Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Cyflwynwyd
ymddiheuriadau ar ran y Cynghorydd Eryl Williams a fyddai'n cyrraedd yn hwyr ar
gyfer y cyfarfod. Cofnodion: Cyflwynwyd
ymddiheuriadau ar ran y Cynghorydd Eryl Williams a fyddai'n cyrraedd yn hwyr ar
gyfer y cyfarfod. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw fuddiant personol neu fuddiant sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
ddatganiad o ddiddordeb personol neu fuddiannau sy'n rhagfarnu. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy’n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys yn unol
ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 27 Mai, 2014 (copi wedi’i amgáu). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mai 2014 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 27 Mai 2014 . PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mai 2014 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
TREFNIADAU RHANBARTHOL A LLEOL I DDIOGELU PLANT AC OEDOLION PDF 77 KB Ystyried
adroddiad gan y Cyng. Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a
Gwasanaethau Oedolion a Phlant, (copi wedi’i amgáu) yn gofyn i’r Cabinet gytuno
ar strwythur y Bwrdd Rhanbarthol Diogelu Plant. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylai’r Cabinet gytuno ar strwythur y BDP rhanbarthol, (i’w adnabod fel Bwrdd
Diogelu Plant Gogledd Cymru), fel y dangosir yn Niagram 2 yn Atodiad 1 yr
adroddiad; i fod yn weithredol cyn gynted â phosibl. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad yn
hysbysu aelodau am ddatblygiadau rhanbarthol mewn perthynas â diogelu plant a
chyflwynodd y strwythur ar gyfer y Bwrdd Diogelu Plant rhanbarthol ar gyfer
cymeradwyaeth. Soniwyd wrth yr Aelodau am y camau a gymerwyd gan
y tri Bwrdd Lleol Diogelu Plant yng ngogledd Cymru i symud tuag at strwythur
rhanbarthol yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles. Cynigir bod y
Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru (BDPGC) yn gyfrifol am y swyddogaethau
statudol, a bod grwpiau isranbarthol yn sicrhau bod arferion lleol yn bodloni
anghenion lleol. Roedd ar y Cabinet eisiau sicrwydd bod y tensiynau
a welwyd mewn ymateb i'r strwythur dwy haen wedi eu datrys ac na fyddai Sir
Ddinbych yn cael ei effeithio'n andwyol gan y cynigion. Gofynnwyd am sicrwydd
hefyd ynghylch a oes adnoddau digonol yn eu lle i symud ymlaen. Dywedodd
Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd bod tensiynau yn bodoli ymhob cynllun
trawsnewid ac y byddai'r newid strwythurol yn darparu mwy o hyblygrwydd a
manteision. Ymhelaethodd ar y gwahaniaethau rhwng y strwythur presennol a’r
strwythur arfaethedig er mwyn egluro’r ddwy haen, gan sicrhau bod lleoliaeth yn
cael ei gynnal wrth gyflawni amcanion ar lefel ranbarthol. Cadarnhaodd hefyd
bod asiantaethau partner wedi ymrwymo adnoddau i ddatblygu'r cynigion ac fe
gredir bod yr adnoddau hyn yn ddigonol ar gyfer y cam yma o’r broses. Mewn
ymateb i gwestiynau pellach adroddodd Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
ar yr amserlen i symud ymlaen gyda'r trefniadau a chadarnhaodd nad oedd unrhyw
amharodrwydd penodol i ymgymryd â rôl awdurdod cynnal. Mae copïau o adroddiad
Prifysgol Sheffield ar eu gwerthusiad o’r modelau ar gael ar gais i'r Pennaeth
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd neu'r Rheolwr Prosiect Diogelu. PENDERFYNWYD
y dylai’r Cabinet gytuno ar strwythur y BDP rhanbarthol, (i’w adnabod fel Bwrdd
Diogelu Plant Gogledd Cymru), fel y dangosir yn Niagram 2 yn Atodiad 1 yr
adroddiad; i fod yn weithredol cyn gynted â phosibl. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL (CHWARTER 4 2013/14) PDF 80 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol Moderneiddio a
Pherfformiad (copi wedi’i amgáu) yn rhoi diweddariad ar ddarparu Cynllun
Corfforaethol 2012 – 17 ar ddiwedd chwarter 4 2013/14. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r
cynnydd a wnaed o ran cyflawni'r Cynllun Corfforaethol. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith yr adroddiad
i ddiweddaru'r Cabinet ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd
chwarter 4 2013/14. Mae ail flwyddyn y cynllun pum mlynedd newydd ei gwblhau ac
mae’r cynnydd ar y cyfan yn dderbyniol. Tynnwyd sylw’r Aelodau at y crynodeb perfformiad
allweddol a nodwyd yn yr adroddiad a'r 13 o faterion allweddol a graffwyd
arnynt gan y Pwyllgor Archwilio Perfformiad. Amlygodd y Cynghorydd Smith rai
o'r materion hynny a rhoddodd eglurhad a diweddariad ar y cynnydd yn erbyn y
dangosyddion penodol hynny. Fel pwynt o gywirdeb tynnodd yr Arweinydd sylw at
dudalen 44, canlyniad 5 – prosiectau y Rhyl yn Symud Ymlaen, gan gynghori nad
yw'r dangosydd hwn wedi ei dynnu'n ôl. Mewn ymateb i gwestiynau a ofynnwyd gan aelodau yn
ystod y drafodaeth a ddilynodd, cafwyd yr ymatebion canlynol - ·
mae
anghysondeb yn y ffordd y mae'r ffigurau ar gyfer tipio anghyfreithlon yn cael
eu casglu a'u hadrodd i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cael ei archwilio
ymhellach ·
ni
ddarparodd y dangosydd ar gyfer cyflwyno cyrbau isel adlewyrchiad cywir o’r
cynnydd ac felly mae hyn bellach yn cael ei fesur yn erbyn terfyn amser
diwygiedig ·
mae’r
cynnydd sylweddol o ran gosod a defnyddio offer TGCh mewn ysgolion cynradd wedi
ei briodoli i ddefnydd uchel o drydan, ond efallai bod problem gydag offer yn
cael eu gadael ar 'standby' dros nos. Mae hyn yn cael ei ymchwilio. ·
mae
trydaneiddio'r gwasanaethau rheilffordd yn cael ei ddatblygu trwy'r Bwrdd
Uchelgais Economaidd a Chymunedol ac mae achos twf economaidd i gefnogi
buddsoddiad yn cael ei ddatblygu ·
mae’r
gweithgaredd i "fanteisio ar botensial OpTIC a hyrwyddo Parc Busnes
Llanelwy" wedi ei drafod gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd a Chymunedol ac
mae swyddogion yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru ·
mae
dangosyddion sy'n ymwneud â nifer o ystafelloedd dosbarth symudol a lefelau
salwch yn gwella ·
mae
ffigurau yn ymwneud ag addysg wedi eu dwyn ymlaen o chwarter 2 ac ni fyddant yn
newid nes bydd data mis Gorffennaf wedi ei gyhoeddi ym mis Medi, a fydd yn rhoi
darlun cliriach o’r cynnydd ·
cydnabuwyd bod dau fesur
perfformiad wedi eu nodi fel "anhysbys" ar gyfer (1)% o’r ffyrdd a’r
palmentydd a oedd wedi eu difrodi sydd bellach wedi eu gwneud yn ddiogel o fewn
yr amser targed, a (2)% o’r ffyrdd a oedd mewn cyflwr diffygiol sydd wedi eu
hatgyweirio o fewn yr amserlen - mae’r gwasanaeth yn gweithio i wella
gwybodaeth a dderbynnir drwy eu system feddalwedd a byddai gofyn iddynt
hwyluso'r broses honno - cytunodd y Cynghorydd David Smith i edrych i mewn i'r
mater ·
mae
prosiect ar y cyd yn cael ei ddatblygu gan Eiddo a Datblygu Economaidd i nodi
safleoedd datblygu / cyflogaeth strategol ar gyfer mewnfuddsoddi. Gofynnodd yr Arweinydd i'r swyddogion ystyried y
cwestiynau a ofynnwyd gan yr aelodau wrth gynhyrchu'r adroddiad cynnydd nesaf. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r
cynnydd a wnaed o ran cyflawni'r Cynllun Corfforaethol. |
|
ADRODDIAD CANLYNIAD ARIANNOL 2013/14 PDF 92 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi wedi’i amgáu) yn manylu ar y sefyllfa’r canlyniad refeniw terfynol
ar gyfer 2013/14 a bwriad i ymdrin â chronfeydd wrth gefn a balansau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno i argymell y canlynol i’r
Cyngor llawn - (a) y sefyllfa
refeniw derfynol ar gyfer 2013/14, a (b) ymdrin â’r
cronfeydd wrth gefn a’r balansau fel y
manylir yn yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad yn
manylu ar sefyllfa’r canlyniad refeniw terfynol 2013/14 ac yn nodi sut y
bwriedir ymdrin â’r cronfeydd wrth gefn a’r balansau. Mae'r ffigurau Alldro
Refeniw terfynol (Atodiad 1); Manylion Alldro Gwasanaethau (Atodiad 2);
Balansau Ysgolion (Atodiad 3), a Trosglwyddiadau o / i Gronfeydd a Glustnodwyd
(Atodiad 4) ynghlwm wrth yr adroddiad. Cyflwynodd y Cynghorydd Thompson-Hill yr adroddiad a'r
atodiadau. Yn fyr, mae’r sefyllfa alldro ar y cyfan yn dangos tanwariant yn
erbyn y gyllideb a gymeradwywyd sydd, ynghyd â'r cynnydd yn arenillion treth y
cyngor, yn cryfhau sefyllfa ariannol y Cyngor. O ganlyniad, bu’n bosibl gwneud
argymhellion ar gyfer trosglwyddo arian i gronfeydd wrth gefn penodol a
fyddai'n cynorthwyo'r Cyngor i fynd i'r afael â'r pwysau ariannol difrifol dros
yr ychydig flynyddoedd nesaf, ac yn darparu’r arian parod sydd ei angen i
gyflawni'r Cynllun Corfforaethol. Y sefyllfa derfynol yw £1.1 miliwn o arian
parod. Cynigiwyd bod £885 mil yn cael ei ddefnyddio i gyfrannu at elfen arian
parod wrth gefn y Cynllun Corfforaethol a bod £250 mil yn cael ei neilltuo ar
gyfer gwariant cyfalaf i arbed gorfod defnyddio cronfeydd wrth gefn i edrych ar
y posibilrwydd o fuddsoddi mewn llety gofal maeth. Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, tynnwyd sylw at y
meysydd canlynol - ·
Roedd
gwariant ysgolion yn £1.023 miliwn yn is na'r gyllideb ddirprwyedig a
thrafododd yr aelodau y rhesymau posibl am y tanwariant. Mae ysgolion yn
gyfrifol am eu cyllidebau dirprwyedig eu hunain a rhoddwyd eglurhad ar rôl y
Fforwm Cyllidebau Ysgolion a rôl y swyddogion wrth reoli'r arian. Mae trafodaethau
yn cael eu cynnal gydag ysgolion sydd â balansau iach ac mae cymorth yn cael ei
ddarparu i ysgolion sydd â diffyg ariannol. Cydnabuwyd y cynnydd da a wnaed gan
ddwy Ysgol Uwchradd y Rhyl i leihau balansau negyddol a nodwyd bod cynllun
adfer ariannol ar gael ar gyfer Ysgol Pendref a bod y pennaeth newydd yn
dechrau ei swydd cyn bo hir. ·
Mae
ar y Cynllun Corfforaethol angen oddeutu £25 miliwn o arian parod a benthyciad
gwerth £52 miliwn er mwyn cyflawni uchelgais y Cyngor. Cyfanswm y cyllid a
ddyrannwyd i gronfa wrth gefn y Cynllun Corfforaethol o fewn y flwyddyn oedd
£4.3 miliwn, gyda £855 mil arall yn cael ei gynnig fel rhan o'r sefyllfa
derfynol. Gyda gwariant o £797 mil yn erbyn y gronfa wrth gefn yn ystod y
flwyddyn, y sefyllfa derfynol ar ddiwedd y flwyddyn oedd £14.7 miliwn. Felly,
mae’r gwaith o ddarparu’r Cynllun Corfforaethol ar y trywydd cywir. ·
Roedd
y Cynghorydd David Smith yn falch bod cyllideb Gwasanaeth yr Amgylchedd a
Phriffyrdd wedi llwyddo i dalu’r costau. Fodd bynnag, roedd yn pryderu bod y
balans wedi ei gyflawni drwy ddefnyddio cyllid gan adrannau eraill i gwrdd â
diffygion mewn meysydd nad oes gan y gwasanaeth unrhyw reolaeth drostynt, fel
cludiant ysgol - cyfeiriodd at gyfarfod Rhyddid a Hyblygrwydd sy’n cael ei
gynnal cyn bo hir i ymdrin â’r mater penodol hwn. ·
Cyfeiriodd
y Cynghorydd Bobby Feeley at y ffordd y mae gwasanaethau cymdeithasol yn
trawsnewid gyda phobl yn cael eu hannog i fod yn fwy cyfrifol am eu hiechyd, eu
lles a'u hannibyniaeth. Pwysleisiodd bwysigrwydd gwasanaethau anstatudol fel
hamdden, llyfrgelloedd a gwasanaethau cefn gwlad yn hynny o beth. · Roedd yr Arweinydd yn pryderu ynghylch y posibilrwydd o gael setliad ariannol gwaeth na’r hyn sydd wedi ei nodi eisoes ar gyfer 2015/16. O ystyried yr effaith ar ddarpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol, gofynnodd i’r Cynghorwyr sy’n gysylltiedig â phlaid wleidyddol i ddechrau lobïo ar ran y trigolion i ddylanwadu ar y ddadl honno ar lefel genedlaethol. Dywedodd y Prif Weithredwr fod gan y Cyngor ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi wedi’i amgáu) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r
cynnydd ar strategaeth y gyllideb a gytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd yn erbyn
strategaeth y gyllideb a gytunwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
adroddiad ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn y
strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni. Darparodd grynodeb o sefyllfa ariannol
y Cyngor a soniodd yn benodol am y canlynol- ·
cyllideb
refeniw net y cyngor - £188m ar gyfer 2014/15 (£192m yn 2013/14). ·
cyllidebau
ac arbedion gwasanaeth unigol y cytunwyd arnynt ar gyfer 2014/15. ·
nid
oes unrhyw amrywiad yn y cyfnod cynnar hwn, fodd bynnag mae camau gweithredu i
fynd i’r afael â’r risgiau a adroddwyd amdanynt yn flaenorol o fewn Gwasanaeth
yr Amgylchedd a Phriffyrdd yn cael eu cymryd i geisio cadw’r pwysau o fewn
cyllideb y gwasanaeth. ·
diweddariad
cyffredinol ar y Cynllun Corfforaethol; y Cyfrif Refeniw Tai; Rheoli Trysorlys
a’r Cynllun Cyfalaf. Trafodwyd y pwyntiau canlynol gan yr Aelodau - ·
Prosiect
Gwella Tai Gorllewin y Rhyl - Gofynnodd y Cynghorydd Eryl Williams a oedd modd
defnyddio’r enw Gymraeg yn unig, 'Gerddi Heulwen', ar gyfer y datblygiad
newydd. Mae Cyfarwyddwr Corfforaethol Uchelgais Economaidd a Chymunedol ar
ddeall mai dyna yw bwriad y Bwrdd Prosiect ond cytunodd i gael cadarnhad o
hynny. ·
Cofrestru
Etholwyr (Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd) - Holodd y Cynghorydd Huw
Jones beth yw’r gyllideb sydd ar gael i ddelio gyda dyfodiad y broses gofrestru
etholiadol unigol. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd
fod arian grant wedi ei ddarparu ar gyfer y feddalwedd angenrheidiol a bod y
broses dan sylw yn cynnwys paru data yn hytrach na chyflogi canfaswyr. ·
Teimlodd
y Cynghorydd Gwyneth Kensler, lle mae colofn incwm wedi ei gynhyrchu o fewn yr
atodiadau, y byddai dadansoddiad pellach o’r grantiau a/neu’r ffioedd a’r
taliadau yn ddefnyddiol. ·
Adroddodd
y Cynghorydd Bobby Feeley ar nifer y staff cyfwerth ag amser llawn sydd wedi eu
cyflogi gan yr awdurdod yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae gostyngiad bychan
i’w weld, o 3,958.99 yn 2009/10 i 3949.89 ym mis Mawrth 2014. Trafodwyd y
rhesymau bosibl am y ffigurau a chytunwyd y dylid llunio adroddiad i ddarparu
esboniad pendant o’r swyddi a gollwyd a’r swyddi a grëwyd o’r newydd. ·
Amlygodd
y Cynghorydd Eryl Williams lwyddiant y Cyngor o ran datblygu prosiectau rhaglen
Ysgolion yr 21ain Ganrif a chanmolodd safle Ysgol Maes Hyfryd, sef
yr ysgol gyntaf i gael ei hadeiladu fel rhan o'r rhaglen. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd yn erbyn
strategaeth y gyllideb a gytunwyd. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 114 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet yn cael ei nodi. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans Rhaglen Gwaith
i'r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr aelodau y ddau ychwanegiad
canlynol - ·
Cam 3
Gwaith Amddiffyn Arfordir Gorllewin y Rhyl 3-29 Gorffennaf ·
Adroddiad
Rheoli Trysorlys 30 PENDERFYNWYD bod
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet yn cael ei nodi. |
|
GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau
Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig
yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 ac 15 Rhan 4
Atodlen 12A Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
GWASANAETH EIRIOLAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU AR GYFER PLANT A PHOBL IFANC Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal
Cymdeithasol, Gwasanaethau Oedolion a Phlant (copi wedi’i amgáu) yn gofyn i’r
Cabinet roi cymeradwyaeth i gomisiynu’r gwasanaeth eiriolaeth yn rhanbarthol
mewn partneriaeth â chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet - (a) yn cymeradwyo
comisiynu gwasanaeth eirioli yn rhanbarthol mewn partneriaeth gyda chwe
awdurdod lleol Gogledd Cymru, a (b) nodi y byddai
datblygiad y gwasanaeth rhanbarthol newydd yn golygu y byddai angen proses
dendro i ddechrau ym mis Gorffennaf 2014 i baratoi ar gyfer comisiynu’r
gwasanaeth o fis Ebrill 2015 a bod yr opsiwn hwn hefyd yn darparu cyfle i wneud
arbedion a mynd i’r afael â materion a nodwyd ym manylion y gwasanaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Bobby Feeley, adroddiad cyfrinachol yn gofyn i’r Cabinet roi
cymeradwyaeth i gomisiynu’r gwasanaeth eiriolaeth yn rhanbarthol mewn
partneriaeth â chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru. Ystyriodd y
Cabinet yr achos busnes ar gyfer y prosiect eiriolaeth rhanbarthol a gofynnwyd
am eglurhad ynghylch manylion y cytundeb ar y cyd ac ymrwymiad yr holl
bartneriaid. Byddai'r cytundeb yn rhwymo pob un o'r chwe awdurdod dros gyfnod y
contract. Cadarnhaodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau, y
Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones, bod yr achos busnes wedi ei drafod yn y
pwyllgor a bod eu hargymhellion wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD bod y Cabinet - (a) Yn cymeradwyo comisiynu gwasanaeth
eirioli yn rhanbarthol mewn partneriaeth gyda chwe awdurdod lleol Gogledd
Cymru, a (b) Nodi y byddai datblygiad y gwasanaeth
rhanbarthol newydd yn golygu y byddai angen proses dendro i ddechrau ym mis
Gorffennaf 2014 i baratoi ar gyfer comisiynu’r gwasanaeth o fis Ebrill 2015 a
bod yr opsiwn hwn hefyd yn darparu cyfle i wneud arbedion a mynd i’r afael â
materion a nodwyd ym manylion y gwasanaeth. |
|
PENODI CONTRACTWR AR GYFER YR A548 PONT Y FORYD (Y BONT LAS) - CYNLLUN CRYFHAU CYNHALIAD Y DWYRAIN 2014 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth
Cyhoeddus (copi wedi'i amgáu) yn gofyn am gymeradwyaeth i benodi’r contractwr a
ffafriwyd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo penodi’r contractwr a enwyd fel yr argymhellwyd yn yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd David Smith yr adroddiad cyfrinachol yn gofyn i'r Cabinet
gymeradwyo’r broses i benodi'r contractwr a ffafrir. Rhoddwyd gwybod
i’r Cabinet am y gwaith sydd angen ei wneud i Bont y Foryd er mwyn cryfhau'r
strwythur concrid dwyreiniol ac am amserlen y prosiect. Mae manylion y broses
dendro wedi eu darparu ac yn cynnwys canlyniad yr adolygiad tendr a'r
argymhelliad i ddyfarnu'r contract. Ymatebodd y
swyddogion i gwestiynau ynghylch cymhlethdod y contract a chadarnhawyd fod yr
elfen gynaliadwyedd lleol wedi ei chynnwys fel rhan o'r broses werthuso.
Darparwyd sicrwydd hefyd y byddai digon o rybudd yn cael ei roi ar gyfer
trefniadau rheoli traffig, gan gynnwys cau’r ffordd. Gofynnwyd i swyddogion ystyried y posibilrwydd o gymudwyr yn gadael eu
cerbydau yn y cyffiniau dros nos ar adeg cau'r ffordd ac i gynllunio yn unol â
hynny. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo penodi’r contractwr a enwyd fel yr argymhellwyd yn yr
adroddiad. Daeth y cyfarfod i ben am 12.20 p.m. |