Clwyd, Ysgol Pentrecelyn, ac Ysgol Rhewl. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet - (a) yn derbyn casgliadau ac argymhellion y
Pwyllgor Archwilio Perfformiad mewn perthynas â'r ddau benderfyniad sy’n destun
hysbysiadau galw i mewn, (b) o ran yr argymhellion yn ymwneud ag Ysgol
Rhewl, yn cymeradwyo'r gwaith ychwanegol a argymhellir, fel yr amlinellir isod
- ·
cyfarwyddo
swyddogion, yn ystod y cyfnod ymgynghori yn dilyn cyhoeddi'r rhybuddion
statudol, i asesu a lliniaru effeithiau colli’r ddarpariaeth Gymraeg ar y
gymuned ac i sicrhau na fydd colli ysgol ddwy ffrwd yn rhoi disgyblion yr ardal
dan anfantais, ·
gwaith
pellach gyda disgyblion, rhieni, staff a budd-ddeiliaid eraill Ysgol Rhewl i
fynd i'r afael â phryderon yn ymwneud â maint safle Glasdir, rheolaeth gludiant
a diogelwch y ffyrdd mewn perthynas â phlant ysgol gynradd sy’n cerdded rhwng
Rhewl a safle Glasdir, ·
bod
canfyddiadau'r gwaith uchod yn cael eu hadrodd i'r Cabinet yn hydref 2015 pan
gyflwynir yr adroddiad gwrthwynebu mewn ymateb i gyhoeddi'r rhybudd statudol. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Simmons, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio
Perfformiad, yr adroddiad yn nodi casgliadau ac argymhellion y pwyllgor
archwilio yn dilyn ystyriaeth o alw i mewn penderfyniadau'r Cabinet mewn
perthynas ag Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd, Ysgol Pentrecelyn ac Ysgol Rhewl. Yn dilyn ystyriaeth ofalus, fe wnaeth y Pwyllgor Archwilio Perfformiad
gynnal penderfyniadau’r Cabinet a gwneud nifer o argymhellion yn achos Ysgol
Rhewl er mwyn lliniaru pryderon cymunedol a rhanddeiliaid. Cadarnhaodd swyddogion eu bod yn hapus i
weithredu argymhellion y pwyllgor archwilio yn ystod y broses ymgynghori ac
adrodd yn ôl arno. Fel aelod lleol ar gyfer Rhewl, gwahoddwyd y Cynghorydd Merfyn Parry i
siarad ac fe gadarnhaodd nad oedd ganddo ddim arall i'w ychwanegu. Fe wnaeth y Cabinet ystyried yr adroddiad a
chytuno i gefnogi’r argymhellion. Ar gyfer eglurder, cytunodd y Cynghorydd Simmons addasu geiriad
argymhelliad 3.2 i atgynhyrchu argymhellion y pwyllgor yn llawn yn hytrach na
chyfeirio at yr argymhellion yn Atodiad 1b. Byddai hyn yn sicrhau y byddai’r argymhellion yn
cael eu hatgynhyrchu’n llawn yng nghofnodion y Cabinet. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) derbyn casgliadau ac argymhellion y Pwyllgor
Archwilio Perfformiad mewn perthynas â’r ddau benderfyniad a wnaed yn destun yr
hysbysiadau galw i mewn, ac (b) o ran yr argymhellion sy'n ymwneud ag Ysgol Rhewl,
i gymeradwyo'r gwaith ychwanegol yr argymhellwyd i'w wneud, fel yr amlinellir
isod – ·
bod
swyddogion yn cael cyfarwyddyd yn ystod y cyfnod ymgynghori, ar ôl cyhoeddi’r
hysbysiadau statudol, i ymgymryd â gwaith asesu a lliniaru effeithiau colli
darpariaeth iaith Gymraeg ar y gymuned ac i sicrhau na fydd colli'r ysgol dwy
ffrwd o anfantais i ddisgyblion yr ardal yn y dyfodol ·
bod
rhagor o waith yn cael ei wneud gyda disgyblion, rhieni, staff a rhanddeiliaid
eraill o Ysgol Rhewl i ymdrin â'u pryderon sy'n ymwneud â chapasiti safle
Glasdir, rheolaeth trafnidiaeth y safle ysgol newydd a phryderon diogelwch
ffyrdd gyda phlant ysgol gynradd sy’n cerdded rhwng Rhewl a safle Glasdir, a ·
bod
canfyddiadau’r gwaith a amlinellir uchod yn cael eu hadrodd i'r Cabinet yn
hydref 2015 wrth gyflwyno’r adroddiad gwrthwynebiadau mewn ymateb i gyhoeddi’r
hysbysiad statudol. |
|
CYNLLUNIAU TREF AC ARDAL PDF 161 KB ☻Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Arweiniol ar gyfer Datblygu
Cymunedol (copi amgaeedig) yn argymell cymeradwyo'r dyraniadau cyllid ar gyfer
prosiectau Cynllun Tref ac Ardal yn dilyn gwerthusiad. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo'r dyraniadau cyllid a argymhellir yn Atodiad 1 yr
adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Huw Jones yr adroddiad yn argymell cymeradwyo dyraniadau ariannol ar
gyfer prosiectau Cynllun Tref ac Ardal yn dilyn gwerthusiad. Roedd Cabinet
wedi cymeradwyo’r argymhellion adolygu Cynllun Tref ac Ardal yn Ionawr 2015 a
chytunwyd i wahodd Grwpiau Ardal Aelodau i enwebu prosiectau sy'n weddill am
arian. Roedd y gwerthusiad o'r prosiectau hynny wedi'u
gosod yn yr adroddiad yn erbyn meini prawf â’r bwriad i brofi budd, gwerth am
arian a’r gallu i gyflenwi. Pennwyd dyddiadau adolygu ar gyfer pob
prosiect a dyraniad wrth gefn ar gyfer Cynllun Tref Bodelwyddan. Cymeradwyodd
y Cynghorydd Huw Jones waith Pencampwyr
y Dref yn eu gwerthusiadau a chyflwynodd eu hargymhellion ariannu. Croesawodd yr
Arweinydd y buddsoddiad mewn cymunedau a buddion cymunedol sy'n deillio o’r
Cynllun Tref ac Ardal. Fe adroddodd hefyd ynghylch bwriadau yn y
dyfodol i gysoni Cynlluniau Tref ac Ardal yn fwy agos â’r strategaeth
economaidd a thynnodd sylw at y pwysigrwydd o adrannau gwasanaeth yn helpu i
gyflawni cynlluniau. Roedd y Cabinet yn fodlon bod prosesau
clir wedi’u sefydlu gyda meini prawf asesu i hyrwyddo tegwch a thryloywder mewn
dyraniadau ariannu ond gofynnwyd am sicrwydd pellach ynghylch cynnydd cyflym
prosiectau ac elfennau arian cyfatebol.
Fe wnaeth y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus dawelu meddyliau’r aelodau ynghylch
y prosesau monitro cadarn a oedd ar waith i oruchwylio datblygiad y prosiectau
o fewn amserlenni priodol. Awgrymwyd ymhellach y gellid monitro’n
rheolaidd drwy atodiad i adroddiad cyllid rheolaidd y Cabinet i ddangos cynnydd
yn erbyn gwariant a gellid ailddyrannu arian os methodd prosiectau wneud
cynnydd. Roedd y rhan fwyaf o'r cynlluniau a argymhellwyd
wedi nodi neu wedi diogelu arian cyfatebol a byddai cyflwyno dyddiadau adolygu
yn galluogi bod modd mynd i’r afael â’r elfen arian cyfatebol. Awgrymodd
y Cynghorydd Eryl Williams adroddiad yn ôl i Bencampwyr y Dref neu Arweinwyr
Grŵp i sicrhau bod cynghorwyr yn cael y diweddaraf gyda chynnydd
prosiectau penodol. O ran ariannu Cynlluniau Tref ac Ardal yn
y dyfodol, cyfeiriwyd at y Cynllun Datblygu Gwledig, ffermydd gwynt ac arian
Ewropeaidd fel ffynonellau posibl i barhau’r buddsoddiad mewn trefi/pentrefi. Wrth fynd heibio,
tynnodd y Cynghorydd Eryl Williams sylw at y ffaith y byddai cynigion ad-drefnu
llywodraeth leol yn effeithio ar argaeledd arian allanol. Er
mwyn sicrhau nad oedd Sir Ddinbych ar eu colled yn hynny o beth, awgrymodd y
dylid ceisio eglurhad ynghylch y goblygiadau ariannol uniongyrchol gan y
Gweinidog ac Aelodau Cynulliad. Cytunodd y Dirprwy Swyddog Monitro /
Cyfreithiwr ddrafftio llythyr yn hynny o beth mewn ymgynghoriad â Phennaeth y
Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd. Diolchodd yr
Aelodau i’r swyddogion am eu gwaith caled ar amrywiol brosiectau a thynnwyd
sylw at rôl bwysig Pencampwyr y Dref yn
y broses. Rhoddodd yr Aelodau sylwadau hefyd ynghylch yr
amrywiol brosiectau a gyflwynwyd i’w gwerthuso a mynegwyd siom mewn achosion
lle nad oeddent wedi cael cefnogaeth heb unrhyw ddull o apelio ar waith. Dywedodd
y Cynghorydd Huw Jones y gall prosiectau nad ydynt ar hyn o bryd wedi’u
hargymell ar gyfer cyllid gael cyfle arall i wneud cais am arian a
ail-ddyrannwyd os bydd prosiectau eraill yn methu symud ymlaen. Roedd
gwaith ar y gweill i edrych ar ffyrdd gwahanol o weithio a ffynonellau arian
allanol posibl i alluogi Cynlluniau Tref ac Ardal i barhau yn y dyfodol. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo'r dyraniadau arian a argymhellir yn Atodiad 1 yr
adroddiad. |
|
CASGLIADAU AC ARGYMHELLION GAN Y GRŴP TASG A GORFFEN TAI FFORDDIADWY PDF 123 KB ☻Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr David Smith, Aelod Arweiniol y Parth
Cyhoeddus a Hugh Irving, Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a Llyfrgelloedd (copi
amgaeedig) yn ceisio cefnogaeth ar gyfer casgliadau ac argymhellion Grŵp
Tasg a Gorffen Tai Fforddiadwy. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo'r casgliadau a'r argymhellion a gytunwyd arnynt gan y
Grŵp Tasg a Gorffen Tai Fforddiadwy (gweler Atodiad 1 yr adroddiad) i'w
datblygu drwy'r Strategaeth Dai a'r Cynllun Cyflawni. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd David Smith adroddiad i geisio cymeradwyaeth o gasgliadau ac
argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen Tai Fforddiadwy. Sefydlwyd
y grŵp i adolygu dull y Cyngor i ddarparu tai fforddiadwy a byddai ei
argymhellion yn llywio'r Strategaeth Tai ac yn cael eu hadlewyrchu yn
strategaethau, cynlluniau a chanllawiau’r Cyngor fel y bo'n briodol. Wrth ystyried yr
adroddiad, trafodwyd y materion canlynol - ·
rhoddwyd
sicrwydd y byddai rhagor o fanylion ac amserlenni i ddatblygu argymhellion yn
cael eu cymryd ymlaen trwy'r Strategaeth Tai ·
cafwyd
rhywfaint o rwystredigaeth, oherwydd deddfwriaeth genedlaethol, ni fyddai'n
bosibl symud rhai argymhellion ymlaen mor sydyn ag y byddai Aelodau’n ei hoffi ·
roedd
llawer o drafodaeth yn canolbwyntio ar y broblem o 'fancio tir' lle methodd
datblygwyr a thirfeddianwyr fwrw ymlaen â datblygiad yn dilyn caniatâd
cynllunio ac yn aros i werthoedd tir gynyddu. Roedd
gan y Cyngor ychydig o reolaeth dros yr amserlen ar gyfer dechrau datblygiadau
ond ni allent gymryd unrhyw gamau mewn achosion lle’r oedd datblygiad wedi
dechrau yn unol â chaniatâd cynllunio ond heb symud ymlaen – roedd yr agwedd
hon yn cael ei rheoli gan ddeddfwriaeth genedlaethol. Cytunwyd
bod Llywodraeth Cymru yn cael tystiolaeth o'r broblem yn Sir Ddinbych ac yn
cael eu lobïo i newid y ddeddfwriaeth i'w gwneud yn ofynnol cwblhau datblygiad
o fewn cyfnod penodedig. Cytunodd swyddogion i ymdrin â’r mater y
tu allan i'r cyfarfod a chodi'r posibilrwydd o ddull ar y cyd ag awdurdodau
lleol eraill a chynnig awgrymiadau amgen i’w hystyried ·
rhoddwyd
esboniad o ran cyfranogiad yr aelodau ar y Grŵp Strategaeth Tai â’r aelodau
Cabinet hynny sydd ag elfennau o dai yn eu portffolios yn cymryd rhan yn ystod
y camau cynnar i ddarparu persbectif aelod cyn y cyflwynwyd y strategaeth drwy
sianeli ffurfiol - Pwyllgor Archwilio Cymunedau ym mis Medi a'r Cyngor llawn ym
mis Hydref ·
Cyfeiriodd
y Cynghorydd Joan Butterfield at faterion digartrefedd ac anawsterau dod o hyd
i lety addas, gan gynghori ynghylch achos presennol er mwyn egluro’r pwynt, a'r
angen i roi sylw i'r mater fel mater o frys – cadarnhaodd swyddogion bod
digartrefedd wedi’i nodi fel blaenoriaeth o fewn y Strategaeth Tai ac y byddai
Aelodau’n cael cyfle i archwilio’r strategaeth mewn Pwyllgor Archwilio
Cymunedau ym mis Medi. O ran yr achos presennol y cyfeiriwyd ato,
cytunwyd edrych ymhellach ar y mater gan swyddogion y tu allan i’r cyfarfod ·
codwyd
pryderon ynghylch safleoedd blêr y Cyngor a'r angen am ddull mwy trwyadl i fynd
i'r afael â nhw. Talodd y Cabinet
deyrnged i'r gwaith a wnaed gan y Grŵp a’i swyddogion cefnogi i gynhyrchu
argymhellion clir i sicrhau manteision mewn materion sy'n ymwneud â thai
fforddiadwy a nodwyd bod rhai argymhellion eisoes yn cael eu gweithredu. Adroddodd
y Cynghorydd David Smith ar y dull dynamig a gynhaliwyd, yn fwyaf nodedig y
Canllawiau Cynllunio Atodol a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Cynllunio sy'n
caniatáu addasu adeiladau gwledig segur ar gyfer tai ar y farchnad. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo’r casgliadau a’r argymhellion y cytunwyd arnynt gan y
Grŵp Tasg a Gorffen Tai Fforddiadwy (sydd ynghlwm fel Atodiad 1 i'r
adroddiad) i’w symud ymlaen drwy'r Strategaeth Tai a'r Cynllun Cyflawni
cysylltiedig. |
|
☻Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol dros y Parth Cyhoeddus
(copi amgaeedig) yn rhoi trosolwg o'r darpariaethau newydd er mwyn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
a geir yn Neddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona 2014 a gofyn
am bwerau a ddirprwyir i Benaethiaid Gwasanaeth perthnasol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod - (a) y Swyddogion a restrir yn Atodiad 1 i'r
adroddiad yn derbyn awdurdod dirprwyedig i arfer y pwerau newydd a’r
swyddogaethau ychwanegol a rhoddir dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol,
Troseddu a Phlismona 2014, er mwyn galluogi'r Cyngor a'i bartneriaid i fynd i'r
afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn modd priodol, cyson a chymesur ac o
fewn cyfyngiadau adnoddau; (b) lefel y dirwyon ar gyfer Rhybuddion Cosb
Benodedig a gyhoeddir fel cosb am dorri Hysbysiadau Amddiffyn Cymunedol a
Hysbysiadau Diogelu Mannau Cyhoeddus yn cael ei bennu ar £100, sef yr uchafswm
dan y ddeddfwriaeth; (c) y Swyddog Monitro yn diwygio'r Cynllun
Dirprwyo Swyddogion i adlewyrchu'r pwerau newydd a diwygiedig hyn mewn
perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, (d) y Swyddog Monitro hefyd yn diwygio'r
Cynllun Dirprwyo Swyddogion i adlewyrchu'r ffaith bod y Pennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd, yn dilyn yr ailstrwythuro, wedi derbyn y cyfrifoldebau mewn
perthynas â swyddogaethau tai'r Cyngor ac i 'dacluso’r' ddeddfwriaeth a nodir yn
y Cynllun oherwydd diddymiadau a diwygiadau i ddeddfwriaeth sydd o fewn cylch
gwaith y gwasanaeth gwarchod y cyhoedd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd David Smith yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r darpariaethau newydd
ar gyfer mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a gynhwysir o fewn Deddf
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona 2014, a cheisio dirprwyo
pwerau i Benaethiaid Gwasanaeth perthnasol i sicrhau bod y pwerau newydd yn
cael eu gweithredu’n effeithiol ac yn adlewyrchu newidiadau eraill mewn
deddfwriaeth a chyfrifoldebau’n dilyn yr ailstrwythuro diweddar. Mae'r
darpariaethau newydd yn symleiddio offer ar gyfer mynd i'r afael ag ymddygiad
gwrthgymdeithasol gyda chwe phŵer newydd yn lle'r 19 presennol; roedd yna
ddau bŵer newydd hefyd. Roedd y cyfrifoldeb ar gyfer delio ag
ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei rannu rhwng nifer o asiantaethau, ac
roedd y ddeddfwriaeth newydd yn annog yr asiantaethau hynny i weithio mewn
partneriaeth i fynd i'r afael â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rhoddwyd
enghreifftiau lle gallai’r Cyngor weithio ar y cyd gyda'r Heddlu ar faterion
sy'n ymwneud â Rhybuddion Gwarchod y Gymuned a Gorchmynion Gwarchod Mannau
Cyhoeddus. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch pwerau ar gyfer
delio ag yfed yn y stryd yn ardal y Rhyl, dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro/Cyfreithiwr
y gallai’r cyngor arfer ei bwerau yn hynny o beth, yn amodol ar adnoddau, ond
byddai angen dibynnu ar yr heddlu am gymorth. Fe
gyfeiriodd hefyd at un o'r pwerau newydd – Sbardun Cymunedol – a oedd yn rhoi
mwy o bwerau i ddioddefwyr ofyn am adolygiad mewn achosion lle teimlent nad
oedd asiantaethau lleol wedi methu ymateb yn effeithiol. Cynlluniwyd
y diwygiadau i roi hyblygrwydd i weithwyr proffesiynol ddelio ag unrhyw
sefyllfa. PENDERFYNWYD bod - (a) y Swyddogion a restrir yn Atodiad 1 i'r adroddiad yn cael awdurdod
dirprwyedig i arfer y pwerau newydd a’r swyddogaethau ychwanegol a roddir dan
Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona 2014, er mwyn
galluogi'r Cyngor a'i bartneriaid i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
mewn modd priodol, cyson a chymesur ac o fewn cyfyngiadau adnoddau; (b) lefel y dirwyon ar gyfer Rhybuddion Cosb Benodedig a gyhoeddir fel cosb am
dorri Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned a Hysbysiadau Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn
cael ei bennu ar £100, sef yr uchafswm dan y ddeddfwriaeth; (c) y Swyddog Monitro yn diwygio'r Cynllun Dirprwyo Swyddogion i adlewyrchu'r
pwerau newydd a diwygiedig hyn mewn perthynas ag ymddygiad
gwrthgymdeithasol, (d) y Swyddog Monitro hefyd yn diwygio'r Cynllun Dirprwyo Swyddogion i
adlewyrchu'r ffaith bod y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, yn dilyn yr
ailstrwythuro, wedi derbyn y cyfrifoldebau mewn perthynas â swyddogaethau tai'r
Cyngor ac i 'dacluso’r' ddeddfwriaeth a nodir yn y Cynllun oherwydd diddymiadau
a diwygiadau i ddeddfwriaeth sydd o fewn cylch gwaith gwasanaeth gwarchod y cyhoedd. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL – CHWARTER 4 – 2014/15 PDF 171 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid, y
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi amgaeedig) yn rhoi diweddariad ar
ddarparu Cynllun Corfforaethol 2012 – 17 ar ddiwedd chwarter 4 2014/15. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni Cynllun
Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd chwarter 4 2014/15. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012 –
17 fel ag y mae ar ddiwedd chwarter 4 o 2014/15. Roedd yr adroddiad yn trafod tair elfen – ·
Cynllun Corfforaethol 2012-17 -
roedd nifer o ddangosyddion 'Coch' a oedd yn golygu eu bod yn 'Flaenoriaeth ar
gyfer gwella' neu lle’r oedd problem â’r data yr oedd angen ei godi - roedd esboniad
tu ôl i statws 'Coch' pob dangosydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad ac
ymhelaethwyd arnynt ymhellach yn y cyfarfod ac mewn ymateb i gwestiynau ·
Cofrestr Prosiect Corfforaethol -
nid oedd unrhyw brosiectau â statws blaenoriaeth ar gyfer gwella ‘Coch’,
darparwyd manylion tri phrosiect ar lefel dderbyniol 'Oren' lle'r oedd materion
penodol ond roeddent yn ôl y disgwyl ·
Cytundeb
canlyniadau – Roedd y Cyngor wedi cyflawni’r nifer angenrheidiol o bwyntiau ar
gyfer taliad llawn o’r Grant Cytundeb Canlyniadau ar gyfer 2014 – 15, fodd
bynnag, cyfeiriwyd at ddau brif faes lle methwyd targedau. Roedd y rhan fwyaf o aelodau'r Cabinet wedi
mynychu hyfforddiant ar y System Rheoli Perfformiad Verto ac felly gallent gael
gafael ar wybodaeth mewn amser go iawn. Byddai hyfforddiant hefyd yn cael ei gyflwyno i
aelodau’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol - ·
cydnabuwyd
y gallai’r dangosydd gwyrdd ar gyfer 'canran y prif ffyrdd A sydd mewn cyflwr
gwael yn gyffredinol' fod yn gamarweiniol ond mewn gwirionedd roedd yn
ganlyniad cadarnhaol – yn anffodus, ni fyddai'n bosibl newid y geiriad ar gyfer
y dangosydd gan ei fod yn cael ei bennu’n genedlaethol ·
roedd 'y canran o dai mewn
amlfeddiannaeth a oedd â thrwydded lawn' wedi methu’r targed cytundeb canlyniad
o 8% - eglurwyd bod newidiadau diweddar i’r gyfundrefn drwyddedu wedi arwain at
gynnydd yn nifer y Tai Amlfeddiannaeth a oedd angen trwyddedu. Ar gais y Cynghorydd Joan Butterfield,
cytunodd Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd i adrodd ar y newidiadau
diweddar a’r sefyllfa ddiweddaraf i Grŵp Ardal Aelodau’r Rhyl ·
cwestiynwyd
y ddau ddangosydd coch o'r Arolwg Preswylwyr, lle nad oedd y preswylwyr wedi
ymateb yn gadarnhaol i'r Cyngor, oherwydd fe ymddangosai’n groes i adborth a
chyfarfodydd yn cynnwys aelodau – dywedodd Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol
bod y data o arolwg 2013 ac y byddai canlyniadau o arolwg 2015 sy’n
adlewyrchu’r farn ddiweddaraf ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn ·
myfyriodd yr aelodau ynghylch y
sesiwn hyfforddi ddiweddar ynghylch Rhianta Corfforaethol a oedd yn boblogaidd
iawn ac yn cynnwys trosolwg o blant sy'n derbyn gofal yn Sir Ddinbych, llwybrau
gofal ac anghenion cefnogi plant sy'n derbyn gofal a’r rhai sy'n gadael gofal -
roedd aelodau’n teimlo ei bod yn bwysig rhoi cyhoeddusrwydd a hyrwyddo
profiadau cadarnhaol a gwaith drwy'r Timau Cyfathrebu a hefyd fe drafodwyd eu
cyfrifoldebau eu hunain yn hynny o beth ·
eglurwyd
bod y Cyngor wedi diogelu eu helfen ariannu o gyllidebau ysgolion ond nid oedd
ganddynt reolaeth dros doriadau i elfennau eraill o arian ysgolion a ddarperir
yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru – trafodwyd rheoli a lliniaru cyllidebau
ysgolion gan y Fforwm Cyllideb Ysgolion hefyd. Dywedodd yr Arweinydd fod yr adroddiad yn darparu
tystiolaeth o'r prosesau cadarn a heriol sydd ar waith gan y Cyngor. Tynnodd sylw at gyflawniad sylweddol y
Cyngor i gynnal lefel gyson uchel o berfformiad er gwaethaf yr hinsawdd
ariannol anodd a llongyfarchodd bawb a oedd ynghlwm wrth hyn. Croesawodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill sylwadau'r Aelodau ar yr adroddiad a gofynnodd bod Cabinet yn
derbyn ac yn nodi'r adroddiad. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni Cynllun
Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd chwarter 4 2014/15. Ar y pwynt hwn ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid, y
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb a gytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2015/16 a'r cynnydd a wnaed
yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r
cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni. Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa
ariannol y Cyngor- ·
rhagwelwyd
tanwariant net ar y gyllideb refeniw o £0.534m ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a
chorfforaethol ·
cytunwyd
ar arbedion o £7.3m fel rhan o'r gyllideb ac ar y cam hwn roedd 72% eisoes wedi'i
gyflawni a byddai cynnydd ar y 28% sy'n weddill yn cael ei fonitro'n agos gyda
llawer o hyder y byddai’r mwyafrif yn cael ei gyflawni ·
amlygwyd
yr amrywiadau allweddol eraill oddi wrth gyllidebau neu dargedau arbedion
meysydd gwasanaeth unigol ·
diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf
(gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol). Trafodwyd y materion canlynol yn fanylach – ·
o ran
rheoli trysorlys, rhoddwyd esboniad ar strategaethau buddsoddi’r Cyngor gan
ystyried ffactorau diogelwch, hylifedd a'r cynnyrch ·
mynegwyd
rhywfaint o rwystredigaeth ynghylch cyfranogiad ac ymateb rhai o'r Aelodau i
benderfyniadau ynghylch toriadau yn y gyllideb ac a ddylid amddiffyn y
penderfyniadau hynny’n fwy ·
fe
wnaeth llawer o drafodaeth ganolbwyntio ar rôl Grŵp Tasg a Gorffen Torri’r
Brethyn archwilio ac adroddodd y Prif Weithredwr ynghylch y cyfarfod cyntaf y
cytunwyd ar ei gylch gorchwyl - eglurodd mai eu rôl oedd archwilio effaith rhai
o'r toriadau ar y cyhoedd. Roedd yn bwysig er mwyn caniatáu digon o amser ar gyfer gweithredu'r
toriadau i sicrhau asesiad ar sail tystiolaeth a chanlyniadau mesuradwy. Anogwyd aelodau i gyfeirio toriadau
penodol yr hoffent eu harchwilio i’r Grŵp. Roedd y Cabinet yn awyddus i ganlyniadau’r
grŵp gael eu bwydo'n ôl i'r aelodau a chadarnhawyd y byddai’r canfyddiadau
yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Pwyllgor Archwilio perthnasol, Aelod Arweiniol
neu'r Cabinet fel y bo'n briodol. Gellid dysgu gwersi o fesur effaith a llywio gwneud penderfyniadau yn y
dyfodol. Roedd yr Arweinydd yn awyddus i Aelodau Arweiniol gadw ochr yn ochr ag
unrhyw waith sy'n ymwneud â’u portffolio a chadarnhawyd bod cylch gorchwyl y
Grŵp yn caniatáu galw ar Aelodau Arweiniol pan ystyriwyd materion o fewn
eu portffolios ·
rhoddwyd
sicrwydd bod y Cyngor yn well eu byd yn ariannol ar ôl gadael System
Cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai a byddai unrhyw arian dros ben o’r Cynllun
Stoc Tai yn gyfystyr ag arian ychwanegol i'w fuddsoddi mewn gwella stoc tai
presennol neu adeiladu o'r newydd. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2015/16 a'r cynnydd a wnaed
yn erbyn y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni. |
|
ALLDRO REFENIW TERFYNOL 2014/15 PDF 104 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid, y
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi amgaeedig) am y sefyllfa alldro
refeniw derfynol ar gyfer 2014/15 a bwriad i ymdrin â chronfeydd wrth gefn a
balansau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r sefyllfa alldro refeniw derfynol ar gyfer 2014/15 ac yn
cymeradwyo'r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau fel y
manylwyd yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1 a 2 sydd ynghlwm wrth yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ar y sefyllfa
alldro refeniw terfynol am 2014/15 a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth
gefn a balansau. Tywyswyd yr aelodau drwy fanylion yr adroddiad a'r
atodiadau.
Yn gryno
dangosodd y sefyllfa alldro gyffredinol
danwariant yn erbyn y gyllideb gymeradwy a oedd yn cryfhau sefyllfa ariannol y Cyngor,
ynghyd â gwell incwm o'r dreth gyngor nag y rhagwelwyd. O ganlyniad bu'n bosibl gwneud
argymhellion i wasanaethau ddwyn balansau ymlaen a gwneud trosglwyddiadau i
gronfeydd wrth gefn penodol a fyddai'n helpu i fynd i'r afael â phwysau
ariannol yn y dyfodol a bodloni ymrwymiadau arian parod sydd eu hangen i
gyflawni’r Cynllun Corfforaethol. Y sefyllfa derfynol gyda chyllidebau corfforaethol a
gwasanaeth oedd tanwariant o £1.075m a oedd yn 0.57% o gyllideb refeniw net. Wrth ystyried yr adroddiad, trafodwyd y materion canlynol
- ·
esboniwyd y rhesymeg y tu ôl i greu cronfeydd
wrth gefn penodol, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn cynnwys
uchafbwyntiau ac isafbwyntiau yn y galw ar becynnau gofal a lleoliadau.
O ran Cefnogi Pobl, crëwyd y gronfa wrth gefn hon er mwyn lliniaru’r
bygythiad o ddileu Grant Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru – rhoddwyd sicrwydd
bod cronfeydd wrth gefn yn cael eu hadolygu’n rheolaidd ·
dyrannwyd grantiau a dderbynnir gan y Cyngor ar ddiwedd
y flwyddyn ariannol i ddechrau i Grantiau Refeniw Heb eu Cymhwyso cyn cael eu
prosesu a’u hailgyfeirio i wasanaethau unigol – roedd hyblygrwydd yn ystod y
flwyddyn ac roedd rhai grantiau wedi'u haildyrannu’n gynharach yn y flwyddyn ·
nodwyd bod cronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi
wedi'u hystyried fel rhan o'r gweithdai cyllideb a’u bod yn cael eu hailasesu’n
rheolaidd a'u hadolygu'n flynyddol. Er mwyn
gwneud cymariaethau â blynyddoedd blaenorol, roedd y Cynghorydd Eryl Williams
wedi gofyn am adroddiad mwy manwl a oedd yn dangos ffigurau hanesyddol a
rhagamcanion y dyfodol gyda golwg ar nodi tueddiadau ·
byddai gwaith yn cael ei wneud yn fuan i adolygu
polisi cronfeydd wrth gefn y Cyngor yn dilyn y gofyniad bod holl awdurdodau
lleol Cymru yn cyhoeddi manylion am eu triniaeth o gronfeydd wrth gefn mewn
modd haws i’w ddeall – awgrymwyd y dylai Llywodraeth Cymru hefyd fod yn fwy
agored a thryloyw ynghylch eu cronfeydd wrth gefn ac y codir y mater gyda nhw
pan fydd y cyfle’n codi ·
o ran ariannu ar gyfer y Cynllun Corfforaethol a
chadarnhawyd hynny, yn seiliedig ar dybiaethau cyfredol, roedd yn fforddiadwy
ac yn gyflawnadwy – byddai unrhyw newidiadau yn y tybiaethau hynny yn gofyn am
adolygiad pellach ac fe'i cydnabuwyd nad oedd y Cyngor mewn rheolaeth gyffredinol
dros yr holl elfennau o fewn y cynllun ·
o ran balansau’r ysgolion mewn diffyg, rhoddwyd
sicrwydd bod pob ysgol â chynllun adennill ariannol ar waith. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r sefyllfa alldro refeniw terfynol ar gyfer 2014/15 ac yn cymeradwyo’r
driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau fel y manylir yn yr
adroddiad ac yn Atodiadau 1 a 2 ynghlwm wrth yr adroddiad. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 97 KB ☻Derbyn
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans Raglen Gwaith
i'r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 1.20pm. |