Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
TEYRNGED - CYNGHORYDD MARGARET MCCARROLL Talodd yr Arweinydd deyrnged i'r Cynghorydd Margaret McCarroll a fu farw ar
4 Ionawr ar ôl salwch byr. Cyfeiriodd at
ymrwymiad y Cynghorydd McCarroll a’i chyfraniad gwerthfawr fel cynghorydd yn
cynrychioli ward De Orllewin y Rhyl, a chyfleodd cydymdeimlad y Cyngor at ei
theulu, gan ddweud y byddai hi'n golled enfawr i gydweithwyr Sir Ddinbych. Cynigiodd y Cynghorydd Eryl Williams ei
gydymdeimlad hefyd i'r Arweinydd, a oedd wedi colli ei fam-yng-nghyfraith yn
ddiweddar. Safodd yr Aelodau a'r
swyddogion mewn tawelwch i dalu teyrnged. |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorydd
Barbara Smith - Aelod Arweiniol Moderneiddio a Pherfformiad Cofnodion: Y Cynghorydd
Barbara Smith, Aelod Arweiniol Moderneiddio a Pherfformiad |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Y Cynghorydd
Bobby Feeley – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 5 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
David Smith – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 5 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 5 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Huw
Williams – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 5 ar y Rhaglen Cofnodion: Y Cynghorydd Bobby Feeley - Personol - Eitem 5 ar y Rhaglen - Llywodraethwr
Stryd y Rhos Y Cynghorydd David Smith – Personol - Eitem 5 ar y Rhaglen - Ŵyr ym Mhen Barras Y Cynghorydd Huw
Williams – Personol - Eitem 5 ar y
Rhaglen - Plentyn ym Mhen Barras Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts – Personol – Eitem 5 ar y Rhaglen -
Llywodraethwr AALl Pen Barras / rhiant |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2014 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2014 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2014. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2014 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - YSGOLION CYNRADD ARDAL RHUTHUN PDF 93 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol ar gyfer Addysg
(copi’n amgaeedig) sy'n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau ymgynghori ar
gynigion trefniadaeth ysgolion ac i awgrymu bod y Cyngor yn cymeradwyo
buddsoddiad mewn tri phrosiect ysgol gynradd yn ardal Rhuthun. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn - (a) cymeradwyo symud ymlaen i ymgynghori'n
ffurfiol ar y cynnig i gau Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn ar 31 Awst
2016 ac agor ysgol a reolir yn wirfoddol Categori 2 newydd ar y safleoedd
presennol ar 1 Medi 2016. (b) cymeradwyo symud ymlaen i ymgynghori'n
ffurfiol ar y cynnig i gau Ysgol Rhewl ar 31 Awst 2017 a throsglwyddo’r
disgyblion i Ysgol Penbarras neu Ysgol Stryd y Rhos i gyd-daro ag agor yr
adeiladau ysgol newydd, ac (c) argymell y dylai’r Cyngor cymeradwyo’r
Achosion Busnes a’r Dyraniad Cyfalaf ar gyfer 1.
Ysgol Safle
Glasdir i ddisodli’r ddarpariaeth bresennol yn Ysgol Stryd y Rhos / Ysgol
Penbarras 2.
adeilad ysgol newydd ar gyfer
Ysgol Carreg Emlyn 3.
adeilad ysgol newydd ar gyfer
ysgol ardal Llanfair a Phentrecelyn, yn amodol ar ganlyniad y cynigion
trefniadaeth ysgolion. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad
yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau ymgynghori ar gynigion
trefniadaeth ysgolion sy'n codi o adolygiad ardal Rhuthun, ac argymell i'r
Cyngor gymeradwyo buddsoddiad ar gyfer tri phrosiect ysgol gynradd yn yr ardal. Roedd Aelodau'r Cabinet wedi ymgyfarwyddo gyda
phob ysgol sy’n destun adolygiad ardal Rhuthun, ac roeddent yn gwbl ymwybodol o
anghenion a gofynion pob un o'r ysgolion hynny.
Pwysleisiwyd nad oedd penderfyniad wedi’i wneud ynghylch y cynigion, a
gofynnwyd am gymeradwyaeth i gychwyn y broses ymgynghori. O ran yr ymrwymiad ariannol i brosiectau
ysgol, dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson, yn dilyn adolygiad o'r achosion
busnes, bod y Grŵp Buddsoddi Strategol wedi argymell cymeradwyo. Eglurodd nad oedd y prosiectau yn rhan o'r
prosiectau a ariennir gan Ysgolion yr 21ain Ganrif, ond roedd gan y Cyngor
ddigon o gyfalaf mewnol i'w cyflawni.
Ychwanegodd y Cynghorydd Eryl Williams, er nad oedd unrhyw ddibyniaeth
ar gyllid allanol, roedd yn obeithiol y gellid diogelu cyllid Ysgolion yr 21ain
Ganrif. Roedd y rhesymeg y tu ôl i ad-drefnu ysgolion
cynradd yn Rhuthun wedi cael ei nodi yn yr adroddiad, a thrafododd y Cabinet
gyda swyddogion ynghylch argymhellion yr adroddiad, er mwyn symud ymlaen i gam
nesaf y cynigion trefniadaeth ysgolion.
Roedd prif bwyntiau trafod ynghylch yr argymhellion yn cynnwys - ·
Ymgynghoriad ar y cynnig i gau Ysgol
Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn ac agor ysgol wirfoddol a reolir newydd
Categori 2 Rhoddwyd gwybod i’r Cabinet am y gefnogaeth
gyffredinol i'r ysgol ardal gymryd lle'r ddwy ysgol, yn enwedig o ystyried
cyflwr yr adeiladau presennol. Y mater dadleuol yn y cynnig hwn
oedd categoreiddio iaith yr ysgol newydd, ond y bwriad oedd peidio â dechrau
trafodaeth ar hyn o bryd, ond i ddechrau ymgynghori ac adrodd yn ôl i gyfarfod
yn y dyfodol. Nodwyd bod rhieni a phartïon eraill â
diddordeb eisoes wedi codi pryderon, a sicrhawyd y byddai'r holl faterion a
godwyd yn cael eu trafod a'u hystyried yn ofalus yn ystod y broses ymgynghori
cyn gwneud penderfyniad. Roedd yr
Arweinydd wedi cyfarfod cynrychiolwyr o'r ddwy ysgol, a siaradodd am y
teimladau cryf o gwmpas y mater categoreiddio a'r gwahanol safbwyntiau a
geir. Roedd yn awyddus i ysgol newydd
fod o’r budd gorau i’r plant a'r ardal yn y dyfodol. Cyfeiriwyd at yr adolygiad o gategoreiddio
iaith ysgolion y sir, a rhoddodd y swyddogion sicrwydd bod categoreiddio pob
ysgol yn cael ei fonitro trwy'r Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg. Teimlai'r Cynghorydd Meirick Davies yn gryf y
dylai'r ymgynghoriad gynnwys agor ysgol Categori 1 newydd yn hytrach na
Chategori 2. Derbyniodd y Cynghorydd Eryl Williams y farn honno, ond ymatebodd
y byddai'r dadleuon o ran categoreiddio yr un fath, a byddai'r holl faterion yn
cael eu hystyried yn ystod y broses ymgynghori.
Gofynnwyd am sicrwydd na fyddai disgyblion dan anfantais oherwydd y
newid dilynol i’r categoreiddio iaith, ac amlygodd y swyddogion y ffaith bod
disgyblion ffrwd Gymraeg mewn ysgolion Categori 2 yn gorfod cyflawni'r un
canlyniadau â disgyblion mewn ysgolion Categori 1. ·
Ymgynghoriad ar y cynnig i gau Ysgol Rhewl
gyda disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Pen Barras neu Stryd y Rhos Ailadroddwyd y rhesymeg y tu ôl i'r cynnig yn seiliedig ar gynaliadwyedd tymor hir Ysgol Rhewl. Mynegwyd rhai amheuon ynghylch a allai'r ysgol arfaethedig yng Nglasdir ddal disgyblion ychwanegol o ystyried y nifer arfaethedig o leoedd ysgol. Eglurodd swyddogion y cyfrifiadau ar gyfer nifer y disgyblion ynghyd ag ystyriaethau eraill gan gynnwys lleoedd dros ben - roedd hyblygrwydd o fewn y broses ar hyn o bryd a fyddai'n caniatáu ar gyfer diwygio rhagamcanion disgyblion, yn dibynnu ar ganlyniadau eraill fel y rhai sy'n ymwneud ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYLLIDEB 2015/16 (CYNIGION TERFYNOL - CAM 3) PDF 271 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi’n amgaeedig) sy’n cyflwyno cyfnod olaf rhaglen o arbedion cyllideb
a mesurau eraill i’w hargymell i’r Cyngor er mwyn darparu’r gyllideb refeniw ar
gyfer 2015/16. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) cefnogi cynigion y gyllideb
ar gyfer 2015/16 fel y dangosir yn Atodiad 1 yr adroddiad ac yn eu hargymell yn
unol â hynny i'r Cyngor llawn; (b) argymell i'r Cyngor gynyddu
Treth y Cyngor o ganlyniad i hynny, ar gyfartaledd o 2.75% yn 2015/16; (c) argymell i'r Cyngor bod
£500k o falansau cyffredinol yn cael eu defnyddio i gefnogi'r gyllideb refeniw
am y tair blynedd ariannol nesaf; (d) argymell i'r Cyngor bod y
gwaith o gyflawni'r Cynllun Corfforaethol yn cymryd blaenoriaeth mewn rowndiau
gosod cyllideb yn y dyfodol, a (e) cyfeiriad at holl ymatebion
Aelodau'r Cynulliad yng ngogledd Cymru am y gostyngiad yn y cyllid a roddir i
briffyrdd Sir Ddinbych a’r cyllid a ddyrannwyd ar gyfer y gwelliannau i’r M4 yn
cael ei gynnwys yn adroddiad Cyllideb 2015/16 i’r Cyngor. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill y cam olaf o raglen arbedion cyllidebol a
mesurau eraill i'w hargymell i'r Cyngor er mwyn cyflawni'r gyllideb refeniw ar
gyfer 2015/16. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys lefel gynyddol arfaethedig
yn Nhreth y Cyngor a’r defnydd o falansau cyffredinol. Cyfeiriodd y
Cynghorydd Thompson-Hill at ganlyniadau'r gweithdai cyllideb a oedd wedi
llywio’r cynigion cyllideb ac amlinellodd y sefyllfa gyllidebol
ddiweddaraf. Ymhelaethodd ar y cynigion
ar gyfer 2015/16 a’r cynnydd cyfartalog o 2.75% o ganlyniad i hynny yn lefel
Treth y Cyngor, ynghyd â'r rhesymeg y tu ôl i'r cynnig i ddefnyddio balansau
cyffredinol i ariannu'r gyllideb dros y tair blynedd nesaf. Yng ngoleuni ymrwymiad yr aelodau i
gyflawni'r Cynllun Corfforaethol, argymhellwyd hefyd bod hyn yn cymryd
blaenoriaeth mewn rowndiau gosod cyllideb yn y dyfodol. Wrth ystyried yr
adroddiad, trafodwyd y materion canlynol - ·
Teimlai'r
Cynghorydd Eryl Williams bod posibilrwydd cryf y gellid sicrhau cyllid Ysgolion
yr 21ain Ganrif ar gyfer prosiectau adeiladu ysgolion arfaethedig yn ardal
Rhuthun a fyddai'n rhyddhau cyllid i ddelio â phwysau cyllidebol eraill ·
ni
fyddai canlyniad yr ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau gofal cymdeithasol
mewnol yn effeithio ar gyllideb 2015/16 ond roedd arbedion o’r broses honno yn
ddyledus yn 2016/17 – roedd y proffil gwariant ar gyfer prosiectau gofal ychwanegol
ar gyfer y dyfodol wedi'u disgrifio yng nghrynodeb y Cynllun Corfforaethol
(Atodiad 4 i'r adroddiad) ·
cyfeiriwyd
at waith y Gweithgor Strategaeth Safleoedd Carafanau o ran y potensial i godi
refeniw treth y cyngor ar gyfer blynyddoedd i ddod ·
Teimlai'r
Cynghorydd Eryl Williams y dylid cynnwys ffigurau dangosol ar gyfer derbyniadau
cyfalaf sy'n deillio o brosiectau ysgol wedi’u cwblhau, yn y Cynllun
Corfforaethol, yn enwedig o ran tryloywder – esboniwyd anhawster y dull hwn o
ran symiau ac argaeledd y derbyniadau hynny, ac nid oedd llawer o deilyngdod
mewn dyrannu derbyniadau ymlaen llaw a oedd wedi achosi problemau yn y
gorffennol ·
Ailadroddodd
y Cynghorydd David Smith ei bryderon blaenorol bod cryn dipyn yn llai yn cael
ei wario ar gynnal a chadw priffyrdd, na allai fod yn ddigon i gynnal ansawdd
ffyrdd y sir neu gyflawni canlyniad y Cynllun Corfforaethol ar gyfer
priffyrdd. Rhannodd Aelodau’r pryderon
hynny a thrafodwyd y toriadau i'r gyllideb priffyrdd a cholli cyllid allanol,
ac a ddylai priffyrdd gael blaenoriaeth ar gyfer arian mewn achos o lithriant
yn y Cynllun Corfforaethol, neu argaeledd derbyniadau cyfalaf. Cyfeiriodd y Cynghorydd Eryl Williams at
benderfyniad 10(c) yng nghyfarfod diwethaf y Cabinet a gofynnodd bod ymatebion
gan Aelodau'r Cynulliad yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad Cyllideb i’r Cyngor ·
cyfeiriwyd
at resymau hanesyddol pam bod lefel treth y cyngor yn Sir Ddinbych yn un o'r
uchaf yng Nghymru, a chytunwyd y byddai adroddiad y Gyllideb i'r Cyngor yn
cynnwys cymhariaeth o lefelau treth y cyngor i ddangos safle Sir Ddinbych yn
gyffredinol – esboniwyd hefyd y gwahanol ddulliau o alinio lefelau treth y
cyngor rhwng Sir Ddinbych a Chonwy os symudwyd ymlaen ag uno. Cyfeiriodd yr
Arweinydd at broses agored a thryloyw y gyllideb, a dywedodd fod addysg a
gwasanaethau cymdeithasol wedi cael eu diogelu er gwaethaf yr hinsawdd ariannol
anodd, ac ailadroddodd ei ymrwymiad i gyflawni'r Cynllun Corfforaethol. Teimlai hefyd ei bod yn bwysig ystyried effaith
y toriadau yn y gyllideb ar berfformiad y Cyngor. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) cefnogi cynigion y gyllideb
ar gyfer 2015/16 fel y gwelir yn Atodiad 1 i'r adroddiad, ac argymell yn unol â
hynny i'r Cyngor llawn; (b) argymell i'r Cyngor y
cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfartaledd o 2.75% yn 2015/16; (c) argymell i'r Cyngor bod £500,000 o falansau cyffredinol yn cael eu defnyddio i gefnogi'r gyllideb refeniw ar gyfer y ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CYNLLUNIAU TREF AC ARDAL PDF 114 KB Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol
dros Ddatblygu Economaidd a Huw Jones, Aelod Arweiniol dros Hamdden, Ieuenctid,
Twristiaeth a Datblygu Gwledig sy’n cyflwyno’r camau a gymerwyd ers yr
Adolygiad o Gynlluniau Tref ac Ardal ac sy’n amlinellu’r ffordd ymlaen. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) cymeradwyo’r Datganiad
Polisi Cynlluniau Tref ac Ardal; (b) cymeradwyo asesiad Grŵp
Cefnogwyr Cynlluniau Tref ac Ardal o brosiectau a gymeradwywyd yn ffurfiol gan
y Cabinet ond sydd heb eu dechrau eto; (c) dad-ymrwymo'r dyraniad
cyllid i’r prosiectau a aseswyd fel rhai nad ydynt yn bodloni'r meini prawf; a (d) cymeradwyo paratoi rhestr
ddiwygiedig o brosiectau blaenoriaeth ar gyfer y Cynlluniau Tref ac Ardal a’r
broses arfaethedig ar gyfer dyrannu arian i'r prosiectau yma fel y nodir yn yr
adroddiad, a (e) y dylai meini prawf asesu’r
prosiectau a nodir yn Atodiad 3 i'r adroddiad, ar gyfer prosiectau yn y
dyfodol, sicrhau mai dim ond prosiectau sy'n niwtral o ran refeniw y dylid bwrw
ymlaen â hwy. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Hugh Evans adroddiad ar y cyd gyda'r Cynghorydd Huw Jones, yn manylu
ar y camau a gymerwyd ers yr adolygiad o Gynlluniau Tref ac Ardal (CGP) a'r
ffordd ymlaen. Roedd yn falch bod yr
adolygiad wedi cefnogi'r egwyddor o CGP a derbyniodd ganfyddiadau'r adolygiad,
gan dynnu sylw at yr angen am fframwaith gweithredol ac alinio CGP â
strategaethau a chynlluniau eraill.
Roedd manylion am waith y Gweithgor Hyrwyddwyr CGP wedi’u cynnwys o fewn
yr adroddiad, ac ymhelaethodd y Cynghorydd Evans ar y sefyllfa ariannu
bresennol a'r dull gweithredu arfaethedig ar gyfer dyraniadau arian yn y
dyfodol. Adroddodd y Cynghorydd Huw
Jones ar ei rôl fel Hyrwyddwr CGP a'r dull a gymerodd yn Ardal Dyffryn Dyfrdwy,
a chynigiodd gynorthwyo Hyrwyddwyr CGP
eraill i ddyblygu’r dull hwnnw o gefnogi'r broses CGP. Nododd y Cabinet
gasgliadau'r adolygiad a'r camau gweithredu dilynol mewn ymateb, gan gynnwys
ailasesiad o brosiectau a oedd wedi arwain at argymhelliad i ddad-ymrwymo
arian. Manteisiodd yr aelodau ar y cyfle i roi
sylwadau ar ddatblygu a chyflawni’r CGP yn eu hardaloedd penodol, a hefyd fe
ystyriwyd y dull gweithredu arfaethedig ar gyfer dyraniadau cyllid yn y
dyfodol, gan gynnwys y meini prawf asesu prosiect. Yn ystod y
drafodaeth codwyd y materion canlynol - ·
mynegwyd
amheuon ynghylch y diffyg pwysoli rhwng y gwahanol gategorïau o feini prawf
asesu, yn enwedig o ran goblygiadau refeniw yn y dyfodol - cytunwyd yn bennaf
bod y meini prawf yn cael eu diwygio i sicrhau y dylid ond symud ymlaen â
phrosiectau niwtral o ran refeniw ·
tra
mynegwyd cefnogaeth ar gyfer y broses newydd, amlygwyd yr angen i sicrhau bod y
prosiectau hynny sydd eisoes wedi'u cymeradwyo yn cael eu cyflawni, a
chadarnhaodd swyddogion, i helpu i hwyluso'r broses, byddai prosiectau’n cael
eu hymgorffori yn y cynlluniau busnes gwasanaeth perthnasol ·
gofynnwyd
am sicrwydd ynghylch y broses o fonitro elfennau arian cyfatebol prosiectau penodol
a’u tebygolrwydd o lwyddiant, ac awgrymwyd y gellid adlewyrchu’r elfen hon yn y
meini prawf asesu - adroddodd y swyddogion am fesurau i wneud y gorau o gyllid
allanol, ond cydnabuwyd bod rhywfaint o oddrychedd wrth sgorio’r elfen honno
o’r prosiect, fodd bynnag, darparwyd sicrwydd bod y prosiectau yn parhau i gael
eu hadolygu’n gyson; cytunwyd hefyd y byddai'r Grŵp Hyrwyddwyr CGP yn
cynnal adolygiad chwe misol o brosiectau ac os nad oedd hyder y byddai'r
prosiect yn cael ei gyflawni, byddai’r cyllid yn cael ei ddad-ymrwymo ac ar
gael ar gyfer prosiectau CPG eraill ·
tynnwyd
sylw at yr angen am fwy o ryngweithio rhwng Hyrwyddwyr CGP, Grwpiau Ardal yr
Aelodau a Chynghorau Tref / Cymuned, a meithrin dull cyfannol o gyflwyno'r CGP
- cyfeiriodd yr Arweinydd at y dull
arfer gorau a gymerwyd gan y Cynghorydd Huw Jones fel Hyrwyddwr CGP, y
gellid ei efelychu ar draws ardaloedd eraill, a’i ddisgwyliad bod y CGP yn
eitem sefydlog ar raglen cyfarfodydd Grwpiau Ardal yr Aelodau a Chynghorau Tref / Cymuned, gyda Hyrwyddwyr
CGP yn rhoi diweddariad ym mhob cyfarfod ·
Adroddodd
y Cynghorydd Meirick Davies am ei bryderon ynghylch dad-ymrwymo cyllid ar gyfer
dau brosiect yn ward ei ardal, a'r angen am well cyfathrebiad yn hynny o beth,
teimlodd hefyd y dylid darparu ffurflen benodol ar gyfer ceisiadau am gyllid
prosiect - cadarnhaodd y swyddogion bod ffurflen yn cael ei pharatoi ar gyfer
hyn, a fyddai'n cael ei chylchredeg cyn gynted ag y bo modd. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) cymeradwyo Datganiad Polisi
Cynlluniau Tref ac Ardal; (b) cymeradwyo asesiad Grŵp
Hyrwyddwyr Cynlluniau Tref ac Ardal o brosiectau a gymeradwywyd yn ffurfiol gan
y Cabinet, ond sydd heb ddechrau eto; (c) dad-ymrwymo'r dyraniad arian i’r prosiectau ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
POLISI DYLEDION CORFFORAETHOL PDF 87 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeedig) yn
cyflwyno’r Polisi Dyledion Corfforaethol i’w gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo'r 'Polisi Dyledion Corfforaethol' fel y mae i’w
weld yn Atodiad A yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill y Polisi Dyledion Corfforaethol i'r Cabinet i'w
gymeradwyo. Esboniwyd y
rhesymeg y tu ôl i'r polisi newydd er mwyn cael y cyfle gorau i adennill
dyledion y Cyngor drwy ddarparu dull cyfannol o ymdrin â chwsmeriaid a oedd â
sawl math o ddyled. Awgrymwyd cynllun
peilot tri mis i ddechrau er mwyn asesu effeithiolrwydd y polisi cyn ei
gyflwyno'n llawn. Cadarnhaodd Swyddogion
os byddai’r polisi yn cael ei gymeradwyo, byddai'n parhau i gael ei weithredu
pan fydd y bartneriaeth fasnachol yn cael ei ffurfio i ddarparu'r Gwasanaeth
Refeniw a Budd-daliadau. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo'r Polisi Dyledion Corfforaethol fel y dangosir yn
Atodiad A i'r adroddiad. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi ynghlwm) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd
ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd yn erbyn
y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r
cynnydd a wnaed yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa
ariannol y Cyngor- ·
rhagwelwyd
tanwariant net o £309,000 yn y gyllideb refeniw ar draws cyllidebau gwasanaeth
a chorfforaethol ·
cytunwyd
ar arbedion o £7.1miliwn fel rhan o'r gyllideb ac ar hyn o bryd ystyrir bod 90%
o’r rhain wedi eu cyflawni, gyda 10% ar waith ·
amlygwyd
y prif amrywiadau oddi wrth gyllidebau neu dargedau arbedion meysydd gwasanaeth
unigol ·
cafwyd
diweddariad cyffredinol ynglŷn â’r Cyfrif Refeniw Tai, Cynllun Cyfalaf Tai
a’r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol). PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd a wnaed o
ran strategaeth y gyllideb y cytunwyd
arni. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 75 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans Raglen Gwaith
i'r Dyfodol y Cabinet i’w
hystyried. Nododd yr Aelodau y byddai'r
ymatebion i'r ymgynghoriad ar y newid arfaethedig i ddynodiad Ysgol Esgob
Morgan a chynigion adolygiad ardal Rhuthun yn cael eu cyflwyno i'r cyfarfodydd
ym mis Mawrth a mis Mai yn y drefn honno. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau
Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig
yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen
12A Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
POLISI GWIRIO’N SEILIEDIG AR RISG CYNLLUNIAU LLEIHAU BUDD-DAL TAI A THRETH Y CYNGOR. Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeedig) yn
cyflwyno’r Polisi Gwirio’n Seiliedig ar Risg diwygiedig i’w gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo'r Polisi ‘Gwirio ar Sail Risg' fel y mae i’w weld yn
Atodiad A yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill y Polisi Gwirio’n Seiliedig ar Risg diwygiedig
i'r Cabinet ei gymeradwyo. Nododd yr
Aelodau'r newidiadau sydd eu hangen i'r polisi cyfredol mewn perthynas â
hawliadau newydd a newidiadau mewn amgylchiadau ar gyfer Budd-dal Tai a
Gostyngiad yn Nhreth y Cyngor a - PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo'r Polisi ‘Gwirio’n Seiliedig ar Risg’ fel y dangosir yn
Atodiad A i'r adroddiad. Daeth y cyfarfod i ben am 1.35pm. |