Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorwyr
Bobby Feeley (Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Oedolion a
Phlant) a David Smith (Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus) Cofnodion: Y Cynghorwyr
Bobby Feeley (Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Oedolion a
Phlant) a David Smith (Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus) |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.
Penderfyniad: Y Cynghorydd Meirick Davies - Personol - Eitem 7 – yn rhentu garej gan y Cyngor Y Cynghorydd Martyn Holland - Personol - Eitem 5 - Llywodraethwr Ysgol Bro
Famau Y Cynghorydd Huw Williams – Personol -
Eitem 5 – â phlentyn yn mynychu Ysgol Pen Barras Cofnodion: Y Cynghorydd Meirick Davies - Personol - Eitem 7 – yn rhentu garej gan y
Cyngor Y Cynghorydd Martyn Holland - Personol - Eitem 5 - Llywodraethwr Ysgol Bro
Famau Y Cynghorydd Huw Williams – Personol -
Eitem 5 – Â phlentyn yn mynychu Ysgol Pen Barras |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2015 [copi’n amgaeedig]. Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2015 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd
ar 13 Ionawr 2015 PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2015 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - YSGOLION CYNRADD ARDAL RHUTHUN - YSGOL LLANBEDR PDF 88 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi’n
amgaeedig) ynglŷn â phenderfyniad diweddar y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar
ddyfodol Ysgol Llanbedr. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn - (a) nodi cynnwys llythyr y Gweinidog, gweler
Atodiad 1 yr adroddiad (b) cytuno bod y swyddogion yn dechrau
ymgynghori â'r Eglwys yng Nghymru ar y cynnig i gau Ysgol Llanbedr ac yn adrodd
yn ôl i'r aelodau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams adroddiad
briffio’r Cabinet ar benderfyniad diweddar y Gweinidog Addysg a Sgiliau
ynglŷn â dyfodol Ysgol Llanbedr ac yn ceisio cymeradwyaeth i ddechrau
ymgynghori â'r Eglwys yng Nghymru ar y cynnig i gau Ysgol Llanbedr ac yn adrodd
yn ôl i'r aelodau ar hynny. Roedd y Gweinidog wedi gwrthod y cynnig i gau'r
ysgol oherwydd iddo ddod i'r casgliad, er bod yna ddadleuon addysgol cadarn o
blaid y cynnig, roedd yr ymgynghoriad yn ddiffygiol. Yn dilyn adolygiad o'r llythyr
penderfyniad, roedd swyddogion wedi argymell ymgynghori'n ffurfiol gyda'r
Esgobaeth ar ddyfodol yr ysgol. Dywedodd y swyddogion fod gan yr Esgobaeth opsiynau amgen ar gyfer yr ysgol
ac y byddai gwybodaeth bellach yn cael ei cheisio yn ystod y broses ymgynghori
i ganfod a fyddai unrhyw gynnig amgen yn mynd i'r afael â'r holl faterion a
nodwyd. Trafododd y Cabinet y ffordd ymlaen yng
ngoleuni'r wybodaeth a gyflwynwyd a chadarnhawyd mai diben yr adroddiad heddiw
oedd peidio â thrafod cau’r ysgol, ond i geisio cymeradwyaeth i ddechrau
ymgynghori â'r Eglwys yng Nghymru. Byddai canlyniad y trafodaethau hynny yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ym
mis Ebrill/Mai. Eglurwyd hefyd na fyddai’r canlyniad yn effeithio ar weddill cynigion adolygiad ardal Rhuthun. Roedd y Cynghorydd Huw Williams yn gwrthwynebu cau
yr ysgol ac yn siomedig bod y mater wedi'i ddwyn gerbron y Cabinet mor fuan ar
ôl i’r Gweinidog wrthod y cynnig. Amlygodd fod diffygion ymgynghori wedi eu nodi er gwaethaf sicrwydd
blaenorol yn hynny o beth gan swyddogion ac yn dilyn cael ei alw i mewn gan y
Pwyllgor Archwilio Cymunedau. Cyfeiriwyd hefyd at y straen a achoswyd i staff, rhieni a disgyblion yr
ysgol o ganlyniad. Wrth ystyried y camau nesaf dywedodd y Cynghorydd Williams fod nifer y
disgyblion yn cynyddu a gofynnwyd bod yr ysgol yn cael cyfnod o sefydlogrwydd i
ffynnu - anogodd y Cabinet i beidio â chychwyn ymgynghoriad ffurfiol ar gau’r
ysgol ond bod y mater yn cael ei ohirio hyd nes y ceir trafodaeth anffurfiol
gyda’r Esgobaeth yn y lle cyntaf. Siaradodd y Cynghorydd Joe Welch hefyd i gefnogi'r ysgol, gan dynnu sylw at
fod cyllid yn ei le i fwrw ymlaen â chynigion adolygiad ardal Rhuthun ac nad
oedd yn ddibynnol ar gau yr ysgol. Roedd yn anhapus bod y swyddogion yn bwriadu ailddechrau ymgynghori ar
gau’r ysgol a chododd gwestiynau ynglŷn â chost y broses ymgynghori. Anogodd y Cynghorydd Dewi Owens hefyd y
Cabinet i gymryd amser i fyfyrio, yn enwedig yng ngoleuni'r rhagamcanion
disgyblion, ac argymhellodd ymgynghori ehangach. Darparwyd yr ymatebion canlynol i’r materion a
godwyd - ·
Roedd
y Gweinidog yn fodlon bod gan y Cyngor achos addysgol cydlynol ar gyfer cau
Ysgol Llanbedr a throsglwyddo disgyblion i Ysgol Borthyn ·
Yn
feirniadol roedd y Gweinidog yn fodlon y byddai'r cynnig yn sicrhau dosbarthiad
tecach a mwy cyfartal o gyllid rhwng ysgolion prif ffrwd yn y sir ·
Sir
Ddinbych oedd yr awdurdod lleol cyntaf i weithio at y Cod Trefniadaeth Ysgolion
newydd ac nid oedd y diffygion ymgynghori a nodwyd gan y Gweinidog wedi cael eu
codi o'r blaen mewn unrhyw fforwm arall ·
Nid
oedd swyddogion ac aelodau o reidrwydd yn cytuno â chanfyddiadau'r Gweinidog ac
er fod adolygiad barnwrol wedi cael ei ystyried, nid oedd yn gyfystyr â’r
defnydd gorau o amser ac adnoddau a chafodd yr opsiwn i ail-gychwyn ymgynghori
ei argymell yn lle hynny – roedd costau ymgynghori wedi cael eu bodloni o fewn
cyllideb y gwasanaeth · Byddai trafodaethau anffurfiol yn cael eu cynnal gyda’r Esgobaeth yn atodol i’r cyfnod ymgynghori ffurfiol o 28 diwrnod. Byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynigion amgen a fyddai’n ymdrin ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
GWEITHREDU DEDDF TAI CYMRU 2014 PDF 123 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a
Chyfathrebu (copi’n amgaeedig) ynglŷn â defnyddio’r prawf "digartref
yn fwriadol" yn dilyn gweithredu Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cytuno nad yw Cyngor Sir Ddinbych yn eithrio unrhyw un o'r grwpiau
a enwir dan adran 2 yr adroddiad ond, yn hytrach, yn parhau i gynnal
"prawf bwriad" ar bob un ohonynt ac yn cyhoeddi ei fwriad i wneud
hynny yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru fel y manylwyd yn Atodiad 1 yr
adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Hugh Irving yr adroddiad yn ymwneud â gofyniad a osodir ar
awdurdodau lleol Cymru i benderfynu pa grwpiau o bobl ddigartref y bydd yn
cymhwyso'r prawf o "ddigartref yn fwriadol", yn dilyn gweithredu
Deddf Tai (Cymru) 2014 yn Ebrill 2015. Darparwyd
diffiniad o ddigartrefedd yn fwriadol o dan y Ddeddf newydd ynghyd â manylion
am y grwpiau hynny y gallai'r prawf gael ei ddefnyddio arnynt. Er mai
bwriad Llywodraeth Cymru yn y dyfodol oedd cael gwared ar y prawf bwriadoldeb
ar gyfer yr holl deuluoedd o tua mis Ebrill 2019, roedd y swyddogion o’r farn,
am resymau ymarferol, na fyddai'n amserol nac yn briodol i'w dynnu o unrhyw
grŵp unigol ar hyn o bryd. O ganlyniad, argymhellwyd nad oedd y
Cyngor yn eithrio unrhyw un o'r grwpiau cymwys hynny a’i fod yn parhau i
ddefnyddio’r prawf ar gyfer pob un ohonynt. Eglurodd y
swyddogion na fyddai cymeradwyo'r argymhelliad yn arwain at unrhyw newid i
bolisi presennol y Cyngor ond byddai’n cynnal y sefyllfa bresennol nes byddai
Llywodraeth Cymru yn cael gwared ar y prawf. Byddai'r
prawf yn parhau fel cymorth i bobl yn hytrach na mesur cosbol. Trafododd
y Cabinet gyda swyddogion y rhesymau dros beidio gwared ar y prawf bwriadoldeb
ar hyn o bryd a darparodd y swyddogion enghreifftiau o'r mathau o aelwydydd
digartref a gyflwynir i'r awdurdod, y defnydd o’r prawf bwriadoldeb yn ymarferol, a sut gallai
ymgysylltu cadarnhaol fod o fudd i unigolion a theuluoedd a darparu
tenantiaethau cynaliadwy gan helpu lliniaru'r risg busnes i landlordiaid. Nodwyd
bod penderfyniadau bwriadoldeb yn brin ac yn cynrychioli tua 5% o'r holl
benderfyniadau a wnaed yn 2014. Roedd y Cabinet yn cydnabod y manteision o
gymryd safbwynt dros dro hyd nes y ceir gwared ar y prawf yn y dyfodol lle
byddai’r prawf yn cael ei ddefnyddio mewn modd cadarnhaol i annog cydweithredu
ac ymgysylltu gydag aelwydydd i fynd i'r
afael â’r materion ac anghenion creiddiol, a datblygu cydweithio agosach gydag
asiantaethau partner er mwyn darparu fframwaith amlasiantaeth gydgysylltiedig
ar gyfer aelwydydd digartref ag anghenion cymorth heb eu bodloni. Cydnabuwyd
hefyd y byddai'r dull hwn yn debygol o leddfu'r pwysau ar wasanaethau eraill y
Cyngor, yn enwedig y Gwasanaethau Oedolion a Phlant. Amlygwyd
hefyd yr angen i gymryd amser i sefydlu fframwaith priodol ar gyfer pryd fydd y
prawf yn cael ei dynnu yn ôl, a darparwyd sicrwydd bod ymagwedd gyson yn cael
ei chymryd gan awdurdodau cyfagos nad oedd yn cefnogi cael gwared ar y prawf ar
hyn o bryd. Cwestiynodd yr
Arweinydd y goblygiadau ariannol oedd yn codi o'r argymhellion a dwedodd y
swyddogion fod arian cyfrifoldebau newydd yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth
Cymru fel rhan o'r gweithgareddau ychwanegol ehangach a roddir ar awdurdodau
lleol yn deillio o weithredu’r Ddeddf Tai. Cadarnhawyd
y byddai adroddiadau i'r Cabinet yn y dyfodol yn cynnwys gwybodaeth am y
cyd-destun ariannol ehangach. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cytuno nad yw Cyngor Sir Ddinbych yn eithrio unrhyw un o'r grwpiau
a enwir dan adran 2 yr adroddiad ond, yn hytrach, yn parhau i gynnal
"prawf bwriad" ar bob un ohonynt ac yn cyhoeddi ei fwriad i wneud
hynny yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru fel y manylwyd yn Atodiad 1 yr
adroddiad. |
|
GOSOD RHENT TAI A CHYLLIDEBAU REFENIW TAI A CHYFALAF 2015/16 PDF 108 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi'n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y
cynnydd rhent arfaethedig a chyflwyno costau gwasanaeth a chymeradwyo Cyllidebau
Cyfrif Refeniw Tai a Chyfalaf 2015/16. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD - (a) Mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai
ar gyfer 2015/16 (Atodiad 1) a Chynllun Busnes y Stoc Tai (Atodiad 2); (b) Codi rhenti anheddau'r Cyngor yn unol â
Deddf Tai (Cymru) 2014 i rent wythnosol cyfartalog o £74.93 o ddydd Llun 6
Ebrill 2015 ymlaen; (c) Codi rhenti garejys y Cyngor yn unol â’r
cynnydd mewn rhent ar gyfer anheddau’r Cyngor; (d) Cyflwyno costau gwasanaeth cyfartalog o
£1.99 yr wythnos lle bo’n berthnasol yn unol â Deddf Tai (Cymru) 2014; (e) Cynnal adolygiad o safleoedd garej yn
2015/16 fel rhan o'r Strategaeth Rheoli Asedau, a derbyn adroddiad ar
ganlyniadau'r adolygiad erbyn 31 Rhagfyr 2015 fan bellaf. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i’r
cynnydd arfaethedig mewn rhent a chyflwyno taliadau gwasanaeth, a chymeradwyo’r
Cyllidebau Cyfalaf a Refeniw Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2015/16. Roedd yr
adroddiad hefyd yn cynnwys cyfeiriad at ymadawiad y Cyngor o'r system HRAS ym
mis Ebrill 2015 ac roedd y Cynghorydd Hugh Irving yn falch o adrodd ar
ymgysylltiad cadarnhaol y pedwar cynrychiolydd tenantiaid ar y Gweithgor HRAS
a’u cyfraniad gwerthfawr i'r broses honno. Arweiniodd y
Cynghorydd Thompson-Hill yr aelodau drwy ffigurau’r gyllideb a oedd wedi eu
cyfrifo gan ystyried y polisi rhent newydd, dad-gronni taliadau gwasanaeth,
mecanwaith ar gyfer codi rhenti a chyflwyno tâl gwasanaeth sefydlog lle bo
hynny'n berthnasol. Adroddodd y Swyddog Taliadau Gwasanaeth
bod tâl gwasanaeth amrywiol wedi cael ei argymell yn y lle cyntaf, ond oherwydd
bod 90% o denantiaid ar gontractau blynyddol tymor penodol, byddai’n fwy
priodol i gyflwyno tâl gwasanaeth tymor penodol a phasio'r arbedion dilynol
ymlaen i’r tenantiaid. Wrth ystyried yr
adroddiad, trafodwyd y materion canlynol - ·
Roedd
y Cynghorydd Huw Jones yn awyddus i sicrhau bod yr adolygiad arfaethedig o
garejys y cyngor yn cael ei wneud - cytunwyd i gynnwys yr adolygiad yn y
penderfyniad ·
amlygwyd
nad oedd rhai garejys y cyngor yn cael eu defnyddio'n briodol a darparodd
swyddogion sicrwydd y byddai camau yn cael eu cymryd yn erbyn y rhai a oedd yn
defnyddio garejys y cyngor yn groes i’w
telerau tenantiaeth ·
Darparwyd
esboniad ynglŷn â defnyddio’r meini prawf ar gyfer rhenti targed gyda
chamau’n cael eu cymryd i gynyddu rhenti yn raddol er mwyn cwrdd â ffigurau
rhent targed Llywodraeth Cymru ar gyfer pob eiddo unigol erbyn 2015/16 ·
roedd
rhywfaint o anfodlonrwydd ynghylch cyfrifiad Llywodraeth Cymru o renti
cyfartalog nad oedd yn cymryd i ystyriaeth ffyniant o fewn gwahanol ardaloedd,
ond derbyniwyd bod yr elfen hon tu allan i reolaeth y Cyngor ·
roedd
yr aelodau'n falch o nodi bod elfen o adeiladau newydd wedi cael eu cynnwys yng
Nghynllun Busnes y Stoc Tai a fyddai'n darparu llety o ansawdd da ar gyfer
trigolion Sir Ddinbych – pwysleisiwyd yr angen i roi cyhoeddusrwydd i'r mater
hwn fel stori newyddion da ·
cadarnhaodd
y swyddogion nad oedd unrhyw ddibyniaeth ar werthiannau Hawl i Brynu fel
ffynhonnell arian ar gyfer Cynllun Busnes y Stoc Tai gyda'r elfen hon wedi
gostwng yn sylweddol dros y blynyddoedd i ragolwg o ddim ond un gwerthiant y
flwyddyn. PENDERFYNWYD:- (a) Mabwysiadu
Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2015/16 (Atodiad 1) a Chynllun Busnes y
Stoc Tai (Atodiad 2); (b) Codi rhenti
anheddau'r Cyngor yn unol â Deddf Tai (Cymru) 2014 i rent wythnosol cyfartalog
o £74.93 o ddydd Llun 6 Ebrill 2015 ymlaen; (c) Codi rhenti
garejis y Cyngor yn unol â’r cynnydd mewn rhent ar gyfer anheddau’r Cyngor; (d) Cyflwyno costau
gwasanaeth cyfartalog o £1.99 yr wythnos lle bo’n berthnasol yn unol â Deddf
Tai (Cymru) 2014; (e) Cynnal adolygiad
o safleoedd garej yn 2015/16 fel rhan o'r Strategaeth Rheoli Asedau, a derbyn
adroddiad ar ganlyniadau'r adolygiad erbyn 31 Rhagfyr 2015 fan bellaf. Ar y pwynt hwn
(11.40 am) cafwyd egwyl ar gyfer paned. |
|
ARGYMHELLION Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL PDF 112 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi'n amgaeedig) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet ar gyfer prosiectau
a nodwyd ar gyfer eu cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2015/16. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y dylid cefnogi’r prosiectau yn atodiad 1 sydd
i'w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2015/16 a’u hargymell i'r Cyngor llawn. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet
ar gyfer prosiectau a nodwyd i'w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2015/16 fel yr
argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol (GBS) ac y manylwyd yn Atodiad
1 i'r adroddiad. Aeth y Cynghorydd Thompson-Hill â’r aelodau drwy'r
adroddiad ac ymhelaethodd ar y cyllid sydd ar gael ar gyfer buddsoddi cyfalaf i
brosiectau un tro a dyraniadau bloc ar gyfer rhaglenni parhaus o waith. Cyfeiriwyd at waith y GBS wrth adolygu
ceisiadau ar gyfer dyraniadau ynghyd â materion a gododd yn ystod y broses
honno a chrynodeb o'r argymhellion. Gan nad oes cyllid cyfalaf digonol ar gael i dalu am yr holl brosiectau mae
nifer o gyn-ddyraniadau o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol wedi cael eu
hargymell. Mynegwyd cwestiynau ynghylch y rhaglen adnewyddu
goleuadau stryd o £2m ac eglurwyd er mwyn bodloni'r gofyniad i gyflwyno
ceisiadau am gyllid Salix y Llywodraeth yn flynyddol, cynigiwyd y dylid cymryd
benthyciad blynyddol o tua £335k bob blwyddyn dros chwe blynedd ar sail dreigl,
yn ad-daladwy o'r arbedion a wneir o'r flwyddyn flaenorol. Roedd y rhaglen yn cynnwys ailosod y
llusernau presennol gyda llusernau LEA newydd a ddylai ddarparu arbedion
sylweddol ar gostau ynni a chynnal a chadw. Soniodd y Cynghorydd Bill Cowie am y goleuo gwael
yn y Groesfan Pelican yn Llanelwy (A525) ers i oleuadau stryd LEA gael eu gosod
a gofynnodd am i’r mater gael ei ymchwilio cyn i’r cynnig gael ei ystyried yn y
Cyngor llawn. Cytunodd y Cynghorydd Thompson-Hill i gysylltu â'r Cynghorydd David Smith,
Aelod Arweiniol dros y Parth Cyhoeddus yn uniongyrchol mewn perthynas â hynny. Ymatebodd hefyd i gwestiynau pellach
ynghylch allyriadau carbon, gan gadarnhau bod adeiladau'r cyngor yn cael eu
monitro mewn perthynas â hyn a bod cynlluniau ynni effeithlon wedi cael eu
cyflwyno mewn rhai ardaloedd. Roedd yr Arweinydd yn teimlo bod y broses o
adolygu ceisiadau a dyrannu cyfalaf yn gadarn ond gofynnodd am ystyried sut i
fesur gwerth am arian ac effaith buddsoddi cyfalaf mewn blynyddoedd i ddod. Cytunodd y Cynghorydd Thompson-Hill â'r
awgrym hwnnw - cytunodd hefyd i ddarparu manylion pellach ynghylch aelodaeth y
GBS yn adroddiadau'r dyfodol a chadarnhaodd bod presenoldeb da mewn cyfarfodydd
ar y cyfan. PENDERFYNWYD y dylid cefnogi’r prosiectau yn atodiad 1 sydd i'w
cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2015/16 a’u hargymell i'r Cyngor llawn. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi ynghlwm) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd
yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer
2014/15 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb; (b) cymeradwyo trosglwyddo £100 mil i gronfa
wrth gefn i ariannu gwelliannau i fand eang ysgolion yn 2015/16; (c) anfon llythyr at Lywodraeth Cymru
ynglŷn â phryderon y Cabinet o ran cynigion y Gweinidog mewn perthynas â
TAITH. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r
cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa
ariannol y Cyngor- ·
rhagwelwyd
tanwariant net o £639k ar y gyllideb refeniw ar draws cyllidebau gwasanaeth a
chorfforaethol ·
cytunwyd
ar arbedion o £7.1miliwn fel rhan o'r gyllideb ac ar hyn o bryd ystyrir bod 90%
o’r rhain wedi eu cyflawni, gyda 10% ar waith ·
amlygwyd
y prif amrywiadau oddi wrth gyllidebau neu dargedau arbedion meysydd gwasanaeth
unigol ·
cafwyd
diweddariad cyffredinol ynglŷn â’r Cyfrif Refeniw Tai; Cynllun Cyfalaf Tai
a’r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol). Gofynnwyd i’r Cabinet hefyd gymeradwyo trosglwyddo
£100k i gronfa wrth gefn i ariannu gwelliannau i fand eang ysgolion yn 2015/16. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol - ·
Ymatebodd
y Cyfarwyddwr Corfforaethol Uchelgais Economaidd a Chymunedol i gwestiynau
ynghylch Datblygu Harbwr y Rhyl gan gadarnhau ei fod wedi cael nifer da yn ei
ddefnyddio yn ystod ei flwyddyn gyntaf - byddai adolygiad manylach yn cael ei
gynnal ar ôl ei flwyddyn lawn gyntaf o weithredu ·
mynegwyd
pryderon ynghylch penderfyniadau cyllidebol Llywodraeth Cymru lle roedd
grantiau amrywiol yn cael eu dyfarnu (ac mewn un achos yn cael ei dynnu yn ôl)
ar gam mor hwyr yn y flwyddyn ariannol fel ei fod yn achosi anawsterau i
Gynghorau yn cynllunio eu strategaethau ariannol a chynlluniau cyllido -
cyfeiriwyd yn arbennig at benderfyniad hwyr Llywodraeth Cymru i ddyfarnu £1.5m
i Gynghorau i'w wario ar offer chwarae erbyn diwedd mis Mawrth 2015 tra ar yr
un pryd yn dod â thoriadau sylweddol y gyllideb - ystyriwyd bod pe bai cyllid
ar gael dylid ei ddyrannu ymlaen llaw i helpu amddiffyn cynghorau yn erbyn y
toriadau gwaethaf ·
Hefyd,
codwyd pryderon ynglŷn â dyfodol TAITH gan fod cymaint o gyfrifoldeb y
bwrdd rhanbarthol hwnnw wedi cael ei diddymu gan Lywodraeth Cymru - tra gellid
gwneud cynlluniau ar sail ranbarthol, byddai angen i awdurdodau lleol wneud
cais am gyllid yn unigol ac nid ar sail gydlynol. Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams fod y model rhanbarthol wedi gweithio'n
effeithiol a bod rhoi'r gorau i’r gwaith hwnnw yn gam yn ôl ac yn groes i
weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cydweithio rhanbarthol - gofynnodd am
godi'r mater yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru ·
Ailadroddodd
yr aelodau hefyd bryderon blaenorol a godwyd am golli incwm o Asiantaeth
Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru a'r effaith ar y gyllideb refeniw ·
nodwyd
na fyddai newidiadau a gymeradwywyd mewn perthynas â'r Gwasanaeth Cludiant
Ysgol yn cael effaith ar unwaith, ond byddai'n cael ei ddatrys i raddau helaeth
yn y tymor hir ·
Darparwyd
diweddariadau ar y prosiectau cyfalaf mawr a rhoddwyd ymatebion i gwestiynau a
godwyd ar brosiectau unigol. Teimlai'r Cynghorydd Eryl Williams y byddai budd mewn darparu lluniau o'r
prosiectau mawr yn y Cyngor llawn. PENDERFYNWYD - bod y Cabinet
yn:- (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd yn erbyn y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb; (b) cymeradwyo trosglwyddo £100 mil i gronfa wrth gefn i ariannu gwelliannau i
fand eang ysgolion yn 2015/16; (c) anfon llythyr at Lywodraeth Cymru ynglŷn â phryderon y Cabinet o ran
cynigion y Gweinidog mewn perthynas â TAITH. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 96 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans Rhaglen Gwaith
i'r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried. Nododd yr Aelodau y byddai adroddiad ar y
Strategaeth Hirdymor ar gyfer yr Ystâd Amaethyddol yn cael ei ychwanegu at y
rhaglen waith ar gyfer mis Mawrth. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 12.45pm. |