Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Cafwyd
ymddiheuriadau gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid Cofnodion: Roedd
ymddiheuriadau wedi dod i law oddi wrth y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Cwsmeriaid. |
|
DATGAN BUDDIANT Dylai Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu rai sy’n rhagfarnu gydag unrhyw fater
a nodwyd y dylid ei ystyried yn y cyfarfod hwn.
Penderfyniad: Ni wnaed unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol na buddiant sy’n rhagfarnu. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
ddatganiad o gysylltiad personol na rhagfarnus. |
|
MATERION BRYS
Rhybudd o
faterion y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo setlo hawliadau tâl cyfartal presennol y Cyngor ar y sail a nodwyd
yn yr adroddiad fel y cytunwyd mewn egwyddor gyda Chyfreithwyr yr Hawlwyr. Cofnodion: Yn unol â
gofynion Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, datganodd yr Arweinydd ei
fod yn bwriadu cynnwys ar gyfer trafodaeth y mater cyfrinachol canlynol yr oedd
gofyn rhoi sylw iddo ar frys – DIWEDDARIAD AR IAWNDAL AM GYFLOG CYFARTAL.
Cytunwyd y byddai’r mater yn cael ei drafod yn ddiweddarach yn y cyfarfod dan
Ran II yr agenda. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 29 Hydref 2013 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Hydref 2013 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 29 Hydref 2013. PENDERFYNWYD
y dylai cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Hydref gael eu cymeradwyo fel
cofnod cywir a’u llofnodi gan yr Arweinydd. |
|
Rhoi ystyriaeth i
adroddiad gan y Cynghorydd Huw Jones, yr Aelod Arweiniol dros Dwristiaeth,
Hamdden a Ieuenctid (copi'n amgaeedig) yn ceisio cefnogaeth y Cabinet i sefydlu
Cyd-bwyllgor AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet - (a) yn cefnogi
ffurfio Cydbwyllgor ar gyfer AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, (b) yn cytuno fod yr
Awdurdod yn llofnodi Cytundeb Cyfreithiol gyda Wrecsam a Sir y Fflint sy’n cael
ei baratoi gan yr adran gyfreithiol, yr adran gyllid a’r swyddog AHNE. (c) bod y Cydbwyllgor a’r
Bartneriaeth AHNE yn sicrhau y caiff aelodau lleol sydd â wardiau'n gyfan gwbl
neu'n rhannol o fewn ardal yr AHNE yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am y
materion a ystyrir gan y Cydbwyllgor a’r Bartneriaeth AHNE. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Jones yr adroddiad a
oedd yn ceisio cefnogaeth y Cabinet i ffurfio Cydbwyllgor (CB) ar gyfer AHNE
Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a oedd bellach yn ymestyn ar draws Wrecsam, Sir
y Fflint a Sir Ddinbych. Roedd Pwyllgor presennol yr AHNE wedi argymell CB i
gryfhau perthnasoedd ag awdurdodau lleol a sicrhau llywodraethu da. Roedd
Arweinwyr, Prif Weithredwyr a Swyddogion Arweiniol o’r tri awdurdod lleol wedi
bod yn gefnogol i’r dull. Fe ymatebodd y Prif Swyddog Cefn Gwlad (PSCG) i
gwestiynau’r aelodau, gan ymhelaethu ar y gofynion ar gyfer creu CB ynghyd â’r
cynigion o ran aelodaeth, pwerau a rolau, cymorth gweithredol a’r manteision y
byddai dull o’r fath yn eu dwyn. Roedd y Cabinet yn gefnogol i ddull
partneriaeth ond yn ceisio sicrwydd ynghylch y rhan y byddai aelodau lleol yn
ei chwarae yn y broses ynghyd ag atebolrwydd lleol. Eglurodd y PSCG y byddai
aelodaeth y CB yn cael ei phennu gan bob awdurdod unigol ac y byddai’n cael ei
hategu gan Bartneriaeth a Fforwm Blynyddol ar gyfer yr AHNE a fyddai’n cynnwys
aelodau lleol. Byddai’r CB hefyd yn adrodd yn ôl wrth
weithrediaethau/pwyllgorau’r awdurdodau lleol. Mewn ymateb i gwestiwn gan yr
Arweinydd amlygodd y PSCG yr effaith a gwerth economaidd posib i’r ardal o
ganlyniad i’r AHNE ehangedig, yn benodol o ran twristiaeth a chyllid grant a
fyddai’n arwain at ddatblygu prosiectau amrywiol. PENDERFYNWYD gan y Cabinet – (a) ei fod yn cefnogi’r syniad o ffurfio Cydbwyllgor
ar gyfer AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy; (b) ei fod yn cytuno y dylai’r Awdurdod
lofnodi gyda Wrecsam a Sir y Fflint y Cytundeb Cyfreithiol a baratowyd gan y
gwasanaethau cyfreithiol, ariannol a Swyddog yr AHNE fel y nodir yn yr atodiad wrth
yr adroddiad, ac (c) y dylai’r Cydbwyllgor a Phartneriaeth yr
AHNE sicrhau bod aelodau lleol y mae eu wardiau’n gyfan gwbl neu'n rhannol o
fewn ardal yr AHNE yn cael diweddariad ac yn cael eu hysbysu’n rheolaidd
ynghylch y busnes a fydd yn cael ei ystyried gan y Cydbwyllgor a Phartneriaeth
yr AHNE. |
|
CYNLLUN COMISIYNU LLEOL SIR DDINBYCH CEFNOGI POBL 2014-15 a 2015-16 PDF 94 KB Rhoi ystyriaeth i
adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, yr Aelod Arweiniol dros Ofal
Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant (copi'n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet i Gynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl 2014-15 a 2015-16 er mwyn ei
gyflwyno i Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gogledd Cymru ac i Lywodraeth
Cynulliad Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo'r Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl Lleol ar gyfer 2014/15
a 2015/16 a’i gyflwyno i Bwyllgor Gwaith Cydweithio Rhanbarthol Gogledd Cymru a
Llywodraeth Cymru. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feely yr adroddiad a
oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r Cynllun Comisiynu Lleol (CCLl)
Cefnogi Pobl 2014/15 a 2015/16 cyn ei gyflwyno i Bwyllgor Cydweithredol
Rhanbarthol Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru. Cadarnhaodd fod y Pwyllgor
Archwilio Cymunedau wedi ystyried a chefnogi’r CCLl. Roedd Cefnogi Pobl (CP) yn fframwaith polisi a
ffrwd cyllido a oedd yn rhoi cymorth sy’n gysylltiedig â thai i bobl agored i
niwed. Tynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles sylw aelodau at
y prif flaenoriaethau strategol a chamau gweithredu arfaethedig a oedd wedi’u
cynnwys yn yr adroddiad ynghyd â goblygiadau o ran cyllid sy’n deillio o’r
fformwla cyllido newydd a thoriadau cyllido cyffredinol. Roedd y cynigion ar
gyfer toriadau wedi cael eu cyflawni mewn ffordd strategol ac roedd buddsoddiad
hefyd ym Mhrosiect Ieuenctid Dinbych a oedd wedi cael ei adnabod fel maes lle
mae angen sylweddol yn bodoli. PENDERFYNWYD
y dylai’r Cabinet gymeradwyo’r Cynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl ar gyfer
2014/15 a 2015/16 a’r cynnig i’w gyflwyno i Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol
Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru. |
|
CYNLLUNIAU TREF AC ARDAL PDF 115 KB Rhoi ystyriaeth i
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol
dros Ddatblygu Economaidd (copi’n amgaeedig) yn rhoi diweddariad i’r Cabinet
ynglŷn â Chynlluniau Tref ac Ardal ac yn ceisio mabwysiadu Cynlluniau
Ardal Llangollen, Corwen a Llanelwy a chymeradwyo cyllid ar gyfer y blaenoriaethau
sydd wedi'u cynnwys o fewn y cynlluniau hynny. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet - (a) yn cymeradwyo
mabwysiadu'r Cynlluniau Ardal (sy’n cynnwys y Cynlluniau Tref presennol) ar
gyfer Llangollen, Corwen a Llanelwy; (b) yn cymeradwyo'r
cyllid ar gyfer y blaenoriaethau a nodir yn y Cynlluniau Ardal a gyfeirir atynt
uchod; (c) yn nodi'r
amserlen ar gyfer Cynlluniau Tref ac Ardal yn y dyfodol, ac (d) yn nodi'r
datganiadau sefyllfa ar sefyllfa ariannol bresennol y Cynlluniau Tref ac Ardal. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad a
oedd yn rhoi’r diweddaraf i’r Cabinet am y Cynlluniau Tref ac Ardal ac yn
ceisio cymeradwyaeth i fabwysiadu’r Cynlluniau Ardal ar gyfer Llangollen,
Corwen a Llanelwy (sydd wedi’u hatodi wrth yr adroddiad) ac i gyllido’r
blaenoriaethau a oedd wedi’u cynnwys yn y cynlluniau hynny. Roedd yr adroddiad
hefyd yn cynnwys amserlen ar gyfer cymeradwyo cynlluniau yn y dyfodol a’r
sefyllfa ariannol gyfredol. Mae’r cynlluniau newydd yn nodi’r sefyllfa
gyfredol yn y trefi a’r ardaloedd cysylltiedig, heriau a chyfleoedd allweddol
ynghyd â gweledigaeth a chamau gweithredu i gyflawni’r weledigaeth honno. Roedd
pob un o’r tri Chynllun Ardal wedi cael eu cymeradwyo gan eu priod Grŵp
Ardal Aelodau. Ymhelaethodd y Cynghorydd Huw Jones ar y broses o gysylltu’r
ardaloedd amgylchynol â threfi er mwyn adlewyrchu’r materion, camau gweithredu
a blaenoriaethau o fewn y cymunedau hynny. Adroddodd y Rheolwr Datblygu
Economaidd a Busnes ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran gwariant gan amlygu
ymrwymiadau cyllido ac elfennau cyllid cyfatebol ynghyd â’r sefyllfa a ragwelid
ar ddiwedd y flwyddyn. Fel pwynt o sylw hysbysodd y Cynghorydd Barbara
Smith fod y wardiau yn ei hardal hi wedi cael eu cysylltu â Chynlluniau Ardal
gwahanol. Roedd wedi cael ei gytuno ers hynny y byddai Cwm yn rhan o Gynllun
Ardal Llanelwy ynghyd â Thremeirchion a Waen. Trafododd y Cabinet y broses ar gyfer dyraniadau
cyllido a oedd wedi’u cynnwys yn y Cynlluniau Ardal a oedd yn seiliedig yn
bennaf ar broses gynnig ar gyfer blaenoriaethau o’i gyferbynnu â darpariaeth
osod i bob ardal. Cafodd yr angen am fwy o eglurder o ran y cyllid sydd ar gael
wrth bennu blaenoriaethau ei amlygu ynghyd ag elfennau cyllid cyfatebol a
chyllid grant allanol. Codwyd cwestiynau hefyd am hyblygrwydd y Cynlluniau
Ardal o ran ymateb i flaenoriaethau newidiol ac mewn achosion lle’r oedd y
blaenoriaethau’n wahanol i bolisi’r Cyngor Sir. Fe wnaed sylwadau ynghylch yr
amser a gymer i ddatblygu’r Cynlluniau Ardal a’r angen i ganlyn arni â’r
blaenoriaethau heb ormod o oedi. Fe ymatebodd y swyddogion i gwestiynau a
sylwadau’r aelodau fel a ganlyn – ·
fe
ymhelaethwyd ar waith a oedd yn mynd rhagddo i sicrhau bod cyllid yn cael ei
ddosbarthu’n deg ar draws y sir gyda chanllawiau pellach i drefi a chymunedau’n
cael eu paratoi ar y ffynonellau cyllid amrywiol sydd ar gael a sut y gellid
cael mynediad atynt – byddai trafodaeth yn y cyswllt hwnnw’n cael ei gynnal yn
y Bwrdd Rhaglen Uchelgais Economaidd ym mis Rhagfyr ac adroddiad gydag
argymhellion ar ddosbarthu cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer y Cabinet er
mwyn iddo ei ystyried ·
fe gadarnhawyd
y dylai cynlluniau gael eu llywio gan Grwpiau Ardal Aelodau gyda blaenoriaethau
eglur yn cael eu hadnabod ·
fe
hysbyswyd y byddai Cynlluniau Ardal yn ddogfennau byw a fyddai’n cael eu
diwygio wrth i flaenoriaethau newid ac yn cael eu hadolygu’n rheolaidd gan
Grwpiau Ardal Aelodau – roedd swyddogion wedi ymrwymo i raglen adolygu i
ddatblygu’r broses honno ac i helpu aelodau i adnabod ffynonellau cyllid i
ategu blaenoriaethau ·
fe eglurwyd
y ffactorau a oedd wedi achosi oedi wrth ddatblygu’r cynlluniau gan gynnwys y
gwaith a oedd yn gysylltiedig ag ehangu’r cynlluniau gwreiddiol, y broses
ymgynghori ac amserlennu cyfarfodydd gyda chynghorau tref/cymuned. Fe ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddai
adroddiad yn cael ei gomisiynu i asesu effaith y blaenoriaethau o fewn trefi a
chymunedau a chanfod pa effaith a gafwyd o ganlyniad. Cafodd pwysigrwydd
cysylltiadau â’r cynghorau tref/cymuned ei amlygu hefyd ynghyd â’r angen am
ddull mwy cydgysylltiedig. Rhoddodd y Cabinet gymeradwyaeth i’r Cynlluniau
Ardal fel y ffordd ymlaen ar gyfer cyflawni blaenoriaethau o fewn cymunedau
lleol. PENDERFYNWYD ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Rhoi ystyriaeth i
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr Aelod Arweiniol dros Gyllid
ac Asedau (copi’n amgaeedig) yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet - (a) yn nodi’r
sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth a gytunwyd ar
gyfer y gyllideb. (b) yn cytuno mewn
egwyddor i drefnu benthyciad i Gyngor Tref Llangollen i’w cynorthwyo gyda llif
arian i gefnogi buddsoddiad cyfalaf a dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Cyllid ac
Asedau i symud y trefniant yn ei flaen pan fydd angen. (c) cytuno i
neilltuo £100k o'r ad-daliad a wnaed dan y Cynllun Lleihau Carbon ar gyfer ei
fuddsoddi mewn cynlluniau effeithlonrwydd ynni newydd, a (d) bod astudiaeth
yn cael ei chynnal ar effaith y gostyngiad mewn taliadau parcio ceir yn Rhuthun
ar lefelau defnydd y maes parcio a’r incwm a gynhyrchir o feysydd parcio yn y
dref. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd mewn
perthynas â’r strategaeth gyllidebol gytunedig ac roedd yn ceisio cytundeb y
Cabinet mewn egwyddor i roi benthyciad byrdymor i Gyngor Tref Llangollen.
Darparodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn – ·
rhagwelid
tanwariant o £763,000 ar draws cyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol ·
roedd
67% o’r arbedion cytunedig wedi cael eu cyflawni hyd yma (targed £3.061m) ·
amlygu
amrywiannau allweddol o dargedau ar gyfer cyllidebau neu arbedion mewn
perthynas â meysydd gwasanaeth unigol ·
symudiad
cadarnhaol o £85,000 ar falensau ysgolion a ddygwyd ymlaen o 2012/13 ·
diweddariad
cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai. Gofynnwyd i’r Cabinet hefyd gymeradwyo cynnig i
neilltuo £100,000 o’r ad-daliad o £152,000 ar daliadau a wnaed dan y Cynllun
Lleihau Carbon i’w fuddsoddi mewn cynlluniau effeithlonrwydd ynni newydd. Cyfeiriodd y Cynghorydd Eryl Williams at y ffaith
bod y lefelau incwm parcio wedi gostwng ers y flwyddyn flaenorol gan achosi
pwysau o £108,000 – y prif ardaloedd yr effeithid arnynt oedd y Rhyl a
Phrestatyn. Cyfeiriodd at ddyraniad cyllid Grŵp Ardal Aelodau Rhuthun i
gymorthdalu taliadau parcio ceir yn yr ardal a gofynnodd am sicrwydd y byddai
cydraddoldeb rhwng yr ardaloedd yr effeithid arnynt i sicrhau na fyddai Rhuthun
ar ei cholled pe bai’r pwysau’n cael eu lleddfu â mesurau o fewn y
gyfarwyddiaeth. Gofynnodd hefyd am astudiaeth o’r gostyngiad mewn taliadau
parcio ceir yn Rhuthun i asesu’r effaith. Nodwyd fod peth gwaith wedi cael ei
wneud i asesu effaith y cymhorthdal yn Rhuthun ond ei bod wedi bod yn anodd dod
i gasgliad terfynol. Amlygodd y Cynghorydd David Smith yr angen am ymchwiliad
pellach i’r broses ar gyfer pennu’r gyllideb os oedd y Cyngor yn dibynnu ar daliadau
parcio ceir fel incwm. Hysbysodd y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol fod y
Pwyllgor Archwilio Cymunedau wedi cytuno y byddai adolygiad o’r polisi parcio
ceir yn cael ei gynnal ac adroddiad arno’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor
Archwilio ym mis Mawrth 2014. Cadarnhaodd y byddai’r materion a godwyd gan
aelodau’n cael eu cynnwys o fewn yr adolygiad hwnnw. Cododd y Cynghorydd Meirick Davies gwestiynau am y
pwysau ar Gludiant Ysgolion a’r angen i adolygu’r elfen cludiant dewisol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill at ddadleuon blaenorol ar y mater
ac ychwanegodd y Prif Weithredwr fod cyllideb ar wahân ar gyfer cludiant
dewisol a fyddai’n rhan o drafodaethau ynghylch cyllidebau yn y dyfodol. Nodwyd
hefyd fod y gyllideb Cludiant Ysgolion yn codi a gostwng gan ddibynnu ar nifer
y diwrnodau ysgol yn ystod y flwyddyn. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd
Bill Cowie, hysbysodd y Cynghorydd David Smith mai’r gobaith oedd y byddai’r
broses o ailstrwythuro’r Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol yn cael ei
chwblhau erbyn diwedd Mawrth 2014. PENDERFYNWYD fod y Cabinet – (a) yn nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf
a’r cynnydd mewn perthynas â’r strategaeth gyllidebol gytunedig; (b) yn cytuno mewn egwyddor ar y trefniant i roi
benthyciad i Gyngor Tref Llangollen i gynorthwyo gyda’r llif arian i ategu
buddsoddiad cyfalaf ac i ddirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Cyllid ac Asedau
ganlyn arni â’r trefniant os a phan fyddai angen; (c) yn cytuno y bydd £100,000 o’r ad-daliad a
wnaed dan y Cynllun Lleihau Carbon yn cael ei neilltuo ar gyfer ei fuddsoddi
mewn cynlluniau effeithlonrwydd ynni newydd, ac (d) yn cytuno y dylid cynnal astudiaeth o
effaith y gostyngiad mewn taliadau parcio ceir yn Rhuthun ar lefelau’r defnydd
o feysydd parcio ac incwm a geir o barcio ceir yn y dref. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 115 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu a nodi ei chynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans Flaenraglen
Waith y Cabinet i gael ei hystyried. Cytunwyd y dylid dileu’r cofnod deublyg yn
y rhaglen waith ar gyfer mis Ionawr mewn perthynas â’r Achos Busnes Caffael. PENDERFYNWYD
y dylid nodi Blaenraglen Waith y Cabinet. Ar yr adeg hon
(11.40 a.m.) torrodd y cyfarfod am egwyl lluniaeth. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, y
dylai’r wasg a’r Cyhoedd gael eu gwahardd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol am ei bod yn debygol y datgelid gwybodaeth sydd wedi’i
hesemptio fel a ddiffinnir yn Mharagraffau 14 a 15 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf
Llywodraeth Leol 1972 |
|
MATER BRYS - DIWEDDARIAD AR IAWNDAL AM GYFLOG CYFARTAL Cofnodion: [Cafodd yr eitem hon ei hystyried fel mater o
frys, wedi i’r Arweinydd roi rhybudd o hynny ar ddechrau’r cyfarfod.] Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith adroddiad
cyfrinachol a oedd yn rhoi diweddariad i’r Cabinet ar drafodaethau’r Cyngor i
setlo’i rwymedigaethau cyflog cyfartal ac yn ceisio cymeradwyaeth i’r setliad
arfaethedig a oedd yn cael ei nodi yn yr adroddiad. Rhoddodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol rywfaint o’r cefndir i’r
cynigion cyfredol ac atebodd gwestiynau’r aelodau arnynt. PENDERFYNWYD
fod y Cabinet yn cymeradwyo’r cynigion i setlo hawliadau cyflog cyfartal
cyfredol y Cyngor ar y sail a nodir yn yr adroddiad fel a gytunwyd mewn
egwyddor gyda Chyfreithwyr yr Hawlyddion.
|
|
DILEU TRETHI BUSNES
Rhoi ystyriaeth i
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr Aelod Arweiniol
dros Gyllid ac Asedau, (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i
ddileu’r Trethi Busnes nad oes modd eu hadennill fel y manylir yn yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet - (a) yn cymeradwyo
dileu Trethi Busnes na ellir eu hadfer fel y nodir yn Nhabl 1 yr adroddiad, a (b) bod y Cyngor yn
ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi ei bryderon am yr arferion a
fabwysiadir gan gwmnïau penodol i osgoi talu credydwyr a gofyn iddynt ymchwilio
i'r gofynion deddfwriaethol i gau'r bylchau hynny yn y ddeddfwriaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill Mr.
Rod Urquhart a oedd newydd gael ei benodi’n Bennaeth Refeniwiau a Budd-daliadau
(PRB). Cyflwynodd yntau adroddiad cyfrinachol a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet i ddileu Ardrethi Busnes anadferadwy ar gyfer nifer o gwmnïau lle na
fyddai camau i adfer dyledion yn parhau am eu bod naill ai wedi cael eu dirwyn
i ben neu eu diddymu. Roedd hanes manwl mewn perthynas â phob cwmni wedi cael
ei gynnwys o fewn yr adroddiad. Trafododd y Cabinet amgylchiadau’r cwmnïau dan
sylw gyda’r PRB ac fe fynegwyd pryderon ynghylch arferion a ddefnyddir gan
gwmnïau arbennig i osgoi talu i gredydwyr. Ymhelaethodd y PRB ar yr agweddau
cyfreithiol a’r camau adfer dyledion a oedd eisoes wedi cael eu cymryd ac fe
amlygodd newidiadau diweddar i weithredu’n gynharach yn y broses adennill
dyledion os oes angen. Cyfeiriodd y Cynghorydd Meirick Davies at
adroddiad diweddar gan yr Ombwdsmon ar ordalu ardrethi busnes. Hysbysodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod materion o’r fath yn
cael eu gwneud yn hysbys i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a chytunodd i
ymchwilio i’r achos penodol yr oedd y Cynghorydd Davies yn cyfeirio ato. PENDERFYNWYD gan y Cabinet – (a) y byddai’n cymeradwyo’r cynnig i ddileu’r
Ardrethi Busnes anadferadwy a nodir yn Nhabl 1 yn yr adroddiad, ac (b) y dylai’r Cyngor ysgrifennu at Lywodraeth
Cymru i fynegi ei bryderon ynghylch arferion a fabwysiedir gan gwmnïau arbennig
i osgoi talu i gredydwyr a gofyn iddi ymchwilio i’r gofynion deddfwriaethol i
gau’r diangfeydd hynny. |
|
SINEMA A CHANOLFAN GELFYDDYDAU SCALA - DIWEDDARIAD ARIANNOL Rhoi ystyriaeth i
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, (copi’n amgaeedig)
yn manylu ar sefyllfa ariannol gyfredol y cwmni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn dirprwyo awdurdod i'r Pennaeth Cyllid ac Asedau i fonitro sefyllfa
ariannol, rheoli gwasanaeth cyflogau Cwmni Scala Prestatyn Cyfyngedig a chymryd
unrhyw gamau priodol. Cofnodion: Nodwyd fod y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yn
aelod o Gyngor Tref Prestatyn ond nad oedd gofyniad iddo ddatgan cysylltiad â’r
eitem hon. Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad
cyfrinachol a oedd yn nodi sefyllfa ariannol gyfredol Scala Prestatyn Company
Limited. Trafododd y Cabinet y sefyllfa ariannol gyda’r Pennaeth Cyllid ac
Asedau a’r Prif Weithredwr a eglurodd faterion arbennig mewn ymateb i
gwestiynau arnynt. Er eu bod yn cytuno i ddirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Cyllid
ac Asedau gymryd camau gweithredu priodol gofynnodd yr aelodau hefyd am gael eu
hysbysu ynghylch unrhyw ddatblygiadau mewn perthynas â’r mater. PENDERFYNWYD
fod y Cabinet yn dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Cyllid ac Asedau fonitro’r
sefyllfa ariannol, rheoli’r gwasanaeth cyflogres ar gyfer Scala Prestatyn
Company Limited a chymryd unrhyw gamau gweithredu priodol. Daeth y cyfarfod
i ben am 1.00 p.m. |