Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: {0><}100{>Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.<0} Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: {0><}100{>Ni chafodd unrhyw gysylltiad personol na
rhagfarnol ei ddatgan.<0} Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad personol na rhagfarnol ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: {0><}100{>Ni chafwyd unrhyw faterion brys. <0} Cofnodion: Nid oedd unrhyw
faterion brys. |
|
Cael cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 28 Hydref 2014 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: {0><}99{>PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Hydref 2014 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi.<0} Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 28 Hydref 2014. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Hydref 2014 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
CYLLIDEB 2015/16 - 2016/17 (CAM 2) PDF 90 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid ac
Asedau (copi amgaeedig) yn argymell y dylid cyflwyno arbedion y gyllideb i'r
Cyngor i'w gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: {0><}0{>PENDERFYNWYD bod
y Cabinet, ar ôl ystyried y trafodaethau yn y gweithdai cyllideb niferus i’r
holl aelodau er mwyn cyflawni’r arbedion o £17.1m sydd ei angen, yn argymell
bod yr arbedion a restrir yn Atodiad 1 i'r adroddiad yn cael eu cymryd i holl
aelodau'r Cyngor i'w cymeradwyo.<0} Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn argymell cyflwyno Cam 2 yr arbedion yn y gyllideb ger bron y
Cyngor i'w cymeradwyo. Roedd yr adroddiad yn amlinellu sefyllfa gyfredol y
gyllideb ac yn manylu ar y cynigion diweddaraf i ganfod arbedion sy’n dod i gyfanswm
o £3.6 miliwn yn 2015/16 ac £1.8 miliwn yn 2016/17. Tynnodd yr Arweinydd sylw at y gwaith caled y mae
Aelodau Arweiniol a Phenaethiaid Gwasanaeth wedi ei wneud i ddynodi dewisiadau
i'w hystyried ac i sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o oblygiadau'r
cynigion. Tra oedd yn cydnabod bod angen
gwneud penderfyniadau anodd nododd ei fod yn fodlon bod y broses o bennu
cyllideb wedi bod yn gadarn, yn agored ac yn dryloyw a diolchodd i’r holl
aelodau am eu cyfranogiad. Atgoffwyd yr
aelodau gan y Cynghorydd Thompson-Hill am y broses gynhwysfawr i ddynodi'r
arbedion y mae eu hangen i gyflawni cyllideb gytbwys dros y ddwy flynedd
nesaf. Cafwyd diweddariad ganddo hefyd
ynglŷn â’r ymarfer a wnaed i ymgysylltu â'r cyhoedd a elwid yn 'Torri’r
Brethyn’ a dywedodd y byddai adborth yn cael ei adrodd ger bron y Cyngor llawn
ochr yn ochr ag argymhellion y gyllideb a'r asesiadau effaith llawn. Amlinellodd Aelodau'r Cabinet y cynigion cyllidol
sy'n ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol o fewn eu portffolios eu hunain y
manylir arnynt yn Atodiad 1, gan egluro’r rhesymeg sydd wrth wraidd yr
argymhellion hynny a'r goblygiadau dilynol sy’n deillio ohonynt. Tra oedd yr aelodau’n rhoi ystyriaeth i'r
arbedion cyllidol manteisiodd rhai ohonynt ar y cyfle i holi cwestiynau a
cheisio sicrwydd ynglŷn â chynigion penodol er mwyn bodloni eu hunain
mai’r rhain oedd y dewisiadau gorau i'w hargymell i'r Cyngor llawn er mwyn eu
cymeradwyo. Roedd prif agweddau’r drafodaeth yn canolbwyntio
ar y meysydd gwasanaeth canlynol - Cyllidebau Dirprwyedig
Ysgolion - Mewn ymateb i
gwestiynau, dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams bod y diogelwch o 1% yn y
gyllideb yn cael ei gynnal drwy fuddsoddi yn y Cynllun Corfforaethol. O ran y gostyngiad i adlewyrchu'r lleihad yn
nifer y disgyblion eglurodd beth yw swyddogaeth y Fforwm Cyllideb Ysgolion yn
hynny o beth. Cefnogaeth Addysgol - O ran cael gwared ar y grant gwisg ysgol
dewisol ar gyfer Blynyddoedd 8-11 roedd eglurhad llawn wedi cael ei ddarparu yn
ystod Sesiwn Briffio'r Cyngor ac nid oes disgwyl y bydd plant na allant
fforddio gwisg ysgol yn gorfod gwneud heb wisg ysgol. Gwasanaethau Gwella Ysgolion
- Trafodwyd effaith dod
â’r cytundeb gwasanaeth cerddoriaeth i ben a nodwyd na fyddai gwersi
cerddoriaeth ar gyfer disgyblion unigol yn cael eu heffeithio. O adolygu’r maes hwn, gwelwyd nad oedd y
ddarpariaeth cyllid cerddoriaeth yn cael ei defnyddio ym mhob ysgol. Roedd modd i ysgolion gymryd cyfrifoldeb am y
gwasanaeth cerddoriaeth ac roedd rhai eisoes yn ymchwilio i’r posibilrwydd
hwnnw. Gwasanaethau Plant a
Theuluoedd - Gofynnwyd am
sicrwydd na fyddai plant ag anableddau o dan anfantais o ganlyniad i gyflwyno
cyfraniadau gan rieni am y gwasanaethau a ddarperir. Dywedwyd wrth y Cabinet na ddylai cyflwyno cyfradd
wastad fechan gael nemor ddim effaith, o gofio fod gan rieni fynediad o hyd at
ystod o fuddion eraill. Gwasanaethau Oedolion a Busnes - Gofynnwyd am sicrwydd na fyddai cynigion i allanoli’r cartrefi gofal y mae’r cyngor yn eu rhedeg yn niweidiol i'w trigolion. Trafododd yr Aelodau gyfeiriadau diweddar yn y wasg at safonau gwael mewn cartrefi gofal preifat a thynnodd y Cynghorydd Bobby Feely sylw at fesurau sydd yn eu lle er mwyn monitro safonau a darparu trosolwg mwy cyffredinol o ansawdd a safon y gofal mewn cartrefi gofal preifat. Dywedodd hefyd mai dim ond tri o'r cartrefi gofal yn y sir sy’n ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYNLLUN COMISIYNU LLEOL CEFNOGI POBL SIR DDINBYCH 2015-18 PDF 105 KB Ystyried
adroddiad ac atodiad cyfrinachol
gan y Cynghorydd Bobby Feeley, yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol a
Gwasanaethau Plant (copi'n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i
Gynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl cyn ei gyflwyno i Bwyllgor Cydweithredol
Rhanbarthol Gogledd Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: {0><}77{>PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo'r Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl ar gyfer 2015
- 18 i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithio Rhanbarthol ym mis Ionawr 2015.<0} Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i Gynllun
Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl 2015-18 cyn y câi ei gyflwyno ger bron Pwyllgor
Cydweithredol Rhanbarthol Gogledd Cymru. Fframwaith polisi
a ffrwd ariannu yw Cefnogi Pobl er mwyn darparu cymorth sy'n gysylltiedig â
thai i bobl ddiamddiffyn er mwyn eu galluogi i fyw mor annibynnol ag y bo
modd. Roedd y Cynllun yn manylu ar
flaenoriaethau ac ar gamau gweithredu dros y tair blynedd nesaf, a chyfeiriwyd
at y goblygiadau cyllidol sy'n codi o doriadau mewn cyllid, gyda gostyngiadau
dangosol gan y darparwr ar gyfer 2015-16 wedi eu cynnwys mewn atodiad
cyfrinachol i'r prif adroddiad. Mewn
ymateb i gwestiynau dywedwyd wrth yr aelodau am y trefniadau llywodraethu sydd
ar waith ac am y modd y caiff adnoddau ariannol eu rheoli, ynghyd â swyddogaeth
Cefnogi Pobl wrth gefnogi Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) trwy
ddarparu gwasanaethau lefel isel a gwasanaethau ataliol. Yn y fan hon
penderfynodd y Cabinet eithrio’r wasg a'r cyhoedd er mwyn trafod yr atodiad
cyfrinachol ac ymatebodd swyddogion i gwestiynau ynglŷn â hynny ac wedi
hynny ailddechreuwyd y cyfarfod mewn sesiwn agored. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo cyflwyno Cynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl 2015 - 18 ger bron
Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gogledd Cymru ym mis Ionawr 2015. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi ynghlwm) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd
ar strategaeth y gyllideb a gytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: {0><}100{>PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar
gyfer 2014/15 a'r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.<0} Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r
cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni. Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa
ariannol y Cyngor- ·
rhagwelwyd
tanwariant o £158 mil yn y gyllideb refeniw ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a
chyllidebau corfforaethol ·
cytunwyd
ar arbedion o £7.1 miliwn yn rhan o'r gyllideb ac ar hyn o bryd mae 90% wedi eu
cyflawni ac mae 10% yn mynd rhagddynt ·
amlygwyd
y prif amrywiadau oddi wrth gyllidebau neu dargedau arbedion meysydd gwasanaeth
unigol ·
cafwyd
diweddariad cyffredinol ynglŷn â’r Cyfrif Refeniw Tai; y Cynllun Tai
Cyfalaf a’r Cynllun Cyfalaf (yn cynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol). Adroddodd y Cynghorydd Eryl Williams am gyfarfod
Blynyddol y Gweinidog Addysg gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yr wythnos
cynt pan drafodwyd Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac amlygu’r angen i fynd
i'r afael â lleoedd gweigion. Nododd yr
aelodau fod nifer o gynghorau yn ei chael yn anodd ariannu’r prosiectau hynny a
phwysleisiodd yr Arweinydd pa mor bwysig yw parhau â'r disgwyliadau a nodwyd yn
y Cynllun Corfforaethol. Roedd hefyd yn
falch o nodi cynnydd cadarnhaol y prif brosiectau a oedd wedi eu nodi yn yr
adroddiad. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd a wnaed o
ran y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 122 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: {0><}100{>PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.<0} Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans Raglen Gwaith
i'r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a
nododd yr aelodau nifer o ddiwygiadau ers ei chyhoeddi. PENDERFYNWYD
nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd RESOLVED
that under Section 100A of the Local Government Act 1972, the Press and Public
be excluded from the meeting for the following items of business on the grounds
that it involved the likely disclosure of exempt information as defined in Paragraphs
14 and 15 of Part 4 of Schedule 12A of the Local Government Act 1972. |
|
PARTNERIAETH FASNACHOL AR GYFER Y GWASANAETH REFENIW A BUDD-DALIADAU
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
dros Gyllid ac Asedau (copi'n amgaeëdig) ynghylch cynigion i ffurfio
partneriaeth fasnachol â chwmni preifat i ddarparu Gwasanaeth Refeniw a
Budd-daliadau’r Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: {0><}100{>PENDERFYNWYD bod y Cabinet -<0} {0><}100{>(a)<0} {0><}0{>yn argymell i'r Cyngor llawn bod y Cyngor yn mynd i mewn i’r bartneriaeth
fasnachol â y cwmni a enwyd yn yr
adroddiad, ac<0} {0><}100{>(b)<0} {0><}0{>yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Cyngor, cyflwyno adroddiad i graffu ar ôl
deunaw mis o weithredu mewn partneriaeth er mwyn adolygu cynnydd y
bartneriaeth, gan dalu sylw arbennig i elfen busnes newydd y cynnig a darparu
gwasanaeth Cymraeg.<0} Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad cyfrinachol ynglŷn â’r
cynigion i ffurfio partneriaeth fasnachol gyda chwmni preifat i ddarparu
Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau’r Cyngor. Mewn trafodaeth
fanwl, ystyriodd y Cabinet y dadansoddiad dewisiadau a ddarparwyd gogyfer â'r
gwasanaeth a'r rhesymeg sydd wrth wraidd y cynigion i ymrwymo i bartneriaeth
fasnachol gan gynnwys manteision hynny dros y dewisiadau amgen, yn enwedig o
ran arbedion a’r cyfle ar gyfer twf.
Roedd cynrychiolwyr o’r cwmni preifat yn bresennol a buont yn ymateb i
gwestiynau'r aelodau ynglŷn â’r model arfaethedig a’r cynlluniau i'r
dyfodol ped elai’r bartneriaeth rhagddi, gan ddarparu sicrwydd ynghylch eu
hymrwymiad i Sir Ddinbych o ran staffio a lleoliad; eu darpariaeth Gymraeg a’u
hymrwymiad i ddilyn polisïau a gweithdrefnau presennol. Cyfeiriwyd hefyd at effaith newidiadau
deddfwriaethol a chamau gweithredu i liniaru'r rheini. Dywedwyd wrth yr Aelodau am yr adborth
cadarnhaol a gafwyd wrth ymgynghori â staff ac am drafodaethau cadarnhaol
gyda’r undebau. Cydnabu’r Cabinet
y manteision a'r cyfleoedd a ddaw o ffurfio partneriaeth fasnachol ond
gofynnwyd, pe cymeradwyir y bartneriaeth, bod adolygiad yn cael ei gynnal ymhen
tua deunaw mis. PENDERFYNWYD bod y Cabinet- (a) yn argymell i'r Cyngor llawn
bod y Cyngor yn ymrwymo mewn partneriaeth fasnachol gyda'r cwmni a enwyd yn yr
adroddiad, ac (b) yn amodol ar gael
cymeradwyaeth y Cyngor bod adroddiad yn cael ei gyflwyno ger bron y broses
graffu wedi deunaw mis o weithredu’r bartneriaeth er mwyn adolygu cynnydd y
bartneriaeth gan roi sylw arbennig i elfen busnes newydd y cynnig ac i
ddarpariaeth gwasanaeth Cymraeg. Daeth y cyfarfod i ben am 1.50pm. |
|
CYTUNDEB GWIRFODDOL I ADAEL Y SYSTEM CYMHORTHDAL CYFRIF REFENIW TAI (HRAS)
Ystyried adroddiad
cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid
ac Asedau (copi'n amgaeedig) yn gofyn i'r Cabinet argymell y cytundeb
gwirfoddol i'r Cyngor i'w gymeradwyo a gofyn am awdurdod dirprwyedig i gwblhau
manylion y cytundeb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: {0><}95{>PENDERFYNWYD bod y Cabinet -<0} {0><}100{>(a)<0} {0><}0{>yn argymell y cytundeb gwirfoddol i'r Cyngor i'w gymeradwyo ac yn nodi'r
cerrig milltir allweddol y maen nhw’n gweithio tuag atynt, er mwyn gadael
system Cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai, ac<0} {0><}100{>(b)<0} {0><}0{>yn amodol ar y Cyngor yn cymeradwyo'r cytundeb gwirfoddol, rhoi awdurdod
dirprwyedig i'r Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau a'r Prif Gyfrifydd i
gwblhau manylion y cytundeb mewn trafodaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru, Llywodraeth Cymru a'r deg awdurdod cadw stoc arall yn Cymru.<0} Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad cyfrinachol yn gofyn i'r Cabinet
argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r cytundeb gwirfoddol ac yn cymeradwyo
dirprwyo awdurdod i gwblhau manylion y cytundeb. Roedd yr
adroddiad yn amlinellu'r cerrig milltir allweddol ar gyfer gadael system
Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai ac yn rhoi trosolwg o'r cytundeb gwirfoddol sydd
i’w lofnodi rhwng yr un ar ddeg awdurdod sy’n meddu ar stoc dai a Llywodraeth
Cymru er mwyn eu galluogi i adael y system.
Ymhelaethodd y Cynghorydd Hugh Irving ar y cydweithio a fu rhwng
awdurdodau a thalodd deyrnged i waith caled y swyddogion cyllid a thai yn hynny
o beth. Ymgyfarwyddodd yr Aelodau â’r
cytundeb cydweithredol a chroesawu buddion y system arfaethedig newydd a'r
manteision ariannol ar gyfer Sir Ddinbych.
Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau ynglŷn â goblygiadau ariannol
gadael y system, y buddsoddiad posibl mewn stoc tai fforddiadwy i’r dyfodol a
goblygiadau'r uno posibl gyda Conwy.
Ailadroddodd y Cynghorydd Eryl Williams ei farn y dylid cyhoeddi
cynlluniau'r Cyngor i adeiladu tai fforddiadwy fel stori o newyddion da. Credai’r Cynghorydd Thompson-Hill y byddai'n
gyfle da i roi cyhoeddusrwydd i’r cynlluniau pan roddir ystyriaeth i adael y
system cymhorthdal tai yn y Cyngor llawn. PENDERFYNWYD - bod y Cabinet
- (a) yn argymell bod y Cyngor yn
cymeradwyo’r cytundeb gwirfoddol ac yn nodi'r cerrig milltir allweddol y
gweithir tuag atynt er mwyn gadael y system Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai. (b) ar yr amod bod y Cyngor yn
cymeradwyo'r cytundeb gwirfoddol, yn dirprwyo awdurdod i'r Aelod Arweiniol dros
Gyllid ac Asedau ac i'r Prif Gyfrifydd i gwblhau manylion y cytundeb mewn
trafodaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru a'r deg
awdurdod arall yng Nghymru sy’n meddu ar stoc dai. |