Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

TEYRNGED - JANE KENNEDY

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y newyddion trist fod Jane Kennedy, cyn Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Phennaeth Dros Dro Llywodraethu Corfforaethol wedi marw’n ddiweddar ar ôl salwch byr. Talodd deyrnged i flynyddoedd o wasanaeth Jane  i lywodraeth leol ac estynnodd gydymdeimlad y Cyngor i’w theulu. Safodd yr Aelodau a’r swyddogion mewn teyrnged dawel.

 

TREFN YR AGENDA

Rhoddodd yr Arweinydd wybod am ei fwriad i amrywio trefn y materion a symud eitem 6 yr agenda, Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych, i ddiwedd eitemau Rhan 1 i’w hystyried.

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu gydag unrhyw fater a nodwyd y dylid ei ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd cysylltiad personol na rhagfarnllyd gan unrhyw un.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd datganiad o gysylltiad personol nac anffafriol.

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys o dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 273 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 25 Mehefin 2013 (copi’n amgaeedig).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2013 fel cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2013.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2013 fel cofnod cywir ac fe’u llofnodwyd gan yr Arweinydd.

 

 

5.

GRŴP TASG A GORFFEN YR ADOLYGIAD BWYD pdf eicon PDF 88 KB

Ystyried adroddiad gan y Cyng. David Smith, Aelod Arweiniol Parthau Cyhoeddus, (copi'n amgaeedig) ynglŷn â gwaith Grŵp Tasg a Gorffen yr Adolygiad Bwyd yn dilyn y sgandal cig ceffyl. Mae’r adroddiad yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r argymhellion. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo argymhellion Grŵp Tasg a Gorffen yr Adolygiad Bwyd fel y nodwyd ym mharagraffau 3.1 – 3.13 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, yr Aelod Arweiniol dros Dir y Cyhoedd, yr adroddiad gan roi manylion canfyddiadau’r Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd i adolygu polisïau a gweithdrefnau’r Cyngor mewn perthynas â chaffael bwyd, rheoleiddio a rheoli contractau yn dilyn y sgandal cig ceffyl. Croesawodd y Pwyllgor Archwilio Cymunedau ganfyddiadau’r Grŵp ac argymhellodd fod pob un o’r 13 argymhelliad sy’n codi o’r adolygiad yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet i’w cymeradwyo.

 

Tynnodd y Cynghorydd Smith sylw’r aelodau at argymhelliad 3.2 oedd yn cynghori bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cynnal archwiliad yn Sir Ddinbych yn ystod yr wythnosau diwethaf a awgrymodd nad oedd nifer yr aelodau staff oedd yn gallu cyflawni swyddogaethau rheoliadol i weld yn ddigonol. Nid oedd yr adroddiad archwilio terfynol ar gael eto. Mewn ymateb i gwestiynau, cynghorwyd yr aelodau –

 

·         bod y swyddogion yn gyfrifol am weithredu’r argymhellion a byddai’r Grŵp Adolygu Bwyd yn edrych i sicrhau bod digon o weithdrefnau ar waith

·         bod gwaith wedi’i wneud gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol i gadarnhau gweithrediad caffael mwy grymus gyda mwy o ddiogelwch dan gytundebau cyfamodol

·         bod dull rhagweithiol wedi’i gymryd i olrhain bwyd nôl i’r ffynhonnell.

 

Canmolodd yr Arweinydd ymateb y Cyngor i’r sgandal cig ceffyl a diogelu budd y cyhoedd. Ar ôl ystyried yr argymhellion –

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen Adolygu Bwyd fel y manylir ym mharagraffau 3.1 – 3.13 yr adroddiad.

 

 

6.

DATBLYGU ‘CYNGOR ARDDERCHOG, SY’N AGOS AT Y GYMUNED’ pdf eicon PDF 153 KB

Ystyried adroddiad gan y Cyng. Hugh Irving, Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Chymunedau, (copi'n amgaeedig) yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo dull y Cyngor i ddatblygu'r thema o Ddod â’r Cyngor yn Nes at y Gymuned.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn cefnogi’r agwedd newydd at y diffiniad o fod yn Gyngor Ardderchog sy’n Agos at y Gymuned, fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad;

 

(b)       yn ei gwneud yn ofynnol i bob gwasanaeth ddatblygu eu cynlluniau eu hunain er mwyn ymateb yn gadarnhaol i’r pedwar thema a amlinellwyd yn y cynllun trosolwg a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad, ac

 

 (c)       chefnogi adolygiad gweithgareddau’r Grwpiau Ardal Aelodau i sicrhau bod cyfleoedd i roi adborth a chael barn y gymuned ar lefel leol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Irving, yr Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a Chymunedau’r adroddiad oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddull y Cyngor o ddatblygu’r uchelgais o ‘Ddod â’r Cyngor yn Agosach at y Gymuned’. Manylwyd ar drosolwg o sut cysylltodd y Cyngor gyda chymunedau a’i ddull diwygiedig yn yr atodiadau i’r adroddiad.

 

Ymhelaethodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid ar y blaenoriaethau dynodedig ar gyfer y Cyngor er mwyn dod â’r Cyngor yn agosach at y gymuned gyda phedair thema newydd a’r camau cysylltiedig. Amlygodd ran pob gwasanaeth wrth gefnogi’r dull corfforaethol. Byddai hyn yn cael ei fonitro’n barhaus trwy’r Cynllun Gweithredu, y Cynllun Corfforaethol a thrwy’r Broses Herio’r Gwasanaeth.

 

Cydnabu’r Cyngor y cyflawniadau a ddyluniwyd i ddod â’r cyngor yn agosach at y gymuned a rhoddodd rai enghreifftiau cadarnhaol o ymgysylltiad llwyddiannus gyda’r cyhoedd. Amlygwyd pwysigrwydd ymgysylltu a rhyngweithio gyda chymunedau ond cydnabuwyd hefyd fod amgyffrediad y cyhoedd yn llai cadarnhaol pan oedd yr ymgynghori’n canolbwyntio ar faterion penodol lle bu rhaid gwneud penderfyniadau anodd ac amhoblogaidd. Amlygodd y Cynghorydd Eryl Williams y naws negyddol oedd yn perthyn i adolygiadau ysgol yn arbennig a theimlai y byddai rhyw fath o deilyngdod mewn dileu’r cyfeiriad yn ‘agos at y gymuned’ yn y datganiad o fwriad ac i ganolbwyntio ar yr agwedd fwy cadarnhaol o fod yn ‘Gyngor Ardderchog’. Yng ngoleuni’r hinsawdd ariannol sy’n gwaethygu, byddai angen gwneud penderfyniadau anos ac amhoblogaidd a fyddai’n effeithio’n negyddol hefyd ar amgyffrediad y cyhoedd. Yn ystod y ddadl a aeth rhagddo, derbyniwyd yn gyffredinol y byddai amgyffrediad cyhoeddus negyddol yn codi o faterion penodol ond roedd angen i’r Cyngor ddangos eu hymrwymiad i fynd yn agos at y gymuned. Amlygwyd y pwysigrwydd i’r Cyngor fod yn agored ac yn dryloyw yn ei fusnes ac yn y ffordd yr oedd yn cynnal ymgyngoriadau ac yn gwrando ac yn ymgysylltu â’r gymuned. Derbyniwyd y gallai’r cyngor fod yn agos at y gymuned ond gallai barhau i fod yn amhoblogaidd oherwydd ni fyddai eu penderfyniadau’n cael cefnogaeth pawb. Teimlai’r Cynghorydd Bobby Feeley ei bod hi’n bwysig sicrhau bod y cyhoedd yn deall bod rhaid gwneud penderfyniadau anodd.

 

Tynnodd yr Aelodau sylw hefyd at yr anawsterau wrth fesur llwyddiant y dull newydd a cheisiodd gael canlyniadau mesuradwy mwy pendant. Er bod amryw strategaethau monitro wedi’u crybwyll, gan gynnwys y cynllun gweithredu, adborth o amryw fforymau a chwynion/canmoliaeth ac arolygon, cydnabuwyd nad oedd mesur llwyddiant pendant. Gan fod y mater yn ymwneud â newid mewn diwylliant, roedd hi’n anodd ei fesur ond roedd ymrwymiad a disgwyliad i lwyddo, a defnyddiwyd strategaethau i gyflawni’r uchelgais. Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau pellach fel a ganlyn -

 

·         cydnabuwyd yr angen am ymrwymiad gan swyddogion gan amlygu ymwneud y gwasanaethau yn y broses

·         ymhelaethwyd ar broses ddwy ffordd Siarter y Cyngor Dinas/Tref/Cymuned a monitro’i effeithiolrwydd yn barhaus

·         roedd dau gyngor tref/cymuned wedi methu arwyddo’r Siarter, un o’r rhain oedd Llandrillo a oedd heb arwyddo oherwydd adolygiad ysgolion eu hardal

·         byddai’r rhestr wirio (dosbarthwyd Atodiad 3 yn y cyfarfod) yn cael ei defnyddio i fonitro sut roedd gwasanaethau’n ymateb i anghenion y cwsmeriaid, a

·         byddai’r wefan newydd yn cael ei lansio’n gyhoeddus ar 19 Awst a byddai’n fwy rhyngweithiol i alluogi’r cyhoedd i gyfathrebu’n haws gyda’r Cyngor.

 

Adroddodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ar safbwyntiau cymysg y Pwyllgor Archwilio Cymunedau wrth ystyried yr adroddiad ac amlygodd yr angen am gynllun ymgysylltu â’r gymuned effeithiol ac am ailwampio Siarter y Cynghorau Tref/Cymuned i’w gwneud hi’n fwy deniadol. Amlygodd hefyd yr angen i wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg i ymgysylltu â chymunedau, yn enwedig gyda phobl ifanc. Teimlai’r Cynghorydd Colin Hughes fod rhaid i gynghorwyr ymgysylltu â’u  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

DIOGELU OEDOLION pdf eicon PDF 90 KB

Ystyried adroddiad gan y Cyng. Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant, (copi’n amgaeedig) yn gofyn i’r Cabinet gytuno â’r newidiadau i drefniadau presennol diogelu oedolion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cynigion i newid y trefniadau cyfredol ar gyfer diogelu oedolion, yn unol â phob partner ledled Gogledd Cymru, i’r dewis a ffafrir o Fwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru ddwyradd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley, yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant yr adroddiad yn rhoi manylion y cynigion ar gyfer trefniadau Diogelu Oedolion i’r dyfodol yn unol â’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru). Ceisiwyd cytundeb y Cabinet i newid y trefniadau presennol i ddiogelu oedolion, yn unol â phob partner ar draws Gogledd Cymru, i’r dewis sy’n cael ei ffafrio sef Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru â Dwy Haen.

 

Wrth ystyried y cynigion, ceisiodd y Cabinet gael sicrwydd mewn perthynas â’r trefniadau ariannu a rheoli gwendidau dynodedig, yn enwedig o ran atebolrwydd. Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes fod disgwyl cael cyllid cydweithredu rhanbarthol er mwyn symud y prosiect yn ei flaen. Petai’r cais am gyllid yn aflwyddiannus, byddai’r prosiect yn parhau i fynd yn ei flaen ond byddai’n cymryd mwy o amser i roi’r cynigion ar waith. Darparwyd sicrwydd y byddai’r trefniadau’n cael eu goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd â chynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Heddlu Gogledd Cymru. Byddai dogfennau’n cael eu paratoi ymlaen llaw gan osod yn glir gyfrifoldebau’r byrddau rhanbarthol ac isranbarthol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cynigion i newid y trefniadau presennol ar gyfer Diogelu Oedolion, yn unol â phob partner ar draws Gogledd Cymru, i’r dewis sy’n cael ei ffafrio o Fwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru â Dwy Haen.

 

 

8.

FFURFIO TÎM CEFNOGI TEULUOEDD INTEGREDIG pdf eicon PDF 78 KB

Ystyried adroddiad gan y Cyng. Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant, (copi’n amgaeedig) yn gofyn i’r Cabinet gytuno i ffurfio Tîm Cefnogi Teuluoedd Integredig yn Sir Ddinbych.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno i sefydlu Tîm Cefnogi Teuluoedd Integredig yn Sir Ddinbych er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau dan Adran 57 Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley, yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant yr adroddiad yn ceisio cytundeb y Cabinet i sefydlu Tîm Cefnogi Teuluoedd Integredig yn Sir Ddinbych yn unol â’r gofynion statudol.

 

Darparodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd rywfaint o gefndir i’r adroddiad a’r rhesymeg y tu cefn i’r gofyniad i sefydlu Tîm Cefnogi Teuluoedd Integredig. Adroddodd ar y gwaith a gynhaliwyd mewn perthynas â hynny ac ymhelaethodd ar y cynigion yng Ngogledd Cymru a Sir Ddinbych yn arbennig a fyddai’n debygol o fod yn weithredol o 31 Rhagfyr 2013 ymlaen. Cyfeiriwyd hefyd at fanteision y dull hwnnw ynghyd â’r trefniadau ariannu. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Smith, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd y byddai cyllid grant yn 2013/14 yn galluogi ar gyfer cyflogi tri aelod arall o staff i’r tîm. Rhoddwyd sicrwydd i Lywodraeth Cymru o 2014/15 ymlaen, y byddai rhyw £136 mil yn cael ei ychwanegu at y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer y trefniadau Tîm Cefnogi Teuluoedd Integredig a fyddai’n cael eu defnyddio i ariannu’r swyddi ychwanegol hynny.

 

Gofynnodd y Dirprwy Swyddog Monitro/Cyfreithiwr am fwy o eglurder yn yr argymhelliad y manylir arno yn yr adroddiad. O ganlyniad –

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno i sefydlu Tîm Cefnogi Teuluoedd Integredig yn Sir Ddinbych yn dilyn ei ddyletswyddau dan Adran 57 Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

 

 

9.

AROLWG LLETY SWYDDFA GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 89 KB

Ystyried adroddiad gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau, (copi’n amgaeedig) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo cynigion rhesymoliad swyddfeydd ar gyfer gogledd Sir Ddinbych ynghyd â fformwleiddiad cynlluniau datblygu tymor hir. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn cymeradwyo symud o swyddfeydd Tŷ Nant, Prestatyn (yn amodol ar ganfod defnydd arall i’r adeilad) fel y dewis a ffafrir (dewis 3, paragraffau 4.7-4.9) ar gyfer ad-drefnu swyddfeydd yng ngogledd y Sir.

 

(b)       yn cymeradwyo cynnal ymarfer marchnata ar gyfer adeilad Tŷ Nant, Prestatyn, ar sail les tymor canolig er mwyn hwyluso symud staff Cyngor Sir Ddinbych o’r adeilad, a

 

 (c)       yn cymeradwyo ffurfio Briff Cynllunio i hwyluso cynllun datblygu tymor hir ar gyfer safle Prestatyn (amlinellwyd mewn coch yn Atodiad 1) a datblygu briff dylunio ac astudiaeth ddichonolrwydd ar gyfer swyddfeydd newydd yn y Rhyl.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau’r adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gynigion rhesymoli swyddfeydd Gogledd Sir Ddinbych ynghyd â ffurfio cynlluniau datblygu tymor hir.

 

Amlinellodd yr adroddiad y gwaith a gynhaliwyd mewn perthynas ag Adolygiad Llety Swyddfa Gogledd Sir Ddinbych ynghyd ag amlinelliad o’r ystyriaethau a’r argymhellion strategol. Ymhelaethodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar y rhesymeg y tu cefn i’r cynigion terfynol a oedd yn cynnwys gwagio swyddfeydd Tŷ Nant, Prestatyn yn amodol ar nodi defnydd arall. Roedd y cynigion tymor hir yn cynnwys datblygiad posibl i safle Prestatyn ac adeilad swyddfa newydd yn y Rhyl. Cyfeiriwyd hefyd at yr ymarfer ymgynghori a’r pryderon a godwyd ynghyd â’r ymatebion i’r rheiny. Cynghorodd y Cynghorydd Barbara Smith fod yr adolygiad yn rhan o’r strategaeth foderneiddio ac amlygodd ymwneud y Bwrdd Moderneiddio yn y broses a phwysigrwydd bwrw ymlaen â’r cynigion cyn gynted â phosibl.

 

Roedd y Cabinet yn hapus bod cynnydd yn cael ei wneud wrth adolygu asedau a mynd i’r afael â’r mater o adeiladau dros ben. Cwestiynodd yr aelodau amryw agweddau ar y broses adolygu llety swyddfa a’r canfyddiadau er mwyn bodloni eu hunain bod y cynigion terfynol wedi rhoi’r ffordd orau ymlaen. Wrth roi sylwadau ar yr adroddiad, mynegodd yr aelodau bryder penodol mewn perthynas â’r cyflwr gwael a’r costau uchel sy’n gysylltiedig â 6 – 8 Ffordd Llys y Nant. Ymatebodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill a’r swyddogion i gwestiynau a sylwadau’r aelodau fel a ganlyn –

 

·         cydnabuwyd pryderon mewn perthynas â chyflwr gwael a chost uchel 6 – 8 Ffordd Llys y Nant gan roi manylion y rhesymau pam na chafodd ei gynnwys yn y cam cychwynnol ond yr eir i’r afael â nhw fel rhan o’r cynigion tymor hwy

·         dan yr arfer presennol, byddai costau symud yn cael eu talu i staff sy’n cael eu heffeithio a fyddai’n teithio ymhellach i’r gwaith o ganlyniad i’r cynigion

·         cytunwyd y gallai ansicrwydd o gwmpas y cynigion fod yn annifyr i’r staff ac os bydd y Cabinet yn cymeradwyo’r argymhellion, byddent yn cael eu symud ymlaen cyn gynted â phosibl gan fod yn sensitif i’r staff a chan ddefnyddio cyn lleied o ymyrraeth â phosibl

·         ymhelaethwyd ar rôl y Gwasanaethau Eiddo, Adnoddau Dynol a TGCh yn y broses i sicrhau trawsnewid llyfn a hwyluso arferion gwaith eraill

·         darparwyd sicrwydd mewn perthynas â’r trefniadau prydlesu ar gyfer Ffordd Brighton gan fod y landlord yn dymuno cadw’r Cyngor fel tenant

·         darparwyd rhai arbedion dangosol oedd yn codi o’r cynigion o ran costau gweithredu a phrydlesu ond byddai ffigurau mwy pendant yn cael eu cynhyrchu yn dilyn yr ymarfer marchnata  a ffurfio’r achos busnes.

 

Roedd y Cynghorydd Hugh Irving yn ystyried Tŷ Nant yn ased gan ddangos ymrwymiad a phresenoldeb y Cyngor yn y dref a chododd bryderon mewn perthynas ag effaith economaidd y cynigion. Teimlai nad oedd yn gwneud synnwyr busnes i barhau i brydlesu 64 Ffordd Brighton pan oedd y Cyngor yn berchen ar Dŷ Nant yn gyfan gwbl ac awgrymwyd y gallai Ffordd Brighton gael ei wagio’n rhannol a’i symud i Brestatyn i leihau costau rhent. Mynegodd amheuon hefyd am ddod o hyd i denant ar gyfer Tŷ Nant a gofynnodd am sicrwydd, petai’r cynigion yn cael eu cymeradwyo, y byddai Tŷ Nant yn aros i gael ei ddefnyddio hyd nes y deuir o hyd i denant. Darparwyd yr ymatebion canlynol:

 

·         rhoddwyd sicrwydd y byddai Tŷ Nant yn parhau’n barod i’w ddefnyddio hyd nes i’r ymarfer marchnata gael ei gyflawni i benderfynu ar ddiddordeb a gwerth

·         rhagwelwyd, ar yr amod bod y Cyngor yn hyblyg, y gellid dod o hyd i denant  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 244 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeedig) yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD -

 

(a)       nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

(b)       cymeradwyo argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol fel y nodwyd yn Atodiad 5 mewn perthynas â gwaith dylunio ar gyfer Ysgol Glan Clwyd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr   adroddiad oedd yn rhoi manylion y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb gytûn. Darparodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·         rhagwelwyd tanwariant net o £45 mil ar y gyllideb refeniw ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·         rhagwelwyd symudiad cadarnhaol i ysgolion o £352 mil gyda chyllidebau ysgol heb eu dirprwyo’n rhagweld tanwariant o £150 mil

·         cyflawnwyd £1.267m (41%) o’r arbedion y cytunwyd hyd yma

·         amlygwyd amrywiadau allweddol o dargedau cyllidebau neu arbedion yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, a

·         diweddariad cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai.

 

Tynnwyd sylw’r aelodau hefyd at argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol (manylion yn Atodiad 5 yr adroddiad) mewn perthynas â’r gwaith dylunio ar gyfer Ysgol Glan Clwyd. Croesawodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau’r dull rhagweithiol a gymerwyd gan y Cyngor o ran Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a oedd yn dechrau cynhyrchu canlyniadau. Roedd Llywodraeth Cymru newydd sicrhau bod cyllid ar gael i gyflymu’r cynnig yng Nglan Clwyd.

 

PENDERFYNWYD bod  

 

(a)       y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn y strategaeth gyllideb gytûn yn cael eu nodi, a bod

 

(b)       argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol fel y manylir yn Atodiad 5 mewn perthynas â’r gwaith dylunio ar gyfer Ysgol Glan Clwyd yn cael ei gymeradwyo.

 

 

11.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 142 KB

Derbyn Rhaglen Waith i’r Dyfodol y Cabinet a nodi ei chynnwys.   

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w ystyried. Amlygodd y Cynghorydd Eryl Williams y posibilrwydd y gallai’r adroddiad ar Ddarpariaeth Addysg Seiliedig ar Ffydd gael ei ohirio o fis Medi i fis Hydref yng ngoleuni cyfoeth yr ymatebion i’r ymgynghori a ddaeth i law. Gofynnodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau hefyd fod adroddiad ar Reolaeth y Trysorlys yn cael ei ychwanegu at raglen waith y Cabinet ar gyfer mis Medi.

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet.

 

 

12.

CYN YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH pdf eicon PDF 109 KB

Ystyried adroddiad, ynghyd â’r atodiadau cyfrinachol, gan y Cyng. David Smith, Aelod Arweiniol Parthau Cyhoeddus, (copi'n amgaeedig) yn gofyn i'r Cabinet gefnogi gorchymyn prynu gorfodol a gwneud cynnig i brynu'r safle.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn cefnogi cyflwyno Gorchymyn Prynu Gorfodol ac yn argymell bod y Pwyllgor Cynllunio hefyd yn awdurdodi hyn.

 

(b)       yn rhoi cefnogaeth i Swyddogion wneud cynnig i brynu’r safle yn seiliedig ar ymateb y Prisiwr Annibynnol a ffactorau pwysig eraill.

 

 (c)       y dylid, cyn prynu’r safle’n ffurfiol, drwy Orchymyn Prynu Gorfodol neu drwy drafodaethau, dderbyn awdurdodiad pellach gan y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, yr Aelod Arweiniol dros Dir y Cyhoedd yr adroddiad gan roi diweddariad i’r aelodau ar gynnydd prosiect cyn Ysbyty Gogledd Cymru a cheisio cefnogaeth y Cabinet i weini Gorchymyn Prynu Gorfodol ar gyfer y safle a gwneud cynnig i’w brynu.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth gefndirol a arweiniodd at y sefyllfa bresennol ac amlinellodd y risgiau cyffredinol oedd yn gysylltiedig â phroses y Gorchymyn Prynu Gorfodol. O gofio cymhlethdodau’r safle, argymhellwyd petai’r Cyngor yn llwyddiannus gyda’r Gorchymyn Prynu Gorfodol neu os byddai’r cynnig i brynu’r safle’n cael ei dderbyn, byddai awdurdodiad pellach y Cabinet yn cael ei geisio cyn cymryd perchnogaeth ffurfiol o’r safle.

 

Amlygodd yr Arweinydd gyfeiriadau’r cyfryngau at leoliad y carchar newydd yng Ngogledd Cymru. Eglurodd fod y safle hwn a safle Green Gate Llanelwy  yn anaddas oherwydd y maint a’r cyfyngiadau cynllunio.

 

Cododd yr aelodau gwestiynau mewn perthynas â’r goblygiadau ariannol a’r bwriadau ar gyfer yr adeilad i’r dyfodol a rhoddwyd yr ymatebon canlynol -

 

·         byddai’r prosiect yn arwain at ddim cost i’r awdurdod lleol na threthdalwyr y cyngor

·         roeddent yn aros am ganlyniad y tair apêl cynllunio oedd yn weddill cyn cymryd camau i geisio adennill taliad mewn perthynas â’r ddwy apêl annilys

·         byddai prisiad annibynnol o’r safle’n cael ei wneud er mwyn cadarnhau gwerth yr iawndal i’w dalu

·         penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio fyddai cyhoeddi’r Gorchymyn Prynu Gorfodol a byddai’n debygol o gymryd rhyw bymtheg mis i’w cwblhau

·         byddai angen ystyried bwriadau i’r safle i’r dyfodol mewn sesiwn gaeedig ond byddai unrhyw brosiect yn ceisio bod o fantais i dref Dinbych a’r sir yn gyfan.

 

Roedd atodiadau cyfrinachol yn ymwneud â’r Gorchymyn Prynu Gorfodol yn cyd-fynd â’r adroddiad ac er mwyn trafod y mater hwnnw a bwriadau i’r dyfodol ar gyfer y safle - PENDERFYNWYD bod y Wasg a’r Cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod am y rhesymau y byddai gwybodaeth wedi’i heithrio’n debygol o gael eu datgelu fel y diffiniwyd ym Mharagraff 14 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Trafododd y Cabinet faterion yn ymwneud â’r Gorchymyn Prynu Gorfodol gan gynnwys risgiau cysylltiedig, ystyriaethau ariannol a chynlluniau i’r dyfodol. Roedd yr aelodau’n awyddus i ddiogelu’r adeilad a sicrhau bod y safle’n cael ei ddatblygu i fod o fantais i’r ardal. Wrth gydnabod yr angen am gyfrinachedd, roedd yr aelodau hefyd yn awyddus i ymdrin â’r mater mor agored â phosibl, heb niweidio sefyllfa’r Cyngor. Ar ddiwedd y drafodaeth, ailgydiodd y cyfarfod mewn sesiwn agored.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)       yn cefnogi cyhoeddi Gorchymyn Prynu Gorfodol ar y safle ac yn argymell bod y Pwyllgor Cynllunio’n awdurdodi hynny;

 

(b)       yn cefnogi’r Swyddogion i wneud cynnig i brynu’r safle’n seiliedig ar yr ymateb gan Brisiwr Annibynnol a ffactorau materol eraill, a

 

 (c)       chyn prynu’r safle’n ffurfiol, boed trwy Orchymyn Prynu Gorfodol neu drwy drafodaethau, bydd awdurdodiad pellach yn cael ei geisio gan y Cabinet.

 

 

13.

AILDDATBLYGU 21 -24 RHODFA’R GORLLEWIN, Y RHYL

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau, (copi’n amgaeedig) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r telerau terfynol gyda’r Partner Datblygu i ddatblygu eiddo yn Rhodfa’r Gorllewin, y Rhyl.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo cadarnhau’r telerau y cytunwyd arnynt gyda’r Partner Datblygu i ddatblygu eiddo ar Rodfa’r Gorllewin, y Rhyl, fel y nodwyd ym Mharagraff 3.1 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau’r adroddiad cyfrinachol oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r telerau terfynol a gytunwyd gyda’r Partner Datblygu i ddatblygu eiddo ar Rodfa’r Gorllewin, y Rhyl. Darparwyd manylion y Cytundeb oedd yn amlinellu’r cynigion i ddatblygu’r eiddo ynghyd â’r telerau ariannol a’r risgiau cysylltiedig.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Eryl Williams fod y bwrdd i ddiogelu’r safle’n cael ei ddefnyddio fel arf hyrwyddo i greu delwedd brydferth o’r datblygiad.

 

Achubodd yr Arweinydd ar y cyfle i longyfarch y Pennaeth Cyllid ac Asedau ar ei weledigaeth a arweiniodd at ailddatblygiad llwyddiannus yr ardal.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo cadarnhau’r telerau a gytunwyd gyda’r ‘Partner Datblygu’ Chesham Estates i ddatblygu’r eiddo 21 – 24 Rhodfa’r Gorllewin (a adwaenwyd fel The Honey Club yn y gorffennol), y Rhyl ac eiddo ychwanegol sy’n cynnwys y modurdy i gefn 27-28 Rhodfa’r Gorllewin (eiddo CSDd) a 25 – 26 Rhodfa’r Gorllewin (yn amodol ar Orchymyn Prynu Gorfodol). Mae cynllun ynghlwm fel Atodiad B i’r adroddiad sy’n dangos yr ardal wedi’i llinellu’n goch.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fod y Wasg a’r Cyhoedd yn cael eu heithrio o’r cyfarfod am yr eitemau busnes canlynol oherwydd eu bod yn cynnwys y tebygolrwydd o ddatgelu gwybodaeth wedi’i heithrio fel y diffiniwyd ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

14.

CYNLLUN RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD CORWEN - GWOBRWYO CONTRACT

Ystyried adroddiad gan y Cyng. David Smith, Aelod Arweiniol Parthau Cyhoeddus, (cylchredwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo gwobrwyo’r contract ar gyfer Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Corwen.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo rhoi cytundeb i’r contractwr a enwyd fel y nodwyd ym mharagraff 3 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, yr Aelod Arweiniol dros Dir y Cyhoedd yr adroddiad cyfrinachol yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract i Gynllun Rheoli Perygl Llifogydd Corwen. Cafodd gwybodaeth gefndirol ar y cynllun rheoli peryglon a’r broses dendro ei chynnwys yn yr adroddiad.

 

Cymerodd y Cynghorydd Huw Jones y cyfle i ddiolch i’r Uwch Beiriannydd – Rheoli Perygl Llifogydd am y gwaith a wnaeth mewn perthynas â’r cynllun a werthfawrogwyd hefyd gan drigolion Corwen. Roedd y Cynghorydd Jones yn gobeithio y byddai’r cynllun yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo dyfarnu contract i’r contractwr a enwyd ym mharagraff 3 yr adroddiad.

 

Clodd y cyfarfod am 1.05 p.m.