Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau. Cofnodion: Dim. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a
nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
ddatganiad o ddiddordeb personol neu fuddiannau sy'n rhagfarnu. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
ddatganiad o ddiddordeb personol neu fuddiannau sy'n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys yn unol
ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Penderfyniad: Dim materion brys
wedi'u codi. Cofnodion: Dim materion brys
wedi'u codi. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 29 Ebrill 2014 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2014 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2014. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2014 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
POLISI ENWI STRYDOEDD A RHIFO PDF 87 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Arweiniol Hamdden, Ieuenctid,
Twristiaeth a Datblygu Gwledig (copi'n amgaeedig) yn cyflwyno’r Polisi Enwi
Strydoedd a’r Polisi Rhifo newydd i'w gymeradwyo ynghyd â newid y pŵer
dirprwyedig ar gyfer y swyddogaeth hon. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet - (a) yn cytuno ar y
Polisi Enwi Strydoedd a Rhifo newydd arfaethedig fel y'i nodwyd yn Atodiad 1
i'r adroddiad, yn amodol ar y diwygiadau canlynol - -
Bod paragraff 4.3, Adran C yn cael ei ail-eirio er mwyn
egluro na allai'r Cyngor wrthod cais i ychwanegu enw i eiddo â dim ond rhif
arno ar hyn o bryd ond y byddai'n cyhoeddi canllawiau ynghylch priodoldeb enw’r
eiddo er mwyn osgoi gwrthdaro ac yn achosi tramgwydd -
dileu paragraff 1.9, Adran B yn ymwneud â'r defnydd o
atalnodi -
cynnwys "Court" a "View" ar y rhestr
o ôl-ddodiaid derbyniol -
bod paragraff 1.6, Adran B yn cael ei ddiwygio gyda'r
geiriau ychwanegol "oni bai bod achos clir yn cael ei wneud ynghylch
cysylltiad hanesyddol neu ddiwylliannol yr unigolyn i'r tir neu’r
gymdogaeth", a (b) nodi bod y
swyddogaeth enwi strydoedd a rhifo yn cael ei reoli gan y Pennaeth Gwella
Busnes a Moderneiddio. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Jones adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) yn cyflwyno'r Polisi Enwi Strydoedd a Rhifo newydd
arfaethedig i'w gymeradwyo. Hysbyswyd yr Aelodau bod y polisi presennol 1997
wedi cael ei ddiweddaru a'i wella er mwyn darparu mwy o eglurder a set fwy
cadarn o weithdrefnau ar gyfer ymdrin ag enwi strydoedd a rhifo. O ystyried y pryderon a godwyd yn y Fforwm
Dwyieithrwydd, roedd y polisi yn cynnwys darpariaeth i ail-enwi strydoedd gydag
enw un iaith i un dwyieithog, ac y byddai'r holl enwau strydoedd newydd naill
ai yn Gymraeg neu'n ddwyieithog. Roedd gweithdrefn wedi eu llunio ar gyfer y diben hwnnw a oedd yn cynnwys
ymgynghoriad ehangach, ac roedd y goblygiadau
o ran cost wedi cael eu nodi yn yr adroddiad. Croesawodd y Cabinet y polisi o ran darparu
canllawiau a gweithdrefnau clir ac roedd yn falch o nodi cyfranogiad cynghorau
tref / cymuned a thrigolion lleol o fewn y broses. Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau'r
aelodau ynghylch gweithrediad y polisi, gan gynnwys ymarferoldeb a chost, a
manylodd ar y materion cyfreithiol sy'n ymwneud â'r swyddogaeth. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol
- ·
Amlygodd
y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio newid i'r polisi ym mharagraff 4.3,
Adran C i egluro na allai'r Cyngor wrthod cais i ychwanegu enw eiddo at eiddo
presennol wedi’i rifo ond byddai'n cyhoeddi canllawiau ar briodoldeb yr enw i
osgoi gwrthdaro a pheri tramgwydd ·
Roedd
yr aelodau’n awyddus i ddatblygwyr ymgynghori â chymunedau a chynghorau tref/
cymuned ar ddewisiadau enwau strydoedd yn gynnar yn y broses a chadarnhaodd
swyddogion y gellid rhoi canllawiau mewn perthynas â hynny i ddatblygwyr yn
ystod y cam cyflwyno cais cynllunio neu pan roddwyd caniatâd cynllunio. Cytunwyd hefyd i ddosbarthu'r polisi i
gynghorau tref / cymuned i sicrhau bod awgrymiadau enwau strydoedd yn addas ac
yn briodol ·
Er y
derbyniwyd y rhesymau y tu ôl i'r cynnig i wahardd enwi strydoedd ar ôl
unigolion penodol, teimlai'r Cabinet y byddai'n fuddiol gwneud hynny lle'r oedd
cysylltiad hanesyddol neu ddiwylliannol clir rhwng yr unigolyn a'r ardal dan
sylw ·
nodwyd
bod y canllawiau yn cynghori yn erbyn y defnydd o atalnodi mewn enwau strydoedd
ond teimlai’r Cabinet na ddylent fod yn argymell yr ymarfer hwnnw a chytunwyd
cael gwared ar y cyfeiriad hwn yn y polisi ·
yn
absenoldeb unrhyw gyfiawnhad, bod yn "Court" a "View" yn
ôl-ddodiaid anaddas, cytunwyd eu bod yn cael eu cynnwys ar y rhestr o
ôl-ddodiaid derbyniol. Eglurodd y Cynghorydd Arwel Roberts pam ei fod
wedi codi'r mater o enwi strydoedd yn y Fforwm Dwyieithrwydd a diolchodd i'r
swyddogion a'r Cynghorydd Huw Jones am eu gwaith wrth lunio'r polisi a oedd yn
cefnogi'r iaith Gymraeg a dwyieithrwydd. PENDERFYNWYD bod y Cabinet - (a) yn cytuno ar y
Polisi Enwi Strydoedd a Rhifo newydd arfaethedig fel y'i nodwyd yn Atodiad 1
i'r adroddiad, yn amodol ar y diwygiadau canlynol - -
Bod paragraff 4.3, Adran C yn cael ei ail-eirio er mwyn
egluro na allai'r Cyngor wrthod cais i ychwanegu enw i eiddo â dim ond rhif
arno ar hyn o bryd ond y byddai'n cyhoeddi canllawiau ynghylch priodoldeb enw’r
eiddo er mwyn osgoi gwrthdaro ac yn achosi tramgwydd -
dileu paragraff 1.9, Adran B yn ymwneud â'r defnydd o
atalnodi -
cynnwys "Court" a "View" ar y rhestr
o ôl-ddodiaid derbyniol -
bod paragraff 1.6, Adran B yn cael ei ddiwygio gyda'r
geiriau ychwanegol "oni bai bod achos clir yn cael ei wneud ynghylch
cysylltiad hanesyddol neu ddiwylliannol yr unigolyn i'r tir neu’r
gymdogaeth", a (b) nodi bod y
swyddogaeth enwi strydoedd a rhifo yn cael ei reoli gan y Pennaeth Gwella
Busnes a Moderneiddio. |
|
DATBLYGU CANOLFAN NOVA PRESTATYN PDF 91 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Arweiniol Hamdden, Ieuenctid,
Twristiaeth a Datblygu Gwledig (copi'n amgaeedig) yn amlinellu'r cynnig i
ddatblygu Canolfan Nova Prestatyn ac yn gofyn i’r aelodau gymeradwyo’r costau
sy'n gysylltiedig â datblygu'r prosiect i'r cam dylunio manwl. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo'r £108,864 er mwyn symud y cynllun ymlaen i'r cam
dylunio manwl. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Jones yr adroddiad
yn amlinellu'r cynigion ar gyfer cynllun gwerth £3.66m i ddatblygu Canolfan Nova Prestatyn a gofynnodd am
gymeradwyo costau o £108,864 i ddatblygu'r prosiect i'r cam dylunio manwl. Atgoffodd y Cynghorydd Jones y Cabinet am y
cefndir a arweiniodd at y cynnig cyfredol gan dynnu sylw at yr astudiaeth
dichonoldeb a wnaed gan bartneriaid datblygu'r Cyngor, Alliance Leisure
Services a'r gymysgedd o gyfleusterau sy'n cael eu hystyried ar gyfer y
prosiect. Roedd y Grŵp Buddsoddi Strategol (SIG) wedi ystyried yr astudiaeth
dichonoldeb ac achos busnes ac wedi argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo cyllid
i ddatblygu'r cam nesaf. Roedd Cyngor Tref Prestatyn, y Bwrdd Arfordirol a Grŵp Aelodau Ardal
Prestatyn hefyd yn hapus i gefnogi symud ymlaen i'r cam nesaf. Y gobaith oedd y gellid cyflwyno
dyluniadau manwl ffurfiol ym mis Medi. Adroddodd yr aelodau SIG y Cynghorwyr Julian
Thompson-Hill a Barbara Smith am y dadansoddiad trylwyr o'r achos busnes a’r
gefnogaeth unfrydol i'r cynllun. Er mwyn gwneud y mwyaf o’r cyllid ar gyfer y cynllun roedd yn debygol y
byddai'r gost o ddatblygu'r cynlluniau manwl yn cael ei dynnu o dderbyniadau
cyfalaf. Roedd y Cabinet yn falch o
gefnogi'r cynlluniau i fuddsoddi yn y cyfleuster a datblygu'r prosiect i'r cam
nesaf ond gofynnwyd am sicrwydd dros wytnwch y safle i lifogydd a bod digon o
adnoddau staffio i gefnogi prosiect mor uchelgeisiol. Pwysleisiodd y Cynghorydd Hugh Irving bwysigrwydd y Nova a'r effaith
gadarnhaol y byddai’r datblygiad yn ei gael ar yr economi leol a lles y
gymuned. Gofynnodd i’r dylunwyr ystyried sut i wneud y defnydd gorau o'r golygfeydd
glan y môr yn y datblygiad. Dywedodd y Swyddogion y byddai mesurau i wella gwytnwch y cyfleuster i
lifogydd yn cael eu hystyried yn ystod y cam dylunio manwl a byddai'r penseiri
yn gweithio i sicrhau bod cymysgedd y cyfleuster yn gwneud y defnydd gorau o'r
safle er budd y trigolion ac ymwelwyr. Rhoddwyd sicrwydd hefyd bod y cynllun yn un y
gellid ei gyflawni ac y byddai adnoddau ar gael gan dimau o fewn yr awdurdod ac
y gellid dwyn swyddogion ychwanegol i mewn hefyd pe bai angen. Byddai Alliance Leisure Services yn darparu rheolaeth adeiladu
a rhoi eu hadnoddau eu hunain ar y safle i gyflwyno'r prosiect. Gobeithiodd y Cynghorydd Jason McLellan am
ddatblygiad mwy uchelgeisiol i roi hwb i dwristiaeth ar gyfer yr ardal a
gofynnodd am i fyrddau cysyniad gael eu codi yn manylu ar y cynlluniau
datblygu. Amlygodd y Swyddogion ardaloedd o fewn yr achos busnes o ran dalgylchoedd a
segmentau marchnad a chadarnhawyd y byddai byrddau cysyniad yn cael eu codi
unwaith y bydd y cynlluniau wedi eu cymeradwyo. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo'r £108,864 er mwyn symud y cynllun ymlaen i'r cam
dylunio manwl. |
|
PROSIECTAU TRAWSNEWID CAFFAEL PDF 102 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi'n amgaeedig) yn cyflwyno'r achosion busnes terfynol ar gyfer uno
Unedau Caffael Corfforaethol Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn ogystal â phrosiect
caffael y tair sir ar gyfer cymeradwyo. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:- (a) Bod y Cabinet yn
cymeradwyo achos busnes terfynol ar gyfer uno timau caffael Sir y Fflint a Sir
Ddinbych i fod yn Uned Caffael Corfforaethol sengl a gynhelir gan Sir Ddinbych; (b) Bod datblygu a
chytuno ar y Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer Uned ar y cyd yn cael ei
ddirprwyo i swyddogion priodol (Pennaeth Cyllid ac Asedau, Pennaeth Rheolwr
Caffael Strategol y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd) mewn ymgynghoriad
gyda'r Aelod Cabinet dros Gyllid ac Asedau; (c) Bod y Cabinet yn
cymeradwyo achos busnes terfynol y Prosiect Caffael Tair Sir, a (d) bod adroddiad yn
cael ei gyflwyno i Bwyllgor Archwilio perthnasol neu'r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol ar weithrediad y trefniadau newydd ar ôl y deuddeg mis cyntaf o
weithredu. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr achos
busnes terfynol ar gyfer uno Unedau Caffael Corfforaethol Sir Ddinbych a Sir y
Fflint yn ogystal â phrosiect Caffael y Tair Sir ar gyfer cymeradwyo. Roedd yr angen am newid yn y ffordd yr oedd caffael a
chomisiynu yn cael ei wneud wedi ei amlygu yn yr adroddiad ynghyd â chefndir i
ddatblygiad yr achosion busnes. Ymhelaethodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar yr
ystyriaethau a manteision pob prosiect ynghyd â gweithredu'r trefniadau
cydweithredol.
Cyfeiriwyd
yn arbennig at gyflwyno egwyddorion rheoli categori; yr angen am brynu i mewn
gan feysydd gwasanaeth unigol, a'r tensiwn rhwng sicrhau gwerth gorau a
chefnogi busnesau lleol. Trafodwyd y materion canlynol:- ·
Tynnwyd
sylw at y broses gaffael ar gyfer goleuadau stryd fel enghraifft o arfer gorau
a rheoli categori llwyddiannus i gael ei ailadrodd mewn meysydd caffael eraill
a darparwyd sicrwydd na fyddai’r model hwn yn cael ei effeithio gan y
newidiadau ·
codwyd y risg o wasanaethau
unigol yn methu â chymryd rhan yn y broses a chadarnhaodd y swyddogion bod
angen newid diwylliant ac eglurodd sut y byddai'r prosiect yn cael ei chyflwyno
ar draws yr awdurdod dros gyfnod o ddwy flynedd ·
roedd
elfen allweddol yn y Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol yn
canolbwyntio ar ddatblygu'r economi leol ac er bod angen cydbwyso gwerth gorau
ac effeithlonrwydd gyda chefnogi busnesau, gellid cymryd mesurau i'w gwneud yn
haws i fusnesau lleol gystadlu yn y farchnad. ·
roedd
gwariant lleol a manteision cymunedol yn ystyriaeth bwysig ac roedd yr
Arweinydd yn gobeithio gellid ymestyn yr elfen hon trwy'r Bwrdd Uchelgais
Economaidd a Chymunedol i ddarparu dealltwriaeth a phroses gliriach ar gyfer
ymgysylltu â'r sector preifat ar faterion caffael ·
cydnabuwyd
cymhlethdodau’r trefniadau cydweithredol ynghyd ag effaith bosibl ad-drefnu
llywodraeth leol, a'r gobaith oedd y gallai Prosiect Caffael y Tair Sir ehangu
i fod yn brosiect rhanbarthol ar draws y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru ·
ymatebodd
y swyddogion i gwestiynau ynghylch goblygiadau cost sy'n gysylltiedig ag uno
Sir Ddinbych/ Sir y Fflint, gan gynnwys costau cyflogau a staffio'r uned ar y
cyd ac adroddwyd bod bid £1m i'r Gronfa Cydweithio Rhanbarthol i weithredu'r
newidiadau wedi bod yn llwyddiannus. Croesawodd y Cabinet y prosiectau cydweithredol fel modd
o wella'r ffordd yr oedd caffael yn cael ei wneud wrth sicrhau mwy o werth am
arian gyda llai o gost. Teimlai'r Cynghorydd Eryl Williams y byddai'n fuddiol ar
gyfer y prosiectau i gael eu monitro mewn tua deuddeg mis i asesu a sicrhau eu
heffeithiolrwydd. PENDERFYNWYD:- (a) Bod y Cabinet yn
cymeradwyo achos busnes terfynol ar gyfer uno timau caffael Sir y Fflint a Sir
Ddinbych i fod yn Uned Caffael Corfforaethol sengl a gynhelir gan Sir Ddinbych; (b) Bod datblygu a
chytuno ar y Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer Uned ar y cyd yn cael ei
ddirprwyo i swyddogion priodol (Pennaeth Cyllid ac Asedau, Pennaeth Rheolwr
Caffael Strategol y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd) mewn ymgynghoriad
gyda'r Aelod Cabinet dros Gyllid ac Asedau; (c) Bod y Cabinet yn
cymeradwyo achos busnes terfynol y Prosiect Caffael Tair Sir, a (d) bod adroddiad yn
cael ei gyflwyno i Bwyllgor Archwilio perthnasol neu'r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol ar weithrediad y trefniadau newydd ar ôl y deuddeg mis cyntaf o
weithredu. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi wedi’i amgáu) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r
cynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb a gytunwyd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd yn erbyn
strategaeth y gyllideb a gytunwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a
chynnydd yn erbyn y strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Darparodd grynodeb o sefyllfa ariannol y
Cyngor, yn enwedig mewn perthynas â - ·
Cyllideb
refeniw net y cyngor - £188m ar gyfer 2014/15 (£192m yn 2013/14). ·
cyllidebau
ac arbedion gwasanaeth unigol y cytunwyd arnynt ar gyfer 2014/15 ·
Er
nad oedd unrhyw amrywiannau i adrodd arnynt, ar hyn o bryd rhagwelwyd y byddai
Gwasanaeth yr Amgylchedd a Phriffyrdd yn wynebu llawer o bwysau a risgiau yn
2014/15 a fyddai’n gofyn am gamau rheoli i aros o fewn y gyllideb. ·
diweddariad cyffredinol ar gyllidebau
Corfforaethol: y Cynllun Corfforaethol; Y Cynllun Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw
Tai. Teimlai'r Cynghorydd Eryl Williams bod cyfeiriadau
at y pwysau ar y gyllideb cynnal a chadw yn y gaeaf yn gamarweiniol ar ôl gaeaf
mor ysgafn. Cytunodd y Prif Weithredwr bod y sylwadau wedi bod yn ddiangen ac er bod
gwasanaethau’n cael eu hannog i dynnu sylw at bwysau ar y gyllideb yn gynnar,
cwestiynodd a ddylid eu cynnwys yn yr adroddiad hwn. Amlygodd y Cynghorydd Bobby Feeley
broblemau gyda defnyddio’r polisi cludiant ysgol mewn ardaloedd penodol a
nodwyd bod y mater wedi cael ei gymryd gan y Pennaeth Cwsmeriaid a Chefnogi
Addysg ac y byddai hefyd yn cael ei ystyried gan y pwyllgor archwilio priodol. Cadarnhawyd y byddai'r gyllideb cludiant
ysgol yn cael ei hystyried yn ystod Gweithdai Cyllideb yr Aelodau. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd yn erbyn
strategaeth y gyllideb a gytunwyd. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 104 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet yn cael ei nodi. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans Rhaglen Gwaith
i'r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried. Ni adroddwyd am unrhyw newidiadau. PENDERFYNWYD bod
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet yn cael ei nodi.
|
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau
Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig
yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 o Ran 4 o
Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
CAFFAEL EIDDO A THIR YN DEFNYDDIO GORCHYMYN PRYNU GORFODOL, 21-24 RHODFA’R GORLLEWIN A THIR YN STRYD Y DŴR, Y RHYL Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod
Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi'n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth yr
aelodau i ddefnyddio pwerau Prynu Gorfodol ar gyfer caffael tir yn 21-24
Rhodfa’r Gorllewin a Stryd y Dŵr, Y Rhyl. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo defnyddio pwerau Prynu Gorfodol i gaffael y budd
rhydd-ddaliol y tir fel y nodwyd ar y Cynllun yn Atodiad A i'r adroddiad fel
Plot 5 yn unol ag Adran 226 (1)(b) Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad cyfrinachol yn ceisio cymeradwyaeth i ddefnyddio pwerau Prynu
Gorfodol ar gyfer caffael tir yn 21-24 Rhodfa’r Gorllewin a Stryd y Dŵr, Y
Rhyl. Dywedwyd wrth y Cabinet bod yr adroddiad yn atodol
at adroddiadau blaenorol a ystyriwyd gan y Cabinet ar 24 Ebrill 2012 ac 19
Mehefin, 2012 i gaffael meddiant o 25/26 Rhodfa’r Gorllewin a thir ategol, Y
Rhyl. Gofynnwyd am gymeradwyaeth i gaffael llain ychwanegol o dir digofrestredig
ategol a nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo defnyddio pwerau Prynu Gorfodol i gaffael y budd
rhydd-ddaliol y tir fel y nodwyd ar y Cynllun yn Atodiad A i'r adroddiad fel
Plot 5 yn unol ag Adran 226 (1)(b) Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Daeth y cyfarfod i ben am 12.20pm. |