Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorydd Hugh
Irving. Cofnodion: Y Cynghorydd Hugh
Irving. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu gysylltiadau sy'n rhagfarnu yn unrhyw eitem
a nodwyd i'w hystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad sy’n rhagfarnu. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad sy’n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys yn unol
ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Mawrth, 2014 (copi wedi’i amgáu). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2014 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2014 . Materion yn Codi - Tudalen
12 - Adroddiad Cyllid - Cyfeiriodd
y Cynghorydd Eryl Williams at ei sylwadau ar Safon Ansawdd Tai Cymru a rhoddodd
sicrwydd i swyddogion bod trafodaethau ar y gweill ac y byddai Sir Ddinbych yn
darparu ymateb cadarn i’r ddogfen ymgynghori a fydd yn cael ei chyhoeddi’n fuan
gan Lywodraeth Cymru. Gellid darparu
briff i aelodau ar y gwaith sydd wedi’i wneud i gyflwyno achos Sir
Ddinbych. Pwysleisiodd y Cynghorydd
Williams bwysigrwydd cael trafodaethau rhwng swyddogion a Llywodraeth Cymru ar
gam cynnar yn y broses. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2014 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Gofal
Cymdeithasol, Oedolion a Phlant (copi wedi’i amgáu) ynglŷn â'r gwahoddiad
i ymuno â Datganiad Dulyn a chydweithio i ddatblygu polisi ac arferion er mwyn
creu llefydd cyfeillgar oed erbyn 2020. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cefnogi bwriadu
Cyngor Sir Ddinbych i lofnodi Datganiad Dulyn, ac yn (b) gofyn i CLlLC am
gymorth neu hyfforddiant ar newid demograffig a/neu greu cymunedau cyfeillgar i
oed. Cofnodion: Roedd yn bleser gan y Cynghorydd Bobby Feeley
gyflwyno adroddiad yn gofyn i’r Cabinet gytuno i ymrwymo i Ddatganiad Dulyn
gydag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, y DU a rhanbarthau Ewrop i
gydweithio ar ddatblygu polisi ac arfer i greu lleoedd sy’n gyfeillgar i oed
erbyn 2020. Tynnodd sylw at effaith newid demograffig a phwysau parhaus ac
roedd o blaid llofnodi fel ffordd gadarnhaol o weithredu, gan ddangos ymrwymiad
Sir Ddinbych i anghenion a hawliau pobl hŷn, a thynnodd sylw at gyfraniad
cadarnhaol pobl hŷn tuag at gymdeithas.
Achubodd ar y cyfle hefyd i ddiolch i’r Swyddog Datblygu Strategaeth Pobl
Hŷn a’r Rheolwr Gwasanaeth: Datblygu Strategol am eu holl waith caled. Roedd y Cabinet yn llwyr gefnogol i'r egwyddorion
a'r ymrwymiad arfaethedig o fewn Datganiad Dulyn, ond holwyd a fyddai’r Cyngor
mewn sefyllfa i gyflawni’r addewid yn sgil y cyfyngiadau ariannol
presennol. Codwyd cwestiynau hefyd
ynghylch sut y byddai’r addewid yn cael ei gyflawni’n ymarferol a sicrhau bod
aelodau a swyddogion yn ymwybodol ac yn cefnogi’r datganiad. Eglurwyd - ·
nad
oedd y Cyngor yn ymrwymo i unrhyw fentrau ychwanegol a gellid rhoi’r
egwyddorion ar waith drwy arferion presennol ·
byddai
llofnodi’r datganiad yn galluogi’r Cyngor i weithredu ar lefel Ewropeaidd, gan
roi llwyfan rhyngwladol i arddangos gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud ·
nad
oedd unrhyw oblygiadau uniongyrchol o ran costau yn sgil llofnodi'r datganiad,
ond byddai’n galluogi’r Cyngor i gael mynediad i gyfleoedd ariannol pan fyddant
ar gael yn y dyfodol ·
unwaith
y bydd y datganiad wedi’i lofnodi, bydd yn cael ei hyrwyddo ledled yr awdurdod
ac argymhellwyd y dylid derbyn cynnig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i roi
cefnogaeth am ddim neu hyfforddiant datblygu ar newid demograffig ac / neu greu
cymunedau sy’n gyfeillgar i oed. Amlygodd yr Arweinydd yr angen i’r awdurdod greu
gwahanol ddiwylliant ac ymagwedd i bobl hŷn ac addasu i anghenion
poblogaeth sy'n heneiddio. Awgrymodd y
Cynghorydd Barbara Smith y gellid cynnwys
cyfeiriad at y datganiad mewn cynlluniau busnes gwasanaeth. Croesawodd y Cynghorydd Meirick Davies yr
adroddiad ond cyfeiriodd at bwysau gwleidyddol i dynnu allan o’r Undeb
Ewropeaidd ac felly rhybuddiodd yn erbyn dibynnu ar Arian Ewropeaidd. Roedd y Cynghorydd Eryl Williams yn awyddus i’r
mater gael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn.
Cafwyd rhywfaint o drafodaeth ar y mecanwaith priodol ar gyfer gwneud
penderfyniadau a nodwyd ei fod, fel penderfyniad i’r Cabinet, wedi bod drwy'r
pwyllgorau gweithredol mewn awdurdodau lleol eraill. Er gwaethaf hynny, ac er mwyn codi
ymwybyddiaeth am yr addewid i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn, cytunodd y Cabinet i
roi’r mater ar raglen y Cyngor Sir er mwyn nodi cytundeb y Cabinet i arwyddo ac
y dylid gofyn hefyd i’r Cadeirydd gadarnhau a llofnodi’r datganiad. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno – (a) cefnogi’r bwriad i Gyngor Sir Ddinbych lofnodi
Datganiad Dulyn, a (b) gofyn am gymorth neu hyfforddiant gan
CLlLC ar newid demograffig a / neu greu cymunedau sy’n gyfeillgar i oed. |
|
STRATEGAETH DDIGWYDDIADAU SIR DDINBYCH 2014 - 2020 PDF 123 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Chymunedau
(copi wedi’i amgáu) yn cyflwyno Strategaeth Ddigwyddiadau Sir Ddinbych
2014-2020 i'w fabwysiadu. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:- (a) mabwysiadu’r
Strategaeth Ddigwyddiadau (gwelwch atodiad yr adroddiad); (b) bod Grwpiau
Ardal yr Aelodau yn cael eu cynnwys wrth ddilysu a chyfrannu at y rhaglen
ddigwyddiadau; (c) bod pob
digwyddiad corfforaethol yn cael ei werthuso yn unol â'r strategaeth, a; (d) bod
canlyniadau'r strategaeth yn cael eu monitro trwy'r Bwrdd Uchelgais Economaidd
a Chymunedol. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorwyr Hugh Evans a Huw Jones
adroddiad ar y cyd ar fabwysiadu Strategaeth Ddigwyddiadau Sir Ddinbych 2014 -
2020. Cymeradwyodd y Cynghorydd Evans yr ymagwedd
ragweithiol a gynlluniwyd i hyrwyddo a marchnata digwyddiadau a fyddai o fudd
i’r economi ac yn gwella profiad yr ymwelydd.
Tynnodd y Cynghorydd Jones sylw at y nifer o ddigwyddiadau proffil uchel
dros y blynyddoedd diwethaf a chynlluniau ar gyfer y dyfodol a chroesawodd y
gwerthusiad o ddigwyddiadau corfforaethol i asesu’r effaith ar yr economi
leol. Tynnodd sylw’r aelodau hefyd at yr
adran ar wefan y Cyngor, sy’n rhoi manylion am ddigwyddiadau yn y sir. Yn olaf, cyfeiriwyd at nifer o newidiadau i’r
ddogfen strategaeth o ran cywirdeb y cynnwys. Eglurodd y Swyddog Arweiniol, Cyrchfan, Marchnata
a Chyfathrebu (SA) brif fanteision y strategaeth i sicrhau bod digwyddiadau yn
gwneud cyfraniad o bwys i’r economi leol, yn darparu digwyddiadau o’r safon
uchaf posib i drigolion ac ymwelwyr, ac yn gwella enw da’r sir am gynnal a denu
digwyddiadau newydd i’r sir.
Tanlinellodd bwysigrwydd mesur a monitro effaith digwyddiadau, gan
sicrhau’r gwerth gorau o’r buddsoddiad mewn digwyddiadau a darparu Pecyn
Cymorth Digwyddiadau i helpu trefnwyr digwyddiadau. Croesawyd y ddogfen gan y Cabinet a chydnabuwyd
pwysigrwydd cael strategaeth effeithiol a chydlynol er mwyn cynyddu cyfleoedd a
sicrhau effaith gadarnhaol ar yr economi leol drwy ddenu ymwelwyr ychwanegol a
chreu swyddi. Cyfeiriodd Aelodau at
nifer o ddigwyddiadau a gynlluniwyd yn eu trefi a’u cymunedau a gofynnwyd
iddynt gael eu cynnwys yn yr Is-adran Digwyddiadau ar wefan y Cyngor ynghyd â
manylion am Ddigwyddiadau Drysau Agored Sir Ddinbych. Holwyd cwestiynau am ran aelodau yn y broses,
y dull o ymgysylltu â threfnwyr digwyddiadau ar gyfer digwyddiadau ar raddfa
fawr a digwyddiadau llai / cymunedol, a’r math o ddigwyddiadau roedd Sir
Ddinbych yn ceisio eu denu. Er bod
llawer o bwyslais wedi’i roi ar yr effaith economaidd, tynnwyd sylw at y ffaith
er na allai digwyddiadau llai gystadlu mewn termau ariannol, bod ganddynt ran
bwysig o ran cydlyniant cymdeithasol a dod â'r gymuned at ei gilydd. Mewn ymateb i gwestiynau a sylwadau'r aelodau
ymatebodd y SA oedd - ·
y
byddai’r strategaeth yn cael ei hadolygu’n rheolaidd gan y Bwrdd Uchelgais
Economaidd a Chymunedol a’r tîm Cyrchfan, Marchnata a Chyfathrebu fel rhan o’r
broses cynllunio busnes ·
roedd
angen dull mwy penodol o farchnata digwyddiadau ac roedd angen ail ddylunio
gwefan yr Adran Ddigwyddiadau i adlewyrchu'r rhestr ddigwyddiadau gyfredol i
ddangos yr hyn a oedd wedi ei drefnu ar gyfer ymwelwyr a’r hyn sydd angen ei
wneud er mwyn cynnal digwyddiad ·
anelwyd
y strategaeth at drefnwyr digwyddiadau a rheolwyr digwyddiadau yn y Cyngor a
chytunodd i gynnwys cyfeiriad at wefan yr Adran Ddigwyddiadau ·
y bwriad oedd ymgysylltu â
chynghorwyr drwy Grwpiau Ardal yr Aelodau a threfnwyd cyfres o gyflwyniadau er
mwyn llunio rhestr gynhwysfawr o ddigwyddiadau yn y sir; byddai perthnasau
hefyd yn cael eu datblygu gyda chynghorau tref / dinas / cymuned a threfnwyr
digwyddiadau eraill ·
roedd
trefnwyr digwyddiadau eisoes yn rhyngweithio â’r Cyngor drwy amryw o adrannau
wrth gynllunio digwyddiadau a byddai cronfa ddata o drefnwyr digwyddiadau yn
cael ei llunio – byddai’r broses o drefnu digwyddiadau hefyd yn cael ei
symleiddio gydag un ffurflen gais a phecyn cymorth ·
roedd
Swyddog Digwyddiadau ar gyfer Gogledd a De’r sir a fyddai’n rhyngwyneb
allweddol ar gyfer trefnwyr digwyddiadau ·
roedd
cysylltiadau’n cael eu gwneud yn allanol gyda threfnwyr digwyddiadau ac Uned
Digwyddiadau Mawr Llywodraeth Cymru - roedd yn bwysig penderfynu’n gyntaf pa
ddigwyddiadau roedd y Cyngor eisiau eu denu · roedd yn bwysig mesur a monitro llwyddiant a manylodd y SA sut y gellid mesur llwyddiant digwyddiadau mawr yn ôl nifer y tocynnau, ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ystyried adroddiad
gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi
wedi’i amgáu) ynglŷn â’r newidiadau diweddar i'r ddeddfwriaeth sy'n
llywodraethu defnyddio beilïaid a'r ffioedd a godir. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
yr aelodau'n cymeradwyo’r isafswm o ddyled i’w gyhoeddi i'r asiant gorfodi, fel
y nodir ym mharagraff 4.13 o’r adroddiad, a nodi'r prosesau newydd fel y
dangosir yn Atodiad C. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad
yn manylu ar newidiadau diweddar i’r ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu’r defnydd
o feilïaid, y ffioedd a godir ac effaith y newidiadau hynny ar y Cyngor a’i
gwsmeriaid. Ymhelaethodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar y goblygiadau
ariannol oedd yn gysylltiedig â’r newidiadau a'r prosesau newydd a fyddai’n
cael eu cyflwyno ynghyd â’r opsiynau a awgrymwyd ar gyfer lleiafswm gwerth y
ddyled i gael ei gweithredu drwy’r cam gorfodi.
Roedd yn awyddus i dynnu sylw at yr angen am broses deg ac agored a oedd
yn cynnwys mabwysiadu polisi pobl ddiamddiffyn i ddiogelu cwsmeriaid
diamddiffyn. Roedd rhagor o gyfleoedd wedi eu darparu i
ddyledwr ddod i gytundeb gyda'r awdurdod yn gynharach yn y broses ac roedd
strategaeth ddyledion dros y ffôn wedi ei sefydlu ym mis Rhagfyr 2013 a oedd
wedi bod yn llwyddiannus. Gofynnodd y Cabinet am sicrwydd ynghylch gweithrediad
polisïau diogelu, yn enwedig wrth ddefnyddio asiantaethau allanol i adennill
dyledion, a chodwyd cwestiynau pellach ynglŷn â’r gwahanol gamau yn y
broses. Dyma oedd ymateb yr Aelod
Arweiniol a’r swyddogion i’r materion a godwyd - ·
roedd
yn ofynnol i staff mewnol ac asiantaethau allanol gadw at bolisïau diogelu’r
Cyngor a manylwyd ar y mesurau i sicrhau cydymffurfiaeth a bod pobl yn
gyfarwydd â'r polisïau hynny ·
tynnwyd
sylw at yr angen am broses gadarn o gasglu treth y cyngor, yn enwedig o
ystyried effaith peidio â chasglu ar wasanaethau’r cyngor ·
roedd
biliau treth y cyngor wedi eu rhoi i tua 40,000 o aelwydydd a monitrwyd adborth
yn ofalus ac ychydig iawn o gwynion ffurfiol a wnaed ·
fel
rhan o’r diwygiadau a threfnau gorfodi cyffredinol, byddai camerâu corff yn
cael ei ddefnyddio i gynnig elfen o ddiogelwch a sicrhau y dilynwyd y broses
ofynnol ·
roedd y prosesau’n adlewyrchu prosesau
awdurdodau llwyddiannus eraill a rhoddwyd eglurhad ar amseriad ymyrraeth
gynharach, gyda galwadau ffôn yn cael eu gwneud i ddeall amgylchiadau a
chyfeirio unigolion er mwyn cynyddu incwm. PENDERFYNWYD bod
yr aelodau’n cymeradwyo’r isafswm dyled i’w rhoi i’r asiant gorfodi, fel y
nodir ym mharagraff 4.13 yr adroddiad, a nodi’r prosesau newydd fel y dangosir
yn Atodiad C yr adroddiad. |
|
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
Cyllid ac Asedau (copi wedi’i amgáu) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddileu
Trethi Busnes anadferadwy fel y nodwyd yn yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo dileu Trethi Busnes na ellir eu hadfer fel y nodir yn
Atodiad 1 yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo dileu Trethi Busnes na ellid eu
hadennill ar gyfer tri chwmni lle na fyddai camau adennill yn parhau oherwydd
eu bod naill ai wedi eu dirwyn i ben neu eu diddymu. Roedd yr adroddiad yn cynnwys hanes manwl yn
ymwneud â phob cwmni. Nododd yr Aelodau nad oedd unrhyw gost i’r Cyngor
o ganlyniad i ddileu’r dyledion oherwydd bod incwm Trethi Busnes yn cael ei
drosglwyddo i’r Gronfa Genedlaethol ac mai'r gronfa fyddai’n talu am unrhyw
ddyledion gwael. Teimlai’r Cynghorydd Barbara Smith y byddai'n
ddefnyddiol i osod rhywfaint o gyd-destun yn yr adroddiad ar y symiau sydd i’w
dileu. Eglurodd y Pennaeth Cyllid ac
Asedau rai o’r ystyriaethau cyfreithiol ynghylch ansolfedd busnes ac oedi
posibl yn y broses weinyddu. Eglurodd
hefyd y prosesau a ddilynwyd i geisio adennill cymaint o’r ddyled â phosibl yn
ystod y cyfnod cyn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.
Nodwyd y gellid cronni dyledion mawr yn gyflym ar gyfer safleoedd mwy. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo dileu Trethi Busnes na ellir eu hadennill fel y nodir
yn Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi wedi’i amgáu) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r
cynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb a gytunwyd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylai’r Cabinet nodi’r cynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a
chynnydd yn erbyn y strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Rhoddodd y grynodeb ganlynol ar sefyllfa
ariannol y Cyngor- ·
rhagwelwyd
tanwariant o £1.578 miliwn ar draws cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
roedd
94% o’r arbedion y cytunwyd arnynt (targed o £3.061 miliwn) wedi’u sicrhau hyd
yma ·
amlygwyd
y prif amrywiadau oddi wrth dargedau cyllideb neu arbedion yn ymwneud â meysydd
gwasanaeth unigol ·
dygwyd
ymlaen symudiad positif o £535 mil ar falansau ysgolion o 2012/13. ·
diweddariad
cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai. Ymhelaethodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar rai o'r
amrywiadau a fanylwyd yn y meysydd gwasanaeth unigol mewn ymateb i gwestiynau
aelodau ar hynny. Ymhelaethodd hefyd ar
y diffiniad o’r cronfeydd wrth gefn fel y manylir yn Atodiad 5 yr
adroddiad. O ran adfywio tai, holodd y
Cynghorydd Meirick Davies a oedd cyllid ar gael i ymateb i waith a nodwyd gan
gynghorwyr. Gofynnodd hefyd am ragor o
wybodaeth am reoliadau adeiladu newydd.
Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau y byddai’n gofyn i’r Pennaeth
Tai a Datblygu Cymunedol ymateb yn uniongyrchol i’r Cynghorydd Davies ynghylch
y materion hynny. PENDERFYNWYD
y dylai’r Cabinet nodi’r cynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd
arni. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 126 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans Rhaglen Gwaith
i'r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried. Nododd y Cynghorydd Meirick Davies y byddai'r
Cabinet yn ystyried y Polisi Enwi Strydoedd yn eu cyfarfod ym mis Mai. Mynegodd bryderon nad oedd y polisi’n cael ei
greu gan y gwasanaeth sy’n gyfrifol am enwi strydoedd a bod dwy stryd yn
Nhrefnant yn dal heb eu henwi. Dywedodd
y Prif Weithredwr y byddai'r polisi’n cael ei gyflwyno i’r aelodau i’w ystyried
ond mai mater gweithredol oedd ei darddiad.
Ychwanegodd yr Arweinydd y gallid galw unrhyw bryderon ynghylch y
gwasanaeth i mewn i'w harchwilio. Nododd y Cynghorydd Bobby Feeley mai yn anaml y
defnyddiwyd yr eitem sefydlog ar y rhaglen waith ar gyfer eitemau o’r
pwyllgorau archwilio. Gofynnodd i’r
Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion gael eu hatgoffa am y mecanwaith hwn
i gyflwyno eitemau i’r Cabinet. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 12.10 p.m. |