Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu gydag unrhyw fater a nodwyd y dylid eu hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni ddatganodd unrhyw Aelod unrhyw gysylltiad personol na rhagfarnllyd ag unrhyw fusnes oedd am gael ei ystyried yn y cyfarfod.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys o dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitem y dylid, ym marn y Cadeirydd, ei hystyried yn y cyfarfod fel mater brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 205 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar14 Mai, 2013 (copi ynghlwm). 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ddydd Mawrth 14 Mai 2013.

 

PENDERFYNWYD:- cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mawrth, 14 Mai 2013, fel cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi.

 

 

5.

ADOLYGIAD YSGOLION CYNRADD ARDAL RHUTHUN pdf eicon PDF 110 KB

Ystyried adroddiad y Cyng. Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi ynghlwm), sy’n nodi canfyddiadau'r adolygiad diweddar ar ddarpariaeth gynradd yn ardal Rhuthun ac yn cynnig argymhellion i newid y ddarpariaeth bresennol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Eryl Williams adroddiad, a gylchredwyd cyn y cyfarfod, a oedd yn cynnwys canfyddiadau'r arolwg diweddar ar ddarpariaeth ysgolion cynradd yn ardal Rhuthun ac argymhellion arfaethedig i'w hystyried er mwyn newid y ddarpariaeth bresennol.

 

Amlinellodd y Cyng. Eryl Williams y fframwaith ariannu a’r broses strwythuredig a fabwysiadodd y Cyngor yn ogystal â pherthnasedd polisïau cenedlaethol ar y broses benderfynu ar gyfer ariannu gwelliannau i adeiladau addysg y Sir. Cyfeiriwyd at raglen fuddsoddi gynhwysfawr Sir Ddinbych, y cais i Ysgolion yr 21ain Ganrif a phwysigrwydd ansawdd adeiladau addysg yn y broses ddysgu. Eglurodd y byddai ceisiadau a gyflwynir i Lywodraeth Cymru am fuddsoddiad cyfalaf sylweddol yn cael eu dylanwadu gan Sir Ddinbych a’r bwriad i fynd i’r afael â llefydd dros ben mewn ysgolion. Pwysleisiodd hefyd y gallai’r arian yma fod dan fygythiad os nad yw’r Sir yn mynd i’r afael â llefydd dros ben.

 

Pwysleisiodd y Cyng. Williams y byddai’n ymdrechu i sicrhau gwelliannau parhaus yn Sir Ddinbych drwy ddarparu cyfleusterau addysg gwell a fydd yn creu cynaladwyedd ac yn diogelu natur yr ardal.  Cyfeiriodd at nifer y llefydd dros ben yn ardal Rhuthun a’r cynigion gerbron y Cabinet i fynd i’r afael â’r mater. Eglurwyd bod y Cyngor wedi cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar ddyfodol darpariaeth gynradd yn ardal Rhuthun. Yn ystod yr arolwg cynhaliwyd ymgynghoriad eang ag 11 ysgol a oedd yn cynnwys cyfarfodydd â rhieni, staff a llywodraethwyr. Amlygwyd sawl mater gan gynnwys y ddibyniaeth ar ystafelloedd dosbarth symudol, cyflwr gwael ysgolion a nifer y llefydd dros ben yn yr ardal (sy’n fwy na’r cyfartaledd). 

 

Mae canfyddiadau’r arolwg anffurfiol wedi eu cynnwys yn Atodiad 1 ac mae nifer y llefydd mewn ysgolion ar hyn o bryd a nifer y disgyblion (PLASC mis Ionawr, 2013) wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ynghyd â chanfyddiadau’r ymgynghoriad anffurfiol a’r ffordd ymlaen sy’n cynnwys y cynigion canlynol:-

 

Mae argymhellion wedi eu cynnig a’u grwpio gyda’i gilydd, yn dibynnu ar eu heffaith ar ysgolion yr ardal, i ganiatáu darpariaeth gynaliadwy tymor hir yn ardal Rhuthun yn dibynnu ar adnoddau ariannol. Crynhodd Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg y cynigion sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, codwyd sawl mater a darparwyd yr ymatebion fel y ganlyn:-

 

Cynnig 1 – Creu Ysgol Ardal newydd ar gyfer cymunedau Clocaenog a Chyffylliog (Atodiad 2).

 

Bu i’r arolwg ganfod y galw i gadw darpariaeth addysg yn yr ardaloedd gwledig i’r gorllewin o Ruthun. Ar hyn o bryd mae 55 disgybl llawn amser yn mynychu’r ddwy ysgol. Mae galw mawr am lefydd yn Ysgol Clocaenog ond mae’r niferoedd yn Ysgol Cyffylliog yn gostwng. Gan nad yw’r ddwy ysgol yn addas ar gyfer codi estyniad, argymhellir bod ysgol ardal newydd yn cael ei chreu ar gyfer y cymunedau ar y safleoedd presennol. Byddai creu’r ysgol ardal yn cael ei wneud yn raddol a byddai ymrwymiad tymor hir i greu un ysgol ar un safle gyda chyswllt posib â chyfleusterau cymunedol.  Awgrymwyd y dylai'r cam cyntaf gael ei roi ar waith ddechrau mis Medi 2014.

 

Codwyd sawl pryder gan y Cyng. Huw Jones a darparwyd yr ymatebion canlynol:-

 

-               Atodiad 2, 15.5. – Cyfeiriodd Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg at Bolisi Cludiant y Cyngor ac eglurodd y byddai trefniadau cludiant ar gyfer y disgyblion presennol yn cael eu harchwilio fel rhan o’r adrefnu.   

-               Mewn ymateb i’r pryderon ynglŷn â chyflwr y ffordd rhwng Ysgol Clocaenog ac Ysgol Cyffylliog, eglurodd y Cyng. Williams bod y ffordd o Glocaenog i Fontuchel yn rhan o'r prif lwybr graenu. 

-               Cadarnhaodd Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg y byddai Sir Ddinbych yn ymgynghori ag awdurdodiadau cyfagos ar y cynigion.

-               O ran  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

DIWEDDARIAD ARIANNOL pdf eicon PDF 110 KB

Ystyried adroddiad y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) sy’n nodi'r sefyllfa ariannol bresennol a'r cynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Julian Thompson Hill ei adroddiad, a gylchredwyd cyn y cyfarfod, a oedd yn cynnwys manylion ynglŷn â chyllideb refeniw ac arbedion y Cyngor fel y cytunwyd ar gyfer 2012/13 ar ddiwedd mis Mawrth 2013 a’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Cynllun Cyfalaf, Cyfrif Refeniw Tai a’r Cynllun Cyfalaf Tai.

 

Roedd yr adroddiad yn crynhoi cyllideb refeniw'r Cyngor ar gyfer 2013/14 (Atodiad 1). Roedd y gyllideb net yn £192 miliwn ar ddiwedd mis Mai a rhagwelwyd y byddai tanwariant o £45 mil (0.045) ar wasanaethau a chyllidebau corfforaethol.  Roedd rhagolygon cadarnhaol o ran balansau cyllidebau ysgolion (£322 mil). Rhagwelwyd tanwariant o £150 mil yng nghyllidebau ysgolion heb eu dirprwyo, y mwyafrif yn ymwneud â’r clybiau brecwast, a chynigwyd y dylid defnyddio’r arian fel cyfraniad at ariannu’r amddiffyniad fformwla ysgol sydd wedi ei gynnwys fel ymrwymiad.  

 

Mae Atodiad 2 yn nodi’r cynnydd hyd yma yn erbyn yr arbedion a amlygwyd yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2012/13. Cytunwyd ar darged arbedion o £3.061 miliwn ar gyfer y flwyddyn ac mae 39% o’r targed (£1.186 miliwn) wedi ei gyrraedd. Mae crynodeb o’r Cynllun Cyfalaf a’i nodau, gan gynnwys y gwariant arfaethedig o £6.8 miliwn, wedi ei gynnwys yn Atodiad 3. Mae cyllideb 2013/14 wedi clustnodi £600 mil i’w neilltuo i Gronfa Wrth Gefn y Cynllun Corfforaethol. Mae Atodiad 4 yn cynnwys y diweddaraf ar y prosiect cyfalaf mawr sydd o fewn y Cynllun Cyfalaf ar gyfer eleni. Ar ddiwedd mis Mai, roedd cyfanswm benthyciad y cyngor yn  £133.264 miliwn ar raddfa gyfartalog o 5.77%.  Roedd y balansau buddsoddi yn £24.1 miliwn ar raddfa gyfartalog o 0.86%.  

 

Mae manylion ynglŷn â chostau ac effaith hyn ar wasanaethau eraill wedi eu cynnwys yn yr adroddiad fel a ganlyn:-

 

Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd – Er bod y Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd ar hyn o bryd yn dangos dim amrywiant, dylid nodi'r pwyntiau canlynol:

 

·                     Y camau effeithlonrwydd uchel sydd ar waith. Bydd y rhain yn cael eu monitro'n ofalus a bydd y cynnydd yn cael ei nodi mewn adroddiad yn y dyfodol. 

 

·                     Nifer y diwrnodau ysgol ym mlwyddyn ariannol 2013/14. Mae nifer y diwrnodau ysgol yn fwy na'r arfer ac yn debygol o gael effaith ar wasanaeth cludiant ysgol yr ardal. Rhagwelwyd y bydd unrhyw orwariant yn y maes hwn yn cael ei gadw o fewn cyllideb cyffredinol Priffyrdd a'r Amgylchedd.  

 

Cyfeiriodd y Cyng. Eryl Williams at y nodyn sy’n dweud bod gwariant tybiedig cynlluniau cyfalaf yn ddim, cyfeiriodd yn benodol at gludiant. Cyfeiriodd at fenthyca darbodus a grantiau’r Llywodraeth a mynegodd bryder ynghylch eglurder y broses ariannu. Eglurodd y Cyng. Thompson-Hill bod y ffigwr yn yr adroddiad yn gysylltiedig â’r flwyddyn ariannol ddiwethaf a chadarnhaodd y byddai darpariaeth cyllid 2013/14 yn cael ei gynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol.  Cyfeiriodd y Prif Gyfrifydd at Atodiad 3 a darparodd fanylion y ffigyrau o ran y Cynllun Cyfalaf cyffredinol. Eglurodd mai arian wedi ei gymeradwyo, trwy’r Grŵp Buddsoddi Strategol, yn unig sydd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad.    

 

Gwella Ysgolion a Chynhwysiant – Mae gwaith manwl yn cael ei wneud i ddarparu amcangyfrif cadarn ar gyfer costau lleoedd y tu allan i’r sir a ffioedd adennill. Mae tanwariant wedi bod yn y cyllidebau hyn yn y blynyddoedd diwethaf.  Fodd bynnag byddan nhw’n parhau’n gyfnewidiol gan eu bod yn seiliedig ar nifer y disgyblion a thrafodaethau cymhleth rhwng Awdurdodau. Mynegodd y Cyng. Williams bryderon ynghylch fframwaith ariannu Gwella Ysgolion a Chynhwysiant a gweithredu’r trefniadau newydd. Pwysleisiodd bod angen diogelu budd y Sir.   

 

Gwasanaethau Oedolion a Busnes – Mae’r gofyniad cenedlaethol i ddiogelu cyllidebau gofal cymdeithasol wedi arwain at £905 mil ychwanegol o  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

PARTNERIAETH IECHYD MEDDWL pdf eicon PDF 83 KB

Ystyried adroddiad y Cyng. Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant (copi ynghlwm) sy'n gofyn i'r Cabinet ystyried partneriaeth newydd rhwng y Cyngor a Phrifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, a gylchredwyd cyn y cyfarfod, ac eglurodd bod Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion yn cael eu darparu ar hyn o bryd gan Bartneriaeth Iechyd Meddwl Oedolion Conwy a Sir Ddinbych. Roedd y Bartneriaeth i fod i ddod i ben ym mis Gorffennaf 2013. Mae angen penderfyniad gan y Cabinet er mwyn cytuno ar drefniadau partneriaeth newydd rhwng y Cyngor a Phrifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu’r gwasanaethau hyn.

 

Rhoddodd yr Arweinydd grynodeb ar gefndir y Bartneriaeth a sefydlwyd a chynhaliwyd gan gytundeb ffurfiol cyfreithiol dan Adran 31 o Ddeddf Iechyd 1999, sef Cytundeb Adran 33 bellach. Roedd y Cytundeb Partneriaeth yn gytundeb ar bolisïau a threfnau cyffredin ar draws y gwasanaeth ac mae copi o’r adroddiad gwreiddiol a gyflwynwyd i’r Cabinet ym mis Chwefror 2005, ynghyd â Phapur Briffio’r Cabinet, wedi eu cynnwys yn Atodiad 1 a 2 yr adroddiad. 

 

Mae’r newidiadau a ddeilliodd o greu Prifysgol Betsi Cadwaladr a datblygu model y Grŵp Rhaglen Clinigol wedi eu gwneud hi’n gynyddol anodd i reoli’r bartneriaeth gyfredol ochr yn ochr â threfniadau mewn man arall yn y Grŵp Rhaglen Clinigol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng ngweddill dalgylch Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd hyn, ynghyd â'r gofyniad i ymateb i Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, wedi cymell adolygiad o’r trefniadau cyfredol mewn perthynas â’r Bartneriaeth yn Sir Ddinbych.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes na fydd diweddu’r Bartneriaeth gyfredol a chreu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y Cyngor a Phrifysgol Betsi Cadwaladr yn cael unrhyw effaith ar y gwasanaeth. Bydd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd yn eglurach a bydd yn gofyn i Brifysgol Betsi Cadwaladr ddarparu gwybodaeth fel rhan o broses sy'n fwy prydlon a rheolaidd.  Dywedodd bod safon y gwasanaeth a ddarperir yn Sir Ddinbych yn uchel iawn.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno:-

 

(a)           bod Partneriaeth Iechyd Meddwl a Gofal Cymdeithasol presennol Conwy a Sir Ddinbych yn dod i ben ar 3 Gorffennaf 2013 a

(b)       bod Sir Ddinbych yn parhau i fod yn ymrwymedig i’r model a ddatblygwyd yn wreiddiol wrth greu'r Bartneriaeth, ond y dylid adlewyrchu hyn rŵan mewn Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y Cyngor a Phrifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu’r gwasanaethau hyn.

 

 

8.

DYFODOL GOFAL IECHYD CEFNDY pdf eicon PDF 100 KB

Ystyried adroddiad y Cyng. Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant (copi ynghlwm) sy’n gofyn am gefnogaeth i achos busnes Gofal Iechyd Cefndy am fuddsoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Hugh Irving yr adroddiad, a gylchredwyd cyn y cyfarfod, ar berfformiad Gofal Iechyd Cefndy yn y gorffennol a’r angen am fuddsoddiad.   Er bod perfformiad ariannol a gwasanaeth Cefndy wedi bod yn dda, mae’r ffaith bod Cefndy wedi cyflawni effeithlonrwydd wedi atal y gwasanaeth rhag buddsoddi yn ei isadeiledd. 

 

Mae Sir Ddinbych wedi ffurfio ymrwymiad yn ei Gynllun Corfforaethol i gefnogi bodolaeth Cefndy yn y dyfodol drwy gymeradwyo buddsoddiad cyfalaf. Mae’r adroddiad yn darparu cyfiawnhad dros fuddsoddiad cyfalaf ac yn amlinellu dewisiadau ar gyfer ffatri newydd er mwyn galluogi Cefndy i ddatblygu a dod yn gynaliadwy heb gefnogaeth refeniw parhaus gan Sir Ddinbych. Mae crynodeb o Ofal Iechyd Cefndy, busnes a gefnogir gan Sir Ddinbych, wedi ei gynnwys yn yr adroddiad ac mae copi o Gynllun Busnes Cefndy i’w gael yn Atodiad 1. 

 

Yn y pum mlynedd ddiwethaf mae Cefndy wedi cynyddu perfformiad gwerthiant i £3.8 miliwn, ac wedi lleihau ei ddibyniaeth ar Sir Ddinbych o £200 mil.  Fodd bynnag, yr her sy’n wynebu’r sefydliad rŵan yw cynaladwyedd y busnes/gwasanaeth ac fe allai hynny fygwth dyfodol Cefndy os nad yw’n cael ei ddatrys. Rhoddodd y swyddogion grynodeb o’r dewisiadau sydd ar gael (mae’r dewisiadau hyn wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac yn Atodiad 3):-

 

a.  Parhau â’r cynllun presennol a thynnu cymhorthdal Sir Ddinbych.

b.  Cadw lefel o gymhorthdal ar gyfer cyfnod estynedig.

c.   Buddsoddiad cyfalaf fel y nodwyd yn y Cynllun Corfforaethol.

 

Mae’r wybodaeth ganlynol hefyd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad:-

 

-               Sut mae’r penderfyniad yn cyfrannu at y Blaenoriaethau Corfforaethol

-               Costau a’u heffaith ar wasanaethau eraill.

-               Prif gasgliadau’r Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb, Atodiad 4.

-               Ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

-               Datganiad y Prif Swyddog Cyllid.

-               Risgiau a’r mesurau i’w lleihau.

 

Mewn ymateb i’r pryderon a fynegwyd gan y Cyng. Jeanette Chamberlain-Jones yn ymwneud â phroblemau aelodau o staff wrth ddefnyddio adeiladau allanol a storfeydd ar y safle, cadarnhaodd Rheolwr Cyffredinol  Gofal Iechyd Cefndy y byddai’r aelodau o staff yn parhau i ddefnyddio’r adeiladau allanol a bod y materion wedi eu datrys. Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles bod pob ymdrech wedi ei wneud i sicrhau llety addas ond yn aflwyddiannus.

 

Bu i’r Cabinet gydnabod llwyddiannau Cefndy o ran gwrthdroi’r duedd o ddibynnu’n ormodol ar gefnogaeth ariannol Sir Ddinbych drwy ddarparu twf masnachol ac effeithlonrwydd ariannol.  Amlygodd y Cyng. Irving gyfraniad Cefndy at yr economi lleol a’u rôl fel darparwr gwaith i bobl anabl.

 

Ystyriodd yr Aelodau’r dewisiadau gan gefnogi Dewis C a darparu buddsoddiad a fyddai’n arwain at gynaladwyedd ariannol heb gyllideb Sir Ddinbych. Roedd y Cabinet hefyd yn cefnogi cyflwyno cais am Grant Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer cost lawn y gwaith i gydnabod y byddai tynnu cyllid yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi pwysau ychwanegol ar y system fudd-daliadau heb y buddsoddiad hwn.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:-

 

(a)       derbyn yr adroddiad ac yn nodi sylwadau’r Aelodau;

(b)       cefnogi’r cynigion ar gyfer buddsoddiad, Dewis C, yn amodol ar gytundeb y Grŵp Buddsoddi Strategol; ac yn

(c)    cefnogi cais y busnes am Grant Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer cost lawn y gwaith i gydnabod y byddai tynnu cyllid yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi pwysau ychwanegol ar y system fudd-daliadau heb y buddsoddiad hwn.

 

 

9.

ALLANOLI GWASANAETHAU TGCH I YSGOLION pdf eicon PDF 134 KB

Ystyried adroddiad y Cyng. Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Cabinet gymeradwyo  rhoi contract TGCh Gweinyddiaeth a Cwricwlwm Ysgolion i GAIA Technologies.  Mae copi o’r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb wedi ei gynnwys dan Ran II o’r agenda. 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Eryl Williams yr adroddiad, a gylchredwyd cyn y cyfarfod, sy’n gofyn am gymeradwyaeth i ddyfarnu contract TGCh Gweinyddiaeth a Chwricwlwm Ysgolion i GAIA Technologies.  Eglurodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y byddai’n rhaid trafod unrhyw fater yn ymwneud ag Atodiad 2, Asesiad Effaith ar Ansawdd, dan Ran II o’r Rhaglen.

 

Mae angen gwneud penderfyniad ynghylch cymeradwyo GAIA Technologies fel y darparwr TGCh gorfodol ar gyfer Rhwydwaith Gweinyddol yn dilyn y broses ddiweddar i allanoli gwasanaeth cyfredol Cyngor Sir Ddinbych, ac i gymeradwyo GAIA Technologies fel y darparwr TGCh dewisol ar gyfer Rhwydwaith Cwricwlwm yn dilyn ail-dendro contract Cyngor Sir Ddinbych a ddaeth i ben, a ddyfarnwyd yn flaenorol i GAIA Technologies ar ran rhai ysgolion.

 

Eglurodd Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg mai TGCh Canolog sy’n darparu rhwydwaith Gweinyddol Ysgolion ar hyn o bryd a bod yr argymhelliad yn cynnig rhoi’r contract i GAIA Technologies sydd wedi llwyddo yn y broses dendro ddiweddar. Eglurwyd hefyd bod hwn yn gontract gorfodol y mae’n rhaid i’r holl ysgolion fod yn rhan ohono, gan ei fod yn hanfodol bod y contract yn cael ei ddarparu gan un darparwr ar draws yr holl ysgolion, er mwyn cael cysondeb rhwng Ysgolion a’r Sir. Mae 4 dewis ar gyfer y rhwydwaith Gweinyddol fel a ganlyn:-

 

1.  Gwasanaeth a Reolir yn Llawn – staff a reolir gan Awdurdod Lleol.

2.  Gwasanaeth Cefnogi – staff a reolir gan Awdurdod Lleol.

3.  Gwasanaeth a Reolir yn Llawn – TUPE llawn i staff.

4.  Gwasanaeth Cefnogi – TUPE llawn i staff.

 

Mae’r gwasanaeth presennol gyda TGCh Canolog yn wasanaeth cefnogi’n unig ac yn seiliedig ar yr atodlen brisiau a welir yn Atodiad 1. Mae'r gwasanaeth newydd gyda GAIA Technologies yn rhoi gwell ansawdd am bris gostyngol.  Bydd y pris yn dal yn destun gwiriad terfynol o restr eiddo wrth ddyfarnu'r contract, ond bydd y costau uned yn aros yn sefydlog yn unol â'r tendr.

 

Caiff rhwydwaith Cwricwlwm yr Ysgol ei gaffael yn allanol ar hyn o bryd, a chaiff ei reoli’n lleol gan ysgolion drwy eu trafodaethau contract eu hunain gyda darparwyr amrywiol.  Roedd fframwaith Sir Ddinbych i fod i gael ei hadnewyddu ar 1 Ebrill 2013, a gofynnwyd am benderfyniad wedi ei ddirprwyo i gymeradwyo estyn y contract tan 31 Awst 2013 er mwyn gwneud y contract Cwricwlwm newydd yn rhan o'r tendr ar gyfer y rhwydwaith Gweinyddol. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cyng. David Smith, Eglurodd Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg bod y contract yn ddewisol ac nad oedd yn rhaid i ysgolion drosglwyddo eu contractau cwricwlwm i’r rhwydwaith. Nid ydym ni'n gwybod ar hyn o bryd pa ysgolion fyddai'n dewis trosglwyddo i'r contract newydd.

 

Gofynnwyd i’r darparwyr ystyried y dewis o wasanaeth a reolir yn llawn (yn cynnwys caledwedd), neu wasanaeth cefnogi sylfaenol (heb galedwedd), yn ogystal â model trosglwyddo TUPE llawn a model staffio a gedwir gan Awdurdod Lleol.  Bu i hyn greu’r un pedwar dewis â’r rhwydwaith Gweinyddol ac mae manylion yr arbedion tebygol, o gymharu â’r gwasanaeth TGCh Canolog, pob ysgol yn erbyn pob dewis wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. 

 

Cafwyd anawsterau wrth ddarparu cymhariaeth a chafwyd atodlen brisiau yn seiliedig ar restr eiddo ddrafft a bydd yn destun newid yn dilyn archwiliad llawn o offer yn yr ysgol unwaith y bydd y contract yn dechrau. Cynhwysir yr atodlen grynhoi lawn ar gyfer yr holl ddewisiadau yn Atodiad 1. Noder bod hyn yn seiliedig ar restr eiddo heb ei harchwilio a bydd yn newid ac yn destun trafodaethau unigol ar gyfer pob ysgol yn ddibynnol ar anghenion lleol.  Mae copi cyfrinachol o’r templed Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb i’w weld  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

ADRODDIAD CYNNYDD CHWARTEROL Y CYNLLUN CORFFORAETHOL: CHWARTER 4 2012/13 pdf eicon PDF 86 KB

Ystyried adroddiad y Cyng. Barbara Smith, Aelod Arweiniol Moderneiddio a Pherfformiad (copi ynghlwm) sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd chwarter 4, 2012-13.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Barbara Smith yr adroddiad, a gylchredwyd cyn y cyfarfod, sy’n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd chwarter 4, 2012-13 a rhoddodd grynodeb o bob canlyniad yn y Cynllun Corfforaethol.  

 

Roedd yr adroddiad yn nodi bod y Cynllun Corfforaethol yn mynd rhagddo’n dda a bod y rhesymau y tu ôl i wella rhai elfennau wedi eu deall. Mae’n bwysig nodi bod yr adroddiad hwn yn ymwneud â blwyddyn gyntaf Cynllun Corfforaethol 5 mlynedd, a bod rhai elfennau o’r cynllun wedi eu cynnwys yn benodol oherwydd bod angen eu gwella. Bydd yn cymryd mwy o amser i wella rhai elfennau. Mae’r Tîm Gwelliant Corfforaethol wedi gweithio a Phenaethiaid Gwasanaeth ac Aelodau Arweiniol i roi eglurder ynglŷn â’n huchelgais ar gyfer y cynllun, ac i roi syniad o sut y mae disgwyl i daith y gwella edrych.  Mae’r gwaith hwn bron wedi ei gwblhau, ac mae casgliadau wedi eu hymgorffori yn y dadansoddi sydd wedi ei gynnwys o fewn yr adroddiad hwn.

 

Mae nifer o feysydd, wedi eu hamlygu mewn coch yn yr adroddiad, yn dangos bod rhai dangosyddion a pherfformiad wedi eu nodi fel “blaenoriaeth ar gyfer gwella”. Mae rhai gweithgareddau wedi eu dyrannu â’r lefel isaf posibl o hyder y cânt eu cyflawni gan y swyddog sy’n gyfrifol amdanynt ac mae'r meysydd wedi eu crynhoi yn yr adroddiad:-

·                     Canran y disgyblion sy’n gadael yr ysgol heb gymhwyster cydnabyddedig.

·                     Nifer o fesurau perfformiad o fewn y flaenoriaeth addysg yn ymwneud ag ystafelloedd dosbarth symudol a llefydd gweigion. 

·                     Canran ffyrdd A a B sydd mewn cyflwr gwael. 

·                     Gwaith i ffurfioli cynlluniau ar gyfer cyrbau is.

·                     Cyfran yr oedolion sy’n methu byw’n annibynnol. 

·                     Tipio anghyfreithlon yn y Sir. 

·                     Canran y digwyddiadau tipio anghyfreithlon sy’n cael eu hadrodd. 

·                     Argaeledd tai preifat fforddiadwy yn Sir Ddinbych.

Mae un deg pedwar Dangosydd Perfformiad Allweddol creiddiol wedi eu dynodi er mwyn meincnodi gyda HouseMark. Mae’r data mwyaf diweddar yn dangos fod gan y Cyngor saith ohonynt (50%) o fewn y chwartel uchaf, sef y trothwy sydd wedi ei ddynodi ar gyfer bod yn “flaenoriaeth ar gyfer gwella”. Yr uchelgais yn y pen draw oedd cael pob Dangosydd Perfformiad Allweddol o fewn y chwartel uchaf. Mae cyfradd cwblhau gwerthusiadau perfformiad yn amserol hefyd yn “flaenoriaeth ar gyfer gwella", gan fod ein perfformiad ar hyn o bryd yn 92.28%. Yn gorfforaethol, cytunwyd fod unrhyw ganlyniad sy’n is na 95% yn “flaenoriaeth ar gyfer gwella".

Eglurodd Pennaeth Cynllunio Busnes a Pherfformiad bod yr adroddiad wedi ei ystyried gan y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a fynegodd y pryderon canlynol:-

 

-               Ystafelloedd Dosbarth Symudol:- Mae rhaglen yn ei lle i newid Ystafelloedd Dosbarth Symudol.

 

-               Cyrbau Is:- Bydd yr Adran Briffyrdd i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd. Mynegodd y Prif Weithredwr bryder ynglŷn â'r diffyg cynnydd.  Eglurodd bod hyn yn annerbyniol a theimlodd y gall y mater gael goblygiadau ehangach a’i ystyried yn fater Rheoli perfformiad.

 

-               Tipio Anghyfreithlon:- Eglurodd Pennaeth Cynllunio Busnes a Pherfformiad bod problemau mewnol gyda phroses adrodd y system Rheoli Cyswllt Cwsmer (RhCC) a bod angen derbyn eglurhad o hynny. Mewn ymateb i bryderon y Cyng. Huw Jones, cytunwyd gofyn i RhCC ymchwilio i unrhyw gysylltiad rhwng tipio anghyfreithlon a lleoliadau penodol o ran darpariaeth ac amseroedd casglu.

 

-               Baw Cŵn:- Eglurodd y Cyng. David Smith y dylai nifer y cosbau am adael baw cŵn leihau i adlewyrchu effaith y broses o godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynglŷn â’r broblem. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Arweinydd ynglŷn â sut gellir mesur effaith blaenoriaethau’r Cynllun Corfforaethol ar yr ardal leol ac adrodd yn ôl  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

SEFYLLFA DERFYNOL Y GYLLIDEB A’R ALLDRO REFENIW 2012/13 pdf eicon PDF 110 KB

Ystyried adroddiad y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar sefyllfa derfynol y gyllideb ac ymdrin â’r gweddill ariannol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Julian Thompson-Hill yr adroddiad, a gylchredwyd cyn y cyfarfod, a oedd yn rhoi diweddariad ynglŷn â’r sefyllfa refeniw derfynol a’r argymhellion ar gyfer ymdrin â’r balansau.  Caiff drafft cyntaf y Datganiad Cyfrifon Blynyddol ar gyfer 2012/13 ei gyflwyno i’r archwilwyr allanol ar 28 Mehefin. Bydd y cyfrifon a archwiliwyd yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ym mis Medi i'w cymeradwyo'n derfynol.

 

Y sefyllfa alldro ariannol gyffredinol ar gyfer  2012/13 yw i’r Cyngor dan wario yn erbyn y gyllideb a gymeradwywyd ac iddo weld cynnydd yn arenillion Treth y Cyngor, ac mae hynny’n cryfhau sefyllfa ariannol y Cyngor. O ganlyniad, mae’n bosibl argymell trosglwyddo cyllid i gronfeydd wrth gefn penodol a fydd o gymorth wrth i'r Cyngor gyfarch pwysau ariannol trwm y blynyddoedd nesaf a dechrau sefydlu’r adnoddau arian parod y mae eu hangen i gyflawni’r Cynllun Corfforaethol. Mae’r ffigyrau Alldro Refeniw terfynol yn Atodiad 1. Sefyllfa derfynol cyllideb y gwasanaethau a’r gyllideb gorfforaethol yw tanwariant o £1.525 miliwn, 1.3% o’r gyllideb refeniw net. 

 

Roedd sefyllfa alldro cyllideb y gwasanaethau a’r gyllideb gorfforaethol £530 mil yn uwch na'r hyn a gafodd ei adrodd wrth y Cabinet ym mis Mawrth. Roedd y symudiad mwyaf arwyddocaol o fewn Ysgolion Gwella a Chynhwysiant (£223 mil). Mae sefyllfa derfynol Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd wedi gwella o £76 mil ac mae sefyllfa’r cyllidebau corfforaethol wedi gwella o £113 mil ers y rhagolwg a gafodd ei adrodd ym mis Mawrth. Mae’r gwasanaethau’n parhau i fod yn rhagweithiol wrth gynllunio ar gyfer arbedion yn y blynyddoedd sydd i ddod, a dechreuwyd gweld effaith ariannol rhai o’r cynigion hynny ar waith tuag at ddiwedd 2012/13. Rhoddodd wasanaethau wybod am ymrwymiadau yn erbyn balansau o £849 mil ym mis Mawrth.  Roedd y mwyafrif o’r balansau wedi eu rhagweld oherwydd materion amseru ac mae balansau ymrwymedig y gwasanaethau bellach yn £1.139 miliwn ac mae rhagor o fanylion i’w gweld yn yr adroddiad.

 

Roedd y gwariant ar ysgolion £1.069 miliwn yn is na’r gyllideb a ddirprwywyd gydag ysgolion arbennig wedi gwella o £490 mil sy’n ffurfio’r rhan fwyaf o’r cyfanswm symudiad.  Mae balansau ysgolion bellach yn £2.870 miliwn sy’n oddeutu £190 y disgybl a 4.25% o gyllideb net ysgolion. Mae manylion ynglŷn â hyn wedi eu cynnwys yn Atodiad 3.  

 

Cyllidebodd y cyngor ar gyfer gwneud cyfraniad o £300 mil i’r balansau sydd, yn gyson ag adroddiadau blaenorol, yn dybiaeth o fewn y sefyllfa alldro derfynol. Cyllidebodd y cyngor ar gyfer gwneud cyfraniad i ariannu’r Cynllun Corfforaethol a oedd angen oddeutu £25 miliwn o arian parod a £52 miliwn o fenthyciad er mwyn cyflawni uchelgeisiau’r Cyngor. Yng nghyllideb 2012/13, roedd tybiaeth y byddai £2.073 yn cael ei gynhyrchu trwy fod arian blaenoriaeth wedi’i ddyrannu i wasanaethau a thrwy fod darpariaethau wedi eu cyllidebu o fewn cyllidebau corfforaethol.

 

Mae gwybodaeth bellach yn ymwneud ag alldro terfynol y gwasanaethau fel a ganlyn:-

 

Cynllunio Busnes a Pherfformiad – y sefyllfa derfynol yw tanwariant o £60 mil.

Cyllid ac Asedau – tanwariant o £16 mil.

Priffyrdd a’r Amgylchedd - £278 mil yn is sef gwelliant o £15 mil ers y rhagolwg a wnaed ym mis Mawrth.

Cynllunio a Rheoleiddio – cynnig i’w ddefnyddio i gyllido costau ailstrwythuro fel rhan o gyflawni arbedion ar gyfer 2013/14.

Gwasanaeth Oedolion a Busnes - wedi cyflawni ei gyllideb. 

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd – adroddwyd ei fod yn £148 mil. 

Tai a Datblygu Cymunedol - oherwydd i adolygiad o ariannu trwy grantiau allanol ar ddiwedd y flwyddyn amlygu costau ychwanegol y gellir eu hawlio.

Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden – roedd y sefyllfa alldro terfynol yn danwariant o £37.5 mil.  

TGCh/Trawsnewid Busnes – y gyllideb  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

ADOLYGU GWASANAETHAU DYDD pdf eicon PDF 110 KB

Ystyried adroddiad y Cyng. Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant (copi ynghlwm) sy’n darparu trosolwg o’r cynigion i ailfodelu gwasanaethau dydd pobl hŷn. 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, a gylchredwyd cyn y cyfarfod, a oedd yn darparu trosolwg o’r cynigion i ailfodelu gofal dydd ar gyfer pobl hŷn.  Mae’r cynigion yn ymwneud yn bennaf â’r newidiadau i ogledd Sir Ddinbych, fodd bynnag mae’r egwyddorion strategol ategol ar gyfer hyrwyddo annibyniaeth pobl trwy ail-alluogi a’r defnydd o adnoddau cymunedol yn berthnasol i’r sir gyfan.  Mae rhesymeg y cynigion wedi ei darparu ac mae’r maes gwasanaeth wedi ei adnabod fel maes ar gyfer toriadau cyllidebol yn y cynllun ariannol tymor canolig.  

 

Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau y dylid addasu Datganiad y Prif Swyddog Cyllid i ddweud “Mae’r adroddiad yn awgrymu y bydd arbedion yn codi yn sgil yr arolwg ac y byddai’r rhain yn cael eu hail-fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol. Bydd y cynigion hefyd yn rhyddhau gofod yn un o’n hadeiladau y gallwn ei ddefnyddio er dibenion eraill".

 

Mae Atodiad 1 a 2 yn cynnwys manylion rhai o’r ymgynghoriadau sydd wedi eu cynnal ac elfennau o’r model sydd wedi eu newid i adlewyrchu rhai o’r materion a godwyd.   Mae’r adroddiad yn argymell ym mharagraffau 4.10 a 4.13 y dylid cymeradwyo gweithredu’r model newydd.

 

Cafwyd crynodeb o’r adroddiad, a oedd yn cynnwys:-

 

-               Yn 2012 nododd Llywodraeth Cymru'r angen i wasanaethau cymdeithasol Cymru ymateb i’r newid cynyddol yn nisgwyliadau cymdeithasol, i’r newid demograffig ac i’r sefyllfa anodd o ran caffael adnoddau.

-               Ym mis Ionawr 2013 cyflwynwyd Bill Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) i Lywodraeth Cymru.

-               Y sail ar gyfer creu model Sir Ddinbych ar gyfer gofal cymdeithasol oedolion.   

-               Ar y cyfan, mae ar bobl eisiau cadw eu hannibyniaeth a'u cysylltiadau yn eu cymuned yn hytrach na mynychu canolfan arbennig ar gyfer pobl hŷn.

-               Ceir hefyd nifer o wasanaethau cymunedol datblygedig yn cynnig gwasanaethau i bobl o bob oed.

-               Y ffaith y dylai pobl gael mynediad at adnoddau cymunedol, dull sy’n gyson â Bill Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

-               Mae strategaeth ail-alluogi Sir Ddinbych wedi bod yn llwyddiannus iawn gan alluogi pobl i adennill sgiliau a hyder er mwyn byw’n annibynnol.

-               Mae Llys Nant a Hafan Deg yn ganolfannau dydd traddodiadol sy’n darparu gwasanaeth gwych a gwerthfawr i’r rheiny sy’n mynd yno. 

-               Mae nifer y bobl sy’n defnyddio’r canolfannau yn y lleiafrif o gymharu â chyfanswm poblogaeth pobl hŷn yr ardal.   Mae tystiolaeth o hyn yn Atodiad 3. Mae’r rhan fwyaf o’r bobl yn mynychu’r canolfannau hyn ddwy neu dair gwaith yr wythnos ac mae manylion ynglŷn â hynny yn Atodiad 4.

 

Tynnwyd sylw’r Aelodau at y cynnig diwygiedig canlynol:- 

 

·                     Symud gwasanaethau presennol Prestatyn o Lys Nant i Nant y Môr - Bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl ddatblygu rhwydweithiau cymdeithasol ehangach gyda thrigolion Nant y Môr a chymryd rhan mewn mwy o weithgareddau sy’n cael eu cynnig yn y cyfleuster Gofal Ychwanegol. Bydd defnyddwyr gwasanaeth presennol a newydd gydag anghenion cymwys yn cael eu cefnogi 3 diwrnod yr wythnos trwy weithgaredd “galw i mewn” sy’n helpu’r bobl i gymdeithasu. Byddan nhw’n derbyn cefnogaeth ar y ddau ddiwrnod arall i leihau’r ymdeimlad o unigedd. 

 

·                     Yn y tymor canolig/ tymor hir, edrych ar symud darpariaeth gofal dydd y Rhyl i Orwel Newydd - Fodd bynnag, byddem yn sicrhau bod unrhyw gynllun yn adnabod pwrpas addas a chynaliadwy ar gyfer adeilad Hafan Deg. Mae hyn yn cynnwys datblygu cyfleusterau yn y ganolfan i'n cynorthwyo i ddatblygu ein dull ail-alluogi h.y. sefydlu cegin ‘gartref’, yn ogystal ag edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio’r adeilad ar gyfer ystod o weithgareddau cymdeithasol a chefnogi ar gyfer pobl hŷn sy’n byw yn War Memorial Court a’r ardal.

 

·                     Ein cam cyntaf  ...  view the full Cofnodion text for item 12.

13.

LLEOEDD LLEWYRCHUS LLAWN ADDEWID – CAIS ARIANNU AR GYFER PROSIECTAU CANOL TREF Y RHYL pdf eicon PDF 100 KB

Ystyried adroddiad y Cyng. Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd (copi ynghlwm) sy’n nodi manylion fframwaith adfywio newydd Llywodraeth Cymru – Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a’r cynigion ar gyfer blaenoriaethu cyllid adfywio wrth symud ymlaen.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, a gylchredwyd cyn y cyfarfod, sy’n gofyn am gefnogaeth y Cabinet ar gyfer datblygu a chyflwyno cais am gyllid dan raglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid ar gyfer Canol Tref y Rhyl.

 

Trwy’r cynllun hwn mae Sir Ddinbych wedi llwyddo i sicrhau arian ar gyfer nifer o fentrau a phrosiectau gan gynnwys Harbwr y Rhyl, Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl ac adnewyddu Gwesty'r Bee and Station.  Fodd bynnag, mae arian y rhaglen hon yn dod i ben fis Mawrth 2014. Yn y dyfodol bydd yn rhaid mynd trwy broses gystadleuol dan Fframwaith Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid i sicrhau cyllid adfywio. 

 

Mae Cyfarwyddyd Ymgeisio Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, sydd ynghlwm wrth yr adroddiad, yn nodi rhai o'r prif egwyddorion a’r dulliau disgwyliedig, ynghyd â’r prif flaenoriaethau ar gyfer buddsoddi mewn adfywio. Mae’r rhain hefyd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Mae gwariant sylweddol eisoes wedi ei gynllunio yn y Rhyl trwy’r gwasanaethau Adfywio, Priffyrdd a gwasanaethau eraill a byddai modd defnyddio hyn fel arian cyfatebol.  Byddai buddsoddiad gan y sector preifat hefyd yn gymwys fel arian cyfatebol, ac mae yna eisoes fwriad o fuddsoddiad preifat sylweddol yn ystod cyfnod y rhaglen yn sgil datblygiad gwesty newydd a’r Ganolfan Nofio arfaethedig. Bydd buddsoddiad pellach gan y sector preifat yn cael ei hyrwyddo trwy’r rhaglen. O ystyried yr arian cyfatebol a nodwyd yn yr adroddiad, cynigir datblygu cais o amgylch yr adnoddau presennol ac o’r herwydd ni fyddai angen neilltuo mwy o gyllid cyfalaf Cyngor Sir Ddinbych i gefnogi’r cais.

 

Yn wreiddiol roedd y swyddogion wedi trafod cyflwyno cais Sirol a oedd yn canolbwyntio ar holl ganol trefi’r sir. Ond, yn dilyn awgrymiadau gan swyddogion Llywodraeth Cymru, credir na fyddai cais o'r fath yn llwyddiannus ac y byddai cais sy'n canolbwyntio ar un canol tref yn fwy addas  O fewn Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen, mae canol y dref eisoes wedi ei hadnabod fel mater o bwys a’r flaenoriaeth nesaf i fynd i'r afael â hi. Ar sail hynny yn ogystal â’r cyfarwyddyd ymgeisio sydd wedi ei chyhoeddi ac awgrymiadau Llywodraeth Cymru, ystyrir bod cais sy’n canolbwyntio ar ganol tref y Rhyl yn gais cryf a all lwyddo oherwydd y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad. Mynegodd yr Arweinydd ei siomedigaeth, oherwydd cyngor Llywodraeth Cymru, na fyddai terfi eraill y Sir yn cael cyfle i fanteisio ar y rhaglen newydd.

 

Os byddwn yn datblygu’r cais, cynigir y dylai’r cais roi blaenoriaeth i ddatblygu busnes, entrepreneuriaeth a chreu swyddi newydd yng nghanol y dref. Byddai hyn yn canolbwyntio ar fanwerthu, yn arbennig o fewn y sector annibynnol a sectorau wedi eu tangynrychioli fel bwyd, ond o ran y cyd-destun manwerthu newidiol, byddai hefyd yn ystyried sut gall canol y dref gefnogi darpariaeth tai amrywiol a gwasanaethau ehangach. Eglurwyd y byddai’r cyllid ar gyfer cyfalaf yn hytrach na refeniw, ond byddai hyn yn darparu cyfle i sicrhau cyllid ar gyfer caffael eiddo, adnewyddu, cynlluniau grant, gwelliannau amgylcheddol ac, o bosib, gwelliannau i feysydd parcio. Byddai’n rhaid i unrhyw gynllun cyfalaf gael ei gefnogi gan fentrau busnes a hyfforddi addas.

 

Mae’r adroddiad yn nodi sut fydd y penderfyniad yn cyfrannu at y Blaenoriaethau Corfforaethol, sut fydd y costau yn effeithio ar wasanaethau eraill ac yn darparu amlinelliad o'r risgiau a'r mesurau i'w lleihau.  Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau y byddai cefnogaeth bellach i’r cais yn cael ei dderbyn gan Asiantaethau Cymunedol a Phartneriaid perthnasol, ac y byddai cymeradwyaeth ffurfiol cais Cam 2, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, yn cael ei ystyried gan y Cabinet ar 3 Medi 2013 fel y nodir yn Adran 7 o’r adroddiad.

 

Mewn ymateb i’r materion  ...  view the full Cofnodion text for item 13.

14.

ADOLYGU GRŴP LLYWIO’R CYNLLUN DATBLYGU LLEOL pdf eicon PDF 103 KB

Ystyried adroddiad y Cyng. Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi ynghlwm) sy’n cynnwys cynigion i newid aelodaeth Grŵp Llywio’r Cynllun Datblygu Lleol.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Eryl Williams yr adroddiad, a gylchredwyd cyn y cyfarfod, sy’n amlinellu’r cynigion i ddiwygio aelodaeth Grŵp Llywio’r Cynllun Datblygu Lleol.   Cytunwyd y dylai’r Grŵp Llywio newydd ddarparu arweiniad a chyfarwyddyd i symud y Cynllun Datblygu Lleol yn ei flaen trwy’r broses fabwysiadu ffurfiol ac i ganolbwyntio ar weithredu strategaeth a pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol.  Cytunwyd ar Gylch Gorchwyl ac ar yr Aelodaeth, a bu i’r grŵp gyfarfod y llynedd.  Fodd bynnag, cydnabuwyd y bydd yn rhaid adolygu’r aelodaeth yn dilyn etholiadau mis Mai 2012 a mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol. 

 

Yn dilyn mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol, mae’n bwysig bod Grŵp diwygiedig yn cael ei ffurfio er mwyn darparu arweiniad gwleidyddol ar ddatblygu cyfres o Nodiadau Cyfarwyddyd Cynllunio Ychwanegol, briffiau datblygu a chynlluniau isadeiledd i hwyluso gweithredu'r Cynllun Datblygu Gwledig.  Prif swyddogaeth Grŵp Llywio’r Cynllun Datblygu Lleol yw cefnogi darpariaeth a monitro parhaus ac adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol, ynghyd â chefnogi gweithredu Strategaeth y Cynllun. Byddai gan y Grŵp rôl anweithredol ond byddai’n adrodd yn ôl ac yn gwneud argymhellion i’r Cabinet a’r Cyngor yn ôl yr angen.  

 

Mae’r Cylch Gorchwyl diwygiedig (Atodiad 1) yn nodi’r trefniadau aelodaeth arfaethedig. Bydd nifer yr aelodau yn aros yr un fath (sef 12) ond ceisir cael cydbwysedd gwleidyddol a daearyddol hyd y gellir.  Bydd pob Grŵp Aelodau Ardal yn enwebu 2 Aelod i gynrychioli eu hardal.

 

Bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn chwarae rhan uniongyrchol o ran cyflawni blaenoriaethau ‘Datblygu’r Economi Lleol’ a ‘Sicrhau Mynediad at Dai o Ansawdd' trwy'r polisïau a'r cynigion ynddo. Prif swyddogaeth y Grŵp Llywio fydd goruchwylio cyflawni’r Cynllun Datblygu Lleol, gan alluogi'r ddarpariaeth o dai, cyflogaeth, cyfleusterau cymunedol a diogelu’r amgylchedd trwy’r Sir.  Mae copi o’r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb wedi ei gynnwys yn Atodiad 2.

 

Yn ystod y drafodaeth i ddilyn bu i’r Aelodau cymeradwyo’r Cylch Gorchwyl diwygiedig ac aelodaeth Grŵp Llywio’r Cynllun Datblygu Lleol, fel y nodir yn Atodiad 1, ac yn amodol ar ddileu'r cyfeiriad at falans gwleidyddol. Cytunwyd hefyd anfon cais at Gadeiryddion Grwpiau Aelodau Ardal yn gofyn am enwebu dau berson ar gyfer y Grŵp Llywio. Dylid derbyn yr enwebiadau erbyn wythnos gyntaf mis Gorffennaf 2013. (AL i weithredu)

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:-

 

(a)          cymeradwyo’r Cylch Gorchwyl diwygiedig ac aelodaeth Grŵp Llywio’r Cynllun Datblygu Lleol, fel y nodir yn Atodiad 1, ac yn amodol ar ddileu'r cyfeiriad at falans gwleidyddol; ac yn

(b)          cytuno i anfon cais at Gadeiryddion Grwpiau Aelodau Ardal yn gofyn am enwebu dau berson ar gyfer y Grŵp Llywio erbyn wythnos gyntaf mis Gorffennaf 2013.

 

15.

RHAGLEN WAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 162 KB

Derbyn Rhaglen Waith i’r Dyfodol y Cabinet a nodi’r cynnwys. 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Raglen Waith i’r Dyfodol y Cabinet, a gylchredwyd â phapurau’r cyfarfod.    

 

PENDERFYNWYD – y dylai’r Cabinet gymeradwyo ei Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 2.45 pm.