Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

CROESO

Estynnodd yr arweinydd groeso cynnes i aelodau’r cyhoedd a oedd yn bresennol i glywed y drafodaeth am gynigion am ddarpariaeth ffydd.

 

Croesawodd yr Arweinydd Esgob Llanelwy ac Esgob Wrecsam ynghyd â'u swyddogion, Michael Carding a Rita Price i'r cyfarfod.

 

Eglurodd yr Arweinydd y byddai cwestiynau gan aelodau'r Cabinet yn cael eu caniatáu yn y lle cyntaf. Yna byddai Cynghorwyr sy’n mynychu’r cyfarfod fel sylwedyddion yn cael cyfle i ofyn cwestiynau. Ni chaniateir i aelodau o'r cyhoedd ofyn cwestiynau. Cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd rheolau gweithdrefn y Cabinet fel y nodir yn y cyfansoddiad.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Hywyn Williams, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu yn unrhyw fusnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Penderfyniad:

Nid oedd unrhyw Aelod wedi datgan unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod.

 

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd cysylltiad personol na rhagfarnllyd gan unrhyw un.

 

 

 

3.

MATERION BRYS

Rhybudd o faterion, ym marn y Cadeirydd, y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw fater brys.

 

 

DEISEB

Rhoddodd y Cynghorydd Richard Davies ddeiseb i’r Arweinydd sydd wedi ei llofnodi gan Ysgol y Santes Ffraid. 

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 354 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Medi 2013 (copi wedi’i amgáu).

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mawrth 24 Medi, 2013 fel cofnod cywir.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Medi 2013.

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mawrth 24 Medi, 2013 fel cofnod cywir.

 

 

5.

DARPARIAETH YN SEILIEDIG AR FFYDD pdf eicon PDF 136 KB

Ystyried adroddiad gan y Cyng. Eryl Williams (copi wedi’i amgáu) sy’n nodi canfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol ynglŷn â’r adolygiad ffydd a rhoi ystyriaeth p'un ai i fynd ymlaen â chyhoeddi’r cynnig trwy gyfrwng hysbysiad statudol neu beidio.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams adroddiad, wedi’i gylchredeg yn flaenorol, oedd yn nodi canfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol ynglŷn â’r adolygiad ffydd ac i ystyried a ddylid symud ymlaen a chyhoeddi’r cynnig trwy gyfrwng hysbysiad statudol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(i)            Nodi canfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer cau Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ac Ysgol y Santes Ffraid ac agor  ysgol newydd;

(ii)          Cadarnhau’r ymrwymiad tuag at weithio mewn partneriaeth gydag Awdurdodau Esgobaethol yr Eglwys Gatholig a’r Eglwys yng Nghymru i gynnig ysgol newydd yn seiliedig ar ffydd;

(iii)         Cytuno i ddatblygu cynnig i alluogi ymgynghoriad ffurfiol ar adeiladu ysgol newydd yn seiliedig ar ffydd i ddisodli darpariaeth bresennol Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ac Ysgol y Santes Ffraid.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams adroddiad, wedi ei gylchredeg yn flaenorol, a oedd yn nodi canfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol ynglŷn â’r adolygiad ffydd ac yn gofyn i’r Cabinet ystyried a ddylid symud ymlaen a chyhoeddi’r cynnig trwy gyfrwng hysbysiad statudol.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Williams gefndir i'r sefyllfa a thynnodd sylw at yr angen am ddull strategol a chydlynol. 

 

Gofynnodd yr Arweinydd i Esgob Llanelwy ac Esgob Wrecsam fynegi eu barn ynghylch y Ddarpariaeth yn Seiliedig ar Ffydd.

 

Diolchodd Esgob Llanelwy, y Gwir Barchedig Dr Gregory K Cameron, am y cyfle a roddwyd i Esgobaeth Llanelwy fod yn hyrwyddwr ar gyfer ysgol ffydd sengl newydd yn Sir Ddinbych. Byddai'r weledigaeth yn un ar gyfer ysgol ffydd a rennir i ddinasyddion Sir Ddinbych. Ailadroddodd yr Esgob ei fod yn credu mewn rhagoriaeth mewn addysg ac y byddai'r cynllun yn gyfle i adeiladu rhywbeth gwych ac i ddiwallu holl anghenion y gymuned. Anogodd Esgob Llanelwy’r aelodau Cabinet i dderbyn yr adroddiad.

 

Diolchodd Esgob Wrecsam, y Gwir Barchedig Monsignor Peter Brignall, hefyd am y cyfle i gyflwyno a chefnogi’r ddarpariaeth cyn i'r adroddiad gael ei gyflwyno gerbron y Cabinet. Mae Esgobaeth Wrecsam wedi bod yn ddarparwyr addysg uwchradd yn Sir Ddinbych ers hanner canrif. Soniodd yr Esgob am lwyddiant y broses o newid Ysgol Sant Joseff yn Wrecsam yn ysgol ffydd ar y cyd. Byddai'r ysgol ffydd ar y cyd yn gyfle i ddarparu'r addysg orau i'r teuluoedd hynny sy'n dewis addysg ffydd, beth bynnag yw eu crefydd. Fel darparydd presennol, gobeithir y bydd addysg ffydd yn parhau i gael ei darparu, nid yn unig mewn rhan o'r sir ond ar gyfer dalgylch cyfan ysgolion Sir Ddinbych. Mae Esgob Wrecsam yn cefnogi Esgob Llanelwy a’i ymrwymiad i addysg yn seiliedig ar ffydd ar gyfer y genhedlaeth hon o bobl ifanc a’r cenedlaethau i ddod.

 

Yn ystod y drafodaeth eglurwyd mai cam dros dro oedd Cam 1 y cynllun. Ond, yn ystod ymgynghori, roedd pryderon o ran diffyg cefnogaeth budd-ddeiliaid allweddol i Gam 1. Roedd modd datblygu Cam 1 ond roedd perygl y byddai hynny’n cael effaith negyddol ar safonau. Roedd hi’n hollbwysig nad oedd safonau yn llithro'n ôl. Gan fod hwn wedi bod yn fater o ddarparu gweithredol, yn sgil canlyniad yr ymgynghoriad, penderfynwyd canolbwyntio ar ddarparu un ysgol Gristnogol ar un safle. Yn y cyfamser, bydd Sir Ddinbych yn parhau i gefnogi pob ysgol.

 

Mae Ysgol Uwchradd y Bendigaid Edward Jones ar gyfer disgyblion 11-16 oed. Mae Ysgol y Santes Ffraid ar gyfer disgyblion 3-19 oed. Eglurwyd yn ystod y cyfarfod y byddai ystod oedran yr ysgol newydd yn derbyn mwy o ystyriaeth yn ystod Cam 2 y cynllun. Byddai'r ddarpariaeth gynradd a’r ddarpariaeth ôl-16 yn cael eu hystyried. 

 

Bydd achos busnes yn cael ei lunio gyda’r dewisiadau a’r costau cysylltiedig. Mae cyllid o £28 miliwn wedi ei gytuno arno mewn egwyddor. Ni fyddai darparu dau gyfleuster yn gwneud y defnydd gorau o’r cyfleusterau gan y byddai hynny’n llawer mwy costus. Bydd hyn yn cael ei ddangos yn yr achos busnes. Os bydd yr achos busnes a gyflwynwyd yn costio mwy na'r cais, yna byddai'n rhaid i swyddogion ddod yn ôl at yr aelodau i dderbyn penderfyniad sydd o fewn y cyllid sydd ar gael.

 

Yn ystod Cam 2 o’r cynllun a drwy weithio gyda’r hyrwyddwyr, byddai’r trafodaethau’n canolbwyntio i ddechrau ar gadarnhau ystod oed, maint a lleoliad yr ysgol newydd. Byddai’r trafodaethau hyn hefyd yn cynnig ystyriaeth lawn o’r dewisiadau o ran y modd y byddai’r galw am addysg ffydd oed cynradd yn cyfateb â’r ddarpariaeth Uwchradd. Mae chwe safle posibl i’w hystyried. Byddai'r cynlluniau cychwynnol yn cael eu datblygu er mwyn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

Ar y pwynt hwn (11.30am) cafwyd egwyl o 15 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.45am.

 

 

6.

YMGYNGHORIAD FFURFIOL - YSGOL LLANBEDR pdf eicon PDF 92 KB

Ystyried adroddiad gan y Cyng. Eryl Williams (copi wedi’i amgáu) sy’n darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r trafodaethau gydag Awdurdod Esgobaethol yr Eglwys yng Nghymru yn ymwneud ag arolwg ysgolion cynradd Rhuthun a’r cynnig i gau Ysgol Llanbedr.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams adroddiad, wedi’i gylchredeg yn flaenorol oedd yn diweddaru Aelodau’r Cabinet ynglŷn â’r trafodaethau gydag Awdurdod Esgobaethol yr Eglwys yng Nghymru yn ymwneud ag arolwg ysgolion cynradd Rhuthun a’r cynnig i gau Ysgol Llanbedr.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno i gymeradwyo ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer cynigion i gau Ysgol Llanbedr ar 31 Awst 2014 gyda’r disgyblion presennol yn trosglwyddo i Ysgol Borthyn, yn amodol ar ddewis y rhieni, ac yn amodol ar gasgliadau’r trafodaethau gyda’r Eglwys yng Nghymru.

 

 

Cofnodion:

Eglurodd yr Arweinydd y byddai cwestiynau gan aelodau'r Cabinet yn cael eu caniatáu yn y lle cyntaf. Yna byddai Cynghorwyr sy’n mynychu’r cyfarfod fel sylwedyddion yn cael cyfle i ofyn cwestiynau. Ni chaniateir i aelodau o'r cyhoedd ofyn cwestiynau. Cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd rheolau gweithdrefn y Cabinet fel y nodir yn y cyfansoddiad.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams adroddiad, wedi’i gylchredeg yn flaenorol oedd yn diweddaru Aelodau’r Cabinet ynglŷn â’r trafodaethau gydag Awdurdod Esgobaethol yr Eglwys yng Nghymru yn ymwneud ag arolwg ysgolion cynradd Rhuthun a’r cynnig i gau Ysgol Llanbedr.

 

Cynhaliwyd cyfarfod gyda Swyddogion Addysg o Awdurdod yr Esgobaeth ar 25 Medi i drafod y cynnig hwn a’r materion ehangach sy’n effeithio ar Ysgol Llanfair ac Ysgol Borthyn.

 

O safbwynt y cynnig arwyddocaol hwn, y canlyniad oedd na ddaethpwyd i gytundeb rhwng Sir Ddinbych ac Esgobaeth Llanelwy ynglŷn â chau Ysgol Llanbedr. Os bydd y cynnig yn mynd yn ei flaen, bydd y Cyfarwyddwr, ar ran yr Esgobaeth, yn gwneud ymateb ffurfiol, ar ôl ymgynghori eto â’r Bwrdd Addysg.

 

Rhagwelwyd y byddai'r Ymgynghoriad ar y cynnig i gau Ysgol Llanbedr yn cael ei gynnal rhwng 11 Tachwedd 2013 a 23 Rhagfyr 2013. Byddai'r broses ymgynghori yn rhoi cyfle i rieni, disgyblion, llywodraethwyr a staff, wneud sylwadau ar y cynigion cyn y byddai penderfyniad yn cael ei wneud gan y Cabinet ar p’un ai dylid bwrw ymlaen a chyhoeddi’r cynigion yn ffurfiol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Huw Williams sawl cwestiwn ar ran Ysgol Llanbedr. Cafwyd trafodaeth ddwys lle darparwyd yr ymatebion canlynol:

 

·         Ar adeg cwblhau’r adroddiad, roedd yr awdurdod wedi prosesu 4 o geisiadau ar gyfer y dosbarth Derbyn a 5 cais ar gyfer darpariaeth Feithrin. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau meithrin a derbyn yw 29 Tachwedd 2013 a 21 Chwefror 2014 yn y drefn honno.

·         Nodwyd yn flaenorol mai'r cyfanswm lleoedd yn adeilad parhaol yr ysgol yw 77. Roedd hyn yn cynnwys 54 o leoedd Parhaol a 23 o leoedd mewn dosbarth symudol. Mae’r Corff Llywodraethu wedi cyflwyno sylwadau y dylid symud y ddarpariaeth symudol o’r ysgol, felly cyfrifwyd mai nifer y lleoedd i ddisgyblion llawn amser yw 54.

·         Er bod rhagamcaniadau disgyblion yn dangos cynnydd yn niferoedd y disgyblion dros y blynyddoedd i ddod a fyddai’n lleihau nifer y lleoedd dros ben yn yr ysgol, byddai Ysgol Llanbedr yn parhau i fod yn "ysgol fach" a byddai materion yn parhau ynghylch cynaliadwyedd a hyfywedd Ysgol Llanbedr a safonau addysg a chyrhaeddiad yn y dyfodol.

·          Mae ysgolion bychain yn aml yn golygu dosbarthiadau oedran cymysg. Roedd posibilrwydd y gallai blynyddoedd 4, 5 a 6 gael eu haddysgu mewn un dosbarth. Mae'r awdurdod yn adolygu p’un ai yw ysgol o'r maint hwn yn darparu amgylchedd dysgu addas.

·         Mae modd i 21 o ddisgyblion sy’n mynychu Ysgol Llanbedr gael eu symud i Ysgol Borthyn gan fod ganddynt gapasiti ychwanegol ar gyfer 31 o ddisgyblion.

·          Mae polisi cludiant y sector cynradd yn nodi y gall plentyn sy’n byw mwy na 2 filltir o'u hysgol agosaf neu ar hyd llwybr anniogel dderbyn cludiant am ddim i’r ysgol gan y Cyngor. Os yw rhieni yn dewis ysgol arall yna byddai'n rhaid iddynt hwy dalu am y cludiant.

·         O fewn y Cynllun Datblygu Lleol, mae cynlluniau ar gyfer datblygu 80 o gartrefi newydd yn Llanbedr. Mae polisi mynediad Ysgol Llanbedr yn cyfyngu nifer y disgyblion i 54. 

·         Yn y pen draw, bydd holl ysgolion Sir Ddinbych sydd â chynhwysedd o lai na 80 o ddisgyblion yn cael eu hadolygu. Mae'r model hwn wedi ei darparu gan Estyn i edrych ar p’un ai yw ysgolion sydd â llai na 80 o ddisgyblion  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

Ar y pwynt hwn (1.00pm) cafwyd egwyl o 5 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 1.05pm.

 

 

7.

DIWEDDARIAD YNGLŶN Â’R ADRODDIAD ARIANNOL pdf eicon PDF 88 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill (copi wedi’i amgáu) sy’n rhoi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf, a chynnydd yn erbyn y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cynghorydd J. Thompson Hill yr adroddiad, wedi’i gylchredeg yn flaenorol, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar sefyllfa ariannol bresennol y Cyngor a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

PENDERFYNWYD bod Aelodau’r Cabinet yn nodi’r  cynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. J. Thompson Hill yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar sefyllfa ariannol bresennol y Cyngor a’r cynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

PENDERFYNWYD y dylai’r Cabinet nodi’r cynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

 

8.

EITHRIO RHAG TENDRO GIFT pdf eicon PDF 121 KB

Ystyried adroddiad gan y Cyng. Bobby Feeley i gymeradwyo Eithriad Rhag Tendro GIFT ac i roi’r contract.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad, wedi'i gylchredeg yn flaenorol, oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i'r Eithriad Tendr GIFT ac i ddyfarnu'r contract.

 

PENDERFYNWYD bod aelodau'r Cabinet yn cymeradwyo'r eithriad tendr GIFT ac i ddyfarnu'r contract i'r Wallich, y darparwr presennol.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad, a gylchlythyrwyd yn flaenorol, oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i'r Eithriad Tendr GIFT ac i ddyfarnu'r contract.

 

PENDERFYNWYD bod aelodau'r Cabinet yn cymeradwyo'r eithriad tendr GIFT ac i ddyfarnu'r contract i'r Wallich, y darparwr presennol.

 

 

9.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 107 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu a nodi’r cynnwys.

 

 

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cynghorydd H. H. Evans Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet i’w ystyried.

 

PENDERFYNWYD bod y  Cabinet yn derbyn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar ôl gwneud y diwygiadau y cytunwyd arnynt.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd H. H. Evans Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Cabinet.

 

Cytunodd y Cabinet ar y canlynol:

 

·         Ychwanegu Achos Busnes Caffael ar gyfer gwasanaeth cyfunol rhwng Sir Ddinbych a Sir y Fflint, a oedd wedi ei drefnu ar gyfer mis Tachwedd, at raglen 14 Ionawr 2013

·         Tynnu Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid – Cais Ariannu ar gyfer Prosiectau Canol Tref y Rhyl o raglen mis Tachwedd.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn derbyn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar ôl gwneud y diwygiadau y cytunwyd arnynt.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.35pm.