Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Ni ddatganodd unrhyw Aelod gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ar unrhyw fater sy'n cael ei ystyried yn y cyfarfod. 

 

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad sy’n rhagfarnu.

 

Cofnodion:

Na wnaed unrhyw ddatganiad o gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu.

 

3.

MATERION BRYS

Rhybudd o eitemau y dylid ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 186 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 14 Mehefin 2014 (copi’n amgaeedig). 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2014 fel cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2014.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2014 fel cofnod dilys ac fe’u llofnodwyd gan yr Arweinydd.

 

5.

CYNNIG I GAU YSGOL CLOCAENOG AC YSGOL CYFFYLLIOG AC I SEFYDLU YSGOL ARDAL NEWYDD pdf eicon PDF 84 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg (copi'n amgaeedig) yn hysbysu'r Cabinet o'r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn dilyn cyhoeddi'r Hysbysiad Statudol ac a ddylid cymeradwyo gweithredu'r cynnig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried canfyddiadau'r adroddiad sy’n gwrthwynebu’r cynnig, y dylai’r Cabinet gymeradwyo gweithredu'r cynnig i gau Ysgol Clocaenog ac Ysgol Cyffylliog ar 31 Awst 2014 i alluogi ysgol ardal newydd i gael ei hagor ar 1 Medi 2014 gan ddefnyddio safleoedd presennol yng Nghlocaenog a Chyffylliog.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad yn manylu ynglŷn â’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn sgil cyhoeddi’r Hysbysiad Statudol i gau Ysgol Clocaenog ac Ysgol Cyffylliog ar 31 Awst 2014 a sefydlu ysgol ardal newydd ar y safleoedd presennol.

 

Ystyriodd y Cabinet y gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad ynghyd â’r dadleuon dros y cynnig a’r ffactorau y manylir arnynt yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion. Yn ystod y broses gofynnodd yr aelodau gwestiynau ynghyd â gofyn am sicrwydd ynghylch nifer o faterion. Cydnabu’r Cynghorydd Bobby Feeley natur gymhleth yr adolygiad o ardal Rhuthun a mynegodd amheuon a oedd y cais yn cynnig yr ateb cywir yn yr achos arbennig hwn, gan dynnu sylw at nifer o feysydd pryder.

 

Rhoddwyd yr ymatebion canlynol i’r materion a godwyd –

 

·        roedd ysgol ardal wedi ei chynnig yn yr achos hwn gan fod y pellter yr oedd yn rhaid i ddisgyblion ei deithio i’r ysgol briodol agosaf yn rhy bell pe bai'r ddwy ysgol yn cau

·        tynnwyd sylw at fanteision ysgol newydd yn cynnwys y gallu i ddarparu cwricwlwm amrywiol gan ddysgu disgyblion â llai o amrediad oed

·        roedd nifer o ffactorau wedi eu hystyried wrth benderfynu ar y cynigion, nid yn unig maint yr ysgolion, a’r ystyriaeth bennaf oedd darparu’r ysgol briodol, yn y lleoliad priodol, gan ddarparu’r addysg briodol

·        cydnabuwyd pryderon ynghylch addasrwydd y rhwydwaith ffyrdd ond roedd y ffordd yn cael ei defnyddio ar gyfer cludiant cyhoeddus a byddai pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau bod y ffyrdd yn glir a’u bod yn cael blaenoriaeth o ran graeanu

·        esboniwyd y broses gategoreiddio ar gyfer faint o addysg cyfrwng Cymraeg a fyddai’n cael ei ddarparu o fewn yr ysgolion ac ni fyddai’r naill ysgol na’r llall ar ei cholled o ganlyniad i’r cynigion.

 

O ran maint adolygiad ardal Rhuthun bu’n rhaid cynnal y broses fesul cam ac roedd y cynnig hwn wedi ei gyflwyno mewn cam cynharach oherwydd y gofyniad ar gyfer hysbysiad statudol. Rhoddwyd sicrwydd nad oedd yr un cynnig wedi cael blaenoriaeth dros y llall a bod dull cyson wedi ei ddefnyddio ar draws pob ysgol gyda’r canlyniadau’n gwahaniaethau yn dibynnu ar wahanol amgylchiadau pob ysgol. Byddai gofynion ariannu ar gyfer pob ysgol yn deillio o’r adolygiad yn cael eu hystyried yr un pryd gan y Cabinet yn ystod yr haf. Yna byddai darlun cliriach gennym o ran amserlenni.

 

Cymharodd y Cynghorydd Joe Welch rannau o’r adolygiad gydag un Ysgol Llanbedr.  Cwestiynodd y ffaith bod rhagamcan o niferoedd disgyblion wedi ei gynnwys a gofynnodd am eglurhad ynghylch yr arbedion i’w sicrhau, yr effaith ar y gymuned, a chwestiynodd leoliad yr ysgol yn wyneb y pryderon ynghylch y ffordd. Rhoddwyd yr ymatebion canlynol –

 

·        roedd rhagamcan o niferoedd disgyblion wedi ei ystyried fel rhan o adolygiad Ysgol Llanbedr ond ystyrid bod yr ysgol yn dal yn anghynaliadwy

·        byddai costau cludiant p’un bynnag gan fod mwy o geisiadau wedi eu derbyn ar gyfer Ysgol Clocaenog nag o leoedd oedd ar gael

·        esboniwyd y dull cyfrifo a ddefnyddiwyd i bennu’r arbedion a chadarnhawyd y byddai costau tymor byr tra bod yr ysgolion yn parhau ar ddau safle

·        roedd mwyafrif y disgyblion a fyddai’n cael eu heffeithio gan yr adolygiad yn byw yng Nghlocaenog a byddai gwaith pellach ar leoliad ysgol newydd yn mynd yn ei flaen pe bai’r cynnig yn cael ei gymeradwyo.

 

Siaradodd y Cynghorydd Arwel Roberts o blaid y cynnig a thynnodd sylw at y ffaith bod cyfleusterau’r ysgolion yn annigonol ac at fanteision ysgol newydd i ddisgyblion. Wrth gefnogi’r argymhelliad pwysleisiodd y Cynghorydd Eryl Williams ei ymrwymiad i sicrhau bod ardal Rhuthun yn cael darpariaeth a  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CYMERADWYO ACHOS BUSNES AR GYFER PROSIECT YSGOL NEWYDD Y RHYL pdf eicon PDF 308 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg (copi'n amgaeedig) yn hysbysu'r Cabinet o'r sefyllfa bresennol o ran cyflwyniad y Cyngor o'r Achos Busnes Terfynol ar gyfer Ysgol Newydd y Rhyl i Lywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn argymell i'r Cyngor y dylid cymeradwyo'r Achos Busnes ar gyfer Ysgol Newydd y Rhyl cyn i'r penderfyniad gael ei wneud gan Lywodraeth Cymru.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams adroddiad yn hysbysu’r Cabinet o’r sefyllfa bresennol o ran Achos Busnes Terfynol a gyflwynwyd gan y Cyngor i Lywodraeth Cymru ar gyfer Ysgol Newydd y Rhyl. Pwysleisiodd ymrwymiad y Cyngor i fuddsoddi yn ei ysgolion a’i addysg a’i lwyddiant o ran datblygu rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

Croesawodd y Cabinet y buddsoddiad yn y Rhyl a gan ei fod yn brosiect uchelgeisiol gofynnwyd am sicrwydd ynghylch yr arian oedd ar gael. Roedd yr Arweinydd yn awyddus i sicrhau y byddai busnesau lleol yn elwa hefyd. Crynhodd Pennaeth Cyllid ac Asedau y sefyllfa ariannol gan gadarnhau bod modd cyflawni’r prosiect a’i fod wedi ei gynnwys yng nghynlluniau rheoli cyllid y Cyngor. Byddai contractau hefyd yn cynnwys darpariaeth benodol ar gyfer cyflenwyr/buddsoddwyr lleol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn argymell i’r Cyngor ei fod yn cymeradwyo’r Achos Busnes ar gyfer Ysgol Newydd y Rhyl cyn i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad.

 

7.

MODEL CENEDLAETHOL O WEITHIO’N RHANBARTHOL I WELLA YSGOLION pdf eicon PDF 78 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg (copi'n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet o'r Model Cenedlaethol arfaethedig ar gyfer Gweithio’n Rhanbarthol i Wella Ysgolion a datblygu cynllun busnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Model Cenedlaethol ar gyfer Gweithio’n Rhanbarthol i Wella Ysgolion yn cael ei fabwysiadu a bod cynllun busnes yn cael ei ddatblygu gyda'r bwriad o ymgorffori’r gwasanaethau ychwanegol a restrir yn y Model i mewn i fodel rhanbarthol Gwe, mewn camau, yn amodol ar achos busnes boddhaol ar gyfer pob un a chynllun pontio ategol i sicrhau parhad a pherfformiad y gwasanaeth.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams adroddiad yn diweddaru aelodau ynglŷn â datblygiadau mewn perthynas â gwasanaethau gwella ysgolion a gofynnodd i’r Cabinet gymeradwyo’r Model Cenedlaethol o Weithio’n Rhanbarthol i Wella Ysgolion a gynigir a datblygu cynllun busnes. Nod y Model oedd cysoni a sefydlogi gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol yr awdurdodau lleol. 

 

Roedd y Cabinet yn cefnogi’r Model mewn egwyddor ond gofynnodd am sicrwydd y byddai gwelliannau Sir Ddinbych mewn safonau addysg yn parhau o dan y Model newydd ac na fyddai’n cael effaith niweidiol ar Sir Ddinbych. Hefyd codwyd cwestiynau ynglŷn â chyllid, adnoddau ac atebolrwydd. Ymatebodd y Cynghorydd Williams a’r swyddogion fel a ganlyn  -

 

·        nid oedd cyfrifoldeb statudol dros addysg a gwella ysgolion wedi ei drosglwyddo ac awdurdodau lleol oedd yn dal yn gyfrifol amdano

·        y bwriad oedd cysoni darpariaeth ar draws y consortia ac nid oedd y Model yn gwahaniaethu’n sylweddol i ddull Sir Ddinbych ei hun

·        byddai swyddogaethau’n cael eu trosglwyddo’n unig pe baen nhw’n cael eu rheoli’n fwy effeithiol yn rhanbarthol a byddent yn destun adolygiad achos busnes llawn yn y lle cyntaf 

·        pwysleisiwyd y pwysigrwydd o ddatblygu sicrwydd ansawdd i sicrhau nad oedd safonau’n gostwng

·        roedd cyllid yn gymesur a byddai ymyrraeth yn cael ei thargedu lle’r oedd yr angen mwyaf

·        byddai’n rhaid i unrhyw newid mawr i’r model cenedlaethol fynd trwy’r broses ddemocrataidd

·        byddai gwerthusiad o ddeilliannau’r Model yn cael ei wneud ar ôl cael y canlyniadau cyntaf.

 

Tynnwyd sylw at bwysigrwydd y Grŵp Monitro Safonau ysgol er mwyn herio ysgolion a nodi unrhyw gryfderau a gwendidau. Pwysleisiodd y Cynghorydd Williams ei bod yn bwysig i aelodau gymryd rhan yn y broses honno a fyddai’n cael ei hystyried ymhellach gan y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion. Hefyd rhybuddiodd na ddylid gorffwys ar ein rhwyfau a bod angen anelu at welliant parhaus mewn ysgolion.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Model Cenedlaethol o Weithio’n Rhanbarthol i Wella Ysgolion a bod cynllun busnes yn cael ei ddatblygu gyda’r bwriad o gynnwys y gwasanaethau ychwanegol a restrir yn y Model ym model rhanbarthol GwE, fesul cam, yn amodol ar achos busnes boddhaol ar gyfer pob un a chynllun trosglwyddo cefnogol i sicrhau parhad gwasanaeth a pherfformiad.

 

8.

ADNEWYDDU CYFLEUSTERAU ARFORDIROL YN Y RHYL A PHRESTATYN pdf eicon PDF 108 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Hugh Evans, Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Economaidd a Huw Jones, yr Aelod dros Hamdden, Ieuenctid, Twristiaeth a Datblygu Gwledig (copi'n amgaeedig) ynghylch datblygiad y prosiectau Cyfleusterau Arfordirol ar gyfer y cam nesaf.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno ar y dull a argymhellir -

 

(a)       mabwysiadu dull 'datblygwr a ffafrir’ i ddarparu gwell cyfleusterau twristiaeth a hamdden yn y Rhyl, gan gynnwys Canolfan Ddyfrol newydd ac i wahodd datganiadau o ddiddordeb gan ddatblygwyr i'w hystyried gan y Cyngor;

 

(b)       cynnwys cyfleoedd datblygu yn holl gyfleusterau/tir/asedau’r Cyngor ar hyd Promenâd y Rhyl (Marine Lake i Splash Point) o fewn y gwahoddiad i fynegi diddordeb;

 

(c)        ar yr un pryd, defnyddio cytundeb fframwaith presennol y Cyngor gydag Alliance Leisure i lunio astudiaeth ddichonoldeb busnes fanwl a gwerthusiad o opsiynau dylunio ac adeiladu ar gyfer y Nova;

 

(d)       ymrwymo mewn egwyddor i neilltuo arbedion gweithredol a gynhyrchir o ganlyniad i'r cynigion ailddatblygu i gefnogi cyfraniadau cyfalaf posibl gan y Cyngor tuag at gyflawni'r ‘prosiect cyfan', a

 

(e)       cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru i archwilio cefnogaeth i ddull partneriaeth ‘arbennig’ ar gyfer adfywio arfordirol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Jones yr adroddiad yn manylu ar ddatblygiad y prosiectau Cyfleusterau Arfordirol i’r cam nesaf a’r dull a argymhellir i sicrhau bod Canolfan Ddyfrol newydd yn cael ei datblygu yn y Rhyl a bod Nova yn cael ei ailddatblygu ym Mhrestatyn. Mae’r argymhellion wedi eu cefnogi gan Fwrdd Prosiect Cyfleusterau Arfordirol.

 

Ymhelaethodd y Cynghorydd Jones ar statws pob argymhelliad a thynnodd sylw at Gynllun Darparu Cymdogaeth a Lleoedd Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen a oedd yn cynnwys y cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn y Rhyl. Dywedodd fod aelodau’n bryderus ynglŷn ag erthygl gamarweiniol y Daily Post a oedd yn dweud bod Theatr y Pafiliwn dan fygythiad a rhoddwyd sicrwydd ac eglurhad i’r perwyl hwnnw. Ychwanegodd yr Arweinydd fod y cynigion yn rhoi darlun clir ar gyfer y dyfodol  a’i fod yn rhan o’r cynllun cyffredinol ar gyfer y Rhyl. Pwysleisiodd yr angen i fod yn fwy strategol o ran buddsoddi a byddai’n gofyn i Lywodraeth Cymru am gyfraniad tuag at y cyllid.

 

Cytunodd y Cabinet â’r argymhelliad i ddatblygu’r prosiectau i’r cam nesaf gan gadarnhau eu hymrwymiad i’r ddarpariaeth o ran twristiaeth a hamdden. Y gobaith oedd y gellid datblygu’r prosiectau’n raddol i sicrhau nad oedd unrhyw fwlch o ran darpariaeth ond nododd na ellid rhoi sicrwydd o hyn. Mewn ymateb i gwestiynau rhoddwyd sicrwydd -

 

·        y byddai gwaith atal llifogydd yn cael ei ystyried fel rhan o’r cam dylunio ac nid oedd erydu arfordirol wedi ei restru fel problem

·        y lleoliad dewisol ar gyfer y ganolfan ddyfrol oedd ger y tŵr awyr ond gallai hyn newid yn dibynnu ar farn  y partner datblygu a ffafrir

·        roedd poblogrwydd y parc sglefrio wedi ei gydnabod a byddai safleoedd priodol eraill yn cael eu hystyried wrth ymgynghori â’i ddefnyddwyr

·        roedd arolwg o gyflwr yr Heulfan, Nova a Chanolfan Fowlio Gogledd Cymru’n cael ei wneud cyn cynnal arfarniad opsiynau i aelodau eu hystyried. [Gan fod Canolfan Fowlio Gogledd Cymru’n gyfleuster cymunedol mewn cyflwr da roedd aelodau’n awyddus iddi ail-agor cyn gynted â phosibl.]

 

Croesawodd y Cynghorydd Joan Butterfield y bwriad i ddatblygu cyfleusterau yn y Rhyl ond tynnodd sylw at nifer o faterion -

 

·        yr angen am brif gynllun i’r Rhyl yn hytrach na gwahanol brosiectau ar wahân i’w gilydd

·        nid oedd unrhyw gyfeiriad wedi ei wneud at yr Heulfan  a phwysigrwydd bod yr Heulfan yn agor y tymor nesaf

·        pryderon ynglŷn â lleoliad arfaethedig y ganolfan ddyfrol a allai arwain at golli lle parcio gwerthfawr

·        amheuon ynglŷn â chynaliadwyedd darpariaeth hamdden debyg yn y Rhyl a Phrestatyn, ac

·        y dylai Hyrwyddwyr y Rhyl a Phrestatyn, yn ei barn hi, fod yn aelodau o’r Bwrdd Prosiect Cyfleusterau Arfordirol (CFPB).

 

Er gwaethaf ymgynghori helaeth, roedd yr Arweinydd yn siomedig i nodi bod materion yn cael eu codi mor ddiweddar. Dywedodd y Cynghorydd David Simmons fod y CFPB wedi cefnogi’r argymhellion ond eu bod yn teimlo nad oedd adeiladu canolfan ddyfrol ar ei phen ei hun yn apelio a bod angen ei hystyried mewn cyd-destun ehangach.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Uchelgais Economaidd a Chymunedol mai Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen oedd y Prif gynllun ar gyfer y Rhyl ac ymhelaethodd ar y pedwar llif gwaith a ddatblygwyd i sicrhau ei fod yn cael ei weithredu yn cynnwys cyfeiriad at y prosiect cyfleusterau arfordirol. Rhoddodd sicrwydd mai nod y ddarpariaeth yn y Rhyl a Phrestatyn oedd ategu’r ddarpariaeth bresennol ac nid cystadlu yn ei herbyn. Byddai opsiynau ar gyfer dyfodol yr Heulfan yn cael eu hystyried ar ôl cwblhau’r arolwg o gyflwr yr Heulfan a byddai’n destun adroddiad ar wahân. Cytunodd y Cabinet ei fod yn bwysig  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, tra bod yr eitemau canlynol yn cael eu trafod oherwydd ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu fel y diffinnir hi ym Mharagraff 14 Rhan 4, Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

9.

CYMERADWYO CYNIGYDD O DDEWIS, A'R AIL GYTUNDEB RHWNG AWDURDODAU GOGLEDD CYMRU AR Y PROSIECT GWASTRAFF GWEDDILLIOL (PTGGGC) pdf eicon PDF 90 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol ar gyfer Tir y Cyhoedd (copi’n amgaeedig) am gynnydd y bartneriaeth ffurfiol gyda phedwar Cyngor arall yng Ngogledd Cymru i gaffael contract 25 mlynedd ar gyfer darparu cyfleusterau gwaredu gwastraff gweddilliol ar y cyd.  Mae Atodiad 6, 7 ac 8 yr adroddiad hwn yn gyfrinachol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo dyfarnu statws Cynigydd o Ddewis i Wheelabrator Technologies Inc (WTI) oherwydd, yn dilyn trafodaethau gyda'r WTI, bod eu Cais am Dendr Terfynol yn werth am arian ar gyfer y bartneriaeth ac, yn dilyn gwerthusiad ariannol, cyfreithiol a thechnegol manwl o’u cais, bod y bartneriaeth yn fodlon ar y cydbwysedd risg arfaethedig gyda'r contract 'Cytundeb Prosiect';

 

(b)       rhoi caniatâd i Gydbwyllgor Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru i gymryd yr holl gamau angenrheidiol i fwrw ymlaen â’r broses - o’r Cynigydd o Ddewis hyd at Gau’n Ariannol, a dyfarnu’r contract;

 

(c)        ymrwymo i'r Bartneriaeth a'r Prosiect drwy fabwysiadu, ynghyd â 4 Cyngor arall, yr egwyddorion yn yr Ail Cytundeb Rhyng-Awdurdod sy'n adlewyrchu termau allweddol y Cytundeb Prosiect sydd i’w wneud rhwng y Cyngor Arweiniol a’r Cynigydd o Ddewis wrth Ddyfarnu’r Contract;

 

(d)       dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr Arweiniol i gwblhau'r Ail Gytundeb Rhyng-Awdurdod sydd i’w lofnodi gan yr awdurdodau cyfansoddol, ac i gylchredeg y cytundeb terfynol i Swyddogion Monitro’r 5 Awdurdod er mwyn derbyn barn yr holl Awdurdodau cyfansoddol ac i gyfeirio'r cytundeb yn ôl at y Cydbwyllgor er mwyn iddynt gymeradwyo unrhyw wyriad o’r egwyddorion y cytunwyd arnynt;

 

(e)       cytuno i lofnodi'r Ail Gytundeb Rhyng-Awdurdod unwaith y bydd wedi ei gwblhau yn unol â'r drefn uchod;

 

(f)         cymeradwyo'r gyllideb ddiwygiedig arfaethedig 2013/14 ar gyfer £595,558 (fel y nodir yn Atodiad 5 i'r adroddiad);

 

(g)       cymeradwyo gwariant 2014/15 (£321,066) i fynd â'r broses gaffael gau’r broses gaffael yn ariannol (fel y nodir yn Atodiad 5 i'r adroddiad), a

 

(h)       bod aelodau’r Cydbwyllgor yn cymeradwyo gofynion parhaus cyllideb y prosiect (paragraff 3.5, Atodiad 5).

 

Cofnodion:

[Cafodd yr eitem hon ei dwyn ymlaen ar y rhaglen gyda chydsyniad yr Arweinydd]

 

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith adroddiad yn manylu ynglŷn â chynnydd partneriaeth ffurfiol gyda phedwar o Gynghorau eraill yng Ngogledd Cymru i gaffael contract 25 mlynedd i ddarparu cyfleusterau gwaredu gwastraff gweddilliol ar y cyd. Gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo’r cynigydd terfynol a ffafrid a’r ail Gytundeb Rhwng Awdurdodau.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ynglŷn â’r broses o ddewis y cynigydd a ffafrid a’r canlyniad; prif nodweddion yr Ail Gytundeb Rhwng Awdurdodau yn cynnwys gweithredu’r contract ei hun a hefyd gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo’r gyllideb gaffael weddilliol. Wrth ystyried y ddogfen eglurodd swyddogion faterion mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, yn arbennig ynglŷn â’r camau o fewn y broses gaffael, targedau ailgylchu a manteision i’r gymuned. Roedd y Cabinet yn falch o nodi’r gwelliant yn y cynnig ariannol ar ôl i’r ail gynigydd dynnu’n ôl a nodwyd bod yr achos busnes presennol yn dangos bod yr ateb  arfaethedig yn rhatach na chost y gwaith presennol. Talwyd teyrnged i waith caled y swyddogion a fu’n rhan o’r broses a oedd wedi arwain at brosiect cost effeithiol a chynaliadwy. Er mwyn eglurder, gwnaed tri argymhelliad ychwanegol yn ymwneud â gofynion cyllidebol. 

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)       yn cymeradwyo mai’r Cynigydd a Ffafrir yw Wheelabrator Technologies Inc (WTI), ar sail bod trafodaeth  a negodi cadarn gyda WTI, wedi arwain at gyflwyno cais Galw am Dendr Terfynol (CFT) gan WTI sy’n sicrhau gwerth am arian i’r bartneriaeth; ac yn dilyn gwerthusiad ariannol, cyfreithiol a thechnegol manwl o gais CFT WTI, mae’r bartneriaeth yn fodlon â’r cydbwysedd o ran risg a gynigir yn y contract ‘Cytundeb Prosiect’’;

 

(b)       yn awdurdodi Cydbwyllgor Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru i gymryd yr holl gamau angenrheidiol i symud y broses yn ei blaen gydag WTI o’r Cynigydd a Ffafrir i’r Cam Ariannol Terfynol, a dyfarnu contract;

 

(c)        ymrwymo i’r Bartneriaeth a’r Prosiect trwy fabwysiadu, ynghyd â’r 4 cyngor arall, yr egwyddorion yn yr Ail Gytundeb Rhwng Awdurdodau sy’n adlewyrchu prif delerau’r Cytundeb Prosiect i’w llunio gan y Cyngor Arweiniol gyda’r Cynigydd a Ffafrir wrth Ddyfarnu’r Contract;

 

(d)       dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr Arweiniol i gwblhau’r derfynol yr Ail Gytundeb Rhwng Awdurdodau i’w arwyddo gan yr awdurdodau yn y bartneriaeth, a dosbarthu’r cytundeb terfynol i Swyddogion Monitro’r 5 Awdurdod a chyfeirio’n ôl i’r Cydbwyllgor ar gyfer cymeradwyo unrhyw achosion o wyro’n sylweddol o’r egwyddorion y cytunwyd arnynt;

 

(e)       cytuno i arwyddo’r Ail Gytundeb Rhwng Awdurdodau unwaith y mae wedi ei gwblhau’n derfynol yn unol â’r weithdrefn uchod;

 

(f)         cymeradwyo’r gyllideb ddiwygiedig a gynigir ar gyfer 2013/14, sef  £595,558 (fel y nodir yn Atodiad 5);

 

(g)       cymeradwyo gwariant yn 2014/15 i symud y broses gaffael yn ei blaen i’r Cam Ariannol terfynol, sef £321,066 (fel y nodir yn Atodiad 5), ac

 

(h)       i aelodau’r Cydbwyllgor gymeradwyo’r gofynion parhaus ar gyllideb y prosiect y cyfeirir atynt ym mharagraff 3.5 yn Atodiad 4.

 

SESIWN AGORED

Ar ôl cwblhau’r busnes uchod aeth y cyfarfod yn ei flaen mewn sesiwn agored.

 

10.

CYNLLUNIAU TREF AC ARDAL pdf eicon PDF 107 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Hugh Evans, Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Economaidd a Huw Jones, Aelod Arweiniol dros Hamdden, Ieuenctid, Twristiaeth a Datblygu Gwledig (copi'n amgaeedig) sy’n diweddaru'r Cabinet ar Gynlluniau Tref ac Ardal a cheisio mabwysiadu Cynlluniau Ardal ar gyfer Rhuthun a Phrestatyn a chymeradwyo cyllid ar gyfer y blaenoriaethau sydd wedi'u cynnwys yn y cynlluniau hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo mabwysiadu'r Cynlluniau Ardal (sy’n cynnwys y Cynlluniau Tref presennol) ar gyfer Rhuthun a Phrestatyn; ac yn

 

(b)       cymeradwyo'r cyllid ar gyfer y blaenoriaethau a nodir yn y tablau ym mharagraffau 4.1 a 4.2 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad a oedd yn ceisio mabwysiadu Cynlluniau Tref ac Ardal ar gyfer Rhuthun a Phrestatyn a chymeradwyo’r cyllid ar gyfer y blaenoriaethau oedd wedi eu cynnwys yn y cynlluniau hynny. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys diweddariad o’r gwariant hyd yma yn erbyn y Cynlluniau Tref ac Ardal.

 

Dywedodd y Cynghorydd Evans mai ychydig oedd yn bresennol wrth osod blaenoriaethau ar gyfer Cynllun Tref ac Ardal Rhuthun a bod hynny wedi arwain at beth anghytundeb ynglŷn â’r blaenoriaethau hynny. Cydnabu beth rhwystredigaeth ynglŷn â’r diffyg eglurder ynghylch y cyllid a oedd ar gael yn gyffredinol a’r gyfradd araf o wariant a chroesawodd fod y Tîm Gweithredol Corfforaethol am gynnal adolygiad o’r broses i roi sylw i’r materion hynny. Roedd y Cynghorydd Bobby Feely wedi methu â bod yn bresennol i osod y blaenoriaethau ar gyfer Rhuthun a mynegodd bryderon ynglŷn â’r broses yn cynnwys diffyg dull strwythuredig ar gyfer dyrannu cyllid a diffyg ymgynghori yn y dref/gymuned. Roedd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yn cefnogi Cynllun Tref ac Ardal Prestatyn yn cynnwys yr eitemau blaenoriaeth ar gyfer Meliden.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Huw Jones y gallai’r broses fod yn gymhleth, yn arbennig yn yr ardaloedd mwyaf, a phwysleisiodd fod gan gynghorwyr rôl bwysig wrth ddatblygu’r cynlluniau. Rhannodd aelodau eu profiadau eu hunain o ddatblygu cynlluniau tref ac ardal yn eu hardaloedd penodol hwy ac ar gyfer gosod eu blaenoriaethau a dyrannu cyllid.  Yn ystod y drafodaeth codwyd y mater fod angen dull mwy strwythuredig a chyson ar draws ardaloedd wrth ddatblygu cynlluniau ac mewn rhai ardaloedd roedd angen i drigolion a chymunedau gael mwy o ran yn y broses. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd cynghorau tref a chymuned o safbwynt gosod blaenoriaethau a chyfrannu’n ariannol tuag atynt. Roedd aelodau hefyd yn awyddus i gael mwy o atebolrwydd yn nhermau gosod blaenoriaethau i sicrhau bod prosiectau’n hyfyw, yn werthfawr, yn sicrhau gwerth am arian a bod trigolion yn elwa arnynt. Hefyd rhybuddiwyd y dylid gofalu bod arian cyfatebol wedi ei sicrhau cyn dechrau prosiectau ac y dylai unrhyw gostau cynnal yn y dyfodol gael eu hystyried hefyd fel rhan o strategaeth wario gydlynol. Pwysleisiodd yr Arweinydd yr angen i gysylltu cynlluniau tref/ardal â’r strategaeth economaidd a theimlai y gallai’r materion a godwyd gael eu hystyried fel rhan o adolygiad y Tîm Gweithredol Corfforaethol.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Eryl Williams bwysigrwydd cyllid ar gyfer datblygu prosiectau tref a chymuned a cheisiodd sicrwydd y byddai’r gyllideb yn cael ei chynnal yn y dyfodol. Rhoddwyd sicrwydd gan y Prif Weithredwr nad oedd y cyllid wedi ei glustnodi ar gyfer dibenion eraill a bod y broses yn cael ei hystyried fel ffordd o ddod â’r cyngor yn nes at gymunedau a grymuso cynghorwyr lleol i adfywio ardaloedd lleol. Ni fyddai’r adolygiad yn achosi i unrhyw brosiectau a gynlluniwyd gael eu gohirio a byddai’n ystyried effaith blaenoriaethau o fewn trefi a chymunedau ac yn sicrhau atebolrwydd y penderfyniadau a gymerwyd.

 

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i’r argymhellion ac er mwyn eglurder cynigiwyd newid y geiriad.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)       yn cymeradwyo mabwysiadu Cynlluniau Ardal (yn cynnwys y Cynlluniau Tref presennol) ar gyfer Rhuthun a Phrestatyn, ac

 

(b)       yn cymeradwyo’r cyllid ar gyfer y blaenoriaethau y manylir arnynt yn y tablau a ddangosir ym mharagraffau 4.1 a 4.2 o’r adroddiad.

 

Bu i’r Cynghorydd  Bobby Feeley ymatal rhag pleidleisio ar y mater uchod.

 

11.

GADAEL TŶ NANT, PRESTATYN pdf eicon PDF 94 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi'n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y cynnig i adael Swyddfeydd Tŷ Nant, Prestatyn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cefnogi ac yn cymeradwyo'r cynnig i adael adeilad Tŷ Nant a'i gynnal mewn cyflwr diogel ac i barhau i farchnata'r adeilad ar gyfer ei brydlesu hyd nes y bydd y briff cynllunio i hwyluso cynllun datblygu tymor hir ar gyfer safle Ffordd Nant Hall.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r cynnig i symud o Swyddfeydd Tŷ Nant heb i unrhyw ddefnydd arall fod wedi ei ganfod.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r gwaith a wnaed i geisio dod o hyd i ddefnyddiau eraill ar gyfer Tŷ Nant, ond yn ofer. Nid oedd gwasanaeth ar gyfer y cyhoedd yn yr adeilad ar ôl adleoli’r Ddesg Arian i Lyfrgell Prestatyn ac roedd gwaith yn dal i fynd yn ei flaen i ddatblygu cynllun adleoli ar gyfer y staff a oedd ar ôl. Cefnogodd y Cynghorydd Barbara Smith yr argymhelliad a chadarnhaodd fod y gwaith yn rhan o’r rhaglen foderneiddio. Roedd y Cynghorydd Hugh Irving yn siomedig na fu modd dod o hyd i ddefnydd arall a theimlai nad oedd yn gwneud synnwyr o ran busnes i symud o eiddo rhydd-ddaliad  a pharhau i brydlesu swyddfeydd mewn lleoliad arall. Eglurodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill fod y cynnig yn gadarn yn ariannol a bod y gost o brydlesu 64 Brighton Road yn sicrhau gwerth da am arian. Credai’r Cynghorydd Gareth Sandilands y byddai symud o Dŷ Nant yn niweidiol i’r dref. Mewn ymateb i gwestiynau cadarnhaodd y Rheolwr Eiddo fod yr adeilad wedi ei farchnata’n annibynnol ac y byddai’n cael ei ddiogelu a’i fonitro’n rheolaidd unwaith y byddai’n wag.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cefnogi ac yn cymeradwyo’r cynnig i symud o adeilad Tŷ Nant a’i gynnal mewn cyflwr diogel a saff a pharhau i farchnata’r adeilad i’w brydlesu, yn dibynnu ar ddatblygu briff cynllunio i hwyluso cynllun datblygu hirdymor ar gyfer safle Nant Hall Road.

 

Bu i’r Cynghorydd Hugh Irving ymatal rhag pleidleisio ar y mater hwn.

 

 

12.

LLEOLIAD RHENT CYFRIF REFENIW TAI, CYLLIDEBAU REFENIW A CHYFALAF 2014/15 pdf eicon PDF 99 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a Chymunedau (copi'n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i'r cynnydd arfaethedig mewn  Rhent  a Thâl Gwasanaeth a Chyllidebau Cyfalaf ar Refeniw Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2014/15.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD -

 

(a)       mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2014/15 (Atodiad 1) a Chynllun Busnes y Stoc Tai (Atodiad 2);

 

(b)       cynyddu rhenti anheddau Cyngor yn unol â chanllawiau Polisi Gosod Rhent Llywodraeth Cymru (4.59% yr wythnos ar gyfartaledd) o ddydd Llun 7 Ebrill 2014;

 

(c)        cynyddu rhenti garejis y Cyngor yn unol â Rhenti Awgrymedig (4.59% yr wythnos ar gyfartaledd) a chynyddu Taliadau Gwresogi o 7.5% o ddydd Llun 7 Ebrill 2014;

 

(d)       cymeradwyo blaenoriaethau'r rhaglen gyfalaf ar gyfer buddsoddi stoc ar gyfer 2014 - 2019 (Atodiad 3) yn amodol ar ymarfer tendro llawn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Irving adroddiad yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r cynnydd arfaethedig mewn Rhent a Thâl Gwasanaeth a Chyllidebau Cyfalaf a Refeniw Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer  2014/15.  Arweiniodd yr aelodau trwy ffigyrau’r gyllideb a’r rhesymau dros y cynnydd arfaethedig mewn rhent a thaliadau.

 

Yn sgil y prinder garejys yng Nghynwyd, roedd y Cynghorydd Huw Jones yn awyddus i sicrhau bod yr adolygiad a gynlluniwyd o garejys y cyngor yn cael ei gynnal. Ymatebodd swyddogion  i gwestiynau ynglŷn â’r rhaglen gyfalaf ar gyfer buddsoddi mewn stoc gan ymhelaethu ar waith trwsio a nodwyd, costau cynnal  a gwella yn deillio o’r adolygiad a wnaed yn ddiweddar i’r stoc tai. Roedd y Cyngor yn mynd rhagddo’n unol â'r Safon Ansawdd Tai Cymru a oedd wedi canolbwyntio’n helaeth ar elfennau mewnol. Ar ôl cyflawni hynny byddai buddsoddiad yn cael ei dargedu ar gyfer elfennau allanol.

 

PENDERFYNWYD bod 

 

(a)       Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2014/15 (Atodiad 1) a Chynllun Busnes y Stoc Tai (Atodiad 2) yn cael eu mabwysiadu;

 

(b)       rhenti ar gyfer tai’r Cyngor yn cynyddu yn unol â chanllawiau’r Polisi Gosod Rhenti gan Lywodraeth Cymru (cyfartaledd o 4.59% yr wythnos) yn weithredol o ddydd Llun 7 Ebrill 2014;

 

(c)        rhenti ar gyfer garejys y Cyngor yn cynyddu yn unol â Rhenti Awgrymedig  (cyfartaledd o 4.59% yr wythnos) a Thaliadau Gwresogi ar sail 7.5% yn weithredol o ddydd Llun 7 Ebrill 2014, a

 

(d)       bod blaenoriaethau’r rhaglen gyfalaf ar gyfer buddsoddi mewn stoc am y cyfnod 2014 - 2019 yn cael eu cymeradwyo (Atodiad 3) ac yn amodol ar ymarferiad tendro llawn.

 

 

13.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 100 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi'n amgaeedig) yn rhoi diweddariad ar sefyllfa ariannol bresennol y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth a gytunwyd ar gyfer y gyllideb, a

 

(b)       cymeradwyo’r trosglwyddiad canlynol i’r cronfeydd wrth gefn a nodir yn Adran 6 yr adroddiad:

 

  • £66 mil i’r gronfa Cynllunio wrth gefn (ffioedd a dderbyniwyd yn y flwyddyn gyfredol)
  • £134 mil i Gronfa Newid Sianel (Cwsmeriaid a Chymorth Addysg)
  • £121 mil i Gronfa Addysg y Tu Allan i'r Sir

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor -

 

·        rhagwelid tanwariant o £991k ar draws cyllidebau corfforaethol a gwasanaeth

·        roedd 89% o arbedion y cytunwyd arnynt wedi eu sicrhau hyd yma (targed £3.061m)

·        tynnwyd sylw at amrywiannau allweddol mewn cyllidebau neu dargedau arbedion yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol

·        symudiad cadarnhaol o £261k ar weddillion ysgolion a ddygwyd ymlaen o 2012/13

·        diweddariad cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf a Chyfrif Refeniw Tai.

 

Hefyd gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo ti throsglwyddiad i gronfeydd wrth gefn fel y manylir yn adran 6 o’r adroddiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams fod Ysgol Rhyl High wedi sicrhau gwelliannau mewn safonau addysgol heb gyllid ychwanegol. O ganlyniad awgrymodd fod peth gwaith yn cael ei wneud o safbwynt cyllid ysgolion i ganfod a oedd gwerth am arian yn cael ei sicrhau. Cytunodd Pennaeth Cyllid ac Asedau y byddai’n edrych ar y mater ymhellach gyda Phennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Ysgolion.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)       yn nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac

 

(b)       yn cymeradwyo’r trosglwyddiad canlynol i gronfeydd wrth gefn fel y manylir yn Adran 6 o’r adroddiad:

 

  • £66k i gronfa Cynllunio wrth gefn o safbwynt ffioedd a dderbyniwyd yn y flwyddyn bresennol
  • £134k i Gronfa Newid Sianel (Cwsmeriaid a Chymorth Addysg)
  • £121k i Gronfa wrth gefn Lleoliad Addysg y Tu Allan i’r Sir.

 

 

14.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 95 KB

Derbyn Rhaglen Waith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu a nodi ei chynnwys. 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd aelodau nifer o newidiadau.

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 2.10 p.m.