Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a
nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.
Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
ddatganiad o ddiddordeb personol neu fuddiannau sy'n rhagfarnu. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad personol na rhagfarnol ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2014 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2014 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2014 PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2014 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG PDF 144 KB Ystyried adroddiad
gan y Cynghorydd
Eryl Williams, Aelod
Arweiniol Addysg (copi’n
amgaeedig) yn darparu
diweddariad o Raglen
Moderneiddio Addysg ac
yn ceisio cymeradwyaeth
y Cabinet ar gyfer y prosiectau
yn y Rhaglen. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet - (a) yn
awdurdodi
cychwyn astudiaethau dichonoldeb mewn perthynas â'r prosiectau a nodir yn
Atodiad 2 i'r adroddiad, bydd eu cwblhau yn destun penderfyniadau’r gyllideb yn
y dyfodol; (b) yn
nodi
y bydd yr awdurdod yn parhau i gynnal y ddarpariaeth yn Ysgol Borthyn; (c) yn
nodi'r
gofyniad i ymgynghori ar ddyfodol Ysgol Rhewl yn dilyn yr astudiaeth
dichonoldeb ar safle Glasdir, ac (d) yn cymeradwyo symud ymlaen i ymgynghori ffurfiol ar gyfer y newid
arfaethedig i ysgol sydd â dynodiad crefyddol ar gyfer Ysgol Esgob Morgan trwy
ei chau fel ysgol gymunedol a'i hail-agor fel ysgol Wirfoddol a Reolir yr
Eglwys yng Nghymru o 1 Medi 2015. Cofnodion: [Datganodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts
gysylltiad personol yn yr eitem hon.] Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad
gan roi diweddariad ynglŷn â’r Rhaglen Moderneiddio Addysg a cheisio
cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer prosiectau o fewn y Rhaglen. Amlygwyd llwyddiant y Cyngor wrth weithredu prosiectau Rhaglen Ysgolion yr
21ain Ganrif a thynnwyd sylw'r aelodau at statws ac ymrwymiadau
ariannol presennol y prosiectau hynny. Darparwyd trosolwg hefyd o
brosiectau posibl i'w ariannu fel rhan o'r Cynllun Corfforaethol a cheisiwyd
cymeradwyaeth i ariannu astudiaeth ddichonoldeb i ddatblygu'r prif ddewisiadau
gogyfer â buddsoddiad cyfalaf sy'n deillio o adolygiad ardal Rhuthun. Cyfeiriwyd hefyd at adolygiadau ardal sydd
i’w cynnal yn y dyfodol yn Ninbych, Llanelwy, y Rhyl a Bodelwyddan ac at y
cynnig i newid dynodiad Ysgol Esgob Morgan i fod yn un o ysgolion yr Eglwys yng
Nghymru. Trafododd y Cabinet y rhaglen uchelgeisiol ar
gyfer buddsoddi mewn ysgolion yn wyneb y toriadau sylweddol yn y gyllideb sy'n
wynebu'r awdurdod a bu i'r Cynghorydd Eryl Williams annog y Cabinet i beidio â
gwyro oddi wrth y dull gweithredu a gynlluniwyd er mwyn sicrhau darpariaeth o
ansawdd mewn ysgolion ledled Sir Ddinbych.
Ymhelaethodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill ynglŷn â’r cyllid
sydd ei angen a'r dyraniadau dros dro sydd wedi eu gwneud ac roedd yn hyderus y
gellid cyflawni’r rhaglen. Cafodd y
prosiectau eu dadansoddi’n fanwl gan y Grŵp Buddsoddi Strategol a cheir
sicrwydd pellach yn sgil cyflawni gwaith dichonolrwydd. Cytunodd y Cynghorydd Hugh Evans ei bod yn
bwysig parhau â'r rhaglen gyfalaf, ond nododd y dylid bod yn ymwybodol o
faterion eraill a allai effeithio ar argaeledd cyllid Llywodraeth Cymru, megis
ffordd liniarol yr M4 sydd yn yr arfaeth.
Ystyriodd y Cabinet y cynigion yn ofalus fel rhan
o adolygiad ardal Rhuthun gan gynnwys ystyried rhinweddau’r cynigion hynny a’r
canlyniadau posibl i’r rhai dan sylw. Er
gwaethaf pryderon blaenorol ynglŷn â’r adolygiad, roedd y Cynghorydd Bobby
Feeley wedi ei fodloni â’r sicrwydd a gafwyd gan yr Aelod Arweiniol dros Addysg
a chan Bennaeth Cefnogi Addysg a Chwsmeriaid y byddai'r ysgol newydd yn Rhuthun
yn mynd yn ei blaen. Roedd y prif
bwyntiau trafod yn cynnwys - ·
Ysgol
Llanbedr - roedd disgwyl penderfyniad gan y Gweinidog ynglŷn â chau'r
ysgol fis Medi a bu i’r Cynghorydd Eryl Williams gadarnhau ei ymrwymiad i symud
ymlaen â'r cynigion sy'n weddill ar gyfer Rhuthun ·
Ysgol
Rhewl - pwysleisiodd y Pennaeth Cefnogi Addysg a Chwsmeriaid y cynhelir
ymgynghoriad llawn ynglŷn â dyfodol Ysgol Rhewl yn dilyn cynnal astudiaeth
o ddichonoldeb safle Glasdir. Dywedodd y
Cynghorydd Merfyn Parry bod staff a llywodraethwyr Ysgol Rhewl yn frwdfrydig
ynglŷn â chael eu cynnwys yn y broses adolygu gan ddweud y byddent yn
croesawu cael mewnbwn i'r dewisiadau yn y dyfodol. Roedd amseru cyhoeddi’r adroddiad yn ystod
gwyliau'r ysgol yn anffodus a rhoddodd y Pennaeth Cefnogi Addysg a Chwsmeriaid
sicrwydd y byddai’r rhieni a gysylltodd â'r Tîm Derbyniadau yn cael eglurhad o
sefyllfa’r adolygiad ·
Ysgolion
Tref Rhuthun a Safle Glasdir – darparwyd y terfynau amser disgwyliedig ar gyfer
datblygu cynigion. Pe caiff ei
gymeradwyo, mae disgwyl y byddai'r astudiaeth o ddichonoldeb lleoliad yr
ysgolion posibl a'u nifer yn cael ei chwblhau yn yr hydref ac yn dilyn hynny
gellid asesu pa effaith fyddai ar Ysgol Rhewl.
Y cam nesaf yw ymgynghori ynglŷn â dyfodol Ysgol Rhewl a chaiff
hynny ei wneud ar yr un pryd a llunio cynllun manwl ar gyfer ysgol newydd y
dref . Nododd yr Aelodau rai meysydd o’r ddarpariaeth gynradd y dylid eu hadolygu yn y dyfodol a nodi pa faterion y dylid mynd i’r afael â nhw. Teimlai'r Cynghorydd ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ystyried adroddiad
gan y Cynghorydd
David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus (copi’n
amgaeedig) yn cyflwyno
Strategaeth Leol Rheoli Risg Llifogydd
i’w chymeradwyo a
darparu diweddariad ynglŷn
â Llifogydd Tachwedd
2012 a digwyddiad llifogydd arfordirol Rhagfyr 2013. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet - (a) yn cymeradwyo
cyflwyno'r Strategaeth Leol Rheoli Risg Llifogydd i Lywodraeth Cymru am
adolygiad Gweinidogol, ac (b) yn nodi'r
wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd yn yr adroddiad. Cofnodion: Cafwyd adroddiad gan y Cynghorydd David Smith yn
cyflwyno’r Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd i’w chymeradwyo ac
yn rhoi diweddariad ynglŷn â llifogydd Tachwedd 2012 a llifogydd
arfordirol Rhagfyr 2013. Roedd yr
adroddiad hefyd yn rhoi manylion lleoliadau lle mae angen cynlluniau i leihau
perygl llifogydd i lefel dderbyniol. Rhoddwyd gwybod i’r Cabinet am y gofyn i gynhyrchu
strategaeth a fyddai’n manylu am wyth canlyniad a fyddai'n galluogi'r Cyngor i
gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli perygl llifogydd. Roedd y ddogfen wedi cael ei hystyried yn y
Pwyllgor Archwilio Cymunedau ac ni chafodd unrhyw faterion o bwys eu codi. Amlygodd y Cynghorydd Smith y gwahanol
ardaloedd llifogydd y mae’r Cyngor a phartneriaid y Cyngor yn gyfrifol amdanynt
ac amlygu'r goblygiadau ariannol i Gyngor Sir Ddinbych. Ychwanegodd mai rheoli risg llifogydd yw un
o'i flaenoriaethau. Trôdd y drafodaeth gychwynnol o amgylch llifogydd Rhagfyr 2013 a'r modd
clodwiw y bu i’r Cyngor ymateb yn ystod y digwyddiad ac ar ei ôl. O
siarad â rhai a gafodd eu heffeithio, roedd y Cynghorydd Bobby Feeley eisiau
sicrwydd fod y Cyngor yn cymryd y camau angenrheidiol i atal llifogydd yn y
dyfodol. Roedd y Cynghorydd David
Simmons hefyd yn gofyn am weithredu a thynnodd sylw at bryderon y trigolion, yn
enwedig yn ardal Garford Road / Ffordd yr Arfordir, ac at yr angen am broses
gadarn er mwyn rhybuddio a diogelu trigolion oedrannus a diamddiffyn. Cafwyd adroddiad gan Uwch Beiriannydd, Rheoli
Perygl Llifogydd (SE) ynglŷn â’r gwaith cychwynnol a wnaed yn yr ardal a
chadarnhaodd fod rhaglen waith wedi ei datblygu i leihau’r risg ymhellach. Mae’n debyg na allai’r Cyngor, ar ei ben ei
hun, fforddio’r posibilrwydd o sefydlu cynllun gwella amddiffynfeydd yr
arfordir, a byddai'n ddibynnol ar gael arian grant sylweddol oddi wrth
Lywodraeth Cymru. Eglurodd mai Dŵr
Cymru sy’n gyfrifol am garthffosydd sy’n gorlifo a’u bod yn cynnal ymchwiliad
yn fuan i nifer o achosion diweddar o lifogydd ledled y sir yn dilyn glaw trwm. Amlygwyd pwysigrwydd wardeiniaid llifogydd
hefyd a dywedwyd wrth yr aelodau mai mater i Gyfoeth Naturiol Cymru yw dynodi
wardeiniaid llifogydd mewn ardaloedd o berygl er mwyn rhannu gwybodaeth leol
ynglŷn â’r sawl sydd wedi eu heffeithio a pha mor ddiamddiffyn ydynt. Roedd system ymateb brys y Cyngor wedi cael
ei mireinio yn dilyn profiadau diweddar a chafwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr y
Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â gwaith yr oedd wedi ei wneud er mwyn
gwella cadernid y trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer dynodi pa breswylwyr sy'n
ddiamddiffyn yn ystod cyfnod o ymateb brys. Tra câi’r strategaeth ei hystyried, ymatebodd SE i
gwestiynau ynglŷn â'r risg o lifogydd mewn ardaloedd penodol a'r
fethodoleg a ddefnyddir wrth gynnal asesiadau cychwynnol yn unol â chanllawiau
sydd wedi eu diffinio’n genedlaethol. Roedd y Cynghorydd Huw Jones yn awyddus i
Gorwen gael ei ailasesu o ran perygl llifogydd yn dilyn y gwaith a wnaed yn
ddiweddar i liniaru llifogydd a chytunodd drafod y mater gydag SE wedi'r
cyfarfod. Mewn ymateb i faterion a godwyd gan y Cynghorydd Meirick Davies,
cadarnhaodd SE y gellid ychwanegu cyfeiriad at Gefn Meiriadog fel un o’r
ardaloedd yr effeithia perygl llifogydd arnynt (tudalen 8). Gellid diwygio’r
cyfieithiad Cymraeg yn ôl yr angen hefyd. Soniodd hefyd am gyfrifoldebau a
deddfwriaeth sy'n llywodraethu carthffosydd
a’r ystyriaeth a roddwyd i Gynllun Rheoli’r Traethlin wrth lunio'r
strategaeth. Cymeradwyodd y Cabinet y strategaeth a'r gwersi a ddysgwyd o ddigwyddiadau cynharach ond mynegwyd pryderon ynglŷn â’r adnoddau y mae eu hangen i sicrhau gweithredu a monitro’r strategaeth yn briodol ar adeg o doriadau sylweddol yn y gyllideb. Y farn oedd y dylid ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r
cynnydd ar strategaeth y gyllideb a gytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd yn erbyn
strategaeth y gyllideb a gytunwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r
cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa
ariannol y Cyngor- ·
caiff
gorwariant net o £235k ei ragweld yn y gyllideb refeniw ar gyfer cyllidebau
corfforaethol a chyllidebau gwasanaethau mewn perthynas â chludiant ysgol, parcio
ceir a gosod tai arfordirol ·
cytunwyd
ar arbedion o £7.1m fel rhan o'r gyllideb ac ar hyn o bryd ystyrir bod y rhain
wedi eu cyflawni ·
amlygwyd
y prif amrywiadau oddi wrth gyllidebau neu dargedau arbedion meysydd gwasanaeth
unigol ·
cafwyd
diweddariad cyffredinol ynglŷn â’r Cynllun Corfforaethol; Cyfrif Refeniw
Tai; Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf. Roedd y Cynghorydd Huw Jones yn awyddus i amlygu’r
gwaith da sy'n cael ei wneud yn y gwasanaethau hamdden gyda chynnydd sylweddol
yn nifer y rhai sy’n aelodau o ganolfannau hamdden. Holodd y Cynghorydd Barbara Smith gwestiynau
ynglŷn â rheoli'r trysorlys a rhagolygon rhent. Cadarnhawyd y gellid cynhyrchu arbedion
ymylol trwy gael gostyngiad yng nghyfradd fenthyca’r cyngor a chafwyd sicrwydd
gan y Cynghorydd Hugh Irving fod pob ymdrech yn cael ei gwneud i ail-ddyrannu
tai cyngor gwag cyn gynted â phosibl. Cyfeiriodd y Cynghorydd Hugh Evans at fuddsoddiad
cyfalaf mawr Datblygiad Harbwr y Rhyl a'r posibilrwydd o ddatblygu cyfleoedd
busnes er mwyn cynhyrchu rhagor o elw o'r buddsoddiad. Tynnodd sylw hefyd at y rhwystredigaeth a
deimlai oherwydd i’r caffi ar y safle fod cyhyd yn agor, a chytunodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol i ymchwilio i'r
rhesymau dros yr oedi. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd a wnaed o
ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 118 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet yn cael ei nodi. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans Raglen Gwaith
i'r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried, gan
atgoffa’r aelodau fod y cyfarfod o’r Cabinet a drefnwyd ar gyfer 2 Medi wedi ei
newid i fod yn Sesiwn i Friffio’r Cabinet. Gofynnodd y Pennaeth Cefnogi Addysg a Chwsmeriaid bod eitem ar y Polisi Cludiant
Ysgol yn cael ei hychwanegu at y rhaglen waith ar gyfer 30 Medi. Er mwyn osgoi unrhyw oedi diangen gofynnodd y
Cynghorydd Eryl Williams am hyblygrwydd o ran ychwanegu unrhyw eitemau
ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r Rhaglen Moderneiddio Addysg a all ddod ger
bron ym mis Tachwedd / Rhagfyr. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.
|
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau
Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig
yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 o Ran 4 o
Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
YSGOL NEWYDD Y RHYL - DYFARNU CONTRACTAU
Ystyried adroddiad
cyfrinachol gan y
Cynghorydd Eryl Williams,
Aelod Arweiniol Addysg
(copi’n amgaeedig) yn ceisio
cymeradwyaeth y cabinet
i ddyfarnu contractau’n
ymwneud ag adeiladu
Ysgol Newydd y
Rhyl. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo dyfarnu contractau
sy'n gysylltiedig ag Ysgol Newydd y Rhyl i uchafswm gwerth fel y manylir yn yr
adroddiad yn amodol ar gadarnhad o gyllid gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas
â'u cyfran o'r cyllid ar gyfer y prosiect. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad cyfrinachol yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet i ddyfarnu contractau mewn perthynas ag adeiladu, a chwblhau maes o
law, Ysgol Newydd y Rhyl, ynghyd ag amserlen ar gyfer y prosiect. Dywedodd y
swyddogion bod y Contractwr, Willmott Dixon wedi cyflwyno cynigion manwl ac na
fyddai'r contract adeiladu yn cael ei ddyfarnu hyd nes y creffir ar y cynigion
hynny a hyd nes cael cadarnhad ynglŷn â chyllid Llywodraeth Cymru. Cafwyd sicrwydd hefyd bod buddion cymunedol
wedi eu cynnwys fel rhan o fanyleb y tendr er budd y farchnad lafur leol a
busnesau lleol. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo dyfarnu contractau
sy'n gysylltiedig ag Ysgol Newydd y Rhyl hyd at uchafswm gwerth fel y manylir
yn ei gylch yn yr adroddiad, yn amodol ar gael cadarnhad o gyllid gan
Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'u cyfran hwy o'r cyllid ar gyfer y prosiect. |
|
CAM 3 AMDDIFFYN YR ARFORDIR GORLLEWIN Y RHYL - DYFARNU CONTRACT
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth
Cyhoeddus (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i benodi’r
contractwr a ffafriwyd ar gyfer gwaith adeiladu Cynllun Amddiffyn yr Arfordir
yng Ngorllewin y Rhyl (Cam 3). Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn awdurdodi - (a) Pennaeth y
Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol i ddilyn proses negodi contract a
gynhelir yn unol â Rheol Gweithdrefn Contract 24; (b) Aelod Arweiniol
y Parth Cyhoeddus i lobïo Llywodraeth Cymru am gymorth ariannol ychwanegol ar
gyfer y cynllun i dalu am y diffyg yn y cyllid, ac (c) Aelod Arweiniol
y Parth Cyhoeddus, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151, i ddyfarnu'r contract
i'r tendr mwyaf manteisiol yn economaidd yn amodol ar dderbyn cadarnhad
ysgrifenedig o'r cyllid ychwanegol digonol gan Lywodraeth Cymru i dalu cost
wedi’i ail-drafod y cynllun i foddhad Swyddog Adran 151. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd David Smith yr adroddiad cyfrinachol ynghylch penodi contractwr ar
gyfer gwaith adeiladu Cynllun Amddiffyn Arfordir Gorllewin y Rhyl (Cam 3). Cafodd y Cabinet
fanylion y dewisiadau ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd ynghyd ag amcan o werth
y contract a’r cymorth grant sydd ar gael.
Darparwyd canlyniad y broses dendro ac roedd yr aelodau’n siomedig bod y
tendrau a gafwyd yn llawer uwch na'r swm a amcangyfrifwyd, ac felly nid oedd yn
bosibl dyfarnu'r contract ar hyn o bryd.
Cadarnhaodd y Cabinet eu hymrwymiad i'r cynllun gan
ystyried y dewisiadau posibl wrth ystyried y ffordd ymlaen, a chan gadw mewn
cof yr amserlen dan sylw ac argaeledd yr arian grant. Gofynnodd
y Prif Weithredwr am ddadansoddiad manwl o'r rhesymau y tu ôl i'r cynnydd yn y
gost, er mwyn cryfhau unrhyw achos am gymorth ariannol ychwanegol i wneud yn
iawn am y diffyg cyllid. Yn dilyn
trafodaeth fanwl - PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn awdurdodi - (a) Pennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac
Amgylcheddol i ddilyn proses o drafod contractau yn unol â Rheol 24 y
Weithdrefn Gontractau; (b) Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus i lobïo
Llywodraeth Cymru am gymorth ariannol ychwanegol gogyfer â'r cynllun i wneud yn
iawn am y diffyg cyllid; (c) Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, mewn
ymgynghoriad â Swyddog Adran 151, i ddyfarnu'r contract i'r tendr mwyaf
manteisiol yn economaidd, yn amodol ar dderbyn cadarnhad ysgrifenedig o gyllid
ychwanegol digonol gan Lywodraeth Cymru i wneud yn iawn am gostau diwygiedig y
cynllun fel y cawsant eu hail-drafodwyd, nes bodloni’r Swyddog Adran 151. |
|
CYMERADWYO TENDR AR GYFER ADEILADU MAN GWYRDD GORLLEWIN Y RHYL
Ystyried adroddiad
cyfrinachol gan y
Cynghorydd Hugh Evans,
Arweinydd ac Aelod
Arweiniol Datblygu Economaidd
(copi’n amgaeedig) yn ceisio
cymeradwyaeth y Cabinet
i ddyfarnu contract
er mwyn adeiladu
Datblygiad Man Gwyrdd
Gorllewin y Rhyl. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet - (a) yn
awdurdodi'r
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol mewn ymgynghoriad
gyda'r Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Economaidd i graffu ar y fanyleb er mwyn lleihau
cost tendr, ac (b) yn amodol ar Lywodraeth Cymru yn cadarnhau yn ysgrifenedig y bydd yn
darparu 100% o bris y contract, bod yr Aelod Arweiniol dros Ddatblygu
Economaidd yn cael ei awdurdodi i ddyfarnu'r contract i'r tendr mwyaf
manteisiol yn economaidd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad cyfrinachol yn gofyn am gymeradwyaeth y
Cabinet i ddyfarnu contract ar gyfer y gwaith o adeiladu Datblygiad Man Gwyrdd
Gorllewin y Rhyl. Cafodd y Cabinet
wybod am fanylion y contract ynghyd â’r cyllid grant sydd ar gael i gyflawni'r
prosiect. Cafodd manylion y broses
dendro eu darparu a nodwyd bod y tendrau a gafwyd yn fwy na’r amcangyfrif
gwreiddiol ond eu bod yn dal i fod o fewn y gyllideb a ariennir yn gyfan gwbl
gan Lywodraeth Cymru. Argymhellwyd y
dylid dyfarnu’r contract yn amodol ar graffu ar y fanyleb er mwyn lleihau
costau'r tendr i fod yn nes at yr amcangyfrif gwreiddiol. Nododd yr aelodau'r refeniw a ddyrannwyd i ddarparu
gwasanaeth cynnal a chadw am bum mlynedd yn dilyn y gwaith adeiladu.
Fe’i gwnaed yn glir na fyddai'r Cyngor yn darparu gwaith cynnal a chadw
ar ôl y bum mlynedd gyntaf ac y byddai camau’n cael eu cymryd gan y Bwrdd
Prosiect i sicrhau bod yr ardal yn cael ei chynnal a'i chadw'n briodol wedi
hynny. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Uchelgais Economaidd a Chymunedol mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol dros
Ddatblygu Economaidd i graffu ar y fanyleb er mwyn lleihau costau’r tendr, ac (b) yn amodol ar gael cadarnhad ysgrifenedig
gan Lywodraeth Cymru y byddant yn darparu 100% o bris y contract, bod yr Aelod
Arweiniol dros Ddatblygu Economaidd yn cael ei awdurdodi i ddyfarnu'r contract
i'r tendr mwyaf manteisiol yn economaidd. Daeth y cyfarfod i ben am 1.20pm. |