Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: YSTAFELL NBWYLLGORA 1a, NEUADD Y SIR, RUTHUN

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Dim.

 

 

Cofnodion:

Dim.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu gydag unrhyw fater a nodwyd y dylid eu hystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Penderfyniad:

Dim.

 

 

Cofnodion:

Ni wnaeth neb o’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu ragfarnllyd ag unrhyw fater a nodwyd y byddai’n cael ei drafod yn y cyfarfod.

 

 

3.

MATERION BRYS

Rhybudd am eitemau y mae’r Cadeirydd yn credu y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater y dylid ei ystyried, ym marn y Cadeirydd, fel mater brys yn y cyfarfod yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau yr oedd y Cadeirydd o’r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Lleol, 1972.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 168 KB

Cael cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Mawrth, 2013 [mae copi ynghlwm]. 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ddydd Mawrth, 19 Mawrth, 2013.  

 

PENDERFYNWYD:- bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ddydd Mawrth, 19 Mawrth, 2013 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir a’u harwyddo gan yr Arweinydd.

 

 

5.

ADRODDIAD DIWEDDARIAD CYLLID pdf eicon PDF 271 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau (mae copi y ddilyn) sy’n egluro’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:- y Cabinet i nodi’r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllidebol a gytunwyd arni. 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd J. Thompson Hill yr adroddiad, a ddosbarthwyd eisoes, a oedd yn rhoi manylion cyllideb refeniw ac arbedion y cyngor fel y’u cytunwyd ar gyfer 2012/13, ar ddiwedd Mawrth 2013, a darparodd ddiweddariad cryno ar y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a’r Cynllun Cyfalaf Tai.

 

Eglurodd bod rhagolygon diweddaraf y gyllideb refeniw wedi cael eu cyflwyno fel Atodiad 1 ac roedd yn dangos tanwariant ar draws cyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol o £994k, £1.1m y mis diwethaf, a oedd yn cynrychioli amrywiad o 0.86% ar draws y gyllideb net gyfan. Roedd tua £849k wedi cael ei ymrwymo i ariannu gwariant yn gynnar yn 2013/14 neu wedi cael ei gynnig i’w ddefnyddio gan wasanaethau'r flwyddyn nesaf, gyda’r tanwariant oedd ar gael o bosibl yn £111k yn unig. Roedd y sefyllfa ysgolion yn amcanu symudiad net cadarnhaol ar falansau o £294k, £306k y mis diwethaf, ar gyllidebau dirprwyedig a £176k ar gyllidebau ysgolion heb eu dirprwyo, £161k y mis diwethaf. Roedd y symudiad ar gyllidebau ysgolion heb eu dirprwyo yn ymwneud â bod angen llai o wiriadau CRB yn ystod y flwyddyn na gynlluniwyd. Roedd crynodeb o’r Cyfrif Refeniw Tai hefyd yn Atodiad 1 er gwybodaeth ond roedd hon yn gronfa ar wahân ac nid oedd yn rhan o brif gyllideb refeniw’r Cyngor.

 

Rhoddodd y Cyngor darged arbed net am y flwyddyn o £3.44m yng nghyllideb 2012/13 ac roedd 99.3% o’r arbedion wedi eu cyflawni neu wedi eu disodli gan ddod i swm o £3.418m. Roedd y £25k a oedd yn weddill yn ymwneud â’r prosiect rhesymoli argraffwyr ac roedd wedi ei ohirio tan y flwyddyn nesaf.   

 

Yn y tri adroddiad cyllid diwethaf, roedd y testun ynglŷn â sefyllfa gwasanaethau cefnogol wedi cyfeirio at sawl cynnig i gyfrannu at gronfeydd wrth gefn neu gario balansau ymlaen i 2013/14. Mewn sawl achos, amseriad gwariant oedd y broblem. Byddai’r adroddiad canlyniad terfynol i’r Cyngor ym mis Mehefin yn cymeradwyo’n ffurfiol drosglwyddiadau i neu o gronfeydd wrth gefn neu falansau, gan gynnwys arian a gariwyd drosodd. Roedd Atodiad 2, yn rhoi crynodeb o’r eitemau a drafodwyd mewn adroddiadau blaenorol i’r Cabinet. 

 

Roedd manylion amrywiadau gwasanaeth allweddol wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac wedi eu crynhoi ar gyfer yr Aelodau. Roedd y meysydd allweddol a’r materion yn cynnwys:-

 

Gwasanaethau Oedolion a Busnes – Roedd yr alldro cyfredol yn gytbwys gydag unrhyw droswariant yn cael ei ariannu o’r Gronfa Cefnogi Pobl.

 

Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd – Roedd y tanwariant bach wedi cynyddo o £12k i £205k o ganlyniad i gynnydd bach mewn lefelau incwm. Roedd tanwariant Priffyrdd ac Isadeiledd wedi lleihau gan £16k i £158k gyda manylion y  newidiadau wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Darparwyd yr ymatebion canlynol i gwestiynau oddi wrth yr Arweinydd:-

 

-               Nid oedd y cynnydd mewn lefelau incwm wedi deillio o gynnydd yn y taliadau, ond yn seiliedig ar ragolygon o'r incwm a dderbyniwyd.

-               O ganlyniad i'r tywydd garw a gafwyd byddai'r gyllideb Cynnal a Chadw y Gaeaf yn cael ei defnyddio a byddai hyn yn cael ei wrthbwyso gan y gyllideb cynnal a chadw cyffredinol. Cafwyd cadarnhad ar yr amod, ar y cyd ag Awdurdodau cyfagos, byddai cais yn cael ei gyflwyno ar gyfer cyllid argyfwng. Eglurodd y Cynghorydd D. I. Smith y byddai holl Awdurdodau Gogledd Cymru yn gofyn am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i drwsio'r difrod a achoswyd i'r rhwydwaith ffyrdd gan y tywydd garw. Cytunodd y Cynghorydd Smith i gyfleu’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Feeley ynglŷn â safon y gwaith a wneir gan y jetpatcher. Amlygodd y Prif  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU AR RAGLENNI CYLLID STRWYTHUROL ESF AC ERDF 2014 / 2020 pdf eicon PDF 78 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans (mae copi ynghlwm) ar ymatebion Sir Ddinbych i Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar Raglenni Cyllid Ewropeaidd ar gyfer 2014-2020.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad, a ddosbarthwyd eisoes, yn ymwneud ag ymatebion Cyngor Sir Ddinbych i Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar y Rhaglenni Arian Ewropeaidd newydd ar gyfer 2014-2020.

 

Eglurwyd yn dilyn gweithdy ar 20 Mawrth 2013, gyda swyddogion ac Aelodau allweddol Sir Ddinbych, gan gynnwys aelodau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Partneriaeth Cynllun Datblygu Gwledig ac aelodau’r Grŵp Gweithredu Lleol Gwledig, bod ymateb drafft wedi cael ei lunio i ymgynghoriadau LlC ar Raglenni Ewropeaidd newydd 2014-2020.  Ystyriwyd y Blaenoriaethau Corfforaethol a Pholisïau Rhanbarthol eraill Llywodraeth Cymru, a gofynnwyd i'r Cabinet gadarnhau cefnogaeth ar gyfer yr ymatebion hyn ar ran y Cyngor Sir.

 

Ym mis Ionawr 2013, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriadau cyhoeddus cyfochrog ar Arian Strwythurol a Rhaglenni Datblygu Gwledig 2014-2020.  Roedd y dogfennau ymgynghori yn cynnwys strategaeth rhaglen arfaethedig, blaenoriaethau buddsoddi, themâu sy’n trawstorri, archwilio rhai o’r materion gweithredu a darparu allweddol a chynnwys y dystiolaeth. Roedd y cynigion ar gyfer rhaglenni Cronfa Strwythurol newydd wedi’u datblygu gan ganolbwyntio ar dwf a swyddi, a oedd yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru; a nodau Ewrop 2020 sef twf doeth, cynaliadwy a chynhwysol.

 

Ar gyfer cyfnod rhaglennu 2014-2020 disgwyliwyd byddai Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn cymhwyso fel “rhanbarth llai datblygedig”: y lefel cefnogaeth uchaf sydd ar gael dan rownd nesaf y rhaglenni Arian Strwythurol. Roedd yr union swm arian Ewropeaidd a fyddai ar gael yn y cyfnod rhaglennu nesaf yn amodol ar ganlyniad trafodaethau ar gyllideb Ewropeaidd gan y Cyngor Ewropeaidd a Senedd Ewrop. Byddai ymatebion i’r cwestiynau ymgynghori yn chwarae rhan bwysig wrth baratoi testun terfynol y Rhaglenni Gweithredol y byddai LlC yn eu cyflwyno i’r Comisiwn Ewropeaidd yn ddiweddarach yn 2013.  

 

Roedd Sir Ddinbych wedi ymateb i’r ymgynghoriadau er mwyn sicrhau, yn ogystal ag alinio â pholisïau LlC ac Ewrop, byddai’r dogfennau Rhaglen Weithredol terfynol yn eu galluogi i gyflawni camau gweithredu o fewn Blaenoriaethau Corfforaethol Sir Ddinbych. Byddai ymatebion Sir Ddinbych hefyd yn cael eu cynnwys mewn ymateb rhanbarthol oedd yn cael ei ddrafftio ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a byddai hefyd yn cael ei gyflwyno i CLlLC i ffurfio rhan o’u hymateb Cymru gyfan. Roedd ymatebion Ymgynghoriad Sir Ddinbych wedi’u hatodi i’r adroddiad fel atodiadau.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am sut byddai'r penderfyniad yn cyfrannu at y Blaenoriaethau Corfforaethol, costau a'u heffaith ar wasanaethau eraill, Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ac amlinelliad o unrhyw risgiau a'r camau gweithredu i'w lleihau. Eglurwyd bod Grŵp Aelodau a Swyddogion Allweddol wedi trafod yr ymatebion i'r ymgynghoriad a amlinellwyd yn yr adroddiad ac y byddai ymarferion ymgynghori pellach yn cael eu gwneud wrth i gyfleoedd cyllido ddatblygu.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd yr angen i godi proffil cronfeydd Strwythur Ewropeaidd o fewn y cyd-destun corfforaethol er mwyn cefnogi a datblygu Cynllun Corfforaethol y Cyngor. Amlygwyd y gystadleuaeth o fewn y rhanbarthau i sicrhau cyllid a rhoddodd grynodeb o'r themâu arfaethedig a nodwyd gan Lywodraeth Cymru a'r materion allweddol a ymgorfforwyd yn yr ymateb.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd H. Ll. Jones at y problemau a gafwyd o ran dosbarthiad ardaloedd gwledig a threfol ac eglurodd fod Dyserth bellach wedi'i ddosbarthu fel ardal wledig.  

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd H.C. Irving ynghylch darparu cymorth i fusnesau bach, yn enwedig materion yn ymwneud ag arian cyfatebol, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol (CC: UECh) at y gwaith a wnaed gan y Grŵp Tasg a Gorffen mewn perthynas â datblygiad y Strategaeth Uchelgeisiau Cymunedol, a oedd yn amlygu'r angen am ddarparu cefnogaeth well, â mwy o ffocws a haws i’w lywio i fusnesau. Amlygwyd pwysigrwydd yr angen i sicrhau fod  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

SYMUD O GYNLLUNIAU TREF I GYNLLUNIAU ARDAL pdf eicon PDF 89 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans (mae copi ynghlwm) ar gynnydd o ran ehangu Cynlluniau Tref yn Gynlluniau Ardal ehangach gan gynnwys cymunedau llai a mwy gwledig ledled Sir Ddinbych.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd H.H. Evans yr adroddiad, a ddosbarthwyd eisoes, a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth am y broses o ymestyn y Cynlluniau Tref yn Gynlluniau Ardal ehangach gan gynnwys cymunedau llai a mwy gwledig ledled Sir Ddinbych.

 

Eglurodd bod Cyngor Sir Ddinbych yn ystod 2011/12, wedi datblygu a chytuno ar Gynlluniau Trefol ar gyfer saith o brif drefi’r sir, heb gynnwys y Rhyl. Roedd ymarferiad wedi cael ei gynnal yn y Rhyl i ddatblygu Cynllun Darparu Y Rhyl yn Symud Ymlaen. Roedd y Cynlluniau Trefol wedi caniatáu i anghenion a blaenoriaethau cymunedol gael eu nodi ar gyfer pob prif anheddiad. Fodd bynnag, hyd yma, nid oeddent wedi delio ag anghenion a blaenoriaethau cymunedau llai a mwy gwledig. Ym mis Ionawr 2013, fe gytunodd y Cabinet i ehangu’r Cynlluniau Trefol yn Gynlluniau Ardal ehangach ac roedd yr adroddiad yn disgrifio sut byddai hynny’n digwydd. Roedd y Cynlluniau Tref ar gyfer Corwen, Dinbych, Llangollen, Prestatyn, Rhuddlan, Rhuthun a Llanelwy wedi cael eu cymeradwyo gan y Cabinet rhwng 2011 a Mawrth 2012.

 

Ym mis Ionawr 2013, fe gymeradwyodd y Cabinet ddyraniad cyllid cychwynnol ar gyfer prosiectau a nodwyd yn flaenoriaethau Blwyddyn 1 yn y Cynlluniau Trefol. Fe gytunodd y Cabinet ar yr un pryd i ehangu’r Cynlluniau Trefol yn Gynlluniau Ardal ehangach. Roedd Grŵp Cydlynu’r Cynlluniau Trefol wedi ystyried y broses briodol i ymestyn y Cynlluniau Trefol presennol yn Gynlluniau Ardal ehangach ac wedi delio â 3 phrif gwestiwn:-

 

i)                         Beth yw’r ‘ardal’ briodol ar gyfer Cynllun Ardal?

ii)                        Sut y dylid datblygu’r Cynlluniau Ardal?

iii)                       Sut olwg fydd ar y Cynlluniau Ardal?

Fe ystyriodd y Grŵp ddau opsiwn a oedd yn cynnwys Cynlluniau’n cwmpasu ardaloedd y Grŵp Aelodau Ardal (GAA), neu ardaloedd sy’n cynnwys y Trefi a’r cymunedau sydd â pherthynas draddodiadol neu naturiol â nhw. Oherwydd mai bwriad y Cynlluniau Ardal oedd cyflawni ymrwymiad y Cyngor i gynllunio’n seiliedig ar y gymuned a’i uchelgais i fod yn Nes at y Gymuned, daeth Aelodau’r Grŵp i’r casgliad mai’r ail opsiwn – Trefi a’u Cymunedau Cysylltiedig – oedd yr opsiwn dewisol. Roedd y grŵp yn credu bod Cynlluniau o’r fath yn haws i’w deall gan breswylwyr a byddai’r dull hwn yn unol ag arferion gorau mewn cynllunio a arweinir gan y gymuned a datblygiad economaidd trefi marchnad.

 

Roedd Atodiad 1 yn nodi’r cymunedau y byddai pob Cynllun yn ei gwmpasu, ac roedd y rhain wedi eu trafod a’u cadarnhau gan y GAA a chredwyd eu bod yn cynrychioli’r cysylltiadau naturiol a oedd yn ‘ffitio orau’ rhwng cymunedau a threfi. Daeth y Grŵp i’r casgliad y dylid cael cyfanswm o 9 o Gynlluniau, y 7 Cynllun Trefol presennol, Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen a Chynllun newydd ar gyfer Bodelwyddan, i’w datblygu pe bai’r Cynllun Datblygu Lleol arfaethedig yn cael ei gymeradwyo.

 

Roedd y Grŵp Cydlynu’r Cynlluniau Trefol yn cydnabod fod yn rhaid i ymgynghori lleol da fod yn sail i’r Cynlluniau Ardal newydd os oedden nhw i fod yn wirioneddol seiliedig ar gymunedau ac yn adlewyrchol o anghenion a blaenoriaethau lleol. Er mwyn sicrhau cysondeb y dull gweithredu, roedd y Grŵp Cydlynu wedi cadarnhau fframwaith eang ar gyfer ymgynghori ac roedd hyn wedi ei gynnwys yn Atodiad 2. Yn unol â’r Siarter Cynghorau Tref a Chymuned, roedd y cynigion wedi eu dylunio i sicrhau bod Cynghorau Cymuned yn arwain yr ymgynghori a’r ymgysylltu ar lefel leol

 

Amlygodd yr Arweinydd bwysigrwydd rôl y Cefnogwyr ac roedd y Grŵp wedi argymell bod y Cefnogwyr Cynlluniau Trefol, gyda chefnogaeth eu Swyddogion Cymorth, yn llunio cynlluniau ymgynghori manwl ar gyfer cymunedau llai a mwy gwledig i’w hymgorffori  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

CYNLLUN CORFFORAETHOL 2012/17 - Chwarter 3 pdf eicon PDF 73 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Barbara Smith (mae copi ynghlwm) sy’n cyflwyno diweddariad trydydd chwarter ar waith cyflwyno Cynllun Corfforaethol 2012-17.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD - y Cabinet i dderbyn yr adroddiad a nodi sylwadau’r Aelodau yn ymwneud â’r materion perfformiad a godwyd. 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd B.A. Smith yr adroddiad, a ddosbarthwyd eisoes, fel yr oedd ar ddiwedd Rhagfyr 2012, yn rhoi diweddariad y trydydd chwarter ar ddarparu’r Cynllun Corfforaethol 2012-17.

 

Byddai adrodd yn rheolaidd yn ofyniad monitro hanfodol o’r Cynllun Corfforaethol i sicrhau bod y cyngor yn gweithredu ei ddyletswydd i wella. Cyflwynodd y Cynghorydd B.A. Smith yr adroddiad a rhoddodd grynodeb o'r Atodiad a oedd yn manylu ar bob canlyniad yn y Cynllun Corfforaethol a oedd yn cynnwys:-

 

·                     Datblygu'r economi leol

·                     Gwella perfformiad mewn addysg ac ansawdd adeiladau ein hysgolion

·                     Gwella ein ffyrdd

·                     Mae pobl ddiamddiffyn yn cael eu gwarchod ac yn gallu byw mor annibynnol â phosibl

·                     Strydoedd glân a thaclus

·                     Sicrhau mynediad at dai o ansawdd da

·                     Moderneiddio’r cyngor i sicrhau arbedion a gwella gwasanaethau ar gyfer ein cwsmeriaid

 

Ymatebodd y Rheolwr Tîm Gwella Corfforaethol (RhTGC) i gwestiynau oddi wrth Aelodau a chyfeiriodd at y diffiniad statws codau lliw ar dudalen 57. Roedd pob dangosydd a mesur perfformiad wedi cael statws yn disgrifio'r sefyllfa bresennol ac roedd y lliw yn rhoi disgrifiad o’r statws. 

 

Eglurwyd bod hwn yn Gynllun Corfforaethol pum mlynedd a bod statws y dangosyddion unigol a’r mesurau perfformiad yn cael eu cefnogi gan ddata ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Roedd y meysydd canlynol lle efallai bod angen gwaith pellach wedi eu hamlygu yn yr adroddiad:-

 

-        Nid yw’r gwaith i ffurfioli cynlluniau ar gyfer cyrbau is wedi symud ymlaen ac roedd wedi’i gynnwys yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor a’r Cynllun Corfforaethol. Cytunodd y Cynghorydd D.I. Smith fynd ar drywydd pryderon a godwyd gan y Cynghorydd J.R. Bartley mewn perthynas â ffyrdd heb eu mabwysiadu a materion cynllunio yn ymwneud â darparu cyrbau is yn ardal datblygiadau ar gyfer pobl anabl.

 

-               Roedd canran y disgyblion sy’n gadael yr ysgol heb gymhwyster cymeradwy yn “flaenoriaeth ar gyfer gwella” ac angen ymdrechion parhaus i wella hyn i statws “derbyniol”. Cadarnhaodd y RhTGC y byddai disgyblion yn gadael yr ysgol heb gymhwyster cymeradwy am resymau tu hwnt i reolaeth yr Awdurdod a thynnodd sylw'r Aelodau at baragraff 4.1.7 o'r adroddiad. Pwysleisiodd y byddai'n bwysig darparu sicrwydd fod pob cam posibl wedi’i gymryd i fynd i'r afael â'r mater hwn. Eglurodd CC:C byddai adnabod y problemau yn gynnar yn hanfodol a theimlai’r Cynghorydd E.W. Williams byddai'r gwelliannau a gyflawnwyd yn Ysgol Uwchradd y Rhyl yn cael effaith gadarnhaol ar y ffigyrau a gynhyrchwyd. Ymatebodd y Cynghorydd Williams i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd P. Penlington gan esbonio byddai materion ynghylch lefelau cymhwyster yn cael ei ystyried mewn Gweithdy i'w gynnal ar 21 Mai, 2013.

 

-        Roedd cyflwyno’r holl rybuddion cosb benodol wedi bod yn fwy na’r disgwyl, ond roedd cyflwyno rhybuddion cosb benodol ar gyfer baw cŵn wedi cael ei amlygu fel “blaenoriaeth ar gyfer gwella” gyda data yn awgrymu mai 2% yn unig o’r holl rybuddion cosb benodol a gyflwynwyd oedd yn ymwneud â baw cŵn. Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd D. Simmons bod ardal Y Rhyl wedi cael ei thargedu, eglurodd y PW bod adnoddau wedi cael eu canolbwyntio ar ardaloedd lle nodwyd bod problemau gwrthgymdeithasol. Cadarnhaodd nad oedd ganddo unrhyw bryderon ynghylch rhybuddion cosb benodol a bod y fframwaith perfformiad wedi bod yn dda. Roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi datgan eu bod yn fodlon ar y gwaith a wnaed ac wedi mynegi eu cefnogaeth i'r fenter a gyflwynwyd. Bu gostyngiad sylweddol mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwelliant cyffredinol yn yr amgylchedd, a bwysleisiodd arwyddocâd a phwysigrwydd y prosiect. 

-               Wedi’i nodi fel "blaenoriaeth ar gyfer gwella" oedd canran y cyfarfodydd grŵp craidd cychwynnol  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 135 KB

Cael Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

 

Penderfyniad:

Cytunodd yr Aelodau ar yr argymhellion canlynol ar gyfer eu Rhaglen Waith:-

 

-               Dewis Grŵp Llywio CDLl ym mis Gorffennaf 2013 yn lle mis Mai 2103.

 

-               Cyflwyno’r adroddiad ar Ddefnyddio Contractwyr Allanol i Gyflenwi Gwasanaethau TGCh i Ysgolion i’r Cabinet ym mis Mehefin 2013 ac nid mis Gorffennaf 2013.

 

-               Cynnwys adroddiad ar Gludiant Teithwyr Rhanbarthol yn Rhaglen Waith mis Mai 2013.

 

-                Cynnwys adroddiad ar yr Ymateb i’r Ymgynghoriad ar Gynlluniau Tref ac Ardal yn Rhaglen Waith mis Medi 2013.

 

PENDERFYNIAD  y Cabinet, yn amodol ar yr uchod, i gymeradwyo’r Rhaglen Waith.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y  Cynghorydd H.H. Evans raglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Cytunodd yr Aelodau ar y newidiadau canlynol ar gyfer eu Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol:-

 

-               Mabwysiadu’r Grŵp Llywio CDLl ym mis Gorffennaf 2013 yn lle mis Mai 2103.

 

-               Cyflwyno’r adroddiad ar Ddefnyddio Contractwyr Allanol i Gyflenwi Gwasanaethau TGCh i Ysgolion i’r Cabinet ym mis Mehefin 2013 ac nid mis Gorffennaf 2013.

 

-               Cynnwys adroddiad ar Gludiant Teithwyr Rhanbarthol yn Rhaglen Waith mis Mai 2013.

 

-                Cynnwys adroddiad ar yr Ymateb i’r Ymgynghoriad ar Gynlluniau Tref ac Ardal yn Rhaglen Waith mis Medi 2013.

 

PENDERFYNWYD – bod y Cabinet, yn amodol ar yr uchod yn derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.50 a.m.