Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
CROESO Croesawodd yr Arweinydd bawb i'r cyfarfod. Soniwyd bod disgyblion Ysgol Dinas Bran yn bresennol i arsylwi’r trafodion. |
|
DEISEB Cyflwynodd y Cynghorydd Martyn Holland ddeiseb i'r Arweinydd ar ran Cyngor
Cymuned Llandegla yn gofyn i'r Cyngor gyflwyno terfyn cyflymder 20 mya diofyn
yn Llandegla ar yr holl ffyrdd preswyl. Cydnabu'r Arweinydd y
ddeiseb gan nodi y byddai'n cael ei hanfon at y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau
Amgylcheddol i'w hystyried. |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu rai sy’n rhagfarnu gydag unrhyw fater
a nodwyd y dylid ei ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd
cysylltiad personol na chysylltiad sy’n rhagfarnu gan unrhyw un. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
ddatganiad cysylltiad personol nac un sy'n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2013 (copi ynghlwm). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2013 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2013. PENDERFYNWYD bod
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2013 yn cael eu cymeradwyo fel
cofnod cywir a'u llofnodi gan yr Arweinydd. |
|
YSGOL CLOCAENOG AC YSGOL CYFFYLLIOG PDF 122 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi ynghlwm)
yn nodi manylion canfyddiadau ymgynghoriad ffurfiol ynglŷn â dyfodol Ysgol
Clocaenog ac Ysgol Cyffylliog a gofyn am gefnogaeth i gyhoeddi’r cynigion
statudol hanfodol ar gyfer cau’r ddwy ysgol a chreu ysgol newydd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet - (a) yn nodi
canfyddiadau'r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer cau Ysgol Clocaenog ac Ysgol
Cyffylliog ac agor ysgol ardal newydd ar y ddau safle presennol; (b) yn cymeradwyo
cyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Clocaenog ac Ysgol Cyffylliog ar 31
Awst 2014 ac i agor ysgol ardal newydd ar y safleoedd presennol ar 1 Medi 2014,
a (c) chadarnhau'r
ymrwymiad i weithio tuag at ddarparu ysgol ardal newydd ar un safle yn amodol
ar argaeledd cyllid cyfalaf. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad
yn manylu canfyddiadau'r ymgynghoriad ffurfiol ar ddyfodol Ysgol Clocaenog ac
Ysgol Cyffylliog ac yn ceisio cefnogaeth i gyhoeddi’r cynigion statudol
gofynnol i gau’r ddwy ysgol a chreu ysgol ardal newydd. Derbyniodd yr aelodau gefndir y cynnig sy'n codi
o'r adolygiad o ysgolion cynradd yn ardal Rhuthun er mwyn caniatáu buddsoddiad
i wella cyfleusterau addysgol tra hefyd yn lleihau lefel gyffredinol y lleoedd
dros ben. Roedd yr adroddiad yn ymwneud ag un o'r chwe chynnig a gymeradwywyd gan y
Cabinet ar 25 Mehefin 2013. Yn ystod y drafodaeth eglurwyd oherwydd maint
adolygiad Rhuthun bu'n rhaid cynnal y broses mewn camau a chyflwynwyd y cynnig
hwn yn ystod y cam cyntaf oherwydd yr angen am hysbysiad statudol. Byddai cynigion pellach mewn cysylltiad ag
ysgolion eraill yn cael eu cyflwyno ar yr adeg briodol yn y broses adolygu
gyffredinol. Rhoddwyd sicrwydd nad oedd yr un cynnig wedi’i flaenoriaethu dros un arall
a byddai gofynion ariannu yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet ar yr un pryd. Roedd ymrwymiadau cyllido cyfredol, ynghyd
â phrosiectau dangosol a chostau’r adolygiad wedi eu hatodi i'r adroddiad. Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau a gofynnwyd am
sicrwydd ynglŷn â gwahanol agweddau ar y cynnig. Cydnabu'r Cynghorydd Bobby Feeley yr
anawsterau a'r gwaith helaeth ynghlwm wrth gynnal adolygiad ardal Rhuthun ond
cwestiynodd hyfywedd y cynigion. Mynegodd amheuon ynghylch y cyfiawnhad dros gynigion penodol, gan amlygu
nifer o feysydd sy'n peri pryder, a holodd am y rhesymeg y tu ôl i'r
argymhellion a'r goblygiadau posibl ar gyfer ysgol newydd yn Rhuthun. Cyflwynwyd yr ymatebion canlynol i faterion a
godwyd gan aelodau - ·
byddai
cyllid ar gyfer cludiant ysgol yn cael ei ddarparu i ddisgyblion i'r ysgol
newydd tra’r oedd yn bodoli ar ddau safle ·
roedd
pryderon ynghylch addasrwydd y rhwydwaith ffyrdd wedi eu cydnabod ac ymdrechir
i sicrhau bod ffyrdd yn glir ac yn flaenoriaeth ar gyfer graeanu ·
Penderfynir ar gapasiti a
nifer mynediad yn yr adeilad newydd fel rhan o'r broses ddylunio er mwyn
sicrhau na grëwyd lleoedd dros ben sylweddol ·
roedd
y rhesymau y tu ôl i'r penderfyniad i uno'r ddwy ysgol yn hytrach na
ffedereiddio wedi eu manylu gyda’r ardal dalgylch eang; lleoliadau anghysbell,
a niferoedd disgyblion yn y ddwy ysgol yn ffactorau perthnasol ·
byddai'r
model arfaethedig yn cryfhau'r ddarpariaeth addysgol a sicrhau bod disgyblion
yn cael y cyfleoedd a darpariaeth cwricwlwm gorau posibl ·
eglurwyd
y broses gategoreiddio ar gyfer faint o addysg drwy gyfrwng y Gymraeg gafodd ei
chyflwyno o fewn ysgolion yn gyffredinol. Mewn ymateb i gwestiynau yn ymwneud â chynigion ar
gyfer ysgolion eraill yn ardal Rhuthun, rhoddodd swyddogion ddiweddariad ar
gynnydd ac eglurwyd y rhesymeg y tu ôl i'r cynigion unigol yn seiliedig ar
nifer o ffactorau sy'n berthnasol i'r ysgolion hynny. Cadarnhaodd y Cynghorydd Eryl Williams ei
ymrwymiad i ysgol newydd yn Rhuthun ac addawodd i sicrhau y byddai ardal
Rhuthun yn derbyn addysg a chyfleusterau o ansawdd o'r radd flaenaf o ganlyniad
i'r broses adolygu. Amlygodd y Cynghorydd David Smith natur gymhleth
yr adolygiad a chefnogodd y cynnig ar gyfer dyfodol Ysgol Clocaenog ac Ysgol
Cyffylliog i sicrhau addysg o ansawdd ar gyfer yr ardal. Ychwanegodd y Cynghorydd Hugh Irving ei
gefnogaeth i'r cynnig er mwyn darparu'r addysg orau ar gyfer cenedlaethau'r
dyfodol. Cydnabu'r Arweinydd bod angen gwneud penderfyniadau anodd gan bwysleisio
cyfrifoldeb aelodau i sicrhau cynaliadwyedd a gwelliant mewn safonau addysg. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) nodi canfyddiadau'r
ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer cau Ysgol Clocaenog ac Ysgol Cyffylliog ac agor
ysgol ardal newydd ar y ddau safle presennol; (b) cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Clocaenog ac Ysgol Cyffylliog ar 31 Awst ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
STRATEGAETH Y PARTH CYHOEDDUS PDF 115 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus (copi
ynghlwm) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet ar gyfer drafft Strategaeth y Parth
Cyhoeddus a’r Cynllun Gwella perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet - (a) yn
cymeradwyo’r
Strategaeth Parth Cyhoeddus ddrafft a'r Cynllun Gwella yn amodol ar gynnwys mwy
o fanylion yn y Cynllun Gwella am weithgareddau gwella mewn perthynas â thipio
anghyfreithlon a masnachu cwrt blaen, ac (b) yn cytuno i
adolygiad o'r Cynllun Gwella yn flynyddol, gyda diweddariadau ar gynnydd i gael
eu darparu drwy'r broses Herio Gwasanaeth ar gyfer y gwasanaethau perthnasol, a
chyda chyfranogiad yr Aelod Arweiniol. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith yr adroddiad
yn ceisio cadarnhad y Cabinet i'r Strategaeth Parth Cyhoeddus ddrafft a'r
Cynllun Gwella cysylltiedig (ynghlwm wrth yr adroddiad) yn amlinellu'r ffordd
yr oedd y Cyngor yn bwriadu delio â materion sy'n effeithio ar y parth
cyhoeddus o fewn y sir. Roedd y Strategaeth wedi’i chynhyrchu er mwyn
datblygu eglurder a chydlyniaeth, sicrhau gwell cydweithio a dull mwy
corfforaethol o ymdrin â materion y parth cyhoeddus fel yr argymhellwyd mewn
adroddiad Archwiliad Mewnol diweddar. Wrth hyrwyddo’r Strategaeth ymhelaethodd y
Cynghorydd Smith ar y pedair egwyddor strategol a oedd wedi'u hymgorffori yn y
ddogfen. Rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau, y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts drosolwg o'r ddadl craffu ar y Strategaeth yn
cadarnhau bod y pwyllgor wedi bod yn hapus i gymeradwyo'r Strategaeth yn amodol
ar gynnwys cyfeiriadau at ddiwylliant y Cyngor; pwysigrwydd ymgynghori ac
ymagwedd gydlynol ac ar y cyd ynghyd â nodau ac amcanion allweddol a nodwyd. Ystyriodd y Cabinet yr adroddiad a thrafodwyd y
materion canlynol - ·
codwyd cyfrifoldeb am gynnal a
chadw mannau chwarae a mynegodd y Cynghorydd Huw Jones bryderon bod arwyddion y
Cyngor Sir wedi eu lleoli mewn rhai meysydd chwarae lle nad oeddent yn gyfrifol
amdanynt a all olygu goblygiadau o ran atebolrwydd - gofynnodd i'r mater hwn
gael ei archwilio ymhellach a bod y rhai sy'n atebol dros gynnal meysydd
chwarae yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau cynnal a chadw a diogelwch offer
chwarae. Rhoddodd y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol (HHES) sicrwydd y
cynhelir archwiliadau mewn meysydd chwarae a bod y rhai sy'n atebol yn
ymwybodol o'u cyfrifoldebau drwy'r broses honno. Cytunodd i adrodd yn ôl ar y nifer o feysydd
chwarae o fewn y sir a'r rhai sy'n gyfrifol amdanynt. Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol
Cwsmeriaid i gysylltu â chynghorau tref/cymuned ar y mater er mwyn egluro
unrhyw gamddealltwriaeth a allai fodoli ·
Bwriedir
datblygu polisi a gweithdrefnau tipio anghyfreithlon yn ystod 2014/15 er mwyn
rheoli'r mater ·
Amlygodd
y Cynghorydd Barbara Smith nifer o faterion a godwyd yn y Cynllun Corfforaethol
Chwarter 2 sy'n ymwneud â’r parth cyhoeddus a gofynnodd yn benodol i dipio
anghyfreithlon gael ei gynnwys fel gweithgaredd gwella penodol o fewn y
ddogfen. Nodwyd y byddai'r Pwyllgor Craffu Cymunedau’n craffu ar reolaeth tipio
anghyfreithlon yn eu cyfarfod nesaf ·
mewn
ymateb i fater a godwyd gan y Cynghorydd Bobby Feeley dywedodd yr HHES am y
broses dendro a dyfarnu contract ar gyfer cyflenwi basgedi crog i Ganolfan
Arddio Aberchwiler ·
Amlygodd
yr Arweinydd bwysigrwydd datblygu cyswllt gyda chynlluniau tref ac ardal yn
fuan o fewn y strategaeth a chadarnhaodd HHES bod llawer o'r cynlluniau hynny
eisoes yn cynnwys nifer o gamau ar y parth cyhoeddus ·
mewn
cysylltiad â’r Archwiliad o Arwyddion Strydoedd dywedodd y Cynghorydd Huw Jones
am waith y Fforwm Dwyieithrwydd er mwyn bwrw ymlaen â'r mater iaith ·
Amlygodd
y Cynghorydd Joan Butterfield fasnachu blaengwrt fel mater yng Nghanol Tref Y
Rhyl a gofynnodd iddo gael ei gynnwys yn y Strategaeth. Cadarnhaodd y Cynghorydd David Smith ei
fod hefyd yn fater gorfodi i swyddogion ei ymchwilio. Croesawodd yr Aelodau’r strategaeth er mwyn darparu ymagwedd gydlynol a
chydgysylltiedig i faterion y parth cyhoeddus a chan ystyried sylwadau a wnaed
- PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) cymeradwyo
Strategaeth y Parth Cyhoeddus drafft a'r Cynllun Gwella yn amodol ar gynnwys
mwy o fanylion am weithgareddau gwella o safbwynt tipio anghyfreithlon a masnachu
blaengwrt yn y Cynllun Gwella, a (b) chytuno i
adolygiad o'r Cynllun Gwella’n flynyddol, gyda diweddariadau ar gynnydd drwy'r
broses Herio Gwasanaeth ar gyfer y gwasanaethau perthnasol, a chyda
chyfranogiad yr Aelod Arweiniol. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL (CHWARTER 2 2013/14) PDF 85 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol Moderneiddio a
Pherfformiad (copi ynghlwm) yn diweddaru’r Cabinet ynglŷn â darparu’r
Cynllun Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd chwarter 2 2013/14. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cynnydd a wnaed o ran cyflawni'r Cynllun Corfforaethol. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith yr adroddiad
yn diweddaru'r Cabinet ar y gwaith o gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2012-17
ar ddiwedd chwarter 2 2013/14. Roedd yr adroddiad yn crynhoi pob canlyniad yn y
Cynllun Corfforaethol ac agweddau perfformiad allweddol. Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn
dangos cynnydd derbyniol o ran cyflawni'r Cynllun. Roedd y Pwyllgor Craffu Perfformiad wedi ystyried
yr adroddiad a rhoddodd y Cynghorydd Smith drosolwg o'r ddadl craffu gan dynnu
sylw at nifer o bryderon ac argymhellion. Hefyd pwysleisiodd pa mor bwysig yw sicrhau bod
data gwasanaeth ar gael ar y cyfle cyntaf er mwyn cynhyrchu canlyniadau
mesuradwy. Ailadroddodd y Cynghorydd David Simmons,
Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad prif bryderon y pwyllgor a oedd
yn ymwneud â - ·
chanran
y gwerthusiadau perfformiad a gwblhawyd ·
y
defnydd o ystafelloedd dosbarth symudol ar draws y sir ·
y
ffigurau incwm canolrifol a ddefnyddir i gyfrifo amddifadedd Nodwyd y byddai adroddiadau ar y defnydd o
ystafelloedd dosbarth symudol a thipio anghyfreithlon yn cael eu hystyried gan
y pwyllgor archwilio ym mis Ionawr a byddai hefyd yn monitro canran y
gwerthusiadau perfformiad a gwblhawyd. Mewn ymateb i'r materion a godwyd a'r cwestiynau a
ofynnwyd gan aelodau yn ystod y drafodaeth a ddilynodd derbyniwyd yr ymatebion
canlynol - ·
roedd
y ffigurau diweddaraf oedd ar gael wedi eu defnyddio i gyfrifo dangosyddion ar
gyfer mynd i'r afael ag amddifadedd a thlodi a chydnabuwyd ers hynny bod
ffigyrau mwy cyfoes wedi eu cyhoeddi ·
gall
perfformiad gwael ar gyfer cwblhau gwerthusiadau fod yn rhannol o ganlyniad i
fecanweithiau cofnodi ac roedd gwaith yn parhau i fynd i'r afael â'r mater hwn ·
roedd
tipio anghyfreithlon wedi’i nodi fel mater oherwydd bod achosion wedi’u cofnodi
yn wahanol i gynghorau eraill - roedd y rhan fwyaf o achosion yn ymwneud â
gwastraff masnach na chafodd ei dderbyn yn y canolfannau ailgylchu ·
roedd
canlyniad y gyfran o’r boblogaeth oedolion oedd yn methu byw yn annibynnol o
ganlyniad i fater hanesyddol yn ymwneud â deddfwriaeth budd-daliadau ·
roedd
allyriadau carbon wedi lleihau i’r fath lefel nad oedd angen i'r cyngor fod yn
rhan o'r cynllun tariff ac roedd y gwariant ar gostau ynni yn awgrymu bod y
lefelau wedi cael sylw – byddai mesurau newydd ar gyfer allyriadau carbon yn
cael eu cyflwyno’n fuan er mwyn mesur llwyddiant ·
roedd
y Bwrdd Uchelgais Economaidd wedi cytuno ar gynllun busnes er mwyn mynd i'r
afael â dibynadwyedd signal digidol/symudol a dderbynnir mewn adeiladau ·
Cynhaliwyd
adolygiad o gerbydau fflyd yn ddiweddar ac roedd maint a nifer y cerbydau wedi
lleihau gan greu arbedion o tua £250m. Dywedodd y Prif Weithredwr fod cynnydd cyflawni'r
Cynllun Corfforaethol yn ôl y disgwyl ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn a thynnodd
sylw'r aelodau at y canlynol - ·
y canlyniad rhagorol yn
gyffredinol o ran galluogi pobl ddiamddiffyn i fyw'n annibynnol yn Sir Ddinbych ·
byddai
cwblhau gwerthusiadau perfformiad yn derbyn sylw fel blaenoriaeth ·
roedd
dangosyddion penodol ar gyfer Addysg a Ffyrdd yn achosi rhywfaint o bryder a
byddai angen ymchwilio a herio pellach. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cynnydd a wnaed o ran cyflawni'r Cynllun Corfforaethol. Yn y fan hon
(11.45 am) torrodd y cyfarfod am egwyl lluniaeth. |
|
ADNEWYDDU CONTRACT – MATRICS PDF 70 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol Moderneiddio a
Pherfformiad (copi ynghlwm) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet i adnewyddu
Contract Matrics ar gyfer Fframwaith MSTAR. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cytuno i adnewyddu'r Contract Matrics drwy fframwaith MSTAR. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith yr adroddiad
yn ceisio cefnogaeth y Cabinet i adnewyddu'r contract presennol gyda Matrix
SCM, drwy fframwaith MSTAR, ar gyfer rheoli gweithwyr asiantaeth y Cyngor a
thrwy hynny’n gwella rheolaeth, diogelu a gwelededd, yn ogystal â sicrhau
arbedion effeithlonrwydd. Roedd y contract yn rhan o gytundeb ar y cyd ag
awdurdodau lleol Sir y Fflint a Wrecsam. Oherwydd gwerth y contract roedd angen derbyn
cymeradwyaeth y Cabinet i symud ymlaen. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw oblygiadau ariannol yn
codi o'r argymhelliad oherwydd ei fod yn cynnwys adnewyddu contract presennol. Mewn ymateb i gwestiynau dywedodd y
Rheolwr Gwasanaethau Adnoddau Dynol am y broses o fonitro'r contract a rhoddodd
fwy o fanylion am yr arbedion ers iddynt ddefnyddio Matrics SCM. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cytuno i adnewyddu'r Contract Matrics drwy fframwaith MSTAR. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi ynghlwm) yn nodi manylion y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a
chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb a gytunwyd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi’r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd
arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn manylu’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r cynnydd yn erbyn y
strategaeth gyllideb a gytunwyd. Darparodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn - ·
rhagwelwyd
tanwariant o £656m ar draws cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
roedd
72% o arbedion y cytunwyd arnynt wedi eu cyflawni hyd yma (targed £3.061m) ·
tynnodd
sylw at amrywiannau allweddol mewn cyllidebau neu dargedau arbedion sy'n
ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol ·
roedd
symudiad cadarnhaol o £45m ar weddillion ysgolion a ddygwyd ymlaen o 2012/13 ·
rhoddodd
ddiweddariad cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf a'r Cyfrif Refeniw Tai. Tynnodd yr Arweinydd sylw'r aelodau at yr elfen
Cynllun Corfforaethol yn y Cynllun Cyfalaf yn rhoi manylion prosiectau ar gyfer
gwariant cyfalaf, gan gynnwys ysgolion. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r cynnydd yn erbyn strategaeth
y gyllideb a gytunwyd. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 112 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet amgaeedig a nodi’r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans Raglen Gwaith
i’r Dyfodol y Cabinet i'w hystyried. Nododd y Cabinet y byddai adroddiad ar y Cynlluniau Tref ac Ardal yn cael
ei gyflwyno ym mis Ionawr ac y byddai adroddiad ar y Model Cenedlaethol ar
gyfer Gwella Ysgolion yn cael ei gyflwyno ym mis Chwefror. Nodwyd hefyd y gall yr adroddiad ar
Hamdden Clwyd a drefnwyd ar gyfer Ionawr fod yn hwyr. PENDERFYNWYD bod
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet yn cael ei nodi. |
|
GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD PENDERFYNWYD
o dan Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol
1972, bod y Wasg a'r Cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol ar y sail ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth
eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972. |
|
DYFARNU CONTRACT AR GYFER GWAREDU GWASTRAFF GWEDDILLIOL
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth
Cyhoeddus (copi ynghlwm) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu
contractau ar gyfer casglu gwastraff gweddilliol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo rhoi dau gytundeb i’r contractwyr a enwyd fel y nodwyd
yn yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith yr adroddiad
cyfrinachol yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contractau ar gyfer
gwaredu gwastraff gweddilliol a gesglir. Roedd gwybodaeth am y broses dendro, ynghyd â'r
rhesymau y tu ôl i'r argymhellion i rannu'r gwaith rhwng dau gynigydd wedi eu
cynnwys yn yr adroddiad. Roedd angen cymeradwyaeth y Cabinet gan fod y contract yn fwy nag £1m. Trafododd y Cabinet fanylion y contract gyda
swyddogion a eglurodd faterion penodol mewn ymateb i gwestiynau ar hynny. Nododd yr aelodau fanteision dyfarnu dau
gontract ar gyfer gwaredu gwastraff gweddilliol a - PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo dyfarnu dau gontract i'r contractwyr a enwir fel y manylir
yn yr adroddiad. Daeth y cyfarfod i ben am 12.25pm |