Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau. Cofnodion: Dim. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu
ragfarnus mewn unrhyw fusnes i’w drafod yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Datganodd y Cynghorydd David Smith fuddiant personol a
rhagfarnus yn Eitem 6 ar y Rhaglen ar Wasanaeth Rhanbarthol arfaethedig
Cynllunio Rhag Argyfwng. Cofnodion: Nododd y
Cynghorydd David Smith bod ganddo gysylltiad personol a niweidiol yn Eitem rhif
6 ar y rhaglen, sef y Gwasanaeth Rhanbarthol Arfaethedig Cynllunio Rhag
Argyfwng. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol 1972. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19
Chwefror 2013 (copi’n amgaeëdig). Penderfyniad: PENDERFYNWYD yn amodol ar
bwynt o gywirdeb, cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Chwefror
2013 fel cofnod cywir a’u llofnodi gan yr Arweinydd. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod Cabinet a
gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2013. Cywirdeb – Rhoddodd y Cynghorydd Richard Davies
wybod y cyfeiriwyd ato yn anghywir fel ‘J.R. Davies’ yn lle ‘R.J. Davies’ yn y
cofnodion. Materion yn Codi – Tudalen 15 – Eitem rhif 9 Digwyddiad
Beicio Etape Cymru 2013, penderfyniad (c) – cytunodd y Cynghorydd Huw Jones i
wirio bod y cais i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau lleol yn rheolaidd
mewn perthynas â phryderon yn cael ei ddatblygu. PENDERFYNWYD,
ar ôl newid yr uchod, y dylid cymeradwyo bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 19 Chwefror 2013 yn gofnod cywir, a’u llofnodi gan yr Arweinydd. |
|
CYDWEITHREDU RHANBARTHOL GOFALWYR IFANC PDF 79 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod
Arweiniol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant (copi’n amgaeëdig) yn gofyn
i’r Cabinet gymeradwyo gwaith i’w wneud i ddatblygu cydweithredu
rhanbarthol/isranbarthol ar gyfer darparu Gwasanaethau Gofalwyr Ifanc. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn cymeradwyo’r gwaith i’w wneud i ddatblygu cydweithrediad rhanbarthol
/ isranbarthol ar gyfer darparu Gwasanaethau Gofalwyr Ifanc ar draws Awdurdodau
Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod
Arweiniol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant yr adroddiad yn gofyn am
gymeradwyaeth y Cabinet i wneud gwaith i ddatblygu gwaith
rhanbarthol/isranbarthol ar y cyd i ddarparu Gwasanaethau Gofalwyr Ifanc ledled
Awdurdodau Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rhoddwyd gwybod i’r Cabinet am y cefndir i’r cynigion gan gynnwys
cyfrifoldebau statudol mewn perthynas â Gofalwyr Ifanc a chanfyddiadau
dadansoddiad manwl y cytundebau a darparwyr presennol. Yn seiliedig ar ddefnydd
a darpariaeth bresennol gellir gwneud arbedion sylweddol a gwelliannau gwasanaeth
os bydd cytundeb rhanbarthol gan chwe awdurdod Gogledd Cymru. Yn amodol ar gael cymeradwyaeth wleidyddol,
mae ymrwymiad wedi’i gadarnhau gan Gonwy, Sir Ddinbych a Wrecsam. Os bydd awdurdodau eraill yn gwrthod bod yn
rhan o gytundeb rhanbarthol, cynigir ymrwymo i gytundeb isranbarthol fydd yn
parhau i ddarparu arbedion cost a manteision. Gofynnodd yr Arweinydd am eglurhad ynglŷn â’r
goblygiadau cost a rhoddodd swyddogion wybod y bydd angen ymrwymiad ariannol o
tua £300k - £350k ar gyfer cytundeb rhanbarthol, a bydd yn cael ei ariannu o’r
cyllidebau gwasanaeth presennol. Credwyd
y gellir gwneud arbedion hefyd os bydd y gwaith cydweithio yn parhau yn
isranbarthol ond i raddau llai. Mewn
ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Smith, cadarnhawyd y bydd cwmpas i
unrhyw awdurdod sy’n gwrthod bod yn rhan o’r cytundeb rhanbarthol ar hyn o bryd
ymuno yn y dyfodol. PENDERFYNWYD y dylai’r Cabinet gymeradwyo’r gwaith i’w wneud i
ddatblygu gwaith rhanbarthol/isranbarthol i ddarparu Gwasanaethau Gofalwyr Ifanc
yn Awdurdodau Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. |
|
GWASANAETH RHANBARTHOL ARFAETHEDIG CYNLLUNIO RHAG ARGYFWNG PDF 94 KB
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd David Smith, Aelod
Arweiniol ar gyfer y Parth Cyhoeddus (copi’n amgaeëdig) yn argymell bod y
Cabinet yn mabwysiadu’r cynllun busnes terfynol i sefydlu Gwasanaeth
rhanbarthol Cynllunio Rhag Argyfwng ac yn dirprwyo awdurdod i gymeradwyo’r
trefniadau trosiannol i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â’r Aelod
Arweiniol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet - (a) yn
mabwysiadu’r cynllun busnes terfynol i sefydlu Gwasanaeth rhanbarthol Cynllunio
Rhag Argyfwng ar sail yr hyn a nodir ym mharagraff 4.12 yr adroddiad; (b) yn
dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol i
gymeradwyo’r trefniadau trosglwyddo manwl i’r gwasanaeth newydd ac ymgymryd â’r
holl dasgau angenrheidiol i sefydlu’r gwasanaeth newydd, ac (c) argymell bod y gwasanaeth rhanbarthol yn
destun gwaith craffu gan y Pwyllgor Craffu Partneriaethau yn ystod y cyfnod
trosglwyddo ac ar ôl ei weithredu’n llawn. Cofnodion: [Nododd y Cynghorydd David Smith bod ganddo
gysylltiad personol a niweidiol yn Eitem rhif 6 ar y rhaglen, sef y Gwasanaeth
Rhanbarthol Arfaethedig Cynllunio Rhag Argyfwng a gadawodd y
cyfarfod tra roedd yr eitem yn cael ei thrafod.] Yn absenoldeb y Cynghorydd David Smith cyflwynodd
yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, yr adroddiad yn argymell mabwysiadu’r
cynllun busnes terfynol i sefydlu Gwasanaeth Rhanbarthol Cynllunio Rhag Argyfwng
a dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod
Arweiniol i gymeradwyo trefniadau trosglwyddo.
Mae crynodeb o’r trefniadau presennol yn ogystal â’r achos busnes
terfynol wedi’i atodi i’r adroddiad. Comisiynodd Prif Weithredwyr chwe Awdurdod Lleol
Gogledd Cymru ddatblygiad achos busnes am wasanaeth sengl ac ers hynny mae
wedi’i gynnwys yn y Compact Llywodraeth Leol.
Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at fanteision sefydlu Gwasanaeth
Rhanbarthol Gogledd Cymru yn seiliedig ar strwythur isranbarthol gyda
phresenoldeb swyddog ym mhob awdurdod i sicrhau arbenigedd a gwybodaeth leol a
pharhad gwasanaethau lleol. Er bod
arbedion cost yn fychan, bydd cydweithio yn darparu gwasanaeth mwy effeithlon,
effeithiol a gwydn, a gofynnir i’r chwe awdurdod gefnogi’r argymhelliad i
ymuno. Cynigiwyd y bydd y gwasanaeth
newydd yn dod yn weithredol ym mis Hydref 2013. Yn y drafodaeth a ddilynodd, gofynnodd yr
Arweinydd am sicrwydd y bydd y risgiau a nodwyd yn yr achos busnes yn cael eu
rheoli yn dda ac na fydd gallu’r gwasanaeth i ymateb i argyfwng yn cael ei
effeithio ormod yn ystod y trosglwyddo.
Oherwydd amrywiaeth yr ardal ddaearyddol a’r risgiau sy’n gysylltiedig
ag ardaloedd penodol, fel diwydiant trwm a llifogydd (arfordirol a mewndirol),
gofynnodd y Cynghorydd Eryl Williams am sicrwydd ynglŷn â’r arbenigedd i
ymdrin â gwahanol anghenion mewn dwy ganolfan wahanol yn y strwythur newydd.
Nododd hefyd bod addasrwydd systemau TG yn rhan annatod o brosiectau ar y cyd. Cyfeiriodd y Cynghorydd Huw Jones at y
gwahanol bolisïau iaith Gymraeg mewn awdurdodau lleol a’r angen am gysondeb
gyda pholisi Sir Ddinbych o roi’r Gymraeg cyn y Saesneg. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Uchelgais
Economaidd a Chymunedol fel a ganlyn – ·
rhoddodd
wybod am liniaru’r risgiau a nodwyd yn yr achos busnes gan roi gwybod bod y
gwasanaeth eisoes wedi gweithio yn agos gydag awdurdodau lleol eraill yn y
rhanbarth ac y bydd y cam gweithredu, sy’n gymharol fyr, yn cael ei oruchwylio
gan grŵp swyddogion. Hefyd, y swyddogaethau craidd yw’r gwasanaethau
ystafell gefn i’r ymateb brys ac felly ni fydd y gallu i ymateb i ddigwyddiad
yn cael ei effeithio yn ystod y trosglwyddiad
·
roedd
y cynnig am wasanaeth rhanbarthol sengl, ac mae’r canolfannau Gorllewinol a
Dwyreiniol wedi’u canfod ar gyfer lleoli staff yn rhwydd yn y strwythur newydd;
bydd strategaethau a chynlluniau ar y cyd yn y rhanbarth i ymdrin â’r
amrywiaeth yn y chwe ardal. Hefyd, bydd
swyddog penodedig yn Sir Ddinbych i deilwra ymateb brys yr awdurdod, a ·
cydnabuwyd
pwysigrwydd systemau TG gan roi gwybod bod Sir Ddinbych a Sir y Fflint eisoes
yn rhannu system TG. Hefyd, trafododd y Cabinet faterion llywodraethu
ac er y nodwyd bod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau wedi archwilio’r
cynigion yn fanwl nodwyd angen i archwilio yn ystod y cyfnod trosglwyddo ac ar
ôl gweithredu. Cyfeiriodd y Prif
Weithredwr at y diffyg awydd gwleidyddol i sefydlu pwyllgorau archwilio
rhanbarthol a rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd wybod
ynglŷn â sefydlu pwyllgorau archwilio ar y cyd fel y cyfeiriwyd ato yn y
Mesur Llywodraeth Leol. Nodwyd bod briff
ar y Mesur wedi’i drefnu ar gyfer y cyfarfod Briffio Cyngor nesaf. PENDERFYNWYD y dylai’r Cabinet – (a) fabwysiadu’r cynllun busnes terfynol i sefydlu Gwasanaeth Rhanbarthol Cynllunio Rhag Argyfwng ar y sail a nodwyd ym mharagraff ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig) yn manylu’r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd mewn perthynas â’r strategaeth gyllidebol a
gytunwyd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD cydnabod y
gyllideb a’r targedau arbed ar gyfer y flwyddyn a’r cynnydd mewn perthynas â’r
strategaeth gyllidebol a gytunwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn y
strategaeth gyllidebol y cytunwyd arno. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y
Cyngor fel a ganlyn– ·
rhagwelir
tanwariant o £1.1m yn y cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol gyda’r rhagamcan
ar gyfer ysgolion yn symudiad cadarnhaol ar falansau o £306k ar gyllidebau
wedi’u dirprwyo a £161k ar gyllidebau heb eu dirprwyo ·
mae
£3.418m (99.3%) o’r arbedion y cytunwyd arnynt wedi’u cyflawni neu eu disodli
gyda £25k (0.7%) sy’n cael ei ohirio tan y flwyddyn nesaf ·
tynnwyd
sylw at amrywiadau allweddol o gyllidebau neu dargedau arbedion a manylion
cyllidebau gwasanaeth unigol, a ·
darparu’r
wybodaeth ddiweddaraf yn gyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw
Tai. Manteisiodd y Cabinet ar y cyfle i holi cwestiynau
i’r Cynghorydd Thompson-Hill a’r swyddogion a ymatebodd fel a ganlyn – ·
esboniodd
y costau ymateb uniongyrchol oedd yn gysylltiedig â’r llifogydd ym mis
Tachwedd, yn ogystal â’r costau parhaus ac yn y dyfodol o ran cefnogaeth
gwasanaethau cymdeithasol, tai ac eithriadau treth y cyngor ·
ymhelaethwyd
ar y tanwariant yn y Gwasanaethau Priffyrdd ac Isadeiledd a’r cynlluniau i
ariannu swydd dros dro i hwyluso trosglwyddo’r swyddogaeth rheoli harbwr a chyfleusterau
asedau arfordirol i’r Gwasanaethau Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden ·
rhoddwyd
yr wybodaeth ddiweddaraf am y bleidlais effeithlonrwydd gweithlu gan roi gwybod
bod aelodau undebau wedi gwrthod cynigion ond bod y presenoldeb wedi bod yn
isel iawn. Bydd yr undebau yn rhoi
gwybod beth yw eu sefyllfa yn dilyn trafodaethau gyda’u haelodau ar ganlyniad y
bleidlais, a ·
Rhoddodd
y Cynghorydd David Smith wybod am gynnydd gyda’r Adolygiad Fflyd yn y
Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylchedd gan roi gwybod efallai na fydd angen yr
arian a neilltuwyd. Llongyfarchodd yr Arweinydd y Penaethiaid
Gwasanaeth am reoli cyllideb heriol yn effeithiol, gan arwain at danwariant
mewn gwasanaethau. Rhoddodd y Cynghorydd Eryl Williams wybod y bydd y
Swyddogion Gwella Ysgolion, Tony Jones,
Ann Jones ac Eirwen Vogler yn gadael yr awdurdod ddiwedd mis Mawrth a mynegodd
ei werthfawrogiad iddynt am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i’r Gwasanaeth
Addysg. PENDERFYNWYD y dylid nodi’r gyllideb a’r targedau arbedion ar
gyfer y flwyddyn a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni. |
|
ARGYMHELLION GAN Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL PDF 99 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r Cabinet
gefnogi prosiectau a nodwyd fel rhai i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2013/14. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD
cefnogi’r prosiectau a fanylwyd yn Atodiad 1 i’r
adroddiad i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2013/14 a’u hargymell i’r Cyngor
Llawn. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer prosiectau a nodwyd ar
gyfer eu cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2013/14 fel yr argymhellir gan y
Grŵp Buddsoddi Strategol (SIG) ac y manylwyd arnynt yn Atodiad 1 yr
adroddiad. Arweiniodd y Cynghorydd Thompson-Hill yr aelodau trwy’r adroddiad ac
ymhelaethu ar yr arian sydd ar gael i ddyrannu gwaith cyfalaf i brosiectau
unigol a dyraniadau bloc ar gyfer rhaglenni gwaith parhaus yn ogystal â meini
prawf sgorio a ddefnyddiwyd i werthuso prosiectau. Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau am waith y SIG
wrth adolygu ceisiadau am ddyraniadau ynghyd â materion a gododd yn ystod y
broses geisiadau. Yn olaf, rhoddwyd
crynodeb o argymhellion y SIG yn ogystal â manylion pellach dyraniadau bwriedig
yr arian cyfalaf. Nododd y Cynghorydd Huw Jones y cynnig i leihau’r
gronfa wrth gefn yn y Cynllun Cyfalaf o £1m i £0.5m. Cyfeiriodd at gyfarfod diwethaf Ymddiriedolwyr
Pafiliwn Corwen a holodd am y ffynhonnell ariannol os bydd angen i’r Cyngor
dalu am y tir mewn Ymddiriedolaeth.
Rhoddodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau wybod y bydd y mater yn cael ei
asesu pan fydd canlyniad pendant a bod cronfeydd wrth gefn yn y cynllun cyfalaf
a’r balansau cyffredinol i ymdrin ag amgylchiadau o’r fath. Gofynnodd y Cynghorydd Eryl Williams am sicrwydd
ynglŷn â gwaith y SIG a chysondeb aelodaeth. Rhoddodd y Cynghorydd Thompson-Hill wybod nad
oes gan y SIG unrhyw bwerau ffurfiol ar gyfer gwneud penderfyniadau a bod angen
i’w hargymhellion fynd trwy’r broses aelodau arferol ar gyfer cael penderfyniad
ffurfiol. Cadarnhaodd bod aelodau yn
mynd i’r cyfarfod yn rheolaidd.
Ychwanegodd yr Arweinydd bod y SIG yn edrych mewn manylder ar brosiectau
cyfalaf a’i fod yn hyderus bod eu hargymhellion yn gadarn. PENDERFYNWYD y dylid cefnogi’r prosiectau a nodwyd yn Atodiad
1 yr adroddiad i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2013/14 a’u hargymell i’r
Cyngor llawn. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 137 KB Derbyn Blaenraglen Waith y Cabinet, sy’n amgaeëdig, a
chydnabod y cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD cydnabod
blaenraglen waith y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans Raglen Gwaith
i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried. Rhoddodd y Cynghorydd Eryl Williams wybod
am yr angen i aros am ganlyniad y CDLl cyn mabwysiadu’r Grŵp Llywio a
chytunwyd y dylid gohirio’r eitem honno tan gyfarfod mis Mai. Cytunwyd hefyd y dylid ychwanegu’r Adroddiad
Cyllid rheolaidd i gyfarfod mis Mehefin. PENDERFYNWYD
nodi Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet. |
|
GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD PENDERFYNWYD dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, y
dylid gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod tra bydd yr eitem ganlynol yn
cael ei thrafod, ar y sail ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn
cael ei datgelu fel y diffiniwyd ym Mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A, Deddf
Llywodraeth Leol 1972. |
|
CYNLLUN CYFALAF
Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig) yn
diweddaru’r aelodau ar elfen 2012/13 y Cynllun Cyfalaf a phrosiectau mawrion ac
yn gofyn am argymhelliad y Cabinet i gymeradwyo Cynllun Cyfalaf y dyfodol i’r
Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD cydnabod
sefyllfa ddiweddaraf elfen 2012/13 y Cynllun Cyfalaf a’r diweddariad ar
brosiectau mawrion ac argymhell cymeradwyaeth y Cynllun Cyfalaf i’r dyfodol i’r
Cyngor Llawn. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad cyfrinachol sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ar elfen
2012/13 y Cynllun Cyfalaf a phrosiectau mawr, a gofyn am gymeradwyaeth y
Cabinet i gymeradwyo’r Cynllun Cyfalaf i’r dyfodol i’r Cyngor llawn. Mae crynodeb o’r cynllun cyfan a sut y bydd
yn cael ei ariannu (Atodiad 1); manylion y gwir wariant a’r gwariant bwriedig
gan bob Pennaeth Gwasanaeth (Atodiad 2), a chrynodeb o ragamcan cost ariannu’r
Cynllun Corfforaethol (Atodiad 3) wedi’u hatodi i’r prif adroddiad. Arweiniodd y Cynghorydd Thompson-Hill yr aelodau
trwy’r adroddiad gan ymhelaethu ar y prosiectau mawr a’r cynnydd diweddaraf ac
ymatebodd i gwestiynau fel a ganlyn – ·
rhoddwyd
gwybod am y graddfeydd amser i symud Ysgol Bro Dyfrdwy i safle sengl a chyllid
perthnasol fel rhan o’r Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif ehangach ·
cyfeiriwyd
at y trafodaethau diweddaraf a chwblhau materion cyfreithiol yn ymwneud ag
adleoli Llyfrgell Prestatyn a rhoddwyd sicrwydd na fydd unrhyw gyfleusterau
llyfrgell yn cael eu colli am gyfnod sylweddol yn ystod y broses honno ·
cadarnhawyd
bod derbynebau cyfalaf fel arfer yn cael eu cyflawni ar lefel pris y farchnad
neu uwch, a ·
rhoddwyd
gwybod bod tua £1.9m wedi’i argymell ar gyfer gwaith cynnal cyfalaf ysgolion. Rhoddodd y Cynghorydd Eryl Williams wybod am y
meini prawf er mwyn cael arian Ysgolion 21ain Ganrif ac ymatebodd i gwestiwn
gan y Cynghorydd Arwel Roberts ynglŷn â chynnydd y datblygiad yn Ysgol
Glan Clwyd. Mewn perthynas â gwaith
cyfalaf esboniodd y broses o flaenoriaethu gwaith gwella ysgolion yn
gyffredinol ac yn dilyn adolygiad ysgolion er mwyn gwella safonau. PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa ddiweddaraf ar elfen 2012/13 y
Cynllun Cyfalaf a’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau mawr a chymeradwyo’r
Cynllun Cyfalaf i’r dyfodol i’r Cyngor Llawn. Daeth y cyfarfod
i ben am 11.25 a.m. |