Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Ymddiheuriadau ar
ran y Cynghorydd Hugh Irving a fyddai'n cyrraedd y cyfarfod yn hwyr. Cofnodion: Cyflwynwyd
ymddiheuriadau ar ran y Cynghorydd Hugh Irving a fyddai'n cael cyrraedd y
cyfarfod yn hwyr. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a
nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.
Penderfyniad: Datganodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol yn Eitem Rhif 5 ar yr
Agenda - Cynnig i gau Ysgol Llanbedr. Datganodd
y Cynghorydd Jason McLellan gysylltiad personol a chysylltiad sy'n rhagfarnu, a
datganodd y Cynghorydd David Simmons gysylltiad personol yn Eitem Rhif 6 ar yr Agenda – Cyfleusterau Arfordirol
yn y Rhyl a Phrestatyn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol yn Eitem Agenda Rhif 5 -
Cynnig i gau Ysgol Llanbedr. Datganodd y Cynghorydd Jason McLellan
gysylltiad personol ac sy'n rhagfarnu a
datganodd y Cynghorydd David Simmons gysylltiad personol yn Eitem Agenda Rhif 6
– Cyfleusterau Arfordirol yn y Rhyl a Phrestatyn. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Dim materion brys
wedi'u codi. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 18 Chwefror 2014 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2014 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2014. PENDERFYNWYD bod
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Chwefror, 2014 yn cael eu cymeradwyo
fel cofnod cywir a'u llofnodi gan yr Arweinydd. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg (copi'n
amgaeedig) yn cyflwyno'r penderfyniad a'r adroddiad gwrthwynebiad i'w ystyried
a gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r cynnig. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) nodi'r adroddiad
penderfyniad a’r adroddiad gwrthwynebiad; ac (b) yn amodol ar
ystyried yr uchod, bod y Cabinet yn cymeradwyo'r cynnig i gau Ysgol Llanbedr ar 31
Awst 2014 a throsglwyddo'r disgyblion i Ysgol Borthyn, Rhuthun, yn dibynnu ar
ddewis y rhieni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams adroddiad yn
manylu ar y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn dilyn cyhoeddi'r Hysbysiad Statudol
i gau Ysgol Llanbedr a throsglwyddo’r disgyblion i Ysgol Borthyn, yn amodol ar
ddewis y rhieni, ynghyd â ffactorau i'w hystyried cyn penderfynu ar y cynnig. Eglurodd y Cynghorydd Williams y cyd-destun o
adolygu ysgolion fel rhan o'r rhaglen moderneiddio addysg a’r prosesau statudol
i'w dilyn. Ystyriodd y Cabinet y gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad
ynghyd â'r dadleuon o blaid y cynnig a’r ffactorau a nodir yn y Cod
Trefniadaeth Ysgolion. Yn ystod y broses honno fe ofynnodd aelodau gwestiynau a gofynnwyd am
sicrwydd ynghylch nifer o faterion. Darparwyd yr ymatebion canlynol i’r materion a godwyd - ·
ystyriwyd
Ysgol Borthyn yn gynaliadwy dros y tymor hir ac wedi’i nodi fel ysgol arall
(ond yn ysgol cyfrwng Saesneg a seiliedig ar ffydd) - dim ond un ymatebydd oedd
wedi cadarnhau’r ysgol fel eu dewis
cyntaf ar hyn o bryd ·
cafodd
camau'r broses adolygu eu hesbonio a rhoddwyd sicrwydd bod yr holl ysgolion yn
ardal Rhuthun wedi eu trin yn gyfartal gyda chanlyniadau gwahanol yn dibynnu ar
amgylchiadau penodol sy'n berthnasol i bob ysgol ·
cafodd
y rhesymeg y tu ôl i'r cynnig ar gyfer Ysgol Llanbedr ei egluro yn ogystal â’r
meini prawf a ddefnyddir i ystyriaeth, a’r angen i fynd i'r afael â lleoedd dros
ben a rhesymoli ystâd ysgolion er mwyn cael gafael ar gyllid cyfalaf ac i
fuddsoddi mewn ysgolion ·
hyd
yn oed pan fydd capasiti llawn (54 disgybl) nid oedd yr ysgol yn cael ei
ystyried yn gynaliadwy gyda darpariaeth addas amgen 2.1 milltir i ffwrdd ·
sicrhawyd
fod yr holl ymatebion a dderbyniwyd fel rhan o'r broses ymgynghori wedi eu
cymryd i ystyriaeth ac wedi dilyn proses briodol ·
rhoddwyd
ystyriaeth i lefelau cyrhaeddiad a oedd yn gyffredinol dda ar draws holl
ysgolion ardal Rhuthun; credwyd na fyddai safonau’n dioddef o ganlyniad i'r
cynnig a bod y Cyngor yn ymdrechu i wella’n barhaus. Siaradodd y Cynghorydd Huw Williams yn erbyn y
cynnig a dywedodd fel a ganlyn - ·
teimlodd
bod cyfeiriad (o fewn yr adroddiad penderfyniad) i'r dyraniad o £8,400 at
Neuadd Bentref Llanbedr yn annheg a dylid ei dynnu’n ôl ·
roedd
rhieni’n teimlo nad oeddent wedi derbyn digon o wybodaeth am ysgolion eraill i
fynegi eu dewis. ·
dylid
archwilio’r opsiwn o ffedereiddio’r ysgol ymhellach ·
er
bod lleoedd dros ben yn Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras roedd materion
diogelwch o ran rheoli traffig a fyddai'n gwaethygu pe bai disgyblion yn
trosglwyddo i’r ysgolion hynny ·
Pennaeth
Addysg wedi sicrhau'r Corff Llywodraethol ym Mawrth 2012 nad oedd unrhyw fwriad
i gau'r ysgol ·
gofynnwyd
os fyddai cyfleuster gofal plant 'Munchkins' yn cael ei ddiogelu pe bai'r ysgol
yn cau ·
gofynnwyd
os oedd cyswllt wedi’i wneud â’r Esgobaeth am gyllid. Rhoddwyd yr ymatebion canlynol - ·
cyfeiriwyd
at ddyfarnu cyllid at Neuadd Bentref Llanbedr er mwyn ymateb i’r cwestiynau a
godwyd ynghylch effaith ar y gymuned ·
darparwyd
gyd-destun y drafodaeth a gafwyd gyda'r Corff Llywodraethol yn 2012 er mwyn
cefnogi'r ysgol ac i roi sefydlogrwydd ar amser cyn ymrwymo’r ysgol i achos o
adolygiad ·
Roedd
'Munchkins' yn fusnes preifat yn gysylltiedig â'r ysgol ac roedd gwerth y
ddarpariaeth honno wedi’i gydnabod - byddai swyddogion yn gweithio gydag
ysgolion eraill yn Rhuthun i archwilio'r posibilrwydd o ddarparu gofal di-dor
ar gyfer disgyblion ·
yn
ystod y drafodaeth gyffredinol ar adolygiadau ffydd roedd yn amlwg nad oedd gan
yr Esgobaeth y cyfalaf i fuddsoddi mewn ysgolion. Roedd y Cynghorydd Dewi Owens yn credu bod y cynnig yn gynamserol oherwydd gall nifer y disgyblion gynyddu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Amlygodd y Cynghorydd Merfyn Parry ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYFLEUSTERAU ARFORDIROL YN Y RHYL A PHRESTATYN – OPSIYNAU RHEOLI DROS DRO PDF 93 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Arweiniol dros Hamdden, Ieuenctid,
Twristiaeth a Datblygu Gwledig (copi'n amgaeëdig) yn manylu ar opsiynau rheoli
dros dro ar gyfer yr Heulfan, Nova a Chanolfan Bowls Gogledd Cymru. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo i
ailagor y Ganolfan Bowlio o fis Ebrill/Mai 2014 a bod swyddogion yn edrych ar
drefniant gweithredu yn y dyfodol mewn partneriaeth â'r clybiau bowlio
presennol; (b) cytuno bod
Canolfan Nova yn parhau i fod ar gau hyd nes y ceir cytundeb i gynigion
ailddatblygu Alliance Leisure ym mis Mai 2014, gan nodi y bydd darpariaeth
campfa a ffitrwydd arall dros dro ar gael yng Nghanolfan Hamdden Prestatyn, a
gofyn i swyddogion edrych ar gyfleoedd nofio i’r cyhoedd yn y gymuned leol gyda
darparwyr lleol eraill. (c) cytuno nad yw'r
Heulfan yn ailagor fel cyfleuster dŵr sy'n cael ei weithredu neu ei reoli
gan y Cyngor; ac awdurdodi swyddogion i edrych ar gyfleoedd pellach i gael
darparwyr trydydd parti i redeg yr Heulfan fel cyfleuster hamdden gwlyb neu
sych, a nodi bod darpariaeth campfa, ffitrwydd a nofio arall ar gael dros dro yng Nghanolfan Hamdden y
Rhyl; (d) nodi y gall
canlyniadau ariannol yr argymhellion gael eu cynnwys o fewn y gyllideb sydd ar
gael ar gyfer cyfleusterau arfordirol yn y Rhyl a Phrestatyn; (e) cadarnhau bod y
Cyngor yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau cynnig hamdden dyfrol newydd ar
gyfer y Rhyl drwy'r trefniadau y cytunwyd arnynt gan y Cabinet ym mis Chwefror,
ac (f) cytuno bod
adolygiad mewnol yn cael ei wneud ar y ffordd y mae'r Cyngor yn monitro
gweithrediad gan Clwyd Leisure Limited o'r cyfleusterau y cyfeirir atynt yn yr
adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Jones yr adroddiad yn
manylu ar yr opsiynau rheoli dros dro ar
gyfer yr Heulfan, Canolfan Nova a Chanolfan Bowls Gogledd Cymru a oedd wedi’i
ddychwelyd i'r Cyngor ar ôl i Clwyd Leisure Limited (CLL) roi'r gorau i
fasnachu. Eglurodd y Cynghorydd Jones y sefyllfa hyd yn hyn
a'r rhesymeg y tu ôl i bob un o'r argymhellion yn dilyn gwerthusiad manwl o'r
gwahanol opsiynau ar gyfer y cyfleusterau hyd nes datblygu’r achos busnes ar
gyfer gwell cynnig hamdden arfordirol. O ran yr argymhelliad ar gyfer y Ganolfan Haul fe
gynigodd y diwygiad i gynnwys y cyfle ar gyfer gweithgareddau hamdden gwlyb o
ystyried diddordeb posibl yn hynny o beth a oedd wedi dod i'r amlwg yn
ddiweddar. Ystyriodd y Cabinet rhinweddau pob argymhelliad er
mwyn bodloni eu hunain o ran y ffordd orau i symud ymlaen. Trafodwyd y materion canlynol:- Canolfan Bowls Gogledd Cymru
- Amlygodd yr Aelodau bwysigrwydd y Ganolfan Bowls
fel cyfleuster cymunedol, a chydnabuwyd
y cyfraniad gwerthfawr a wna clybiau bowls presennol a’r rôl allweddol
mewn sicrhau dyfodol llwyddiannus. Gofynnwyd i'r swyddogion symud ymlaen gyda'r argymhelliad i ailagor y
Ganolfan Bowls cyn gynted ag y bo modd. Canolfan Nova - Derbyniodd y Cabinet na fyddai'n hyfyw
yn ariannol i Ganolfan Nova ailagor am gyfnod byr nes ei ailddatblygu. Fodd bynnag, mynegwyd pryderon am yr
effaith y bydd cau y ganolfan yn ei gael ar fusnesau eraill yn yr ardal a
gofynnodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i
leihau / dileu rhai o’r taliadau parcio arhosiad hir yn ystod y cyfnod hwnnw er
mwyn helpu busnesau. Cadarnhaodd y Cynghorydd David Smith y byddai'n gofyn i swyddogion ystyried
y cais hwnnw fel rhan o'r adolygiad parcio ceir sy’n cael ei wneud ar hyn o
bryd. Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorwyr Paul Penlington a Gareth
Sandilands ynghylch y ddarpariaeth hamdden ym Mhrestatyn, cadarnhaodd y
Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden y byddai yna ddarpariaeth campfa a
ffitrwydd dros dro ar gael yng Nghanolfan Hamdden Prestatyn a byddai
cyfleusterau nofio eraill i’r cyhoedd yn cael eu harchwilio gyda darparwyr
lleol eraill. Cadarnhaodd hefyd ddiddordeb datblygwr yn y Ganolfan Nova a’r amserlenni
tebygol ar gyfer ailddatblygu. Heulfan - Cytunodd y Cabinet i ddiwygiad yn yr
argymhelliad i gynnwys gweithgareddau hamdden gwlyb yn y cyfleuster. Wrth dderbyn nad oedd yn hyfyw i'r Cyngor
ail-agor yr Heulfan roedd yr aelodau’n awyddus i’r cyfleuster gael ei weithredu
gan drydydd parti. Holodd y Cynghorydd Barbara Smith ynglŷn â’r nifer o weithwyr sydd
wedi eu heffeithio ac fe'i hysbyswyd bod cofnodion yn dangos 13 swydd llawn
amser a fyddai’n cyfateb i’r rhain ac mai yn ystod tymor yr haf y cyflogir
carfan fawr ohonynt, a bod y rhan fwyaf ohonynt yn byw tu allan i'r ardal. Cyfeiriodd y Cynghorydd Eryl Williams at
ymweliad diweddar â’r safle ac fe fynegodd bryderon sylweddol ynghylch cyflwr y
cyfleuster a sut yr oedd wedi cael ei reoli. Dywedodd y Cynghorydd Joan Butterfield na fyddai aelodau'r Rhyl byth wedi pleidleisio i gau’r Ganolfan Haul, ond ei bod yn gefnogol o gamau gweithredu swyddogion ar ôl gweld cyflwr y cyfleuster. Codwyd pryderon ers nifer o flynyddoedd ynglŷn â’r rheoli ac fe alwodd yr Aelodau Llafur am ymchwiliad mewnol i’r ffeithiau ac i sicrhau na fyddai hynny’n digwydd eto. Mynegodd y Cynghorydd Brian Blakeley ei bryderon hefyd a’i gais am sicrwydd ynglŷn â buddsoddi yng nghynnig arfordirol y Rhyl yn y dyfodol. Cafwyd sicrwydd gan Gyfarwyddwr Corfforaethol Economaidd ac Uchelgais Cymunedol ar y weledigaeth ar gyfer y tymor hirach ar gyfer y Rhyl ac ar gyflwyno'r cynnig dyfrol. Cadarnhaodd hefyd ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CYNLLUNIAU TREF AC ARDAL PDF 102 KB Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Hugh Evans, Aelod Arweiniol dros Ddatblygu
Economaidd a Huw Jones, Aelod Arweiniol dros Hamdden, Ieuenctid, Twristiaeth a
Datblygu Gwledig (copi'n amgaeëdig) yn diweddaru'r Cabinet ar Gynlluniau Tref
ac Ardal a gofyn am fabwysiadu’r cynlluniau ar gyfer Rhyl, Dinbych a Rhuddlan a
chymeradwyo cyllid ar gyfer y blaenoriaethau sydd wedi'u cynnwys yn y
cynlluniau hynny. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo
mabwysiadu'r Cynlluniau Ardal (sy’n cynnwys y Cynlluniau Tref presennol) ar
gyfer y Rhyl, Dinbych Rhuddlan; (b) cymeradwyo'r
cyllid ar gyfer y blaenoriaethau a nodir yn y Cynlluniau Ardal a gyfeirir atynt
uchod; ac yn (c) nodi’r wybodaeth
o safbwynt gwariant hyd yn hyn ar y Cynlluniau Tref ac Ardal. Cofnodion: Fe gyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad i
fabwysiadu Cynlluniau Tref ac Ardal ar gyfer y Rhyl, Dinbych a Rhuddlan a
chymeradwyo cyllid ar gyfer y blaenoriaethau wedi'u cynnwys yn y cynlluniau
hynny. Roedd yr adroddiad hefyd yn
rhoi diweddariad o wariant hyd yma yn erbyn Cynlluniau Tref ac Ardal. Pwysleisiodd y Cynghorydd Evans yr angen i gysylltu
Cynlluniau Tref / Ardal â’r strategaeth economaidd ac fe eglurodd sut y bydd y
cynlluniau’n cyfrannu at y flaenoriaeth gorfforaethol o ddatblygu'r economi
leol a dod â'r Cyngor yn nes at gymunedau. O ran Cynllun y Rhyl fe eglurodd sut y mae’n cysylltu ac
yn cyd-fynd â’r cynlluniau presennol, gan gynnwys Y Rhyl yn Symud Ymlaen a
Strategaeth Dinas y Rhyl. Roedd y Cynghorydd
Joan Butterfield yn cefnogi cymeradwyo Cynllun y Rhyl a dangosodd ei gwerthfawrogiad i’r
swyddogion am eu harweiniad yn ei ddatblygiad. Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Meirick Davies
ynghylch Gorsaf Reilffordd Y Rhyl, gofynnodd y Cadeirydd i Aelod Arweiniol y
Parth Cyhoeddus ymchwilio i ddyraniad y cyllid ac i weithredu’r gwaith. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Busnes Economaidd i
gwestiynau ynghylch gwariant hyd yma ac eglurodd y broses o fonitro cyllid ar
gyfer Cynlluniau Tref ac Ardal. Mynegodd y Cynghorydd Eryl Williams bryder bod angen
prawf o arian cyfatebol ar gyfer prosiect yn ei faes ond bod hynny ddim yn
angenrheidiol ar gyfer meysydd eraill. Cytunodd y Prif Weithredwr ynglŷn â’r angen am
safbwynt eglur ar arian cyfatebol a theimlai fel egwyddor cyffredinol na ddylid
cychwyn ar brosiectau nes bod arian cyfatebol wedi'i sicrhau. Yn ystod y drafodaeth codwyd
rôl bwysig Grwpiau Ardal yr Aelodau wrth fonitro cynnydd prosiectau gwario ac adolygu ynghyd â'r angen am
amserlenni prosiect realistig. Tynnwyd sylw at y diffyg cysondeb ar draws Cynlluniau
Tref ac Ardal a'r angen i sicrhau dyraniadau yn seiliedig ar y defnydd gorau ar
gyfer cymunedau. Mynegodd y Cynghorydd Bobby Feeley ei phryderon yn arbennig am y ffordd y
mae arian yn cael ei ddyrannu ac er ei bod hi’n cytuno i dderbyn cynlluniau
tref ac ardal eleni, fe ofynnodd i’r cynlluniau gael eu gwella yn unol â
chynnwys y Cynllun Corfforaethol cyn y flwyddyn nesaf. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Uchelgais Economaidd a Chymunedol
sicrwydd y byddai'r materion a godwyd gan yr aelodau yn cael eu hystyried fel
rhan o'r adolygiad o'r broses Cynlluniau Ardal. PENDERFYNWYD bod y Cabinet - (a) yn cymeradwyo
mabwysiadu'r Cynlluniau Ardal (yn ymgorffori Cynlluniau Tref presennol) ar
gyfer Y Rhyl, Dinbych a Rhuddlan; (b) yn
cymeradwyo'r
cyllid ar gyfer y blaenoriaethau a nodir yn y
Cynlluniau Ardal a gyfeirir atynt uchod, ac (c) yn
nodi'r
wybodaeth mewn perthynas i wario hyd yma yn erbyn y Cynlluniau Tref ac Ardal. |
|
DIGWYDDIAD BEICIO WIGGLE ETAPE CYMRU 2014 PDF 138 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Arweiniol dros Hamdden, Ieuenctid,
Twristiaeth a Datblygu Gwledig (copi'n amgaeëdig) yn diweddaru'r Cabinet ar y
digwyddiad beicio caeedig Etape Cymru a drefnwyd ar gyfer Medi 2014. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r trefniadau a roddwyd ar waith i fynd i'r afael â phryderon
y gymuned a’r aelodau, cytuno ar gau'r
ffordd a chymeradwyo'r digwyddiad Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Jones yr adroddiad yn
diweddaru'r Cabinet ar ddigwyddiad beicio Etape Cymru sydd wedi’i drefnu ar
gyfer Medi 2014. Roedd yr adroddiad yn mynd i'r afael â phryderon a godwyd am
ddigwyddiad 2013, ac yn rhoi manylion y llwybr newydd arfaethedig, y broses
gyfathrebu â threfnwyr digwyddiadau a’r cynlluniau ar gyfer cau ffyrdd. Dyma’r Cabinet yn cydnabod manteision economaidd
sylweddol digwyddiad o’r fath ar yr economi leol ond tynnwyd sylw at yr angen i
fod yn sensitif i fusnesau a thrigolion lleol a theimlai bod cyfathrebu yn
allweddol yn hynny o beth. Roeddent yn cymryd sicrwydd o’r trefniadau sydd i'w rhoi ar waith i ymdrin
â phryderon blaenorol gan gynnwys cyfathrebu â phreswylwyr/tirfeddianwyr;
stiwardio a rheoli traffig a'r newidiadau arfaethedig i'r daith. O ganlyniad - PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r trefniadau a roddwyd ar waith i fynd i'r afael â’r cymunedau,
a phryderon yr aelodau, cytuno ar gau'r
ffordd a chymeradwyo'r digwyddiad |
|
ARGYMHELLION Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL PDF 94 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid ac
Asedau (copi'n amgaeedig) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet ar gyfer prosiectau
a nodwyd ar gyfer eu cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2014/15. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y prosiectau a nodwyd yn Atodiad 1 o'r
adroddiad i'w cynnwys yn y Cynllun Cyfalaf 2014/15 yn cael ei gefnogi a’i
argymell i'r Cyngor llawn. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet i
brosiectau a nodwyd i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2014/15 fel yr
argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol (SIG) fel y manylir yn Atodiad
1 o'r adroddiad. Fe arweiniodd y Cynghorydd Thompson-Hill yr
aelodau trwy'r adroddiad ac ymhelaethodd ar arian sydd ar gael ar gyfer
buddsoddi cyfalaf i brosiectau unwaith ac am byth a dyraniadau bloc ar gyfer
rhaglenni parhaus o waith. Cyfeiriwyd at waith y SIG wrth adolygu ceisiadau ar gyfer dyraniadau ynghyd
â materion a godwyd yn ystod y broses honno a chrynodeb o'r argymhellion. Fel Aelod Arweiniol, roedd y Cynghorydd David
Smith yn falch efo’r dyraniadau i Briffyrdd er mwyn bwrw ymlaen â’r gwaith
angenrheidiol. Eglurodd y Cynghorydd Eryl Williams gefndir y cynllun ‘Clwyd Diogelwch’ ar
yr A525 ac roedd yn bryderus bod y cyllid wedi’i gadw ar gyfer y prosiect hwnnw
ers 2006/07 yn hytrach nac ailddyrannu i gynlluniau eraill. Gofynnodd fod y mater yn cael ei ymchwilio
a phrosesau’n cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod dyraniadau cyllid yn cael eu
defnyddio'n briodol. Roedd y Cynghorydd Thompson-Hill a'r Pennaeth Cyllid ac Asedau yn derbyn ei
fod wedi cymryd gormod o amser i ryddhau'r cyllid yn yr achos hwn a rhoddwyd
sicrwydd y byddai rhan fwyaf o elfennau'r cynllun cyfalaf yn cael eu monitro'n
gadarn. Ni chafodd y cais ei gefnogi gan y SIG
a wnaeth argymell bod y cyllid yn cael ei ryddhau’n ôl i'r cynllun
cyfalaf. Diolchodd y Cynghorydd Thompson-Hill i’w
gydweithwyr ar y SIG am eu holl waith caled. PENDERFYNWYD cefnogi ac argymell i’r Cyngor llawn bod y
prosiectau a nodwyd yn Atodiad 1 o'r adroddiad yn cael eu cynnwys yng Nghynllun
Cyfalaf 2014/15. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi ynghlwm) yn nodi manylion y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a
chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb a gytunwyd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi'r cynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. (b) cymeradwyo’r trosglwyddiad canlynol o’r cronfeydd wrth gefn fel y manylir
yn Adran 6 o’r adroddiad - £23m o’r gronfa Cynllunio mewn perthynas â ffioedd a
dderbyniwyd yn y flwyddyn gyfredol, ond sy'n ymwneud â gwariant yn 2014/15 Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a
chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Rhoddodd y grynodeb ganlynol ar sefyllfa
ariannol y Cyngor- ·
rhagwelwyd
tanwariant o £1.412m ar draws cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
roedd
91% o’r arbedion y cytunwyd arnynt wedi’u cyflawni hyd yma (targed £3.061m) ·
tynnwyd
sylw at amrywiannau allweddol yng nghyllidebau neu dargedau i wneud arbedion
sy'n ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol ·
symudiad
positif o £398k ar falansau ysgol a gariwyd drosodd o 2012/13. ·
diweddariad
cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai. Gofynnwyd i'r Cabinet hefyd i gymeradwyo i
drosglwyddo £23k i'r gronfa Cynllunio. Fe gyfeiriodd y Cynghorydd Eryl Williams at ei
gais yn y Cyngor Llawn i anfon llythyr at Aelodau'r Cynulliad yn gofyn iddynt i
lobïo am newid i'r system cyllid Cyfrif Refeniw Tai i sicrhau bod awdurdodau
lleol a oedd yn cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru ddim yn cael eu cosbi o ran y
symiau y gellir ei fuddsoddi yn y dyfodol. Gofynnodd i lythyr gael ei anfon cyn gynted ag y
bo modd a'i fod yn derbyn copi. Nododd yr Aelodau bod y sefyllfa ariannol
sylfaenol yn dda gan longyfarch adrannau ar eu cyflawniadau. PENDERFYNWYD bod y Cabinet - (a) yn nodi’r cynnydd yn erbyn y strategaeth a gytunwyd ar gyfer y gyllideb, a (b) chymeradwyo’r trosglwyddiad canlynol i’r cronfeydd wrth gefn fel y manylir
yn Adran 6 o’r adroddiad - £23k o gronfa Cynllunio wrth gefn mewn perthynas â
ffioedd a dderbyniwyd yn y flwyddyn gyfredol, ond sy'n ymwneud â gwariant yn
2014/15 |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 83 KB Derbyn Rhaglen
Waith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu a nodi ei chynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans ‘Rhaglen Gwaith
i'r Dyfodol’ i’r Cabinet i’w ystyried, ac fe nododd yr aelodau nifer o
ddiwygiadau. PENDERFYNWYD bod
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet yn cael ei nodi. Daeth y cyfarfod i ben am 2.00 p.m. |